Cyhoeddiadau
Medr/2026/37: Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg uwch 2026/27
28 Jul 2026
Rhagair
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi ein bwriadau yn 2026/27 i ddyrannu:
- £2,350,000 o gyllid i brifysgolion i weithredu strategaethau iechyd a llesiant (prifysgolion yn unig);
- £2,000,000 o gyllid ychwanegol ar gyfer cymorth iechyd a llesiant i ddysgwyr (prifysgolion a darparwyr addysg bellach (AB) sy’n derbyn cyllid addysg uwch yn uniongyrchol gan Medr).
2. Ar gyfer 2026/27, bydd Medr yn parhau i gefnogi nifer o brosiectau cenedlaethol sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau iechyd meddwl a llesiant. Bydd y rhain yn cael eu cyllido ar wahân drwy lythyr grant.
3. Mae’r cyllid hwn yn cyfrannu’n uniongyrchol at:
- Amod Rheoleiddio Llesiant Staff a Dysgwyr sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gael trefniadau effeithiol, gan gynnwys polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau, sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi llesiant a diogelwch staff a dysgwyr gan ddefnyddio hunanwerthusiadau parhaus i nodi cryfderau, bylchau a risgiau sy’n dod i’r amlwg er mwyn cynllunio gweithgareddau; a
- Fframwaith Iechyd Meddwl a Llesiant Cyffredin Medr sy’n darparu dull cyffredin o ymdrin â iechyd meddwl a llesiant ar draws addysg drydyddol yng Nghymru. Mae’n cefnogi datblygiad Map Cymorth sy’n helpu dysgwyr i gael mynediad at gymorth priodol, o ymyrraeth gynnar hyd at ymateb i argyfwng.
4. Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd parhaus cefnogaeth gref ar gyfer iechyd meddwl a llesiant ar draws y sector ôl-16. Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth iechyd meddwl a llesiant 2025 i 2035. Mae Medr yn disgwyl i bob darparydd ystyried y strategaeth iechyd meddwl a llesiant genedlaethol wrth ddatblygu ac adolygu ei strategaethau iechyd a llesiant, ei ddulliau o atal hunanladdiad a hunan-niwed a’i bolisïau llesiant.
5. Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio i Gymru. Mae Medr yn annog pob darparydd i gymryd rhan yn y Gymuned Ymarfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, a chyfrannu ati.
6. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr ystyried effeithiau croestoriadol ar lesiant emosiynol a meddyliol dysgwyr a staff. Dylai darparwyr felly ystyried sut mae’r cyllid iechyd meddwl a llesiant yn cyfrannu at y cynlluniau cydraddoldeb canlynol gan Lywodraeth Cymru:
- Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol;
- Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru;
- Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: strategaeth 2022 i 2026 a Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a cham-drin rhywiol: glasbrint lefel uchel o gynllun gweithredu;
- Cynllun Hawliau Pobl Anabl: 2025 i 2035.
7. Rhaid i ddarparwyr addysg uwch (AU) ddefnyddio canfyddiadau a chasgliad eu hasesiadau effaith cydraddoldeb eu hunain i lywio cynlluniau, polisïau a gweithdrefnau i ddangos bod camau gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth.
8. Dylai darparwyr ystyried y canllawiau atal hunanladdiad, a uwchlwythwyd i Padlet -cymuned ymarfer atal hunanladdiad mewn AU ac AB. Dylent hefyd ystyried goblygiadau’r Adolygiad Cenedlaethol o Hunanladdiadau Myfyrwyr AU ac ystyried camau gweithredu sy’n mynd i’r afael â’r argymhellion.
9. Dylai darparwyr ystyried defnyddio offeryn Fframwaith hunanwerthuso trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ar gyfer prifysgolion a darparwyr addysg uwch yng Nghymru i gefnogi prifysgolion i nodi angen, cynllunio a chyflawni ymyriadau i atal ac ymateb VAWDASV sy’n effeithio ar staff a myfyrwyr.
Dyraniadau cyllid
10. Yn 2026/27, bydd £4,350,000 (£2,350,000 o gyllid strategaeth yn Nhabl 1 a £2,000,000 o gyllid ychwanegol yn Nhabl 2) yn cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i sefydliadau AU a darparwyr addysg bellach sy’n derbyn cyllid addysg uwch yn uniongyrchol gan Medr.
Tabl 1: Dyraniadau strategaeth iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl 2026/27
| Darparydd | Dyraniad 2026/27 £ |
|---|---|
| University of South Wales | 344,032 |
| Prifysgol De Cymru | 139,920 |
| Prifysgol Bangor | 166,298 |
| Prifysgol Caerdydd | 527,668 |
| Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | 257,269 |
| Prifysgol Abertawe | 317,604 |
| Prifysgol Metropolitan Caerdydd | 205,436 |
| Prifysgol Wrecsam | 129,389 |
| Y Brifysgol Agored yng Nghymru | 262,384 |
| Cyfanswm | 2,350,000 |
Nodiadau: Data cofnod myfyrwyr HESA wedi’u dilysu ar gyfer 2024/25. Nifer y pennau – poblogaeth gofrestru safonol HESA, pob dull a lefel, wedi’i ostwng i nifer y pennau lle bo myfyrwyr wedi ymrestru ar fwy nag un cwrs.
Tabl 2: Cyllid ychwanegol iechyd a llesiant, 2026/27
| Darparydd | Dyraniad 2026/27 £ |
|---|---|
| Prifysgol De Cymru | 290,716 |
| Prifysgol Aberystwyth | 118,236 |
| Prifysgol Bangor | 140,526 |
| Prifysgol Caerdydd | 445,895 |
| Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | 217,400 |
| Prifysgol Abertawe | 268,384 |
| Prifysgol Metropolitan Caerdydd | 173,599 |
| Prifysgol Wrecsam | 109,337 |
| Y Brifysgol Agored yng Nghymru | 221,722 |
| Grŵp Llandrillo Menai | 11,634 |
| Grŵp Colegau NPTC | 1,587 |
| Coleg Gŵyr Abertawe | 439 |
| Coleg Cambria | 524 |
| Cyfanswm | 2,000,000 |
Nodiadau: Data cofnod myfyrwyr HESA wedi’u dilysu ar gyfer 2024/25. Nifer y pennau – poblogaeth gofrestru safonol HESA, pob dull a lefel, wedi’i ostwng i nifer y pennau lle bo myfyrwyr wedi ymrestru ar fwy nag un cwrs.
11. Yn 2026/27 byddwn yn dyrannu cyllid Tabl 1 a Thabl 2 mewn un gyfran drwy daliad ym mis Rhagfyr 2026.
Defnydd o’r cyllid
12. Rhaid i ddarparwyr sicrhau bod cyllid Iechyd Meddwl a Llesiant yn cael ei ddefnyddio i roi cefnogaeth effeithiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n bodloni anghenion eu dysgwyr a’u staff.
13. Gellir defnyddio dyraniadau strategaeth iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl, i gefnogi ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys (ymhlith eraill):
- darparu gwasanaethau, gweithgareddau, hyfforddiant ac adnoddau iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl, i staff a dysgwyr, sy’n cynnwys dysgwyr ôl-radd; dysgwyr rhyngwladol a dysgwyr mewn sefydliadau breiniol/partner;
- darparu gwasanaethau, gweithgareddau, hyfforddiant ac adnoddau iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl, a ddarperir yn ddwyieithog ac/neu ar wahân yn Gymraeg;
- darparu gwasanaethau, gweithgareddau, hyfforddiant ac adnoddau iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl, i sicrhau iechyd a llesiant staff a dysgwyr, gan gynnwys iechyd yr effeithir arno gan aflonyddwch, casineb a chamymddwyn a thrais rhywiol, waeth beth fo hunaniaeth yr unigolion;
- darparu gwasanaethau, gweithgareddau, hyfforddiant ac adnoddau iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl, i staff a dysgwyr â nodweddion gwarchodedig, neu ddarparu gwybodaeth am sut i’w cefnogi;
- ymestyn, gwella neu roi cymhorthdal ar gyfer cynnyrch urddas mislif a hylendid personol a/neu wasanaethau golchi dillad i’w myfyrwyr;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau sy’n rhoi ystyriaeth i ganfyddiadau ac argymhellion hunanasesiad Stepchange: mentally healthy universities gan Brifysgolion y DU;
- camau gweithredu y gellir eu hadnabod yn glir i fynd i’r afael â bylchau, blaenoriaethau neu argymhellion a nodir o ganlyniad i adolygiad y brifysgol o ddefnyddio offeryn hunanasesu Prifysgolion y DU;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau sy’n rhoi ystyriaeth i Fframwaith Diogelu Rhag Hunanladdiad Prifysgolion y DU a’r canllawiau atodol.
14. Ni ddylid defnyddio cyllid ar gyfer gwariant cyfalaf (e.e., prynu offer). Ni gwariant o’r fath yn gymwys ar gyfer cyllid.
15. O ganlyniad i’r cyllid hwn, nid yw darparwyr na’u Hundebau Myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am y Grant Urddas Mislif gan eu Hawdurdod Lleol o dan y Cynllun Gweithredu Balch o’r Mislif.
16. Mae prifysgolion a cholegau yn ddarostyngedig i’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr o 1 Awst 2026 ac felly, rhaid iddynt sicrhau bod eu Hundeb Myfyrwyr, neu gorff cyfatebol, yn cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yn gysylltiedig â’r cyllid hwn, a dangos hynny.
17. Yn unol â disgwyliadau’r Amod Rheoleiddio Llesiant Staff a Dysgwyr, dylai darparwyr ymgysylltu â chynrychiolwyr staff, gan gynnwys undebau llafur cydnabyddedig, lle bo’n briodol, fel rhan o’u trefniadau i hyrwyddo a chefnogi llesiant staff.
18. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr sy’n derbyn cyllid Medr yn uniongyrchol reoli a gwario eu dyraniadau 2026/27 yn llawn yn ystod y flwyddyn.
19. Mae Medr yn cadw’r hawl i ad-dalu cyllid lle na chaiff ei ddefnyddio yn unol â’r pwrpas a’r amodau a nodir yn y canllaw hwn. Mae hyn yn cynnwys cyllid heb ei wario a nodwyd drwy waith monitro neu wariant anghymwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.
Monitro ac adrodd
20. Nid yw’n ofynnol i ddarparwyr gyflwyno cynllun gweithredu annibynnol ar gyfer cyllid Iechyd Meddwl a Llesiant. Yn hytrach, bydd Medr yn defnyddio’r cynllun gweithredu llesiant dwy flynedd (sy’n ofynnol o dan yr Amod Rheoleiddio Llesiant Staff a Dysgwyr) i ddeall bwriadau darparwyr o ran cyflawni, a’u blaenoriaethau strategol.
21. Disgwylir i ddarparwyr gynnal deialog barhaus â Medr drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae’r dull hwn yn cefnogi ymyrraeth amserol, dysgu ar y cyd, a gwelliant parhaus ar draws y sector. Gallai hyn gynnwys:
- Codi materion sy’n dod i’r amlwg neu heriau cyflawni wrth iddynt ymddangos;
- Darparu diweddariadau drwy gyfarfodydd, rhwydweithiau a gweithgarwch ymgysylltu;
- Rhannu dysgu ac ymarfer.
22. Mae’n ofynnol i brifysgolion gyflwyno ffurflen fonitro diwedd blwyddyn i ddangos y defnydd o gyllid iechyd a llesiant 2026/27. Bydd gwaith monitro yn gyson â dulliau a ddefnyddiwyd yn y blynyddoedd diwethaf, a bydd disgwyl iddo ddarparu gwybodaeth a fydd yn cynnwys:
- cysondeb â fframweithiau cenedlaethol (gan gynnwys Stepchange Prifysgolion y DU a dulliau o ddiogelu rhag hunanladdiad);
- y defnydd o gyllid yn unol â’r dibenion a nodir yn y ddogfen hon;
- yr ymgysylltiad rhagweithiol â dysgwyr, drwy Undebau Myfyrwyr neu gyrff cyfatebol, wrth i ddarparwyr wneud penderfyniadau’n gysylltiedig â’r buddsoddiad hwn;
- effaith gweithgaredd ar ddysgwyr a staff, gan gynnwys rhai â nodweddion gwarchodedig;
- sut mae gweithgaredd yn cyd-fynd â gweithredu’r Fframwaith Iechyd Meddwl a Llesiant Cyffredin ac yn ei gefnogi, gan gynnwys datblygu a/neu ddefnyddio Map Cymorth, a thystiolaeth o gynnydd, meysydd i’w datblygu ymhellach, a heriau allweddol a gwersi i’w dysgu yn sgil gweithredu.
23. Darparwyr addysg bellach sy’n derbyn cyllid addysg uwch yn uniongyrchol gan Medr yn Nhabl 2 i gefnogi dysgwyr AU yn benodol. Dylid defnyddio’r templed monitro a ddarperir yn Medr/2026/26: Cronfa Cymorth a Llesiant 2026/27 – Cam 1: sefydliadau addysg bellach, i adrodd ar y gweithgarwch hwn.
24. Bydd gwaith monitro yn cynnwys cyfuniad o’r canlynol:
- ffurflenni meintiol, sy’n casglu gwybodaeth am weithgareddau a chyrhaeddiad.
- adrodd naratif, gan gynnwys cynnydd yn erbyn strategaethau a chamau gweithredu allweddol
- astudiaethau achos, yn dangos enghreifftiau o arfer ac effaith ar draws gwahanol ffrydiau cyllido;
- adroddiadau ariannol yn cadarnhau’r dyraniadau, y gwariant ac unrhyw danwariant.
25. Rhaid cyflwyno’r ffurflen fonitro wedi’i chwblhau erbyn dydd Gwener 24 Medi 2027.
26. Bydd Medr yn adolygu’r holl ffurflenni monitro i sicrhau bod cyllid wedi’i ddefnyddio yn unol â’r dibenion a’r disgwyliadau a nodir yn y canllawiau hyn. Gall Medr ofyn am ragor o wybodaeth gan ddarparwyr mewn amgylchiadau eithriadol.
27. Bydd Medr hefyd yn defnyddio gwybodaeth ar ffurflenni monitro i nodi a rhannu enghreifftiau o arfer, arloesi a dulliau sy’n dod i’r amlwg ar draws y sector. Bydd hyn yn cefnogi dysgu ar y cyd ac yn cyfrannu at ddatblygu a gwella’r ddarpariaeth iechyd meddwl a llesiant yn barhaus.
Asesu effaith ein polisïau
28. Rydym wedi diweddaru ein hasesiad effaith parhaus i ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Buom hefyd yn ystyried effaith y polisïau ar y Gymraeg, a darpariaeth Gymraeg yn sector trydyddol Cymru, a’r effeithiau posibl ar y nodau osodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
29. Mae canfyddiadau ein hasesiad effaith yn cynnwys:
- nodi effeithiau cadarnhaol tebygol ar y nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol.
- cadarnhad bod y cyllid yn cefnogi pump o’r saith nod llesiant ac yn rhoi ystyriaeth i’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- nodi bod y cyllid a’r gwaith monitro yn ceisio cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg.
Medr/2026/37: Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg uwch 2026/27
Dyddiad: 28 Gorffennaf 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/37
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; PPenaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol yng Nghymru
Ymateb erbyn: Ffurflen monitro – 24 Medi 2027
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn cadarnhau cyllid ac yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer ei ddefnyddio a’i fonitro.
Medr/2026/37 Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg uwch 2026/27Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio