Medr/2026/35: Gofynion Data Addysg Uwch 2026/27

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn hysbysu darparwyr addysg uwch (DAUwyr) am y data addysg uwch (AU) a ddefnyddir i’r dibenion canlynol:

  • cyfrifo dyraniadau cyllid;
  • monitro Mesurau Cenedlaethol;
  • monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth;
  • darparu data i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg;
  • cyhoeddiadau;
  • dadansoddi ansawdd data cofnodion myfyrwyr HESA;
  • monitro hepgoriadau ffioedd rhan-amser;
  • monitro prentisiaethau gradd;
  • cyhoeddi Ystadegau Swyddogol;
  • monitro darpariaeth Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) mewn Addysg Bellach (AB)
  • llywio polisi.

2. Yn y cyhoeddiad hwn, mae Sefydliadau Addysg Uwch yn cynnwys sefydliadau addysg bellach (SABau) sy’n darparu addysg uwch a sefydliadau addysg uwch (SAUau), a gyllidir gan Medr. Cynhwysir hefyd ddarparwyr sy’n tanysgrifio i HESA i ddychwelyd data ar gyrsiau a ddarperir ganddynt sydd wedi’u dynodi’n benodol, ond nad ydynt yn cael eu cyllido gan Medr am eu darpariaeth addysg uwch. Nid yw’r darparwyr hyn wedi’u cynnwys yn y data na’r dadansoddiadau sy’n gysylltiedig â chyllido, ond maent wedi’u cynnwys ym mheth o’r data a’r dadansoddiadau eraill a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn. Nodir y data a gynhwysir yn ôl math o ddarparydd o dan y penawdau unigol isod, gyda chrynodeb pellach yn y tabl yn Atodiad R.

3. Mae’r mapio yn yr atodiadau sy’n ymwneud â data myfyrwyr yn seiliedig ar ddata cofnodion myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) a gesglir gan Jisc ar gyfer blwyddyn casglu data 2025/26. Mae’r mapio a gyflwynwyd wedi’i brofi ar ddata a ddychwelwyd ar gofnod myfyrwyr HESA ar gyfer 2024/25 a chyflwyniadau cynnar ar gyfer 2025/26. Rydym yn croesawu unrhyw adborth sydd gan ddarparwyr ar y mapio yn yr atodiadau, naill ai yn ystod proses gyflwyno 2025/26 fel y gallwn wneud newidiadau ar unwaith i raglenni’r Gwasanaeth Rhyngwyneb Adrodd Gwybodaeth (IRIS) yn ôl yr angen, neu i gyfrannu at ein hadolygiad o’r mapio hwn yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dylid anfon unrhyw sylwadau sydd gan ddarparwyr at [email protected]. Mae mapiau ar gyfer echdynnu data monitro diwedd blwyddyn wedi’u cynnwys yn Atodiad K o’r Cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn. Croesewir sylwadau ar y mapio hwnnw hefyd. Bydd unrhyw newidiadau sylweddol i’r mapio, naill ai yn y ddogfen hon neu yn y cyhoeddiad monitro diwedd blwyddyn, a wneir yn ystod y broses gyflwyno, yn cael eu rhannu â darparwyr.

4. Os ceir unrhyw broblemau mawr wrth echdynnu data yn ystod y broses gyflwyno, er enghraifft problemau gyda’r mapio, system IRIS neu broblemau gyda darparwyr unigol, sy’n golygu nad oes modd defnyddio unrhyw allbwn, neu gyfran o allbwn IRIS, mae’n bosibl y bydd data yn cael eu hailechdynnu ar ôl casglu. Os yw hyn yn debygol, byddwn yn hysbysu darparwyr.

5. Nid yw dulliau cyllido ar gyfer 2027/28 yn derfynol ar adeg cyhoeddi’r cylchlythyr hwn a gallai rhai dulliau dyrannu newid. Y dulliau cyllido a geir yn y cylchlythyr hwn yw’r dulliau ar gyfer 2026/27. Tybir, er mwyn echdynnu data, y bydd y dulliau cyllido yn aros yr un peth ar gyfer 2027/28.

Prif newidiadau ar gyfer 2026/27 o gymharu â 2025/26

6. Dyma’r prif newidiadau sydd wedi’u cynnwys yn y cyhoeddiad hwn o gymharu â chyhoeddiad Medr Medr/2025/14: Gofynion Data Addysg Uwch 2025/26:

  • Mae Atodiad E wedi’i ddiweddaru i amlinellu’r dulliau echdynnu data sy’n gysylltiedig â chyhoeddiadau Ystadegau Swyddogol Medr.
  • Mae Atodiad F wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau a wnaed ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar adolygu allbynnau’r dadansoddiad o ansawdd data. Mae’r atodiad yn cynnwys crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae manylion yr allbynnau wedi’u diweddaru ar gyfer 2025/26 na chawsant eu gweithredu yn IRIS 2024/25, ac unrhyw newidiadau lle bydd angen gwaith pellach wedi’u cynnwys yn Atodiad S. Rydym hefyd wedi cynnwys taflenni ychwanegol yn allbynnau’r dadansoddiad ansawdd data sy’n dangos y data myfyrwyr a ddefnyddiwyd yn y tablau.
  • Mae Atodiad P newydd wedi’i gyflwyno i amlinellu’r dull echdynnu data sy’n gysylltiedig â data a ddefnyddir wrth gyfrifo cyllid lleoliadau Addysg Gychwynnol Athrawon (Statws Athro Cymwysedig).
  • Mae Atodiad Q newydd wedi’i gyflwyno i amlinellu’r dull echdynnu data sy’n gysylltiedig â data a ddefnyddir i nodi myfyrwyr Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) ymhlith myfyrwyr Addysg Bellach (AB).

Cynnwys

7. Dyma gynnwys yr atodiadau:

Atodiad AData a ddefnyddir wrth ddyrannu cyllid addysgu
Atodiad BData a ddefnyddir ar gyfer dyraniadau cyllid ymchwil
Atodiad CData a ddefnyddir wrth ddyrannu cyllid hyfforddiant Ymchwil Ôl-radd
Atodiad DData a ddarperir i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Atodiad EData a ddefnyddir yng nghyhoeddiadau Ystadegau Swyddogol Medr
Atodiad FData a ddarperir i ddarparwyr addysg uwch yn y dadansoddiad o ansawdd data cofnodion myfyrwyr HESA
Atodiad GData a ddefnyddir ar gyfer dyrannu a monitro’r cynllun hepgor ffioedd israddedig rhan-amser
Atodiad HData a ddefnyddir i ddadansoddi incwm
Atodiad IData a ddefnyddir ar gyfer monitro mesurau cenedlaethol
Atodiad JData a ddefnyddir i fonitro ac addasu cyllid prentisiaethau gradd
Atodiad KData a ddefnyddir wrth gyfrifo Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru
Atodiad LData a ddefnyddir wrth gyfrifo cyllid gwrth-hiliol a chyllid llesiant ac iechyd meddwl
Atodiad MData a ddefnyddir mewn dyraniadau cymorth cyflogadwyedd wedi’u targedu
Atodiad NData a ddefnyddir wrth gyfrifo cyllid cyfalaf
Atodiad OData a ddefnyddir wrth gyfrifo cyllid Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru
Atodiad PData a ddefnyddir wrth gyfrifo cyllid lleoliadau Addysg Gychwynnol Athrawon (Statws Athro Cymwysedig)
Atodiad QData a ddefnyddir i nodi myfyrwyr Tystysgrif Addysg i Raddedigion mewn Addysg Bellach
Atodiad RManylion yr allbynnau y bydd pob math o ddarparydd yn eu derbyn drwy IRIS a’r gofynion cymeradwyo cysylltiedig
Atodiad SCrynodeb o newidiadau i Ddadansoddiad Ansawdd Data IRIS yn dilyn adolygiad 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae croeso i ddarparwyr gysylltu â ni os oes arnynt angen rhagor o eglurder neu os oes ganddynt sylwadau am y mapiadau a amlinellir yn yr atodiadau; bydd unrhyw ddiweddariadau pellach sy’n ofynnol yn cael eu cyfleu i ddarparwyr.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn at Rachael Clifford ([email protected]).

Medr/2026/35: Gofynion Data Addysg Uwch 2026/27

Dyddiad:  16 Gorffennaf 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/35

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch; Penaethiaid darparwyr sy’n dychwelyd data ar ddapariaeth cyrsiau wedi’u dynodi’n benodol ar gofnod myfyrwyr HESA

Ymateb erbyn: 27 Tachwedd 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad yn hysbysu darparwyr addysg uwch am y data addysg uwch a ddefnyddir i gyfrifo dyraniadau cyllid; i fonitro Mesurau Cenedlaethol; i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth; ar gyfer cyhoeddi; ar gyfer darpariaeth i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol; ar gyfer dadansoddiad o ansawdd data cofnodion myfyrwyr HESA; i fonitro hepgoriadau ffioedd rhan-amser a phrentisiaethau gradd; ac i lywio polisi.

Medr/2026/35 Gofynion Data Addysg Uwch 2026/27

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Medr/2026/34: Trywydd Golwg Fyd-eang Medr

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi sut y byddwn yn cyflawni ein dyletswydd strategol i hybu golwg fyd-eang ar draws addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru.

2. Mae ein map trywydd Golwg Fyd-eang, yn Atodiad A, yn amlinellu’r hyn yr ydym ni a’r sector addysg drydyddol ac ymchwil eisoes yn ei wneud yn y maes hwn, a sut y byddwn yn cynorthwyo darparwyr i ddatblygu ymgysylltiad rhyngwladol. Drwy ddarparu gwybodaeth a mewnwelediad, galluogi cydlafurio, a monitro a sganio’r gorwel, ei nod yw gwella’r canlynol:

  • hybu symudedd
  • galluogi cydlafurio rhyngwladol, a
  • cynyddu i’r eithaf y budd i Gymru.

3. Byddwn yn helpu i hwyluso ymgysylltu rhyngwladol drwy adeiladu ar ein cymorth cyfredol a chanolbwyntio ar gamau gweithredu sy’n ymdrin â risgiau, yn pontio bylchau mewn darpariaeth, yn galluogi mwy o gynrychiolaeth a chyfranogiad gan ddarparwyr a dysgwyr Cymru mewn gweithgarwch rhyngwladol, yn ogystal â hybu datblygiad gwybodaeth ac arbenigedd.

4. Cefnogir y map trywydd gan Map trywydd Golwg Fyd-eang Medr: Cefndir, cyd-destun a dull, yn Atodiad B. Mae hwn yn amlinellu’n fanylach y broses a ddefnyddiwyd i ddylunio’r map trywydd, y cyd-destun y’i datblygwyd ynddo, a sut y bydd gweithgarwch newydd a gweithgarwch sy’n bodoli eisoes yn galluogi Medr i gyflawni ei ddyletswyddau strategol drwy ganolbwyntio ar dri maes thematig:

  1. Darparu gwybodaeth a mewnwelediad
  2. Galluogi cydlafurio
  3. Monitro a sganio’r gorwel

5. Bydd y dull o gyflawni’r map trywydd Golwg Fyd-eang yn barhaus yn blaenoriaethu ymgysylltu a chydlafurio – gartref ac yn rhyngwladol – ac yn canolbwyntio ar gyflawni’r deilliannau gorau posibl i Gymru, ein dysgwyr a’n darparwyr addysg.

Rhagor o wybodaeth

6. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cylchlythyr hwn at Bill Burson: ([email protected]).

Medr/2026/34: Trywydd Golwg Fyd-eang Medr

Dyddiad:  14 Gorffennaf 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/34

At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid colegau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg; Deiliaid contract prentisiaeth

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi sut y bydd Medr yn cyflawni ei ddyletswydd strategol i hybu golwg fyd-eang ar draws addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru.

Medr/2026/34 Trywydd Golwg Fyd-eang Medr

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/33: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2026/27

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi canllawiau i gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch, ynghyd â dyraniadau cyllid gwrth-hiliaeth, disgwyliadau o ran arian cyfatebol, a gofynion monitro ar gyfer 2026/27.

2. Darparwyd y cyllid hwn yn wreiddiol yng nghylchlythyr CCAUC W22/05HE: Ymgynghoriad ar gyllid i gefnogi cydraddoldeb hiliol mewn addysg uwch i ymdrin â gwrth-hiliaeth a chefnogi newid diwylliant mewn addysg uwch, yn unol â datblygiadau polisi hil, mynediad a llwyddiant yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Roedd y cyhoeddiad cychwynnol yn cynnwys amodau arian cyfatebol a’r disgwyliad i brifysgolion ennill dyfarniad siarter cydraddoldeb hiliol erbyn 2024/25. Cadarnhaodd pob prifysgol y cyflawniad hwn erbyn mis Ebrill 2025.

3. Dylid darllen y cyhoeddiad hwn ar y cyd â chylchlythyr CCAUC W23/06HE: Addysg uwch ddiogel a chynhwysol: cefnogi addysg cydraddoldeb ac amrywiaeth. Ym mis Hydref 2024 cyhoeddodd Medr ei ganllawiau ar gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch 2024/25 a osododd y cefndir ar gyfer y sector addysg uwch ac a ddilynwyd gan y cyhoeddiad canllawiau ar gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch 2025/26 ym mis Hydref 2025.

4. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030. Yn 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn newydd o’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i sicrhau cynnydd cyflym yn erbyn camau penodol, gan gynnwys camau’n gysylltiedig ag addysg drydyddol. Rydym yn disgwyl i brifysgolion ystyried y camau gweithredu hyn a chyfrannu atynt.

5. Rydym yn croesawu’r ffaith bod wyth prifysgol yng Nghymru yn parhau i wneud cynnydd yn erbyn eu cynlluniau gweithredu gwrth-hiliol, fel y’u datblygwyd drwy’r siarter cydraddoldeb hiliol. Mae’r siarter yn cefnogi’r broses o ddatblygu’n brifysgol wrth-hiliol. Rydym yn disgwyl i bob prifysgol barhau i gyflawni yn erbyn eu cynlluniau gweithredu ar gyfer y siarter yn 2026/27.

Dyletswyddau a chyfrifoldebau Medr

6. Mae gan Medr ddyletswydd strategol i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn addysg drydyddol, gan gynnwys y modd y mae hyn yn berthnasol i grwpiau tangynrychioledig a phobl â nodweddion gwarchodedig. Rhoddir esboniad manwl ym mharagraffau 8-11 Medr/2024/03.

7. Mae Medr wedi cyhoeddi ei gynllun strategol sy’n nodi ein hymrwymiad  i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r sector i wneud cynnydd tuag at greu Cymru wrth-hiliol ac at sicrhau amgylcheddau dysgu a gwaith sy’n gynhwysol i bawb, waeth beth fo’u hunaniaeth. Mae cynllun gweithredol Medr hefyd yn egluro y byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a darparwyr addysg drydyddol i gyfrannu at y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys: monitro cynnydd darparwyr addysg drydyddol yn erbyn cynlluniau gweithredu ac/neu ymrwymiadau siarter, a datblygu a chyhoeddi data monitro cydraddoldeb hiliol.

8. Ym mis Ebrill 2026 cyhoeddodd Medr ei amodau rheoleiddio sy’n cynnwys gofynion ar gyfer yr amod lles staff a dysgwyr. Fel rhan o’r rheoliad, mae’n rhaid i sefydliadau gynnal hunanwerthusiad a chyflwyno cynllun gweithredu lles dwy flynedd i Medr. Bydd amod cyfle cyfartal Medr yn dod i rym yn 2027/28. Er mwyn cyfrannu at fodloni’r gofynion hyn yn gysylltiedig â’r amod rheoleiddio, bydd disgwyl i brifysgolion barhau i gydymffurfio â’u hymrwymiadau gwrth-hiliaeth.

9. Cryfhaodd Diweddariad Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru bwyslais y Llywodraeth ar arweinyddiaeth a grwpiau â blaenoriaeth. Disgwylir y bydd atebolrwydd am ymrwymiad prifysgolion i wrth-hiliaeth yn cael ei oruchwylio gan yr aelodau uwch priodol o staff (fel Dirprwy Is-Gangellorion) gyda chefnogaeth cyrff llywodraethu. Disgwylir i brifysgolion hefyd wella’u hymgysylltiad â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a’u cefnogaeth i’r cymunedau hynny.

Pwrpas cyllid gwrth-hiliaeth

10. Mae’r cyllid hwn i atal anghydraddoldeb, mynd i’r afael â hiliaeth a chefnogi’r broses o ymwreiddio polisïau ac arferion gwrth-hiliol mewn prifysgolion. Mae’n cyfrannu at newid diwylliant ac at fodloni disgwyliadau’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru.

11. Er bod y cyllid hwn wedi’i fframio o ran hil ac ethnigrwydd, dylai prifysgolion fabwysiadu dull cyfannol o gydnabod sut mae hil ac ethnigrwydd yn croestorri â nodweddion gwarchodedig a grwpiau a materion eraill o fewn cymdeithas, gan gynnwys trais, cam-drin ac aflonyddu ar sail hunaniaeth, llesiant ac iechyd meddwl, ffoaduriaid a cheiswyr lloches a chrefydd a chred, ymhlith eraill.

Dyraniadau ac amodau cyllid ar gyfer 2026/27

12. Mae dyraniadau cyllid 2026/27:

  1. yn amodol ar ymrwymiad gan brifysgolion i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer dyraniadau (fel mewn blynyddoedd cynt, ac fel y nodir yn y tabl cyllido isod);
  2. yn defnyddio data myfyrwyr 2024/25 HESA sy’n seiliedig ar boblogaeth gofrestru safonol HESA, wedi’i ostwng i nifer yr unigolion, h.y. os bydd myfyriwr wedi cofrestru ar fwy nag un cwrs ni chaiff ond ei gyfrif unwaith);
  3. yn defnyddio data myfyrwyr sy’n cynnwys yr holl gorff o fyfyrwyr: pob dull, lefel a domisil;
  4. yn seiliedig ar ddata HESA 2024/25 sydd wedi’u dilysu gan y brifysgol;
  5. yn ôl ein harfer, mae data myfyrwyr y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama wedi’u cynnwys yn nata a dyraniad Prifysgol De Cymru; ac
  6. yn cael eu cyflwyno ar ffurf un taliad ym mis Hydref 2026. Os yw’r adroddiadau’n anfoddhaol neu’n gyfyngedig, rydym yn cadw’r hawl i adennill cyllid.

13. Dyma ein disgwyliadau ar gyfer defnyddio arian cyfatebol:

  1. na ddylai dyraniad Medr arwain at unrhyw ostyngiad yn yr adnoddau a ddarperir eisoes gan brifysgolion ar gyfer datblygiadau gwrth-hiliol, gan gynnwys eu hymrwymiad i sicrhau a dangos cynnydd ac ymrwymiad parhaus tuag at ennill eu hachrediad siarter;
  2. bod prifysgolion yn clustnodi adnoddau ychwanegol i gefnogi camau gwrth-hiliaeth, sy’n uwch na chyfanswm dyraniad Medr o £1m;
  3. lle caiff unrhyw weithgareddau neu wasanaethau gwrth-hiliaeth sy’n bodoli eisoes eu hariannu drwy gynllun mynediad a ffioedd neu o ffynonellau eraill yn 2026/27, ceir defnyddio’r cyllid a ddarperir gan Medr drwy’r canllawiau hyn neu drwy’r arian cyfatebol gwrth-hiliaeth cysylltiedig i brifysgolion er mwyn cynyddu darpariaeth y gweithgareddau a’r gwasanaethau hyn (mae cynlluniau mynediad a ffioedd yn parhau i fod yn weithredol yn 2026/27 nes bo’r broses gofrestru newydd ar gyfer cyfle cyfartal yn weithredol o 2027/28). Yn yr achos hwn, bydd yn rhaid i’r brifysgol gyfleu’n glir ym mhob adroddiad ac mewn unrhyw waith monitro cydraddoldeb hiliol, sut ac i ba raddau y mae’r cyllid hwn wedi gwella gweithgareddau a gwasanaethau, a gallai hynny fod yn destun archwiliad gennym ni;
  4. ceir defnyddio arian cyfatebol neu arian Medr i dalu costau tanysgrifiadau aelodaeth perthnasol, hyfforddiant wedi’i hwyluso’n allanol neu arbenigedd arall allanol;
  5. rhaid i brifysgolion gyfrannu’n effeithiol at nodau a chamau gweithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol;
  6. bod prifysgolion yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r safonau a nodir yn y Siarter Cydraddoldeb Hiliol a’r camau yn eu cynllun gweithredu;
  7. bod prifysgolion yn cydweithredu’n effeithiol ar draws y sector trydyddol a chyda phartneriaid allanol, gan gynnwys rhai â phrofiad bywyd, i ddatblygu a rhannu dysgu ac ymarfer; a
  8. bod yr arian cyfatebol a dyraniad Medr yn arwain at gynyddu cynnydd a chyflymder y cynnydd tuag at ymdrin â hiliaeth, i ymwreiddio arferion gwrth-hiliaeth, gwella cydraddoldeb hiliol, a gweithio tuag at ddyfarniad siarter/parhau i gyflawni dyfarniad siarter.

14. Dyma ddyraniadau 2026/27:

SefydliadDyraniad Medr 2026/27 (gydag isafswm o £50K)
£
Arian cyfatebol y sector 2026/27
 (dim isafswm)

£
2026/27
  Cyfanswm
£
Prifysgol De Cymru146,396146,396321,132
Prifysgol Aberystwyth59,54059,540107,762
Prifysgol Bangor70,76570,765147,660
Prifysgol Caerdydd224,540224,540449,443
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant109,476109,476212,320
Prifysgol Abertawe135,131135,151288,679
Prifysgol Metropolitan Caerdydd87,42087,420155,896
Prifysgol Wrecsam55,05955,059108,689
Y Brifysgol Agored yng Nghymru111,653111,653208,420
 Cyfanswm1,000,0001,000,0002,000,000

Adnoddau a gwybodaeth

15. Ym mis Gorffennaf 2023 cyhoeddodd Prifysgolion y DU Tackling racial harassment in higher education: progress since 2020 i adolygu effaith canllawiau 2020 ar sut mae prifysgolion yn mynd i’r afael ag aflonyddu hiliol mewn AU a sut y gallant wella ymhellach. Mae Prifysgolion y DU hefyd wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau ar newid y diwylliant ac ar grefydd a chred, gan fynd i’r afael â gwrthsemitiaeth ac Islamoffobia) i ddarparu canllawiau ymarferol er mwyn llywio ystyriaethau hiliol. Yn 2024, cyhoeddodd Prifysgolion y DU ac NUS y DU lythyr i’r sector yn amlinellu ei ymdrechion i fynd i’r afael â iaith casineb a hiliaeth, i leddfu ofn, i wella cysylltiadau cymunedol ac i amddiffyn rhyddid i lefaru.

16. Ym mis Mawrth 2024, lansiodd y Black Leadership Group Higher Education Anti-Racism Toolkit (HEART). Mae’n cynnwys cynllun deg pwynt i ymwreiddio gwrth-hiliaeth mewn systemau addysg uwch (Gan gynnwys strategaeth, addysgeg a phrofiadau myfyrwyr a staff). Gallai’r adnodd hwn fod yn ddefnyddiol i brifysgolion.

17. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu matrics aeddfedrwydd fel offeryn hunanasesu sy’n gysylltiedig â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae’r matrics aeddfedrwydd wedi’i gynnwys yn Atodiad A er gwybodaeth. Efallai y bydd prifysgolion yn gweld bod hwn yn adnodd defnyddiol wrth adolygu arweinyddiaeth a threfniadau llywodraethu a thrafod eu cynlluniau gweithredu lles staff a dysgwyr o 2026/27.

18. O fis Mai 2026 ymlaen mae Medr wedi ariannu AU Ymlaen i sefydlu cymuned ymarfer Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant er mwyn cynorthwyo sefydliadau i gyflawni eu hymrwymiadau ac i rannu a phrofi arferion cadarnhaol, gan gynnwys arferion yn gysylltiedig â gwrth-hiliaeth.

Cyflawniadau a monitro

19. Dylai gwybodaeth monitro a chyflawniadau ar gyfer 2026/27 adeiladu ar y cynlluniau ar gyfer 2024/25 a 2025/26 a gyflwynwyd i Medr, a bod yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o broses y siarter cydraddoldeb hiliol a chanlyniadau cynlluniau gweithredu, yn ogystal â phrofiadau staff a dysgwyr. Mae templed monitro wedi cael ei ddarparu yn Atodiad B a dylai’r dogfennau a anfonir atom gynnwys:

  1. Cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth 2026/27 y brifysgol,
  2. Templed monitro’r brifysgol, gan gynnwys cynnydd a chyflawniadau hyd at fis Gorffennaf 2027; a
  3. Datganiad ariannu i roi cyfrif am ddyraniad Medr ac arian cyfatebol y brifysgol.

20. Os yw cynlluniau gweithredu’r prifysgolion yr un peth â’u cynlluniau gweithredu siarter cydraddoldeb hiliol, gallant gyflwyno cynllun gweithredu’r siarter er mwyn osgoi ail-wneud gwaith a lleihau’r baich o orfod adrodd yn ddiangen.

21. Os bydd Llywodraeth Cymru yn gosod disgwyliadau newydd ar addysg uwch neu’r sector trydyddol yn ystod y cyfnod cyllido, mae’n bosib y byddwn yn gofyn am friffiau gwybodaeth ychwanegol ac/neu’n gofyn fonitro ychwanegol.

Dyddiadau monitro a chyflwyno ar gyfer cyllid ac adroddiadau 2026/27

22. Y dyddiad cyflwyno ar gyfer cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth prifysgolion yw Dydd Llun, 12 Hydref 2026. Cyflwynwch i [email protected].

23. Dyddiad cyflwyno templed monitro 2026/27 yw Dydd Llun, 18 Hydref 2027. Dychwelwch y ddogfen fonitro wedi’i chwblhau (Atodiad B) i [email protected].

Asesu effaith ein polisïau

24. Rydym wedi cynnal ymarfer sgrinio asesu effaith er mwyn helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb. Rydym yn rhagweld effaith gadarnhaol ar hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd a chred.

25. Buom hefyd yn ystyried effaith y polisi hwn ar y Gymraeg, a darpariaeth Gymraeg yn sector AU Cymru, a’r effeithiau posibl ar y nodau a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cysylltwch ag [email protected] am ragor o wybodaeth am asesiadau effaith cydraddoldeb.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau i’w cyflwyno

26. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Savanna Jones ([email protected]).

27. Cyflwynwch eich cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth i [email protected] erbyn Dydd Llun, 12 Hydref 2026.

28. Cyflwynwch eich templed monitro i [email protected] erbyn Dydd Llun, 18 Hydref 2027.

Medr/2026/33: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2026/27

Dyddiad:  13 Gorffennaf 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/33

At:  Benaethiaid prifysgolion yng Nghymru

Ymateb erbyn:  12 Hydref 2026 ac 18 Hydref 2027 i [email protected]

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu canllawiau i gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch, a dyraniadau cyllid gwrth-hiliaeth, disgwyliadau o ran arian cyfatebol, a gofynion monitro ar gyfer 2026/27.

Medr/2026/33 Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2026/27

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/32: Monitro Diwedd Blwyddyn ar gyfer Ymrestriadau Addysg Uwch 2025/26

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi diffiniadau a chanllawiau i sefydliadau addysg uwch (SAUau) a sefydliadau addysg bellach (SABau) sydd â darpariaeth addysg uwch (a elwir gyda’i gilydd yn ddarparwyr addysg uwch (AU)) a gyllidir gan Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch. Mae’r canllawiau hefyd yn berthnasol i ddarparwyr sy’n darparu cyrsiau wedi’u dynodi’n benodol, ond nad ydynt yn derbyn cyllid yn uniongyrchol gan Medr am eu darpariaeth addysg uwch. Mae hyn yn cynnwys rhai SABau a rhai darparwyr eraill. Mae’r canllawiau’n ymwneud â data diwedd blwyddyn a dynnir o gofnod myfyrwyr 2025/26 yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) drwy Wasanaeth Rhyngwyneb Adrodd Gwybodaeth HESA (IRIS) er mwyn galluogi Medr i:

  1. gyfrifo dyraniadau cyllid ar gyfer cyllid sy’n seiliedig ar gredydau cyrsiau gradd rhan-amser ac ar gyfer y premiwm pynciau cost uwch yn 2027/28;
  2. cyfrifo unrhyw addasiadau i gyllid sy’n seiliedig ar gyrsiau gradd rhan-amser 2025/26;
  3. monitro darpariaeth cyrsiau meddygaeth a deintyddiaeth;
  4. sefydlu niferoedd terfynol y myfyrwyr a’r gwerthoedd credyd mewn darparwyr AU ar gyfer 2025/26 er mwyn modelu cyllid a darparu gwybodaeth.

Y prif newidiadau ar gyfer 2025/26

2. Dyma’r prif newidiadau a wnaed ers arolwg Monitro Diwedd Blwyddyn 2024/25:

  1. Mae dwy golofn ychwanegol wedi’u hychwanegu at y tabl data crai cofrestru ar gais y darparwyr. Mae’r rhain yn cynnwys y dyddiad pan ddechreuodd y myfyriwr ymgysylltu a’i gyfeiriad cartref parhaol wrth ymuno â’r cwrs.
  2. Mae’r ffrydiau llawn amser a reoleiddir ar gyfer myfyrwyr israddedig/TAR cartref wedi’u diweddaru yn Atodiad DD ynghyd â’r lefelau ffioedd newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Cynnwys

3. Mae’r cylchlythyr hwn yn darparu:

  1. canllawiau a diffiniadau ar gyfer y gwahanol gategorïau a ddefnyddir i ddosbarthu myfyrwyr;
  2. gwybodaeth am y meini prawf a ddefnyddir i echdynnu data MDB o gofnod myfyrwyr HESA 2025/26 drwy IRIS;
  3. manylion y trefniadau cymeradwyo ar gyfer y tablau a ddarperir drwy allbynnau IRIS HESA (gweler paragraff 10 am y rhestr o dablau y mae angen eu cymeradwyo. Sylwer mai ond i ddarparwyr addysg uwch sy’n derbyn cyllid gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch y mae’r broses gymeradwyo yn berthnasol. Os yw darparwyr yn dychwelyd data i HESA gan fod ganddynt gyrsiau wedi’u dynodi’n briodol, nid yw’n ofynnol iddynt gymeradwyo tablau MDB, ac mae’r daflen gymeradwyo wedi’i hepgor o’u hallbynnau IRIS HESA.

4. Dyma gynnwys yr atodiadau:

AtodiadRhif tudalen
Atodiad ACanllaw cryno i arolwg MDB 2025/265
Atodiad BDiffiniad o gymhwyster AU cydnabyddedig13
Atodiad CDysgu o bell, campysau, is-gwmnïau, darpariaeth freiniol, trefniadau dilysu a threfniadau cydweithredol eraill14
Atodiad DDiffiniad o statws preswylio a chyllido21
Atodiad EDiffiniad o ASCs25
Atodiad FDiffiniad o ddull astudio27
Atodiad GDiffiniad o lefel astudio30
Atodiad HRheolau ar gyfer cyfrif cofrestriadau31
Atodiad IRheolau ar gyfer cyfrif gwerthoedd credyd38
Atodiad JDisgrifiadau o dablau a cholofnau43
Atodiad KMapio HESA/HESES/MDB a meini prawf echdynnu data monitro diwedd blwyddyn46
Atodiad LSut y bydd Medr yn defnyddio data56
Atodiad MDosbarthiad myfyrwyr segur / sy’n ysgrifennu58
Atodiad NGrid cyfeirio statws cyllido60
Atodiad OCopïau sampl o dablau allbwn IRIS a echdynnwyd o ddata HESA62

Addasu cyllid 2025/26

5. I ddibenion cyfrifo canlyniadau cyllido tan-recriwtio ar gyfer cyllid 2025/26, ailgyfrifir cyllid addysgu israddedig rhan-amser yn seiliedig ar gredydau drwy ddefnyddio data EYM. Bydd gwerthoedd credyd (ar gyfer myfyrwyr gradd rhan-amser) sy’n deillio o fodiwlau y cofrestrodd myfyrwyr arnynt hyd at ac yn cynnwys, a hefyd ar ôl, 1 Tachwedd 2025, yn cael eu defnyddio a nifer y gwerthoedd credyd yn gysylltiedig â modiwlau y mae myfyrwyr yn tynnu’n ôl ohonynt yn cael ei ddidynnu. Bydd y tablau MDB a gymeradwyir o’r data a echdynnir o IRIS HESA yn cael eu defnyddio i’r diben hwn.

Proses ar gyfer cymeradwyo data monitro diwedd blwyddyn a data eraill a echdynnir o gofnod myfyrwyr HESA

6. Rhaid i ddarparwyr addysg uwch sy’n cael eu cyllido’n uniongyrchol gan Medr am eu darpariaeth addysg uwch gymeradwyo’r data a gyflwynir yn allbynnau terfynol IRIS ar gyfer cofnodion myfyrwyr HESA ar ddyddiad cymeradwyo terfynol HESA, sef 29 Hydref 2026. Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd allbynnau IRIS wedi’u cymeradwyo i Medr yw 27 Tachwedd 2026. Os gwneir unrhyw ddiwygiadau i’r mapio neu’r dull o echdynnu ar ôl dechrau echdynnu am y tro cyntaf, byddwn yn rhoi gwybod i ddarparwyr. Dylai darparwyr hefyd roi gwybod i ni os ydynt yn dod ar draws unrhyw broblemau wrth echdynnu, naill ai wrth gyflwyno’r allbynnau neu drwy’r dull mapio a ddefnyddir.

7. Yn ystod cyfnod gwirio ansawdd data HESA o 1 Awst i 22 Hydref 2026, bydd Medr yn cynnal gwiriadau ansawdd ar y data a gyflwynir. Byddwn yn cysylltu â darparwyr tua chwe wythnos cyn y dyddiad cymeradwyo terfynol ar gyfer cofnod myfyrwyr HESA, sef 29 Hydref, ac ar ôl i ddarparwyr gadarnhau eu bod yn barod inni anfon unrhyw ymholiadau ymlaen, byddwn yn darparu cyfres o ymholiadau. Gall darparwyr hefyd ofyn inni godi cwestiynau yn gynharach na chwe wythnos neu, os yw’n well ganddynt, pennu dyddiad inni anfon ein rhestr o ymholiadau atynt, a gallant ofyn ar unrhyw bryd inni edrych ar agweddau neilltuol ar eu data os yw hynny’n ddefnyddiol iddynt. Gwneir hyn er mwyn cefnogi proses gwirio ansawdd mewnol y darparydd ei hun, ac i sicrhau bod y data yn addas i ddibenion Medr. Fel y disgrifir ar Amserlen casglu Cofnodion Myfyrwyr HESA,mae’n ofynnol i ddarparwyr naill ai ailgyflwyno eu data i gywiro’r anomaleddau hyn, neu esbonio pam eu bod yn ddilys.

8. Cyn dychwelyd allbynnau IRIS wedi’u cymeradwyo i Medr, rhaid i ddarparwyr addysg uwch fod wedi cynnal gwiriadau digonol i fod yn fodlon bod y data a echdynnwyd yn gywir, ac/neu eu bod wedi gwneud newidiadau lle bo angen os nad yw’r data’n gywir. Rydym yn parhau i ganiatáu i newidiadau i holl allbynnau IRIS yn y cam cymeradwyo ar gyfer 2025/26, ond yn adolygu hyn ar gyfer datganiadau 2026/27. Dylai darparwyr esbonio unrhyw newidiadau a wneir. Ceir rhagor o fanylion am y broses yn y cyhoeddiad Gofynion Data ar gyfer 2026/27, sydd i’w gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2026.

9. Nid yw’n ofynnol cyflwyno copi caled o’r allbynnau IRIS wedi’u cymeradwyo. Dylid dychwelyd allbynnau wedi’u cymeradwyo drwy e-bost at [email protected]. Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd yr allbynnau wedi’u cymeradwyo yw 27 Tachwedd 2026. Bydd manylion am y broses yn cael eu hanfon drwy e-bost ar wahân at lofnodwyr awdurdodedig a chysylltiadau data i’w hatgoffa ym mis Hydref 2026.

10. Nodir y rhagddodiad “S” o flaen enw ffeil yr allbynnau IRIS y mae angen eu cymeradwyo. Dyma’r ffeiliau hynny:

  1. Monitro Diwedd Blwyddyn
  2. Mesurau Cenedlaethol Medr
  3. Dyraniadau hepgor ffioedd rhan-amser
  4. Monitro hepgor ffioedd rhan-amser
  5. Monitro prentisiaethau gradd (ynghyd â’r wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani)
  6. Cyllid fesul pen
  7. Premiwm anabledd
  8. Premiwm Mynediad a Chadw
  9. Premiwm cyfrwng Cymraeg
  10. Premiwm pynciau drud
  11. Dyraniad Ymchwil ôl-radd
  12. Cyllid cydraddoldeb hiliol/llesiant ac iechyd meddwl
  13. Cyllid cymorth cyflogadwyedd wedi’i dargedu
  14. Cyfanswm cyfwerth ag amser llawn (CALl) (ar gyfer dyraniadau cyllid cyfalaf)
  15. Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGiA) sy’n arwain at gyllid lleoliad Statws Athro Cymwysedig (SAC)
  16. Cynllun cymhelliant Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) mewn Addysg Bellach (AB)

Archwilio data

11. Atgoffir darparwyr y gall data MDB, a thablau eraill fel y disgrifir ym mharagraff 10, fel y’u hechdynnwyd o gofnod myfyrwyr HESA drwy IRIS, ac unrhyw ddiwygiadau a wneir i’r data a echdynnir, gan gynnwys dulliau a ddefnyddir i gyfrifo unrhyw amcangyfrifon sydd wedi’u cynnwys yn y diwygiadau, fod yn ddarostyngedig i archwiliad allanol a gynhelir gan Medr neu gan gontractwyr sy’n gweithio ar ei ran. Mae’r systemau a’r prosesau a ddefnyddir i gynhyrchu’r data HESA a echdynnir o fewn cwmpas archwiliadau mewnol y sefydliad.

Rhagor o wybodaeth

12. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau i sylw Andrea Thomas ([email protected]).

Medr/2026/32: Monitro Diwedd Blwyddyn ar gyfer Ymrestriadau Addysg Uwch 2025/26

Dyddiad:  13 Gorffennaf 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/32

At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach yng Nghymru sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch

Ymateb erbyn: 27 Tachwedd 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi diffiniadau a chanllawiau i ddarparwyr addysg uwch yn gysylltiedig â data diwedd blwyddyn a dynnir o gofnod myfyrwyr HESA 2025/26.

Echdynnir y data drwy Wasanaeth Rhyngwyneb Adrodd Gwybodaeth (IRIS) HESA, ac fe’i defnyddir i gyfrifo cyllid ar sail credydau ar gyfer cyrsiau gradd rhan-amser, a’r premiwm pynciau cost uwch ar gyfer 2027/28, i gyfrifo unrhyw addasiad i gyllid addysgu seiliedig ar gredydau yng nghyrsiau gradd rhan-amser 2025/26, i fonitro darpariaeth meddygaeth a deintyddiaeth a sefydlu niferoedd terfynol y myfyrwyr a’r gwerthoedd credyd o fewn darparwyr ar gyfer 2025/26.

Medr/2026/32 Monitro Diwedd Blwyddyn ar gyfer Ymrestriadau Addysg Uwch 2025/26

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026

Mae lefelau boddhad ymhlith myfyrwyr israddedig mewn prifysgolion a cholegau wedi cynyddu, gyda 84% o fyfyrwyr gradd ar eu blwyddyn olaf yn dweud eu bod yn fodlon â’u cwrs eleni.

Mae hyn yn gynnydd o gymharu ag 82% o foddhad cyffredinol yn 2025.

Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) ar agor i fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf gyda darparwyr addysg uwch yng ngwledydd y DU. Roedd arolwg eleni ar agor o 8 Ionawr tan 30 Ebrill 2026.

Yr NSS yw un o brif ddangosyddion boddhad myfyrwyr ar gyfer Medr a’r sector addysg drydyddol, gan gasglu adborth cynhwysfawr gan fyfyrwyr addysg uwch israddedig sydd ar eu blwyddyn olaf ar agweddau allweddol ar eu profiad addysgol – o ansawdd yr addysgu a threfniadau cyrsiau hyd at effeithiolrwydd sefydliadau wrth wrando ar leisiau dysgwyr.

Mae Cynllun Strategol Medr yn amlygu ei ymrwymiad i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn darpariaeth o’r ansawdd uchaf mewn sector addysg drydyddol sy’n ymdrechu i wella’n barhaus.

Yn ôl James Owen, Prif Weithredwr Medr:

“Rydym unwaith eto wrth ein bodd o weld cynnal neu welliannau ar draws canlyniadau’r holl gwestiynau i Gymru yn NSS 2026 o gymharu ag NSS 2025.

“Mae’n galonogol bod Cymru, yn gyffredinol, yn parhau i berfformio’n gyson â sgoriau’r DU gyfan ac yn rhagori ar y sgoriau hynny yn y themâu Cymorth Academaidd a Llais y Myfyriwr.Mae’r canlyniadau hyn unwaith eto’n tystio i’r gwaith effeithiol sy’n digwydd ar draws sefydliadau yng Nghymru.

“Mae’r cydweithrediad cryf a welwyd rhwng sefydliadau ac undebau myfyrwyr dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn galonogol, wrth iddynt gydweithio i wella profiad myfyrwyr a chefnogi llwyddiant myfyrwyr. Llongyfarchiadau i bawb a gyfrannodd at y cyflawniadau hyn.

“Yn gynharach eleni, cyflwynwyd ein Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn rhan o’r Fframwaith Rheoleiddio, gan gydnabod rôl bwysig ymgysylltu mewn modd ystyrlon â dysgwyr wrth wneud penderfyniadau. Mae ymgysylltu effeithiol o fudd i ddysgwyr, darparwyr a’r sector addysg drydyddol ehangach yng Nghymru yn y presennol ac yn y dyfodol.

“Mae sefydliadau Cymru yn parhau i roi ystyriaeth o ddifri i ganlyniadau’r NSS ac yn parhau i fod wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a’u cynrychiolwyr i ysgogi gwelliant parhaus a gwella ansawdd.

“Gan edrych ymlaen at flwyddyn academaidd 2026/27, mae profiad myfyrwyr yn parhau i fod ymhlith prif gryfderau addysg uwch yng Nghymru. Rydym yn estyn croeso cynnes i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr y dyfodol, a all ddisgwyl rhaglenni o ansawdd uchel, cymunedau cefnogol a phrofiad cyfoethog yn y brifysgol fydd yn talu ar ei ganfed.”

Canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) yn 2026: Data cymharol ar gyfer pob cwestiwn

CwestiwnY DU 2025 (sgôr positifrwydd %)Y DU 2026 (sgôr positifrwydd %)Cymru 2025
(sgôr positifrwydd %)
Cymru 2026
(sgôr positifrwydd %)
1Pa mor dda yw’r staff am egluro pethau?93949394
2Pa mor aml y mae staff addysgu’n gwneud y pwnc yn ddiddorol?83858385
3Pa mor aml y mae’r cwrs yn ysgogol yn ddeallusol?86868686
4Pa mor aml y mae eich cwrs yn eich herio i gyflawni eich gwaith gorau?87888788
5I ba raddau ydych chi wedi cael y cyfle i archwilio syniadau a chysyniadau yn fanwl?85868586
6Pa mor dda y mae eich cwrs yn cyflwyno pynciau a sgiliau mewn ffordd sy’n adeiladu ar yr hyn yr ydych eisoes wedi’i ddysgu?87898788
7I ba raddau ydych chi wedi cael y cyfle i ddod â syniadau a gwybodaeth ynghyd o wahanol destunau?85868586
8I ba raddau y mae eich cwrs yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng astudio dan gyfarwyddyd ac astudio annibynnol?79818081
9Pa mor dda mae eich cwrs wedi datblygu gwybodaeth a sgiliau yr ydych yn meddwl y bydd eu hangen arnoch ar gyfer y dyfodol?85878687
10Pa mor eglur oedd y meini prawf marcio a ddefnyddiwyd i asesu eich gwaith?78818082
11Pa mor deg fu’r marcio a’r asesu ar eich cwrs?84868586
12Pa mor dda y mae’r asesiadau wedi eich galluogi i ddangos yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu?84868486
13Pa mor aml ydych chi wedi cael adborth asesu ar amser?83858585
14Pa mor aml y mae adborth yn eich helpu i wella eich gwaith?75777577
15Pa mor hawdd oedd hi i gysylltu â staff addysgu pan oedd angen i chi wneud hynny?88898990
16Pa mor dda y mae’r staff addysgu wedi cefnogi eich dysgu?88908990
17Pa mor dda y mae eich cwrs wedi’i drefnu?77807980
18Pa mor dda oedd unrhyw newidiadau i addysgu ar eich cwrs yn cael eu cyfleu?80828082
19Pa mor dda y mae’r adnoddau a chyfleusterau TG wedi cefnogi eich dysgu?87888788
20Pa mor dda y mae’r adnoddau llyfrgell (e.e. llyfrau, gwasanaethau ar-lein a mannau dysgu) wedi cefnogi eich dysgu?90919091
21Pa mor hawdd yw hi i gael gafael ar adnoddau pwnc-benodol (e.e. offer, cyfleusterau, meddalwedd) pan fo’u hangen arnoch?88898889
22I ba raddau ydych chi’n cael y cyfleoedd cywir i roi adborth ar eich cwrs?85868586
23I ba raddau mae barn myfyrwyr ynglŷn â’r cwrs yn cael ei gwerthfawrogi gan staff?80828183
24Pa mor eglur yw hi y gweithredir ar adborth myfyrwyr ar y cwrs??68726972
25Pa mor dda y mae undeb (cymdeithas neu urdd) y myfyrwyr yn cynrychioli buddiannau academaidd myfyrwyr?76797879
26Pa mor dda gafodd gwybodaeth am wasanaethau cymorth lles meddyliol eich prifysgol/coleg ei chyfleu?82857983
28Ar y cyfan, rwy’n fodlon ar ansawdd y cwrsD/BD/B8284

Mae gan bob cwestiwn ddau opsiwn i ymateb yn gadarnhaol – e.e. fel arfer ‘i raddau helaeth’ neu ‘i ryw raddau’; neu ‘yn aml iawn’ neu ‘yn weddol aml’ – a dau opsiwn i ymateb yn negyddol, gyda phumed opsiwn ‘Nid yw hyn yn berthnasol i mi’. Sgôr positifrwydd yw canran yr ymatebwyr a atebodd gan ddefnyddio un o’r ddau opsiwn cadarnhaol.

Nid oes sgôr y DU ar gyfer cwestiwn 28. Gofynnwyd cwestiwn 28 i fyfyrwyr yng Nghymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn unig ac nid i fyfyrwyr yn Lloegr.

Diwedd

Nodiadau:

  1. Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) yn cynnwys y rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf sy’n astudio ar gyfer cymwysterau addysg uwch (AU) yn:
    1. yr holl brifysgolion a cholegau addysg uwch a gyllidir ag arian cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
    1. sefydliadau addysg bellach yng Nghymru â myfyrwyr addysg uwch a gyllidir yn uniongyrchol.
    1. colegau addysg bellach yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
  2. Caiff yr arolwg, a gynhelir gan Ipsos, ei gyllido gan y pedwar corff cyllido a rheoleiddio addysg uwch yn y DU (Medr, y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS), Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon).
  3. Mae’r canlyniadau llawn ar gael ar wefan yr OfS. Cyhoeddir y data ar y wefan Darganfod Prifysgol  yn ddiweddarach, gan ddarparu gwybodaeth i oleuo dewisiadau myfyrwyr posibl ynghylch ble i astudio a beth i’w astudio.
  4. Y trothwy ar gyfer cyhoeddi ar lefel sefydliad yw bod rhaid bod o leiaf 10 o fyfyrwyr wedi ymateb, ac y dylai’r rhain gynrychioli o leiaf hanner y myfyrwyr a oedd yn gymwys i gyfranogi.
  5. Fe ymatebodd mwy na 360,000 o fyfyrwyr ar draws y DU i’r arolwg, cyfradd ymateb o 71.8%.
  6. Mae data boddhad myfyrwyr ar gyfer y Brifysgol Agored yng Nghymru wedi’i gynnwys yn y ffigyrau ar gyfer y Brifysgol Agored (er bod y data ar gyfer y DU gyfan, fe’i rhestrir fel ‘SAUau Lloegr’).
  7. Mae canlyniadau blaenorol yr NSS wedi’u rhestru ar wefan yr OfS o dan “archif o ddata”.

Medr/2026/31: Ymgynghoriad ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau

Cefndir

1. Ers 2025, mae Medr wedi bod yn cynnal ‘adolygiad dwfn’ o’r sector adeiladu a gwasanaethau adeiladau, ochr yn ochr â chynnal adolygiad o’r fframweithiau prentisiaeth sydd ar gael ar hyn o bryd. Yr amcan oedd pennu addasrwydd y Fframweithiau Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau, h.y. a ydynt yn diwallu angen y diwydiant ac yn diwallu anghenion sgiliau perthnasol sector adeiladu a gwasanaethau adeiladau Cymru.

2. Bu ymgysylltu a chydweithio helaeth gyda darparwyr prentisiaethau, cyflogwyr, Cymwysterau Cymru a CITB (Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu) yn ystod pob cam o’r broses hon.

Yr ymgynghoriad

3. Yn unol â’r amcan hwn, rydym bellach yn ceisio sylwadau ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig (Atodiadau A-D) a fydd yn eistedd o fewn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau.

4. Nid oes cwestiynau gosod mewn perthynas â’r llwybrau eu hunain, gan yr hoffem i ymatebwyr rannu eich meddyliau’n rhydd, heb unrhyw gyfyngiadau ar yr ystod o faterion yr hoffech wneud sylwadau arnynt.

5. Yn fwy eang, dylai ymatebwyr ystyried y meysydd canlynol hefyd:

Y Gymraeg

6. A ellid newid y llwybrau newydd arfaethedig i gynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau andwyol, ar y canlynol:

  • Cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
  • Peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

Effaith ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

7. A ellid newid y llwybrau newydd arfaethedig i gynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau andwyol, ar y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?

Effaith ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

8. A yw’r llwybrau newydd arfaethedig yn achosi unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol, neu ganlyniadau anfwriadol, o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant? 

Ymatebion

9. Dylid e-bostio ymatebion i [email protected] erbyn 31 Gorffennaf 2026.

Medr/2026/31: Ymgynghoriad ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau

Dyddiad:  01 Gorffennaf 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/31

At: Yr holl ddarparwyr prentisiaethau yn y sector adeiladu a gwasanaethau adeiladau yng Nghymru.

Yr holl gyflogwyr yn y sector adeiladu a gwasanaethau adeiladau yng Nghymru.

Mae gennym ddiddordeb mewn clywed barn prentisiaid cyfredol neu flaenorol.

Croesewir sylwadau gan ddarparwyr, cyflogwyr ac unigolion y tu allan i’r sector hwn hefyd.

Ymateb erbyn:  31 Gorffennaf 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn cyhoeddi lansiad yr ymgynghoriad i geisio sylwadau ar y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau. Y llwybrau yw Lefel 2 Gosod Brics, Lefel 2 Gwaith Saer, Lefel 3 Gorchuddio Lloriau a Lefel 3 Oeri, Aerdymheru a Phympiau Gwres.

Medr/2026/31 Ymgynghoriad ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/30: Canllawiau ar gymhellion hyfforddiant TAR (Addysg Bellach) i athrawon yng Nghymru blwyddyn academaidd 2026/27

Trosolwg

1. Nod grantiau cymhelliant hyfforddi athrawon ar gyfer addysg gychwynnol athrawon TAR (Addysg Bellach) yw hyrwyddo recriwtio athrawon i’r sector Addysg Bellach. Mae’r grantiau’n cefnogi myfyrwyr sy’n dechrau cyrsiau addysg athrawon cychwynnol TAR (Addysg Bellach) cyn-wasanaeth llawnamser neu ran-amser sy’n arwain at gymhwyster i addysgu addysg bellach.

2. Cyhoeddir y canllawiau hyn gan Medr, Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ac maent yn darparu gwybodaeth am gymhellion TAR (AB) ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, y cyllid sydd ar gael, cymhwysedd i dderbyn grant a sut y gwneir taliadau. Dylid darllen y nodiadau canllaw hyn yn eu cyfanrwydd i gadarnhau a fydd myfyrwyr unigol yn gymwys i dderbyn cymhelliant.

3. Yn y canllawiau hyn rydym yn defnyddio’r term “darparydd” i olygu’r sefydliad addysg bellach neu uwch lle mae myfyriwr yn astudio’r TAR (AB).

4. Nid yw’r canllawiau hyn yn cwmpasu cymhellion a gynigir ar gyrsiau addysg gychwynnol athrawon sy’n arwain at Statws Athro Cymwys. Mae rhagor o wybodaeth am gymhellion y cyrsiau ar wefan Llywodraeth Cymru.

Swm y grant

5. Mae’r cymhelliant ar gael i fyfyrwyr TAR amser llawn a rhan-amser, ar yr amod eu bod yn bodloni’r gofynion cymhwyso cyffredinol ar gyfer y rhaglen a chyllid myfyrwyr. Bydd pob myfyriwr cymwys yn derbyn grant cymhelliant cyfradd sefydlog o £1,500.

6. Mae taliadau cymhelliant ychwanegol o £1,000 ar gael i fyfyrwyr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cymhellion y Gymraeg a/neu gymhellion Mwyafrif Byd-eang. Gwneir y taliadau hyn yn ychwanegol at y grant craidd o £1,500.

Cymhwysedd myfyrwyr

7. Ni all myfyrwyr ond hawlio grant cymhelliant os ydynt:

  • yn bodloni’r meini prawf cymhwyso a nodir isod; ac
  • wedi gwneud cais drwy lenwi’r ffurflenni datgan perthnasol.

8. I fod yn gymwys ar gyfer y cymhelliant, rhaid i fyfyrwyr:

  1. wrth ddechrau’r cwrs, dal gradd gyntaf (nid yw hyn yn cynnwys gradd sylfaen) o sefydliad addysg uwch yn y Deyrnas Unedig neu gymhwyster cyfwerth
  2. fod yn gymwys i dderbyn cymorth o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 sydd mewn grym ar hyn o bryd fel y bônt yn berthnasol i’r cwrs
  3. peidio bod yn unrhyw un o’r categorïau canlynol o bobl nad ydynt yn gymwys i dderbyn y grant hyfforddi:
    • myfyrwyr a gwblhaodd gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon ar lefel addysg bellach cyn 1 Medi 2025
    • myfyrwyr sy’n astudio am Dystysgrif Addysg (AB) nad yw’n dystysgrif ôl-radd
    • Myfyrwyr TAR (AB) sy’n astudio ar gyrsiau mewn-swydd
    • unrhyw un sydd eisoes yn dal Statws Athro Cymwysedig (SAC); neu
    • unrhyw un sy’n gyflogedig mewn unrhyw goleg addysg bellach neu sefydliad addysg arall mewn unrhyw swydd

9. Yn ogystal â hynny, rhaid i’r rhai sy’n gwneud cais am gymhelliant y Gymraeg feddu ar sgiliau Cymraeg ar lefel 3 neu’n uwch (ar sail hunanasesiad).

10. Os oes gan fyfyrwyr unrhyw ymholiadau ynghylch eu cymhwysedd, ynghylch ymgeisio am grant, neu os oes ganddynt unrhyw ymholiadau ynghylch y grantiau hyn, dylent gysylltu â’u darparydd TAR (AB).

Cymhelliant TAR Mwyafrif Byd-eang (AB)

11. Mae’r cymhelliant TAR (AB) hwn yn adlewyrchu blaenoriaethau recriwtio cyfredol o fewn y gweithlu AB. Nod y cymhelliant TAR (AB) Mwyafrif Byd-eang yw cynyddu nifer yr athrawon o gefndir Mwyafrif Byd-eang, fel bod dysgwyr yn cael profiad dysgu mwy amrywiol. Mae hyn yn cefnogi ein huchelgais am Gymru wrth-hiliol.

12. I fod yn gymwys, rhaid i ddysgwyr hunan-ddatgan eu bod yn perthyn i un cefndiroedd ethnig canlynol:

Asiaidd:
* Bangladeshaidd neu Bangladeshaidd Prydeinig
* Tsieineaidd neu Tsieineaidd Prydeinig
* Indiaidd neu Indiaidd Prydeinig
* Pacistanaidd neu Pacistanaidd Prydeinig
* Unrhyw gefndir Asiaidd arall

Du, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd:
* Affricanaidd neu Affricanaidd Prydeinig
* Caribïaidd neu Garibïaidd Prydeinig
* Unrhyw gefndir Du arall

Grwpiau cymysg neu aml-ethnig:
* Gwyn neu Gwyn Prydeinig ac Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
* Gwyn neu Gwyn Prydeinig a Du Affricanaidd neu Du Affricanaidd Prydeinig
* Gwyn neu Gwyn Prydeinig a Du Caribïaidd neu Du Caribïaidd Prydeinig
* Unrhyw gefndir Cymysg neu Aml-ethnig arall
Gwyn:
* Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig
* Roma
* Iddewig

Other ethnic group:
* Arabaidd
* Cwrdaidd

Cymhelliant Dysgu ac Addysgu’r Gymraeg

13. Gall myfyrwyr sy’n astudio unrhyw bwnc drwy gyfrwng y Gymraeg (ac eithrio’r Gymraeg ei hun) wneud cais am grant cymhelliant ychwanegol o £1,000.

14. Mae darparwyr TAR (AB) wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd o hyd at 40 credyd o’r cwrs i gefnogi datblygiad sgiliau Cymraeg. I fod yn gymwys ar gyfer y cymhelliant, rhaid i fyfyrwyr gwblhau’r 40 credyd hyn yn llwyddiannus.

15. Rhaid i’r tiwtor academaidd, mentor y lleoliad a’r myfyriwr sy’n hyfforddi i fod yn athro gwblhau datganiad tystion triphlyg. Dylai’r datganiad hwn fod yn gyson â thargedau sydd wedi’u diffinio’n glir a darparu tystiolaeth bod y myfyriwr wedi cyflawni’r deilliannau dysgu sy’n gysylltiedig â’r 40 credyd.

16. Gall tystiolaeth i gefnogi cyflawniad y credydau hyn gynnwys y canlynol (ymhlith mathau eraill o dystiolaeth):

  • Datblygu adnoddau cyfrwng Cymraeg i gefnogi dysgu ac addysgu
  • Addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog yn ystod cyfnod ar leoliad
  • Datblygu sgiliau Cymraeg eu dysgwyr
  • Datblygu cymuned ehangach y Gymraeg o fewn eu lleoliad ymarfer
  • Datblygu perthnasoedd y tu allan i’w lleoliad ymarfer, e.e. ac o fewn lleoliad cymunedol neu ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion

Cyfrifoldebau darparwyr o ran gweinyddu grantiau

17. Mae darparwyr addysg gychwynnol athrawon TAR (AB) yn gyfrifol am:

  • nodi myfyrwyr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwyso..
  • sicrhau bod gan fyfyrwyr cymwys fynediad at y ffurflenni datgan ar ddechrau’r rhaglen TAR (AB).
  • sicrhau bod myfyrwyr yn deall telerau’r grant.
  • casglu’r holl ffurflenni datgan wedi’u llofnodi a’u dychwelyd, mewn modd diogel, i Medr ar gais.
  • llenwi ffurflenni hawlio tymhorol.
  • llenwi ffurflenni Cymhelliant y Gymraeg ar ddechrau ac ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
  • sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chasglu ar gyfer cymhelliant y Gymraeg.
  • sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chasglu ar gyfer y cymhelliant Mwyafrif Byd-eang
  • gweinyddu taliadau grant i fyfyrwyr.
  • ymdrin ag ymholiadau gan fyfyrwyr ynghylch y grant.

18. Cyhoeddir cyfrifoldebau llawn ar gyfer Darparwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon yn flynyddol mewn llythyrau cynnig grant unigol a llythyrau contract.

Taliadau grant wedi’u hamserlennu

19. Bydd y grant cymhelliant TAR (AB) yn cael ei dalu bob tymor mewn tri rhandaliad, sef mis Rhagfyr, mis Mawrth a mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd pan fydd y myfyriwr yn astudio.

20. Bydd y rhai sy’n bodloni gofynion grant y Gymraeg ac/neu’r grant Mwyafrif Byd-eang yn derbyn y £1,000 ychwanegol ochr yn ochr â’u taliad grant pwnc terfynol ym mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd pan fyddant yn astudio.

21. Bydd darparwyr yn penderfynu ar union ddyddiadau’r taliadau i fyfyrwyr. Dylent sicrhau bod taliadau’n cael eu gwneud cyn diwrnod gwaith olaf y mis. Ym mis Mehefin, dyma fydd diwrnod gwaith olaf mis Mehefin neu, os yw’n gynharach, yr wythnos pan ddaw’r rhaglen i ben.

22. Dim ond i’r myfyrwyr hynny sy’n mynychu’r rhaglen ar ddyddiad y taliad y dylid gwneud taliadau. Os oes unrhyw fyfyriwr wedi tynnu’n ôl neu ohirio rhaglen cyn y dyddiad talu, ni ddylid gwneud taliad.

Crynodeb o amseriadau talu

Swm y grant cymhelliantTaliad yr hydref i’w dalu ym mis RhagfyrTaliad y gwanwyn i’w dalu ym mis MawrthTaliad yr haf a thaliad terfynol i’w dalu ym mis Mehefin
£1,500£300£300£900
£1,000 (Y Gymraeg)£0£0£1,000
£1,000 (Mwyafrif Byd-eang)£0£0£1,000
Blwyddyn academaiddSwm y grant cymhelliantTaliadau’r hydref i’w talu ym mis RhagfyrTaliad y gwanwyn i’w dalu ym mis MawrthTaliad yr haf a thaliad terfynol i’w dalu ym mis Mehefin
Blwyddyn 1£1,500£150£150£450
Blwyddyn 2£150£150£450
£1,000 (Mwyafrif Byd-eang)£0£0£1,000
£1,000 (Y Gymraeg)£0£0£1,000

23. Ar gyfer myfyrwyr TAR (AB) rhan-amser, telir y grant o £1,500 yn llawn, gan sicrhau cydraddoldeb â’r cynnig amser llawn. Mae taliadau wedi’u gwasgaru ar draws dwy flwyddyn academaidd, gyda thri thaliad yn cael eu gwneud ym mhob blwyddyn (Rhagfyr, Mawrth a Mehefin) ar hanner y gyfradd safonol amser llawn. Taliadau untro ychwanegol yw cymhellion y Gymraeg a Mwyafrif Byd-eang, a lle bodlonir meini prawf cymhwyso, fe’u telir ym mis Mehefin yn yr ail flwyddyn academaidd.

24. Os yw myfyriwr yn gymwys ar gyfer y cymhelliant TAR (AB), ond hefyd wedi derbyn:

  1. rhywfaint neu’r cyfan o gymhelliant TAR (AB) o dan y cynllun hwn neu unrhyw gynllun blaenorol yng Nghymru cyn 1 Medi 2025
  2. ii. neu wedi derbyn, ar unrhyw adeg, unrhyw swm o unrhyw grant sy’n daladwy yn gysylltiedig â chynlluniau cyfatebol yn Lloegr

Bydd y taliad cymhelliant TAR (AB) y maent yn gymwys i’w dderbyn yn cael ei leihau yn ôl swm y taliadau grant blaenorol a dderbyniwyd.

25. Dim ond uchafswm gwerth y grant cymhelliant a oedd yn berthnasol yn y flwyddyn academaidd pan ddechreuodd y myfyriwr astudio’n wreiddiol y mae myfyrwyr cymwys yn gymwys i’w gael, onid yw Medr yn cytuno fel arall mewn ysgrifen.

Sut y telir cyllid i Ddarparwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon TAR (AB)

26. Rhaid i ddarparwyr gasglu ffurflenni datgan ar gyfer pob myfyriwr cymwys ar ddechrau pob blwyddyn academaidd (Atodiad A i’r canllawiau hyn). Mae’r datganiad yn cynnwys gwybodaeth y mae Medr wedi nodi sy’n ofynnol i weinyddu’r cynllun a rhaid i ddarparwyr allu rhannu pob datganiad â Medr, mewn modd diogel, os gofynnir amdano.

27. Mae’r ffurflen ddatgan yn gofyn i fyfyrwyr gadarnhau eu bod wedi darllen a deall yr wybodaeth sydd yn y canllawiau hyn. Os na fydd darparwyr yn derbyn y cadarnhad hwn, ni ellir gwneud taliadau grant.

28. Cyn pob rhandaliad tymhorol, rhaid i ddarparwyr lenwi a chyflwyno ffurflen hawlio i Medr i sicrhau bod y swm priodol o arian yn cael ei ryddhau. Bydd darparwyr yn cael gwybod am y dyddiadau cyflwyno drwy lythyr y cytundeb grant.

29. Bydd Medr yn anfon ffurflenni datgan a hawlio yn uniongyrchol at ddarparwyr.

Gohirio (atal), tynnu’n ôl ac ailgydio

30. Os bydd myfyriwr yn gohirio (atal) ei astudiaethau yn ystod tymor, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad tymhorol hwnnw. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, bydd ganddo hawl i dderbyn taliad y tymor a gollwyd, hyd at uchafswm y cymhelliant. Yn yr amgylchiadau hyn, gwneir taliad ar gwblhau taliad y tymor canlynol ac yn ychwanegol at hynny.

31. Pan fydd myfyriwr yn ailddechrau TAR (AB) mewn blwyddyn academaidd wahanol i’r flwyddyn pan ddechreuwyd neu y gohiriwyd yn wreiddiol, bydd taliadau’n parhau i gael eu gwneud ar yr un gyfradd (os o gwbl) a oedd yn berthnasol yn y flwyddyn academaidd pan ddechreuodd astudiaethau’r myfyriwr yn wreiddiol, onid yw Medr yn cytuno fel arall mewn ysgrifen

32. Dim ond os ydynt wedi cwblhau’r tymor yn llawn y bydd unigolion sy’n tynnu’n ôl o raglen cyn ei chwblhau ac sy’n gymwys i gael grant cymhelliant yn gymwys i gael y taliad(au) tymhorol.

Adennill grantiau cymhelliant

33. Mae gan Medr bwerau i adennill grantiau cymhelliant a dalwyd, yn gyfan gwbl neu’n rhannol. Caiff arfer ei ddoethineb yn ôl a ddylid arfer y pwerau hynny ai peidio, a bydd yn ystyried pob achos yn ôl ei rinweddau.

34. Gall Medr arfer y pwerau hyn yn y sefyllfaoedd canlynol:

  1. ar ôl derbyn unrhyw randaliad o grant cymhelliant, os yw’r derbynnydd yn methu bodloni unrhyw feini prawf cymhwyso a fabwysiadwyd gan Medr ac a nodir yn yr atodlen neu’r canllaw gwybodaeth mewn perthynas â rhandaliad dilynol; neu
  2. os yw’r derbynnydd wedi darparu gwybodaeth sy’n ffug neu’n sylweddol gamarweiniol yn ei g/chais, neu’n gysylltiedig â’i g/chais; neu os oes tystiolaeth gadarn nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau’r rhaglen neu, ar ôl ei chwblhau, dechrau addysgu

Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

35. Mae gwybodaeth y mae myfyrwyr yn ei chyflwyno fel rhan o’u cais o dan y cynllun cymhellion hyfforddi athrawon yng Nghymru ar gyfer TAR (AB), yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, a Deddf Diogelu Data 2018.

36. Bydd Medr yn prosesu’r holl ddata personol yn unol â’i bolisi preifatrwydd cyhoeddedig.

Canllawiau i ddarparwyr: ceisiadau a hawliadau

37. Rhaid llofnodi a chasglu ffurflenni cais a datgan y myfyrwyr er mwyn hawlio ar ran y myfyriwr hwnnw. Gall Medr ofyn am gael gweld y ffurflenni hyn unrhyw bryd a gall ofyn am ad-daliad o’r arian os na ellir cyflwyno ffurflen.

38. Ochr yn ochr â’r ddogfen hon ceir ffurflen hawlio’r darparydd (Atodiad B). Dylai darparwyr gyflwyno copi o’r ffurflen hon erbyn 30 Hydref 2026 i roi syniad o’r swm y byddant yn ei hawlio. Gwneir hyn drwy lenwi colofn B-F a cholofn I ac L ar dab y rhestr meistr. Bydd Llythyrau Cynnig Grant wedyn yn cael eu hanfon yn seiliedig ar y swm hwn.

39. Bydd 12% ychwanegol o swm cais cychwynnol darparwyr yn cael ei ychwanegu at y cyfanswm. Mae hyn yn cynnwys 10% o swm wrth gefn ar gyfer ychwanegiadau ac/neu newidiadau i symiau, a swm gweinyddol o 2%.

40. Ar ôl dychwelyd eich Llythyr Cynnig Grant wedi’i lofnodi, bydd taliad mis Rhagfyr y darparwyr yn cael ei awdurdodi’n unol â’r symiau ar y ffurflen hawlio grant a gyflwynwyd erbyn 30 Hydref 2026.

41. Dylid wedyn cyflwyno ffurflenni hawlio’r darparydd ar

  • 25 Ionawr 2027 ar gyfer taliad mis Mawrth, a
  • 26 Ebrill 2027 ar gyfer taliad mis Mehefin

42. Bydd Tîm Gweithlu Medr yn cysylltu â darparwyr cyn pob dyddiad cau ar gyfer hawlio i sicrhau bod yr holl ddogfennau a threfniadau gofynnol ar waith.

43. Wrth gyflwyno’r hawliad ar gyfer mis Mehefin rhaid i ddarparwyr gael cadarnhad bod myfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer cymhelliant y Gymraeg wedi cwblhau’r gofynion angenrheidiol i dderbyn y cyllid. Dylid diweddaru colofn I ar ffurflen hawlio’r darparydd yn unol â hynny.

44. Sylwch, cyn gynted ag y bo hawliad wedi’i gyflwyno, os bydd unrhyw wallau neu ychwanegiadau wedi digwydd, y bydd yn rhaid diweddaru’r symiau ar y ffurflen hawlio ar gyfer y taliad nesaf. Dylid hefyd gwneud nodyn o’r newid hwn ar y tabiau perthynol. (Newid dyraniad/ychwanegu neu dynnu o’r hawliad).

45. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].

Medr/2026/30: Canllawiau ar gymhellion hyfforddiant TAR (Addysg Bellach) i athrawon yng Nghymru blwyddyn academaidd 2026/27

Dyddiad:  30 Mehefin 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/30

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn:  30 Hydref 2026

Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn nodi canllawiau Cymhelliant TAR (AB) yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. Mae’r ddogfen yn darparu canllawiau ar y cyllid sydd ar gael, y meini prawf ar gyfer grantiau, a’r trefniadau talu.

Medr/2026/30 Canllawiau ar gymhellion hyfforddiant TAR (Addysg Bellach) i athrawon yng Nghymru blwyddyn academaidd 2026/27

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/29: Cyfarwyddyd cyfrifon i golegau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer 2025/26

Cyflwyniad

1. Mae’r cyfarwyddyd cyfrifon hwn yn hysbysu colegau ynghylch gofynion Medr o ran fformat eu datganiadau ariannol archwiliedig ar gyfer y flwyddyn 2025/26.

2. Defnyddiwn y term “coleg” i gyfeirio at gorfforaethau addysg bellach a cholegau chweched dosbarth, a sefydlwyd dan ddarpariaethau Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.

3. Mae Medr yn cyhoeddi’r cyfarwyddyd cyfrifon ar ran Llywodraeth Cymru, sef prif reoleiddiwr colegau addysg bellach Cymru fel elusennau eithriedig. Mae cydymffurfio â’r cyfarwyddyd cyfrifon hwn yn un o’r gofynion ar gyfer telerau cyllid colegau gyda Medr a chyllidwyr cyhoeddus eraill.

4. Mae colegau yng Nghymru’n dal i fod yn ddarostyngedig i Femorandwm Ariannol Llywodraeth Cymru nes daw fframwaith rheoleiddio Medr ei hun i rym.

5. Tybir bod cyfeiriadau at Medr yn cyfeirio at y cydgyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru trwy Medr.

6. Mae’r cyfarwyddyd cyfrifon hwn wedi’i fwriadu i gael ei ddefnyddio’n bennaf gan:

  1. penaethiaid, prif weithredwyr / swyddogion cyfrifyddu, a chyfarwyddwyr cyllid
  2. llywodraethwyr
  3. archwilwyr allanol / cyfrifwyr adrodd

Cefndir

7. Mae paragraff 36 y Memorandwm Ariannol rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015 (dogfen ganllaw rhif: 160/2015), yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gydymffurfio â’r Cyfarwyddyd Cyfrifon a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Medr. Bydd y cyfarwyddyd yn cwmpasu gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y datganiadau ariannol, y modd y dylid eu cyflwyno, y dulliau a’r egwyddorion y cânt eu paratoi yn unol â hwy, ac y byddant yn unol ag Arfer Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y DU a’r Datganiad o’r Arfer a Argymhellir: Cyfrifyddu ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch 2019 (‘SORP AB ac AU’).

8. Wrth gyhoeddi’r cyfarwyddyd hwn mae Medr yn dymuno sicrhau bod y ffurf, cynnwys a datgeliadau yn natganiadau ariannol sefydliadau’n dilyn arfer da, eu bod yn gyson ar draws y sector ac yn ateb unrhyw ofynion penodol gan Lywodraeth Cymru.

Diweddariadau ers y fersiwn flaenorol

9. Fe wnaed y newidiadau canlynol i’r ddogfen hon ers y fersiwn derfynol ar gyfer 2024/25:

  1. Mân newidiadau o ran naratif / teipograffeg a dolenni rhyngrwyd wedi’u diweddaru
  2. Atodiad D (v) – staff y telir cyflog uwch iddynt – eglurhad ynghylch trin staff nad ydynt yn gweithio blwyddyn lawn

Perthnasedd

10. Mae’r canllawiau hyn yn cael eu hadolygu’n flynyddol ac maent yn berthnasol i’r holl gyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025. Byddant yn dal i fod mewn grym hyd oni chânt eu disodli.

Datganiad o’r arfer a argymhellir

11. Wrth baratoi eu datganiadau ariannol, mae Medr yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl sefydliadau gydymffurfio ag FRS 102: y Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (‘FRS 102’) a’r SORP AB ac AU.

Llawlyfr cyfarwyddyd cyfrifon i golegau

12. Ceir canllawiau pellach yn y Llawlyfr Cyfarwyddyd Cyfrifon i Golegau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas y Colegau. Sylwer bod hwn yn cynnwys cyfeiriadau penodol at gyrff cyllido yn Lloegr a chanllawiau ar gyfer Lloegr a ddylai gael eu disodli gan yr hyn sy’n cyfateb iddynt yng Nghymru. Mae set enghreifftiol o ddatganiadau ariannol – Coleg Casterbridge – wedi cael ei chynhyrchu fel rhan o’r llawlyfr.

13. Yn ogystal â gofynion y SORP AB ac AU, mae Medr yn ei gwneud yn ofynnol paratoi datganiadau ariannol archwiliedig sefydliadau yn unol ag Egwyddorion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y DU.

14. Yn achos sefydliad sydd hefyd yn gwmni cyfyngedig trwy warant, mae’r cyfarwyddyd hwn yn ddarostyngedig i ofynion ychwanegol Deddf Cwmnïau 2006.

15. Lle mae gan sefydliad is-gwmnïau sy’n gwmnïau cyfyngedig, byddant hwythau’n ddarostyngedig i Ddeddf Cwmnïau 2006.

16. Mae hefyd yn ofynnol i sefydliadau gynnwys y canlynol yn eu datganiadau ariannol:

  1. adroddiad strategol (gellir ei alw hefyd yn adroddiad y trysorydd, adroddiad yr aelodau, adroddiad y cyfarwyddwyr, adroddiad y corff llywodraethu neu adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr);
  2. datganiad sy’n cwmpasu cyfrifoldebau eu corff llywodraethu mewn perthynas â llywodraethu corfforaethol. Mae’r datganiad hwn, sy’n cynnwys datganiad ar reolaeth fewnol, yn ofynnol i ddynodi sut y mae’r sefydliad wedi cydymffurfio ag arfer gorau cyfredol yn y maes hwn, ac fe geir enghraifft yn Atodiad A. Cyhoeddwyd y Cod Llywodraethu Da ar gyfer Colegau yng Nghymru gan Colegau Cymru ym mis Ionawr 2016;
  3. datganiad o gyfrifoldebau’r corff llywodraethu, y ceir enghraifft ohono yn Atodiad C;
  4. adroddiad archwilydd annibynnol.

Deddf Elusennau 2011

17. Rhaid i sefydliadau Cymru ateb gofynion Deddf Elusennau 2011. Dylent hefyd roi sylw i ofynion ychwanegol y Datganiad o’r Arfer a Argymhellir ar gyfer Elusennau (SORP Elusennau). Fodd bynnag, gan bod gan y sector AB faterion ariannol ac adrodd arbennig sy’n wahanol i sefydliadau eraill â statws elusennol, mae’r SORP AB ac AU yn cael blaenoriaeth dros y SORP Elusennau.

18. Rhaid cynnwys yr wybodaeth ganlynol yn natganiadau ariannol archwiliedig ac adroddiadau cysylltiedig y coleg:

  1. statws cyfreithiol y coleg;
  2. yr ymddiriedolwyr a wasanaethodd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn a than y dyddiad y cafodd y datganiadau ariannol eu cymeradwyo’n ffurfiol;
  3. datganiad bod y coleg wedi rhoi sylw dyladwy i ganllawiau’r Comisiwn Elusennol ynghylch budd cyhoeddus (os yw’r coleg yn elusen);
  4. adroddiad ar sut y mae’r coleg wedi cyflawni ei ddibenion elusennol er budd cyhoeddus;
  5. gwybodaeth am daliadau i ymddiriedolwyr neu ar eu rhan, gan gynnwys: treuliau, taliadau i ymddiriedolwyr am wasanaethu fel ymddiriedolwyr (a hepgoriadau mewn perthynas â thaliadau o’r fath), ac unrhyw drafodiadau partïon cysylltiedig sy’n cynnwys ymddiriedolwyr. Dylai hyn fod, fel lleiafswm, yn gyfanswm taliadau o’r fath a wnaed yn y flwyddyn (neu, os na wnaed unrhyw rai, yn ddatganiad i’r perwyl hwnnw) a nifer yr ymddiriedolwyr a gafodd y taliadau. Dylid cynnwys ffigyrau cymharol hefyd.

Canllawiau penodol pellach

19. Mae canllawiau ychwanegol wedi’u cynnwys yn Atodiad D.

Archwilio allanol

20.Mae’n ofynnol i sefydliadau sicrhau bod eu contractau ar gyfer archwilio allanol yn gwneud darpariaeth ar gyfer barn pa un a yw’r sefydliad wedi cymhwyso incwm, lle y bo’n briodol, yn unol â’r Memorandwm Ariannol , a pha un a yw grantiau Medr a chyllid cyhoeddus arall wedi cael eu defnyddio at y dibenion y’u cafwyd ar eu cyfer.

21. Dylai sefydliadau fod yn ymwybodol y bydd eu harchwilwyr allanol yn adolygu’r datganiad o lywodraethu corfforaethol a rheolaethau mewnol fel rhan o’u gwaith archwilio ac y byddant yn cynnwys cyfeiriad at y gwaith hwn yn eu barn archwilio.

22. Rheolir ffurf yr adroddiad archwilio gan y Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (yn y DU) (ISAs). Y safon benodol yw ‘ISA 700: Ffurfio Barn ac Adrodd ar Ddatganiadau Ariannol’.

23. Dylid rhoi copi o’r Cyfarwyddyd Cyfrifon hwn a’r Memorandwm Ariannol i’r archwilwyr allanol.

24. Atgoffir archwilwyr allanol, lle nad ydynt yn gallu mynegi barn ddiamod ar ddatganiadau ariannol y sefydliad, y dylent gyfleu hyn ar unwaith i’r Pennaeth, Cadeirydd y Coleg a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio. Dylent hefyd hysbysu Medr.

25. Ni all cwmnïau archwilio gael eu penodi’n archwilwyr mewnol ac allanol ar yr un pryd nac ar gyfer yr un flwyddyn ariannol dan unrhyw amgylchiadau.

26. Yn unol â’r Memorandwm Ariannol a chanllawiau’r Comisiwn Elusennau, rhaid i’r holl golegau drefnu bod eu hadroddiadau blynyddol a’u cyfrifon statudol ar gael yn brydlon ar eu gwefannau. Gall hyn olygu bod gofyn cael datganiad ychwanegol gan archwilwyr allanol. Gall yr archwilwyr ei gwneud yn ofynnol cynnwys datganiad ychwanegol yng nghyfrifoldebau’r corff llywodraethu mewn perthynas â’r wefan hefyd os yw’r farn archwilio’n mynd i gael ei chyhoeddi.

Amserlen y cyfrifon

27. Mae paragraff 35 y Memorandwm Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau ddarparu copi wedi’i lofnodi ar gyfer Medr o’u datganiadau ariannol yn ddim hwyrach na 31 Rhagfyr bob blwyddyn. Mae Medr hefyd yn ei gwneud yn ofynnol cyflwyno llythyr rheoli’r archwilydd allanol, gan gynnwys ymateb y sefydliad, yr un pryd. Dylai colegau gyflwyno eu ffurflen Cofnod Cyllid erbyn yr un dyddiad hefyd.

28. Sylwer y gellir cyflwyno’r dogfennau hyn yn electronig.

29. Yn unol â’r Memorandwm Ariannol, rhaid i sefydliadau drefnu bod eu hadroddiadau blynyddol a chyfrifon ar gael yn gyhoeddus, a dylent eu cyhoeddi ar eu gwefannau erbyn 31 Ionawr yn dilyn diwedd y cyfnod.

Anawsterau ariannol

30. Atgoffir colegau, os ydynt yn profi anawsterau ariannol neu achosion o dorri cyfamodau banc a allai effeithio ar allu’r coleg i barhau fel busnes gweithredol ac felly allu’r archwilwyr allanol i gwblhau eu gwaith yn y maes hwn, y dylai’r coleg hysbysu Medr cyn gynted ag y cyfyd unrhyw sefyllfa o’r fath. Rhaid gwneud hyn ni waeth a oes risg o beidio â chwrdd â’r terfyn amser cyflwyno ai peidio.

Rhagor o wybodaeth

31. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn [email protected].

Medr/2026/29: Cyfarwyddyd cyfrifon i golegau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer 2025/26

Dyddiad: 29 Mehefin 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/29

At: Benaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol yng Nghymru; Prif swyddogion cyllid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol yng Nghymru

Ymateb erbyn: 31 Rhagfyr 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu gwybodaeth am ofynion Medr ar gyfer fformat datganiadau ariannol archwiliedig sefydliadau addysg bellach yng Nghymru.

Medr/2026/29 Cyfarwyddyd cyfrifon i golegau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer 2025/26

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/28: Gradd-brentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am fuddsoddiad mewn gradd-brentisiaethau ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, gan gynnwys y ffordd y caiff y cyfanswm cyllid o £10.111m ei ddyrannu i sefydliadau addysg uwch, ac mae’n nodi’r meini prawf y bydd angen i sefydliadau addysg uwch a phrentisiaid eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid. Caiff llythyrau cyllido eu hanfon ar wahân cyn bo hir i sefydliadau sy’n cael cyllid.

2. Caiff cyllid Medr ar gyfer gradd-brentisiaethau ei roi i sefydliadau addysg uwch ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â chynnal y cyrsiau hyn. Caiff unrhyw gyllid cymorth i fyfyrwyr unigol y gall gradd-brentisiaid fod yn gymwys i’w gael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

3. Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau wedi cael cyllid ychwanegol ar gyfer dechreuwyr newydd, sy’n bosibl oherwydd y cynnydd yn y gyllideb ar gyfer gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn academaidd 2026/27. Fodd bynnag, dylid nodi ei bod yn ymddangos bod rhai sefydliadau wedi cael cyfanswm dyraniad cyllid llai o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Y rheswm dros hyn yw bod ganddynt lai o ddysgwyr sy’n parhau ym mlwyddyn academaidd 2026/27.

4. Anogir darparwyr i hysbysebu’r cyfleoedd sydd ar gael i gyflogwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill er mwyn sicrhau y gall cynifer â phosibl o brentisiaid gael budd o raglen gradd-brentisiaeth gymwys a chofrestru arni.

Dull cyllido

5. Mae Medr wedi pennu blaenoriaethau strategol ar gyfer buddsoddi ym mlwyddyn academaidd 2026/27 sy’n ystyried data o’r sector sy’n dangos ble y gellid gwella deilliannau a gwneud y defnydd gorau o’r gyllideb sydd ar gael.

6. Mae’r blaenoriaethau cyllido ar gyfer gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn academaidd 2026/27 fel a ganlyn:

  • prentisiaethau sy’n parhau;
  • dechreuwyr newydd, yn enwedig y rhai hynny sydd rhwng 18 a 24 oed (yn unol â’r Warant i Bobl Ifanc);
  • uwchsgilio cyflogeion presennol;
  • prentisiaid â nodweddion gwarchodedig;
  • darpariaeth Gymraeg;
  • llwybr gradd adeiladu newydd – Technolegydd Pensaernïol.

7. Mae’r trefniadau cyllido fel a ganlyn:

  • Dyrennir cyllid yn seiliedig ar nifer disgwyliedig y prentisiaethau a fydd yn parhau a’r rhai newydd a fydd yn dechrau yn ystod 2026/27;
  • Bydd y cyllid yn cwmpasu fframweithiau gradd-brentisiaeth ym meysydd adeiladu, digidol, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch;
  • Mae’r gwerth credyd wedi cael ei gyfrifo gan ddefnyddio cyfanswm o £27,000 ar gyfer cwrs â gwerth credyd nodweddiadol o 360, h.y. £75 fesul gwerth credyd. Felly, bydd prentis y disgwylir iddo astudio 120 o gredydau y flwyddyn ar gwrs tair blynedd yn denu £9,000 o gyllid y flwyddyn.

8. Ni ellir hawlio cyllid am gredyd a ddyfernir drwy gydnabod dysgu blaenorol a/neu gostau cysylltiedig y broses hon.

Cyllid yn ystod blwyddyn academaidd 2026/27

9. Caiff Medr ei gyllideb gan Lywodraeth Cymru fesul blwyddyn ariannol. Wedyn, caiff y gyllideb ei throsi’n ddyraniadau ar gyfer blwyddyn academaidd sy’n tybio y bydd y gyllideb yn parhau i fod ar gael y flwyddyn ariannol ganlynol. Caiff dyraniadau i ddarparwyr eu gwneud fesul blwyddyn academaidd.

10. Y gyllideb ar gyfer gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn ariannol 2026-27 yw £10.111m, a’r swm sydd ar gael i’w ddyrannu i sefydliadau ym mlwyddyn academaidd 2026/27 yw £10.111m. Fodd bynnag, didynnir £180,183 o’r dyraniad hwn ar gyfer taliad wedi’i addasu i sefydliadau addysg uwch yn seiliedig ar eu ffurflenni data HESA wedi’u gwirio ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Felly, cyfanswm y dyraniad ar gyfer cynnal gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn 2026/27 yw £9,930,967.

11. Mae dyraniadau sefydliadau yn ystyried cynnydd yn nifer y dysgwyr sy’n parhau ym mlwyddyn academaidd 2026/27. Cytunwyd ar y dull o ddyrannu cyllid ar gyfer dechreuwyr newydd yn ystod 2026/27 gyda darparwyr gradd-brentisiaethau o’r blaen, ac mae’n seiliedig ar weithgarwch yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26 a’r ffurflen ddata Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (HESES) a gyflwynwyd gan sefydliadau addysg uwch ym mis Chwefror 2026.

Methodoleg dyrannu

12. Mae’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i gapio’r cyllidebau yn unol â’r cyllid sydd ar gael yn seiliedig ar nifer o gamau:

  1. Mae nifer y myfyrwyr sy’n parhau ar fframweithiau yn ystod blwyddyn academaidd 2026/27 yn seiliedig ar niferoedd a gyflwynwyd gan bob sefydliad ac mae’r cyllid yn seiliedig ar y gyfradd gyllido yn unol â hyd disgwyliedig y cwrs. Daw’r cyfanswm cyllid hwn sy’n ofynnol ar y sector ar gyfer myfyrwyr sy’n parhau o gyfanswm y gyllideb sydd ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27.
  2. Caiff cyllid blwyddyn academaidd 2026/27 ar gyfer dechreuwyr newydd ar fframweithiau gradd-brentisiaeth ei ddosbarthu ar sail y dull a gafodd y mwyaf o gefnogaeth yn ein hymgynghoriad anffurfiol â sefydliadau yn 2024/25.

13. Mae’r dyraniad cyllid yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

  • Cyllido dysgwyr sy’n parhau yn unol â’r nifer a gyflwynwyd gan bob sefydliad;
  • Dyrannu cyllid ar gyfer o leiaf bum dechreuwr newydd, yn seiliedig ar £9,000 fesul prentis, i bob sefydliad;
  • Dyrannu cyllid ar gyfer dechreuwyr newydd ychwanegol yn gymesur â nifer y dechreuwyr newydd yn 2025/26 a data gwariant cyffredinol y sefydliad addysg uwch ym mis Ionawr 2026, o gymharu â’i gyllideb wreiddiol a oedd yn seiliedig ar y ffurflen HESES.

14. Yr uchafswm y gellir ei ddyrannu er mwyn bodloni gofynion pob prentisiaeth yw £27,000. Mewn blynyddoedd blaenorol, rydym wedi dyrannu cyllideb o £9,000 y flwyddyn fesul prentis, yn seiliedig ar y dybiaeth mai tair blynedd fydd hyd rhaglen. Mae uchafswm y gyllideb a ddyrennir ar gyfer gradd-brentisiaethau newydd a’r rhai sy’n parhau yn seiliedig ar yr hyd cwrs byrraf, ond, pan fydd hyd y cwrs yn hwy, caiff y cyllid ei dalu ar sail nifer gwirioneddol y credydau a gwblheir.

15. Mae cyllideb uchaf gyfunol ar gyfer prentisiaethau newydd a’r rhai sy’n parhau ym mlwyddyn academaidd 2026/27 wedi cael ei dyrannu, fel y bydd modd rheoli’r rhaglen gradd-brentisiaethau yn hyblyg o fewn sefydliadau a rhwng fframweithiau a chymwysterau er mwyn bodloni’r galw gan gyflogwyr.

Dyraniadau cyllid 2026/27

16. Cyfanswm y cyllid sydd ar gael i’w ddyrannu yw £10.111m llai £180,183 (addasiadau i gyllid o flwyddyn academaidd 2024/25 i’w dalu i sefydliadau addysg uwch ym mlwyddyn ariannol 2026-27 yn seiliedig ar ddata wedi’u gwirio).

DarparwrCyfanswm y cyllid
(£)
Prifysgol Bangor911,939
Prifysgol Metropolitan Caerdydd1,037,938
Prifysgol Caerdydd243,460
Y Brifysgol Agored182,750
Prifysgol Abertawe1,194,842
Prifysgol De Cymru2,114,570
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant2,599,512
Prifysgol Wrecsam1,645,956
Cyfanswm  9,930,967

Talu grant

17. Dylai sefydliadau addysg uwch ddisgwyl cael dau daliad ar gyfer gradd-brentisiaethau yn ystod blwyddyn academaidd 2026/27. Caiff 60% o gyfanswm dyraniad cyllid sefydliad ei dalu ym mis Hydref 2026 a chaiff y 40% sy’n weddill ei dalu ym mis Mawrth 2027. Caiff addasiadau i’r ail daliad eu cyfrifo fel yr amlinellir ym mharagraffau 22-25.

18. Os bydd newidiadau i’r gyllideb neu gyfyngiadau rheoli arian parod (e.e. terfyn Medr ar gario ymlaen o un flwyddyn ariannol i’r llall), mae’n bosibl y bydd angen addasu proffil yn ystod y flwyddyn. Rhoddir gwybod yn ysgrifenedig ymlaen llaw os bydd hyn yn digwydd.

Gofynion Gradd-Brentisiaethau

19. Er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid, rhaid i brentis fod wedi’i gofrestru ar fframwaith prentisiaeth cymeradwy a rhaid i’r ddarpariaeth gydymffurfio â’r gofynion canlynol:

  • Bydd prentisiaid yn treulio 51% neu fwy o’u hamser yn gweithio yng Nghymru;
  • Rhaid i gytundeb prentisiaeth fod ar waith ac wedi’i lofnodi gan y dysgwr, y cyflogwr a’r darparwr;
  • Cynhelir asesiad cychwynnol gyda’r prentis er mwyn sicrhau y caiff profiad a dysgu blaenorol eu cydnabod, lle bo hynny’n briodol, ac y caiff gofynion cymorth dysgu ychwanegol eu hadnabod a’u cefnogi; gall prentisiaid feddu ar gymwysterau ar lefel gyfatebol sy’n eu galluogi i ddilyn y fframwaith ac a allai fod y tu allan i’r sector a ddewiswyd;
  • Caiff prentisiaid eu cefnogi yn y gweithle ag o leiaf 20% o ddysgu i ffwrdd o’r gwaith neu chwe awr o hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith bob wythnos ar gyfer unigolyn cyfwerth ag amser llawn (unigolyn sy’n gweithio 30 awr neu fwy) a/neu’r hyn sy’n cyfateb i oriau dan arweiniad tybiannol ar gyfer y credydau a gaiff eu hastudio;
  • Bydd prentisiaid yn ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith;
  • Caiff cynnydd prentisiaid ei adolygu’n aml mewn proses a fydd yn cynnwys y sefydliad a/neu’r darparwr a ariennir gan Medr, y prentis a’r cyflogwr;
  • Bydd prentisiaid yn gallu manteisio ar yr ystod lawn o wasanaethau myfyrwyr a gynigir gan y darparwr, a’i undeb myfyrwyr;
  • Cyflwynir data fel y bo’n ofynnol gan Medr;
  • Gall prentis ymadael â’r cymhwyster ag achrediad neu ardystiad o’r hyn a ddysgwyd. Ni fydd hyn yn gyfystyr â chwblhau prentisiaeth lawn yn llwyddiannus.

20. Bydd bodloni’r gofynion ar gyfer gradd-brentisiaethau a chyflawni’r blaenoriaethau cyllido yn rhoi sicrwydd i Medr bod cysondeb agos â’r rhaglen brentisiaethau ehangach yng Nghymru a bod y gofynion deddfwriaethol perthnasol yn cael eu bodloni. Mae Medr yn disgwyl i sefydliadau a ariennir ddogfennu tystiolaeth eu bod yn bodloni’r gofynion ac mae’n cadw’r hawl i archwilio’r wybodaeth honno.

Newid mewn amgylchiadau

21. Os bydd newid mewn amgylchiadau, mae’n bosibl na fydd prentis yn gymwys i ddilyn y brentisiaeth neu i gael cyllid gan Medr yn ystod cyfnod astudio mwyach. Mewn achos o’r fath, bydd yn rhaid i’r darparwr roi gwybod i Medr er mwyn iddo ystyried parhad y cyllid prentisiaeth.

Monitro ac adhawlio cyllid

22. Caiff y cyllid a ddyfernir ar gyfer 2026/27 ei fonitro gan ddefnyddio data recriwtio arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (HESES) 2026/27 a gesglir ar gyfer dechreuwyr newydd hyd at 1 Mawrth 2027 a dysgwyr sy’n parhau o flynyddoedd blaenorol. Caiff data HESES 2026/27 eu casglu a’u gwirio ym mis Chwefror 2027.

23. Bydd y cyllid yn seiliedig ar nifer y gwerthoedd credyd wedi’u cwblhau a gyflwynir. Gallai’r cyllid gael ei addasu tuag i lawr os bydd modiwlau heb eu cwblhau, os bydd myfyrwyr wedi tynnu’n ôl neu os bydd nifer y credydau ar gyfer y cwrs cyfan yn llai na 360 o gredydau yn sgil cydnabod dysgu blaenorol.

24. Bydd Tîm Prentisiaethau Medr yn cysylltu â sefydliadau ym mis Hydref a mis Rhagfyr 2026 i gadarnhau eu gwariant hyd yma a nodi unrhyw danwariant a ragwelir ar gyfer dychwelyd ac ailddosbarthu.

25. Caiff addasiadau cyllid eu cyfrifo tua diwedd y flwyddyn ariannol gan ddefnyddio data HESES, y bydd sefydliadau’n eu gwirio fel rhan o’r broses casglu data ar gyfer gradd-brentisiaethau. Gellir cael rhagor o wybodaeth gan Hannah Falvey, [email protected].

Amodau grant

26. Mae’r cyllid a ddyrennir gan Medr ar gael yn ddarostyngedig i’r amodau cyffredinol ar gyfer cyllid a delir gan Medr i Gorff Llywodraethu sefydliad. Nodir y rhain yn Nhelerau ac Amodau Cyllid Medr 2026/27.

Hyrwyddo gradd-brentisiaethau

27. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr hyrwyddo cyfleoedd am radd-brentisiaethau i amrywiaeth o ddysgwyr, yn enwedig dysgwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg drydyddol ac yn y gweithlu yng Nghymru yn y sectorau perthnasol.

28. Disgwylir i ddarparwyr gradd-brentisiaethau gymryd rhan yn y canlynol:

  • Gweithgareddau marchnata ac ymgyrchoedd cenedlaethol Medr a Llywodraeth Cymru;
  • Cystadlaethau sgiliau fel World Skills. Mae’r cystadlaethau hyn yn cynnig profiadau a heriau ychwanegol i brentisiaid a fydd yn fuddiol iddynt yn eu gyrfaoedd. Maent hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddangos cryfder sector addysg drydyddol Cymru drwy gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn WorldSkills UK (Frequently asked questions).

Asesu effaith ein polisïau

29. Byddwn yn cynnal prawf sgrinio asesiadau effaith er mwyn helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb. Hefyd, rydym wedi ystyried effaith polisïau ar y Gymraeg a darpariaeth Gymraeg yn y sector addysg uwch yng Nghymru, a’r effeithiau posibl ar y gallu i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gan gynnwys ein Hamcanion Llesiant. Cysylltwch ag [email protected] i gael rhagor o wybodaeth am asesiadau effaith. Darparwyr sy’n gyfrifol am adolygu eu hasesiadau effaith eu hunain mewn perthynas â gradd-brentisiaethau.

Rhagor o wybodaeth

30. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Simon Phelps a/neu Kelly Hillard ([email protected]).

Medr/2026/28: Gradd-brentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27

Dyddiad:  25 Mehefin 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/28

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Prifathrawon sefydliadau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant annibynnol

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi dyraniadau cyllid Medr i sefydliadau addysg uwch ar gyfer gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn academaidd 2026/27. Mae’r ddogfen yn rhoi arweiniad ar ofynion y cyllid a’r ffordd y caiff ei weinyddu.

Medr/2026/28 Gradd-brentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/27: Cyllid atodol (Elfen 3) 2025/26

1. Cyllid atodol (Elfen 3) yw’r cyllid atodol a ddarperir gan Medr i gefnogi dysgwyr sy’n hanu o Gymru sydd â lefel uchel o  anghenion ac sy’n astudio mewn sefydliad AB yn Lloegr.

2. Mae’n berthnasol lle bo cost y gefnogaeth addysgol sydd ei hangen yn fwy na’r hyn y gellir ei dalu’n rhesymol drwy ddarpariaeth graidd (Elfen 1) a chyfraniad cymorth dysgu ychwanegol tybiannol y darparydd o £6,000 (Elfen 2). Mae elfennau 1, 2 a 3 yn cyfeirio at fframwaith cyllido anghenion lefel  uchel yr Adran Addysg yn Lloegr, sy’n strwythuro cyllid i ddysgwyr ag anghenion cymorth dysgu ychwanegol.

3. Bwriedir i gyllid Elfen 3 dalu cost cymorth addysgol sydd wedi’i bersonoli, sydd wedi’i asesu ac y ceir tystiolaeth ar ei gyfer. Fe’i dyfernir ar sail dysgwr a enwir, ac ni cheir ei ddefnyddio fel ffactor wrth benderfynu derbyn dysgwr ai peidio. Cytunir ar gyllid drwy broses ymgeisio flynyddol ffurfiol. Mae angen cadw tystiolaeth glir o angen a chost i ddibenion archwilio, ac mae’r cyllid yn destun monitro ac adolygu parhaus i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn briodol a chymesur a’i fod yn canolbwyntio ar addysg a deilliannau.

Symiau cyllido 2025/26

Sefydliad addysg bellachSwm y cyllid atodolNifer y dysgwyr a gefnogir drwy gyllid atodol
Coleg Swydd Gaerloyw£6,417.641
Coleg Celfyddydau Henffordd£7,147.502
Coleg Reaseheath£15,433.785
Coleg Swydd Gaer – De a Gorllewin£5,541.421
Swydd Henffordd, Llwydlo a Gogledd Swydd Amwythig (HLSNC)£107,824.3511
Coleg Amwythig£7,894.164
Cyfanswm£150,258.8524

Medr/2026/27: Cyllid atodol (Elfen 3) 2025/26

Dyddiad: 25 Mehefin 2026

Cyfeirnod:   Medr/2026/27

At: Sefydliadau addysg bellach yn Lloegr sy’n cefnogi dysgwyr sy’n hanu o Gymru â lefel uchel o anghenion

Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Cyllid atodol (Elfen 3) yw’r cyllid atodol a ddarperir gan Medr i gefnogi dysgwyr sy’n hanu o Gymru sydd â lefel uchel o  anghenion ac sy’n astudio mewn sefydliad addysg bellach (AB) yn Lloegr.

Medr/2026/27 Cyllid atodol (Elfen 3) 2025/26

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/11/2026: Deilliannau graddedigion: darparwyr addysg uwch 2023/24

Beth oedd graddedigion yn ei wneud?

O blith y graddedigion o ddarparwyr addysg uwch (AU) Cymru a ymatebodd i arolwg Deilliannau Graddedigion 2023/24:

  • Roedd 67% mewn cyflogaeth amser llawn, ran-amser neu ar batrwm cyflogaeth anhysbys. Roedd 11% yn ymgymryd â chyfuniad o waith ac astudiaeth bellach.
  • Roedd 6% naill ai’n astudio ymhellach yn rhan-amser, yn amser llawn, neu ar batrwm anhysbys.
  • Roedd 1% yn gwneud gwaith gwirfoddol neu ddi-dâl, roedd 6% yn ddi-waith ac roedd 7% yn gwneud rhyw weithgarwch arall fel teithio, gofalu am rywun, neu wedi ymddeol.

O blith y graddedigion o Gymru a oedd yn astudio yn unrhyw ran o’r DU, ac a ymatebodd i arolwg Deilliannau Graddedigion 2023/24:

  • Roedd 69% mewn cyflogaeth amser llawn, ran-amser neu ar batrwm cyflogaeth anhysbys. Roedd 12% yn ymgymryd â chyfuniad o waith ac astudiaeth bellach.
  • Roedd 5% naill ai’n astudio ymhellach yn rhan-amser, yn amser llawn, neu ar batrwm anhysbys.
  • Roedd 1% yn gwneud gwaith gwirfoddol neu ddi-dâl, roedd 5% yn ddi-waith ac roedd 7% yn gwneud rhyw weithgarwch arall fel teithio, gofalu am rywun, neu wedi ymddeol.
  • Roedd ymatebwyr israddedig amser llawn o’r cwintel mwyaf amddifadus ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yn llai tebygol o fod mewn cyflogaeth ac yn fwy tebygol o fod yn ymgymryd â gweithgarwch arall fel teithio, gofalu am rywun neu wedi ymddeol, na’r rhai o’r cwintel lleiaf amddifadus ym MALlC.
  • Roedd gwahaniaeth o 2 bwynt canran rhwng cyfrannau’r ymatebwyr israddedig amser llawn oedd yn ddi-waith o’r cwintelau mwyaf a lleiaf amddifadus. Roedd 8% o raddedigion o’r cwintel mwyaf amddifadus yn ddi-waith, o’i gymharu â 6% o’r cwintel lleiaf amddifadus.

Ymhle yr oedd graddedigion yn gweithio?

O blith y graddedigion a ymatebodd i arolwg Deilliannau Graddedigion 2023/24 ac a ddywedodd mai gwaith oedd eu gweithgarwch pwysicaf:

  • Gwnaeth 45% o’r rhai a ddeuai o Gymru ond a astudiodd gyda darparydd AU yn rhannau eraill o’r DU ddychwelyd i weithio yng Nghymru.
  • Arhosodd 88% o’r rhai o Gymru ac a astudiodd gyda darparydd AU yng Nghymru i weithio yng Nghymru.
  • Arhosodd 18% o’r rhai a astudiodd gyda darparydd AU yng Nghymru ond a oedd yn dod o rannau eraill o’r DU yng Nghymru i weithio.

Sut oedd graddedigion yn teimlo ynghylch eu gweithgarwch presennol?

O blith y graddedigion o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru a ymatebodd i arolwg Deilliannau Graddedigion 2023/24:

  • Roedd 84% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf fod eu gweithgarwch presennol yn ystyrlon.
  • Roedd 68% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf fod eu gweithgarwch presennol yn defnyddio’r sgiliau yr oeddent wedi’u dysgu yn ystod eu hastudiaethau.
  • Roedd 73% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf fod eu gweithgarwch presennol yn cyd-fynd â’u cynlluniau i’r dyfodol.

Sta/Medr/11/2026: Deilliannau graddedigion: darparwyr addysg uwch 2023/24

Cyfeirnod: Sta/Medr/11/2026

Dyddiad:  23 June 2026

Dynodiad:  Ystadegau Swyddogol

Crynodeb:  Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys canlyniadau’r arolwg Deilliannau Graddedigion ar gyfer ymatebwyr a astudiodd gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru, ac ymatebwyr o Gymru a astudiodd gyda darparwyr addysg uwch ledled y DU.

Sta/Medr/11/2026 Deilliannau Graddedigion: darparwyr addysg uwch, 2023/24

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/26: Cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach ac uwch yn 2026/27

Cyflwyniad

1. Mae Medr yn paratoi am ddiweddariad canol tymor o’r Fframwaith strategol Digidol 2030 ar gyfer dysgu digidol, ac rydym yn datblygu ein sylfaen dystiolaeth ar anghenion a blaenoriaethau dysgu digidol yn sail ar gyfer ein hymdriniaeth â dysgu digidol yn y sector trydyddol yn y dyfodol. Rydym yn gweithio’n agos gyda Jisc i gael dealltwriaeth well o’r sefyllfa, yr anghenion a’r blaenoriaethau cyfredol o ran dysgu digidol yn y sectorau addysg bellach ac uwch, ac wrth ddarparu prentisiaethau.

2. Mae Jisc eisoes wedi ymgysylltu â sefydliadau addysg bellach, Colegau Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gynhyrchu canfyddiadau i Medr ar anghenion a blaenoriaethau cyfredol mewn addysg bellach. Rydym wedi dechrau ymgorffori canfyddiadau o’r darn hwn o waith, yn enwedig o amgylch y thema seilwaith digidol, yn ein dull o ddarparu cyllid cyfalaf digidol i sefydliadau addysg bellach (Medr/2026/18).

3. Mae’r meini prawf ar gyfer gwariant refeniw a nodir yn y cyhoeddiad hwn hefyd yn adlewyrchu’r themâu canlynol a godwyd gan sefydliadau addysg bellach:

  • Deallusrwydd Artiffisial
  • Gwella aeddfedrwydd data
  • Annog dulliau cydweithredol

4. Mae ymgysylltu pellach â sefydliadau addysg uwch, Prifysgolion Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill ynghylch anghenion a blaenoriaethau cyfredol ym maes dysgu digidol mewn addysg uwch wedi’i drefnu ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.

5. Yn y cyfamser, rydym wedi parhau i ymgorffori themâu allweddol o’r sector addysg uwch a adlewyrchwyd mewn meini prawf cyllido refeniw blaenorol (Medr/2025/15):

  • Deallusrwydd Artiffisial
  • Trawsnewid Digidol a datblygu ymagweddau strategol at ddysgu digidol
  • Defnydd a rheolaeth effeithiol ar ddata

6. Ar gyfer y blynyddoedd i ddod, bydd canfyddiadau a themâu o’r dystiolaeth a gesglir gennym yn cael eu hystyried gan Medr, ynghyd ag adborth o’r sector, yn sail ar gyfer ein penderfyniadau ynghylch dyraniadau cyllid digidol yn y dyfodol. Rydym yn ymwybodol y gallai rhai prosiectau a ariannwyd o dan Gronfa Datblygu Strategol Ôl-16 Medr yn 2025/26 (Medr/2026/03) hefyd gynhyrchu canfyddiadau ac allbynnau perthnasol.

AmeseruCarreg filltir neu weithredu
11 Tachwedd 2026Pob sefydliad i roi amlinelliad cryno o’r defnydd a fwriedir o’r cyllid (Atodiad A)
c. 20 Ionawr 2027Ar ôl derbyn Atodiad A, bydd taliad interim yn cael ei brosesu ym mis Ionawr
15 Gorffennaf 2027Bydd yn ofynnol adrodd ar wariant diwedd blwyddyn (Atodiad B i’w ychwanegu ar ddechrau 2027)
c. 20 Awst 2027Ar ôl derbyn Atodiad B, bydd y taliad terfynol yn cael ei brosesu ym mis Awst

Medr/2026/26: Cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach ac uwch yn 2026/27

Dyddiad:  23 Mehefin 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/26

At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Benaethiaid sefydliadau addysg bellach

Ymateb erbyn:  11 Tachwedd 2026

Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn nodi’r dyraniadau cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach ac uwch, yn rhoi canllawiau ar ddefnyddio’r cyllid ac yn nodi’r gofynion o ran adrodd a thystiolaeth.
Dyrannwyd £32,500 i bob sefydliad a restrir yn y cyhoeddiad hwn.

Medr/2026/26 Cyllid refeniw digidol are gyfer sefydliadau addysg bellach ac uwch yn 2026/27

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio