This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2026/19: Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch: dyraniadau 2026/27

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r dyraniadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 i ddarparwyr sy’n cael Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch.

Cyllid a gofynion 2026/27

2. Cyfanswm y buddsoddiad sydd ar gael i gefnogi gweithgarwch Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch rhwng 1 Awst 2026 a 31 Gorffennaf 2027 yw £2m.

3. Rhaid defnyddio’r buddsoddiad yn unol â chanllawiau cyfredol Medr, fel y nodir yn Medr/2025/09 Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26  2026/27 a dyraniadau 2025/26. Rhaid hefyd ei ddefnyddio i gyflawni’r blaenoriaethau a’r gweithgareddau a amlinellir yng nghynlluniau cyflawni cymeradwy darparwyr ar gyfer y cyfnod o 2025/26 i 2026/27.

4. Gall darparwyr gynnig newidiadau i’w cynlluniau cyflawni cymeradwy drwy Adroddiad Diwedd Blwyddyn 2025/26, a disgwylir iddynt ymgysylltu â Medr yn gynnar i drafod unrhyw newidiadau arfaethedig ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.

Dyraniadau 2026/27

5. Nodir dyraniadau darparwyr ar gyfer 2026/27 yn y tabl isod. Cawsant eu cyfrifo gan ddefnyddio’r data HESA diweddaraf sydd wedi’u gwirio ar gyfer 2024/25 a chan ddefnyddio’r fethodoleg gyllido a nodir ym mharagraffau 37-41 Medr/2025/09 Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26.

DarparwrCyfanswm y cyllid (£)
Prifysgol De Cymru312,316
Prifysgol Aberystwyth166,565
Prifysgol Bangor152,212
Prifysgol Caerdydd330,000
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant137,207
Prifysgol Abertawe330,000
Prifysgol Metropolitan Caerdydd253,599
Prifysgol Wrecsam100,000
Y Brifysgol Agored yng Nghymru178,101
Grŵp Llandrillo Menai25,000
Grŵp NPTC5,000
Coleg Gŵyr Abertawe5,000
Coleg Cambria5,000
Cyfanswm2,000,000

6. Mae Medr/2026/05: Dyraniadau cyllid addysgu addysg uwch craidd ar gyfer Coleg Cambria 2025/26 yn cadarnhau bod Coleg Cambria yn gymwys i gael buddsoddiad gan Medr ar gyfer ei ddarpariaeth addysg uwch o flwyddyn academaidd 2025/26 ymlaen, ar ôl i’w Gynllun Ffioedd a Mynediad ar gyfer 2025/26–2026/27 gael ei gymeradwyo. Ers hynny, mae trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda Choleg Cambria ynglŷn ag ymestyn buddsoddiad mewn Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch er mwyn cefnogi myfyrwyr addysg uwch Coleg Cambria a ariennir yn uniongyrchol gan Medr. O ganlyniad i hynny, a chan ystyried data myfyrwyr cymwys Coleg Cambria, cytunwyd y bydd Coleg Cambria yn cael buddsoddiad o 2026/27 ymlaen yn unol â’r un egwyddorion cyllido â Grŵp NPTC a Choleg Gŵyr Abertawe. Bydd y buddsoddiad hwn yn amodol ar gyflwyno cynllun cyflawni boddhaol ar gyfer 2026/27 a chydymffurfio â phrosesau monitro parhaus Medr, yn unol â’r trefniadau a nodir yn Medr/2025/09 Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26.

Trefniadau monitro a thalu 2026/27

7. Byddwn yn talu 60% o ddyraniad darparwr i sefydliadau addysg uwch a Grŵp Llandrillo Menai ar ôl i’w hadroddiadau monitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2025/26 a’u proffiliau gwariant ar gyfer 2026/27 gael eu cymeradwyo. Caiff y 40% o’r dyraniad sy’n weddill ei ryddhau ym mis Ebrill 2027 yn amodol ar waith monitro interim boddhaol ar gyfer 2026/27, ac ar yr amod bod darparwr wedi ymrwymo o leiaf 75% o’r taliad cychwynnol.

8. Caiff y dyraniadau ar gyfer Grŵp NPTC a Choleg Gŵyr Abertawe eu talu’n llawn ar ôl i’w hadroddiadau monitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2025/26 gael eu cymeradwyo. Caiff y dyraniad ar gyfer Coleg Cambria ei dalu’n llawn ym mis Medi 2026, yn amodol ar gymeradwyo cynllun cyflawni boddhaol ar gyfer 2026/27.

9. Bydd taliadau’n gyfan gwbl amodol ar gadarnhad bod y corff llywodraethu wedi derbyn amodau cyffredinol Medr ar gyfer talu cyllid grant, a’i fod yn cydymffurfio â nhw yn barhaus. Nodir yr amodau hyn yn Nhelerau ac Amodau Grant 2026/27: Sefydliadau Addysg Uwch, a gaiff eu cyhoeddi ar wefan Medr cyn dechrau blwyddyn academaidd 2026/27.

10. Ym mis Chwefror 2027, bydd angen cyflwyno adroddiad monitro interim sy’n nodi gweithgarwch hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2026, gan gynnwys nifer yr unigolion a gefnogwyd (wedi’i rannu yn ôl myfyrwyr, myfyrwyr breiniol a graddedigion), yn ogystal â data demograffig arnynt. Yn ychwanegol at hynny, bydd angen i ni gael data ar nifer yr unigolion a gymerodd ran mewn profiadau cysylltiedig â gwaith a nifer yr unigolion a gefnogwyd sydd o’r farn bod eu cyflogadwyedd wedi gwella i’r graddau nad ydynt yn cael cymorth cyflogadwyedd uwch mwyach. Darparwyr fydd yn gyfrifol am sicrhau y caiff yr holl wybodaeth a data gofynnol eu cynnwys yn yr adroddiad, fel bod sail gadarn ar gyfer asesu effaith y cyllid a deilliannau’r myfyrwyr.

11. Ym mis Medi 2027, bydd angen cyflwyno Adroddiad Diwedd Blwyddyn sy’n cynnwys gwybodaeth wedi’i diweddaru am weithgarwch, data ac effaith ein buddsoddiad hyd at 31 Gorffennaf 2027. Bydd yn ofynnol i ddarparwyr gadarnhau’r gwariant gwirioneddol yn 2026/27. Cadwn yr hawl i adhawlio unrhyw gyllid na fydd wedi cael ei wario (h.y. ei dalu allan) erbyn 31 Gorffennaf 2027. Bydd nifer o astudiaethau achos yn ofynnol, a hynny’n gymesur â lefel y buddsoddiad. Bydd angen i’r astudiaethau achos fod yn addas i’w cyhoeddi.

12. Byddwn yn darparu templedi ar gyfer yr Adroddiad Monitro Interim, yr Adroddiad Diwedd Blwyddyn a’r astudiaethau achos mewn gohebiaeth ar wahân.

Ymgysylltu â Medr

13.Yn ychwanegol at ofynion monitro ac adrodd ffurfiol, bydd Medr yn ceisio ategu ffurflenni monitro â deialog barhaus â darparwyr er mwyn cefnogi dealltwriaeth gyffredin o gyflawni, cynnydd, a materion a ddaw i’r amlwg. Byddwn yn parhau i fod yn agored i ymgysylltu mewn modd adeiladol a chymesur drwy gydol y flwyddyn academaidd, gan gydnabod gwerth trafod er mwyn helpu i gyflawni’n effeithiol, rheoli risg, a mynd i’r afael â materion wrth iddynt godi. Bwriedir i’r dull hwn ategu prosesau monitro ffurfiol, yn hytrach na’u disodli, a helpu i wella’n barhaus a defnyddio ein buddsoddiad yn effeithiol.

14. Bydd yn ofynnol i ddarparwyr sydd am wneud newidiadau yn ystod y flwyddyn i’w cynlluniau cyflawni ar gyfer 2026/27, neu amrywiadau sylweddol i’r proffil gwariant cymeradwy ar gyfer 2026/27, ymgysylltu â Medr yn y lle cyntaf.

Amserlen

15. Cyflwynir yr amserlen ar gyfer yr adroddiadau a’r taliadau yn y tabl isod.

DisgrifiadDyddiad
Terfyn amser ar gyfer cyflwyno Adroddiad Diwedd Blwyddyn ac Astudiaeth Achos 2025/26 (pob darparwr addysg uwch) 18 Medi 2026
Dyraniad 2026/27: Coleg Cambria100% yn daladwy ym mis Medi 2026, yn amodol ar gymeradwyo Cynllun Cyflawni
Dyraniad 2026/27: Rhandaliad CyntafSefydliadau addysg uwch a Grŵp Llandrillo Menai: 60% yn daladwy pan gaiff Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn 2025/26 ei gymeradwyo
 
Coleg Gŵyr Abertawe a Grŵp NPTC: 100% yn daladwy pan gaiff Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn 2025/26 ei gymeradwyo 
Terfyn amser ar gyfer cyflwyno Adroddiad Monitro Interim 2026/27 (sefydliadau addysg uwch a Grŵp Llandrillo Menai)12 Chwefror 2027
Dyraniad 2026/27: Rhandaliad OlafSefydliadau addysg uwch a Grŵp Llandrillo Menai:
40% yn daladwy ym mis Ebrill 2027, yn amodol ar gymeradwyo Adroddiad Monitro Interim 2026/27
Terfyn amser ar gyfer cyflwyno Adroddiad Diwedd Blwyddyn (pob darparwr addysg uwch)17 Medi 2027

Rhagor o wybodaeth

16. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn at Rachel O’Gorman ([email protected]).

Asesu effaith ein polisïau

17. Gwnaethom gynnal asesiad effaith er mwyn helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb ar Medr/2025/09 Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26, a oedd yn cwmpasu cyfnod y cynlluniau cyflawni dwy flynedd a dyraniadau 2025/26 ar gyfer cyllid Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch. Wrth ddrafftio’r cyhoeddiad hwn, rydym wedi adolygu’r asesiad effaith hwn ac rydym yn parhau i ragweld effaith gadarnhaol ar hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd a chred. Gwnaethom hefyd ystyried effaith y polisi hwn ar y Gymraeg, darpariaeth Gymraeg yn y sector addysg uwch yng Nghymru, nodweddion economaidd-gymdeithasol ac effeithiau posibl ar y gallu i gyflawni’r nodau sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Medr/2026/19: Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch: dyraniadau 2026/27

Dyddiad:  14 Mai 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/19

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Prifathrawon sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a ariennir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer darpariaeth addysg uwch

Ymateb erbyn:  18 Medi 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r dyraniadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 i ddarparwyr sy’n cael Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch.

Medr/2026/19 Cymorth Cyflogadwyedd wedi'i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch: dyraniadau 2026/27

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio