Adeiladu dyfodol cyflogadwyedd Cymru gyda’n gilydd

Pan ddaeth cydweithwyr o ddarparwyr ledled Cymru at ei gilydd am y tro cyntaf yng Nghymuned Ymarfer Cyflogadwyedd Cymru, roedd ganddynt uchelgais ar y cyd: sef gwella cyflogadwyedd eu dysgwyr a’u paratoi’n well ar gyfer byd gwaith sy’n dod yn fwyfwy cymhleth ac yn newid yn gyflym.

Yn aml, mae’r sawl sy’n gweithio i gefnogi cyflogadwyedd dysgwyr yn wynebu cwestiynau tebyg:

  • Sut gellir gwreiddio cyflogadwyedd yn fwy effeithiol o fewn y cwricwlwm?
  • Sut gall dysgwyr fynegi eu sgiliau yn fwy hyderus wrth drafod gyda chyflogwyr?
  • Sut gall darparwyr a chyflogwyr gryfhau partneriaethau er mwyn gwella deilliannau dysgwyr a diwallu anghenion o ran gweithlu yn well?
  • Sut gall darparwyr gefnogi mynediad teg at gyfleoedd gyrfa?
  • Sut dylai cyflogadwyedd esblygu i adlewyrchu cynaliadwyedd a chyfrifoldeb cymdeithasol?

Sefydlwyd y Gymuned gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i gefnogi cydweithio ac arloesi ym maes cyflogadwyedd graddedigion, ac mae wedi esblygu ochr yn ochr â newidiadau yn nhirwedd addysg drydyddol Cymru. Ers creu Medr a’n gweledigaeth ar gyfer system drydyddol sy’n fwy cysylltiedig a chydweithredol, mae ei haelodaeth wedi ehangu i gynnwys ymarferwyr, academyddion, gweithwyr proffesiynol ym maes gyrfaoedd, a chydweithwyr mewn gwasanaethau proffesiynol ym maes cyflogadwyedd o brifysgolion a cholegau ledled Cymru, gan greu llwyfan ar y cyd ar gyfer dysgu, arloesi a gweithredu.

Mae’r aelodaeth ehangach hon yn cefnogi’r uchelgeisiau a nodir yn ein Cynllun Strategol 2025 – 2030 ar gyfer system fwy hyblyg a chydgysylltiedig sy’n rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiadau sydd eu hangen ar ddysgwyr i ffynnu mewn economi a chymdeithas sy’n newid. Unwyd yr aelodau gan nod cyffredin o wella deilliannau dysgwyr, ac maent yn gweithio ar draws ffiniau sefydliadol ac o fewn y sector i gryfhau darpariaeth o ran cyflogadwyedd, menter ac entrepreneuriaeth, ac i wella cyfleoedd i ddysgwyr drwy gydol eu taith ddysgu.

Caiff y Gymuned ei hariannu gan Medr a’i chydlynu gan Advance HE, ac mae wedi dod yn blatfform unigryw dan arweiniad y sector ar lefel Cymru gyfan ar gyfer cydweithio ym maes cyflogadwyedd. Wrth feithrin cyfnewid arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, mae’n galluogi aelodau i fynd i’r afael ar y cyd â heriau cyffredin, a datblygu datrysiadau sy’n rhagweld ac yn ymateb i anghenion sy’n dod i’r amlwg yn y sector.

O drafodaethau i weithredu ar y cyd

Ar adeg pan mae byd gwaith yn cael ei ail-lunio gan ddatblygiadau technolegol, blaenoriaethau cynaliadwyedd, prinder sgiliau, a disgwyliadau sy’n esblygu ymhlith cyflogwyr, mae’r Gymuned yn dangos gwerth cydweithio ymarferol. Wrth rannu arbenigedd, meithrin cysylltiadau a datblygu dull cenedlaethol mwy cydlynol o ymdrin â chyflogadwyedd, mae aelodau yn cryfhau arferion ledled Cymru. Wrth wneud hynny, maent yn creu cyfleoedd mwy ystyrlon ac effeithiol i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau, y profiadau a’r hyder sydd eu hangen i lwyddo mewn marchnad lafur sy’n newid yn gyflym.

Trwy symposia, gweithdai, grwpiau gorchwyl a gorffen, a gweithgareddau dysgu gan gymheiriaid, mae aelodau wedi gallu trafod y llwyddiannau a’r heriau yn agored er mwyn datblygu datrysiadau sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth. Boed wrth drafod dylunio cwricwlwm, ymgysylltu â chyflogwyr, cynaliadwyedd, neu ddatblygu sgiliau, mae gan aelodau gyfle i ddysgu o brofiadau ei gilydd ac addasu dulliau llwyddiannus o fewn eu sefydliadau eu hunain.

“Wrth ddod â chydweithwyr academaidd a phroffesiynol ynghyd o bob rhan o’r sector yng Nghymru, mae’r Gymuned wedi helpu i feithrin perthnasoedd gwaith cryfach, dyfnhau dealltwriaeth ar y cyd, a datblygu arbenigedd ar y cyd. Mae’r cysylltiadau hyn eisoes yn cefnogi dulliau mwy cydgysylltiedig o ymdrin â chyflogadwyedd, a byddant yn parhau i fod o fudd i’r sector y tu hwnt i gwmpas uniongyrchol gwaith eleni.”

Cyd-gadeiryddion (2025/26) yr Athro Fay Short, Dirprwy Is-ganghellor Cyswllt dros Gyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor, a Bev Herring, Pennaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae’r Gymuned yn dangos grym un syniad syml: mae cydweithio yn arwain at ddeilliannau gwell na gweithio’n unigol.

Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos sut mae cydweithio yn cael ei droi’n gamau gweithredu ymarferol sydd â manteision amlwg i ddysgwyr ledled Cymru.

Beth os nad diffyg sgiliau yw un o’r rhwystrau mwyaf rhag cyflogadwyedd, ond diffyg dealltwriaeth ar y cyd?

Bu prosiect ymchwil gan y Gymuned Ymarfer, o’r enw Ydyn ni’n siarad yr un iaith?, yn archwilio’r bwlch yn y ffordd y mae cyflogwyr, darparwyr addysg, a dysgwyr yn siarad am sgiliau, profiad a pharodrwydd ar gyfer y gweithle. Dangosodd y canfyddiadau fod dysgwyr yn aml yn cael trafferth adnabod a mynegi’r galluoedd y maent wedi’u datblygu, a bod cyflogwyr ac addysgwyr yn defnyddio iaith wahanol i ddisgrifio’r un priodoleddau.

Trwy ddod â safbwyntiau ynghyd o bob rhan o’r sector trydyddol, mae’r prosiect yn helpu i bontio’r bwlch hwnnw. Mae’r mewnwelediadau a’r adnoddau sy’n deillio o hyn yn cefnogi darparwyr i greu rhagor o gyfleoedd i ddysgwyr gael profiad gwirioneddol o ddisgwyliadau a sgiliau yn y gweithle, a’u helpu i fynegi eu profiadau mewn iaith sy’n ystyrlon i gyflogwyr.

Mae’r prosiect hwn yn mynd y tu hwnt i ymchwil; mae’n enghraifft ymarferol o’r ffordd y mae’r Gymuned Ymarfer yn helpu Cymru i adeiladu ecosystem cyflogadwyedd sy’n fwy cysylltiedig, lle mae gan ddysgwyr, darparwyr a chyflogwyr ddealltwriaeth ar y cyd o’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn llwyddo.

“Mae’r bwlch sylweddol rhwng iaith eglur ac ymhlyg mewn disgrifiadau swydd yn golygu y gall graddedigion dawnus fod yn colli cyfleoedd oherwydd na allant ddehongli’r hyn y mae cyflogwyr yn gofyn amdano, mewn gwirionedd. Nid yn unig y mae hyn yn effeithio ar yrfaoedd unigolion, mae hefyd yn effeithio ar effeithiolrwydd prosesau recriwtio graddedigion ym mhob sector.”

Stuart Norton, Pennaeth Rhagoriaeth Addysgol gydag Advance HE

Wrth i gyflogwyr chwilio’n gynyddol am raddedigion sy’n gallu helpu i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, mae Cymuned Ymarfer Cymru wedi bod yn archwilio sut y gall cyflogadwyedd esblygu i fodloni’r disgwyliadau hyn.

