This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Newyddion

Cyhoeddi pecyn cymorth newydd i hybu cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy mewn addysg uwch yng Nghymru

Mae pecyn cymorth ymarferol newydd sydd wedi’i fwriadu i helpu sefydliadau addysg uwch i wreiddio cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy fel rhan o’u haddysgu, eu darpariaeth gyrfaoedd a’u hymarfer sefydliadol wedi cael ei gyhoeddi, a hwnnw wedi’i gyllido gan Medr a’i olygu gan Advance HE.

Mae’r Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy wedi deillio o gydweithio ar lefel Cymru gyfan a oedd yn cynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, y Brifysgol Agored, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam. Mae’r pecyn cymorth, a ddatblygwyd dros 18 mis trwy Gymuned Ymarfer Cyflogadwyedd Cymru, yn tynnu ar astudiaethau achos ac arbenigedd ar draws sector addysg uwch Cymru ac mae wedi’i fwriadu i fod o ddefnydd ymarferol i unrhyw un sy’n gweithio mewn addysg drydyddol a sydd â chyfrifoldeb am ddarpariaeth cyflogadwyedd, neu ddiddordeb yn hynny.

Mae astudiaethau achos sydd wedi’u cynnwys yn y pecyn cymorth yn enghreifftio sut y mae cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy eisoes yn cael ei wireddu’n ymarferol ar draws prifysgolion Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys menter Marchnata Er Daioni Prifysgol Abertawe, lle mae myfyrwyr yn cymhwyso sgiliau marchnata digidol i brosiectau byw ar gyfer sefydliadau fel Ambiwlans Awyr Cymru; ‘Cynaliadwyathon’ y Brifysgol Agored, her wythnos o hyd sy’n ymdrin â phroblemau cynaliadwyedd go iawn; a rhaglen Lleoedd Newid Hinsawdd Prifysgol Bangor, sy’n cyfuno seminarau, gweithdai ac interniaethau â ffocws ar weithredu ar yr hinsawdd.

Croesawyd y cyhoeddiad gan Emma Mock, Pennaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn Medr:

“Mae’r pecyn cymorth hwn yn gam arwyddocaol ymlaen i gyflogadwyedd mewn addysg uwch yng Nghymru. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Medr i gynorthwyo’r sector addysg drydyddol i arfogi graddedigion â’r sgiliau a’r gwerthoedd y mae eu hangen ar gyfer byd gwaith sy’n newid yn gyflym, a gobeithio y bydd yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau ledled Cymru a’r tu hwnt..”

Meddai Stuart Norton, Pennaeth Rhagoriaeth Addysgol yn Advance HE, a arweiniodd y gwaith i ddatblygu’r pecyn cymorth:

“Mae hwn yn adnodd gwirioneddol ymarferol, wedi’i seilio’n uniongyrchol ar arbenigedd a phrofiad cydweithwyr ar draws chwe phrifysgol yng Nghymru, ac rwy’n ddiolchgar i bob un ohonynt am eu cyfraniadau. Mae graddedigion yn gynyddol yn ceisio gwaith sy’n cyd-fynd â’u gwerthoedd, ac mae ar sefydliadau angen offer i ymateb i’r newid hwnnw. Mae’r Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy’n rhoi i addysgwyr a gweithwyr gyrfaoedd proffesiynol fframwaith strwythuredig, y gellir ei addasu i wneud union hynny a gobeithio y bydd yn parhau i dyfu wrth i ragor o sefydliadau ychwanegu eu henghreifftiau hwy eu hunain o ymarfer.”

Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy

Nodiadau

Mae’r Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy ar gael yn awr. Gwahoddir sefydliadau sy’n dymuno cyfrannu rhagor o astudiaethau achos neu enghreifftiau o ymarfer i gysylltu â [email protected].

Mae’r pecyn cymorth yn cynnig fframwaith eglur ac iddo bum cam – Archwilio, Adnabod a Chadarnhau, Tyfu neu Leihau yn Unol â’r Anghenion, Gweithredu a Gwerthuso, a Chyfrannu – i helpu sefydliadau i asesu eu darpariaeth gyfredol o ran Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy a’i datblygu ymhellach. Mae wedi’i wreiddio yn Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan adlewyrchu ymrwymiad deddfwriaethol unigryw Cymru i feddwl am yr hirdymor lle mae pobl, cymunedau a’r blaned yn y cwestiwn.

Er bod yr astudiaethau achos yn dod o sefydliadau yng Nghymru, mae’r pecyn cymorth wedi’i fwriadu i fod yn berthnasol ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, gan rychwantu dysgu ac addysgu, ymchwil, gwasanaethau gyrfaoedd a menter.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio