This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Newyddion

Ymateb Medr ar ddatganiad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio addysg uwch a chyllid ychwanegol

Yn ei sylwadau ar ddatganiad y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ar ddiwygio addysg uwch a chyllid ychwanegol ar gyfer y sector yng Nghymru, dywedodd Simon Pirotte, Prif Weithredwr Medr:

“Mae prifysgolion ar draws y DU yn wynebu cyfnod ariannol eithriadol o heriol. Nid yw’r sefyllfa’n wahanol yng Nghymru.

“Rydym yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw am fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol er mwyn helpu ein prifysgolion i fynd i’r afael â heriau allweddol fel cynnal a chadw ystadau, cynaliadwyedd amgylcheddol a thrawsnewid digidol. Bydd hefyd yn helpu i ddarparu cyfleusterau i alluogi profiad o ansawdd uchel i fyfyrwyr ac ymchwil sy’n flaenllaw yn y byd. Bydd Medr yn cadarnhau sut rydym yn bwriadu dyrannu’r buddsoddiad hwn ar draws prifysgolion Cymru yn yr wythnosau nesaf.

“Mae ein blaenoriaethau yn cynnwys gwarchod buddiannau dysgwyr a sicrhau bod y system addysg drydyddol yn bodloni anghenion Cymru nawr ac yn y dyfodol. Er mwyn ein helpu i gyflawni’r blaenoriaethau hyn, bydd Medr hefyd yn gweithio gyda darparwyr a rhanddeiliaid i ddatblygu trosolwg o’r galw am bynciau, ac o ddarpariaeth a dosbarthiad pynciau mewn addysg uwch ledled Cymru.

“Byddwn yn parhau i ymgysylltu’n agos â holl brifysgolion Cymru i ddeall eu safbwyntiau unigol a’r cynlluniau y maent yn eu rhoi ar waith i sicrhau eu cynaliadwyedd ariannol hirdymor ac ansawdd eu harlwy i fyfyrwyr.”

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio