Cyhoeddiadau
Medr/2026/21: Cyfarwyddyd cyfrifon i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer 2025/26
03 Jun 2026
Cyflwyniad
1. Diben y cyfarwyddyd cyfrifon hwn yw hysbysu sefydliadau am ofynion Medr ynghylch fformat eu datganiadau ariannol archwiliedig ar gyfer y flwyddyn 2025/26.
2. Mae sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn dal i fod yn ddarostyngedig i fframwaith cod rheoli ariannol (CRhA) CCAUC (Cylchlythyr CCAUC W17/16HE) nes i fframwaith rheoleiddio Medr ei hun ddod i rym ar 1 Awst 2026.
Newidiadau o gyfarwyddyd cyfrifon 2024/25
3. Cyflwynwyd y diwygiadau canlynol i’r dogfen hon ers y fersiwn derfynol ar gyfer 2024/25:
a) Mân newidiadau i’r naratif / teipograffeg a diweddaru dolenni’r rhyngrwyd.
Cyfarwyddyd cyfrifon ar gyfer 2025/26
4. Mae’n ofynnol i sefydliadau addysg uwch ddilyn y Datganiad o’r Arfer a Argymhellir: Cyfrifyddu ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch 2019 (FEHE SORP), neu unrhyw ddogfennau sy’n olynu’r SORP, wrth lunio’u datganiadau ariannol. Gellir cael hyd i ddolenni i’r FEHE SORP a chanllawiau ar weithredu rhai meysydd yn yr adran SORP ar wefan Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Prifysgolion Prydain (BUFDG). Os oes unrhyw anghysondebau rhwng gofynion y FEHE SORP a’r cyfarwyddyd cyfrifon hwn, y cyfarwyddyd cyfrifon hwn fydd yn drech.
5. Fel y nodwyd yn y SORP, rhaid i sefydliadau gymhwyso’r holl ofynion o dan FRS 102: y Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).
6. Yn achos sefydliad sydd hefyd yn gwmni cyfyngedig drwy warant, mae’r cyfarwyddyd hwn yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Cwmnïau 2006.
7. Bydd y datganiadau ariannol yn cael eu llofnodi gan y Swyddog Atebol a chan y Cadeirydd neu un aelod arall o’r corff llywodraethu a benodir gan y corff hwnnw.
8. Dylai sefydliadau nodi y dylid dilyn fformatau’r prif ddatganiadau cyfrifyddu (datganiad cyfunol o incwm a gwariant cynhwysfawr, datganiad cyfunol o newidiadau mewn cronfeydd wrth gefn, mantolen, a datganiad llif arian cyfunol). Dylai’r datganiadau ariannol ddilyn datganiadau ariannol enghreifftiol diweddaraf BUFDG lle bo modd, i hyrwyddo cysondeb o ran ymdriniaeth o fewn y sector, gan roi sylw digonol i amrywiaeth sefydliadau, a’r angen am eglurder wrth gyflwyno’r wybodaeth i ddefnyddwyr. Gellir cael hyd i’r model yn adran SORP ar wefan BUFDG.
9. Wrth i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) symud i ddarparu data agored, mae defnyddwyr trydydd parti yn gynyddol yn echdynnu data am sefydliadau a’r sector o’r ffynhonnell hon er mwyn cymharu a gwneud sylwadau yn hytrach nag o’r datganiadau ariannol cyhoeddedig. Byddem felly’n disgwyl i Sefydliadau roi sylw digonol i ddiffiniadau a chanllawiau HESA wrth gategoreiddio o fewn y datganiadau ariannol, er mwyn sicrhau bod y datganiadau ariannol, fel y cawsant eu cymeradwyo gan y corff llywodraethu, yn cyd-fynd â’r cofnod cyllid a gyflwynwyd i HESA wedi hynny..
10. Mae cysondeb rhwng cofnod cyllid HESA a datganiadau ariannol cyhoeddedig yn hyrwyddo cymhariaeth well rhwng sefydliadau a chysondeb y data a ddefnyddir i ddadansoddi sectorau’r DU.
11. Dylai’r nodiadau i’r cyfrifon gynnwys dadansoddiadau o incwm a gwariant ac eitemau ar y fantolen sy’n gyson ag arfer cyfrifyddu da cydnabyddedig, a dylent fod yn ddigon manwl fel bod defnyddwyr yn gallu cael dealltwriaeth glir o berfformiad ariannol y sefydliad.
12. Os yw’r cyfrifon yn cynnwys eitemau incwm neu wariant sylweddol nad ydynt yn debygol o ddigwydd eto ac/neu nad ydynt yn adlewyrchu’r perfformiad ariannol sylfaenol, dylid rhoi esboniad am hynny.
13. Dylai’r datganiadau ariannol gydymffurfio ymhellach ag unrhyw ofynion perthnasol yn Neddf Elusennau 2011 i’r graddau y mae’r Ddeddf honno’n berthnasol i sefydliad.
14. Dylai sefydliadau hefyd:
a) Sicrhau bod contractau ar gyfer archwilio allanol yn nodi bod yn rhaid i’r archwilydd allanol gynnwys adroddiad i’r corff llywodraethu yn y datganiadau ariannol ynghylch a yw’r canlynol yn wir, ym mhob ffordd berthnasol:
i.) bod y datganiadau ariannol yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y sefydliad addysg uwch, ac o’i incwm a’i wariant, ei enillion a’i golledion, newidiadau i’w gronfeydd wrth gefn a’i lifoedd arian am y flwyddyn. Dylent roi ystyriaeth i ofynion statudol perthnasol, ac i ofynion datgelu a chyfrifyddu gorfodol eraill, ac i ofynion Medr;
ii.) bod y datganiadau ariannol wedi’u paratoi’n briodol yn unol ag Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y DU, sef y safon adrodd ariannol (FRS102), y datganiad o’r arfer a argymhellir: cyfrifyddu ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch (FEHE SORP), a deddfwriaeth berthnasol;
iii.) bod arian o ba bynnag ffynhonnell a weinyddir gan y sefydliad addysg uwch i ddibenion penodol wedi’i gymhwyso’n briodol i’r dibenion hynny a’i reoli yn unol â deddfwriaeth berthnasol;
iv.) bod y sefydliad wedi defnyddio incwm, lle bo’n briodol, yn unol â pharagraff 145 y Cod Rheoli Ariannol (CRhA) (HEFCW W17/16HE) ac a yw grantiau Cynghorau Cyllido (gan gynnwys grantiau gan Medr) wedi’u cymhwyso’n unol â’r telerau ac amodau cysylltiedig, a’u defnyddio i’r dibenion y’u derbyniwyd ar eu cyfer, gan gynnwys y Telerau ac Amodau Cyllido; a
v.) bod gofynion cyfarwyddyd cyfrifon Medr wedi’u bodloni.
b) Darparu dadansoddiad a datgeliad manwl o fewn y datganiadau ariannol o ffioedd archwilio a ffioedd eraill a delir i archwilwyr allanol, yn unol ag Offeryn Statudol SI 2008 Rhif 489– Rheoliadau Cwmnïau (Datgelu Tâl Archwilwyr a Chytundebau Cyfyngu Atebolrwydd) 2008 a’r Diwygiadau i’r Rheoliadau hyn sydd wedi’u cynnwys yn Offeryn Statudol OS 2011 Rhif 2198. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer y sefydliadau hynny y mae cyfraith cwmnïau yn berthnasol iddynt. Gellir gweld yr Offeryn Statudol ar Wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (www.legislation.gov.uk).
c) Yn eu hadroddiadau neu eu llythyrau at reolwyr, dylai archwilwyr roi sylw digonol i ofynion penodol Medr, fel cydymffurfio â chodiadau i drothwyon ymrwymiadau ariannol, neu agweddau eraill ar ddiffyg cydymffurfio.
Dyddiad cyflwyno datganiadau ariannol archwiliedig i Medr
| Dyddiad cau | |
|---|---|
| Datganiadau ariannol archwiliedig | 30 Tachwedd 2026 |
| Cyhoeddi ar y wefan | 31 Ionawr 2027 |
| Datganiadau ariannol is-gyrff archwiliedig | 31 Rhagfyr 2026 |
Medr/2026/21: Cyfarwyddyd cyfrifon i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer 2025/26
Dyddiad: 03 Mehefin 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/21
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Brif swyddogion cyllid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru
Ymateb erbyn: 30 Tachwedd 2026 [is-gyrff perthnasol 31 Rhagfyr 2026]
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu gwybodaeth am ofynion Medr ynghylch fformat datganiadau ariannol archwiliedig sefydliadau addysg uwch Cymru.
Medr/2026/21 Cyfarwyddyd cyfrifon i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer 2025/26Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio