Concordat i Ategu Uniondeb Ymchwil
Fframwaith ar gyfer ymddygiad a llywodraethu da wrth gynnal ymchwil yw’r Concordat i Ategu Uniondeb Ymchwil a hwnnw wedi’i seilio ar set o bedwar ymrwymiad eglur ar gyfer ymchwilwyr, cyflogwyr a chyllidwyr ymchwil.
Mae’r Concordat i Ategu Uniondeb Ymchwil wedi bod yn darparu fframwaith a dogfen gyfeirio ymarferol ar lefel y DU ar gyfer uniondeb ymchwil i ymchwilwyr, cyflogwyr ymchwilwyr a chyllidwyr ymchwil ers 2012.Fe’i lletyir ar hyn o bryd gan Bwyllgor y DU ar Uniondeb Ymchwil (UKCORI).
Fe ail-lansiwyd y Concordat yn 2025 yn dilyn adolygiad gan Grŵp Llofnodwyr y Concordat Uniondeb Ymchwil, yn seiliedig ar ymgynghori. Diben yr adolygiad oedd sicrhau bod y fframwaith:
- yn berthnasol yng ngoleuni datblygiadau diweddar ym myd ymchwil yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys datblygiadau technolegol.
- yn cyd-fynd yn briodol â fframweithiau rhyngwladol ar gyfer llywodraethu ymchwil i ategu ymchwil a gynhelir mewn cyd-destunau rhyngwladol.
- mor ddefnyddiol ac ymarferol â phosibl.
Mae crynodeb o’r ymgynghoriad a’r newidiadau a wnaed mewn ymateb iddo ar gael ar wefan UKCORI.
Mae disgwyl i sefydliadau ymchwil a gyllidir gan Medr lunio datganiadau blynyddol fel rhan o’u hymrwymiad i’r Concordat. Dylent ddefnyddio’r cynnwys diwygiedig erbyn mis Ebrill 2026; a pharhau i ddefnyddio’r templed adrodd presennol ar gyfer llunio datganiadau blynyddol.
Adolygiad o ddatganiadau blynyddol y DU ar uniondeb ymchwil
Mae adolygiad o ddatganiadau blynyddol a gynhaliwyd gan Research Consulting ar gyfer 2022/23 a 2023/24 ar gael bellach gan UKCORI.
Rhagor o wybodaeth