Daeth darparwyr o bob cwr o Gymru ynghyd i archwilio sut y gall yr egwyddorion cynaliadwyedd sy’n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, ac sy’n cynnwys meddwl hirdymor, atal, cydweithio, cyfranogaeth a gwneud penderfyniadau integredig, gael eu gwreiddio mewn gweithgareddau datblygu gyrfaoedd a phrofiadau dysgu. Arweiniodd y gwaith cydweithredol hwn at brosiect Cymru gyfan, Ymgorffori cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy mewn addysg drydyddol: arfer gorau, sydd wedi casglu a dadansoddi 49 enghraifft o arferion o bob rhan o’r sector. Yn ogystal, lluniwyd pecyn cymorth i helpu sefydliadau addysg uwch i wreiddio cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy yn eu haddysgu, eu darpariaeth ar gyfer gyrfaoedd, a’u harferion sefydliadol.

Mae’r enghreifftiau’n arddangos ystod nodedig o eang o weithgareddau, gan gynnwys:

  • Mentrau cwricwlwm sy’n gysylltiedig â heriau cynaliadwyedd.
  • Partneriaethau â chyflogwyr sy’n canolbwyntio ar effaith gymdeithasol.
  • Prosiectau myfyrwyr sy’n gysylltiedig â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
  • Gweithgareddau sy’n alinio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
  • Rhaglenni gwirfoddoli, menter ac arweinyddiaeth sy’n annog dinasyddiaeth gyfrifol.

Gyda’i gilydd, mae’r enghreifftiau hyn yn dangos sut y gall cyflogadwyedd ymestyn y tu hwnt i baratoi dysgwyr ar gyfer gwaith, gan eu paratoi, hefyd, i wneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas a’r sefydliadau y maent yn ymuno â nhw. Roedd y prosiect yn pwysleisio ffyrdd ymarferol o ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau, y gwerthoedd a’r ymddygiadau sydd eu hangen ar gyfer byd sy’n gynyddol gymhleth ac yn newid yn gyflym.

Yn bwysig, mae’r canfyddiadau’n darparu sylfaen dystiolaeth werthfawr ar gyfer y sector, gan ddangos sut y gellir integreiddio cynaliadwyedd, cyfrifoldeb cymdeithasol, a chyflogadwyedd yn ystyrlon wrth ddylunio cwricwlwm, ymgysylltu â chyflogwyr, cynnal gweithgarwch menter, a dysgu yn y gymuned. Bellach, mae’r canfyddiadau hyn yn llywio datblygiad adnoddau ac offer ymarferol a fydd yn helpu darparwyr i gryfhau eu dulliau eu hunain a gwreiddio cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy yn fwy cyson ar draws addysg drydyddol yng Nghymru.

“Mae’r angerdd, yr ymroddiad a’r gwaith arloesol gan ymarferwyr ym maes cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy yn cael effaith gadarnhaol ar fyfyrwyr, staff a rhanddeiliaid ehangach, a byddant yn parhau i wneud hynny”.

Y tîm prosiect cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy

Mae’r Coleg Merthyr Tudful yn cynnal cynllun peilot ar brosiect cyflogadwyedd arloesol sy’n arfogi dysgwyr â sgiliau y mae galw mawr amdanynt ym meysydd deallusrwydd artiffisial (AI), cyfrifiadura cwmwl, a data, drwy gyfres o gymwysterau digidol byr a gydnabyddir gan ddiwydiant, sy’n galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau penodol a sgiliau technegol ar gyfer y gweithle, a dangos tystiolaeth o’r sgiliau hyn.

Cyflwynir y fenter mewn partneriaeth â’r National Institute of Learning & Certification (NILC), FinTech Cymru a’r Coleg Nyrsio Brenhinol, ac mae’n cysylltu dysgwyr sy’n anelu at yrfaoedd mewn technoleg a gofal iechyd â’r sgiliau a’r anghenion datblygol o ran gweithlu sy’n cael eu gyrru gan AI ac arloesedd digidol.

Trwy gyfrwng y rhaglen hon, mae dysgwyr yn datblygu sgiliau a luniwyd yn dilyn mewnbwn gan gyflogwyr, ac sydd wedi’u halinio ag anghenion sy’n esblygu o ran gweithlu. Ar ôl cwblhau, maent yn derbyn bathodynnau digidol y gellir eu harddangos ar CVs a llwyfannau rhwydweithio proffesiynol fel LinkedIn, gan eu helpu i ddangos tystiolaeth o’u sgiliau i ddarpar gyflogwyr a darparwyr addysg. Wrth greu llwybrau newydd i brentisiaethau, addysg uwch a sectorau sy’n ehangu’n gyflym, mae’r fenter yn cynnig model cynaliadwy sy’n gallu tyfu neu leihau yn unol ag anghenion, y gellir ei weithredu er budd dysgwyr ledled Cymru.

“Mae FinTech Cymru yn hynod o falch o fod yn gweithio gyda’r Coleg Merthyr Tudful wrth i Academi Busnes FinTech barhau i fynd o nerth i nerth. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld yr effaith gadarnhaol mae’r academi hon yn ei chael ar ddysgwyr wrth eu cysylltu’n uniongyrchol â chyflogwyr, prosiectau yn y byd real, a mewnwelediadau byw gan ddiwydiant.” 

Rhys Griffiths, Pennaeth Sgiliau a Thalent gyda FinTech Cymru

Datblygu arweinyddiaeth ar draws y sector

Er bod prosiectau’r Gymuned wedi cyflawni canlyniadau gwerthfawr, mae aelodau yn tynnu sylw yn aml at effaith arwyddocaol arall: sef twf proffesiynol.

Mae’r Gymuned Ymarfer wedi darparu cyfleoedd i aelodau:

  • Arwain prosiectau cenedlaethol.
  • Dylanwadu ar drafodaethau ar bolisi yn y sector.
  • Rhannu arferion arloesol gyda chymheiriaid.
  • Datblygu arbenigedd mewn ymchwil a gwerthuso.
  • Meithrin partneriaethau strategol ar draws darparwyr.

I arweinwyr sy’n dod i’r amlwg, mae’r rhwydwaith wedi dod yn llwybr ar gyfer ymgysylltiad ehangach â’r sector. I weithwyr proffesiynol profiadol, mae wedi cynnig lle i fentora cydweithwyr a llunio cyfeiriad cyflogadwyedd yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hyn wedi creu cymuned gryfach a mwy cysylltiedig o weithwyr proffesiynol sydd wedi’u paratoi ar gyfer arwain arloesedd ym maes cyflogadwyedd ar lefel sefydliadol yn ogystal â lefel sector.

Edrych i’r dyfodol

Wrth i Gymru barhau i ddatblygu system addysg drydyddol fwy cydlynol, bydd yr angen am gydweithio, ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a dysgu ar y cyd yn parhau i dyfu.

Mae Cymuned Ymarfer Cyflogadwyedd Cymru wedi dangos yr hyn sy’n bosibl pan ddaw darparwyr ynghyd o amgylch amcanion cyffredin. Mae’n gweithredu fel catalydd ar gyfer newid ar draws y sector, gan helpu i lunio dyfodol cyflogadwyedd yng Nghymru, a sicrhau bod dysgwyr, darparwyr, cyflogwyr a chymunedau oll yn elwa ar ecosystem cyflogadwyedd sy’n gryfach ac yn fwy cysylltiedig.

Gyda’i gilydd, mae’r mentrau hyn yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer dull mwy cydgysylltiedig o ymdrin â dysgu drwy brofiad a datblygu cyflogadwyedd ar draws system addysg drydyddol Cymru, gan helpu dysgwyr i gaffael y sgiliau, y profiad a’r hyder sydd eu hangen i lwyddo mewn economi a chymdeithas sy’n newid.

“Mae wedi dod â phobl ynghyd sy’n frwd dros wneud gwahaniaeth, wedi bod yn fodd i feithrin cyfeillgarwch ac wedi cyfrannu at brosiectau parhaus a fydd yn cael effaith ar arferion cyflogadwyedd ledled Cymru a thu hwnt – sy’n dyst gwirioneddol i bŵer cydweithio.”

Dr Samantha Burvill o Brifysgol Abertawe a chyd-arweinydd grŵp y prosiect ar gyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy

Ac efallai mai dyna etifeddiaeth bwysicaf y Gymuned: dangos nad ffordd o rannu arferion yn unig yw cydweithio, ond catalydd ar gyfer newid.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Templed a chanllawiau wedi’u diweddaru ar gyfer y Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil

Fframwaith ar lefel y DU ar gyfer ymddygiad a llywodraethu da ym maes ymchwil yw’r Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil, ac mae’n seiliedig ar bedwar ymrwymiad clir ar gyfer ymchwilwyr, cyflogwyr a chyllidwyr gwaith ymchwil ac wedi’i ddylunio i gynnal safonau uchel ac arferion moesegol sy’n sicrhau hyder mewn gwaith ymchwil yn y DU.

Mae disgwyl i sefydliadau ymchwil a gaiff eu cyllido gan Medr lunio datganiadau blynyddol fel rhan o’u hymrwymiad i’r Concordat.

Ar ôl i’r Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil gael ei adnewyddu yn 2025, mae Grŵp Llofnodwyr y Concordat Uniondeb Ymchwil (RICS), sef y corff llywio a llywodraethu sy’n gyfrifol am y Concordat, wedi cyhoeddi dogfen ganllaw a thempled diwygiedig ar gyfer y datganiadau blynyddol hyn.

Caiff y templed ei lansio yn dilyn adborth helaeth mewn ymateb i ymgynghoriad â’r sector addysg uwch yn y DU, gyda ffocws o’r newydd ar rannu arferion gorau a dangos cynnydd.

Bydd y templed diwygiedig yn helpu i sicrhau adroddiadau cyson a dadansoddiadau ystyrlon o’r sector, gan helpu i lywio prosesau gwneud penderfyniadau ac ysgogi gwelliannau a rennir mewn arferion sy’n gysylltiedig ag uniondeb ymchwil.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Cynnig i sefydlu ysgol gymunedol 3-19 yn Ninbych-y-pysgod

Cynnig i sefydlu ysgol gymunedol 3-19 yn Ninbych-y-pysgod

Ymateb Medr i gynnig Cyngor Sir Penfro i gau Ysgol Wirfoddol a Reolir Dinbych-y-pysgod ac Ysgol Greenhill i sefydlu Ysgol Gymunedol newydd 3-19 oed

Ymateb gan Medr: 03 Tachwedd 2026

Ymateb Medr i gynnig Cyngor Sir Penfro 03 Tachwedd 2026

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/15/2026: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyrchfannau dysgwyr, Awst 2023 i Orffennaf 2024

Trosolwg

Mae’r gyfradd cyrchfan barhaus gyffredinol wedi codi a gostwng rhwng 85% ac 86% ers 2016/17.

Sta/Medr/15/2026 Ffigur 1: Cyrchfannau dysgwyr ôl-16, 2014/15 i 2023/24

Disgrifiad: Mae’r gyfradd cyrchfan barhaus wedi aros yn gymharol sefydlog ers 2016/17. Gostyngodd 1 pwynt canran rhwng 2022/23 a 2023/24.

Symudodd 48% o ddysgwyr yn 2023/24 ymlaen i gyrchfan dysgu parhaus, sef gostyngiad o gymharu â 49% yn 2022/23. Cyflogaeth barhaus yw’r gyrchfan fwyaf cyffredin a gostyngodd y gyfradd am yr ail flwyddyn yn olynol, i 60% yn 2023/24 o 62% yn 2022/23.

Sta/Medr/15/2026: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyrchfannau dysgwyr, Awst 2023 i Orffennaf 2024

Dyddiad:  17 Tachwedd 2026

Dynodiad:  Ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu

Crynodeb: Cyrchfannau cyflogaeth a dysgu ar gyfer dysgwyr addysg bellach, y chweched dosbarth mewn ysgolion a dysgu seiliedig ar waith yn y flwyddyn yn dilyn eu rhaglen astudio.

Thema: Addysg bellach, y chweched dosbarth, dysgu seiliedig ar waith

Sta/Medr/15/2026 Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyrchfannau dysgwyr, Awst 2023 i Orffennaf 2024

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Adnewyddu fframwaith Digidol 2030

Mae Digidol 2030 wedi sbarduno newid ers 2019, gyda’r nod o greu profiadau digidol mwy cadarnhaol i ddysgwyr a helpu staff i integreiddio offer a thechnolegau digidol yn eu harferion addysgu.

Cafodd y fframwaith gwreiddiol ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2019. Mae’n berthnasol i sefydliadau addysg bellach (colegau), darparwyr prentisiaethau craidd, a darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned.

Ymgymerodd Medr â’r cyfrifoldeb am fframwaith Digidol 2030 ym mis Awst 2024.

Pam mae dysgu digidol yn bwysig?

Mae sgiliau a chymwyseddau digidol yn dod yn gynyddol angenrheidiol mewn bywyd beunyddiol, er mwyn dod o hyd i wybodaeth a defnyddio gwasanaethau allweddol. Yn Digidol 2030, rydym yn canolbwyntio ar y ffyrdd y gellir defnyddio offer a thechnolegau digidol yn effeithiol i gyfoethogi profiadau dysgwyr.

Bydd angen i ddysgwyr ddefnyddio offer a thechnolegau digidol yn eu gweithleoedd yn y dyfodol, felly dylent gael cyfleoedd priodol i ddatblygu sgiliau a hyder digidol. Yn Digidol 2030, rydym yn ystyried y cysylltiadau rhwng sgiliau digidol a’r economi, yn unol â gwaith Llywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Sgiliau i Gymru.

Mae Digidol 2030 yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod dysgwyr yn datblygu cymwyseddau digidol a thechnegol ochr yn ochr â sgiliau dynol fel llythrennedd gwybodaeth, datrys problemau a meddwl yn greadigol. Dylai datblygiadau digidol gael eu harwain gan strategaeth a’u hysgogi gan addysgeg, a dylent fod yn ymatebol i anghenion dysgwyr a staff. Rydym yn cydnabod bod newid digidol llwyddiannus yr un mor ddibynnol ar bobl a diwylliant ag ydyw ar dechnoleg.

Pam rydym wedi diweddaru’r fframwaith hwn?

Roedd y fersiwn wreiddiol o Digidol 2030 a gyhoeddwyd yn 2019 yn cynnwys ymrwymiad i gynnal adolygiad canol tymor gyda’r bwriad o adnewyddu’r fframwaith. Yn y broses adnewyddu hon, ein nod oedd adlewyrchu’r ffordd y mae’r sector wedi datblygu a chydnabod newidiadau sylweddol i’r cyd-destun a’r dirwedd ar gyfer dysgu digidol, gan gynnwys:

  • Y newid cyflym i ‘addysg o bell ar frys’ a oedd yn ofynnol yn ystod pandemig Covid-19 a’r cyfnod adfer dilynol (2020-2021). Tynnodd hyn sylw at bwysigrwydd dull strategol o ymdrin â dysgu digidol a datblygu’r sylfeini cadarn a chydlynol ar gyfer dulliau cyflwyno digidol.
  • Argaeledd offer deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol ers diwedd 2022, y ffaith bod diwydiant wedi’u mabwysiadu’n gyflym, a’r goblygiadau i weithgareddau addysgu, dysgu ac asesu. Mae Medr wedi ymrwymo i gyhoeddi datganiad safbwynt ar wahân ar ddeallusrwydd artiffisial mewn addysgu a dysgu erbyn mis Mawrth 2027.
  • Daethom yn weithredol ym mis Awst 2024. Rydym wedi achub ar y cyfle hwn i atgyfnerthu cysondeb rhwng Digidol 2030 a’n dull strategol ehangach; yn enwedig yn unol â’n Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a’n gwaith ar hyrwyddo cydweithio ag undebau llafur.

Mae Jisc yn bartner cyflawni allweddol ar gyfer Digidol 2030, a gwnaethom ofyn iddo ymgysylltu â darparwyr dysgu, cyrff cynrychiadol a rhanddeiliaid allweddol wrth baratoi i ddiweddaru’r fframwaith. Cadarnhaodd yr adborth gan ddarparwyr fod Gweledigaeth, Nodau ac Amcanion gwreiddiol Digidol 2030 (sy’n ffurfio asgwrn cefn y fframwaith hwn) wedi’u diogelu’n ddigonol at ydyfodol yn 2019 a’u bod yn dal yn ddilys ac yn werthfawr ar y pwynt canol tymor hwn.

Beth wnaeth Jisc ei ddarganfod?

Daeth yr adolygiad o hyd i gynnydd sylweddol mewn dysgu digidol ledled Cymru, ynghyd â her barhaus i sicrhau bod cynnydd yn troi’n brofiad cadarnhaol i bob dysgwr.

Fel rhan o’r adolygiad, cynhaliodd Jisc grwpiau ffocws a sgyrsiau unigol â phobl o feysydd addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned. Ymhlith y cyfranogwyr roedd uwch-arweinwyr, rheolwr cwricwlwm ac ansawdd, arbenigwyr technoleg ddysgu, cydweithwyr ym meysydd TG a data, a’r rhai sy’n rheoli darpariaeth i oedolion a darpariaeth seiliedig ar waith.

“Rwy’n ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i gyfrannu mor agored. Myfyriodd pobl ar y ffordd roedd dysgu digidol wedi datblygu yn eu sefydliadau, yr hyn roedden nhw wedi’i gyflawni a’r heriau maen nhw’n dal i weithio i’w goresgyn. Dangosodd eu henghreifftiau fod darparwyr yn gwella mynediad, yn addasu dulliau cyflwyno ac yn cefnogi staff, a hynny’n aml o fewn cyfyngiadau sylweddol.”

Arweinydd y Prosiect, Glyn Rogers (Jisc)

Ochr yn ochr â’r gwaith ymgysylltu hwn, roedd yr adolygiad hefyd yn seiliedig ar sylwadau a gyflwynwyd gan ddarparwyr, canfyddiadau Estyn, ac adroddiadau Dirnadaeth Profiad Digidol Jisc ar gyfer Cymru. Ar y cyfan, roedd y dystiolaeth yn dangos sylfeini digidol mwy cadarn a phrofiadau cadarnhaol o ddysgu digidol yn gyffredinol. Roedd hefyd yn dangos nad oedd arferion unigol da bob amser yn arwain at brofiad cydgysylltiedig i ddysgwyr. Gwelir hyn yn un o’r straeon defnyddwyr sy’n cyd-fynd â’r adolygiad.

Mae’r persbectif hwnnw’n bwysig am fod amgylchiadau, hyder ac anghenion cymorth dysgwyr yn amrywio. Mae rhai’n dal i ddibynnu ar ddarparwyr am offer, cysylltedd a mannau astudio. Ar y llaw arall, mae angen help ar eraill i ddefnyddio technoleg gyfarwydd wrth ddysgu neu weithio. Roedd canfyddiadau’r arolwg hefyd yn tynnu sylw at yr angen i atgyfnerthu cymorth ar gyfer dysgu digidol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd yn cymryd amser a chydgysylltu er mwyn i hyn i gyd ddigwydd. Mae gan arweinwyr canol rôl bwysig i’w chyflawni er mwyn cysylltu uchelgeisiau sefydliadol â’r hyn y mae timau’n ei wneud yn ymarferol. Mae angen i staff gael lle i ddatblygu ffyrdd o weithredu gyda’i gilydd a dysgu oddi wrth gydweithwyr. Siaradodd pobl ag ymrwymiad clir i wella dysgu digidol, gan gydnabod y ffordd roedd llwyth gwaith a phwysau o ran adnoddau yn effeithio ar yr hyn y gallent ei gynnal.

Roedd Digidol 2030 yn werthfawr i ddarparwyr fel pwynt cyfeirio cyffredin, ac roeddent yn croesawu ei hyblygrwydd ar gyfer gwahanol leoliadau. Maent yn awyddus i gael help ymarferol i roi’r uchelgeisiau hynny ar waith mewn profiadau beunyddiol. Dylai’r cam nesaf adeiladu ar y cynnydd, yr arbenigedd a’r ymrwymiad sydd eisoes i’w gweld ym mhob rhan o’r sector, gyda ffocws parhaus ar brofiad dysgu digidol sy’n gyson gadarnhaol a chynhwysol i ddysgwyr ledled Cymru.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Rydym yn gweithio gyda Jisc i ddatblygu rhaglen o weithgareddau a fydd yn ategu’r fframwaith wedi’i adnewyddu, gan ganolbwyntio ar gyfres o bynciau sydd wedi cael eu llywio gan adborth o’r sector a gwaith casglu tystiolaeth arall.

Ein huchelgais ar gyfer y tymor hwy yw gwreiddio ein dull o ymdrin â dysgu digidol yn fwy cadarn yn y dirwedd addysg drydyddol. Mae dogfen fframwaith Digidol 2030 yn nodi rhai camau cychwynnol rydym yn eu cymryd tuag at gyflawni’r nod hwn, yn ogystal â rhai ffactorau hysbys dros y blynyddoedd nesaf a fydd yn dylanwadu ar ein ffordd o weithredu yn y dyfodol.

Mae rhagor o wybodaeth am waith Medr ar ein tudalen Dysgu digidol.

Ymholiadau

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Fersiwn wedi’i diweddaru o Fframwaith Digidol 2030 yn ymateb i gyfleoedd a heriau newydd mewn dysgu digidol

  • Mae’r dirwedd dysgu digidol wedi newid ers 2019, yn sgîl cyflymu darpariaeth ddigidol mewn dysgu ac addysgu o ganlyniad i Covid a chyflwyno AI cynhyrchiol.

Mae offer digidol a thechnoleg ddigidol bellach wedi ymwreiddio’n llawer mwy eang mewn addysg ôl-16 dros y saith mlynedd ddiwethaf ac erbyn hyn ceir diwylliant cynyddol o gydweithio ac arloesi gan ddarparwyr dysgu. I golegau yn arbennig, bu lefelau sylweddol o fuddsoddi i wella seilwaith craidd sy’n tanategu darpariaeth a gwasanaethau digidol.

Roedd hyn yn un o gasgliadau adolygiad canol cyfnod o fframwaith Digidol 2030, yn ôl Jisc, sy’n rhoi cymorth digidol i ddarparwyr addysg uwch ac addysg bellach ledled y DU.

Digidol 2030, a lansiwyd yn 2019, yw’r fframwaith strategol sy’n nodi gweledigaeth gyffredin a nodau cyffredin ar gyfer defnyddio technoleg ddigidol fel rhan annatod o ddysgu ac addysgu, i wella profiad dysgwyr mewn addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned.

Mae Digidol 2030 yn adlewyrchu’r angen i ddysgwyr ddatblygu sgiliau digidol a phrofiad o ddefnyddio offer digidol a thechnoleg ddigidol ochr yn ochr â’r sgiliau dynol, cyswllt wyneb-yn-wyneb a rhyngweithiadau â dysgwyr eraill, tiwtoriaid a staff, sy’n dal i fod yn rhan graidd o’r profiad dysgu.

Roedd adolygiad canol cyfnod Jisc yn cynnwys sgyrsiau gyda darparwyr dysgu a rhanddeiliaid allweddol i ystyried cynnydd yn erbyn uchelgais gwreiddiol Digidol 2030 a pha un a oedd angen diweddaru ei flaenoriaethau.

Canfu’r adolygiad fod cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud tuag at greu sylfaen gref ar gyfer darpariaeth ddigidol, gyda gwella cydlyniad a chysondeb arfer digidol a phrofiadau dysgwyr yn her allweddol i gam nesaf y fframwaith. Fe wnaeth yr adolygiad hefyd gadarnhau perthnasedd a gwerth parhaus cadw’r weledigaeth, y nodau a’r amcanion gwreiddiol.

Mae’r fersiwn wedi’i diweddaru o fframwaith Digidol 2030 yn adlewyrchu:

  • Yr angen i wneud profiad dysgwyr yn fwy cydlynus a chyson, gan bod seilwaith digidol, offer digidol a ffyrdd digidol o weithio wedi ymwreiddio’n fwy erbyn hyn.
  • Yr angen i hyrwyddo enghreifftiau o arferion da gan ddysgwyr a chanllawiau ymarferol i staff yn y sector.
  • Meysydd sydd wedi cael eu blaenoriaethu ar gyfer ystyriaeth bellach neu welliant yn ystod cam nesaf y fframwaith, gan gynnwys darpariaeth ddigidol Gymraeg a dwyieithog well a chynhwysiant digidol gwell.

Meddai James Owen, Prif Weithredwr Medr:

“Mae dysgu digidol o bwys. Gall yr hyblygrwydd y mae’n ei gynnig helpu i leihau rhwystrau i gyfranogiad mewn gweithgareddau dysgu, a chynyddu perchnogaeth dysgwyr ar eu dysgu.

“Mae’r dirwedd ddigidol wedi esblygu’n sylweddol ers datblygu Digidol 2030 yn wreiddiol, gan greu cyfle i fyfyrio ynghylch technolegau sy’n dod i’r amlwg, disgwyliadau newidiol gan ddefnyddwyr a blaenoriaethau strategol newydd. Mae arnom eisiau i ddysgwyr ddatblygu’r galluoedd a hyder digidol a fydd yn eu helpu yn ystod eu taith ddysgu ac yn eu bywydau pob dydd, ac yn eu paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

“Rydym eisoes yn gweld y canlyniadau ymarferol o ran bod dysgwyr yn cael mynediad at fwy o gyfleoedd digidol. Dywedodd un dysgwr eu bod wedi datblygu eu sgiliau trwy fod yn rhan o weithgareddau digidol ehangach eu coleg, cyn iddynt fynd ymlaen i ymgymryd â rôl ddigidol ym myd diwydiant ar ôl cymhwyso.”

Dywedodd Rhys Daniels, Cyfarwyddwr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn Jisc:

“Mae adolygiad canol tymor Digidol 2030 Jisc yn amlygu’r cynnydd sylweddol sydd wedi’i wneud gan golegau, darparwyr prentisiaethau a darparwyr dysgu cymunedol i oedolion ledled Cymru. Mae eu harweinyddiaeth, eu harloesedd a’u hymrwymiad i gydweithio wedi helpu i sicrhau bod digidol yn rhan annatod o addysgu a dysgu, ac mae’r cyflawniad hwnnw’n haeddu cael ei gydnabod.

“Wrth i Ddigidol 2030 symud i’w gyfnod nesaf, mae ein hadolygiad yn pwysleisio pwysigrwydd adeiladu ar y sylfeini hynny a sicrhau bod arfer digidol da yn arwain at brofiadau mwy cyson, cynhwysol a chydgysylltiedig i ddysgwyr. Mae hyn yn golygu rhoi cymorth ymarferol i staff ac i’r rhai sy’n arwain addysgu a dysgu, rhannu enghreifftiau o arfer effeithiol ym maes dysgu digidol, cryfhau darpariaeth Gymraeg a hygyrchedd, a helpu darparwyr i ymateb yn hyderus ac yn gyfrifol i ddatblygiadau fel AI.

“Mae arweiniad Medr wrth ddiweddaru Digidol 2030 yn cynnig cyfle pwysig i droi canfyddiadau adolygiad Jisc yn welliannau ystyrlon i ddysgwyr. Rydym yn falch o weithio ochr yn ochr â Medr a darparwyr ar draws y sector i helpu i ddatblygu canllawiau a chymorth ymarferol sy’n cryfhau dysgu digidol ledled Cymru.”

Digidol 2030: Fframwaith strategol ar gyfer dysgu ôl-16 digidol yng Nghymru – wedi’i ddiweddaru yn 2026

Tudalen we dysgu digidol Medr

Nodiadau

Digidol 2030 yw’r fframwaith strategol ar gyfer dysgu digidol mewn addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned. Fe’i lansiwyd yn wreiddiol yn 2019 gan Lywodraeth Cymru ac fe’i crëwyd ar y cyd gyda mewnbwn gan y sector. Mae Jisc yn bartner cyflawni allweddol ar gyfer Digidol 2030.

Fe ysgwyddodd Medr gyfrifoldebau am Digidol 2030 a dysgu digidol mewn amgylcheddau addysg drydyddol ym mis Awst 2024.

Mae AI bellach yn dylanwadu ar ddysgu, addysgu ac asesu o ddydd i ddydd. Mae Medr wedi cyhoeddi canfyddiadau o ddarn o waith archwiliadol ar wahân gan Jisc ochr yn ochr â’r fersiwn wedi’i diweddaru o fframwaith Digidol 2030. Mae Medr hefyd yn datblygu safbwynt ar AI mewn dysgu ac addysgu erbyn mis Mawrth 2027.

Mae Medr wedi gofyn i golegau ddatblygu cynlluniau gwariant cyfalaf digidol tair blynedd ac mae wedi canolbwyntio’r cymorth ar fuddsoddi tymor hwy, mwy strategol, gan gadw hyblygrwydd ar gyfer arloesi ac anghenion sy’n dod i’r amlwg.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/51: Cronfa Fynychu’r Gynhadledd Addysgu a Dysgu ynglŷn â Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu dyraniad untro o £13,200 i gefnogi buddsoddiad mewn datblygiad proffesiynol ar gyfer staff Dysgu Oedolion yn y Gymuned rhan-amser a/neu a delir fesul awr trwy fynychu’r Gynhadledd Addysgu a Dysgu ynglŷn â Dysgu Oedolion yn y Gymuned 2026/27.

2. Bydd hyn yn helpu Medr i gyflawni ei ddyletswydd yn unol ag adran 5 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 i hyrwyddo gwelliant parhaus yn ansawdd addysg drydyddol, gan gynnwys drwy gefnogi galluogrwydd a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu addysg drydyddol.

3. At ddibenion y cyllid hwn, mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cyfeirio at ddarpariaeth a gyflwynir gan ddarparwyr y dyrannir Grant Dysgu yn y Gymuned (GDG) iddynt. Mae’r ddarpariaeth hon yn cynnig cyfleoedd dysgu rhan-amser o lefel mynediad i Lefel 2 i ddysgwyr 19 oed a hŷn ac fel arfer fe’i cyflwynir mewn lleoliadau cymunedol.

4. Yn unol â pharagraff 57 yn Medr/2026/16: Buddsoddiad Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, bydd buddsoddiad CLG ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei ddyrannu i Goleg Penybont, fel ym mlwyddyn academaidd 2025/26.

Dyraniad

5. Mae cyfanswm o £13,200 wedi’i ddyrannu’n gyfartal ar draws darparwyr sy’n darparu Dysgu Oedolion yn y Gymuned, fel y nodir yn Nhabl 1.

6. Er bod cyllid Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei ddyrannu gan ddefnyddio fformiwla, mae’r gronfa hon yn cael ei dosbarthu’n gyfartal ar draws darparwyr. Mae hyn yn adlewyrchu ei phwrpas fel ymyriad untro pan fo angen isafswm o adnoddau i alluogi gweithgaredd hyfforddi staff ystyrlon. Mae dull dyrannu cyfartal yn sicrhau cyfle cyson i gymryd rhan ac yn osgoi dyraniadau bach iawn a fyddai’n cyfyngu ar yr effaith, yn enwedig ar gyfer darparwyr llai neu ddarparwyr mewn ardaloedd mwy gwledig.

Awdurdod lleolCyfanswm y dyraniad
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent£600
Coleg Pen-y-bont ar Ogwr£600
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili£600
Cyngor Caerdydd£600
Cyngor Sir Caerfyrddin£600
Cyngor Sir Ceredigion£600
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy£600
Cyngor Sir Ddinbych£600
Cyngor Sir y Fflint£600
Cyngor Gwynedd£600
Cyngor Sir Ynys Môn£600
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful£600
Cyngor Sir Fynwy£600
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot£600
Cyngor Dinas Casnewyddl£600
Cyngor Sir Penfro£600
Cyngor Sir Powys£600
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf£600
Cyngor Abertawe£600
Cyngor Bro Morgannwg£600
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen£600
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam£600

Defnyddio cyllid

7. Mae’n rhaid i’r cyllid gael ei ddefnyddio i helpu tiwtoriaid rhan-amser a/neu a delir fesul awr i fynychu’r Gynhadledd Addysgu a Dysgu ynglŷn â Dysgu Oedolion yn y Gymuned (dyddiad i’w gadarnhau).

8. Mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol a Choleg Penybont anfon neges e-bost at [email protected] erbyn 31 Gorffennaf 2027 os na ellir dyrannu’r cyllid at y dibenion a amlinellir uchod.

9. Bydd adhawliadau’n cael eu prosesu erbyn mis Hydref 2027.

Medr/2026/51: Cronfa Fynychu’r Gynhadledd Addysgu a Dysgu ynglŷn â Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Dyddiad:  23 Hydref 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/51

At:  Cyfarwyddwyr Addysg Awdurdodau Lleol; Pennaeth Coleg Penybont

Ymateb erbyn:   31 Gorffennaf 2027

Crynodeb: Dyraniad untro o £13,200 i gefnogi buddsoddiad mewn datblygiad proffesiynol ar gyfer staff Dysgu Oedolion yn y Gymuned rhan-amser a/neu a delir fesul awr trwy fynychu’r Gynhadledd Addysgu a Dysgu ynglŷn â Dysgu Oedolion yn y Gymuned 2026/27.

Medr/2026/51 Cronfa Fynychu’r Gynhadledd Addysgu a Dysgu ynglŷn â Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/14/2026: Mesurau monitro cydraddoldeb hil ar gyfer addysg uwch: rhwng mis Awst 2016 a mis Gorffennaf 2025

Ymgeiswyr, ceisiadau a chyfraddau cynigion
  • Mae cyfrannau’r ymgeiswyr a cheisiadau UCAS â’u domisil yn y DU i gyrsiau israddedig amser llawn yn narparwyr Addysg Uwch (AU) Cymru a oedd o gefndir ethnig leiafrifol wedi cynyddu ar y cyfan rhwng 2016 a 2025. Roedd hyn yn wir am bob un o’r grwpiau cefndir ethnig leiafrifol a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn (Asiaidd, Du, Cymysg ac Arall).
  • Mae canran yr ymgeiswyr y gwnaed cynnig iddynt wedi bod yn gyson uwch ar gyfer y rhai o gefndir Gwyn neu gefndir ethnig Cymysg na’r rhai o gefndir Asiaidd, Du neu gefndir ethnig Arall. Roedd hyn yn wir ar gyfer ymgeiswyr 18 oed ac ymgeiswyr o bob oed.
  • Mae cyfran yr ymgeiswyr a gafodd eu lleoli ar gyfer mynediad i addysg uwch (a dderbyniwyd ar gwrs) a oedd o gefndiroedd ethnig leiafrifol wedi cynyddu ar y cyfan rhwng 2016 a 2025.
Myfyrwyr
  • Mae cyfran y dechreuwyr israddedig o gefndiroedd ethnig leiafrifol â’u domisil yn y DU yn narparwyr AU Cymru wedi cynyddu o 10.3% yn 2016/17 i 19.8% yn 2024/25. Ceir tuedd gyffredinol bod cyfran gynyddol o ddechreuwyr yn dod o bob un o’r grwpiau cefndir ethnig Asiaidd, Du, cefndir ethnig Cymysg a chefndir ethnig Arall, gyda’r cynnydd mwyaf ymhlith y rhai o gefndir ethnig Asiaidd.
  • Rhwng 2016/17 a 2024/25, mae myfyrwyr o gefndir ethnig Gwyn yn gyson wedi bod yn fwy tebygol o gael dyfarniad gradd anrhydedd dosbarth cyntaf na myfyrwyr o unrhyw gefndir ethnig arall.
  • Mae myfyrwyr o gefndir ethnig Du yn gyson wedi bod yn fwy tebygol o gael dyfarniad gradd ail ddosbarth is neu drydydd dosbarth na myfyrwyr o gefndir ethnig arall.
Staff
  • Mae cyfran y staff, yn rhai academaidd ac anacademaidd, o gefndiroedd ethnig leiafrifol wedi cynyddu rhwng 2016/17 a 2024/25. Mae’r cynnydd mwyaf wedi bod ymhlith staff o gefndiroedd ethnig Asiaidd.
  • Mae staff academaidd o gefndir ethnig Gwyn wedi bod yn gyson yn fwy tebygol o fod â chyflogaeth ar delerau parhaol na staff o unrhyw gefndir ethnig arall.
  • Ar gyfer staff anacademaidd hwythau, y rhai o gefndir ethnig Gwyn fu fwyaf tebygol o fod â chyflogaeth ar delerau parhaol. Fodd bynnag, yn 2024/25 bu cynnydd yng nghyfrannau’r staff o gefndir ethnig Arall a chefndir Cymysg â chyflogaeth ar delerau parhaol a gostyngiad yn y gyfran o gefndir ethnig Gwyn, gan leihau’r gwahaniaeth.
  • Mae staff academaidd o gefndiroedd ethnig Du wedi bod yn fwy tebygol o fod yn cael eu cyflogi ar radd ganol neu is o’i gymharu â staff o gefndir ethnig arall. Cyflogwyd cyfran uwch o staff academaidd o’r grwpiau cefndir ethnig Gwyn a chefndir ethnig Arall yn y graddau uwch, o’i gymharu â’r grwpiau cefndir ethnig arall.
  • Mae gwahaniaethau rhwng cefndiroedd ethnig yng nghyfran y staff anacademaidd a gyflogir ym mhob gradd wedi lleihau rhwng 2016/17 a 2024/25.
Llywodraethwyr
  • Er bod nifer y llywodraethwyr yn sector addysg uwch Cymru yn isel, cynyddodd y gyfran a oedd o gefndiroedd ethnig leiafrifol o 3.0% yn 2017/18 i 16.0% yn 2024/25.

Sta/Medr/14/2026: Mesurau monitro cydraddoldeb hil ar gyfer addysg uwch: rhwng mis Awst 2016 a mis Gorffennaf 2025

Dyddiad:  22 Hydref 2026

Dynodiad:  Ystadegau Swyddogol

Crynodeb:  Mae’r cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd gan UCAS ac a gasglwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), gan roi ffocws penodol ar gefndiroedd ethnig y rhai sy’n cyflwyno cais i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru, sy’n astudio mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru a staff sy’n gweithio mewn prifysgolion yng Nghymru.

Thema:  Addysg uwch

Ffynhonnell:  Data diwedd cylch UCAS a chofnodion Myfyrwyr a Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)

Sta/Medr/14/2026 Mesurau monitro cydraddoldeb hil ar gyfer addysg uwch: rhwng mis Awst 2016 a mis Gorffennaf 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr yn lansio ymgynghoriad ar fesurau perfformiad ansawdd darparwyr

Mae Medr wedi lansio ei ymgynghoriad ar Fesurau Perfformiad Ansawdd newydd heddiw fel rhan o’i ddull o reoleiddio darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cyflwyno’r mesurau unigol ac yn amlinellu’r ffordd mae Medr yn cynnig eu defnyddio yng nghyd-destun ei fframwaith rheoleiddio.

Bwriedir i’r Mesurau Perfformiad Ansawdd helpu Medr i fod yn gyson wrth asesu cydymffurfiaeth y sector addysg drydyddol â’r amod rheoleiddio ansawdd a gwelliant parhaus. 

Bydd y mesurau’n helpu i wneud hyn mewn ffordd gyfannol, ac yn hwyluso dealltwriaeth gyd-destunol gyffredin o berfformiad, y bydd yn ei defnyddio fel sail ar gyfer sgyrsiau â darparwyr ac er mwyn deall blaenoriaethau o ran gwelliant parhaus ym mhob rhan o’r sector.

Uchelgais Medr yw cefnogi ymdrechion darparwyr i wella’n barhaus drwy rannu’r wybodaeth hon, a bydd y mesurau hefyd yn cynnig ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth er mwyn i ddarparwyr eu hunain ddeall eu perfformiad o fewn y sector ehangach ac o fewn eu cyd-destun.

Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:

“Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynrychioli adeg allweddol ar ein taith reoleiddio, ac mae’n dilyn llwyddiant lansio ein fframwaith rheoleiddio ym mis Awst 2026. Rydyn ni’n anhygoel o ddiolchgar am yr ymgysylltu anffurfiol adeiladol sydd wedi bod â’n cynigion hyd yma, a’r adborth sydd wedi cael ei roi drwy ymatebion i waith ymgynghori blaenorol.

“Bydd y cynigion hyn, sy’n seiliedig ar gyngor gan ein Pwyllgor Ansawdd, yn ein galluogi i ffurfio darlun gwell o berfformiad yn y sector, gan weithio tuag at ddatblygu dull cydlynol o ystyried data a thystiolaeth yn y sector addysg drydyddol yng Nghymru. 

“Rydyn ni’n croesawu pob barn ar y cynigion hyn er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r diben ac y byddant, yn y pen draw, yn helpu Medr, darparwyr a rhanddeiliaid i ddeall beth sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sector yn well a sicrhau profiad o ansawdd da i’n dysgwyr.”

Ymgynghoriad ar fesurau perfformiad ansawdd darparwyr ar gyfer addysg drydyddol

Nodiadau

Beth maen nhw’n ei gynnwys?

Mae’r mesurau arfaethedig yn adlewyrchu’r meysydd a nodir yn Fframwaith Ansawdd Medr, gan gynnwys cyfraddau cwblhau, cynnydd a chyrchfannau.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn nodi methodoleg meincnodi Medr, sy’n rhoi meincnod ar gyfer y rhan fwyaf o’r mesurau er mwyn i ddarparwyr ddeall sut beth yw eu perfformiad cyd-destunol pan gaiff ffactorau megis lefel gweithgarwch, lefel y cymhwyster uchaf a enillwyd cyn rhaglen ddysgu, pwnc astudio, cymwysterau mynediad, ac oedran, eu hystyried.

Mae’r Mesurau Perfformiad Ansawdd yn canolbwyntio ar berfformiad ar lefel darparwyr yn y meysydd a nodir yn yr ymgynghoriad. Bydd Medr yn gwneud gwaith ar wahân i gyfleu ei uchelgeisiau hirdymor ar lefel y sector a sut y bydd yn mesur ei gynnydd tuag at gyflawni’r uchelgeisiau hynny, er enghraifft fel rhan o’r gwaith i ddatblygu y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg Drydyddol.

Sut y bydd Medr yn defnyddio’r mesurau?

Bydd Medr yn defnyddio’r mesurau fel rhan o’i waith ehangach i ddadansoddi gwybodaeth am berfformiad er mwyn llywio asesiadau o gydymffurfiaeth darparwyr â’r fframwaith rheoleiddio. Byddant hefyd yn ei helpu i ddeall blaenoriaethau o ran gwelliant parhaus ym mhob rhan o’r sector, a chanfod unrhyw faterion neu dueddiadau mewn data y gall fod angen i drafod gyda darparwr. Fel arfer, bydd unrhyw faterion y mae’n ei nodi o ran perfformiad neu dueddiadau yn arwain at sgwrs â darparwr, er mwyn ei alluogi i roi’r deilliannau yn eu cyd-destun.

Nid yw Medr yn cynnig y bydd y mesurau hyn yn hwyluso dull sy’n seiliedig ar drothwyon ond, yn hytrach na hynny, y bydd y data’n llywio ei waith i ddeall ansawdd a gwelliant parhaus ac ymwneud â’r maes hwnnw drwy’r sector cyfan.

Gan y bydd y mesurau’n cael eu cyhoeddi, bydd y cynigion yn ddefnyddiol i ddarparwyr addysg drydyddol fel sail ar gyfer eu blaenoriaethau eu hunain o ran gwelliant parhaus.

Beth fydd hyn yn ei olygu i ddysgwyr?

Bydd y wybodaeth ar gael yn gyhoeddus, sy’n golygu y bydd dysgwyr yn gallu gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â’u llwybrau addysgol. Mae llais y dysgwr yn fesur allweddol a fydd yn llywio gweithgarwch Medr ym maes ansawdd a gwelliant parhaus.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/50: Ymgynghoriad ar fesurau perfformiad ansawdd darparwyr ar gyfer addysg drydyddol

Cyflwyniad

1. O dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, mae dyletswydd ar Medr i fonitro a hybu gwelliant yn ansawdd yr addysg a ddarperir gan ddarparwyr cofrestredig neu ar eu rhan, a’r addysg a gyllidir gan Medr neu a sicrheir fel arall ganddo (adran 51).

2. Mae fframwaith rheoleiddio Medr yn nodi’r Amodau Cofrestru a Chyllid y mae’n rhaid i ddarparwyr eu bodloni. Yr amodau hyn yw’r gofynion craidd ar gyfer cydymffurfio ac maent yn berthnasol ar draws y sector addysg drydyddol. Maent yn cynnwys yr amod ar gyfer ansawdd a gwelliant parhaus, sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i ddarparwyr cofrestredig a/neu a gyllidir ddangos bod eu darpariaeth, gan gynnwys yr hyn a ddarperir ar eu rhan, o ansawdd da a’u bod yn ymgysylltu â gwelliant parhaus. Mae hyn o gymorth i gyrraedd Nod Strategol 3 yng Nghynllun Strategol Medr, h.y. sicrhau bod dysgwyr yn cael darpariaeth o’r ansawdd gorau mewn system addysg drydyddol sy’n ymegnïo i wella’n barhaus.

3. Mae’r amod Ansawdd a Gwelliant Parhaus yn nodi mai un o’r gofynion cydymffurfio yw bod â data derbyniol ar berfformiad. Mae’r Fframwaith Ansawdd yn nodi bod Medr yn disgwyl, erbyn 2027, y bydd wedi adolygu trefniadau casglu data ac wedi ymgynghori ar fesurau perfformiad a’r defnydd o feincnodi. Mae’r ddogfen hon yn darparu’r ymgynghoriad hwnnw. Mae’n nodi cynigion Medr ar gyfer mesurau perfformiad ansawdd darparwyr ar draws addysg drydyddol, a fydd yn rhan o’n monitro rheoleiddiol.

4. Mae’r mesurau a nodir yn y ddogfen hon wedi’u bwriadu i oleuo ein dealltwriaeth am berfformiad darparwyr mewn perthynas ag ansawdd a gwelliant parhaus.

5. Bydd y mesurau hyn yn ategu monitro ehangach ar gyfer meysydd fel cyfrwng Cymraeg, cydraddoldeb, cyfranogiad a mynediad at addysg drydyddol. Bydd Medr hefyd yn gwneud gwaith ar wahân ar nodi a mesur metrigau sefydliadol yn erbyn ein huchelgeisiau hirdymor, a fydd yn ystyried y meysydd hyn.

Nod yr ymgynghoriad a’r rhesymeg

6. 6. Nod y cynigion yw galluogi Medr i sicrhau cysondeb yn y ffordd yr ydym yn asesu cydymffurfedd y sector addysg drydyddol â’r amod ansawdd a gwelliant parhaus. Byddant yn ein cynorthwyo i wneud hyn mewn ffordd gyfannol a byddant yn ategu dealltwriaeth gyd-destunol ar y cyd am berfformiad. Lle y bo’n bosibl, bydd hyn yn disodli cyhoeddiadau presennol, er mwyn symleiddio prosesau adrodd.

7. Mae’r cynigion hefyd wedi’u bwriadu i gynorthwyo darparwyr i fynd ati i hunanwerthuso ac adnabod blaenoriaethau ar gyfer gwelliant parhaus, fel a nodir yn y Fframwaith Ansawdd. Bydd hyn yn helpu darparwyr i’w sicrhau eu hunain eu bod yn ateb gofynion yr amod Ansawdd a Gwelliant Parhaus.

8. Yn olaf, mae’r cynigion wedi’u bwriadu i sicrhau bod asesiad ansawdd allanol yn cael ei oleuo gan set o ddata sydd ar gael i bob parti.

9. Mae Atodiad A yn darparu set o Gwestiynau Cyffredin mewn perthynas â data ar berfformiad.

Ymatebion

Gallwch ddod o hyd i gopi o’r cwestiynau ymgynghori yn Atodiad E. Ymatebwch drwy’r ffurflen ar-lein erbyn 9 Rhagfyr 2026 os gwelwch yn dda.

Rhagor o wybodaeth

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch yr ymgynghoriad hwn at [email protected].

Digwyddiadau ar-lein

Byddwn yn cynnal dwy weminar ar-lein a fydd yn galluogi rhanddeiliaid a phartïon â buddiant i glywed mwy am ein mesurau perfformiad ansawdd gyda’r cyfle i ofyn cwestiynau a chanfod rhagor o fanylion o ran sut y bydd y mesurau yn gweithredu:

Digwyddiad 1: (ar-lein) 16 Tachwedd 2026 13.00-14.00

Digwyddiad 2: (ar-lein) 17 Tachwedd 2026 13.00-14.00

Yr un yw’r sesiynau a byddant yn cael eu recordio i gydweithwyr nad ydynt yn gallu ymuno â ni.

Medr/2026/50: Ymgynghoriad ar fesurau perfformiad ansawdd darparwyr ar gyfer addysg drydyddol

Dyddiad: 20 Hydref 2026

At:  Benaethiaid darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru; Darparwyr cyfredol a darparwyr posibl prentisiaethau yng Nghymru; Cyrff sy’n cynrychioli darparwyr/ cyflogwyr; Cyrff sy’n cynrychioli dysgwyr; Cynrychiolwyr addysg awdurdodau lleol ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned a darpariaeth chweched dosbarth; Penaethiaid chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.

Ymateb erbyn:  09 Rhagfyr 2026

Crynodeb: Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ynglŷn â mesurau perfformiad ansawdd arfaethedig Medr ar gyfer darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru. Byddwn yn dechrau mabwysiadu’r Mesurau yn raddol o fis Mai 2027 ymlaen, ar sail y data sydd ar gael inni bryd hynny. Gwahoddir yr holl ddarparwyr addysg drydyddol a/neu hyfforddiant, cyrff cynrychiadol a rhanddeiliaid eraill i ymateb.

Medr/2026/50 Ymgynghoriad ar fesurau perfformiad ansawdd darparwyr ar gyfer addysg drydyddol

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr yn lansio platfform digidol newydd – Adnoddau Medr

Mae Medr wedi lansio platfform gwybodaeth newydd heddiw ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn lleoliadau trydyddol yng Nghymru.

Bydd Adnoddau Medr yn gweithredu ochr yn ochr â gwefan Medr, ac yn caniatáu i weithwyr addysg proffesiynol gael mynediad at ddeunydd ategol fel pecynnau cymorth, astudiaethau achos a chanllawiau ymarferol.

Gellir cael at ddeunydd digidol sy’n ymwneud â phynciau fel cydraddoldeb, addysg awyr agored, dysgu digidol, iechyd meddwl a mwy trwy’r platfform.

I ddechrau, bydd y platfform hwn yn rhoi mynediad i ddefnyddwyr at ddeunydd a oedd ar gael ar wefan Hwb Llywodraeth Cymru yn flaenorol, ac sy’n fwyaf perthnasol i staff sy’n gweithio ym meysydd addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned.

Dyma gam cyntaf newidiadau i’r ffordd y mae staff addysg drydyddol yn cael at ddeunydd proffesiynol gan Medr, a bydd yr ystod o ddeunyddiau yn cael ei datblygu dros amser.

Cynhelir Adnoddau Medr gan blatfform dysgu a datblygu digidol Thinqi. Mae’r holl ddeunydd ar gael yn gyhoeddus ar hyn o bryd, ac nid oes angen i ddefnyddwyr gofrestru na chreu cyfrif i gael at y cynnwys.

  • Adnoddau Medr ar gyfer adnoddau digidol i weithwyr addysg proffesiynol sy’n gweithio yn y sector trydyddol.
  • Hwb yw platfform Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector ysgolion o hyd, ac mae’n cefnogi cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Disgwylir i blatfform newydd Hwb gael ei lansio ar 27 Hydref.

Notes

Hwb is the Welsh Government’s education platform for schools in Wales, to support delivery of the Curriculum for Wales. The platform is designed for the maintained schools sector in Wales, providing access to content, online resources, digital tools and services. 

The Hwb platform was previously used as a repository for vocational and post-16 professional resources. This material is now hosted on Adnoddau Medr.

The initial collection in Adnoddau Medr gives Medr a foundation from which to develop its approach to sharing digital resources with the tertiary education and research sector in future.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Cyhoeddi pecyn cymorth newydd i hybu cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy mewn addysg uwch yng Nghymru

Mae pecyn cymorth ymarferol newydd sydd wedi’i fwriadu i helpu sefydliadau addysg uwch i wreiddio cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy fel rhan o’u haddysgu, eu darpariaeth gyrfaoedd a’u hymarfer sefydliadol wedi cael ei gyhoeddi, a hwnnw wedi’i gyllido gan Medr a’i olygu gan Advance HE.

Mae’r Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy wedi deillio o gydweithio ar lefel Cymru gyfan a oedd yn cynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, y Brifysgol Agored, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam. Mae’r pecyn cymorth, a ddatblygwyd dros 18 mis trwy Gymuned Ymarfer Cyflogadwyedd Cymru, yn tynnu ar astudiaethau achos ac arbenigedd ar draws sector addysg uwch Cymru ac mae wedi’i fwriadu i fod o ddefnydd ymarferol i unrhyw un sy’n gweithio mewn addysg drydyddol a sydd â chyfrifoldeb am ddarpariaeth cyflogadwyedd, neu ddiddordeb yn hynny.

Mae astudiaethau achos sydd wedi’u cynnwys yn y pecyn cymorth yn enghreifftio sut y mae cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy eisoes yn cael ei wireddu’n ymarferol ar draws prifysgolion Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys menter Marchnata Er Daioni Prifysgol Abertawe, lle mae myfyrwyr yn cymhwyso sgiliau marchnata digidol i brosiectau byw ar gyfer sefydliadau fel Ambiwlans Awyr Cymru; ‘Cynaliadwyathon’ y Brifysgol Agored, her wythnos o hyd sy’n ymdrin â phroblemau cynaliadwyedd go iawn; a rhaglen Lleoedd Newid Hinsawdd Prifysgol Bangor, sy’n cyfuno seminarau, gweithdai ac interniaethau â ffocws ar weithredu ar yr hinsawdd.

Croesawyd y cyhoeddiad gan Emma Mock, Pennaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn Medr:

“Mae’r pecyn cymorth hwn yn gam arwyddocaol ymlaen i gyflogadwyedd mewn addysg uwch yng Nghymru. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Medr i gynorthwyo’r sector addysg drydyddol i arfogi graddedigion â’r sgiliau a’r gwerthoedd y mae eu hangen ar gyfer byd gwaith sy’n newid yn gyflym, a gobeithio y bydd yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau ledled Cymru a’r tu hwnt..”

Meddai Stuart Norton, Pennaeth Rhagoriaeth Addysgol yn Advance HE, a arweiniodd y gwaith i ddatblygu’r pecyn cymorth:

“Mae hwn yn adnodd gwirioneddol ymarferol, wedi’i seilio’n uniongyrchol ar arbenigedd a phrofiad cydweithwyr ar draws chwe phrifysgol yng Nghymru, ac rwy’n ddiolchgar i bob un ohonynt am eu cyfraniadau. Mae graddedigion yn gynyddol yn ceisio gwaith sy’n cyd-fynd â’u gwerthoedd, ac mae ar sefydliadau angen offer i ymateb i’r newid hwnnw. Mae’r Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy’n rhoi i addysgwyr a gweithwyr gyrfaoedd proffesiynol fframwaith strwythuredig, y gellir ei addasu i wneud union hynny a gobeithio y bydd yn parhau i dyfu wrth i ragor o sefydliadau ychwanegu eu henghreifftiau hwy eu hunain o ymarfer.”

Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy

Nodiadau

Mae’r Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy ar gael yn awr. Gwahoddir sefydliadau sy’n dymuno cyfrannu rhagor o astudiaethau achos neu enghreifftiau o ymarfer i gysylltu â [email protected].

Mae’r pecyn cymorth yn cynnig fframwaith eglur ac iddo bum cam – Archwilio, Adnabod a Chadarnhau, Tyfu neu Leihau yn Unol â’r Anghenion, Gweithredu a Gwerthuso, a Chyfrannu – i helpu sefydliadau i asesu eu darpariaeth gyfredol o ran Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy a’i datblygu ymhellach. Mae wedi’i wreiddio yn Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan adlewyrchu ymrwymiad deddfwriaethol unigryw Cymru i feddwl am yr hirdymor lle mae pobl, cymunedau a’r blaned yn y cwestiwn.

Er bod yr astudiaethau achos yn dod o sefydliadau yng Nghymru, mae’r pecyn cymorth wedi’i fwriadu i fod yn berthnasol ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, gan rychwantu dysgu ac addysgu, ymchwil, gwasanaethau gyrfaoedd a menter.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio