Sta/Medr/13/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Tachwedd 2024 i Ionawr 2025 (dros dro)
Pwyntiau allweddol
- Dechreuodd 3,620 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch2 2024/25 (p), o gymharu â 4,525 yn Ch2 2023/24.
- Ymhlith y Prentisiaethau lefel 3 y gwelwyd y gostyngiadau mwyaf o gymharu â Ch2 y flwyddyn gynt, sy’n ostyngiad o 26%.
- Roedd 205 yn llai o brentisiaethau adeiladu a ddechreuwyd o’i gymharu â Ch2 yn y flwyddyn flaenorol, sy’n ostyngiad o 48%.
- Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd yn Ch2 2024/25 (p) hefo 1,720 raglenni dysgu prentisiaethau yn ddechreuwyd. Roedd 48% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Roedd 62% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr benywaidd yn Ch2 2024/25 (p), roedd hyn wedi cynyddu 3 pwynt canran o gymharu â Ch2 2023/24.
- Roedd 42% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr 25 i 39 oed yn Ch2 2024/25 (p) o gymharu â 38% yn Ch2 y flwyddyn gynt.
- Roedd 15% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn Ch2 2024/25 (p), roedd hyn wedi cynyddu 3 pwynt canran o gymharu â Ch2 2023/24.
- Roedd 13% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau yn Ch2 2024/25 (p) gan ddysgwyr a oedd yn nodi bod ganddynt anabledd ac/neu anhawster dysgu, roedd hyn wedi cynyddu 2 pwynt canran o gymharu â Ch2 2023/24.
- Mae 73,795 o brentisiaethau wedi’u dechrau ers Ch4 2020/21, yn rhan o’r cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o 100,000 o brentisiaethau.
- Roedd y Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys targed i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed. Yn ystod cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 26 Mehefin 2024, fe gytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar darged newydd o 100,000 o brentisiaethau pob oed i gynnal targed tymor blaenorol y Senedd o 100,000.
Nodyn: Mae (p) yn dynodi ffigurau dros dro.
Roedd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau yn y flwyddyn ariannol 2023-24 yn £139m ac yn £144m yn 2024-25 (Ffynhonnell: Cyllideb Derfynol 2023 i 2024 / Cyllideb Derfynol 2024 i 2025).
Yn ystod blynyddoedd blaenorol, roedd cyllid ychwanegol ar gyfer prentisiaethau o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (dros £40m yn 2023-24 Drafft Cyllid 2025 i 2026: tystiolaeth i Bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd). Fe ddaeth hyn i ben erbyn y flwyddyn ariannol 2024-2025.
Rhaglenni dysgu Prentisiaeth a ddechreuwyd: dangosfwrdd rhyngweithiolSta/Medr/13/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Tachwedd 2024 i Ionawr 2025 (dros dro)
Ystadegau Medr
Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/13/2025
Dyddiad: 04 Mehefin 2025
Crynodeb: Ystadegau ar rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd. Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd.
Sta/Medr/13/2025 Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Tachwedd 2024 i Ionawr 2025 (dros dro)Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioAelodau Pwyllgor – Pwyllgor Pobl a Diwylliant
Dyddiad cau: Dydd Llun 16 Mehefin 2025
Mae’r Pwyllgor Pobl a Diwylliant yn gyfrifol am oruchwylio’r Strategaeth Pobl a Diwylliant, datblygu sefydliadol, llesiant, a chydraddoldeb ac amrywiaeth yn Medr.
Bydd y Pwyllgor yn sicrhau bod y Strategaeth yn cyd-fynd â gweledigaeth a gwerthoedd Medr, a bydd yn monitro ac yn cynghori Bwrdd Medr ynghylch perfformiad y sefydliad yn erbyn y Strategaeth.
Rydym yn chwilio am aelodau annibynnol ag awch am ddatblygu pobl ac amrywiaeth o brofiad o feithrin diwylliant, capasiti a gallu sefydliadol i ddod â safbwynt annibynnol, allanol i waith y Pwyllgor.
Yn ddelfrydol bydd gennych brofiad/cefndir mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:
- datblygu a gweithredu Strategaeth Pobl a Diwylliant
- datblygu pobl ac arweinwyr
- datblygu sefydliadol a rheoli newid
- tâl a chydnabyddiaeth ariannol
- gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau llafur
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioCorff trydyddol newydd yn lansio ymgynghoriad mawr ar bwerau rheoleiddio
Mae Medr wedi lansio ei ymgynghoriad cyntaf ar system newydd i reoleiddio darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant.
Mae’r ymgynghoriad yn nodi ei gynigion ar gyfer rheoleiddio mewn ffordd sy’n dryloyw, yn gymesur ac yn seiliedig ar risg.
Mae hefyd yn ceisio barn pobl ynglŷn â’r fframwaith rheoleiddio – gan gynnwys rhai amodau rheoleiddio a chyllid – pwerau ymyrryd, a’r fframwaith ansawdd.
Fe wnaeth Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 sefydlu’r fframwaith statudol newydd sy’n integreiddio trefniadau rheoleiddio darpariaeth addysg drydyddol.
Bydd y system newydd ar waith i raddau helaeth o 1 Awst 2026, gyda rhai amodau sy’n weddill ar gyfer darparwyr cofrestredig ar waith o fis Awst 2027.
Byddai angen i unrhyw ddarparwr sy’n ceisio lle ar y gofrestr – gan hwyluso mynediad at gyllid Medr neu gyllid benthyciadau i fyfyrwyr yn ôl y math o ddarparwr – ddangos ei fod yn cydymffurfio’n barhaus ag amodau penodol, megis sicrhau ansawdd y ddarpariaeth, llywodraethu a rheoli effeithiol, a dangos ei gynaliadwyedd ariannol.
Byddai amodau cyllid yn berthnasol i ddarparwyr yn y sector trydyddol ehangach hefyd, gan amlinellu’r disgwyliadau ar eu cyfer mewn perthynas â chael a rheoli cyllid gan Medr.
Byddai disgwyl hefyd i ddarparwyr cofrestredig ddangos gwelliant parhaus a darparu deilliannau sy’n gyson o ansawdd da ar gyfer dysgwyr.
Bydd gan Medr hefyd y pŵer i ymyrryd lle cyfyd materion ac i roi cyngor a chanllawiau y mae’n rhaid i ddarparwyr eu dilyn.
Meddai Simon Pirotte, Prif Weithredwr Medr: “Mae hyn yn nodi dechrau dull rheoleiddio newydd ar gyfer yr holl ddarparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru.
“Yn dilyn ein proses o bontio’n esmwyth i Medr, yn awr rydym yn cymryd y camau cyntaf tuag at wireddu ein gweledigaeth a chryfhau ein system drydyddol.
“Mae’r amgylchedd rheoleiddio’n newid yn sylweddol. Rydym yn awyddus i wneud yr uchelgeisiau ar gyfer y sector addysg drydyddol yn realiti wrth i ni ddatblygu system sy’n mynd ati’n well i ddiogelu dysgwyr, gwarchod cyllid cyhoeddus, a chynnal enw da’r sector trydyddol yng Nghymru.
“Mae mewnbwn darparwyr a rhanddeiliaid yn hollbwysig i sicrhau system reoleiddio sy’n gwireddu’r uchelgeisiau hyn, ac rydym yn croesawu ac yn annog pob ymgysylltiad yn ystod y broses hon.”
Fe lansiodd yr ymgynghoriad ar 15 Mai ac mae’n cau ar 18 Gorffennaf.
Diwedd
Nodiadau
Medr yw’r corff cyllido a rheoleiddio newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Daeth Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 â’r trefniadau ar gyfer cyllido a rheoli’r sector addysg drydyddol ac ymchwil dan un corff hyd braich am y tro cyntaf, gan sefydlu Medr yn 2024.
Dull rheoleiddio cyfredol
Ar hyn o bryd mae Medr yn rheoleiddio lefelau ffioedd mewn sefydliadau addysg uwch, yn sicrhau bod fframwaith yn ei le ar gyfer asesu ansawdd addysg uwch ac yn craffu ar berfformiad darparwyr addysg drydyddol.
Mae Medr yn datblygu system reoleiddio newydd ar gyfer addysg drydyddol a ddylai fod wedi’i sefydlu i raddau helaeth erbyn mis Awst 2026, ac wedi’i sefydlu’n llawn erbyn mis Awst 2027.
Mae dyletswyddau penodol Medr mewn perthynas â rheoleiddio’n ymwneud â’r canlynol:
- monitro’r modd y mae sefydliadau rheoleiddiedig yn cydymffurfio â chynlluniau ffioedd a mynediad
- asesu ansawdd addysg
- monitro’r modd y mae sefydliadau’n cydymffurfio â’r Cod Rheolaeth Ariannol
- darparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru.
Mae Medr hefyd yn monitro’r modd y mae darparwyr trydyddol eraill yn cydymffurfio â Thelerau ac Amodau Cyllid.
Dull rheoleiddio arfaethedig
Gall yr holl ddarparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch ac sy’n gweithredu yng Nghymru ymgeisio i fod wedi’u cofrestru trwy Medr o 2026.
Mae Cynllun Strategol Medr yn amlinellu ei weledigaeth am y pum mlynedd nesaf, ac yn cynnwys ei nod sefydlu, sef “Sefydlu Medr fel sefydliad hynod effeithiol a rheoleiddiwr yr ymddiriedir ynddo”. I ategu’r nod hwn, mae ei Ddull Rheoleiddio a’i Bwerau Ymyrryd yn nodi’r egwyddorion arweiniol y bydd yn eu dilyn wrth gyflawni ei ddyletswyddau rheoleiddio, gan amcanu at alluogi: “system addysg drydyddol ac ymchwil sy’n canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, cymdeithas a’r economi, gyda rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltu’n greiddiol iddi”.
Mae Medr yn ymrwymedig i reoleiddio mewn modd sy’n dryloyw, yn gymesur, yn gyson ac yn seiliedig ar risg, ac sy’n cyd-fynd â’i werthoedd, gan gyfuno cryfderau rheoleiddio sy’n seiliedig ar reolau (cydymffurfedd) a rheoleiddio sy’n seiliedig ar nodau (gwella’n barhaus).
Mae’r ymgynghoriad yn agor ar 15 Mai ac yn cau ar 18 Gorffennaf, ac yn cwmpasu’r canlynol:
- Dull Rheoleiddio a Phwerau Ymyrryd: Mae hyn yn amlinellu sut y mae Medr yn bwriadu gweithredu system reoleiddio gymesur, seiliedig-ar-risg, gan gyfuno dulliau sy’n seiliedig ar reolau ac sydd â ffocws ar ddeilliannau. Ein nod yw diogelu dysgwyr, gwarchod cyllid cyhoeddus, a chynnal enw da’r sector trydyddol yng Nghymru. Mae’r ddogfen yn manylu ar bwerau ymyrryd Medr, gan ddiffinio’r prosesau a’r camau’n glir – o gyngor anffurfiol i rybuddion ffurfiol, cyfarwyddydau, neu ddatgofrestru.
- Fframwaith Rheoleiddio: Mae hwn yn nodi disgwyliadau ar gyfer darparwyr cofrestredig ynghylch ansawdd, llywodraethu, cynaliadwyedd ariannol ac amodau cofrestru eraill. Hefyd, bydd amodau cyllid penodol yn berthnasol i rai darparwyr yn y sector trydyddol, gan ddiffinio’n glir beth yw’r disgwyliadau mewn perthynas â chael a rheoli arian cyhoeddus.
- Fframwaith Ansawdd: Mae’r fframwaith hwn, sy’n ganolog i’n system reoleiddio, yn pwysleisio gwelliant parhaus a deilliannau sy’n gyson o ansawdd da ar gyfer dysgwyr. Mae’n amlinellu cyfrifoldebau darparwyr am hunanwerthuso, ymgysylltu â dysgwyr, asesiadau allanol, a datblygiad proffesiynol.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2025/02: Ymgynghoriad ar system reoleiddio newydd gan gynnwys amodau cofrestru a chyllid
Cefndir
1. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (‘Y Ddeddf’) yn nodi’r gofynion o ran system reoleiddio newydd ar gyfer darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad hwn i ateb y gofynion canlynol yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022:
- 27 (5) Amodau Cofrestru Cychwynnol;
- 28 (7) Amodau Cofrestru Parhaus Cyffredinol;
- 50 (4) Fframweithiau Sicrhau Ansawdd; a
- 81 (3) Datganiad ar Swyddogaethau Ymyrryd.
Trosolwg
2. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn pobl ynglŷn â’r canlynol ar gyfer Medr:
- Dull Rheoleiddio arfaethedig, sy’n nodi sut yr ydym yn cynnig gweithredu fel rheoleiddiwr cymesur a seiliedig-ar-risg, a Phwerau Ymyrryd arfaethedig, sy’n darparu datganiad o’n pwerau ymyrryd a sut y gallai’r pwerau hynny gael eu defnyddio (Atodiad A).
- Fframwaith Rheoleiddio arfaethedig sy’n cynnwys rhan gyntaf o’r Amodau Cofrestru a’r Amodau Cyllid drafft; canllawiau ynghylch y gofynion ar gyfer cydymffurfio; gwybodaeth am drefniadau ar gyfer monitro parhaus; a’r broses ar gyfer sut y mae’n rhaid adrodd am ddigwyddiadau, a’r math o ddigwyddiadau y mae’n rhaid adrodd amdanynt, wrth Medr (Atodiad B).
- Fframwaith Ansawdd arfaethedig, sy’n tanategu gofynion yr amod a’r trefniadau monitro sy’n ymwneud ag ansawdd (Atodiad C).
Dull Ymgynghori
3. Gwahoddir ymatebion i’r ymgynghoriad trwy ein harolwg ar-lein. Mae’r cwestiynau a amlinellir yn y ddogfen ymgynghoriad (Cyhoeddiad Medr/2025/02) yn darparu amlinelliad o strwythur bras yr arolwg. Bydd rhai agweddau ar yr arolwg yn fwy perthnasol i wahanol fathau o ddarparwr yn y sector trydyddol – bydd y cwestiynau’n eich tywys trwy hyn, a bydd gan ddefnyddwyr y gallu i gadw eu hymatebion a dychwelyd atynt.
Digwyddiadau
4. Yn ystod y cyfnod ymgynghori byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad ar-lein a fydd yn rhoi cyfle i glywed gan ein staff am ddatblygiad y system newydd a’r cwestiynau allweddol yr ydym yn eu gofyn i’r holl ddarparwyr a rhanddeiliaid yn ein hymgynghoriad. Bydd y naill ddigwyddiad a’r llall yn darparu trosolwg eang o’r datblygiadau, ond bydd ffocws gwahanol i’r naill a’r llall:
- Digwyddiad 1: 03 Mehefin 2025 (Dull rheoleiddio a phwerau ymyrryd – deall ein dull o gyflawni ein gweithgareddau rheoleiddio a sut y gallem ymyrryd pan fo pethau’n mynd o chwith; a’n fframwaith Ansawdd – fframwaith ansawdd a gwella’n barhaus ar gyfer y sector addysg drydyddol gyfan.) Gwyliwch y digwyddiad ymgynghori.
- Digwyddiad 2: 10 Mehefin 2025 (Fframwaith rheoleiddio – archwilio ein hamodau cofrestru a’n hamodau cyllid rheoleiddiol)
I gadarnhau eich presenoldeb, cofrestrwch trwy ein tudalen Eventbrite os gwelwch yn dda.
Amserlen
5. Gwahoddir rhanddeiliaid i gyflwyno ymatebion ymgynghori trwy ein harolwg erbyn 5pm ar 18 Gorffennaf 2025.
6. Bydd ymgynghori pellach yn digwydd yn hwyrach yn 2025 ar y system reoleiddio newydd yn ei chyfanrwydd gan gynnwys yr elfennau hynny nad ydynt wedi eu cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn sydd wrthi’n cael eu datblygu ar hyn o bryd.
7. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].
Medr/2025/02: Ymgynghoriad ar system reoleiddio newydd gan gynnwys amodau cofrestru a chyllid
Dyddiad: 15 Mai 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/02
At: Yr holl ddarparwyr addysg drydyddol
Rhagor o wybodaeth: [email protected]
Ymateb erbyn: 18 Gorffennaf 2025
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn pobl ynglŷn ag elfennau o’r system reoleiddio newydd ar gyfer darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru. Bydd ymgynghori pellach yn digwydd yn hwyrach yn 2025 ar y system reoleiddio newydd yn ei chyfanrwydd. Bydd y system newydd yn cael ei rhoi ar waith yn 2026.
Medr/2025/02 Ymgynghoriad ar system reoleiddio newydd gan gynnwys amodau cofrestru a chyllidDogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioSta/Medr/12/2025: Cyllid sefydliadau addysg uwch, Medi 2023 – Awst 2024
Nodyn
Cafodd y naratif yn adran ‘Gwariant’ y cyhoeddiad hwn ei ddiweddaru ar 21 Mai 2025 er mwyn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â graddfa’r addasiadau cyfrifyddu technegol nad ydynt yn ymwneud ag arian parod i ddarpariaethau pensiwn, a chostau ailstrwythuro nad ydynt wedi’u cynnwys yn y gwariant sylfaenol. Rydym hefyd wedi cynnwys brawddeg i ddangos sut y bydd sefyllfa sylfaenol sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn newid os caiff costau ailstrwythuro eu cynnwys. Nid yw’r diweddariad hwn yn effeithio ar y ffigurau a gyhoeddwyd yn wreiddiol.
Incwm
- Adroddwyd fod cyfanswm incwm sefydliadau addysg uwch Cymru’n £1.98bn yn 2023/24, yr un faint ag yn 2022/23.
Siart 1: Dadansoddiad o incwm sefydliadau addysg uwch Cymru

- Fe gynyddodd incwm trwy ffioedd dysgu a chontractau addysg 5% i £1.11bn yn 2023/24. Roedd ffioedd dysgu a chontractau addysg yn rhoi cyfrif am 56% o incwm yn 2023/24.
- Roedd grantiau gan gyrff cyllido’n rhoi cyfrif am 14% (£276m) o incwm sefydliadau addysg uwch Cymru yn 2023/24. Gostyngodd incwm o grantiau gan gyrff cyllido 15% rhwng 2022/23 a 2023/24. Yn ogystal â chyllid gan Medr, gall grantiau gan gyrff cyllido gynnwys cyllid ar gyfer sefydliadau addysg bellach mewn grwpiau addysg uwch, a pheth cyllid arall gan Lywodraeth y DU a delir trwy Medr.
- Roedd grantiau a chontractau ymchwil yn 12% (£239m) o incwm sefydliadau addysg uwch Cymru yn 2023/24. Fe ostyngodd incwm o grantiau a chontractau ymchwil 12% rhwng 2022/23 a 2023/24.
Gwariant
- Cyfanswm gwariant sylfaenol sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2023/24 oedd £2.04bn, sydd 4% yn fwy na chyfanswm y gwariant sylfaenol yn 2022/23 (£1.96bn). Nid yw’r gwariant sylfaenol yn cynnwys addasiadau cyfrifyddu technegol nad ydynt yn ymwneud ag arian parod i ddarpariaethau pensiwn gwerth £380m (2022/23 – £73m) a fyddai, o’u cynnwys, yn lleihau cyfanswm y gwariant, gan roi adlewyrchiad ffug o gostau’r sector. Gwnaeth gwelliannau yn y farchnad ehangach gynyddu gwerth cynlluniau pensiwn, felly, yn 2023/24, roedd angen neilltuo llai ar gyfer newidiadau posibl yn y dyfodol. Nid yw’r gwariant sylfaenol ychwaith yn cynnwys costau ailstrwythuro o £16m (2022/23 – £1m) nad ydynt, wrth natur, yn rhan o wariant gweithredol rheolaidd.
- Sefyllfa weithredu sylfaenol sefydliadau addysg uwch yng Nghymru (cyfanswm yr incwm llai cyfanswm y gwariant sylfaenol fel y’i diffinnir uchod) yn 2023/24 oedd diffyg o £61m (2022/23 – gwarged o £21m). Diffyg o £77m fyddai’r sefyllfa sylfaenol gan gynnwys costau ailstrwythuro (2022/23 – gwarged o £22m).
- Roedd cyfanswm gwariant sefydliadau addysg uwch Cymru (gan gynnwys addasiadau a chostau ailstrwythuro) yn 2023/24 yn £1.68bn, 11% yn is na ffigwr 2022/23, sef £1.89bn.
Siart 2: Dadansoddiad o wariant sefydliadau addysg uwch Cymru

- Roedd cynnydd o 6% mewn costau staff (heb gynnwys newidiadau i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn) o £1.05bn yn 2022/23 i £1.11bn yn 2023/24. Nodyn: mae hyn yn wahanol i sut y mae’r data wedi cael ei ddarparu mewn fersiynau blaenorol o’r datganiad hwn lle’r oedd newidiadau i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn yn cael eu cynnwys gyda’r costau staff.
Data
Mae ffigyrau 2023/24 ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2024 ac mae ffigyrau 2022/23 ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2023.
Y ffigyrau ar gyfer 2022/23 yn y datganiad hwn yw’r gwerthoedd wedi’u hailddatgan a gasglwyd wrth gasglu cofnod cyllid 2023/24. Mae hyn yn golygu y gall ffigyrau 2022/23 fod yn wahanol i’r hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol gan bod darparwyr yn gallu diwygio’r rhain os oes angen.
Gellir dod o hyd i’r data ar wefan Data Agored HESA sydd hefyd yn cynnwys data ar gyfer darparwyr unigol.
Sta/Medr/12/2025: Cyllid sefydliadau addysg uwch, Medi 2023 – Awst 2024
Ystadegau Medr
Cyfeirnod: Sta/Medr/12/2025
Dyddiad: 13 Mai 2025; diweddarwyd ar 21 Mai 2025
Dynodiad: Ystadegau Sywddogol
Crynodeb: Dadansoddiad o incwm a gwariant sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer y cyfnod rhwng mis Medi 2023 a mis Awst 2024
Sta/Medr/12/2025 Cyllid sefydliadau addysg uwch, Medi 2023 – Awst 2024Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioSta/Medr/11/2025: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyflawniad, Awst 2023 – Gorffennaf 2024
Prif bwyntiau
Addysg gyffredinol (Safon Uwch)
- Mae deilliannau o ran graddau’n dal i fod yn uwch na chyn y pandemig, ond roedd gostyngiad yng nghyfrannau’r dysgwyr a enillodd o leiaf dair A ac o leiaf thair C o’i gymharu â 2022/23.
- Roedd cynnydd bach yng nghyfraddau cwblhau Safon UG a gostyngiad bach yng nghyfran y dysgwyr a aeth ymlaen i’w hail flwyddyn o Safon Uwch o’i gymharu â 2022/23.
- Roedd dysgwyr a oedd yn gwneud Mathemateg, Cemeg, Ffiseg a Bioleg yn arbennig o debygol o gael graddau uchel.
- Roedd gan ddysgwyr benywaidd ddeilliannau gwell na dysgwyr gwrywaidd mewn rhaglenni addysg gyffredinol, heblaw am ddysgwyr a enillodd dair A*.
- Aeth 51% o’r dysgwyr benywaidd a wnaeth UG ymlaen i ennill o leiaf tair C mewn Safon Uwch, o’i gymharu â 40% o ddysgwyr gwrywaidd.
- Aeth 48% o ddysgwyr UG 16 oed ymlaen i ennill o leiaf tair C mewn Safon Uwch, o’i gymharu â 22% o ddysgwyr hŷn.
- Roedd dysgwyr o gefndiroedd amddifadus yn llai tebygol o gwblhau eu Safon Uwch ac yn llai tebygol o gael graddau uchel os oeddent yn gwneud.
- Roedd gan ddysgwyr o gefndir Du, Affricanaidd, Caribïaidd, Du Prydeinig neu Ddu Cymreig ddeilliannau Safon Uwch is fel rheol na grwpiau ethnig eraill, ond dyma oedd yr unig grŵp ethnig lle gwelwyd cynnydd o ran ennill o leiaf dair A o’i gymharu â 2022/23.
Addysg alwedigaethol
- Fe wnaeth deilliannau galwedigaethol ar yr holl lefelau rhaglenni wella yn 2023/24. Fe barhaodd yr adferiad o’r gostyngiad mewn deilliannau yn dilyn pandemig y coronafeirws (Covid-19) ac mae deilliannau ar lefelau 1 i 3 bellach yn gyson fwy neu lai â’r ffigyrau cyn y pandemig.
- Mae cyfraddau cwblhau a llwyddiant ar gyfer rhaglenni galwedigaethol ar lefel mynediad ill dwy 3 phwynt canran yn uwch na chyn y pandemig.
- Mae cyfran y dysgwyr na wnaethant gwblhau eu rhaglen oherwydd ‘Rhesymau personol’ wedi aros yn llonydd. Fe wnaeth llai o ddysgwyr beidio â chwblhau eu rhaglen oherwydd ‘Methu’.
- Gwelwyd cynnydd o 10 pwynt canran mewn dysgwyr na wnaethant gwblhau eu rhaglen oherwydd rhesymau ‘Eraill’ o’i gymharu â 2022/23.
- Roedd gan ddysgwyr galwedigaethol a oedd yn gysylltiedig â phrofiadau o amddifadedd ddeilliannau is na’r rhai nad oeddent yn gysylltiedig â phrofiadau o amddifadedd, ond roedd y berthynas yn llai cryf nag mewn addysg gyffredinol.
- Nid oedd unrhyw fwlch rhwng y rhywiau mewn cyfraddau llwyddiant ar gyfer rhaglenni galwedigaethol.
Bagloriaeth Cymru
- Roedd deilliannau ar gyfer Bagloriaeth Cymru’n uwch na 2022/23 ar gyfer dysgwyr ar raglenni addysg gyffredinol a galwedigaethol, ac eithrio ar gyfer cyfrannau’r dysgwyr galwedigaethol a enillodd raddau A*, A* i A ac A* i B yn y Dystysgrif Her Sgiliau, a oedd ychydig yn is neu’n dal i fod yr un fath.
Crynodeb o fesurau cyflawniad yn ôl blwyddyn academaidd, rhwng mis Awst 2022 a mis Gorffennaf 2024

Sta/Medr/11/2025: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyflawniad, Awst 2023 – Gorffennaf 2024
Ystadegau Medr
Cyfeirnod yr ystadegau: Sta/Medr/11/2025
Dyddiad: 08 Mai 2025
Dynodiad: Ystadegau Swyddogol
Crynodeb: Deilliannau ar gyfer addysg gyffredinol, addysg alwedigaethol a Bagloriaeth Cymru yn y chweched dosbarth ac mewn colegau.
Sta/Medr/11/2025 Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyflawniad, Awst 2023 – Gorffennaf 2024Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioSta/Medr/10/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Awst i Hydref 2024
Pwyntiau allweddol
- Dechreuodd 7,185 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch1 2024/25, o gymharu â 8,145 yn Ch1 2023/24. Mae hwn yn ostyngiad o 12% yn nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd.
- Mae’r gostyngiad yn nifer y dechreuadau yn cyd-daro â gostyngiad mewn cyllid prentisiaethau yng nghyllideb 2024-25, yn dilyn colli cyfraniadau o Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Dechreuwyd cyflwyno newidiadau i ddarpariaeth o fis Tachwedd 2023, wrth ddisgwyl am y gyllideb.
- Ymhlith y Prentisiaethau Uwch y gwelwyd y gostyngiadau mwyaf o gymharu â Ch1 y flwyddyn gynt.
- Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd yn Ch1 2024/25 hefo 2,210 raglenni dysgu prentisiaethau yn ddechreuwyd. Roedd 31% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Roedd 53% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr gwrywaidd yn Ch1 2024/25, roedd hyn wedi gostwng 1 pwynt canran o gymharu â Ch1 2023/24.
- Roedd 34% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr iau nag 19 oed yn Ch1 2024/25 o gymharu â 35% yn Ch1 y flwyddyn gynt.
- Roedd 12% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn Ch1 2024/25, roedd hyn wedi cynyddu 3 pwynt canran o gymharu â Ch1 2023/24.
- Roedd 12% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau yn Ch1 2024/25 gan ddysgwyr a oedd yn nodi bod ganddynt anabledd ac/neu anhawster dysgu, dim newid o Ch1 2023/24.
- Mae 70,110 o brentisiaethau wedi’u dechrau ers Ch4 2020/21, yn rhan o’r cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o 100,000 o brentisiaethau.
- Roedd y Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys targed i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed. Yn ystod cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 26 Mehefin 2024, fe gytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar darged newydd o 100,000 o brentisiaethau pob oed i gynnal targed tymor blaenorol y Senedd o 100,000.
Sta/Medr/10/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Awst i Hydref 2024
Ystadegau Medr
Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/10/2025
Dyddiad: 07 Mai 2025
Crynodeb: Ystadegau ar rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd. Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd.
Sta/Medr/10/2025 Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Awst i Hydref 2024Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioAdroddiad Estyn ar Ymddygiad Dysgwyr mewn Colegau Addysg Bellach: argymhellion ar gyfer colegau addysg bellach a Medr
Datganiad gan Medr:
Rydym yn croesawu adroddiad Estyn ar ymddygiad dysgwyr mewn colegau addysg bellach, gan gynnwys ei archwiliad o ymddygiadau cadarnhaol a negyddol, a’r prosesau sydd gan golegau. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynorthwyo colegau AB i adeiladu ar arfer da, ac i gefnogi datblygiad dull cydlynol o reoli ymddygiad.
Fel a amlinellir yn ein Cynllun Strategol 2025-2030, byddwn yn gweithio gyda cholegau addysg bellach i alluogi staff a dysgwyr i fod ag amgylchedd dysgu cadarnhaol, cynhyrchiol a chynhwysol lle mae’r holl staff a dysgwyr yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi. Fel rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn cydweithio gyda cholegau i ystyried argymhellion yr adroddiad ar gyfer colegau.
Mae’r adroddiad yn gwneud argymhelliad (A8) mewn perthynas â’n dull cyllido. Fe wnaethon ni ymrwymo yn ein Cynllun Strategol i ymgynghori ar ein system gyllido. Bydd adroddiadau seiliedig-ar-dystiolaeth, fel hwn, yn cael eu hystyried wrth ddatblygu ein dulliau cyllido, a byddant yn goleuo’r penderfyniadau a wnawn.
Ymddygiad Dysgwyr mewn Colegau Addysg BellachRhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioCasglu darpariaeth addysg drawswladol (TNE) a dyfarniadau yn y DU yn unig ar gofnod myfyrwyr HESA- newid y gofynion
Ym mis Medi 2024, cyhoeddwyd y byddai cofnod myfyrwyr HESA yn cael ei ehangu i gasglu data ar fyfyrwyr TNE a dyfarniadau yn y DU yn unig ar sail unigol o 2026/27. Y nod oedd cael gwell dealltwriaeth o’r ddarpariaeth hon i ddibenion ansawdd a rheoleiddio.
Nid yw Medr bellach yn mynnu bod darpariaeth TNE a dyfarniad yn y DU yn unig yn cael eu casglu ar gofnod myfyrwyr HESA o 2026/27 ac mae’n gohirio’r gofyniad i ddychwelyd y data hyn i Jisc ar sail unigol, nes y clywir yn wahanol. Yn lle hynny, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr ddychwelyd data TNE ar Gofnod Alltraeth Cyfun (AOR) HESA sydd wedi’i ehangu o 2026/27.
Mabwysiadwyd y dull hwn i gydnabod y byddai dychwelyd y data hyn ar sail unigol yn arbennig o heriol ar hyn o bryd, ac ar sail canlyniadau’r adolygiad annibynnol o weithrediad Dyfodol Data. Mae hefyd yn golygu y gallwn ganolbwyntio ar weithredu’r trefniadau i gasglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn yn llwyddiannus.
Rydym wedi ysgrifennu at ddarparwyr i roi gwybod iddynt am y newid hwn.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag [email protected].
Mae gwybodaeth am Jisc a chofnod myfyrwyr HESA ar gael ar wefan HESA.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioSta/Medr/09/2025: Myfyrwyr mewn Addysg Uwch, 2023/24
Cofrestriadau yn Narparwyr Addysg Uwch (DAUwyr) Cymru
- Roedd 150,680 o gofrestriadau yn DAUwyr Cymru yn 2023/24, 2% yn llai na’r 154,385 yn 2022/23.
- Fe ostyngodd nifer y cofrestriadau ar lefel israddedig lai nag 1%; o 111,745 yn 2022/23 i 111,320 yn 2023/24.
- Fe ostyngodd nifer y cofrestriadau ar lefel ôl-radd 8%; o 42,640 yn 2022/23 i 39,360 yn 2023/24.
- Roedd 35% o fyfyrwyr ôl-radd yn astudio’n rhan-amser, o’i gymharu â 25% o israddedigion.
- Y grŵp pynciau mwyaf poblogaeth yn DAUwyr Cymru ar lefel israddedig ac ôl-radd yn 2023/24 oedd Busnes a rheoli.
Demograffeg
- Roedd 57% o gofrestriadau yn 2023/24 yn rhai gan fyfyrwyr benywaidd, yr un gyfran ag yn 2022/23.
- Roedd 20% o gofrestriadau yn 2023/24 yn rhai gan fyfyrwyr ag anabledd hysbys. Roedd hyn yn gynnydd o’i gymharu ag 17% yn y flwyddyn flaenorol.
- O’r myfyrwyr o’r DU y mae eu hethnigrwydd yn hysbys, roedd 16% o gofrestriadau yn 2023/24 yn rhai gan fyfyrwyr o gefndir ethnig leiafrifol. Mae hyn yn gynnydd o’i gymharu ag 14% yn 2022/23.
- Roedd 46% o gofrestriadau yn DAUwyr Cymru yn 2023/24 yn rhai gan fyfyrwyr yr oedd eu cyfeiriad parhaol ar adeg mynediad i’w cwrs yn gyfeiriad yng Nghymru. Roedd 35% arall o weddill y DU, 1% o’r UE ac roedd 17% o wledydd eraill.
Myfyrwyr sy’n hanu o Gymru a oedd wedi’u cofrestru yn Narparwyr Addysg Uwch (DAUwyr) y DU
- Roedd 103,185 o gofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yn Narparwyr Addysg Uwch (DAUwyr) y DU yn 2023/24, 5% yn llai nag yn 2022/23.
- Roedd 83,350 o’r cofrestriadau hyn ar lefel israddedig yn 2023/24, 3% yn llai nag yn 2022/23. Roedd 32% o fyfyrwyr israddedig yn astudio’n rhan-amser.
- Roedd 19,840 o’r cofrestriadau hyn ar lefel ôl-radd yn 2023/24, 10% yn llai nag yn 2022/23. Roedd 61% o fyfyrwyr ôl-radd yn astudio’n rhan-amser.
Demograffeg
- Roedd 62% o fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru’n fyfyrwyr benywaidd, yr un gyfran ag yn 2022/23.
- Roedd gan 23% o fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru anabledd hysbys yn 2023/24, sy’n gynnydd o’i gymharu â 21% yn 2022/23.
- O’r myfyrwyr y mae eu hethnigrwydd yn hysbys, roedd 11% o fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru yn 2023/24 o gefndir ethnig leiafrifol, sy’n gynnydd o’i gymharu â 10% yn 2022/23.
- Fe ostyngodd nifer y cofrestriadau israddedig amser llawn o’r ardaloedd mwyaf amddifadus yng Nghymru (Cwintel 1 Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019) 6%, o 9,940 o gofrestriadau yn 2022/23 i 9,385 o gofrestriadau yn 2023/24.
- Fe ostyngodd nifer y cofrestriadau israddedig amser llawn o’r ardaloedd lleiaf amddifadus yng Nghymru (Cwintel 5 MALlC 2019) 2% (o 15,195 o gofrestriadau yn 2022/23 i 14,855 o gofrestriadau yn 2023/24).
Llifoedd myfyrwyr amser llawn dros y ffin yn 2023/24
- Mae Cymru’n fewnfudwr net myfyrwyr amser llawn o weddill y DU.
- Roedd 45,045 o fyfyrwyr amser llawn o wledydd eraill y DU yn DAUwyr Cymru, o’i gymharu â 27,785 o fyfyrwyr amser llawn o Gymru’n astudio mewn DAUwyr yng ngweddill y DU.
- Roedd 44% o israddedigion amser llawn o Gymru’n astudio mewn gwledydd eraill yn y DU. Roedd 38% o fyfyrwyr ôl-radd amser llawn o Gymru’n astudio mewn gwledydd eraill yn y DU.
Sta/Medr/09/2025: Myfyrwyr mewn Addysg Uwch, 2023/24
Ystadegau Medr
Cyfeirnod: Sta/Medr/09/2025
Dyddiad: 15 Ebrill 2025
Dynodiad: Ystadegau Swyddogol
E-bost: [email protected]
Sta/Medr/09/2025 Myfyrwyr mewn Addysg Uwch 2023/24Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioCefnogaeth o’r newydd i sicrhau uniondeb ymchwil y DU
Mae fframwaith y DU ar gyfer ymddygiad a llywodraethu da ym maes ymchwil wedi cael ei ail-lansio heddiw yn dilyn ymgynghoriad ac adolygiad ar ran y sector addysg uwch ac ymchwil.
Mae’r Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil wedi darparu fframwaith a dogfen gyfeirio ymarferol ar uniondeb ymchwil yn y DU i ymchwilwyr, cyflogwyr ymchwilwyr a noddwyr ymchwil ers 2012.
Er nad oes unrhyw newid i strwythur a gofynion sylfaenol y Concordat, ac ynddo bum ymrwymiad a phum egwyddor creiddiol, mae’r adolygiad wedi sicrhau ei fod yn parhau i fod:
- yn berthnasol yn sgil datblygiadau diweddar ym maes ymchwil yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys datblygiadau technolegol.
- wedi’i alinio’n briodol â fframweithiau rhyngwladol ar gyfer llywodraethu ymchwil i gefnogi ymchwil a wneir mewn cyd-destunau rhyngwladol.
- mor ddefnyddiol ac ymarferol ag sy’n bosibl.
Mae Grŵp Llofnodwyr y Concordat Uniondeb Ymchwil (RICS), sy’n cynnwys Medr, a Phwyllgor Uniondeb Ymchwil y DU, wedi cytuno ar y Concordat a’r diweddariadau.
Ceir crynodeb o’r ymgynghoriad a’r newidiadau a wnaed mewn ymateb i hynny ar wefan UKCORI.
Dylai sefydliadau sy’n llunio datganiadau blynyddol yn rhan o’u hymrwymiad i’r Concordat ddefnyddio’r cynnwys diwygiedig erbyn mis Ebrill 2026; a pharhau i ddefnyddio’r templed adrodd datganiad blynyddol presennol.
Notes
- Gwybodaeth bellach: Y Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil – UKCORI
- Mae Pwyllgor Uniondeb Ymchwil y DU bellach yn darparu rôl letyol ac ysgrifenyddol i’r Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil a Grŵp Llofnodwyr y Concordat Uniondeb Ymchwil (RICS).
- Mae’r Pwyllgor yn gweithio’n agos gyda Grŵp RICS i gynllunio’r camau nesaf ac i gefnogi’r sector ymchwil i barhau i wella arferion yn gysylltiedig ag uniondeb.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioSta/Medr/08/2025: Y Gymraeg mewn Addysg Uwch 2022/23
Prif bwyntiau
- Fe astudiodd 4% o fyfyrwyr o leiaf un credyd yn Gymraeg yn 2022/23.
- Gostyngodd nifer y myfyrwyr a astudiodd o leiaf un credyd yn Gymraeg 3% o’i gymharu â 2021/22 a 5% o’i gymharu â 2020/21. Fodd bynnag, roedd yn dal i fod yn nifer uwch nag yn y tair blynedd cyn 2020/21.
- Gostyngodd cyfran y myfyrwyr a astudiodd o leiaf 5 credyd yn Gymraeg i 3% yn 2022/23, a oedd yn is nag yn unrhyw un o’r pum mlynedd flaenorol. Gostyngodd cyfran y myfyrwyr a astudiodd o leiaf 120 o gredydau yn Gymraeg islaw 1% yn 2022/23, a oedd yn is nag unrhyw un o’r pum mlynedd flaenorol.
- Fe astudiodd mwy na dwywaith cymaint o fyfyrwyr benywaidd o leiaf 1 credyd yn Gymraeg o’u cymharu â myfyrwyr gwrywaidd.
- Addysg a hyfforddiant oedd y pwnc modiwl â’r nifer uchaf a’r gyfran fwyaf o fyfyrwyr yn astudio o leiaf un credyd yn Gymraeg.
- Roedd yn hysbys bod 13% o’r myfyrwyr a oedd yn hanu o Gymru’n siaradwyr Cymraeg rhugl yn 2022/23.
- Fe gynyddodd nifer y staff addysgu a oedd wedi eu contractio i addysgu yn Gymraeg 1% i 565 yn 2022/23 ar ôl gostwng o un flwyddyn i’r llall ers 2018/19.
Sta/Medr/08/2025: Y Gymraeg mewn Addysg Uwch 2022/23
Ystadegau Medr
Cyfeirnod: Sta/Medr/08/2025
Dyddiad: 26 Mawrth 2025
Dynodiad: Ystadegau Swyddogol
E-bost: [email protected]
Crynodeb: Ystadegau ar nifer y myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau yn y Gymraeg a gallu myfyrwyr sy’n hanu o Gymru i siarad Cymraeg mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru.
Ystadegau ar nifer y staff addysgu sy’n gallu addysgu yn Gymraeg, ac sydd wedi eu contractio i addysgu yn Gymraeg mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
Sta/Medr/08/2025 Y Gymraeg mewn Addysg Uwch 2022/23Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio