Cyhoeddiadau
Medr/2026/42: Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant
13 Aug 2026
Cyflwyniad a chwmpas y fframwaith
1. Yn 2024, cyhoeddodd Gweinidogion Cymru y datganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi. Roedd un o’r blaenoriaethau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Medr greu fframwaith cyffredin ar gyfer cymorth iechyd meddwl a llesiant ym mhob rhan o’r sector addysg drydyddol ac ymgysylltu â darparwyr er mwyn ei wreiddio yn eu polisïau a’u harferion, gan sicrhau bod pob dysgwr yn cael cymorth cyson, cyn belled ag y bo’n ymarferol, gan wasanaethau iechyd meddwl ei ddarparwr ac yn deall lefel sylfaenol y cymorth y gall ddisgwyl ei gael yn y maes hwn.
2. Yr hyn a geir yn y ddogfen hon yw’r fersiwn ddrafft o’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant mewn addysg drydyddol yng Nghymru, a fydd ar waith o fis Medi 2026 ymlaen.
3. Mae’r Fframwaith wedi’i ddylunio i gefnogi dull darparwr cyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant drwy alluogi darparwyr addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned i’w roi ar waith mewn modd cymesur.
4. Nid yw’n cyflwyno gofynion rheoleiddio newydd, nac yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr ddisodli trefniadau sydd eisoes yn cefnogi iechyd meddwl a llesiant dysgwyr. Bwriedir i’r Fframwaith helpu darparwyr i adolygu, cyfleu ac atgyfnerthu trefniadau lles sydd eisoes ar waith, gan gynnwys drwy weithgarwch hunanwerthuso sy’n gysylltiedig â’r Amod Lles Staff a Dysgwyr. Mae’r egwyddorion sy’n canolbwyntio ar y dysgwr a dull y Map Cymorth yn cynnig strwythur a rennir er mwyn helpu darparwyr i fynegi a datblygu eu dulliau presennol.
5. Gweledigaeth y Fframwaith yw y bydd pob dysgwr, waeth beth fo’i leoliad, ei oedran neu ei fodd astudio, yn gallu deall pa gymorth sydd ar gael, sut i gael gafael arno, a beth y gall ddisgwyl ei gael gan ei ddarparwr. Ein huchelgais yw y bydd darparwyr yn creu adnodd sydd wedi’i fwriadu ar gyfer dysgwyr o’r enw Map Cymorth er mwyn gwireddu hyn.
6. Mae’r Fframwaith wedi’i ddylunio i ategu trefniadau a chanllawiau presennol darparwyr ac adeiladu arnynt yn hytrach na’u disodli. Ni fydd disgwyl i ddarparwyr greu strwythurau cwbl newydd lle bo eu dulliau presennol eisoes yn cefnogi’r profiad dysgwyr a ddisgrifir yn y Fframwaith hwn.
7. Tynnodd y gwaith ymgysylltu â dysgwyr a wnaed yn ystod y broses o ddatblygu’r Fframwaith sylw at awydd am wybodaeth gliriach am y cymorth sydd ar gael, sut i gael gafael arno, a beth i’w ddisgwyl wrth ofyn am help.
8. Mae’n debygol y bydd rhoi’r Fframwaith ar waith yn effeithiol yn cynnwys gweithio gyda GIG Cymru, awdurdodau lleol, cyflogwyr a phartneriaid eraill yn y trydydd sector, gan gydnabod cyfrifoldebau a rennir am gefnogi llesiant dysgwyr.
9. Nid yw’r Fframwaith yn rhagnodi modelau cyflawni, strwythurau sefydliadol na threfniadau staffio. Bydd darparwyr yn gallu penderfynu ar y ffyrdd gorau o gyflawni’r deilliannau hyn gan adlewyrchu eu cyd-destun, eu poblogaeth ddysgwyr a’u model cyflwyno.
10. Bydd Medr yn parhau i hyrwyddo, cefnogi a datblygu’r gwaith hwn gyda dysgwyr, darparwyr a phartneriaid. Byddwn yn ymgysylltu â’r sector er mwyn deall sut mae’r Fframwaith yn cael ei ystyried a’i roi ar waith yn ymarferol, ac yn rhannu’r gwersi i’w dysgu a ddaw i’r amlwg er mwyn cefnogi’r gwaith parhaus o ddatblygu profiad dysgwyr cyffredin ledled Cymru. Bydd y Fframwaith yn parhau i ddatblygu dros amser mewn ymateb i weithgareddau ymgysylltu â dysgwyr, profiadau darparwyr a thystiolaeth a ddaw i’r amlwg.
Egwyddorion ac elfennau craidd y Fframwaith
11. Bydd disgwyl i ddarparwyr ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant yn unol â’r egwyddorion canlynol:
| Canolbwyntio ar y dysgwr | Gall dysgwyr ddeall yn glir pa gymorth sydd ar gael, sut i gael gafael arno a beth i’w ddisgwyl nesaf. Rhaid i’r wybodaeth hon fod ar gael yn ddwyieithog. Caiff data, asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb a gweithgareddau ymgysylltu â dysgwyr eu defnyddio i adnabod gwahanol anghenion, profiadau a rhwystrau, gan sicrhau bod cymorth iechyd meddwl a llesiant yn deg, yn gynhwysol ac mor ymatebol â phosibl i gymunedau dysgwyr amrywiol. |
| Darparwr cyfan | Nid dim ond cymorth llesiant arbenigol sy’n dylanwadu ar lesiant, ond hefyd bethau megis cymorth dysgu, y ffordd y caiff gweithgareddau dysgu eu dylunio, yr amgylchedd, cydberthnasau rhwng y staff a’r myfyrwyr, diwylliant y sefydliad, gofodau ffisegol a digidol, arweinyddiaeth, partneriaethau allanol, a mwy. |
| Cymesur | Mae dulliau’n adlewyrchu cyd-destun a phroffil dysgwyr darparwyr, gan gydnabod na fydd pob darparwr yn cynnig yr un lefel na math o ddarpariaeth. |
| Ffiniau clir | Mae darparwyr yn cyflawni rôl bwysig o ran hybu llesiant, rhoi cymorth a rheoli risg o fewn eu cylch gwaith. Fodd bynnag, nid ydynt yn cymryd lle gwasanaethau’r GIG, gwasanaethau gofal cymdeithasol na gwasanaethau statudol eraill, a dylent sefydlu llwybrau clir ar gyfer atgyfeirio, uwchgyfeirio, a gweithio mewn partneriaeth. |
| Cydweithredol | Gweithio gyda phartneriaid megis GIG Cymru, awdurdodau lleol, cyflogwyr a phartneriaid yn y trydydd sector, gan gydnabod y gall capasiti, llywodraethiant a threfniadau gwahanol bartneriaid effeithio ar y ffordd y bydd cydweithio’n digwydd yn ymarferol. |
| Ymatebol i dystiolaeth | Caiff trefniadau eu hadolygu a’u gwella dros amser mewn ymateb i dystiolaeth. |
12. Tra bydd darparwyr yn trefnu ac yn rhoi cymorth mewn gwahanol ffyrdd, rydym yn disgwyl i’r Map Cymorth fod yn gyffredin drwy’r holl sector addysg drydyddol yng Nghymru. Mae’r Map Cymorth yn amlinellu strwythur cyffredin ac yn cynnig sylfaen ar gyfer cysondeb, hyd yn oed os bydd gwasanaethau, modelau staffio ac adnoddau yn amrywio.
Rhagor o wybodaeth
Cysylltwch â Sam Bowen ([email protected]).
Blog: Datblygu’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a LlesiantMedr/2026/42: Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant
Dyddiad: 13 Awst 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/42
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid colegau addysg bellach; Arweinwyr dysgu oedolion yn y gymuned mewn awdurdodau lleol; Deiliaid contract prentisiaeth
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi arweiniad i ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru er mwyn cefnogi ffordd fwy cyson o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant. Mae’r Fframwaith yn cynnwys dull Map Cymorth cyffredin, er mwyn helpu dysgwyr i ddeall y cymorth sydd ar gael, ac yn cefnogi dull darparwr cyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant.
Medr/2026/42 Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a LlesiantRhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio