Sta/Medr/09/2026: Cyllid sefydliadau addysg uwch, o fis Awst 2024 i fis Gorffennaf 2025

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn rhoi crynodeb o wybodaeth ariannol a gyflwynwyd i gofnod cyllid yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd Medr yr adroddiad Cynaliadwyedd ariannol y sector addysg uwch yng Nghymru sy’n rhoi asesiad manylach o gyllid y sector addysg uwch yng Nghymru. Ceir rhai gwahaniaethau rhwng y ffigurau yn y naill adroddiad a’r llall. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys Prifysgol Cymru gan ei bod yn cyflwyno data i gofnod cyllid HESA, ond nid yw’r adroddiad ar gynaliadwyedd ariannol yn cynnwys y sefydliad hwn (gweler yr adran Data).

Siart 1: Dadansoddiad o gategorïau incwm yn yr holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, o 2022/23 i 2024/25

Siart 1: Dadansoddiad o gategorïau incwm yn yr holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, o 2022/23 i 2024/25

Ffynhonnell: Cofnod Cyllid HESA, Tabl 1

Cyfanswm incwm cyfunol sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2024/25 oedd £1.90 biliwn. Yn 2022/23 ac yn 2023/24, y cyfanswm oedd £1.98 biliwn.

Roedd ffioedd dysgu a chontractau addysg yn cyfrif am £1.04 biliwn o’r incwm yn 2024/25, sy’n golygu mai’r categori hwn oedd y ffynhonnell incwm fwyaf. Mae hyn yn cynrychioli lleihad o 6% ers 2023/24, pan gofnodwyd £1.11 biliwn.

Grantiau cyrff cyllido oedd yr unig gategori incwm lle y gwelwyd cynnydd rhwng 2023/24 a 2024/25, gan godi 3% o £276 miliwn i £285 miliwn. Yn ogystal â chyllid gan Medr, gall grantiau cyrff cyllido gynnwys cyllid ar gyfer sefydliadau addysg bellach o fewn grwpiau addysg uwch, a rhywfaint o gyllid arall gan Lywodraeth y DU.

Roedd grantiau a chontractau ymchwil yn cyfrif am werth £237 miliwn o incwm yn 2024/25.

Gwelwyd lleihad ym mhob un o’r categorïau incwm sy’n weddill yn ystod 2024/25.

Noder: mae’r dull o gyfrifo gwariant sylfaenol yn y datganiad hwn yn wahanol i ddatganiad 2023/24 am ei fod yn cadw addasiadau cyfrifyddu technegol nad ydynt yn arian parod i gynlluniau pensiwn â buddion wedi’u diffinio ar wahân i gostau llog a chostau cyllid eraill, yn ogystal â chostau staff. Dim ond eu cadw ar wahân i gostau staff a wnaed yn natganiad 2023/24. Gwnaed y newid hwn er mwyn cyd-fynd ag arferion safonol yn y sector a chyhoeddiadau eraill gan Medr.

Nid yw cofnod cyllid HESA yn casglu ffigurau wedi’u hailddatgan ar gyfer addasiadau costau pensiwn, felly defnyddiwyd y ffigurau a gyflwynwyd yn wreiddiol.

Tabl 1: Cymhariaeth o fathau o wariant ar gyfer yr holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, o 2022/23 i 2024/25 (£M)

Math o wariant2022/23 (£M)2023/24 (£M)2024/25 (£M)
Cyfanswm y gwariant1,8891,6792,020
Gwariant sylfaenol1,9452,0562,026
Gwariant gweithredu sylfaenol1,9432,0391,977

Ffynonellau: Cofnod Cyllid HESA, Tabl 1, Tabl 8 a Thabl 12.
(Mae Tabl 1 yn cynnwys y categorïau gwariant cyffredinol. Mae Tabl 8 yn cynnwys yr addasiadau pensiwn i’r categori ‘costau llog a chostau cyllid eraill’ yn y golofn ‘Interest and other finance costs’, y gellir ei gweld pan fydd ‘Other expenditure’ wedi’i ddewis ar gyfer hidlydd grŵp canolfan gostau HESA a phan fydd ‘Pension cost adjustment’ wedi’i ddewis ar gyfer hidlydd costau HESA. Mae Tabl 12 yn cynnwys y newidiadau i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn ar gyfer costau staff.)

Mae cyfanswm y gwariant, fel y’i nodir mewn cyfrifon statudol, yn cynnwys addasiadau pensiwn technegol nad ydynt yn arian parod ac eitemau untro megis costau ailstrwythuro sylfaenol. Mae’r addasiadau pensiwn yn seiliedig ar brisiadau actiwaraidd o’r cynlluniau pensiwn, a gallant amrywio’n sylweddol yn dibynnu ar werth marchnadol ar adeg prisio. Gall hyn roi darlun camarweiniol o’r costau sylfaenol.

Mae gwariant sylfaenol yn tynnu addasiadau pensiwn technegol nad ydynt yn arian parod allan o gostau staff a chostau llog a chostau cyllid eraill.

Nid yw gwariant gweithredu sylfaenol yn cynnwys costau ailstrwythuro sylfaenol chwaith. Gan mai costau untro yw costau ailstrwythuro, nid ydynt yn rhan o weithrediadau parhaus arferol.

Yn 2024/25, bu lleihad o 3% mewn gwariant gweithredu sylfaenol, i £1.98 biliwn.

Siart 2: Dadansoddiad o gategorïau gwariant mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, o 2022/23 i 2024/25

Siart 2: Dadansoddiad o gategorïau gwariant mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, o 2022/23 i 2024/25

Ffynonellau: Cofnod Cyllid HESA, Tabl 1, Tabl 8 a Thabl 12
(Mae Tabl 1 yn cynnwys y categorïau gwariant cyffredinol. Mae Tabl 8 yn cynnwys yr addasiadau pensiwn i’r categori ‘costau llog a chostau cyllid eraill’ yn y golofn ‘Interest and other finance costs’, y gellir ei gweld pan fydd ‘Other expenditure’ wedi’i ddewis ar gyfer hidlydd grŵp canolfan gostau HESA a phan fydd ‘Pension cost adjustment’ wedi’i ddewis ar gyfer hidlydd costau HESA. Mae Tabl 12 yn cynnwys y newidiadau i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn ar gyfer costau staff.)

Bu lleihad mewn costau staff (heb gynnwys newidiadau technegol nad ydynt yn arian parod i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn) a chostau gweithredu eraill yn 2024/25. Cofnodwyd costau staff o £1.1 biliwn yn 2024/25; bu lleihad o lai nag 1%.

Bu lleihad o 8% mewn costau gweithredu eraill, i £681 miliwn yn 2024/25.

Y gwarged neu’r diffyg yn sgil gweithgareddau gweithredol craidd mewn prifysgolion yw’r sefyllfa weithredu sylfaenol. Yn y cyhoeddiad hwn, fe’i cyfrifwyd drwy dynnu’r gwariant gweithredu sylfaenol (nad yw’n cynnwys addasiadau pensiwn technegol nad ydynt yn arian parod na chostau ailstrwythuro sylfaenol untro) o gyfanswm yr incwm.

Yn 2024/25, cofnododd prifysgolion yng Nghymru ddiffyg gweithredu cyfunol o £81 miliwn. Yn 2023/24, £56 miliwn oedd y diffyg hwn. Yn 2022/23, roedd gwarged gweithredu o £40 miliwn.

Ffigurau ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2025 yw ffigurau 2024/25, ac mae data’r blynyddoedd blaenorol yn dilyn yr un patrwm.

Nid yw’r datganiad hwn yn cynnwys data gan y Brifysgol Agored yng Nghymru, gan mai dim ond data ariannol ar sail y DU gyfan y mae’r Brifysgol Agored yn eu cynhyrchu. Mae Prifysgol Cymru (swyddogaethau canolog) wedi cael ei chynnwys yn y datganiad hwn, sy’n golygu ei bod yn bosibl y bydd y ffigurau fymryn yn wahanol i’r adroddiad Cynaliadwyedd ariannol y sector addysg uwch yng Nghymru Medr, nad oedd yn cynnwys Prifysgol Cymru yn ei ffigurau, am nad yw Prifysgol Cymru yn gorff dyfarnu i sefydliadau eraill yng Nghymru ar hyn o bryd ac am fod ganddi weithgarwch cyfyngedig fel endid annibynnol. Nid yw sefydliadau addysg bellach, colegau chweched dosbarth na darparwyr addysg uwch amgen wedi’u cynnwys chwaith.

Mae cofnod cyllid HESA yn caniatáu i ddarparwyr ddiwygio eu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn yn y cyflwyniad dilynol. Mae’r cyhoeddiad hwn yn defnyddio’r ffigurau a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar. Daeth ffigurau 2023/24 o gyflwyniad 2024/25 ac felly mae’n bosibl y byddant yn wahanol i gyhoeddiadau blaenorol. Yr eithriad i hyn yw addasiadau pensiwn nad ydynt yn arian parod sydd wedi’u cynnwys o fewn ‘costau llog a chostau cyllid eraill’, lle nad yw’r cofnod cyllid yn casglu gwerth diwygiedig.

Mae’r data i’w gweld ar wefan Data Agored HESA, sydd hefyd yn cynnwys data ar gyfer darparwyr unigol.

Sta/Medr/09/2026: Cyllid sefydliadau addysg uwch, o fis Awst 2024 i fis Gorffennaf 2025

Cyfeirnod:  Sta/Medr/09/2026

Dyddiad:  19 Mai 2026

Dynodiad:  Official Statistics

Crynodeb:  Dadansoddiad o incwm a gwariant sefydliadau addysg uwch yng Nghymru o fis Awst 2024 i fis Gorffennaf 2025

Sta/Medr/09/2026 Cyllid sefydliadau addysg uwch, o fis Awst i fis Gorffennaf 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/20: Casglu data cofnod myfyrwyr HESA yn ystod y flwyddyn – disgwyliadau a chyllid ar gyfer darparwyr addysg uwch yng Nghymru

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi ein disgwyliadau ynghylch casglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn ar gyfer darparwyr addysg uwch drwy gofnod myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Rydym hefyd yn rhoi gwybod i ddarparwyr am ddyraniadau cyllid i’w defnyddio ar gyfer casglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn.

2. Mae data ar addysg uwch yng Nghymru yn ffynhonnell wybodaeth hanfodol a gaiff ei defnyddio ar gyfer llawer o nodau strategol Medr. Ar hyn o bryd, dim ond ar lefel fanwl yn ôl-weithredol ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd y mae gwybodaeth a dirnadaethau am addysg uwch yng Nghymru ar gael.

3. Un datblygiad mawr sydd ar y gorwel ar gyfer casglu data addysg uwch yw casglu data myfyrwyr addysg uwch yn ystod y flwyddyn, gan ddechrau o flwyddyn academaidd 2028/29. Yn bwysig ddigon, mae hyn yn golygu y byddwn ni ac eraill ledled Cymru yn gallu deall yr hyn sy’n digwydd yn y sector addysg uwch yn gynharach nag sy’n bosibl ar hyn o bryd, ac mewn ffordd sy’n fwy cyson â’r wybodaeth sydd gennym am weddill y sector addysg drydyddol. Mae rhai o’r ffyrdd y caiff y data a gesglir eu defnyddio wedi’u nodi ym mharagraff 7.

4. Bydd angen adnoddau ychwanegol ar gyfer y newid pwysig hwn er mwyn sicrhau y bydd darparwyr addysg uwch, mewn cydweithrediad â Medr a Jisc, yn gallu rhoi’r broses gasglu newydd ar waith.  Bydd adnoddau annigonol yn peri risg i les staff, i’r gallu i gyflwyno data’n amserol, ac i ansawdd y data. Rydym yn cyfrannu cyllid tuag at yr adnoddau ychwanegol hynny, fel y nodir ym mharagraff 18.

Casglu data yn ystod y flwyddyn

5. Mae’r cyhoeddiad hwn yn dilyn gohebiaeth gan Jisc ar 4 Mawrth 2026 i swyddogion atebol yn y DU ynglŷn â’r newid yn y sector i gasglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn. Er mwyn i Jisc gasglu data i gofnod myfyrwyr HESA, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru gyflwyno data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn ar un pwynt casglu sy’n ychwanegol at y pwynt casglu presennol ar ddiwedd y flwyddyn, a hynny o flwyddyn academaidd 2028/29 ymlaen. Mae manylion am y ffordd y mae Jisc, Medr a chyrff yng ngwledydd eraill y DU yn gweithio tuag at hyn i’w gweld ar wefan Jisc.

6. Mae hyn yn newid mawr i’r dirwedd data myfyrwyr addysg uwch. Mae argaeledd data o ansawdd da ynglŷn â’r sector addysg uwch yng Nghymru yn bwysig iawn i lawer o agweddau ar waith Medr a bydd cael data mwy amserol yn fuddiol i Medr ac i’r sector.

7. Mae angen data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn er mwyn gwneud y canlynol:

  • Cael syniad mwy amserol o’r myfyrwyr sy’n cael eu recriwtio i ddechrau yn nhymor yr hydref, yn enwedig ymgeiswyr UCAS ac israddedigion amser llawn, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol, a’r niferoedd mewn ardaloedd penodol. Gellir defnyddio hyn i lywio cynaliadwyedd ariannol a chanfod meysydd sy’n peri risg i ddarparwyr.
  • Cysoni gwybodaeth am addysg uwch yn well â’r wybodaeth am weddill y sector addysg drydyddol yng Nghymru sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn.
  • Gwneud llai o geisiadau ad hoc i ddarparwyr am wybodaeth yn ystod y flwyddyn academaidd, a rhoi’r gorau i wneud ein cais ar gyfer yr arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (HESES) o bosibl.
  • Darparu data mwy cyfredol i’w defnyddio at ddibenion cyllido.
  • Cael syniad cynnar o gynnydd tuag at fesurau a dangosyddion a ddatblygir o ganlyniad i gynllun gweithredol Medr.
  • Ymateb i geisiadau gan gydweithwyr a chyrff allanol megis Llywodraeth Cymru â gwybodaeth a dirnadaethau mwy amserol.
  • Llunio rhestr darged yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn seiliedig ar wybodaeth fwy cyfredol.

8. Bydd cyflwyno data yn ystod y flwyddyn hefyd yn darparu data mwy amserol i’w defnyddio at ddibenion cynllunio a rhagweld gan ddarparwyr addysg uwch, gan gynnwys data sector a fydd ar gael drwy adnodd dadansoddi data Heidi Plus Jisc.

9. Ni fydd holl fanteision cael data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn yn dod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl i’r newid hwn gael ei roi ar waith, a chaiff y manteision hyn eu gwireddu drwy broses iteraidd dros yr ychydig flynyddoedd cyntaf. Mae Jisc hefyd wedi nodi’r manteision yn yr adran ar gasglu data yn ystod y flwyddyn ar ei wefan.

Cyllid ar gyfer casglu data myfyrwyr addysg uwch yn ystod y flwyddyn

10. I gydnabod y baich a chostau ychwanegol i ddarparwyr yn sgil rhoi’r newid hwn ar waith yn ystod cyfnod o gyfyngiadau ariannol yn y sector, byddwn yn dyrannu rhywfaint o gyllid tuag at gasglu data yn ystod y flwyddyn i bob darparwr addysg uwch y byddwn yn gofyn iddo wneud hynny (gweler Categori A isod).

11. Drwy ddyrannu cyllid, rydym hefyd yn ymateb i bryderon a godwyd gan staff cyflwyno data darparwyr addysg uwch ynglŷn â’r gallu i gyflwyno data yn ystod y flwyddyn mewn amgylchedd o doriadau i adnoddau darparwyr, a’r effaith bosibl ar les staff os na fydd adnoddau ychwanegol ar gael. Hefyd, rhoddodd staff cyflwyno data wybod nad yw’r holl aelodau uwch o staff darparwyr yn gwbl ymwybodol o’r gofynion newydd ar gyfer data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn, ac felly mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn ceisio helpu i feithrin dealltwriaeth o’r gofynion newydd ymhlith staff darparwyr addysg uwch.

12. Bydd cyllid ar gyfer y diben penodol hwn yn helpu darparwyr i fodloni amod rheoleiddio Lles Staff a Dysgwyr Medr ac yn adeiladu ar argymhellion yr adolygiad annibynnol o’r ffordd y mae’r rhaglen Dyfodol Data wedi cael ei rhoi ar waith.

13. Rydym hefyd yn pryderu bod statws risg HESA ar gyfer darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn peri mwy o risg ar gyfartaledd i ddarparwyr mewn perthynas â chyflwyno data myfyrwyr o gymharu â’r DU yn ei chyfanrwydd ac felly rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn rhoi mesurau ar waith i liniaru’r risg honno ar gyfer casglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn.

14. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gyflwyno data yn ystod y flwyddyn os ydynt yn cael eu rheoleiddio neu eu cyllido gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch. Felly, os yw darparwr addysg uwch yn tanysgrifio i HESA ac yn cyflwyno data myfyrwyr ar ddiwedd pob blwyddyn i gofnod myfyrwyr HESA ar hyn o bryd, bydd yn ofynnol iddo gyflwyno data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn os oes ganddo gynllun ffioedd a mynediad Medr, os yw ar gofrestr addysg uwch Medr a/neu os yw Medr yn rhoi cyllid iddo ar gyfer ei ddarpariaeth addysg uwch. Y darparwyr addysg uwch sy’n perthyn i’r categori hwn ar hyn o bryd yw:

Categori A
Prifysgol De Cymru
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Bangor
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prifysgol Wrecsam
Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Grŵp Llandrillo Menai
Grŵp Colegau NPTC
Coleg Gŵyr Abertawe
Coleg Cambria

15. Ni fyddai darparwyr addysg uwch sy’n tanysgrifio i HESA, sy’n cyflwyno data am fod ganddynt ddarpariaeth cyrsiau sydd wedi’i dynodi’n benodol, ac na chânt eu rheoleiddio na’u cyllido gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch, yn perthyn i’r categori uchod. Ar hyn o bryd, mae hyn yn cynnwys y canlynol:

Categori B
Coleg Gwent
Coleg Caerdydd a’r Fro
Canolfan y Dechnoleg Amgen
Athrofa Padarn Sant

16. Pe bai darparwr yng Nghategori B yn dod yn ddarparwr a reoleiddir drwy wneud cais llwyddiannus i fod ar y gofrestr addysg uwch, byddai’n symud i Gategori A ac yn dod yn gymwys i gael y cyllid ar gyfer casglu data yn ystod y flwyddyn.

17. Cyfanswm y cyllid sydd ar gael i’r sector ar gyfer rhoi hyn ar waith yw £650k ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. Rydym yn dechrau darparu’r cyllid yn ystod 2026/27 i gydnabod y gwaith y bydd angen ei wneud yn y cyfnod cyn dechrau casglu’r data. Ein nod yw darparu lefelau tebyg o gyllid yn ystod blynyddoedd academaidd 2027/28 a 2028/29, yn amodol ar argaeledd cyllid. Caiff y cyllid ei rannu rhwng darparwyr addysg uwch, gan roi swm penodedig i brifysgolion a swm penodedig llai i ddarparwyr llai yn unol â’u maint. Dyrennir y cyllid yn unol â’r disgwyliad mai dim ond i dalu costau sy’n gysylltiedig â chasglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn y caiff ei ddefnyddio.

18. Mae’r dyraniadau cyllid fesul darparwr wedi’u nodi isod:

Math o ddarparwr addysg uwch (a reoleiddir a/neu a gyllidir ar gyfer darpariaeth addysg uwch)Cyllid fesul darparwr yn 2026/27 (£)
Prifysgol65,000
CAB neu DA â ≥ 500 o fyfyrwyr addysg uwch wedi’u cofrestru ar gyfer BA 2024/2515,000
CAB neu DA â < 500 o fyfyrwyr addysg uwch wedi’u cofrestru ar gyfer BA 2024/2510,000

CAB = coleg addysg bellach; DA = darparwr amgen; BA = blwyddyn academaidd
Ffynhonnell ddata ar gyfer myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru = poblogaeth gofrestru safonol cofnod myfyrwyr HESA 2024/25

19. Mae ein disgwyliadau ynghylch sut y caiff y cyllid hwn ei wario wedi’u nodi isod:

  • Disgwylir i’r cyllid gael ei wario ar gostau sy’n gysylltiedig â chasglu data yn ystod y flwyddyn, a dylai hyn fod yn ychwanegol at unrhyw adnoddau neu wariant presennol, neu adnoddau neu wariant arfaethedig, sy’n gysylltiedig â chyflwyno data myfyrwyr.
  • Dylai’r cyllid gael ei wario ar weithgarwch sy’n ychwanegol at fusnes fel arfer ar gyfer cyflwyno data myfyrwyr ar ddiwedd y flwyddyn.
  • Gall y cyllid gael ei wario ar adnoddau staff mewn timau cyflwyno data neu TG, gwelliannau TG a gwelliannau i systemau, a chostau eraill sy’n gysylltiedig â gallu cyflwyno data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn yn llwyddiannus, megis gwelliannau i brosesau casglu data fel y gall data fod ar gael i’w cyflwyno’n gynharach.

20. Disgwylir i ddarparwyr addysg uwch sicrhau bod adnoddau digonol ar gael, gan gynnwys unrhyw rai sy’n defnyddio’r cyllid gan Medr ar gyfer rhoi hyn ar waith, er mwyn gallu casglu data yn ystod y flwyddyn yn llwyddiannus o fewn yr amserlen ofynnol, a hynny heb gael effaith andwyol ar les staff na’r broses arferol o gasglu data myfyrwyr ar ddiwedd y flwyddyn.

 21. Caiff darparwyr addysg uwch eu hannog yn gryf i gymryd rhan mewn gweithgarwch treialu yn 2027/28 mewn perthynas â chyflwyno data yn ystod y flwyddyn er mwyn gallu bod yn gwbl barod ar gyfer cyflwyno data yn ystod y flwyddyn yn llawn am y tro cyntaf yn 2028/29. Bydd Jisc yn rhannu manylion y gweithgarwch a sut i gymryd rhan â darparwyr.

Gofynion archwilio mewnol

22. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr addysg uwch yng Nghategori A gynnwys gwiriadau ar y ffordd y caiff data eu casglu yn ystod y flwyddyn a’r adnoddau a ddyrennir ar gyfer hyn fel rhan o’u harchwiliad mewnol blynyddol o systemau a phrosesau data addysg uwch. Caiff yr adroddiad archwilio mewnol ei gyflwyno i Medr yn yr haf bob blwyddyn, ac rydym yn disgwyl i’r adroddiad a gyflwynir i ni yn ystod haf 2027 gynnwys safbwynt ar barodrwydd a risg mewn perthynas â chyflwyno data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn yn ogystal â chadarnhad bod cyllid Medr ar gyfer rhoi hyn ar waith yn cael ei ddefnyddio i baratoi ar gyfer cyflwyno’r data a lleihau’r risgiau cysylltiedig. Caiff rhagor o fanylion eu cynnwys yn y nodiadau canllaw wedi’u diweddaru ar gyfer archwilio mewnol a gaiff eu cyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn.

Yr ymateb sy’n ofynnol

23. Gofynnir i benaethiaid darparwyr addysg uwch yng Nghategorïau A a B gadarnhau eu bod wedi cael y cyhoeddiad hwn a’u bod yn deall y disgwyliadau a nodir yn y llythyr hwn, drwy ymateb i Hannah Falvey, Pennaeth Ystadegau Addysg Uwch, [email protected], erbyn 29 Mai 2026.

Rhagor o wybodaeth

24. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn at Hannah Falvey ([email protected]).

Medr/2026/20: Casglu data cofnod myfyrwyr HESA yn ystod y flwyddyn – disgwyliadau a chyllid ar gyfer darparwyr addysg uwch yng Nghymru

Dyddiad: 19 Mai 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/20

At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Prifathrawon/Penaethiaid sefydliadau addysg bellach a darparwyr addysg uwch amgen sy’n tanysgrifio i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)

Ymateb erbyn: 29 Mai 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi ein disgwyliadau ynghylch casglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn ar gyfer darparwyr addysg uwch drwy gofnod myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Rydym hefyd yn rhoi gwybod i ddarparwyr am ddyraniadau cyllid i’w defnyddio ar gyfer casglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn.

Medr/2026/20 Casglu data cofnod myfyrwyr HESA yn ystod y flwyddyn – disgwyliadau a chyllid ar gyfer darparwyr addysg yng Nghymru

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/19: Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch: dyraniadau 2026/27

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r dyraniadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 i ddarparwyr sy’n cael Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch.

Cyllid a gofynion 2026/27

2. Cyfanswm y buddsoddiad sydd ar gael i gefnogi gweithgarwch Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch rhwng 1 Awst 2026 a 31 Gorffennaf 2027 yw £2m.

3. Rhaid defnyddio’r buddsoddiad yn unol â chanllawiau cyfredol Medr, fel y nodir yn Medr/2025/09 Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26  2026/27 a dyraniadau 2025/26. Rhaid hefyd ei ddefnyddio i gyflawni’r blaenoriaethau a’r gweithgareddau a amlinellir yng nghynlluniau cyflawni cymeradwy darparwyr ar gyfer y cyfnod o 2025/26 i 2026/27.

4. Gall darparwyr gynnig newidiadau i’w cynlluniau cyflawni cymeradwy drwy Adroddiad Diwedd Blwyddyn 2025/26, a disgwylir iddynt ymgysylltu â Medr yn gynnar i drafod unrhyw newidiadau arfaethedig ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.

Dyraniadau 2026/27

5. Nodir dyraniadau darparwyr ar gyfer 2026/27 yn y tabl isod. Cawsant eu cyfrifo gan ddefnyddio’r data HESA diweddaraf sydd wedi’u gwirio ar gyfer 2024/25 a chan ddefnyddio’r fethodoleg gyllido a nodir ym mharagraffau 37-41 Medr/2025/09 Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26.

DarparwrCyfanswm y cyllid (£)
Prifysgol De Cymru312,316
Prifysgol Aberystwyth166,565
Prifysgol Bangor152,212
Prifysgol Caerdydd330,000
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant137,207
Prifysgol Abertawe330,000
Prifysgol Metropolitan Caerdydd253,599
Prifysgol Wrecsam100,000
Y Brifysgol Agored yng Nghymru178,101
Grŵp Llandrillo Menai25,000
Grŵp NPTC5,000
Coleg Gŵyr Abertawe5,000
Coleg Cambria5,000
Cyfanswm2,000,000

6. Mae Medr/2026/05: Dyraniadau cyllid addysgu addysg uwch craidd ar gyfer Coleg Cambria 2025/26 yn cadarnhau bod Coleg Cambria yn gymwys i gael buddsoddiad gan Medr ar gyfer ei ddarpariaeth addysg uwch o flwyddyn academaidd 2025/26 ymlaen, ar ôl i’w Gynllun Ffioedd a Mynediad ar gyfer 2025/26–2026/27 gael ei gymeradwyo. Ers hynny, mae trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda Choleg Cambria ynglŷn ag ymestyn buddsoddiad mewn Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch er mwyn cefnogi myfyrwyr addysg uwch Coleg Cambria a ariennir yn uniongyrchol gan Medr. O ganlyniad i hynny, a chan ystyried data myfyrwyr cymwys Coleg Cambria, cytunwyd y bydd Coleg Cambria yn cael buddsoddiad o 2026/27 ymlaen yn unol â’r un egwyddorion cyllido â Grŵp NPTC a Choleg Gŵyr Abertawe. Bydd y buddsoddiad hwn yn amodol ar gyflwyno cynllun cyflawni boddhaol ar gyfer 2026/27 a chydymffurfio â phrosesau monitro parhaus Medr, yn unol â’r trefniadau a nodir yn Medr/2025/09 Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26.

Trefniadau monitro a thalu 2026/27

7. Byddwn yn talu 60% o ddyraniad darparwr i sefydliadau addysg uwch a Grŵp Llandrillo Menai ar ôl i’w hadroddiadau monitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2025/26 a’u proffiliau gwariant ar gyfer 2026/27 gael eu cymeradwyo. Caiff y 40% o’r dyraniad sy’n weddill ei ryddhau ym mis Ebrill 2027 yn amodol ar waith monitro interim boddhaol ar gyfer 2026/27, ac ar yr amod bod darparwr wedi ymrwymo o leiaf 75% o’r taliad cychwynnol.

8. Caiff y dyraniadau ar gyfer Grŵp NPTC a Choleg Gŵyr Abertawe eu talu’n llawn ar ôl i’w hadroddiadau monitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2025/26 gael eu cymeradwyo. Caiff y dyraniad ar gyfer Coleg Cambria ei dalu’n llawn ym mis Medi 2026, yn amodol ar gymeradwyo cynllun cyflawni boddhaol ar gyfer 2026/27.

9. Bydd taliadau’n gyfan gwbl amodol ar gadarnhad bod y corff llywodraethu wedi derbyn amodau cyffredinol Medr ar gyfer talu cyllid grant, a’i fod yn cydymffurfio â nhw yn barhaus. Nodir yr amodau hyn yn Nhelerau ac Amodau Grant 2026/27: Sefydliadau Addysg Uwch, a gaiff eu cyhoeddi ar wefan Medr cyn dechrau blwyddyn academaidd 2026/27.

10. Ym mis Chwefror 2027, bydd angen cyflwyno adroddiad monitro interim sy’n nodi gweithgarwch hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2026, gan gynnwys nifer yr unigolion a gefnogwyd (wedi’i rannu yn ôl myfyrwyr, myfyrwyr breiniol a graddedigion), yn ogystal â data demograffig arnynt. Yn ychwanegol at hynny, bydd angen i ni gael data ar nifer yr unigolion a gymerodd ran mewn profiadau cysylltiedig â gwaith a nifer yr unigolion a gefnogwyd sydd o’r farn bod eu cyflogadwyedd wedi gwella i’r graddau nad ydynt yn cael cymorth cyflogadwyedd uwch mwyach. Darparwyr fydd yn gyfrifol am sicrhau y caiff yr holl wybodaeth a data gofynnol eu cynnwys yn yr adroddiad, fel bod sail gadarn ar gyfer asesu effaith y cyllid a deilliannau’r myfyrwyr.

11. Ym mis Medi 2027, bydd angen cyflwyno Adroddiad Diwedd Blwyddyn sy’n cynnwys gwybodaeth wedi’i diweddaru am weithgarwch, data ac effaith ein buddsoddiad hyd at 31 Gorffennaf 2027. Bydd yn ofynnol i ddarparwyr gadarnhau’r gwariant gwirioneddol yn 2026/27. Cadwn yr hawl i adhawlio unrhyw gyllid na fydd wedi cael ei wario (h.y. ei dalu allan) erbyn 31 Gorffennaf 2027. Bydd nifer o astudiaethau achos yn ofynnol, a hynny’n gymesur â lefel y buddsoddiad. Bydd angen i’r astudiaethau achos fod yn addas i’w cyhoeddi.

12. Byddwn yn darparu templedi ar gyfer yr Adroddiad Monitro Interim, yr Adroddiad Diwedd Blwyddyn a’r astudiaethau achos mewn gohebiaeth ar wahân.

Ymgysylltu â Medr

13.Yn ychwanegol at ofynion monitro ac adrodd ffurfiol, bydd Medr yn ceisio ategu ffurflenni monitro â deialog barhaus â darparwyr er mwyn cefnogi dealltwriaeth gyffredin o gyflawni, cynnydd, a materion a ddaw i’r amlwg. Byddwn yn parhau i fod yn agored i ymgysylltu mewn modd adeiladol a chymesur drwy gydol y flwyddyn academaidd, gan gydnabod gwerth trafod er mwyn helpu i gyflawni’n effeithiol, rheoli risg, a mynd i’r afael â materion wrth iddynt godi. Bwriedir i’r dull hwn ategu prosesau monitro ffurfiol, yn hytrach na’u disodli, a helpu i wella’n barhaus a defnyddio ein buddsoddiad yn effeithiol.

14. Bydd yn ofynnol i ddarparwyr sydd am wneud newidiadau yn ystod y flwyddyn i’w cynlluniau cyflawni ar gyfer 2026/27, neu amrywiadau sylweddol i’r proffil gwariant cymeradwy ar gyfer 2026/27, ymgysylltu â Medr yn y lle cyntaf.

Amserlen

15. Cyflwynir yr amserlen ar gyfer yr adroddiadau a’r taliadau yn y tabl isod.

DisgrifiadDyddiad
Terfyn amser ar gyfer cyflwyno Adroddiad Diwedd Blwyddyn ac Astudiaeth Achos 2025/26 (pob darparwr addysg uwch) 18 Medi 2026
Dyraniad 2026/27: Coleg Cambria100% yn daladwy ym mis Medi 2026, yn amodol ar gymeradwyo Cynllun Cyflawni
Dyraniad 2026/27: Rhandaliad CyntafSefydliadau addysg uwch a Grŵp Llandrillo Menai: 60% yn daladwy pan gaiff Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn 2025/26 ei gymeradwyo
 
Coleg Gŵyr Abertawe a Grŵp NPTC: 100% yn daladwy pan gaiff Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn 2025/26 ei gymeradwyo 
Terfyn amser ar gyfer cyflwyno Adroddiad Monitro Interim 2026/27 (sefydliadau addysg uwch a Grŵp Llandrillo Menai)12 Chwefror 2027
Dyraniad 2026/27: Rhandaliad OlafSefydliadau addysg uwch a Grŵp Llandrillo Menai:
40% yn daladwy ym mis Ebrill 2027, yn amodol ar gymeradwyo Adroddiad Monitro Interim 2026/27
Terfyn amser ar gyfer cyflwyno Adroddiad Diwedd Blwyddyn (pob darparwr addysg uwch)17 Medi 2027

Rhagor o wybodaeth

16. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn at Rachel O’Gorman ([email protected]).

Asesu effaith ein polisïau

17. Gwnaethom gynnal asesiad effaith er mwyn helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb ar Medr/2025/09 Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26, a oedd yn cwmpasu cyfnod y cynlluniau cyflawni dwy flynedd a dyraniadau 2025/26 ar gyfer cyllid Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch. Wrth ddrafftio’r cyhoeddiad hwn, rydym wedi adolygu’r asesiad effaith hwn ac rydym yn parhau i ragweld effaith gadarnhaol ar hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd a chred. Gwnaethom hefyd ystyried effaith y polisi hwn ar y Gymraeg, darpariaeth Gymraeg yn y sector addysg uwch yng Nghymru, nodweddion economaidd-gymdeithasol ac effeithiau posibl ar y gallu i gyflawni’r nodau sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Medr/2026/19: Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch: dyraniadau 2026/27

Dyddiad:  14 Mai 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/19

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Prifathrawon sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a ariennir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer darpariaeth addysg uwch

Ymateb erbyn:  18 Medi 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r dyraniadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 i ddarparwyr sy’n cael Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch.

Medr/2026/19 Cymorth Cyflogadwyedd wedi'i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch: dyraniadau 2026/27

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/18: Cyllid cyfalaf digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2026/27

Cyflwyniad

1. Roedd setliad cyllid Llywodraeth Cymru i Medr ar gyfer 2025-26 yn cynnwys cyllid cyfalaf digidol o £3 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer AB.  Mae’r cyllid hwn wedi cael ei gynnal ar gyfer 2026-27 ac, yn amodol ar gadarnhad mewn cyllidebau yn y dyfodol, mae disgwyl i hyn ddod yn gyllid parhaus.

2. Mae’r cyllid hwn wedi’i fwriadu i gynorthwyo sefydliadau AB i ddatblygu dulliau tymor hwy a mwy strategol o fuddsoddi mewn offer, dyfeisiau a seilwaith digidol (sy’n ofynnol i alluogi cyflawni digidol) ac o gynnal gwasanaethau a systemau digidol cadarn a chydnerth. Mae’r nodau hyn yn cyd-fynd â Gweledigaeth a Nodau’r fframwaith strategol Digidol 2030 ar gyfer dysgu digidol, sydd i fod i gael ei ddiweddaru yn y misoedd nesaf.

3. Rydym yn gofyn i bob sefydliad AB ddatblygu a chyflwyno cynllun buddsoddi cyfalaf digidol tair blynedd erbyn 10 Chwefror 2027.  Bydd dyraniadau cyllid cyfalaf digidol yn y dyfodol hyd at a chan gynnwys blwyddyn academaidd 2028/29 yn cael eu dyfarnu ar sail y cynllun hwn.

Graddfeydd amser ar gyfer Blwyddyn 1 (blwyddyn academaidd 2026/27):

AmseriadCarreg filltir neu gam gweithredu
Tua 18 Rhagfyr 2026Bydd taliad cyfalaf interim (50% o’r dyraniad) yn cael ei brosesu yn ystod mis Rhagfyr.
Erbyn 10 Chwefror 2027Cynllun buddsoddi cyfalaf digidol tair blynedd yn ofynnol gan bob sefydliad (Atodiad B)
Tua 19 Mawrth 2027Yn amodol ar gael cynlluniau buddsoddi cyfalaf digidol, bydd y 50% sy’n weddill o’r dyraniad cyfalaf yn cael ei brosesu yn ystod mis Mawrth
Erbyn 21 Gorffennaf 2027Adroddiad gwariant diwedd blwyddyn yn ofynnol (Atodiad C i gael ei ychwanegu yn gynnar yn 2027)

Medr/2026/18: Cyllid cyfalaf digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2026/27

Dyddiad: 14 Mai 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/18

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol

Ymateb erbyn: 10 Chwefror 2027

Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn nodi dyraniadau cyllid cyfalaf digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach, yn darparu canllawiau ynghylch defnyddio cyllid ac yn nodi gofynion o ran adroddiadau a thystiolaeth.

Caiff dyraniadau cyllid ar gyfer pob sefydliad eu nodi yn Atodiad A.

Medr/2026/18 Cyllid cyfalaf digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2026/27

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/17: Model cyllido prentisiaethau: ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i gynnig mewnbwn i lywio’r model cyllido prentisiaethau ar gyfer y dyfodol.

Mae prentisiaethau’n ysgogiad allweddol i godi lefelau sgiliau, cynyddu cynhyrchiant a helpu i dyfu gweithlu medrus ac amrywiol sy’n addas i’r diben.

Bydd y rhaglen newydd yn fwy ystwyth ac ymatebol er mwyn sicrhau’r cymwysterau a’r sgiliau cywir i ddiwallu anghenion cyflogwyr, dysgwyr a’r economi o fis Awst 2027 ymlaen.

Ym mis Medi 2025, gwnaethom gynnal ymgynghoriad a oedd yn cynnwys ymgysylltu â darparwyr addysg drydyddol, cyrff diwydiant, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill.

Mae canlyniadau’r ymgynghoriad wedi helpu i lywio’r gwaith o ddylunio’r rhaglen brentisiaethau newydd ac egwyddorion model cyllido newydd.

Rydym yn awr wedi datblygu model cyllido newydd sy’n ymateb i’r adborth a gafwyd i’r ymgynghoriad ar brentisiaethau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y model yn canolbwyntio’n fwy ar y dysgwr ac yn fwy hyblyg er mwyn bodloni gofynion sy’n newid.

Cynhelir digwyddiadau ymgysylltu ym mis Mai 2026 i drafod dyluniad y rhaglen newydd.

Rydym nawr yn ceisio safbwyntiau ar y canlynol:

  • egwyddorion lefel uchel y model cyllido newydd
  • manteision y model cyllido newydd
  • canlyniadau anfwriadol rhoi’r model cyllido newydd ar waith
  • costau ychwanegol prentisiaethau

Byddem yn croesawu ymatebion i’r ymgynghoriad gan unigolion sydd â phrofiad o gynnal prentisiaethau ac eraill sydd â diddordeb yn y rhaglen brentisiaethau newydd. Bydd clywed gan randdeiliaid yn allweddol er mwyn helpu i lywio’r model cyllido newydd ac ystyried unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn llawn.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y model cyllido ar gyfer prentisiaethau ar lefelau 2-5. Rydym yn gwneud gwaith pellach er mwyn deall a oes angen gwneud newidiadau i’r model cyllido ar gyfer gradd-brentisiaethau.

Byddwn yn cynnal digwyddiad ymgynghori ar-lein ar 3 Mehefin 2026, 10:00 – 11:30.

I gael dweud eich dweud, llenwch y ffurflen ateb yn Atodiad A ac anfonwch hi i [email protected] erbyn 19 Mehefin 2026.

Medr/2026/17: Model cyllido prentisiaethau: ymgynghoriad

Dyddiad: 14 Mai 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/17

At: Benaethiaid darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru; Darparwyr prentisiaethau presennol yng Nghymru / Deiliaid contractau prentisiaeth wedi’u comisiynu; Cyrff cynrychioli cyflogwyr; Cyrff cynrychioli dysgwyr; Cynrychiolwyr addysg awdurdodau lleol

Ymateb erbyn:  19 Mehefin 2026

Crynodeb: Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn i ddarparwyr prentisiaethau, cyflogwyr a rhanddeiliaid presennol a darpar ddarparwyr prentisiaethau, cyflogwyr a rhanddeiliaid am safbwyntiau i lywio’r gwaith o ddylunio’r model cyllido prentisiaethau newydd i Gymru, a fydd yn cael ei ddefnyddio o 1 Awst 2027 ymlaen.

Medr/2026/17 Model cyllido prentisiaethau: ymgynghoriad

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Addysg drydyddol yng Nghymru i gael dros £1 biliwn o fuddsoddiad am y tro cyntaf

Mae’r cyllid, a fydd yn cefnogi oddeutu 330,000 o ddysgwyr, yn darparu buddsoddiad craidd ac wedi’i dargedu ar gyfer addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau, a chweched dosbarth a dysgu oedolion yn y gymuned awdurdodau lleol, ochr yn ochr â chymorth parhaus ar gyfer ymchwil ac arloesi.

Mae cyfanswm cyllideb Medr ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27, gan gynnwys cyllid cyfalaf, yn £1.018 biliwn, gyda buddsoddiad ar y cyfan dros y flwyddyn academaidd yn cyrraedd £1.03 biliwn. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol ac yn ymgorffori cyllid ychwanegol i gefnogi meysydd megis prentisiaethau, llesiant dysgwyr, cyfranogiad ac ymchwil ac arloesi.

A hwythau’n cefnogi dysgwyr a darparwyr ledled Cymru, mae’r dyraniadau’n cadarnhau:

  • £150.5 miliwn ar gyfer prentisiaethau yn 2026‑27, cynnydd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, sy’n cefnogi darpariaeth o brentisiaethau sylfaen i radd-brentisiaethau.
  • Cynnydd yn y buddsoddiad mewn prentisiaethau iau, gan ehangu cyfleoedd ar gyfer dysgwyr 14–16 oed.
  • Dros £460 miliwn mewn cyllid craidd ar gyfer addysg bellach, sy’n gynnydd yn y gyfradd fesul uned ac yn rhoi cyfrif am amrywiannau yng nghyfranogiad dysgwyr o fewn y fethodoleg gyllido.
  • £121.7 miliwn i gefnogi chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol. Eto, mae hyn yn adlewyrchu cynnydd yn y gyfradd fesul uned ac yn rhoi cyfrif am amrywiannau yng nghyfranogiad dysgwyr o fewn y fethodoleg gyllido.
  • Parhad cyllid ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, sy’n cefnogi darpariaeth ar gyfer dysgwyr 19 oed a throsodd.
  • Mwy na £98 miliwn ar gyfer ymchwil ac arloesi mewn addysg uwch, gan gynnwys Ymchwil o Ansawdd (QR), hyfforddiant ymchwil ôl-radd a Chronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF).

Ochr yn ochr â chyllid craidd, mae Medr wedi cadarnhau buddsoddiad wedi’i dargedu i gefnogi llesiant dysgwyr, mynediad a chyfranogiad, cyflogadwyedd a sgiliau, gallu ym maes data a digidol, a blaenoriaethau strategol ar draws y sector cyfan.

Meddai James Owen, Prif Weithredwr Medr:

“Fe grëwyd Medr i ddod â mwy o gydlyniad a chydweithio i’n system addysg drydyddol ac ymchwil. Mae’r cynnydd hwn mewn buddsoddiad yn ein sector trydyddol yn ategu’r nod hwn, gan helpu darparwyr i ddarparu addysg, ymchwil ac arloesi o ansawdd da i ddysgwyr ym mhob cyfnod gan hefyd gryfhau gallu’r sector i ymateb i heriau’r dyfodol.

“Rydym yn cydnabod y pwysau ariannol a wynebir gan y sector ac ar draws cyllidebau’r Llywodraeth a byddwn yn parhau i adolygu ein buddsoddiad i sicrhau bod yr uchelgeisiau hirdymor yn ein Cynllun Strategol yn cyd-fynd yn well â blaenoriaethau’r Llywodraeth newydd. Wrth wneud hynny, byddwn yn parhau â’n gwaith gyda darparwyr a phartneriaid i sicrhau bod pob punt a fuddsoddir gan Medr yn trosi’n ddysgwr, cymuned neu economi leol sy’n gallu edrych tua’r dyfodol â mwy o hyder a llewyrch.”

Dyraniadau buddsoddi trydyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, gan gynnwys dyraniadau darparwyr unigol a gwybodaeth fethodolegol fanwl:

Dyraniadau Buddsoddi Trydyddol ar gyfer 2026/27

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/16: Buddsoddiad Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi ein buddsoddiad ar y cyfan i ddarparwyr addysg drydyddol ac ymchwil a gyllidir gan Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. Mae’r ddogfen hon hefyd yn cynnwys dyraniadau darparwyr unigol ar gyfer yr holl fuddsoddiad craidd a rhai cyllidebau wedi’u targedu, lle y bônt ar gael.

2. Mae ein llythyr cyllid wedi’i gadarnhau’n amlygu mai £1,005.008 miliwn yw ein cyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27. Mae hyn yn gynnydd o £29.6589 miliwn (3.04%) o’i gymharu â’r gyllideb derfynol, gan gynnwys dyraniadau yn ystod y flwyddyn a gafwyd ym mlwyddyn ariannol 2025-26 sydd wedi’u hymgorffori yn y llinell sylfaen, o £975.349 miliwn. Gan gynnwys cyfalaf, £1,018,508,000 yw cyfanswm cyllideb Medr ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27.

Cyfanswm buddsoddiad ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27

3. Mae’r tabl isod yn crynhoi’r cyfanswm cyllid yn y flwyddyn academaidd, a nodir mewn mwy o fanylder drwy’r cyhoeddiad.

Blwyddyn academaidd 2025/26
£ miliwn
Blwyddyn academaidd 2026/27
£ miliwn
Wedi’i glustnodi
Cyllideb prentisiaethau143.277150.535
Prentisiaethau iau0.6001.000
Entrepreneuriaeth Ieuenctid0.3600.360
REACH00.400
Estyn02.056
Craidd
Chweched dosbarth awdurdodau lleol119.221121.682
Dysgu oedolion yn y gymuned awdurdodau lleol6.4796.479
Prif ffrwd addysg bellach434.894466.424
Cyllideb i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad21.1266.250
Ymchwil ac arloesi mewn addysg uwch97.12198.121
Cyllid addysgu mewn addysg uwch71.73276.461
Gradd-brentisiaethau9.41110.111
Hepgoriad ffioedd rhan-amser0.2000.200
Wedi’i dargedu
Llesiant dysgwyr49.02049.840
Mynediad a llesiant7.7647.025
Cyflogadwyedd a sgiliau3.0053.005
Ymchwil ac arloesi2.0002.000
Myfyrwyr/dysgwyr a’r gweithlu8.0756.795
Data a thechnoleg3.5003.500
Cyllideb rhaglen ganolog03.000
Datblygiadau strategol3.5000.500
Cyfalaf
Addysg uwch10.00010.000
Digidol mewn addysg bellach3.0003.000
Cyfanswm994.2851028.744

4. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys yr holl grantiau craidd a gaiff eu llywio gan fformiwla. Lle y bo’n bosibl, mae grantiau a ddyrennir trwy gyllidebau wedi’u targedu, a all fod yn amodol ar strategaeth neu gynllun gwariant penodol, wedi’u cynnwys hefyd. Bydd cyhoeddiadau pellach yn darparu manylion dyraniadau a chanllawiau, lle y bo’n ofynnol, ar gyfer ffrydiau buddsoddi penodol.

5. Nid yw’r dyraniadau yn y papur hwn yn ystyried unrhyw addasiadau cyllido posibl yn ystod y flwyddyn ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27 a allai gael eu cymhwyso gan Lywodraeth Cymru. Bydd unrhyw addasiadau cyllido o’r fath yn arwain at ddiwygio’r dyraniadau unigol.

Medr/2026/16: Buddsoddiad Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27

Dyddiad:  13 Mai 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/16

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid colegau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg; Penaethiaid chweched dosbarth mewn ysgolion; Arweinwyr dysgu oedolion yn y gymuned mewn awdurdodau lleol; Deiliaid contract prentisiaeth

Ymateb erbyn: 15 Medi 2026 ar gyfer darparwyr sy’n bwriadu ailddosbarthu credydau wedi’u cyllido ar gyfer darpariaeth israddedig ran-amser (paragraff 122)

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi buddsoddiad Medr ar y cyfan ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 gan gynnwys dyraniadau darparwyr unigol ar gyfer yr holl fuddsoddiad craidd mewn addysg drydyddol.

Medr/2026/16 Buddsoddiad Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Rôl Medr yn y broses o ad-drefnu darpariaeth chweched dosbarth

Sefydlwyd Medr ym mis Awst 2024, gan ddod â swyddogaethau rheoleiddio a chyllido gwahanol rannau o’r sector addysg drydyddol yng Nghymru ynghyd o dan un corff am y tro cyntaf. Daw hyn â nifer o fanteision, yn enwedig o ran sicrhau y gall dysgwyr gael addysg o safon uchel yn gyson, pa lwybr bynnag y byddant yn ei ddewis. Fodd bynnag, mae’r dull newydd yn golygu bod angen gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod gwahanol rannau o’r sector addysg drydyddol yn fwy cyson â’i gilydd.

Os ydych chi wedi bod yn rhan o’r adolygiad o ddarpariaeth addysg leol neu o gynllunio newidiadau i strwythurau ysgolion, byddwch yn ymwybodol bod y broses yn gymhleth, yn hynod reoleiddiedig, ac yn ddibynnol ar gydgysylltu rhwng nifer o bartneriaid.

Yn sgil cyflwyno’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (“y Ddeddf”), a chyhoeddi’r Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig (“y Cod”) ar 1 Ebrill 2026, mae gan Medr rôl statudol ffurfiol o fewn prosesau ysgolion o ad-drefnu darpariaeth chweched dosbarth erbyn hyn. Golyga hyn y bydd yn rhaid i unrhyw gynnig i sefydlu darpariaeth chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, cau darpariaeth o’r fath neu ei newid yn sylweddol, gael ei gyflwyno i Medr er mwyn ymgynghori arno. Bydd hyn yn sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn ag addysg ôl-16 yn seiliedig ar wybodaeth a thystiolaeth ac yn gyson â blaenoriaethau cenedlaethol.

Ein rôl statudol

Mae Atodlen 4 o’r Ddeddf yn rhoi cyfrifoldebau cyfreithiol clir i Medr mewn perthynas â newidiadau sy’n effeithio ar ddosbarthiadau chwech. Mae’r cyfrifoldebau hyn yn berthnasol i’r holl ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, yn ogystal ag ysgolion gwirfoddol a sefydledig sy’n gweithredu dosbarthiadau chwech.

Gweler tudalen gwe chweched dosbarth mewn ysgolion Medr

O dan y ddeddfwriaeth, gall Medr ei gwneud yn ofynnol:

  • I awdurdodau lleol gyflwyno cynigion i agor neu gau darpariaeth chweched dosbarth annibynnol, neu ehangu neu leihau nifer y lleoedd chweched dosbarth sydd eisoes yn bodoli.
  • I gyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol neu sefydledig gynnig newidiadau i’w cynnig chweched dosbarth lle bo angen.

Tra bydd y pwerau hyn yn bodoli mewn deddfwriaeth, nid ydym yn disgwyl bod mewn sefyllfa lle y rhagwelir y caiff ymyriadau o’r fath eu defnyddio.

Mae gan awdurdodau lleol eu dyletswyddau penodol eu hunain hefyd. Yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol ffurfiol ar gyfer unrhyw gynnig sy’n ymwneud â:

  • sefydlu neu gau chweched dosbarth
  • newid cyfrwng (iaith) cyfarwyddyd
  • ehangu neu leihau nifer y lleoedd yn sylweddol

…rhaid iddynt ymgynghori â Medr. Bydd hyn yn ein galluogi i roi ymateb ffurfiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, deilliannau dysgwyr a chynaliadwyedd hirdymor y system addysg ôl-16 yng Nghymru.

Helpu i ymgysylltu’n gynnar ynghylch cynigion sy’n ymwneud â dosbarthiadau chwech

Er mai yn ystod ymgyngoriadau statudol y daw ein rôl ffurfiol i rym, rydym yn annog awdurdodau lleol yn gryf i ymgysylltu â ni yn llawer cynharach—ar y cam meddwl neu archwilio cychwynnol.

Bydd y ddeialog gynnar hon yn ein helpu i wneud y canlynol:

  • Rhannu tystiolaeth a chyngor adeiladol cyn i gynigion gael eu ffurfio
  • Helpu i ddatblygu opsiynau cydlynol sydd wedi’u dylunio’n dda
  • Datblygu dealltwriaeth gyffredin rhwng blaenoriaethau lleol a’n Cynllun Strategol ehangach
  • Sicrhau y bydd unrhyw ymateb statudol yn y dyfodol yn seiliedig ar wybodaeth, yn sylweddol ac yn wirioneddol fuddiol

Er na fydd yr ymgysylltu cynnar hwn yn rhan o’r broses statudol, bydd yn gwneud cyfraniad hanfodol at gydweithio’n well a sicrhau bod cynigion yn gadarn ac yn canolbwyntio ar y dysgwr o’r cychwyn cyntaf.

Cysoni cynigion â Chynllun Strategol Medr

Dylai pob cynnig sy’n ymwneud ag ad-drefnu darpariaeth chweched dosbarth ddangos sut mae’n gyson â’r blaenoriaethau a nodir yn ein Cynllun Strategol.

Drwy ymgysylltu’n gynnar, gall awdurdodau lleol ddeall yn well sut mae eu cynlluniau’n cyd-fynd ag uchelgeisiau cenedlaethol ar gyfer system addysg ôl-16 gydlynol a chynaliadwy o safon uchel ledled Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod newidiadau i ddarpariaeth yn helpu i ddiwallu anghenion lleol a gwella’r system gyfan.

Canllawiau fframwaith newydd ar y gweill

Er mwyn rhoi cymorth pellach i awdurdodau lleol, rydym wrthi’n datblygu canllawiau fframwaith newydd ar y cyd â rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru. Bydd y fframwaith hwn yn helpu i lywio’r gwaith meddwl cyn i gynigion fod yn destun ymgyngoriadau statudol, gan sicrhau eu bod:

  • Yn gyson â dyletswyddau statudol ac amcanion strategol Medr
  • Yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn a thryloyw
  • Wedi’u dylunio i ddiwallu anghenion hirdymor dysgwyr a chymunedau
  • Yn cefnogi tirwedd addysg ôl-16 genedlaethol gydlynol

Caiff rhagor o fanylion am y canllawiau newydd hyn eu rhannu yn nes ymlaen eleni.

Os hoffech drafod cynigion posibl neu archwilio syniadau ar gam cynnar, bydd tîm Medr yn fwy na pharod i helpu bob amser. Gall sgyrsiau cynnar wneud gwahaniaeth ystyrlon o ran datblygu darpariaeth chweched dosbarth gadarn sy’n addas at y dyfodol ar gyfer dysgwyr ledled Cymru.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/15: Cyllid ychwanegol ar gyfer dyfarniad cyflog athrawon yn 2026-27

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer cyllid prif ffrwd ychwanegol o £1,333,223.67 sydd i’w ddarparu gan Medr i sefydliadau addysg bellach (AB) a £361,058.86 i Awdurdodau Lleol (ALl), a’r amserlen ar gyfer hynny, fel bo modd i sefydliadau AB ac ysgolion sy’n cynnwys Chweched Dosbarth drwy’r ALlau barhau i roi cyflog cydradd i staff addysgu. Gwneir hyn drwy gynyddu’r gyfradd gyllido fesul uned.

2. Dyrannwyd y cyllid hwn ym mlwyddyn ariannol 2026-27, ac mae’n berthnasol i weddill blwyddyn academaidd 2025/26, 1 Ebrill 2026 hyd 31 Gorffennaf 2026. Telir y cyllid ychwanegol hwn mewn un swm llawn ym mis Ebrill 2026.

Symiau ac amseriad y cyllid ychwanegol

3. Bydd dyraniad prif ffrwd AB o £1,333,223.67 yn cael ei ddyrannu i sefydliadau AB drwy gynyddu’r gyfradd fesul uned ym mlwyddyn ariannol 2026-27 ac mae’n berthnasol i flwyddyn academaidd 2025/26.

Sefydliad addysg bellachDyrniad AB
Addysg Oedolion Cymru£25,307.33
Coleg Penybont£68,036.33
Coleg Cambria£163,334.00
Coleg Caerdydd a’r Fro£166,054.00
Coleg Sir Gâr£87,517.67
Coleg Gwent£190,374.67
Coleg y Cymoedd£142,011.00
Coleg Gŵyr Abertawe£115,963.33
Grŵp Llandrillo Menai£146,918.67
Y Coleg Merthyr Tudful£43,185.00
Grŵp Colegau NPTC£100,926.67
Coleg Sir Benfro£52,691.33
Coleg Catholig Dewi Sant£30,903.67
Cyfanswm£1,333,223.67

4. Bydd dyraniad prif ffrwd ALl o £361,058.86 yn cael ei ddyrannu i sefydliadau lleol drwy gynyddu’r gyfradd fesul uned ym mlwyddyn ariannol 2026-27 ac mae’n berthnasol i flwyddyn academaidd 2025/26 fel y dangosir yn y tabl isod.

Awdurdod LleolDyraniad yr ALl
Cyngor Sir Ynys Môn£8,912.00
Cyngor Gwynedd £13,356.57
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy £18,398.29
Cyngor Sir Ddinbych £13,161.71
Cyngor Sir y Fflint £15,984.57
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam £3,957.71
Cyngor Sir Powys £15,254.29
Cyngor Sir Ceredigion £12,194.29
Cyngor Sir Penfro £10,161.71
Cyngor Sir Caerfyrddin £22,453.14
Cyngor Abertawe £22,842.86
Cyngor Castell-nedd Port Talbot £7,714.86
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr £25,362.86
Cyngor Bro Morgannwg £26,820.57
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf £31,554.29
Cyngor Caerdydd £57,464.56
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili £13,115.43
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen £1,407.43
Cyngor Sir Fynwy £13,378.86
Cyngor Dinas Casnewydd £27,562.86
Cyfanswm£361,058.86

Medr/2026/15: Cyllid ychwanegol ar gyfer dyfarniad cyflog athrawon yn 2026-27

Dyddiad:  14 Ebrill 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/15

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg Awdurdodau Lleol

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer cyllid prif ffrwd ychwanegol o £1,333,223.67 sydd i’w ddarparu gan Medr i sefydliadau addysg bellach (AB) a £361,058.86 i Awdurdodau Lleol (ALl), a’r amserlen ar gyfer hynny, fel bo modd i sefydliadau AB ac ysgolion sy’n cynnwys Chweched Dosbarth drwy’r ALlau barhau i roi cyflog cydradd i staff addysgu. Gwneir hyn drwy gynyddu’r gyfradd gyllido fesul uned. Dyrannwyd y cyllid hwn ym mlwyddyn ariannol 2026-27, ac mae’n berthnasol i weddill blwyddyn academaidd 2025/26, 1 Ebrill 2026 hyd 31 Gorffennaf 2026. Telir y cyllid ychwanegol hwn mewn un swm llawn ym mis Ebrill 2026.

Medr/2026/15 Cyllid ychwanegol ar gyfer dyfarniad cyflog athrawon yn 2026-27

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Medr/2026/14: Cyllid ychwanegol ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn 2026-27

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau ar gyfer cyllid prif ffrwd ychwanegol o £2,689,333.33 sydd i’w ddarparu gan Medr i sefydliadau addysg bellach (AB) a £458,333.33 i awdurdodau lleol (ALl) ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ym mlwyddyn ariannol 2026-27, ac amseriad y taliadau hynny.

2. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu’r cyllid ychwanegol hwn i Medr ym mlwyddyn ariannol 2026-27 ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Bydd cyllid ychwanegol ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael ei dalu’n llawn mewn un taliad ym mis Ebrill 2026, ym mlwyddyn ariannol 2026-27, ac mae’n berthnasol i flwyddyn academaidd 2025/26.

Symiau ac amseriad cyllid ychwanegol

3. Bydd dyraniad prif ffrwd AB o £2,689,333.33 yn cael ei ddyrannu i sefydliadau AB ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 ym mlwyddyn ariannol 2026-27, fel y dangosir yn y tabl isod.

Sefydliad addysg bellachAB | Cyfraniad tuag at gostau YG uwch
Addysg Oedolion Cymru£37,849.23
Coleg Penybont£148,258.02
Coleg Cambria£367,888.29
Coleg Caerdydd a’r Fro£315,000.70
Coleg Sir Gâr£190,124.63
Coleg Gwent£296,850.74
Coleg y Cymoedd£213,624.47
Coleg Gŵyr Abertawe£261,722.03
Grŵp Llandrillo Menai£375,083.97
Y Coleg Merthyr Tudful£59,551.88
Grŵp Colegau NPTC£244,113.54
Coleg Sir Benfro£123,341.98
Coleg Catholig Dewi Sant£55,923.85
Cyfanswm£2,689,333.33

4. Bydd dyraniad prif ffrwd ALl o £458,333.33 yn cael ei ddyrannu i sefydliadau ALl ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 ym mlwyddyn ariannol 2026-27, fel y dangosir yn y tabl isod.

Awdurdod LleolALl | Cyfraniad tuag at gostau Yswiriant Gwladol uwch
Cyngor Sir Ynys Môn£11,338.33
Cyngor Gwynedd £17,221.00
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy£23,599.67
Cyngor Sir Ddinbych £16,886.33
Cyngor Sir y Fflint £20,673.00
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam £4,986.00
Cyngor Sir Powys £19,868.33
Cyngor Sir Ceredigion £15,922.00
Cyngor Sir Penfro£13,125.00
Cyngor Sir Caerfyrddin £29,099.67
Cyngor Abertawe £28,945.33
Cyngor Castell-nedd Port Talbot £9,643.33
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr £32,027.33
Cyngor Bro Morgannwg £34,534.67
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf £38,725.67
Cyngor Caerdydd £72,651.67
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili £16,113.33
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen £1,751.34
Cyngor Sir Fynwy £17,435.00
Cyngor Dinas Casnewydd £33,786.33
Cyfanswm£458,333.33

5. Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â’r cyfnod o’r 1 Ebrill 2025 hyd 31 Gorffennaf 2026. Bydd y cyllid ychwanegol hwn ar gyfer Cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 yn cael ei dalu ym mlwyddyn ariannol 2026-27 mewn un taliad llawn ym mis Ebrill 2026.

Medr/2026/14: Cyllid ychwanegol ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn 2026-27

Dyddiad:  14 Ebrill 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/14

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg Awdurdodau Lleol

Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau ar gyfer cyllid prif ffrwd ychwanegol o £2,689,333.33 sydd i’w ddarparu gan Medr i sefydliadau addysg bellach (AB) a £458,333.33 i awdurdodau lleol (ALl) ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ym mlwyddyn ariannol 2026-27, ac amseriad y taliadau hynny.

Medr/2026/14 Cyllid ychwanegol ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn 2026-27

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Profi’r rhaglen brentisiaethau newydd

Bydd Rhaglen Brentisiaethau newydd Cymru’n dechrau ar 1 Awst 2027.

Ymunwch â ni i gael darganfod mwy am ddyluniad newydd prentisiaethau, ymuno mewn trafodaethau, profi elfennau allweddol, a rhannu adborth:

  • Llandudno – 13 Mai
  • Llandrindod – 14 Mai
  • Caerdydd – 20 Mai
Cofrestrwch drwy Eventbrite

Ym mis Medi 2025, fe gynhaliom ni ymarfer ymgynghori 6 wythnos o hyd a geisiodd farn rhanddeiliaid, gan gynnwys darparwyr hyfforddiant ac addysg drydyddol, cynrychiolwyr diwydiant, cyflogwyr, dysgwyr ac awdurdodau lleol, i helpu i lunio’r rhaglen newydd.

Ym mis Chwefror 2026 fe adroddom ni ar ganlyniad yr ymgynghoriad, ac ar y camau nesaf allweddol o ran datblygu’r rhaglen brentisiaethau newydd ar gyfer 2027 a’i rhoi ar waith.

Y digwyddiadau

Rydym yn gwahodd darparwyr prentisiaethau, cyflogwyr, hyfforddwyr proffesiynol, a phartneriaid y sector i gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru.

Bydd y sesiynau hyn yn profi ac yn mireinio dyluniad y rhaglen brentisiaethau newydd, gan sicrhau ei bod yn ymatebol, yn gydnerth, ac yn cyd-fynd ag anghenion dysgwyr, cyflogwyr, ac economi ehangach Cymru.

Trwy gymryd rhan, byddwch yn helpu i siapio rhaglen sy’n cefnogi dysgu o ansawdd da, dilyniant ystyrlon, a datblygiad sgiliau cynaliadwy ar gyfer gweithlu’r dyfodol.

Ymholiadau: [email protected]

Cofrestrwch drwy Eventbrite

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

System reoleiddio newydd ar gyfer y sector addysg drydyddol yn cael ei lansio

Heddiw, mae Medr wedi lansio a chyhoeddi’n ffurfiol system reoleiddio newydd ar gyfer y sector addysg drydyddol cyfan, sef y gyntaf o’i math yn y DU.

Daw’r garreg filltir hon yn sgil gwaith ymgysylltu helaeth â phob rhan o’r sector addysg drydyddol, gan gynnwys dau gyfnod ymgynghori ffurfiol, ac mae’n gosod y sylfeini ar gyfer dull rheoleiddio cydgysylltiedig sy’n atgyfnerthu gwaith ymgysylltu â dysgwyr, yn ysgogi arferion gorau, ac yn helpu i sicrhau gwerth am arian cyhoeddus drwy’r sector cyfan.

Mae’r system reoleiddio sydd wedi’i chyhoeddi yn cynnwys:

  • Dull rheoleiddio Medr
  • Datganiad o bwerau ymyrryd
  • Y fframwaith rheoleiddio llawn, gan gynnwys amodau cofrestru a chyllid
  • Y Fframwaith Ansawdd ar gyfer addysg drydyddol
  • Y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr
  • Dogfen cwestiynau cyffredin sy’n nodi ymatebion i ymholiadau cyffredin a godwyd yn ystod y gwaith ymgysylltu
  • Rhestr o’r termau allweddol

Ceir deunyddiau cysylltiedig sy’n amlinellu’r ffordd y mae’r system yn berthnasol i wahanol rannau o’r sector addysg drydyddol ac sy’n nodi disgwyliadau clir ar gyfer darparwyr sydd wedi’u cofrestru ac a ariennir mewn perthynas ag amrywiaeth o amodau.

Dywedodd Bethan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio a Dadansoddi Medr:

“Yn aml, gall rheoleiddio deimlo’n weithdrefnol, ond bydd y fframwaith hwn ar gyfer y sector addysg drydyddol cyfan – y cyntaf o’i fath yn y DU – yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol parhaol i bob rhan o’n sector addysg drydyddol.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y wybodaeth a’r adborth a gynigiwyd gan ddysgwyr, darparwyr a phartïon â diddordeb drwy gydol y broses hyd yma ac, er bod hyn yn garreg filltir bwysig, nid dyma ddiwedd y daith o bell ffordd. Mae’r sector yn parhau i ddatblygu, a byddwn yn adolygu ein dull rheoleiddio yn barhaus er mwyn iddo allu datblygu yn unol ag ef.

“Drwy gyhoeddi’r fframwaith rheoleiddio trylwyr a phellgyrhaeddol hwn, bydd modd i’r daith iteraidd tuag at ddull rheoleiddio tecach, mwy cyson a seiliedig ar ganlyniadau ar gyfer y sector addysg drydyddol yng Nghymru ddechrau mewn gwirionedd nawr.”

Mae Medr wrthi’n datblygu porth gwneud cais ar-lein a fydd yn galluogi darparwyr i gyflwyno’r wybodaeth y bydd ei hangen i wneud cais i gofrestru. Bydd y broses gwneud cais yn dechrau i ddarparwyr cyn bo hir, a chaiff rhagor o wybodaeth ei rhannu. Wedyn, bydd cofrestr, a fydd yn berthnasol i’r holl ddarparwyr addysg uwch, yn weithredol o fis Awst ymlaen.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd y rheoliadau newydd yn ei olygu i chi neu eich darparwr addysg i’w gweld ar ein gwefan:

Fframwaith Rheoleiddio Medr

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio