Newyddion
Aelodau Pwyllgor – Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi
05 Mar 2025
Dyddiad cau: Dydd Gwener 4 Ebrill 2025
Mae ein Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi yn cynghori ein Bwrdd ar faterion sy’n ymwneud ag ymchwil ac arloesi, gan gynnwys goruchwylio datblygiad polisi, a chyllid i gefnogi’r gweithgareddau hyn.
Rydym yn chwilio am dri aelod annibynnol sydd â phrofiad o ymchwil ac arloesi.
Yn ddelfrydol bydd gennych brofiad/cefndir mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:
Prif Ymchwilydd
- Profiad o fod yn gyfrifol am gyflawni ymchwil annibynnol ac/neu arloesi mewn cyd-destun academaidd.
- Proffil rhyngwladol a mynediad at ystod o rwydweithiau disgyblaethol ar draws Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Cynrychiolydd Diwydiant
- Profiadau mewn rôl ymchwil ac/neu arloesi, mewn cyd-destun diwydiannol neu fusnes.
- Profiad o gynlluniau cydweithredol ag ymchwilwyr prifysgol, o adeiladu ymchwil ym mhroffil eich sefydliad ac/neu o gyfrannu at y tirlun arloesi yn eich maes.
Aelod o staff sy’n galluogi ymchwil
- Profiad o gefnogi datblygiad a gweithrediadau sy’n gysylltiedig ag ymchwil ac/neu arloesi yng nghyd-destun addysg drydyddol.
- Profiad o weithredu prosiectau a rhaglenni mawr a ariennir yn allanol, fel canolfannau ar gyfer hyfforddiant doethurol, rhaglenni ymchwil mawr ac/neu rwydweithiau a ariennir, a chefnogi mentrau ac ymyriadau ymchwil strategol a ariennir yn fewnol yn eich sefydliad.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio