Cyhoeddiadau
Sta/Medr/01/2025: Staff mewn sefydliadau addysg uwch: Awst 2023 i Orffennaf 2024
29 Jan 2025
Cyflwyniad
Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu gwybodaeth am staff a gyflogir mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru fel y’i casglwyd yng Nghofnod Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Cyhoeddwyd fersiynau blaenorol o’r gyfres hon gan Lywodraeth Cymru, ac fe’u gwelir ar wefan Llywodraeth Cymru.
Prif bwyntiau
- Yn gyffredinol, bu cynnydd o 4% yn nifer y staff ym mhrifysgolion Cymru, o 21,815 yn 2022/23 i 22,635 yn 2023/24.
- Roedd niferoedd y staff yn uwch yn 2023/24 nag yr oeddent yn 2022/23 ym Mhrifysgol Caerdydd (10%), Prifysgol Wrecsam (9%), Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (9%), Prifysgol Metropolitan Caerdydd (5%) a Phrifysgol De Cymru (4%).
- Roedd niferoedd y staff yn is yn 2023/24 nag yr oeddent yn 2022/23 ym Mhrifysgol Abertawe (1%), Prifysgol Aberystwyth (4%) a Phrifysgol Bangor (8%).
- Prifysgol Caerdydd oedd yn cyflogi’r nifer fwyaf o staff (7,760) ac yna Prifysgol Abertawe (3,825).
- Prifysgol Wrecsam oedd y brifysgol leiaf o ran niferoedd staff, gan gyflogi 585 o aelodau staff yn 2023/24.
- Mae staff wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng contractau academaidd ac anacademaidd ar draws y sector, gyda’r naill a’r llall i gyfrif am 50% o’r holl staff.
- Roedd 60% o gontractau academaidd yn llawnamser a 74% o gontractau anacademaidd yn llawnamser.
- O’r rhai ar gontractau anacademaidd roedd 5,130 (45%) mewn galwedigaethau proffesiynol neu dechnegol, roedd 3,745 (33%) mewn galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol, roedd 1,055 (9%) yn rheolwyr, cyfarwyddwyr neu uwch swyddogion a 735 (7%) mewn galwedigaethau elfennol. Daw’r diffiniadau ar gyfer y grwpiau galwedigaethol hyn o’r naw Prif Grŵp yn Nosbarthiad Galwedigaethol Safonol (SOC) 2020.
- Roedd 56% o staff ar draws y sector yn fenywod. Fodd bynnag, nid oedd staff benywaidd ond i gyfrif am 49% o gontractau academaidd. Roedd deuparth yr holl staff rhan-amser yn fenywod (65%).
- Dywedodd 9% o’r staff addysgu academaidd eu bod yn gallu addysgu drwy’r Gymraeg ac, o’r rheiny, roedd hi’n hysbys bod 46% ohonynt yn addysgu yn Gymraeg.
Cyfrifir niferoedd staff drwy ddefnyddio’r hyn sydd gyfwerth â pherson llawn ar 1 Rhagfyr yn y flwyddyn adrodd. Ni chaiff staff ar gontractau annodweddiadol eu cynnwys. Staff annodweddiadol yw’r aelodau hynny o staff y mae eu contractau’n cynnwys trefniadau gweithio nad ydynt yn barhaol, yn cynnwys perthnasoedd cyflogaeth cymhleth a/neu’n cynnwys gwaith i ffwrdd o oruchwyliaeth y darparwr gwaith arferol.
Data
Mae’r data ar gael ar StatsCymru a Data Agored HESA.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Mae’r ffigurau’n seiliedig ar Gofnod Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Ar gyfer sefydliadau Cymreig mae angen cyflwyno data cofnod staff ar gyfer yr holl staff academaidd, ac ar gyfer staff anacademaidd os nad yw’r contract yn annodweddiadol. Nid oes angen dychwelyd data ychwaith ar gyfer staff asiantaeth, staff hunangyflogedig, contractau anrhydeddus lle nad yw’r contract yn cael ei ystyried yn gontract cyflogaeth a staff nad ydynt yn cael eu cyflogi gan y SAU, ond gan gwmni sydd wedi’i gyfuno â chyfrifon y SAU.
Caiff cyfrifon staff annodweddiadol cyfwerth â pherson llawn (CPLl) eu cyfrifo ar sail gweithgareddau contract a oedd yn weithredol ar 1 Rhagfyr yn y cyfnod adrodd. Caiff cyfrifiadau CPLl staff annodweddiadol eu cyfrifo ar sail yr unigolion nad oes ganddynt ond contractau annodweddiadol nad oeddent yn weithredol yn ystod y cyfnod adrodd.
Ceir rhagor o wybodaeth am y diffiniadau a ddefnyddir yn www.hesa.ac.uk/support/definitions/staff.
Datganiad Cydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Caiff ein harferion ystadegol eu rheoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). Mae’r OSR yn gosod y safonau ar gyfer dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol gadw atynt.
Caiff ein holl ystadegau eu cynhyrchu a’u cyhoeddi yn unol â’n Datganiad Cydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a pholisïau ystadegol eraill.
Mae’r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Bydd cydymffurfiaeth ystadegwyr proffesiynol â’r Cod Ymarfer Ystadegau yn fodd i sicrhau hyn. Caiff dyddiadau rhyddhau eu cyhoeddi ymlaen llaw, a chedwir at brotocolau’n gysylltiedig â chyfrinachedd data.
Ansawdd
Daw’r data o Gofnod Staff HESA sy’n casglu data gan ddarparwyr addysg uwch ledled y DU. Pan gyflwynir y data, cânt eu gwirio yn erbyn rheolau ansawdd amrywiol, a chynhelir gwiriadau ansawdd pellach gan ddadansoddwyr sy’n cynhyrchu dadansoddiadau.
Gwerth
Mae’r ystadegau hyn yn rhoi gwybodaeth am y staff sy’n gweithio mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
Cyswllt
E-bost: [email protected]
Sta/Medr/01/2025: Staff mewn sefydliadau addysg uwch: Awst 2023 i Orffennaf 2024
Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/01/2025
Dyddiad: 29 Ionawr 2025
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y staff a gyflogir mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru fel y’i casglwyd yng nghasgliad data Cofnod Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.
Sta/Medr/01/2025 Staff mewn sefydliadau addysg uwch: Awst 2023 i Orffennaf 2024Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio