Medr/2026/40: Cronfa Hyfforddi Staff Iechyd Meddwl a Llesiant
Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu dyraniad untro o £57,200 i gefnogi buddsoddiad mewn hyfforddiant i staff Dysgu Oedolion yn y Gymuned, gyda ffocws ar iechyd meddwl a llesiant, a ddylai gael ei gwblhau rhwng mis Gorffennaf 2026 a mis Chwefror 2027.
2. At ddibenion y cyllid hwn, mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cyfeirio at ddarpariaeth a gyflwynir gan ddarparwyr y dyrannir Grant Dysgu yn y Gymuned iddynt. Mae’r ddarpariaeth hon yn cynnig cyfleoedd dysgu rhan-amser o lefel mynediad i Lefel 2 i ddysgwyr 19 oed a hŷn ac fel arfer fe’i cyflwynir mewn lleoliadau cymunedol.
3. Mae’r cyllid hwn yn cefnogi:
- Gweithredu’r amod rheoleiddio Lles Staff a Dysgwyr, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gael trefniadau effeithiol, gan gynnwys polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau, sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi llesiant a diogelwch staff a dysgwyr gan ddefnyddio hunanwerthuso parhaus i nodi cryfderau, bylchau a risgiau sy’n dod i’r amlwg i gynllunio gweithgareddau
- Mae Fframwaith Iechyd Meddwl a Llesiant Cyffredin Medr yn darparu dull a rennir o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant ar draws addysg drydyddol yng Nghymru. Mae’n cefnogi datblygiad map cymorth sy’n helpu dysgwyr i gael mynediad at gymorth priodol, o ymyrraeth gynnar i ymateb i argyfwng.
Dyraniad
4. Mae cyfanswm o £57,200 wedi’i ddyrannu’n gyfartal ar draws darparwyr sy’n darparu Dysgu Oedolion yn y Gymuned, fel y nodir yn Nhabl 1.
5. Er bod cyllid Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei ddyrannu gan ddefnyddio fformiwla, mae’r gronfa hon yn cael ei dosbarthu’n gyfartal ar draws darparwyr. Mae hyn yn adlewyrchu ei phwrpas fel ymyriad untro pan fo angen isafswm o adnoddau i alluogi gweithgaredd hyfforddi staff ystyrlon. Mae dull dyrannu cyfartal yn sicrhau cyfle cyson i gymryd rhan ac yn osgoi dyraniadau bach iawn a fyddai’n cyfyngu ar yr effaith, yn enwedig ar gyfer darparwyr llai neu ddarparwyr mewn ardaloedd mwy gwledig.
Tabl 1:
| Awdurdod lleol | Cyfanswm y dyraniad |
|---|---|
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent | £2600 |
| Coleg Pen-y-bont ar Ogwr | £2600 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili | £2600 |
| Cyngor Caerdydd | £2600 |
| Cyngor Sir Caerfyrddin | £2600 |
| Cyngor Sir Ceredigion | £2600 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | £2600 |
| Cyngor Sir Ddinbych | £2600 |
| Cyngor Sir y Fflint | £2600 |
| Cyngor Gwynedd | £2600 |
| Cyngor Sir Ynys Môn | £2600 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful | £2600 |
| Cyngor Sir Fynwy | £2600 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot | £2600 |
| Cyngor Dinas Casnewydd | £2600 |
| Cyngor Sir Penfro | £2600 |
| Cyngor Sir Powys | £2600 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf | £2600 |
| Cyngor Abertawe | £2600 |
| Cyngor Bro Morgannwg | £2600 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen | £2600 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam | £2600 |
Defnyddio cyllid
6. Rhaid defnyddio’r cyllid o fewn blwyddyn ariannol 2026/27 ac ar gyfer gweithgareddau hyfforddi iechyd meddwl a llesiant a ddarparwyd rhwng mis Gorffennaf 2026 a mis Chwefror 2027.
7. Gallai gweithgareddau hyfforddi ar gyfer tiwtoriaid a staff Dysgu Oedolion yn y Gymuned gynnwys:
- cydnabod ac ymateb i anghenion iechyd meddwl staff a dysgwyr
- ymgorffori dulliau sy’n ystyriol o drawma
- deall llwybrau uwchgyfeirio a diogelu (ac eithrio hyfforddiant gorfodol)
8. Mae gweithgareddau cymwys yn cynnwys:
- datblygu neu gaffael rhaglenni hyfforddi (darparwyr neu bartneriaethau allanol)
- adnoddau hyfforddi dwyieithog
- talu staff cyfradd fesul awr i gymryd rhan mewn hyfforddiant
9. Ni ellir defnyddio cronfeydd ar wariant cyfalaf (e.e. offer) nac i ariannu’n uniongyrchol ddarpariaeth gwasanaethau therapiwtig clinigol neu arbenigol i staff neu ddysgwyr.
10. Er mwyn gwneud y defnydd gorau o gyllid a chefnogi blaenoriaethau lleol a rhanbarthol, rydym yn annog gweithio ar y cyd, gan gynnwys gyda darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned eraill a phartneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned pan fo’n briodol.
Monitro
11. Rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno tystysgrif gwariant (Atodiad A) i hawlio cyllid yn ôl.
12. Mae’r dystysgrif gwariant yn gofyn am ddadansoddiad o’r gwariant rhwng:
- Costau staff (e.e. rhyddhau tiwtoriaid / amser tiwtoriaid am dâl fesul awr)
- Taliadau i ddarparwyr hyfforddiant / darpariaeth allanol
13. Bydd adhawliadau’n digwydd ym mis Mawrth 2027. Rhaid cyflwyno tystysgrif gwariant cyn 19 Chwefror 2027 i [email protected].
14. Nid oes angen adroddiad diwedd blwyddyn ychwanegol. Bydd Medr yn ymgysylltu â darparwyr drwy’r Rhwydwaith Partneriaeth Dysgu Oedolion i rannu dysgu, deall effaith a llywio gwelliant parhaus.
Medr/2026/40: Cronfa Hyfforddi Staff Iechyd Meddwl a Llesiant Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Dyddiad: 31 Gorffennaf 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/40
At: Penaethiaid darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned
Ymateb erbyn: 19 Chwefror 2027
Crynodeb: Dyraniad untro o £57,200 i gefnogi buddsoddiad mewn hyfforddiant i staff Dysgu Oedolion yn y Gymuned (DOG), gyda ffocws ar iechyd meddwl a llesiant. Dylid cwblhau’r gweithgarwch rhwng mis Gorffennaf 2026 a mis Chwefror 2027.
Medr/2026/40 Cronfa Hyfforddi Staff Iechyd Meddwl a Llesiant Dysgu Oedolion yn y GymunedDogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/39: Cyllid Ychwanegol ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 2026-27
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau a’r amseriadau ar gyfer cyllid ychwanegol gwerth £3,000,000 ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 ym mlwyddyn academaidd 2026/27 – £2,202,000 i sefydliadau addysg bellach a £798,000 i awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion prif ffrwd â dosbarthiadau chwech.
2. Dylai sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol lynu wrth y ddogfen ‘Cyllid Pontio Ôl-16 i Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach – Nodyn Cyfarwyddyd 2026/27’.
Symiau ac amseriadau’r cyllid ychwanegol
3. Rhoddir dyraniad o £798,000 i awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion prif ffrwd â dosbarthiadau chwech ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 yn 2026/27, fel y gwelir yn y tabl isod. Dyrennir y cyllid ar sail £6,000 fesul ysgol.
| Awdurdod Lleol | Dyraniad (£) |
|---|---|
| Cyngor Sir Ynys Môn | 30,000.00 |
| Cyngor Gwynedd | 42,000.00 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | 42,000.00 |
| Cyngor Sir Ddinbych | 36,000.00 |
| Cyngor Sir y Fflint | 36,000.00 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam | 18,000.00 |
| Cyngor Sir Powys | 66,000.00 |
| Cyngor Sir Ceredigion | 36,000.00 |
| Cyngor Sir Penfro | 24,000.00 |
| Cyngor Sir Gaerfyrddin | 48,000.00 |
| Cyngor Abertawe | 42,000.00 |
| Cyngor Castell-nedd Port Talbot | 12,000.00 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr | 54,000.00 |
| Cyngor Bro Morgannwg | 42,000.00 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf | 66,000.00 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili | 42,000.00 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen | 6,000.00 |
| Cyngor Sir Fynwy | 24,000.00 |
| Cyngor Dinas Casnewydd | 54,000.00 |
| Cyngor Caerdydd | 78,000.00 |
| Cyfanswm | 798,000.00 |
4. Rhoddir dyraniad o £2,202,000 i sefydliadau addysg bellach ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 yn 2026/27, fel y gwelir yn y tabl isod.
| Sefydliad addysg bellach | Dyraniad (£) |
|---|---|
| Coleg Penybont | 112,941.53 |
| Coleg Sir Gâr | 145,572.70 |
| Coleg Gwent | 309,916.58 |
| Grŵp Llandrillo Menai | 251,523.59 |
| Y Coleg Merthyr Tudful | 78,663.31 |
| Coleg Sir Benfro | 92,487.15 |
| Coleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant | 60,670.22 |
| Coleg Gŵyr Abertawe | 200,972.67 |
| Coleg Caerdydd a’r Fro | 260,891.90 |
| Coleg Cambria | 294,693.41 |
| Coleg y Cymoedd | 231,518.47 |
| Grŵp Colegau NPTC | 162,148.47 |
| Cyfanswm | 2,202,000.00 |
5. Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â’r cyfnod o 1 Tachwedd 2026 tan 31 Gorffennaf 2027. Caiff y cyllid hwn ei dalu’n llawn mewn un rhandaliad i sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol ym mis Rhagfyr 2026.
6. Os bydd gwariant yn llai na 100% o’r dyraniad, caiff y tanwariant ei adhawlio’n llawn.
Medr/2026/39: Cyllid Ychwanegol ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 2026-27
Dyddiad: 31 Gorffennaf 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/39
At: Brifathrawon sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau a’r amseriadau ar gyfer cyllid ychwanegol gwerth £3,000,000 y bydd Medr yn ei roi i sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 ym mlwyddyn academaidd 2026/27.
Medr/2026/39 Cyllid Ychwanegol ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 2026/27Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioY Gofrestr gyntaf o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru yn dod i rym
Mae Cofrestr statudol newydd yn cryfhau tryloywder, atebolrwydd a diogelwch dysgwyr ar draws y sector addysg uwch yng Nghymru
Daw Cofrestr Medr o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru i rym ar 1 Awst 2026, gan nodi carreg filltir allweddol yn y gwaith o reoleiddio’n effeithiol y sector trydyddol yng Nghymru.
Mae’r Gofrestr yn darparu cofnod sydd ar gael i’r cyhoedd o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru sydd wedi bodloni gofynion cofrestru Medr yn llwyddiannus. Mae’n nodi darparwyr cofrestredig a’u statws cofrestru.
Mae cofrestru yn dangos bod darparwr wedi bodloni’r gofynion cofrestru cychwynnol sylfaenol a’r amodau cofrestru cychwynnol yn foddhaol ac wedi ymrwymo i ofynion rheoleiddio parhaus a gynlluniwyd i amddiffyn dysgwyr, diogelu cyllid cyhoeddus a chynnal safonau ansawdd.
Rhaid i ddarparwyr cofrestredig barhau i fodloni amodau cofrestru parhaus drwy gydol eu cyfnod cofrestru.
Lle mae tystiolaeth o risg sylweddol yn ymwneud â chydymffurfiaeth, gall Medr osod Amod Parhaus Penodol. Mae’r mesurau hyn yn helpu i amddiffyn dysgwyr, yn cefnogi gwelliant ac yn mynd i’r afael â risgiau a nodwyd. Cyhoeddir manylion unrhyw amodau o’r fath o fewn cofnod cofrestr darparwr.
Mewn achosion difrifol, gellir tynnu darparwyr oddi ar y gofrestr os nad ydynt bellach yn bodloni gofynion cofrestru neu lle mae dadgofrestru yn ofynnol o dan ddeddfwriaeth neu’r Fframwaith Rheoleiddio. Bydd unrhyw achos o ddileu yn cael ei adlewyrchu’n gyhoeddus yn y gofrestr.
Mae’r Gofrestr yn cynnwys dau gategori:
Addysg Uwch (Craidd)
Mae darparwyr yn gymwys i gael cyllid addysg uwch Medr, gallant gynnig cyrsiau sydd wedi’u dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth myfyrwyr Llywodraeth Cymru ac maent yn ddarostyngedig i ofynion rheoleiddio ychwanegol.
Addysg Uwch (Amgen)
Nid yw darparwyr yn gymwys i gael cyllid grant addysg uwch Medr ond gallant gynnig cyrsiau sydd wedi’u dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth myfyrwyr Llywodraeth Cymru ar lefel is na’r categori craidd.
Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:
“Mae cyflwyno’r Gofrestr yn gam pwysig wrth gryfhau system addysg drydyddol Cymru. Mae’n rhoi gwybodaeth glir i ddysgwyr, myfyrwyr a rhanddeiliaid am ddarparwyr sydd wedi bodloni gofynion cofrestru Medr ac sy’n destun goruchwyliaeth reoleiddiol barhaus.
“Mae’r Gofrestr yn cefnogi tryloywder ac atebolrwydd wrth helpu i sicrhau hyder yn y ddarpariaeth addysg uwch ledled Cymru.”
Mae’r Gofrestr ar gael nawr.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioSta/Medr/12/2026: Y Gymraeg mewn addysg uwch, 2024/25
Prif bwyntiau
- Yn 2024/25, roedd yn hysbys bod 13% o’r cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru’n rhai gan siaradwyr Cymraeg rhugl. Roedd gan 15% arall ryw lefel o allu i siarad Cymraeg a hwythau naill ai’n siaradwyr nad oeddent yn rhugl neu’n siaradwyr â lefel gallu anhysbys.
- Yn 2024/25, fe wnaeth 33% o’r cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yr oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl astudio o leiaf 1 credyd yn Gymraeg, ac fe wnaeth 22% astudio o leiaf 40 o gredydau yn Gymraeg. Roedd y rhain yn gynnydd o’i gymharu â 30% a 21% yn 2023/24.
- Roedd 4% o’r cofrestriadau gan yr holl fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai nad oeddent o Gymru ac nad oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg, yn cynnwys astudio o leiaf 1 credyd yn Gymraeg yn 2024/25, sef yr un gyfran ag yn 2023/24.
- Ar draws yr holl gofrestriadau, roedd 5,720 o gofrestriadau ag o leiaf 1 credyd a astudiwyd yn Gymraeg yn 2024/25, sy’n gynnydd o 3% o’i gymharu â 2023/24, er bod hyn yn dal yn is nag mewn blynyddoedd cynharach.
- Roedd mwy na dwywaith cymaint o gofrestriadau gan fyfyrwyr benywaidd yn cynnwys o leiaf 1 credyd a astudiwyd yn Gymraeg o’i gymharu â chofrestriadau gan fyfyrwyr gwrywaidd. O’r cofrestriadau ag o leiaf 1 credyd wedi cael ei astudio yn Gymraeg, roedd myfyrwyr benywaidd hefyd yn fwy tebygol o astudio nifer uwch o gredydau yn Gymraeg na myfyrwyr gwrywaidd.
- Addysg a hyfforddiant oedd y pwnc modiwl â’r nifer a’r gyfran uchaf o gofrestriadau ag o leiaf 1 credyd wedi cael ei astudio yn Gymraeg.
- Roedd 630 o staff addysgu academaidd wedi’u contractio i addysgu yn Gymraeg yn 2024/25, sy’n gynnydd o’r cyfanswm o 565 yn 2023/24.
Diwygiadau o ddatganiadau blaenorol
Mae data ar gyfer 2023/24 wedi cael ei ddiwygio i gynnwys data wedi’i ddiweddaru gan Brifysgol De Cymru. Effaith hyn fu gostyngiad o 45 yn nifer y cofrestriadau ar y cyfan a chynnydd o 1,010 yn nifer y cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru.
Bu diweddariad hefyd i nifer y cofrestriadau ag o leiaf 1 credyd cyfrwng Cymraeg yn 2023/24 gan nad oedd nifer o fyfyrwyr ymchwil ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cael eu categoreiddio’n gywir. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer y cofrestriadau ag o leiaf 1 credyd wedi cael ei astudio yn Gymraeg, sef cynnydd o 50 ym Mhrifysgol Bangor a chynnydd o 5 ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Sta/Medr/12/2026: Y Gymraeg mewn addysg uwch, 2024/25
Cyfeirnod: Sta/Medr/12/2026
Dyddiad: 28 Gorffennaf 2026
Dynodiad: Ystadegau Swyddogol
Crynodeb: Ystadegau am allu myfyrwyr i siarad Cymraeg mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru a nifer y cofrestriadau lle ceir rhywfaint o astudio yn Gymraeg; Ystadegau ar nifer y staff addysgu sy’n gallu addysgu yn Gymraeg, ac sydd wedi’u contractio i addysgu yn Gymraeg, mewn prifysgolion yng Nghymru.
Thema: Addysg Uwch, Y Gymraeg, Cyfrwng Cymraeg
Ffynhonnell: Cofnodion Myfyrwyr a Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)
Sta/Medr/12/2026 Y Gymraeg mewn addysg uwch 2024/25Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/38: Cyllid cyfalaf addysg uwch 2026/27
Cyflwyniad
1. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd cyllid cyfalaf o £10 miliwn ar gael i’w ddyrannu o fewn blwyddyn ariannol 2026-27. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi blaenoriaethau strategol Medr.
Sail dyrannu cyllid cyfalaf
2. Bydd y cyllid cyfalaf yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar ddull fformiwläig. Gan fod y cyllid i’w ddefnyddio, o leiaf yn rhannol, i gefnogi dysgu ac addysgu, profiad y myfyrwyr a seilwaith ar gyfer myfyrwyr, mae’r dyraniadau wedi’u pennu yn seiliedig ar niferoedd y myfyrwyr. Mae nifer y myfyrwyr mewn sefydliad yn ddirprwy rhesymol ar gyfer faint o ystad a chyfleusterau sydd eu hangen. Mae’r dull hwn yn gyson â dyraniadau cyfalaf blaenorol.
3. Y niferoedd myfyrwyr a ddefnyddir ar gyfer y dyraniad cychwynnol yw niferoedd cyfwerth ag amser llawn Cofnod Myfyrwyr HESA ar gyfer pob dull astudio, lefel a domisil yn seiliedig ar flwyddyn academaidd 2024/25. Dyma’r un sail a ddefnyddiwyd i ddyrannu’r rownd flaenorol o gyllid cyfalaf.
Cymhwyso isafswm dyraniad cyllid
4. Er mwyn darparu cyllid cyfalaf a fydd yn caniatáu i bob sefydliad fuddsoddi mewn prosiectau a fydd yn cael effaith gynaliadwy, mae isafswm dyraniad o £750,000 wedi’i gymhwyso. O ystyried ei hystâd gyfyngedig yng Nghymru, bydd trothwy isaf o 50% (£375,000) wedi’i bennu ar gyfer y Brifysgol Agored i gyfrannu at brosiectau a fydd o fudd i fyfyrwyr Cymru.
5. Mae’r cyllid ar gyfer sefydliadau lle roedd y dyraniad gwreiddiol yn seiliedig ar eu myfyrwyr cyfwerth ag amser llawn yn is na’r gwerth hwn wedi’i gynyddu i’r swm hwn ac yna mae’r myfyrwyr cyfwerth ag amser llawn ar gyfer y sefydliadau hynny wedi’u tynnu o’r cyfrifiad. Mae’r balans sy’n weddill o gyllid sydd ar gael wedi’i rannu rhwng y sefydliadau eraill yn seiliedig ar y myfyrwyr cyfwerth ag amser llawn sy’n weddill yn y cyfrifiad.
6. Darperir y dyraniadau canlyniadol ar gyfer pob sefydliad yn Atodiad A.
Cynllunio a monitro
7. Ni fydd yn ofynnol i sefydliadau gyflwyno cynlluniau i Medr ynghylch gwybodaeth am y prosiect(au) sy’n defnyddio’r buddsoddiad.
8. Mae Medr yn disgwyl i’r prosiectau sydd wedi defnyddio’r buddsoddiad cyfalaf fodloni’r meini prawf isod.
- Aliniad strategol
haid i’r prosiect(au) gyd-fynd yn glir ag o leiaf un o nodau strategol Medr a chefnogi blaenoriaethau rhanbarthol neu genedlaethol perthnasol. - Budd a llais myfyrwyr
Rhaid i’r prosiect(au) fod o fudd i fyfyrwyr ac yn gwella profiad, canlyniadau, llesiant neu gyfranogiad myfyrwyr. Rhaid i’r sefydliad ymgysylltu â llais y myfyrwyr er mwyn datblygu’r prosiect(au) ar y cyd. - Cynaliadwyedd ac effaith hirdymor
Rhaid i’r buddsoddiad ddarparu gwerth parhaol, gan gynnwys y gallu i addasu yn y dyfodol, defnydd effeithlon o adnoddau, cyfraniad at sero net lle bo’n berthnasol, a buddion y gellir eu cynnal dros amser.
9. Byddwn yn parhau i fonitro metrigau HESA drwy’r datganiadau data cyhoeddedig ac felly dylai sefydliadau barhau i fod yn ymwybodol o’r effaith y gallai prosiectau ei chael arnynt.
10. Os yw sefydliad yn rhagweld na fydd yn gallu gwario ei ddyraniad llawn, dylai hysbysu Medr cyn gynted â phosibl a bydd unrhyw gronfeydd sy’n weddill yn cael eu hailddyrannu i sefydliadau eraill drwy’r dull fformiwläig a ddisgrifiwyd yn flaenorol.
11. Cynhelir ymarfer monitro yn 2027 i sicrhau bod y cyllid wedi’i ddefnyddio fel y bwriadwyd ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr effaith y mae’r buddsoddiad wedi’i chael. Fel rhan o ymgysylltiad parhaus Medr â sefydliadau, cynhelir trafodaethau ym mis Ionawr i adolygu prosiectau a ariannwyd yn y flwyddyn academaidd flaenorol, ystyried cynnydd yn erbyn prosiectau sy’n cael eu cyflawni yn y flwyddyn academaidd gyfredol, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd ariannu posibl yn y dyfodol lle bo modd.
12. Fel rhan o’r ymarferion monitro, disgwylir i sefydliadau ddarparu dadansoddiad o’r gwariant cyfalaf a manylion y prosiectau y mae’r cyllid wedi cyfrannu atynt. Disgwylir hefyd i sefydliadau ddarparu crynodeb ansoddol o’r canlyniadau a’r effeithiau cadarnhaol y mae’r buddsoddiad hwn wedi’u cael, gan gynnwys sut mae’r buddsoddiad wedi cefnogi blaenoriaethau strategol Medr a’r meini prawf a amlinellwyd uchod.
Amserlen
13. Bydd Medr yn trefnu talu’r cronfeydd a ddyrannwyd i sefydliadau ym mis Hydref 2026.
14. Cynhelir trafodaethau â sefydliadau ym mis Ionawr 2027 i drafod cynnydd prosiectau, adolygu unrhyw danwariant gwirioneddol neu ddisgwyliedig a thrafod effeithiau prosiectau a fuddsoddwyd ynddynt yn y blynyddoedd blaenorol. Bydd ymgysylltiadau drwy gyflwyno ffurflenni, cyfarfodydd naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb lle mae Medr a’r sefydliad yn credu bod angen.
15. Gofynnir am ffurflen werthuso derfynol gan y sefydliad ym mis Gorffennaf 2027, yn darparu crynodeb o wariant, cyflawniad y prosiect a’r canlyniadau a gyflawnwyd.
Gwybodaeth bellach
16. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].
Medr/2026/38: Cyllid cyfalaf addysg uwch 2026/27
Dyddiad: 28 Gorffennaf 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/38
At: Penaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi manylion am y sail y bydd cyfalaf yn cael ei ddyrannu i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2026/27 a’n dull o fonitro. Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2026/27.
Medr/2026/38 Cyllid cyfalaf addysg uwch 2026/27Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/37: Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg uwch 2026/27
Rhagair
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi ein bwriadau yn 2026/27 i ddyrannu:
- £2,350,000 o gyllid i brifysgolion i weithredu strategaethau iechyd a llesiant (prifysgolion yn unig);
- £2,000,000 o gyllid ychwanegol ar gyfer cymorth iechyd a llesiant i ddysgwyr (prifysgolion a darparwyr addysg bellach (AB) sy’n derbyn cyllid addysg uwch yn uniongyrchol gan Medr).
2. Ar gyfer 2026/27, bydd Medr yn parhau i gefnogi nifer o brosiectau cenedlaethol sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau iechyd meddwl a llesiant. Bydd y rhain yn cael eu cyllido ar wahân drwy lythyr grant.
3. Mae’r cyllid hwn yn cyfrannu’n uniongyrchol at:
- Amod Rheoleiddio Llesiant Staff a Dysgwyr sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gael trefniadau effeithiol, gan gynnwys polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau, sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi llesiant a diogelwch staff a dysgwyr gan ddefnyddio hunanwerthusiadau parhaus i nodi cryfderau, bylchau a risgiau sy’n dod i’r amlwg er mwyn cynllunio gweithgareddau; a
- Fframwaith Iechyd Meddwl a Llesiant Cyffredin Medr sy’n darparu dull cyffredin o ymdrin â iechyd meddwl a llesiant ar draws addysg drydyddol yng Nghymru. Mae’n cefnogi datblygiad Map Cymorth sy’n helpu dysgwyr i gael mynediad at gymorth priodol, o ymyrraeth gynnar hyd at ymateb i argyfwng.
4. Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd parhaus cefnogaeth gref ar gyfer iechyd meddwl a llesiant ar draws y sector ôl-16. Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth iechyd meddwl a llesiant 2025 i 2035. Mae Medr yn disgwyl i bob darparydd ystyried y strategaeth iechyd meddwl a llesiant genedlaethol wrth ddatblygu ac adolygu ei strategaethau iechyd a llesiant, ei ddulliau o atal hunanladdiad a hunan-niwed a’i bolisïau llesiant.
5. Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio i Gymru. Mae Medr yn annog pob darparydd i gymryd rhan yn y Gymuned Ymarfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, a chyfrannu ati.
6. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr ystyried effeithiau croestoriadol ar lesiant emosiynol a meddyliol dysgwyr a staff. Dylai darparwyr felly ystyried sut mae’r cyllid iechyd meddwl a llesiant yn cyfrannu at y cynlluniau cydraddoldeb canlynol gan Lywodraeth Cymru:
- Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol;
- Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru;
- Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: strategaeth 2022 i 2026 a Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a cham-drin rhywiol: glasbrint lefel uchel o gynllun gweithredu;
- Cynllun Hawliau Pobl Anabl: 2025 i 2035.
7. Rhaid i ddarparwyr addysg uwch (AU) ddefnyddio canfyddiadau a chasgliad eu hasesiadau effaith cydraddoldeb eu hunain i lywio cynlluniau, polisïau a gweithdrefnau i ddangos bod camau gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth.
8. Dylai darparwyr ystyried y canllawiau atal hunanladdiad, a uwchlwythwyd i Padlet -cymuned ymarfer atal hunanladdiad mewn AU ac AB. Dylent hefyd ystyried goblygiadau’r Adolygiad Cenedlaethol o Hunanladdiadau Myfyrwyr AU ac ystyried camau gweithredu sy’n mynd i’r afael â’r argymhellion.
9. Dylai darparwyr ystyried defnyddio offeryn Fframwaith hunanwerthuso trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ar gyfer prifysgolion a darparwyr addysg uwch yng Nghymru i gefnogi prifysgolion i nodi angen, cynllunio a chyflawni ymyriadau i atal ac ymateb VAWDASV sy’n effeithio ar staff a myfyrwyr.
Dyraniadau cyllid
10. Yn 2026/27, bydd £4,350,000 (£2,350,000 o gyllid strategaeth yn Nhabl 1 a £2,000,000 o gyllid ychwanegol yn Nhabl 2) yn cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i sefydliadau AU a darparwyr addysg bellach sy’n derbyn cyllid addysg uwch yn uniongyrchol gan Medr.
Tabl 1: Dyraniadau strategaeth iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl 2026/27
| Darparydd | Dyraniad 2026/27 £ |
|---|---|
| University of South Wales | 344,032 |
| Prifysgol De Cymru | 139,920 |
| Prifysgol Bangor | 166,298 |
| Prifysgol Caerdydd | 527,668 |
| Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | 257,269 |
| Prifysgol Abertawe | 317,604 |
| Prifysgol Metropolitan Caerdydd | 205,436 |
| Prifysgol Wrecsam | 129,389 |
| Y Brifysgol Agored yng Nghymru | 262,384 |
| Cyfanswm | 2,350,000 |
Nodiadau: Data cofnod myfyrwyr HESA wedi’u dilysu ar gyfer 2024/25. Nifer y pennau – poblogaeth gofrestru safonol HESA, pob dull a lefel, wedi’i ostwng i nifer y pennau lle bo myfyrwyr wedi ymrestru ar fwy nag un cwrs.
Tabl 2: Cyllid ychwanegol iechyd a llesiant, 2026/27
| Darparydd | Dyraniad 2026/27 £ |
|---|---|
| Prifysgol De Cymru | 290,716 |
| Prifysgol Aberystwyth | 118,236 |
| Prifysgol Bangor | 140,526 |
| Prifysgol Caerdydd | 445,895 |
| Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | 217,400 |
| Prifysgol Abertawe | 268,384 |
| Prifysgol Metropolitan Caerdydd | 173,599 |
| Prifysgol Wrecsam | 109,337 |
| Y Brifysgol Agored yng Nghymru | 221,722 |
| Grŵp Llandrillo Menai | 11,634 |
| Grŵp Colegau NPTC | 1,587 |
| Coleg Gŵyr Abertawe | 439 |
| Coleg Cambria | 524 |
| Cyfanswm | 2,000,000 |
Nodiadau: Data cofnod myfyrwyr HESA wedi’u dilysu ar gyfer 2024/25. Nifer y pennau – poblogaeth gofrestru safonol HESA, pob dull a lefel, wedi’i ostwng i nifer y pennau lle bo myfyrwyr wedi ymrestru ar fwy nag un cwrs.
11. Yn 2026/27 byddwn yn dyrannu cyllid Tabl 1 a Thabl 2 mewn un gyfran drwy daliad ym mis Rhagfyr 2026.
Defnydd o’r cyllid
12. Rhaid i ddarparwyr sicrhau bod cyllid Iechyd Meddwl a Llesiant yn cael ei ddefnyddio i roi cefnogaeth effeithiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n bodloni anghenion eu dysgwyr a’u staff.
13. Gellir defnyddio dyraniadau strategaeth iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl, i gefnogi ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys (ymhlith eraill):
- darparu gwasanaethau, gweithgareddau, hyfforddiant ac adnoddau iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl, i staff a dysgwyr, sy’n cynnwys dysgwyr ôl-radd; dysgwyr rhyngwladol a dysgwyr mewn sefydliadau breiniol/partner;
- darparu gwasanaethau, gweithgareddau, hyfforddiant ac adnoddau iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl, a ddarperir yn ddwyieithog ac/neu ar wahân yn Gymraeg;
- darparu gwasanaethau, gweithgareddau, hyfforddiant ac adnoddau iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl, i sicrhau iechyd a llesiant staff a dysgwyr, gan gynnwys iechyd yr effeithir arno gan aflonyddwch, casineb a chamymddwyn a thrais rhywiol, waeth beth fo hunaniaeth yr unigolion;
- darparu gwasanaethau, gweithgareddau, hyfforddiant ac adnoddau iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl, i staff a dysgwyr â nodweddion gwarchodedig, neu ddarparu gwybodaeth am sut i’w cefnogi;
- ymestyn, gwella neu roi cymhorthdal ar gyfer cynnyrch urddas mislif a hylendid personol a/neu wasanaethau golchi dillad i’w myfyrwyr;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau sy’n rhoi ystyriaeth i ganfyddiadau ac argymhellion hunanasesiad Stepchange: mentally healthy universities gan Brifysgolion y DU;
- camau gweithredu y gellir eu hadnabod yn glir i fynd i’r afael â bylchau, blaenoriaethau neu argymhellion a nodir o ganlyniad i adolygiad y brifysgol o ddefnyddio offeryn hunanasesu Prifysgolion y DU;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau sy’n rhoi ystyriaeth i Fframwaith Diogelu Rhag Hunanladdiad Prifysgolion y DU a’r canllawiau atodol.
14. Ni ddylid defnyddio cyllid ar gyfer gwariant cyfalaf (e.e., prynu offer). Ni gwariant o’r fath yn gymwys ar gyfer cyllid.
15. O ganlyniad i’r cyllid hwn, nid yw darparwyr na’u Hundebau Myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am y Grant Urddas Mislif gan eu Hawdurdod Lleol o dan y Cynllun Gweithredu Balch o’r Mislif.
16. Mae prifysgolion a cholegau yn ddarostyngedig i’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr o 1 Awst 2026 ac felly, rhaid iddynt sicrhau bod eu Hundeb Myfyrwyr, neu gorff cyfatebol, yn cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yn gysylltiedig â’r cyllid hwn, a dangos hynny.
17. Yn unol â disgwyliadau’r Amod Rheoleiddio Llesiant Staff a Dysgwyr, dylai darparwyr ymgysylltu â chynrychiolwyr staff, gan gynnwys undebau llafur cydnabyddedig, lle bo’n briodol, fel rhan o’u trefniadau i hyrwyddo a chefnogi llesiant staff.
18. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr sy’n derbyn cyllid Medr yn uniongyrchol reoli a gwario eu dyraniadau 2026/27 yn llawn yn ystod y flwyddyn.
19. Mae Medr yn cadw’r hawl i ad-dalu cyllid lle na chaiff ei ddefnyddio yn unol â’r pwrpas a’r amodau a nodir yn y canllaw hwn. Mae hyn yn cynnwys cyllid heb ei wario a nodwyd drwy waith monitro neu wariant anghymwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.
Monitro ac adrodd
20. Nid yw’n ofynnol i ddarparwyr gyflwyno cynllun gweithredu annibynnol ar gyfer cyllid Iechyd Meddwl a Llesiant. Yn hytrach, bydd Medr yn defnyddio’r cynllun gweithredu llesiant dwy flynedd (sy’n ofynnol o dan yr Amod Rheoleiddio Llesiant Staff a Dysgwyr) i ddeall bwriadau darparwyr o ran cyflawni, a’u blaenoriaethau strategol.
21. Disgwylir i ddarparwyr gynnal deialog barhaus â Medr drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae’r dull hwn yn cefnogi ymyrraeth amserol, dysgu ar y cyd, a gwelliant parhaus ar draws y sector. Gallai hyn gynnwys:
- Codi materion sy’n dod i’r amlwg neu heriau cyflawni wrth iddynt ymddangos;
- Darparu diweddariadau drwy gyfarfodydd, rhwydweithiau a gweithgarwch ymgysylltu;
- Rhannu dysgu ac ymarfer.
22. Mae’n ofynnol i brifysgolion gyflwyno ffurflen fonitro diwedd blwyddyn i ddangos y defnydd o gyllid iechyd a llesiant 2026/27. Bydd gwaith monitro yn gyson â dulliau a ddefnyddiwyd yn y blynyddoedd diwethaf, a bydd disgwyl iddo ddarparu gwybodaeth a fydd yn cynnwys:
- cysondeb â fframweithiau cenedlaethol (gan gynnwys Stepchange Prifysgolion y DU a dulliau o ddiogelu rhag hunanladdiad);
- y defnydd o gyllid yn unol â’r dibenion a nodir yn y ddogfen hon;
- yr ymgysylltiad rhagweithiol â dysgwyr, drwy Undebau Myfyrwyr neu gyrff cyfatebol, wrth i ddarparwyr wneud penderfyniadau’n gysylltiedig â’r buddsoddiad hwn;
- effaith gweithgaredd ar ddysgwyr a staff, gan gynnwys rhai â nodweddion gwarchodedig;
- sut mae gweithgaredd yn cyd-fynd â gweithredu’r Fframwaith Iechyd Meddwl a Llesiant Cyffredin ac yn ei gefnogi, gan gynnwys datblygu a/neu ddefnyddio Map Cymorth, a thystiolaeth o gynnydd, meysydd i’w datblygu ymhellach, a heriau allweddol a gwersi i’w dysgu yn sgil gweithredu.
23. Darparwyr addysg bellach sy’n derbyn cyllid addysg uwch yn uniongyrchol gan Medr yn Nhabl 2 i gefnogi dysgwyr AU yn benodol. Dylid defnyddio’r templed monitro a ddarperir yn Medr/2026/26: Cronfa Cymorth a Llesiant 2026/27 – Cam 1: sefydliadau addysg bellach, i adrodd ar y gweithgarwch hwn.
24. Bydd gwaith monitro yn cynnwys cyfuniad o’r canlynol:
- ffurflenni meintiol, sy’n casglu gwybodaeth am weithgareddau a chyrhaeddiad.
- adrodd naratif, gan gynnwys cynnydd yn erbyn strategaethau a chamau gweithredu allweddol
- astudiaethau achos, yn dangos enghreifftiau o arfer ac effaith ar draws gwahanol ffrydiau cyllido;
- adroddiadau ariannol yn cadarnhau’r dyraniadau, y gwariant ac unrhyw danwariant.
25. Rhaid cyflwyno’r ffurflen fonitro wedi’i chwblhau erbyn dydd Gwener 24 Medi 2027.
26. Bydd Medr yn adolygu’r holl ffurflenni monitro i sicrhau bod cyllid wedi’i ddefnyddio yn unol â’r dibenion a’r disgwyliadau a nodir yn y canllawiau hyn. Gall Medr ofyn am ragor o wybodaeth gan ddarparwyr mewn amgylchiadau eithriadol.
27. Bydd Medr hefyd yn defnyddio gwybodaeth ar ffurflenni monitro i nodi a rhannu enghreifftiau o arfer, arloesi a dulliau sy’n dod i’r amlwg ar draws y sector. Bydd hyn yn cefnogi dysgu ar y cyd ac yn cyfrannu at ddatblygu a gwella’r ddarpariaeth iechyd meddwl a llesiant yn barhaus.
Asesu effaith ein polisïau
28. Rydym wedi diweddaru ein hasesiad effaith parhaus i ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Buom hefyd yn ystyried effaith y polisïau ar y Gymraeg, a darpariaeth Gymraeg yn sector trydyddol Cymru, a’r effeithiau posibl ar y nodau osodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
29. Mae canfyddiadau ein hasesiad effaith yn cynnwys:
- nodi effeithiau cadarnhaol tebygol ar y nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol.
- cadarnhad bod y cyllid yn cefnogi pump o’r saith nod llesiant ac yn rhoi ystyriaeth i’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- nodi bod y cyllid a’r gwaith monitro yn ceisio cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg.
Medr/2026/37: Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg uwch 2026/27
Dyddiad: 28 Gorffennaf 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/37
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; PPenaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol yng Nghymru
Ymateb erbyn: Ffurflen monitro – 24 Medi 2027
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn cadarnhau cyllid ac yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer ei ddefnyddio a’i fonitro.
Medr/2026/37 Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg uwch 2026/27Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/36: Cronfa Cymorth a Llesiant 2026/27 – Cam 1: sefydliadau addysg bellach
Rhagair
1. Yng nghyhoeddiad Medr Medr/2026/16: Buddsoddiad ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2026/27 (Mai 2026), cyflwynwyd amlen gyllido gyfun newydd, sef cyfuniad o 5 llinell gyllideb bresennol, ar gyfer y sector addysg bellach (AB) o dan y teitl gweithredol Cronfa Llesiant Dysgwyr. Yn dilyn rhagor o waith datblygu ac ymgysylltu, teitl ffurfiol y cyllid hwn bellach yw Y Gronfa Cymorth a Llesiant.
Diben a rhesymeg
2. Mae’r Gronfa Cymorth a Llesiant yn dod â phum ffrwd gyllido sy’n bodoli eisoes ynghyd i ffurfio fframwaith trosfwaol cyfun, gan gadw hunaniaeth y ffrydiau unigol:
- Cymorth Dysgu Ychwanegol (CDY) (Atodiad B)
- Cronfa Ariannol Wrth Gefn (Atodiad C)
- Adferiad a Chynnydd Dysgwyr (Atodiad D)
- Iechyd Meddwl a Llesiant (Atodiad E)
- Urddas Mislif (Atodiad C paragraff 24)
3. Er bod gofynion cyflawni pob ffrwd gyllido yn wahanol, maent gyda’i gilydd yn cynrychioli system gydgysylltiedig o gymorth i ddysgwyr ac wedi’u tanategu gan amcanion cyffredin cryf, sy’n cynnwys:
- Galluogi cymorth â ffocws i ddysgwyr sy’n agored i niwed ac o dan anfantais;
- Cefnogi cyfranogiad gweithredol;
- Gwella llesiant yn ei ystyr ehangach;
- Cael gwared â rhwystrau i ddysgu;
- Hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant.
4. Drwy newid i un gronfa gyffredinol rydym yn cydnabod mai darparwyr sydd yn y sefyllfa orau i ddeall y gydberthynas rhwng gwahanol fathau o gymorth ac ymhle y bydd adnoddau’n cael yr effaith fwyaf ar eu dysgwyr. Gall defnydd darparwyr o’r buddsoddiad hwn newid yn flynyddol. Mae hyn yn adlewyrchu bwriad strategol Medr i:
- Annog cydweithio i sicrhau mwy o gydlyniant a lleihau achosion o ail-wneud gwaith ar draws gwahanol ffrydiau cyllido;
- Galluogi dull mwy cyfannol o gefnogi dysgwyr;
- Rhoi mwy o ymreolaeth a hyblygrwydd i ddarparwyr;
- Cefnogi penderfyniadau lleol, yn seiliedig ar angen y dysgwr, er mwyn gwella effaith y buddsoddiad.
Dyraniad cyllid
5. Bydd pob darparydd yn derbyn dyraniad ar ffurf cyfanswm o dan y Gronfa Cymorth a Llesiant, sy’n cynnwys y dyraniadau cydrannol a roddir yn Nhabl 1.
6. Defnyddir blwyddyn academaidd 2026/27 fel cyfnod peilot ar gyfer y Gronfa Cymorth a Llesiant. Bydd hyn yn caniatáu i Medr a darparwyr:
- Brofi sut mae’r hyblygrwydd yn cael ei ddefnyddio yn ymarferol;
- Deall yr effeithiau ar ddysgwyr ac ar ddarpariaeth;
- Nodi risgiau, cyfyngiadau a chyfleoedd;
- Llywio datblygiad dull Cam 2 yn 2027/28.
Tabl 1: Dyraniadau darparwyr
| Sefydliad | Buddsoddiad Cymorth Dysgu Ychwanegol | Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn | Urddas mislif | Adferiad a Chynnydd Dysgwyr | Iechyd meddwl a llesiant | Cyfanswm y Gronfa Cymorth a Llesiant |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Coleg Penybont | £1,066,111 | £381,857 | £25,785 | £419,586 | £216,827 | £2,110,166 |
| Coleg Sir Gâr | £1,341,108 | £486,576 | £33,109 | £516,455 | £250,693 | £2,627,941 |
| Coleg Gwent | £2,957,320 | £1,056,786 | £70,784 | £1,165,073 | £541,070 | £5,791,033 |
| Grŵp Llandrillo Menai | £2,331,423 | £756,684 | £56,541 | £946,392 | £449,134 | £4,540,174 |
| Y Coleg Merthyr Tudful | £694,145 | £280,817 | £15,856 | £275,700 | £170,286 | £1,436,804 |
| Coleg Sir Benfro | £814,036 | £246,113 | £19,981 | £316,061 | £187,653 | £1,583,844 |
| Coleg Catholig Dewi Sant | £485,323 | £229,008 | £10,758. | £202,054 | £148,161 | £1,075,304 |
| Coleg Gŵyr Abertawe | £1,808,793 | £727,140 | £42,354 | £661,731 | £330,936 | £3,570,954 |
| Coleg Caerdydd a’r Fro | £2,558,705 | £970,363 | £60,727 | £858,871 | £468,139 | £4,916,805 |
| Coleg Cambria | £2,607,521 | £718,076 | £62,642 | £1,023,827 | £483,850 | £4,895,916 |
| Coleg y Cymoedd | £2,213,526 | £770,607 | £51,302 | £776,159 | £404,986 | £4,216,580 |
| Grŵp Colegau NPTC | £1,571,257 | £549,154 | £38,327 | £598,439 | £310,189 | £3,067,366 |
| Addysg Oedolion Cymru | £391,732 | £62,184 | £11,834 | — | £88,077 | £553,827 |
Strwythur y gronfa ar gyfer 2026/27
7. Beth sydd wedi newid:
- Mae’r pum ffrwd gyllido bellach wedi’u cynnwys o fewn un Gronfa Cymorth a Llesiant.
- Mae gan ddarparwyr fwy o hyblygrwydd i symud cyllid rhwng y cydrannau hyn.
- Cyflwynir un broses gynllunio i gofnodi blaenoriaethau strategol a bwriadau o ran cyflawni.
- Pan fydd arian yn cael ei drosglwyddo o ffrwd gyllido gydrannol i ffrwd arall, bydd y cyllid a drosglwyddir yn ddarostyngedig i ganllawiau a gofynion y gydran y mae’r cyllid yn cael ei symud iddi.
8. Beth sydd heb newid:
- Mae pob un o’r pum ffrwd gyllido gydrannol yn dal i fodoli.
- Mae canllawiau manwl sy’n amlinellu gweithgarwch cymwys a disgwyliadau ar gyfer pob ffrwd gydrannol yn parhau i fod ar waith. Sylwch fod canllawiau ar gyllid Urddas Mislif wedi’u hymgorffori yng nghanllawiau’r Gronfa Wrth Gefn Ariannol.
- Mae cyllid Iechyd Meddwl a Llesiant yn cefnogi dysgwyr a staff.
Gofynion darparwyr a chanllawiau ategol
9. Mae’n ofynnol i bob darparydd AB gyflwyno Cynllun Cronfa Cymorth a Llesiant (Atodiad A) erbyn 9 Hydref 2026 i [email protected].
10. Bydd Medr yn adolygu’r holl gynlluniau a gyflwynir i sicrhau bod:
- Sail resymegol glir a thystiolaeth o angen i gefnogi dyraniadau a gynigir;
- Y risgiau a’r effeithiau posibl wedi’u nodi a’u lliniaru’n briodol;
- Unrhyw gyllid sy’n cael ei symud yn gyson â diben cyffredinol y Gronfa Cymorth a Llesiant.
11. Bydd Medr yn rhoi adborth ar gynlluniau erbyn 3 Tachwedd 2026. Gall hyn gynnwys ceisiadau am ragor o wybodaeth neu eglurhad a thrafodaeth lle bo pryderon ynghylch yr effaith ar ddysgwyr.
12. Bydd yn ofynnol i ddarparwyr roi diweddariad ar gynlluniau cyflawni a gwariant erbyn 12 Chwefror 2027. Bydd hyn yn cynnwys:
- Cynnydd yn erbyn y cynlluniau gwreiddiol;
- Newidiadau a wnaed i ddyraniadau (os o gwbl);
- Effeithiau a chanlyniadau sy’n dod i’r amlwg;
- Y sefyllfa ddiweddaraf o ran risg a mesurau lliniaru.
13. Er bod y gronfa wedi’i chyflwyno fel un dyraniad ar gyfer 2026/27, dylid darllen y ddogfen hon ochr yn ochr â chanllawiau manwl ar gyfer pob cydran gyllido.
14. Bydd gwaith monitro yn dal i ddigwydd ar lefel y cydrannau. Darperir trefniadau adrodd a manylion pellach yn y dogfennau canllaw unigol.
15. Bydd unrhyw danwariant yn erbyn cyfanswm dyraniad darparydd o’r Gronfa Cymorth a Llesiant yn cael ei hawlio’n ôl yn llawn. Bydd symiau sydd i’w hawlio’n ôl yn cael eu cyfrifo ar ôl cyflwyno’r disgwyliadau monitro gofynnol ar gyfer pob ffrwd gyllido gydrannol. Ni fydd cyfle i gario cyllid heb ei wario ymlaen i’r blynyddoedd nesaf.
16. Bwriedir datblygu dull Cam 2 ar gyfer 2027/28, yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd eleni. Bydd Medr yn ymgysylltu â’r sector yn ystod diwedd hydref/dechrau gwanwyn 2026/27 i lywio’r cam nesaf ac ystyried effaith wirioneddol y dull hwn. Byddwn yn ystyried adborth darparwyr a phrofiadau cyflawni ac yn archwilio modelau cyllido a monitro i’r dyfodol. Ceisir adborth ochr yn ochr â diweddariad Chwefror 2027 a thrwy weithgarwch ymgysylltu ychwanegol.
Asesu effaith ein polisïau
17. Rydym wedi cwblhau Asesiad Effaith Integredig i ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, effeithiau economaidd-gymdeithasol, llais y dysgwr, ystyriaethau’r Gymraeg ac effeithiau posibl y Gronfa Cymorth a Llesiant ar y nodau llesiant a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
18. Mae effeithiau cadarnhaol disgwyliedig wedi’u nodi a fydd yn deillio o gyflwyno’r Gronfa Cymorth a Llesiant, yn enwedig o ran gwella cydlyniant, hyblygrwydd a gallu’r gronfa gymorth i ymateb i anghenion. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol tebygol ar y cam hwn.
19. Mae llawer o’r effeithiau’n parhau i fod yn seiliedig ar ragolygon, yn hytrach na bod tystiolaeth ohonynt. Bydd Medr felly yn monitro gweithrediad, defnydd darparwyr o elfen hyblyg y cyllid a’r effeithiau sy’n dod i’r amlwg drwy gydol y flwyddyn i sicrhau bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn cael eu nodi, ac i lywio datblygiad y gronfa yn y dyfodol.
20. Mae canfyddiadau ein hasesiad effaith yn cynnwys:
- Nodi effeithiau cadarnhaol tebygol ar gyfer dysgwyr ag anableddau a’r rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
- Nodi effeithiau cadarnhaol tebygol ar draws nodweddion gwarchodedig anabledd a rhyw. Ni nodwyd unrhyw effeithiau niweidiol tebygol ar gydraddoldeb.
- Mae’r gronfa’n cyfrannu’n gadarnhaol at nifer o nodau a dangosyddion llesiant cenedlaethol, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a lleihau rhwystrau i ddysgu.
- Ni nodwyd unrhyw effeithiau niweidiol ar y Gymraeg.
Medr/2026/36: Cronfa Cymorth a Llesiant 2026/27 – Cam 1: sefydliadau addysg bellach
Dyddiad: xx Gorffennaf 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/36
At: Benaethiaid colegau addysg bellach
Ymateb erbyn: 09 October 2026
Crynodeb: Mae’r Gronfa Cymorth a Llesiant yn dod â phum ffrwd gyllido sy’n bodoli eisoes ynghyd i ffurfio fframwaith trosfwaol cyfun:
* Cymorth Dysgu Ychwanegol
* Cronfa Ariannol Wrth Gefn
* Adferiad a Chynnydd Dysgwyr
* Iechyd Meddwl a Llesiant
* Urddas Mislif
Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am ei ddefnydd a’i ofynion.
Dogfennau eraill
- Medr/2026/36 Atodiad A
- Medr/2026/36 Atodiad B Canllawiau Cyllid Cymorth Dysgu Ychwanegol Addysg Bellach
- Medr/2026/36 Atodiad C Cronfa Ariannol Wrth Gefn 2026/27 Addysg Bellach
- Medr/2026/36 Atodiad D Manyleb y Rhaglen Cyllid Adferiad a Chynnydd Dysgwyr: Sefydliadau addysg bellach
- Medr/2026/36 Atodiad E Cronfa Iechyd Meddwl a Llesiant 2026/27 addysg bellach
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/35: Gofynion Data Addysg Uwch 2026/27
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn hysbysu darparwyr addysg uwch (DAUwyr) am y data addysg uwch (AU) a ddefnyddir i’r dibenion canlynol:
- cyfrifo dyraniadau cyllid;
- monitro Mesurau Cenedlaethol;
- monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth;
- darparu data i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg;
- cyhoeddiadau;
- dadansoddi ansawdd data cofnodion myfyrwyr HESA;
- monitro hepgoriadau ffioedd rhan-amser;
- monitro prentisiaethau gradd;
- cyhoeddi Ystadegau Swyddogol;
- monitro darpariaeth Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) mewn Addysg Bellach (AB)
- llywio polisi.
2. Yn y cyhoeddiad hwn, mae Sefydliadau Addysg Uwch yn cynnwys sefydliadau addysg bellach (SABau) sy’n darparu addysg uwch a sefydliadau addysg uwch (SAUau), a gyllidir gan Medr. Cynhwysir hefyd ddarparwyr sy’n tanysgrifio i HESA i ddychwelyd data ar gyrsiau a ddarperir ganddynt sydd wedi’u dynodi’n benodol, ond nad ydynt yn cael eu cyllido gan Medr am eu darpariaeth addysg uwch. Nid yw’r darparwyr hyn wedi’u cynnwys yn y data na’r dadansoddiadau sy’n gysylltiedig â chyllido, ond maent wedi’u cynnwys ym mheth o’r data a’r dadansoddiadau eraill a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn. Nodir y data a gynhwysir yn ôl math o ddarparydd o dan y penawdau unigol isod, gyda chrynodeb pellach yn y tabl yn Atodiad R.
3. Mae’r mapio yn yr atodiadau sy’n ymwneud â data myfyrwyr yn seiliedig ar ddata cofnodion myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) a gesglir gan Jisc ar gyfer blwyddyn casglu data 2025/26. Mae’r mapio a gyflwynwyd wedi’i brofi ar ddata a ddychwelwyd ar gofnod myfyrwyr HESA ar gyfer 2024/25 a chyflwyniadau cynnar ar gyfer 2025/26. Rydym yn croesawu unrhyw adborth sydd gan ddarparwyr ar y mapio yn yr atodiadau, naill ai yn ystod proses gyflwyno 2025/26 fel y gallwn wneud newidiadau ar unwaith i raglenni’r Gwasanaeth Rhyngwyneb Adrodd Gwybodaeth (IRIS) yn ôl yr angen, neu i gyfrannu at ein hadolygiad o’r mapio hwn yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dylid anfon unrhyw sylwadau sydd gan ddarparwyr at [email protected]. Mae mapiau ar gyfer echdynnu data monitro diwedd blwyddyn wedi’u cynnwys yn Atodiad K o’r Cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn. Croesewir sylwadau ar y mapio hwnnw hefyd. Bydd unrhyw newidiadau sylweddol i’r mapio, naill ai yn y ddogfen hon neu yn y cyhoeddiad monitro diwedd blwyddyn, a wneir yn ystod y broses gyflwyno, yn cael eu rhannu â darparwyr.
4. Os ceir unrhyw broblemau mawr wrth echdynnu data yn ystod y broses gyflwyno, er enghraifft problemau gyda’r mapio, system IRIS neu broblemau gyda darparwyr unigol, sy’n golygu nad oes modd defnyddio unrhyw allbwn, neu gyfran o allbwn IRIS, mae’n bosibl y bydd data yn cael eu hailechdynnu ar ôl casglu. Os yw hyn yn debygol, byddwn yn hysbysu darparwyr.
5. Nid yw dulliau cyllido ar gyfer 2027/28 yn derfynol ar adeg cyhoeddi’r cylchlythyr hwn a gallai rhai dulliau dyrannu newid. Y dulliau cyllido a geir yn y cylchlythyr hwn yw’r dulliau ar gyfer 2026/27. Tybir, er mwyn echdynnu data, y bydd y dulliau cyllido yn aros yr un peth ar gyfer 2027/28.
Prif newidiadau ar gyfer 2026/27 o gymharu â 2025/26
6. Dyma’r prif newidiadau sydd wedi’u cynnwys yn y cyhoeddiad hwn o gymharu â chyhoeddiad Medr Medr/2025/14: Gofynion Data Addysg Uwch 2025/26:
- Mae Atodiad E wedi’i ddiweddaru i amlinellu’r dulliau echdynnu data sy’n gysylltiedig â chyhoeddiadau Ystadegau Swyddogol Medr.
- Mae Atodiad F wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau a wnaed ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar adolygu allbynnau’r dadansoddiad o ansawdd data. Mae’r atodiad yn cynnwys crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae manylion yr allbynnau wedi’u diweddaru ar gyfer 2025/26 na chawsant eu gweithredu yn IRIS 2024/25, ac unrhyw newidiadau lle bydd angen gwaith pellach wedi’u cynnwys yn Atodiad S. Rydym hefyd wedi cynnwys taflenni ychwanegol yn allbynnau’r dadansoddiad ansawdd data sy’n dangos y data myfyrwyr a ddefnyddiwyd yn y tablau.
- Mae Atodiad P newydd wedi’i gyflwyno i amlinellu’r dull echdynnu data sy’n gysylltiedig â data a ddefnyddir wrth gyfrifo cyllid lleoliadau Addysg Gychwynnol Athrawon (Statws Athro Cymwysedig).
- Mae Atodiad Q newydd wedi’i gyflwyno i amlinellu’r dull echdynnu data sy’n gysylltiedig â data a ddefnyddir i nodi myfyrwyr Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) ymhlith myfyrwyr Addysg Bellach (AB).
Cynnwys
7. Dyma gynnwys yr atodiadau:
| Atodiad A | Data a ddefnyddir wrth ddyrannu cyllid addysgu |
| Atodiad B | Data a ddefnyddir ar gyfer dyraniadau cyllid ymchwil |
| Atodiad C | Data a ddefnyddir wrth ddyrannu cyllid hyfforddiant Ymchwil Ôl-radd |
| Atodiad D | Data a ddarperir i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
| Atodiad E | Data a ddefnyddir yng nghyhoeddiadau Ystadegau Swyddogol Medr |
| Atodiad F | Data a ddarperir i ddarparwyr addysg uwch yn y dadansoddiad o ansawdd data cofnodion myfyrwyr HESA |
| Atodiad G | Data a ddefnyddir ar gyfer dyrannu a monitro’r cynllun hepgor ffioedd israddedig rhan-amser |
| Atodiad H | Data a ddefnyddir i ddadansoddi incwm |
| Atodiad I | Data a ddefnyddir ar gyfer monitro mesurau cenedlaethol |
| Atodiad J | Data a ddefnyddir i fonitro ac addasu cyllid prentisiaethau gradd |
| Atodiad K | Data a ddefnyddir wrth gyfrifo Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru |
| Atodiad L | Data a ddefnyddir wrth gyfrifo cyllid gwrth-hiliol a chyllid llesiant ac iechyd meddwl |
| Atodiad M | Data a ddefnyddir mewn dyraniadau cymorth cyflogadwyedd wedi’u targedu |
| Atodiad N | Data a ddefnyddir wrth gyfrifo cyllid cyfalaf |
| Atodiad O | Data a ddefnyddir wrth gyfrifo cyllid Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru |
| Atodiad P | Data a ddefnyddir wrth gyfrifo cyllid lleoliadau Addysg Gychwynnol Athrawon (Statws Athro Cymwysedig) |
| Atodiad Q | Data a ddefnyddir i nodi myfyrwyr Tystysgrif Addysg i Raddedigion mewn Addysg Bellach |
| Atodiad R | Manylion yr allbynnau y bydd pob math o ddarparydd yn eu derbyn drwy IRIS a’r gofynion cymeradwyo cysylltiedig |
| Atodiad S | Crynodeb o newidiadau i Ddadansoddiad Ansawdd Data IRIS yn dilyn adolygiad 2025 |
Rhagor o wybodaeth
Mae croeso i ddarparwyr gysylltu â ni os oes arnynt angen rhagor o eglurder neu os oes ganddynt sylwadau am y mapiadau a amlinellir yn yr atodiadau; bydd unrhyw ddiweddariadau pellach sy’n ofynnol yn cael eu cyfleu i ddarparwyr.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn at Rachael Clifford ([email protected]).
Medr/2026/35: Gofynion Data Addysg Uwch 2026/27
Dyddiad: 16 Gorffennaf 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/35
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch; Penaethiaid darparwyr sy’n dychwelyd data ar ddapariaeth cyrsiau wedi’u dynodi’n benodol ar gofnod myfyrwyr HESA
Ymateb erbyn: 27 Tachwedd 2026
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad yn hysbysu darparwyr addysg uwch am y data addysg uwch a ddefnyddir i gyfrifo dyraniadau cyllid; i fonitro Mesurau Cenedlaethol; i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth; ar gyfer cyhoeddi; ar gyfer darpariaeth i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol; ar gyfer dadansoddiad o ansawdd data cofnodion myfyrwyr HESA; i fonitro hepgoriadau ffioedd rhan-amser a phrentisiaethau gradd; ac i lywio polisi.
Medr/2026/35 Gofynion Data Addysg Uwch 2026/27Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/34: Trywydd Golwg Fyd-eang Medr
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi sut y byddwn yn cyflawni ein dyletswydd strategol i hybu golwg fyd-eang ar draws addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru.
2. Mae ein map trywydd Golwg Fyd-eang, yn Atodiad A, yn amlinellu’r hyn yr ydym ni a’r sector addysg drydyddol ac ymchwil eisoes yn ei wneud yn y maes hwn, a sut y byddwn yn cynorthwyo darparwyr i ddatblygu ymgysylltiad rhyngwladol. Drwy ddarparu gwybodaeth a mewnwelediad, galluogi cydlafurio, a monitro a sganio’r gorwel, ei nod yw gwella’r canlynol:
- hybu symudedd
- galluogi cydlafurio rhyngwladol, a
- cynyddu i’r eithaf y budd i Gymru.
3. Byddwn yn helpu i hwyluso ymgysylltu rhyngwladol drwy adeiladu ar ein cymorth cyfredol a chanolbwyntio ar gamau gweithredu sy’n ymdrin â risgiau, yn pontio bylchau mewn darpariaeth, yn galluogi mwy o gynrychiolaeth a chyfranogiad gan ddarparwyr a dysgwyr Cymru mewn gweithgarwch rhyngwladol, yn ogystal â hybu datblygiad gwybodaeth ac arbenigedd.
4. Cefnogir y map trywydd gan Map trywydd Golwg Fyd-eang Medr: Cefndir, cyd-destun a dull, yn Atodiad B. Mae hwn yn amlinellu’n fanylach y broses a ddefnyddiwyd i ddylunio’r map trywydd, y cyd-destun y’i datblygwyd ynddo, a sut y bydd gweithgarwch newydd a gweithgarwch sy’n bodoli eisoes yn galluogi Medr i gyflawni ei ddyletswyddau strategol drwy ganolbwyntio ar dri maes thematig:
- Darparu gwybodaeth a mewnwelediad
- Galluogi cydlafurio
- Monitro a sganio’r gorwel
5. Bydd y dull o gyflawni’r map trywydd Golwg Fyd-eang yn barhaus yn blaenoriaethu ymgysylltu a chydlafurio – gartref ac yn rhyngwladol – ac yn canolbwyntio ar gyflawni’r deilliannau gorau posibl i Gymru, ein dysgwyr a’n darparwyr addysg.
Rhagor o wybodaeth
6. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cylchlythyr hwn at Bill Burson: ([email protected]).
Medr/2026/34: Trywydd Golwg Fyd-eang Medr
Dyddiad: 14 Gorffennaf 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/34
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid colegau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg; Deiliaid contract prentisiaeth
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi sut y bydd Medr yn cyflawni ei ddyletswydd strategol i hybu golwg fyd-eang ar draws addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru.
Medr/2026/34 Trywydd Golwg Fyd-eang MedrDogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/33: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2026/27
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi canllawiau i gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch, ynghyd â dyraniadau cyllid gwrth-hiliaeth, disgwyliadau o ran arian cyfatebol, a gofynion monitro ar gyfer 2026/27.
2. Darparwyd y cyllid hwn yn wreiddiol yng nghylchlythyr CCAUC W22/05HE: Ymgynghoriad ar gyllid i gefnogi cydraddoldeb hiliol mewn addysg uwch i ymdrin â gwrth-hiliaeth a chefnogi newid diwylliant mewn addysg uwch, yn unol â datblygiadau polisi hil, mynediad a llwyddiant yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Roedd y cyhoeddiad cychwynnol yn cynnwys amodau arian cyfatebol a’r disgwyliad i brifysgolion ennill dyfarniad siarter cydraddoldeb hiliol erbyn 2024/25. Cadarnhaodd pob prifysgol y cyflawniad hwn erbyn mis Ebrill 2025.
3. Dylid darllen y cyhoeddiad hwn ar y cyd â chylchlythyr CCAUC W23/06HE: Addysg uwch ddiogel a chynhwysol: cefnogi addysg cydraddoldeb ac amrywiaeth. Ym mis Hydref 2024 cyhoeddodd Medr ei ganllawiau ar gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch 2024/25 a osododd y cefndir ar gyfer y sector addysg uwch ac a ddilynwyd gan y cyhoeddiad canllawiau ar gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch 2025/26 ym mis Hydref 2025.
4. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030. Yn 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn newydd o’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i sicrhau cynnydd cyflym yn erbyn camau penodol, gan gynnwys camau’n gysylltiedig ag addysg drydyddol. Rydym yn disgwyl i brifysgolion ystyried y camau gweithredu hyn a chyfrannu atynt.
5. Rydym yn croesawu’r ffaith bod wyth prifysgol yng Nghymru yn parhau i wneud cynnydd yn erbyn eu cynlluniau gweithredu gwrth-hiliol, fel y’u datblygwyd drwy’r siarter cydraddoldeb hiliol. Mae’r siarter yn cefnogi’r broses o ddatblygu’n brifysgol wrth-hiliol. Rydym yn disgwyl i bob prifysgol barhau i gyflawni yn erbyn eu cynlluniau gweithredu ar gyfer y siarter yn 2026/27.
Dyletswyddau a chyfrifoldebau Medr
6. Mae gan Medr ddyletswydd strategol i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn addysg drydyddol, gan gynnwys y modd y mae hyn yn berthnasol i grwpiau tangynrychioledig a phobl â nodweddion gwarchodedig. Rhoddir esboniad manwl ym mharagraffau 8-11 Medr/2024/03.
7. Mae Medr wedi cyhoeddi ei gynllun strategol sy’n nodi ein hymrwymiad i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r sector i wneud cynnydd tuag at greu Cymru wrth-hiliol ac at sicrhau amgylcheddau dysgu a gwaith sy’n gynhwysol i bawb, waeth beth fo’u hunaniaeth. Mae cynllun gweithredol Medr hefyd yn egluro y byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a darparwyr addysg drydyddol i gyfrannu at y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys: monitro cynnydd darparwyr addysg drydyddol yn erbyn cynlluniau gweithredu ac/neu ymrwymiadau siarter, a datblygu a chyhoeddi data monitro cydraddoldeb hiliol.
8. Ym mis Ebrill 2026 cyhoeddodd Medr ei amodau rheoleiddio sy’n cynnwys gofynion ar gyfer yr amod lles staff a dysgwyr. Fel rhan o’r rheoliad, mae’n rhaid i sefydliadau gynnal hunanwerthusiad a chyflwyno cynllun gweithredu lles dwy flynedd i Medr. Bydd amod cyfle cyfartal Medr yn dod i rym yn 2027/28. Er mwyn cyfrannu at fodloni’r gofynion hyn yn gysylltiedig â’r amod rheoleiddio, bydd disgwyl i brifysgolion barhau i gydymffurfio â’u hymrwymiadau gwrth-hiliaeth.
9. Cryfhaodd Diweddariad Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru bwyslais y Llywodraeth ar arweinyddiaeth a grwpiau â blaenoriaeth. Disgwylir y bydd atebolrwydd am ymrwymiad prifysgolion i wrth-hiliaeth yn cael ei oruchwylio gan yr aelodau uwch priodol o staff (fel Dirprwy Is-Gangellorion) gyda chefnogaeth cyrff llywodraethu. Disgwylir i brifysgolion hefyd wella’u hymgysylltiad â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a’u cefnogaeth i’r cymunedau hynny.
Pwrpas cyllid gwrth-hiliaeth
10. Mae’r cyllid hwn i atal anghydraddoldeb, mynd i’r afael â hiliaeth a chefnogi’r broses o ymwreiddio polisïau ac arferion gwrth-hiliol mewn prifysgolion. Mae’n cyfrannu at newid diwylliant ac at fodloni disgwyliadau’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru.
11. Er bod y cyllid hwn wedi’i fframio o ran hil ac ethnigrwydd, dylai prifysgolion fabwysiadu dull cyfannol o gydnabod sut mae hil ac ethnigrwydd yn croestorri â nodweddion gwarchodedig a grwpiau a materion eraill o fewn cymdeithas, gan gynnwys trais, cam-drin ac aflonyddu ar sail hunaniaeth, llesiant ac iechyd meddwl, ffoaduriaid a cheiswyr lloches a chrefydd a chred, ymhlith eraill.
Dyraniadau ac amodau cyllid ar gyfer 2026/27
12. Mae dyraniadau cyllid 2026/27:
- yn amodol ar ymrwymiad gan brifysgolion i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer dyraniadau (fel mewn blynyddoedd cynt, ac fel y nodir yn y tabl cyllido isod);
- yn defnyddio data myfyrwyr 2024/25 HESA sy’n seiliedig ar boblogaeth gofrestru safonol HESA, wedi’i ostwng i nifer yr unigolion, h.y. os bydd myfyriwr wedi cofrestru ar fwy nag un cwrs ni chaiff ond ei gyfrif unwaith);
- yn defnyddio data myfyrwyr sy’n cynnwys yr holl gorff o fyfyrwyr: pob dull, lefel a domisil;
- yn seiliedig ar ddata HESA 2024/25 sydd wedi’u dilysu gan y brifysgol;
- yn ôl ein harfer, mae data myfyrwyr y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama wedi’u cynnwys yn nata a dyraniad Prifysgol De Cymru; ac
- yn cael eu cyflwyno ar ffurf un taliad ym mis Hydref 2026. Os yw’r adroddiadau’n anfoddhaol neu’n gyfyngedig, rydym yn cadw’r hawl i adennill cyllid.
13. Dyma ein disgwyliadau ar gyfer defnyddio arian cyfatebol:
- na ddylai dyraniad Medr arwain at unrhyw ostyngiad yn yr adnoddau a ddarperir eisoes gan brifysgolion ar gyfer datblygiadau gwrth-hiliol, gan gynnwys eu hymrwymiad i sicrhau a dangos cynnydd ac ymrwymiad parhaus tuag at ennill eu hachrediad siarter;
- bod prifysgolion yn clustnodi adnoddau ychwanegol i gefnogi camau gwrth-hiliaeth, sy’n uwch na chyfanswm dyraniad Medr o £1m;
- lle caiff unrhyw weithgareddau neu wasanaethau gwrth-hiliaeth sy’n bodoli eisoes eu hariannu drwy gynllun mynediad a ffioedd neu o ffynonellau eraill yn 2026/27, ceir defnyddio’r cyllid a ddarperir gan Medr drwy’r canllawiau hyn neu drwy’r arian cyfatebol gwrth-hiliaeth cysylltiedig i brifysgolion er mwyn cynyddu darpariaeth y gweithgareddau a’r gwasanaethau hyn (mae cynlluniau mynediad a ffioedd yn parhau i fod yn weithredol yn 2026/27 nes bo’r broses gofrestru newydd ar gyfer cyfle cyfartal yn weithredol o 2027/28). Yn yr achos hwn, bydd yn rhaid i’r brifysgol gyfleu’n glir ym mhob adroddiad ac mewn unrhyw waith monitro cydraddoldeb hiliol, sut ac i ba raddau y mae’r cyllid hwn wedi gwella gweithgareddau a gwasanaethau, a gallai hynny fod yn destun archwiliad gennym ni;
- ceir defnyddio arian cyfatebol neu arian Medr i dalu costau tanysgrifiadau aelodaeth perthnasol, hyfforddiant wedi’i hwyluso’n allanol neu arbenigedd arall allanol;
- rhaid i brifysgolion gyfrannu’n effeithiol at nodau a chamau gweithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol;
- bod prifysgolion yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r safonau a nodir yn y Siarter Cydraddoldeb Hiliol a’r camau yn eu cynllun gweithredu;
- bod prifysgolion yn cydweithredu’n effeithiol ar draws y sector trydyddol a chyda phartneriaid allanol, gan gynnwys rhai â phrofiad bywyd, i ddatblygu a rhannu dysgu ac ymarfer; a
- bod yr arian cyfatebol a dyraniad Medr yn arwain at gynyddu cynnydd a chyflymder y cynnydd tuag at ymdrin â hiliaeth, i ymwreiddio arferion gwrth-hiliaeth, gwella cydraddoldeb hiliol, a gweithio tuag at ddyfarniad siarter/parhau i gyflawni dyfarniad siarter.
14. Dyma ddyraniadau 2026/27:
| Sefydliad | Dyraniad Medr 2026/27 (gydag isafswm o £50K) £ | Arian cyfatebol y sector 2026/27 (dim isafswm) £ | 2026/27 Cyfanswm £ |
|---|---|---|---|
| Prifysgol De Cymru | 146,396 | 146,396 | 321,132 |
| Prifysgol Aberystwyth | 59,540 | 59,540 | 107,762 |
| Prifysgol Bangor | 70,765 | 70,765 | 147,660 |
| Prifysgol Caerdydd | 224,540 | 224,540 | 449,443 |
| Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | 109,476 | 109,476 | 212,320 |
| Prifysgol Abertawe | 135,131 | 135,151 | 288,679 |
| Prifysgol Metropolitan Caerdydd | 87,420 | 87,420 | 155,896 |
| Prifysgol Wrecsam | 55,059 | 55,059 | 108,689 |
| Y Brifysgol Agored yng Nghymru | 111,653 | 111,653 | 208,420 |
| Cyfanswm | 1,000,000 | 1,000,000 | 2,000,000 |
Adnoddau a gwybodaeth
15. Ym mis Gorffennaf 2023 cyhoeddodd Prifysgolion y DU Tackling racial harassment in higher education: progress since 2020 i adolygu effaith canllawiau 2020 ar sut mae prifysgolion yn mynd i’r afael ag aflonyddu hiliol mewn AU a sut y gallant wella ymhellach. Mae Prifysgolion y DU hefyd wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau ar newid y diwylliant ac ar grefydd a chred, gan fynd i’r afael â gwrthsemitiaeth ac Islamoffobia) i ddarparu canllawiau ymarferol er mwyn llywio ystyriaethau hiliol. Yn 2024, cyhoeddodd Prifysgolion y DU ac NUS y DU lythyr i’r sector yn amlinellu ei ymdrechion i fynd i’r afael â iaith casineb a hiliaeth, i leddfu ofn, i wella cysylltiadau cymunedol ac i amddiffyn rhyddid i lefaru.
16. Ym mis Mawrth 2024, lansiodd y Black Leadership Group Higher Education Anti-Racism Toolkit (HEART). Mae’n cynnwys cynllun deg pwynt i ymwreiddio gwrth-hiliaeth mewn systemau addysg uwch (Gan gynnwys strategaeth, addysgeg a phrofiadau myfyrwyr a staff). Gallai’r adnodd hwn fod yn ddefnyddiol i brifysgolion.
17. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu matrics aeddfedrwydd fel offeryn hunanasesu sy’n gysylltiedig â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae’r matrics aeddfedrwydd wedi’i gynnwys yn Atodiad A er gwybodaeth. Efallai y bydd prifysgolion yn gweld bod hwn yn adnodd defnyddiol wrth adolygu arweinyddiaeth a threfniadau llywodraethu a thrafod eu cynlluniau gweithredu lles staff a dysgwyr o 2026/27.
18. O fis Mai 2026 ymlaen mae Medr wedi ariannu AU Ymlaen i sefydlu cymuned ymarfer Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant er mwyn cynorthwyo sefydliadau i gyflawni eu hymrwymiadau ac i rannu a phrofi arferion cadarnhaol, gan gynnwys arferion yn gysylltiedig â gwrth-hiliaeth.
Cyflawniadau a monitro
19. Dylai gwybodaeth monitro a chyflawniadau ar gyfer 2026/27 adeiladu ar y cynlluniau ar gyfer 2024/25 a 2025/26 a gyflwynwyd i Medr, a bod yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o broses y siarter cydraddoldeb hiliol a chanlyniadau cynlluniau gweithredu, yn ogystal â phrofiadau staff a dysgwyr. Mae templed monitro wedi cael ei ddarparu yn Atodiad B a dylai’r dogfennau a anfonir atom gynnwys:
- Cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth 2026/27 y brifysgol,
- Templed monitro’r brifysgol, gan gynnwys cynnydd a chyflawniadau hyd at fis Gorffennaf 2027; a
- Datganiad ariannu i roi cyfrif am ddyraniad Medr ac arian cyfatebol y brifysgol.
20. Os yw cynlluniau gweithredu’r prifysgolion yr un peth â’u cynlluniau gweithredu siarter cydraddoldeb hiliol, gallant gyflwyno cynllun gweithredu’r siarter er mwyn osgoi ail-wneud gwaith a lleihau’r baich o orfod adrodd yn ddiangen.
21. Os bydd Llywodraeth Cymru yn gosod disgwyliadau newydd ar addysg uwch neu’r sector trydyddol yn ystod y cyfnod cyllido, mae’n bosib y byddwn yn gofyn am friffiau gwybodaeth ychwanegol ac/neu’n gofyn fonitro ychwanegol.
Dyddiadau monitro a chyflwyno ar gyfer cyllid ac adroddiadau 2026/27
22. Y dyddiad cyflwyno ar gyfer cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth prifysgolion yw Dydd Llun, 12 Hydref 2026. Cyflwynwch i [email protected].
23. Dyddiad cyflwyno templed monitro 2026/27 yw Dydd Llun, 18 Hydref 2027. Dychwelwch y ddogfen fonitro wedi’i chwblhau (Atodiad B) i [email protected].
Asesu effaith ein polisïau
24. Rydym wedi cynnal ymarfer sgrinio asesu effaith er mwyn helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb. Rydym yn rhagweld effaith gadarnhaol ar hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd a chred.
25. Buom hefyd yn ystyried effaith y polisi hwn ar y Gymraeg, a darpariaeth Gymraeg yn sector AU Cymru, a’r effeithiau posibl ar y nodau a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cysylltwch ag [email protected] am ragor o wybodaeth am asesiadau effaith cydraddoldeb.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau i’w cyflwyno
26. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Savanna Jones ([email protected]).
27. Cyflwynwch eich cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth i [email protected] erbyn Dydd Llun, 12 Hydref 2026.
28. Cyflwynwch eich templed monitro i [email protected] erbyn Dydd Llun, 18 Hydref 2027.
Medr/2026/33: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2026/27
Dyddiad: 13 Gorffennaf 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/33
At: Benaethiaid prifysgolion yng Nghymru
Ymateb erbyn: 12 Hydref 2026 ac 18 Hydref 2027 i [email protected]
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu canllawiau i gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch, a dyraniadau cyllid gwrth-hiliaeth, disgwyliadau o ran arian cyfatebol, a gofynion monitro ar gyfer 2026/27.
Medr/2026/33 Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2026/27Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/32: Monitro Diwedd Blwyddyn ar gyfer Ymrestriadau Addysg Uwch 2025/26
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi diffiniadau a chanllawiau i sefydliadau addysg uwch (SAUau) a sefydliadau addysg bellach (SABau) sydd â darpariaeth addysg uwch (a elwir gyda’i gilydd yn ddarparwyr addysg uwch (AU)) a gyllidir gan Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch. Mae’r canllawiau hefyd yn berthnasol i ddarparwyr sy’n darparu cyrsiau wedi’u dynodi’n benodol, ond nad ydynt yn derbyn cyllid yn uniongyrchol gan Medr am eu darpariaeth addysg uwch. Mae hyn yn cynnwys rhai SABau a rhai darparwyr eraill. Mae’r canllawiau’n ymwneud â data diwedd blwyddyn a dynnir o gofnod myfyrwyr 2025/26 yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) drwy Wasanaeth Rhyngwyneb Adrodd Gwybodaeth HESA (IRIS) er mwyn galluogi Medr i:
- gyfrifo dyraniadau cyllid ar gyfer cyllid sy’n seiliedig ar gredydau cyrsiau gradd rhan-amser ac ar gyfer y premiwm pynciau cost uwch yn 2027/28;
- cyfrifo unrhyw addasiadau i gyllid sy’n seiliedig ar gyrsiau gradd rhan-amser 2025/26;
- monitro darpariaeth cyrsiau meddygaeth a deintyddiaeth;
- sefydlu niferoedd terfynol y myfyrwyr a’r gwerthoedd credyd mewn darparwyr AU ar gyfer 2025/26 er mwyn modelu cyllid a darparu gwybodaeth.
Y prif newidiadau ar gyfer 2025/26
2. Dyma’r prif newidiadau a wnaed ers arolwg Monitro Diwedd Blwyddyn 2024/25:
- Mae dwy golofn ychwanegol wedi’u hychwanegu at y tabl data crai cofrestru ar gais y darparwyr. Mae’r rhain yn cynnwys y dyddiad pan ddechreuodd y myfyriwr ymgysylltu a’i gyfeiriad cartref parhaol wrth ymuno â’r cwrs.
- Mae’r ffrydiau llawn amser a reoleiddir ar gyfer myfyrwyr israddedig/TAR cartref wedi’u diweddaru yn Atodiad DD ynghyd â’r lefelau ffioedd newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Cynnwys
3. Mae’r cylchlythyr hwn yn darparu:
- canllawiau a diffiniadau ar gyfer y gwahanol gategorïau a ddefnyddir i ddosbarthu myfyrwyr;
- gwybodaeth am y meini prawf a ddefnyddir i echdynnu data MDB o gofnod myfyrwyr HESA 2025/26 drwy IRIS;
- manylion y trefniadau cymeradwyo ar gyfer y tablau a ddarperir drwy allbynnau IRIS HESA (gweler paragraff 10 am y rhestr o dablau y mae angen eu cymeradwyo. Sylwer mai ond i ddarparwyr addysg uwch sy’n derbyn cyllid gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch y mae’r broses gymeradwyo yn berthnasol. Os yw darparwyr yn dychwelyd data i HESA gan fod ganddynt gyrsiau wedi’u dynodi’n briodol, nid yw’n ofynnol iddynt gymeradwyo tablau MDB, ac mae’r daflen gymeradwyo wedi’i hepgor o’u hallbynnau IRIS HESA.
4. Dyma gynnwys yr atodiadau:
| Atodiad | Rhif tudalen | |
|---|---|---|
| Atodiad A | Canllaw cryno i arolwg MDB 2025/26 | 5 |
| Atodiad B | Diffiniad o gymhwyster AU cydnabyddedig | 13 |
| Atodiad C | Dysgu o bell, campysau, is-gwmnïau, darpariaeth freiniol, trefniadau dilysu a threfniadau cydweithredol eraill | 14 |
| Atodiad D | Diffiniad o statws preswylio a chyllido | 21 |
| Atodiad E | Diffiniad o ASCs | 25 |
| Atodiad F | Diffiniad o ddull astudio | 27 |
| Atodiad G | Diffiniad o lefel astudio | 30 |
| Atodiad H | Rheolau ar gyfer cyfrif cofrestriadau | 31 |
| Atodiad I | Rheolau ar gyfer cyfrif gwerthoedd credyd | 38 |
| Atodiad J | Disgrifiadau o dablau a cholofnau | 43 |
| Atodiad K | Mapio HESA/HESES/MDB a meini prawf echdynnu data monitro diwedd blwyddyn | 46 |
| Atodiad L | Sut y bydd Medr yn defnyddio data | 56 |
| Atodiad M | Dosbarthiad myfyrwyr segur / sy’n ysgrifennu | 58 |
| Atodiad N | Grid cyfeirio statws cyllido | 60 |
| Atodiad O | Copïau sampl o dablau allbwn IRIS a echdynnwyd o ddata HESA | 62 |
Addasu cyllid 2025/26
5. I ddibenion cyfrifo canlyniadau cyllido tan-recriwtio ar gyfer cyllid 2025/26, ailgyfrifir cyllid addysgu israddedig rhan-amser yn seiliedig ar gredydau drwy ddefnyddio data EYM. Bydd gwerthoedd credyd (ar gyfer myfyrwyr gradd rhan-amser) sy’n deillio o fodiwlau y cofrestrodd myfyrwyr arnynt hyd at ac yn cynnwys, a hefyd ar ôl, 1 Tachwedd 2025, yn cael eu defnyddio a nifer y gwerthoedd credyd yn gysylltiedig â modiwlau y mae myfyrwyr yn tynnu’n ôl ohonynt yn cael ei ddidynnu. Bydd y tablau MDB a gymeradwyir o’r data a echdynnir o IRIS HESA yn cael eu defnyddio i’r diben hwn.
Proses ar gyfer cymeradwyo data monitro diwedd blwyddyn a data eraill a echdynnir o gofnod myfyrwyr HESA
6. Rhaid i ddarparwyr addysg uwch sy’n cael eu cyllido’n uniongyrchol gan Medr am eu darpariaeth addysg uwch gymeradwyo’r data a gyflwynir yn allbynnau terfynol IRIS ar gyfer cofnodion myfyrwyr HESA ar ddyddiad cymeradwyo terfynol HESA, sef 29 Hydref 2026. Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd allbynnau IRIS wedi’u cymeradwyo i Medr yw 27 Tachwedd 2026. Os gwneir unrhyw ddiwygiadau i’r mapio neu’r dull o echdynnu ar ôl dechrau echdynnu am y tro cyntaf, byddwn yn rhoi gwybod i ddarparwyr. Dylai darparwyr hefyd roi gwybod i ni os ydynt yn dod ar draws unrhyw broblemau wrth echdynnu, naill ai wrth gyflwyno’r allbynnau neu drwy’r dull mapio a ddefnyddir.
7. Yn ystod cyfnod gwirio ansawdd data HESA o 1 Awst i 22 Hydref 2026, bydd Medr yn cynnal gwiriadau ansawdd ar y data a gyflwynir. Byddwn yn cysylltu â darparwyr tua chwe wythnos cyn y dyddiad cymeradwyo terfynol ar gyfer cofnod myfyrwyr HESA, sef 29 Hydref, ac ar ôl i ddarparwyr gadarnhau eu bod yn barod inni anfon unrhyw ymholiadau ymlaen, byddwn yn darparu cyfres o ymholiadau. Gall darparwyr hefyd ofyn inni godi cwestiynau yn gynharach na chwe wythnos neu, os yw’n well ganddynt, pennu dyddiad inni anfon ein rhestr o ymholiadau atynt, a gallant ofyn ar unrhyw bryd inni edrych ar agweddau neilltuol ar eu data os yw hynny’n ddefnyddiol iddynt. Gwneir hyn er mwyn cefnogi proses gwirio ansawdd mewnol y darparydd ei hun, ac i sicrhau bod y data yn addas i ddibenion Medr. Fel y disgrifir ar Amserlen casglu Cofnodion Myfyrwyr HESA,mae’n ofynnol i ddarparwyr naill ai ailgyflwyno eu data i gywiro’r anomaleddau hyn, neu esbonio pam eu bod yn ddilys.
8. Cyn dychwelyd allbynnau IRIS wedi’u cymeradwyo i Medr, rhaid i ddarparwyr addysg uwch fod wedi cynnal gwiriadau digonol i fod yn fodlon bod y data a echdynnwyd yn gywir, ac/neu eu bod wedi gwneud newidiadau lle bo angen os nad yw’r data’n gywir. Rydym yn parhau i ganiatáu i newidiadau i holl allbynnau IRIS yn y cam cymeradwyo ar gyfer 2025/26, ond yn adolygu hyn ar gyfer datganiadau 2026/27. Dylai darparwyr esbonio unrhyw newidiadau a wneir. Ceir rhagor o fanylion am y broses yn y cyhoeddiad Gofynion Data ar gyfer 2026/27, sydd i’w gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2026.
9. Nid yw’n ofynnol cyflwyno copi caled o’r allbynnau IRIS wedi’u cymeradwyo. Dylid dychwelyd allbynnau wedi’u cymeradwyo drwy e-bost at [email protected]. Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd yr allbynnau wedi’u cymeradwyo yw 27 Tachwedd 2026. Bydd manylion am y broses yn cael eu hanfon drwy e-bost ar wahân at lofnodwyr awdurdodedig a chysylltiadau data i’w hatgoffa ym mis Hydref 2026.
10. Nodir y rhagddodiad “S” o flaen enw ffeil yr allbynnau IRIS y mae angen eu cymeradwyo. Dyma’r ffeiliau hynny:
- Monitro Diwedd Blwyddyn
- Mesurau Cenedlaethol Medr
- Dyraniadau hepgor ffioedd rhan-amser
- Monitro hepgor ffioedd rhan-amser
- Monitro prentisiaethau gradd (ynghyd â’r wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani)
- Cyllid fesul pen
- Premiwm anabledd
- Premiwm Mynediad a Chadw
- Premiwm cyfrwng Cymraeg
- Premiwm pynciau drud
- Dyraniad Ymchwil ôl-radd
- Cyllid cydraddoldeb hiliol/llesiant ac iechyd meddwl
- Cyllid cymorth cyflogadwyedd wedi’i dargedu
- Cyfanswm cyfwerth ag amser llawn (CALl) (ar gyfer dyraniadau cyllid cyfalaf)
- Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGiA) sy’n arwain at gyllid lleoliad Statws Athro Cymwysedig (SAC)
- Cynllun cymhelliant Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) mewn Addysg Bellach (AB)
Archwilio data
11. Atgoffir darparwyr y gall data MDB, a thablau eraill fel y disgrifir ym mharagraff 10, fel y’u hechdynnwyd o gofnod myfyrwyr HESA drwy IRIS, ac unrhyw ddiwygiadau a wneir i’r data a echdynnir, gan gynnwys dulliau a ddefnyddir i gyfrifo unrhyw amcangyfrifon sydd wedi’u cynnwys yn y diwygiadau, fod yn ddarostyngedig i archwiliad allanol a gynhelir gan Medr neu gan gontractwyr sy’n gweithio ar ei ran. Mae’r systemau a’r prosesau a ddefnyddir i gynhyrchu’r data HESA a echdynnir o fewn cwmpas archwiliadau mewnol y sefydliad.
Rhagor o wybodaeth
12. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau i sylw Andrea Thomas ([email protected]).
Medr/2026/32: Monitro Diwedd Blwyddyn ar gyfer Ymrestriadau Addysg Uwch 2025/26
Dyddiad: 13 Gorffennaf 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/32
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach yng Nghymru sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch
Ymateb erbyn: 27 Tachwedd 2026
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi diffiniadau a chanllawiau i ddarparwyr addysg uwch yn gysylltiedig â data diwedd blwyddyn a dynnir o gofnod myfyrwyr HESA 2025/26.
Echdynnir y data drwy Wasanaeth Rhyngwyneb Adrodd Gwybodaeth (IRIS) HESA, ac fe’i defnyddir i gyfrifo cyllid ar sail credydau ar gyfer cyrsiau gradd rhan-amser, a’r premiwm pynciau cost uwch ar gyfer 2027/28, i gyfrifo unrhyw addasiad i gyllid addysgu seiliedig ar gredydau yng nghyrsiau gradd rhan-amser 2025/26, i fonitro darpariaeth meddygaeth a deintyddiaeth a sefydlu niferoedd terfynol y myfyrwyr a’r gwerthoedd credyd o fewn darparwyr ar gyfer 2025/26.
Medr/2026/32 Monitro Diwedd Blwyddyn ar gyfer Ymrestriadau Addysg Uwch 2025/26Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioArolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026
Mae lefelau boddhad ymhlith myfyrwyr israddedig mewn prifysgolion a cholegau wedi cynyddu, gyda 84% o fyfyrwyr gradd ar eu blwyddyn olaf yn dweud eu bod yn fodlon â’u cwrs eleni.
Mae hyn yn gynnydd o gymharu ag 82% o foddhad cyffredinol yn 2025.
Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) ar agor i fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf gyda darparwyr addysg uwch yng ngwledydd y DU. Roedd arolwg eleni ar agor o 8 Ionawr tan 30 Ebrill 2026.
Yr NSS yw un o brif ddangosyddion boddhad myfyrwyr ar gyfer Medr a’r sector addysg drydyddol, gan gasglu adborth cynhwysfawr gan fyfyrwyr addysg uwch israddedig sydd ar eu blwyddyn olaf ar agweddau allweddol ar eu profiad addysgol – o ansawdd yr addysgu a threfniadau cyrsiau hyd at effeithiolrwydd sefydliadau wrth wrando ar leisiau dysgwyr.
Mae Cynllun Strategol Medr yn amlygu ei ymrwymiad i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn darpariaeth o’r ansawdd uchaf mewn sector addysg drydyddol sy’n ymdrechu i wella’n barhaus.
Yn ôl James Owen, Prif Weithredwr Medr:
“Rydym unwaith eto wrth ein bodd o weld cynnal neu welliannau ar draws canlyniadau’r holl gwestiynau i Gymru yn NSS 2026 o gymharu ag NSS 2025.
“Mae’n galonogol bod Cymru, yn gyffredinol, yn parhau i berfformio’n gyson â sgoriau’r DU gyfan ac yn rhagori ar y sgoriau hynny yn y themâu Cymorth Academaidd a Llais y Myfyriwr.Mae’r canlyniadau hyn unwaith eto’n tystio i’r gwaith effeithiol sy’n digwydd ar draws sefydliadau yng Nghymru.
“Mae’r cydweithrediad cryf a welwyd rhwng sefydliadau ac undebau myfyrwyr dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn galonogol, wrth iddynt gydweithio i wella profiad myfyrwyr a chefnogi llwyddiant myfyrwyr. Llongyfarchiadau i bawb a gyfrannodd at y cyflawniadau hyn.
“Yn gynharach eleni, cyflwynwyd ein Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn rhan o’r Fframwaith Rheoleiddio, gan gydnabod rôl bwysig ymgysylltu mewn modd ystyrlon â dysgwyr wrth wneud penderfyniadau. Mae ymgysylltu effeithiol o fudd i ddysgwyr, darparwyr a’r sector addysg drydyddol ehangach yng Nghymru yn y presennol ac yn y dyfodol.
“Mae sefydliadau Cymru yn parhau i roi ystyriaeth o ddifri i ganlyniadau’r NSS ac yn parhau i fod wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a’u cynrychiolwyr i ysgogi gwelliant parhaus a gwella ansawdd.
“Gan edrych ymlaen at flwyddyn academaidd 2026/27, mae profiad myfyrwyr yn parhau i fod ymhlith prif gryfderau addysg uwch yng Nghymru. Rydym yn estyn croeso cynnes i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr y dyfodol, a all ddisgwyl rhaglenni o ansawdd uchel, cymunedau cefnogol a phrofiad cyfoethog yn y brifysgol fydd yn talu ar ei ganfed.”
Canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) yn 2026: Data cymharol ar gyfer pob cwestiwn
| Cwestiwn | Y DU 2025 (sgôr positifrwydd %) | Y DU 2026 (sgôr positifrwydd %) | Cymru 2025 (sgôr positifrwydd %) | Cymru 2026 (sgôr positifrwydd %) | |
|---|---|---|---|---|---|
| 1 | Pa mor dda yw’r staff am egluro pethau? | 93 | 94 | 93 | 94 |
| 2 | Pa mor aml y mae staff addysgu’n gwneud y pwnc yn ddiddorol? | 83 | 85 | 83 | 85 |
| 3 | Pa mor aml y mae’r cwrs yn ysgogol yn ddeallusol? | 86 | 86 | 86 | 86 |
| 4 | Pa mor aml y mae eich cwrs yn eich herio i gyflawni eich gwaith gorau? | 87 | 88 | 87 | 88 |
| 5 | I ba raddau ydych chi wedi cael y cyfle i archwilio syniadau a chysyniadau yn fanwl? | 85 | 86 | 85 | 86 |
| 6 | Pa mor dda y mae eich cwrs yn cyflwyno pynciau a sgiliau mewn ffordd sy’n adeiladu ar yr hyn yr ydych eisoes wedi’i ddysgu? | 87 | 89 | 87 | 88 |
| 7 | I ba raddau ydych chi wedi cael y cyfle i ddod â syniadau a gwybodaeth ynghyd o wahanol destunau? | 85 | 86 | 85 | 86 |
| 8 | I ba raddau y mae eich cwrs yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng astudio dan gyfarwyddyd ac astudio annibynnol? | 79 | 81 | 80 | 81 |
| 9 | Pa mor dda mae eich cwrs wedi datblygu gwybodaeth a sgiliau yr ydych yn meddwl y bydd eu hangen arnoch ar gyfer y dyfodol? | 85 | 87 | 86 | 87 |
| 10 | Pa mor eglur oedd y meini prawf marcio a ddefnyddiwyd i asesu eich gwaith? | 78 | 81 | 80 | 82 |
| 11 | Pa mor deg fu’r marcio a’r asesu ar eich cwrs? | 84 | 86 | 85 | 86 |
| 12 | Pa mor dda y mae’r asesiadau wedi eich galluogi i ddangos yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu? | 84 | 86 | 84 | 86 |
| 13 | Pa mor aml ydych chi wedi cael adborth asesu ar amser? | 83 | 85 | 85 | 85 |
| 14 | Pa mor aml y mae adborth yn eich helpu i wella eich gwaith? | 75 | 77 | 75 | 77 |
| 15 | Pa mor hawdd oedd hi i gysylltu â staff addysgu pan oedd angen i chi wneud hynny? | 88 | 89 | 89 | 90 |
| 16 | Pa mor dda y mae’r staff addysgu wedi cefnogi eich dysgu? | 88 | 90 | 89 | 90 |
| 17 | Pa mor dda y mae eich cwrs wedi’i drefnu? | 77 | 80 | 79 | 80 |
| 18 | Pa mor dda oedd unrhyw newidiadau i addysgu ar eich cwrs yn cael eu cyfleu? | 80 | 82 | 80 | 82 |
| 19 | Pa mor dda y mae’r adnoddau a chyfleusterau TG wedi cefnogi eich dysgu? | 87 | 88 | 87 | 88 |
| 20 | Pa mor dda y mae’r adnoddau llyfrgell (e.e. llyfrau, gwasanaethau ar-lein a mannau dysgu) wedi cefnogi eich dysgu? | 90 | 91 | 90 | 91 |
| 21 | Pa mor hawdd yw hi i gael gafael ar adnoddau pwnc-benodol (e.e. offer, cyfleusterau, meddalwedd) pan fo’u hangen arnoch? | 88 | 89 | 88 | 89 |
| 22 | I ba raddau ydych chi’n cael y cyfleoedd cywir i roi adborth ar eich cwrs? | 85 | 86 | 85 | 86 |
| 23 | I ba raddau mae barn myfyrwyr ynglŷn â’r cwrs yn cael ei gwerthfawrogi gan staff? | 80 | 82 | 81 | 83 |
| 24 | Pa mor eglur yw hi y gweithredir ar adborth myfyrwyr ar y cwrs?? | 68 | 72 | 69 | 72 |
| 25 | Pa mor dda y mae undeb (cymdeithas neu urdd) y myfyrwyr yn cynrychioli buddiannau academaidd myfyrwyr? | 76 | 79 | 78 | 79 |
| 26 | Pa mor dda gafodd gwybodaeth am wasanaethau cymorth lles meddyliol eich prifysgol/coleg ei chyfleu? | 82 | 85 | 79 | 83 |
| 28 | Ar y cyfan, rwy’n fodlon ar ansawdd y cwrs | D/B | D/B | 82 | 84 |
Mae gan bob cwestiwn ddau opsiwn i ymateb yn gadarnhaol – e.e. fel arfer ‘i raddau helaeth’ neu ‘i ryw raddau’; neu ‘yn aml iawn’ neu ‘yn weddol aml’ – a dau opsiwn i ymateb yn negyddol, gyda phumed opsiwn ‘Nid yw hyn yn berthnasol i mi’. Sgôr positifrwydd yw canran yr ymatebwyr a atebodd gan ddefnyddio un o’r ddau opsiwn cadarnhaol.
Nid oes sgôr y DU ar gyfer cwestiwn 28. Gofynnwyd cwestiwn 28 i fyfyrwyr yng Nghymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn unig ac nid i fyfyrwyr yn Lloegr.
Diwedd
Nodiadau:
- Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) yn cynnwys y rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf sy’n astudio ar gyfer cymwysterau addysg uwch (AU) yn:
- yr holl brifysgolion a cholegau addysg uwch a gyllidir ag arian cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- sefydliadau addysg bellach yng Nghymru â myfyrwyr addysg uwch a gyllidir yn uniongyrchol.
- colegau addysg bellach yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
- Caiff yr arolwg, a gynhelir gan Ipsos, ei gyllido gan y pedwar corff cyllido a rheoleiddio addysg uwch yn y DU (Medr, y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS), Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon).
- Mae’r canlyniadau llawn ar gael ar wefan yr OfS. Cyhoeddir y data ar y wefan Darganfod Prifysgol yn ddiweddarach, gan ddarparu gwybodaeth i oleuo dewisiadau myfyrwyr posibl ynghylch ble i astudio a beth i’w astudio.
- Y trothwy ar gyfer cyhoeddi ar lefel sefydliad yw bod rhaid bod o leiaf 10 o fyfyrwyr wedi ymateb, ac y dylai’r rhain gynrychioli o leiaf hanner y myfyrwyr a oedd yn gymwys i gyfranogi.
- Fe ymatebodd mwy na 360,000 o fyfyrwyr ar draws y DU i’r arolwg, cyfradd ymateb o 71.8%.
- Mae data boddhad myfyrwyr ar gyfer y Brifysgol Agored yng Nghymru wedi’i gynnwys yn y ffigyrau ar gyfer y Brifysgol Agored (er bod y data ar gyfer y DU gyfan, fe’i rhestrir fel ‘SAUau Lloegr’).
- Mae canlyniadau blaenorol yr NSS wedi’u rhestru ar wefan yr OfS o dan “archif o ddata”.