Blog
Blog: Datblygu’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant
13 Aug 2026
Yng Nghynllun Strategol Medr 2025-2030, fe wnaethon ni nodi ein huchelgais hirdymor i wella llesiant dysgwyr. Mae creu Medr, a’n gallu i weithio drwy’r sector addysg drydyddol ac ymchwil cyfan, yn creu cyfle unigryw i sicrhau cysondeb a chydlyniant yn y cynnig llesiant sydd ar gael i ddysgwyr yng Nghymru, a chefnogi disgwyliadau cliriach o ran pa gymorth y gallan nhw ei ddisgwyl.
Mae cyhoeddi’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant yn gam pwysig ymlaen i ni tuag at wireddu’r uchelgais hwn.
Dechreuodd y broses o ddatblygu’r Fframwaith â’r cwestiwn: sut y gall Cymru hybu mwy o gysondeb mewn cymorth iechyd meddwl a llesiant i ddysgwyr heb greu baich diangen na’i gwneud hi’n ofynnol i ddarparwyr roi’r gorau i ffyrdd effeithiol o weithredu sydd eisoes ar waith? Fe wyddom ni o’n gwaith gyda darparwyr a rhanddeiliaid fod darparwyr addysg drydyddol yn gweithredu mewn cyd-destunau gwahanol iawn sydd ag anghenion dysgwyr, strwythurau ac adnoddau gwahanol. Roedd rhanddeiliaid yn glir bod angen i unrhyw fframwaith cyffredin ychwanegu gwerth, osgoi dyblygu a gweithio ar gyfer addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned drwyddynt draw.
Gan gydnabod yr amrywiaeth hon, fe wnaethon ni ddechrau ar ein gwaith ar y Fframwaith drwy adolygu’r dystiolaeth a oedd ar gael, arferion yn y sector a modelau gwelliant a oedd wedi ennill eu plwyf gan ddefnyddio dull damcaniaeth newid. Er bod llawer o enghreifftiau o fframweithiau iechyd meddwl a llesiant yn y sector addysg drydyddol, ni fyddai’r un fframwaith a oedd eisoes yn bodoli yn gallu cael ei fabwysiadu’n uniongyrchol. Yn lle hynny, fe wnaethon ni ddefnyddio’r fframweithiau hynny a oedd eisoes yn bodoli i brofi rhagdybiaethau, strwythuro trafodaethau gweithdai a sicrhau bod y dull a oedd yn datblygu yn adlewyrchu’r ffactorau roedden ni’n gwybod eu bod nhw’n dylanwadu ar lesiant dysgwyr, gan gynnwys dysgu, cymorth, amgylchedd, cydberthnasau ac arweinyddiaeth.
Drwy’r gweithdai, daeth sawl thema i’r amlwg yn glir:
- dylai dysgwyr allu deall ble i droi am gymorth,
- ni ddylai fod yn ofynnol i ddarparwyr ddisodli trefniadau effeithiol sydd eisoes ar waith,
- dylai cymorth fod yn gymesur â’r cyd-destun,
- a dylai’r fframwaith ganolbwyntio ar brofiad dysgwyr yn hytrach na rhagnodi modelau gwasanaeth, lefelau staffio neu strwythurau sefydliadau.
Fe wnaeth y cyfranogwyr hefyd bwysleisio pwysigrwydd ffiniau clir, gan gydnabod bod darparwyr yn cyflawni rôl bwysig o ran cefnogi llesiant, ond nad ydyn nhw’n cymryd lle’r GIG, gofal cymdeithasol na gwasanaethau statudol eraill.
Roedd y trafodaethau hyn yn sail ar gyfer drafft o’r Fframwaith y gwnaethon ni ei brofi â darparwyr, cynrychiolwyr y sector, dysgwyr, Llywodraeth Cymru, Estyn a phartneriaid eraill. Fe wnaeth ymgysylltu â dysgwyr atgyfnerthu pwysigrwydd gwybodaeth glir, iaith syml, llwybrau cymorth gweladwy a gwell dealltwriaeth o’r hyn a fydd yn digwydd ar ôl gofyn am help. Hefyd, fe wnaeth yr adborth o’r ymgynghoriad atgyfnerthu’r pwyslais ar hygyrchedd, cyd-destunau dysgu seiliedig ar waith, arferion presennol yn y sector a’r angen i sefydlu’r Fframwaith fel dull cyffredin yn hytrach na gofyniad cydymffurfio newydd.
Fe gawson ni ein cefnogi ar y daith hon gan gyngor arbenigol Grŵp y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant. Fe ddaeth y grŵp â chynrychiolwyr ynghyd o feysydd addysg uwch, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, dysgu oedolion yn y gymuned, partneriaethau iechyd meddwl dysgwyr, GIG Cymru a chyrff y sector.
Mae’r Fframwaith sydd wedi cael ei lunio yn adlewyrchu’r mewnbwn cyfunol hwnnw. Y bwriad yw y bydd yn cynnig dull cyffredin sy’n addas ar gyfer dysgwyr o fewn cysyniad arfaethedig y Map Cymorth a fydd yn gallu eistedd ochr yn ochr â threfniadau presennol darparwyr. Bydd defnyddio Mapiau Cymorth yn golygu y bydd gofyn i ddarparwyr lenwi eu cynnig presennol mewn templed a fydd ar gael i ddysgwyr er mwyn helpu dysgwyr i ddeall yn well pa gymorth sydd ar gael, a chael gafael arno’n hyderus. Yn bwysig ddigon, mae’n canolbwyntio ar brofiad dysgwyr yn hytrach na model cyflawni cyffredin, gan alluogi darparwyr i barhau i adeiladu ar yr arferion effeithiol sydd eisoes ar waith, gan gydnabod nad yw’r un darparwr yn gweithio dan yr un amgylchiadau yn union.
Nid dyma ddiwedd y broses. Mae Medr yn gweld y Fframwaith fel sylfaen ar gyfer gwelliant a chydweithio parhaus. Fe fyddwn ni’n parhau i ymgysylltu â dysgwyr, darparwyr a phartneriaid er mwyn deall sut mae’n cael ei ddefnyddio’n ymarferol, rhannu gwersi a ddysgir a mireinio’r dull dros amser. Drwy ddatblygu momentwm ar y cyd a chynnal ffocws ar brofiad dysgwyr, rydyn ni’n gobeithio y bydd y Fframwaith hwn yn cyfrannu at ffordd fwy dealladwy, hygyrch a chyson o ymdrin â chymorth iechyd meddwl a llesiant ar gyfer dysgwyr ledled Cymru.
Fe hoffai Medr ddiolch i holl aelodau Gweithgor y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant am eu hamser, eu harbenigedd a’u hymroddiad drwy gydol y broses o ddatblygu’r Fframwaith hwn:
- Anne Jones – Cambrian Training
- Beth Allender – Rhaglen Partneriaeth Iechyd Meddwl Myfyrwyr Addysg Bellach ac Addysg Uwch
- Chris Laity – Prifysgolion Cymru
- Emma McCutcheon – educ8training
- Dr Emma Roberts – Cynghorydd – Prifysgol Salford
- Gemma Hartnoll – educ8training
- Hannah Wenden – Rhaglen Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, Perfformiad a Gwella GIG Cymru
- Ian Munton – Prifysgol Aberystwyth / AMOSSHE Cymru
- James Donaldson – Coleg Gŵyr Abertawe
- Kay Smith – Y Sefydliad Dysgu a Gwaith
- Marcus Westmoreland – Coleg Gŵyr Abertawe
- Robert Baynham – ColegauCymru
- Sally Lambah – Prifysgol Wrecsam / AMOSSHE Cymru
- Samantha Gunnarsson – Y Coleg Merthyr Tudful / Rhwydwaith Iechyd Meddwl Addysg Bellach
- Sarah Quibell – Cyngor Sir Powys / Rhwydwaith Dysgu Oedolion yn y Gymuned
- Tamara Garnault – Addysg Oedolion Cymru
Am sgwrs sy’n ymwneud â’r Fframwaith, e-bostiwch [email protected].
Sam Bowen
Uwch Reolwr Cydraddoldeb a Lles
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio