Medr/2026/10: Cyllid Ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau 2024/25

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r cyllid a roddir i sefydliadau addysg bellach ar gyfer darpariaeth prentisiaethau iau ym mlwyddyn academaidd 2024/25.

2. Rhoddir y cyllid ar ffurf ôl-daliadau gwerth cyfanswm o £512,586.34 i sefydliadau addysg bellach fel y gwelir yn y tabl isod.

Sefydliad addysg bellachCyfanswm y dyraniad
£
Coleg Penybont171,673.25
Coleg Caerdydd a’r Fro179,926.67
Coleg Sir Gâr27,996.78
Coleg Gŵyr Abertawe52,739.26
Grŵp NPTC80,250.38
Cyfanswm512,586.34

3. Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â thaliadau a wnaed yn ystod y cyfnod o 1 Awst 2024 tan 31 Gorffennaf 2025.

Medr/2026/10: Cyllid Ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau 2024/25

Dyddiad: 26 Chwefror 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/10

At:  Brifathrawon sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r cyllid a roddir i sefydliadau addysg bellach ar gyfer darpariaeth prentisiaethau iau ym mlwyddyn academaidd 2024/25.

Medr/2026/10 Cyllid Ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau 2024/25

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/09: Rhaglen brentisiaethau newydd 2027 – dyddiadau allweddol

Cyflwyniad

1. Y camau nesaf allweddol yn y broses o ddatblygu rhaglen brentisiaethau newydd 2027 a’i rhoi ar waith yw:

DyddiadGweithgaredd
17 Chwefror 2026Cyhoeddi’r adroddiad ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ar y rhaglen brentisiaethau newydd
16 Ebrill 2026 and
22 Ebrill 2026
Sesiynau ymgysylltu â darparwyr addysg drydyddol ynghylch model cyllido’r rhaglen brentisiaethau newydd
13 Mai 2026
14 Mai 2026
20 Mai 2026
Digwyddiadau rhanbarthol i brofi dyluniad y rhaglen brentisiaethau newydd:
Y Gogledd
Y Canolbarth
Y De
11 Mai 2026 – 19 Mehefin 2026Ymgynghoriad ar fodel cyllido’r rhaglen brentisiaethau newydd
3 Mehefin 2026Digwyddiad ar-lein ar gyfer yr ymgynghoriad ar fodel cyllido’r rhaglen brentisiaethau newydd
w/c 3 Awst 2026Cyhoeddi’r adroddiad ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ar fodel cyllido’r fframweithiau prentisiaeth newydd
1 Medi 2026 – 31 Rhagfyr 2026Cyhoeddi grant y rhaglen brentisiaethau newydd a chyflwyno ceisiadau a chynigion (caiff rhagor o wybodaeth am y broses hon ei chyhoeddi maes o law)
Ebrill 2027Anfon Llythyrau Dyfarnu Grant
1 Awst 2027Y rhaglen brentisiaethau newydd yn dechrau

Rhagor o wybodaeth

2. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cylchlythyr hwn at Heather Davidson, Pennaeth Prentisiaethau ([email protected]).

Medr/2026/09: Rhaglen brentisiaethau newydd 2027 – dyddiadau allweddol

Dyddiad:  26 Chwefror 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/09

At: Benaethiaid darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru; Darparwyr prentisiaethau cyfredol yng Nghymru / Deiliaid contract prentisiaeth wedi’u comisiynu; Cyrff cynrychioli cyflogwyr; Cyrff cynrychioli dysgwyr; Cynrychiolwyr addysg awdurdodau lleol

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Y camau nesaf allweddol yn y broses o ddatblygu rhaglen brentisiaethau newydd 2027 a’i rhoi ar waith.

Medr/2026/09 Rhaglen brentisiaethau newydd 2027 – dyddiadau allweddol

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/04/2026: Addysg bellach, prentisiaethau a dysgu cymunedol, Awst 2024 i Orffennaf 2025

  • Roedd 161,920 o ddysgwyr mewn addysg bellach, prentisiaethau neu dysgu cymunedol awdurdod lleol yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25.
  • Cynyddodd nifer y dysgwyr addysg bellach amser llawn i lefel uwch nag erioed.
  • Mae data dros dro ar gyfer chwarter cyntaf 2025/26 yn dangos bod y duedd o gynnydd wedi parhau.
  • Mae nifer y dysgwyr rhan-amser wedi lleihau, am y tro cyntaf ers 4 blynedd.
  • Roedd nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd ar y lefel isaf ers i’r ystadegau hyn ddechrau.
  • Mae’r niferoedd ar gyfer dysgu cymunedol awdurdod lleol yn uwch nag yr oeddent cyn y pandemig.
  • Mae addysg bellach amser llawn lefel 2 wedi bod yn cynyddu’n gyson.
  • Mae nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl sy’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n cynnwys ‘cryn dipyn’ o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu.
  • Mae dysgwyr sy’n dilyn cwrs addysg bellach, prentisiaeth, a dysgu cymunedol yn fwy tebygol o fyw mewn cymdogaethau amddifadus.
  • Mae gan 1 o bob 6 dysgwr anhawster dysgu neu anabledd, sef y mwyaf ers i’r ystadegau hyn ddechrau
  • Mae dysgwyr yn fwy amrywiol na phoblogaeth Cymru.
Dysgwyr yn ôl math o ddysgu a darparydd

Ffigur 1: Awst 2024 i Orffennaf 2025

Sta/Medr/04/2026 Dysgwyr yn ôl math o ddysgu a darparydd. Ffigur 1: Awst 2024 i Orffennaf 2025.

Mae addysg bellach yn cynnwys dysgwyr sy’n astudio Safon Uwch a chymwysterau cyffredinol eraill, yn ogystal â dysgwyr sy’n astudio cymwysterau galwedigaethol (er enghraifft cymwysterau BTEC).

Mae dysgu cymunedol awdurdod lleol yn gweithgareddau dysgu cymunedol a ariennir gan Medr ac a gynhelir yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. 

Sta/Medr/04/2026: Addysg bellach, prentisiaethau a dysgu cymunedol, Awst 2024 i Orffennaf 2025

Cyfeirnod: Sta/Medr/04/2026

Dyddiad:  26 Chwefror 2026

Crynodeb:  Ystadegau ar nifer y dysgwyr, y rhaglenni a’r gweithgareddau a gyflawnir mewn colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a darpariaeth dysgu cymunedol awdurdodau lleol.

Thema:  Addysg bellach, prentisiaethau, dysgu cymunedol

Sta/Medr/04/2026 Addysg bellach, prentisiaethau a dysgu cymunedol, Awst 2024 i Orffennaf 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/03/2026: Staff mewn sefydliadau addysg uwch: Awst 2024 i Orffennaf 2025

Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y staff a oedd yn cael eu cyflogi mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25, fel y’i casglwyd yng Nghofnod Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).

Cyfrifir niferoedd staff gan ddefnyddio’r hyn sy’n gyfwerth â pherson llawn ar gyfer staff ar 1 Rhagfyr yn y flwyddyn adrodd, er enghraifft 1 Rhagfyr 2024 ar gyfer 2024/25. Ni chaiff staff ar gontractau annodweddiadol eu cynnwys yn yr adroddiad hwn am nad ydynt yn gymaradwy â staff ar fathau eraill o gontract. Yn 2024/25 roedd 1,170 o staff yn cael eu cyflogi gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gontractau annodweddiadol.

  • Roedd 21,995 o staff yn cael eu cyflogi mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2024/25. Mae hyn yn cynrychioli lleihad o 2.8% o gymharu â’r 22,635 o staff a gofnodwyd yn 2023/24.
  • 2024/25 oedd y flwyddyn academaidd gyntaf ers 2020/21 pan welwyd lleihad yng nghyfanswm nifer y staff.
  • Yn 2024/25, roedd staff amser llawn yn cyfrif am 67.3% o’r holl staff (14,815), ac roedd staff rhan-amser yn cyfrif am 32.7% (7,180) o’r holl staff.
  • Yn 2024/25, roedd staff academaidd a staff anacademaidd yn cyfrif am 50% yr un o gyfanswm y staff. Roedd 11,085 o staff ar gontractau academaidd a 10,910 o staff ar gontractau anacademaidd.
  • Yn 2024/25, roedd 56% o staff yn fenywaidd (12,325) a 44% (9,610) yn wrywaidd.
  • Yn 2024/25, o blith y staff yr oedd eu cefndir ethnig yn hysbys, roedd 86.7% o gefndir Gwyn, roedd 7.4% o gefndir Asiaidd, roedd 2.1% o gefndir Du, roedd 1.9% o gefndir Cymysg ac roedd 2.0% o gefndir Arall.
  • Yn 2024/25, cofnodwyd bod gan 9.3% o staff o leiaf un anabledd hysbys.
  • Y grŵp oedran â’r nifer mwyaf o staff ynddo yn 2024/25 oedd y categori 36 i 45 oed, a oedd yn cyfrif am 28.3% o’r holl staff. Y grŵp oedran â’r nifer lleiaf ynddo oedd y categori 66 oed a hŷn, a oedd yn cyfrif am 2.9% o’r holl staff.

Sta/Medr/03/2026: Staff mewn sefydliadau addysg uwch: Awst 2024 i Orffennaf 2025

Cyfeirnod:  Sta/Medr/03/2026

Dyddiad:  24 Chwefror 2026

Crynodeb:  Ystadegau ar y staff a gyflogir mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru

Thema:  Addysg Uwch

Ffynhonnell:  Cofnod Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) Staff Record

Sta/Medr/03/2026 Staff mewn sefydliadau addysg uwch: Awst 2024 i Orffennaf 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/02/2026: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Awst i Hydref 2025 (dros dro)

Ystadegau Swyddogol a gyhoeddwyd ar 19 Chwefror 2026. Ceir y diweddariad nesaf ym mis Mai 2026.

  • Yn 2024/25, dechreuwyd 18,850 o raglenni dysgu prentisiaeth. Roedd hyn yn gostwng 13% o’r 21,625 raglenni a ddechreuwyd yn 2023/24. Yn 2024/25 y dechreuwyd y nifer lleiaf o brentisiaethau ers i’r ystadegau hyn ddechrau yn 2012/13.
  • Dechreuodd 7,385 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch1 2025/26 (p), o gymharu â 7,250 yn Ch1 2024/25.
  • Ymhlith y prentisiaethau uwch y gwelwyd y cynydd mwyaf o gymharu â Ch1 y flwyddyn gynt, sy’n cynyddu o 22% (p).
  • Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd yn Ch1 2025/26 (p) hefo 2,400 raglenni dysgu prentisiaethau yn ddechreuwyd. Roedd 32% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Roedd 52% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr gwrywaidd yn Ch1 2025/26 (p), roedd hyn dim wedi gostwng 2 pwynt canran o gymharu â Ch1 2024/25.
  • Roedd 33% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr iau nag 19 oed yn Ch1 2025/26 (p) o gymharu â 35% yn Ch1 y flwyddyn gynt.
  • Roedd 12% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn Ch1 2025/26 (p), dim newid o Ch1 2024/25
  • Roedd 13% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau yn Ch1 2025/26 (p) gan ddysgwyr a oedd yn nodi bod ganddynt anabledd ac/neu anhawster dysgu, roedd hyn wedi cynyddu 1 pwynt canran o gymharu â Ch1 2024/25.
  • Roedd 10% o’r dysgwyr a ddechreuodd raglenni dysgu prentisiaeth yn ddysgwyr sy’n byw yn y 10% o gymdogaethau â’r mwyaf o amddifadedd yng Nghymru yn 2025/26 Ch1 (p).
  • Mae 88,455 o brentisiaethau wedi’u dechrau rhwng Mai 2021 ac Hydref 2025, yn rhan o’r cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o 100,000 o brentisiaethau. Gan gynnwys y dysgwyr a ddechreuodd raglenni na chânt eu cyfrif fel rhan o’r mesur mwy trwyadl ar gyfer y targed, dechreuodd gyfanswm o 97,355 o ddysgwyr brentisiaethau yn ystod y cyfnod.
  • Roedd y Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys targed i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed. Yn ystod cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 26 Mehefin 2024, fe gytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar darged newydd o 100,000 o brentisiaethau pob oed i gynnal targed tymor blaenorol y Senedd o 100,000.

Roedd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau yn y flwyddyn ariannol 2023-24 yn £139m ac yn £144m yn 2024-25 (Ffynhonnell: Dyraniadau cyllid Medr 2025 i 2026).). Yn ystod blynyddoedd blaenorol, roedd cyllid ychwanegol ar gyfer prentisiaethau o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (£43m yn 2023-24 Dyraniadau cyllid Medr 2025 i 2026). Fe ddaeth hyn i ben erbyn y flwyddyn ariannol 2024-2025.

Rhaglenni dysgu Prentisiaeth a ddechreuwyd: dangosfwrdd rhyngweithiol

Gwybodaeth reoli a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror. Ceir y diweddariad nesaf ar 26 Mawrth.

Mae gan Medr fynediad at wybodaeth reoli fwy diweddar, nad yw wedi cael ei dilysu na’i gwirio o ran ansawdd, i’r un graddau â’r ystadegau swyddogol yn yr adroddiad hwn.

Yn ôl y wybodaeth reoli ar 26 Chwefror 2026:

  • Cafwyd 92,800 o ddechreuadau prentisiaeth ers Ch4 2020/21, yn rhan o’r mesur llymach o gynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o 100,000 o brentisiaethau yng nghyfnod y Senedd.
  • O gynnwys y dechreuadau nad ydynt wedi’u cyfrif yn rhan o fesur llymach y targed, cafwyd cyfanswm o 101,760 o ddechreuadau prentisiaeth dros y cyfnod hwnnw o amser.
  • Gwnaeth cyfanswm nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd yn ystod cyfnod y Senedd groesi 100,000 ym mis Ionawr 2026. Gwnaeth nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd ar gyfer y mesur targed mwy trwyadl aros islaw 100,000.

I ddibenion y mesur hwn ac i gyd-fynd â’r cyfnodau adrodd chwarterol ar gyfer yr ystadegau hyn, rydym yn ystyried bod cyfnod y Senedd yn rhychwantu Ch4 2020/21 i Ch3 2025/26 (1 Mai 2021 i 30 Ebrill 2026).

Mae’r mesurau hyn yn cynnwys gradd-brentisiaethau. Daw’r data ar radd-brentisiaethau o gasgliad data gwahanol, sydd ar gael bob blwyddyn. Cafodd y diweddariad diwethaf i’r data ar radd-brentisiaethau ei wneud ar 29 Ionawr ac roedd yn cynnwys data ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.Bydd gwybodaeth am radd-brentisiaethau a ddechreuodd yn ystod tri chwarter cyntaf blwyddyn academaidd 2025/26 ar gael ym mis Ionawr 2027. Roedd 480 o radd-brentisiaethau yn 2024/25 fel rhan o’r mesur targed, a dechreuwyd cyfanswm o 485.

Ffigur 1: Gwybodaeth reoli ar 19 Chwefror 2026

Sta/Medr/02/2026 Ffigur 1 Gwybodaeth reoli ar 19 Chwefror 2026

Mae gan ddarparwyr gyfnod o 8 wythnos i gofnodi bod prentis yn dechrau. Ni fydd yr wybodaeth reoli hon yn cynnwys yr holl brentisiaid sydd wedi dechrau yn y cyfnod dan sylw.

Mae’n cymryd amser hefyd i ganfod a yw prentis yn anghymwys ar gyfer y mesur llymach, sy’n eithrio prentisiaid sy’n tynnu’n ôl yn yr 8 wythnos gyntaf a rhai sy’n trosglwyddo allan o’i rhaglen.

Bydd darparwyr yn newid eu cofnodion yn barhaus i sicrhau cywirdeb. Mae’r sefyllfa derfynol ar gyfer ystadegau swyddogol yn seiliedig ar y cofnod fel y mae ym mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd.

Wrth inni ddod at ddiwedd cyfnod y Senedd, rydym yn bwriadu rhoi diweddariadau misol o wybodaeth reoli ar gynnydd tuag at y targed o 100,000 o brentisiaethau.

Dyma’r amserlen ar gyfer y diweddariadau:

Dyddiad yr wybodaeth reoliDyddiad cyhoeddi
18 Rhagfyr 20258 Ionawr2026
22 Ionawr 202629 Ionawr 2026
19 Chwefror 202626 Chwefror 2026
19 Mawrth 202626 Mawrth 2026
23 Ebrill 202630 Ebrill 2026
21 Mai 202628 Mai 2026
18 Mehefin 202625 Mehefin 2026

Cesglir yr wybodaeth reoli ar y dydd Iau yn nhrydedd wythnos lawn y mis. Dylai’r ffigurau a adroddir ym mis Mehefin roi syniad rhesymol o’r ffigurau terfynol dros gyfnod y Senedd, er na fydd gennym ddarlun llawn o’r rhai a dynnodd yn ôl, tan y caiff y data terfynol ei gyhoeddi.

Bydd fersiwn ddiweddaraf yr adroddiad hwn yn cynnwys y diweddariadau, ac fe’u cyhoeddir ar ein calendr cyhoeddi ystadegau. Mae’r adroddiad nesaf ar raglenni dysgu Prentisiaeth wedi’i drefnu ar gyfer mis Chwefror 2026, a bydd yn cynnwys data hyd at fis Hydref 2025.

Bydd sefyllfa derfynol y targed prentisiaethau, yn ôl yr ystadegau swyddogol â sicrwydd ansawdd, yn cael ei hadrodd yn yr adroddiad ar Raglenni dysgu prentisiaeth sydd wedi’i amserlennu i’w gyhoeddi yng Ngwanwyn 2027.

Mae’r nifer o radd-brentisiaethau ar gyfer 2023/24 wedi cael eu hadolygu o 385 i 360 oherwydd bod rhai cyrsiau wedi cael eu cofnodi’n anghywir fel gradd-brentisiaethau. Cafodd y dechreuadau gradd sy’n cyfri tuag at fesur y targed llymach eu hadolygu o 385 i 355.

Sta/Medr/02/2026: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Awst i Hydref 2025 (dros dro)

Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol:  Sta/Medr/02/2026

Dyddiad: 19 Chwefror 2026 (wedi’i ddiweddaru 26 Chwefror 2026)

Crynodeb: Ystadegau ar rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd. Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd.

Nodyn: Mae ffigurau gyda (p) yn dros dro.

Sta/Medr/02/2026 Apprenticeships learning programmes started: August to October 2025 (provisional) v2

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/08: Y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: Crynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriad

Un o Nodau Strategol Medr yw ‘creu system addysg drydyddol hyblyg a chydgysylltiedig lle gall pawb gaffael y sgiliau a’r wybodaeth y mae eu hangen arnynt ar gyfer economi a chymdeithas sy’n newid’. Rydym wedi ymrwymo i ddylunio darpariaeth brentisiaethau ar gyfer y dyfodol sy’n ymateb i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sgiliau ac sy’n diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r economi. Mae hyn wedi’i wreiddio yn ein dyletswydd strategol i gyfrannu at ddatblygu economi gynaliadwy ac arloesol yng Nghymru.

Mae prentisiaethau’n un o’r ysgogwyr allweddol ar gyfer cynhyrchiant a helpu i dyfu gweithlu crefftus ac amrywiol. Bydd Fframwaith Brentisiaethau newydd Cymru’n dechrau ar 1 Awst 2027.

Ym mis Medi 2025, fe gynhaliom ni ymarfer ymgynghori 6 wythnos a geisiodd farn gan randdeiliaid, gan gynnwys darparwyr hyfforddiant ac addysg drydyddol, cynrychiolwyr byd diwydiant, cyflogwyr, dysgwyr ac awdurdodau lleol, i helpu i siapio’r rhaglen newydd. Fe ofynnom ni am farn pobl ynglŷn â’r canlynol:

  • yr egwyddorion lefel uchel i arwain y rhaglen brentisiaethau newydd
  • diffiniad o brentisiaeth
  • taith dysgwr sy’n brentis
  • ymgysylltiad cyflogwyr
  • cyflawni hyblyg
  • fframweithiau sector prentisiaethau
  • ymatebolrwydd economaidd y rhaglen
  • deilliannau prentisiaid
  • cryfhau cyfleoedd yn y Gymraeg
  • prentisiaethau cynhwysol

Mae’r ddogfen hon yn darparu crynodeb o themâu allweddol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a’r camau nesaf o ran datblygu’r rhaglen newydd. 

Mae Atodiad A yn darparu crynodeb manylach o’r adborth yn ystod yr ymgynghoriad a baratowyd gan Beaufort Research.

Cyflwyniad

1. Fel a nodwyd yn y ddogfen ymgynghori, mae Medr yn ymrwymedig i sicrhau bod darpariaeth brentisiaethau’n parhau i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sgiliau a diwallu anghenion esblygol dysgwyr, cyflogwyr a’r economi ehangach, fel rhan o system addysg drydyddol hyblyg a chydgysylltiedig. Wrth i ni amcanu at ddylunio rhaglen brentisiaethau newydd i Gymru, fe geisiom ni farn gan randdeiliaid allweddol i helpu i siapio arlwy sydd â ffocws ar y dyfodol, sy’n gynhwysol ac sy’n ymatebol.

2. Medr sy’n gyfrifol am ddatblygu’r rhaglen brentisiaethau newydd ledled Cymru, sydd i fod i ddechrau ym mis Awst 2027, fel a nodir yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru. Rydym yn bwriadu dylunio’r rhaglen newydd i fod yn fwy ymatebol a hyblyg i ymdrin â’r blaenoriaethau o ran sgiliau i gyd-fynd â’n heconomi sy’n newid, blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sgiliau ac anghenion dysgwyr.

3. Fe gynhaliom ni ymgynghoriad 6 wythnos ym mis Medi – Hydref 2025, gan geisio barn rhanddeiliaid, gan gynnwys darparwyr hyfforddiant ac addysg drydyddol, cynrychiolwyr byd diwydiant, cyflogwyr, dysgwyr ac awdurdodau lleol i helpu i siapio’r rhaglen newydd. Roedd y ddogfen ymgynghori’n darparu gwybodaeth am fodel cyfredol y rhaglen brentisiaethau, y sail resymegol dros newid, fframweithiau sector prentisiaethau a chynigion ar gyfer y rhaglen brentisiaethau newydd.

4. Roedd 26 o gwestiynau penagored wedi’u cynnwys yn y ddogfen ymgynghori, a’r rheiny’n ceisio barn pobl ynglŷn â’r canlynol:

  • yr egwyddorion lefel uchel i arwain y rhaglen brentisiaethau newydd
  • diffiniad o brentisiaeth
  • taith dysgwr sy’n brentis
  • ymgysylltiad cyflogwyr
  • cyflawni hyblyg
  • fframweithiau sector prentisiaethau
  • ymatebolrwydd economaidd y rhaglen
  • deilliannau prentisiaid
  • cryfhau cyfleoedd yn y Gymraeg
  • prentisiaethau cynhwysol

5. Cynhaliwyd pum digwyddiad ymgynghori yn ystod y cyfnod ymgynghori. Fe ymgysylltodd dros 350 o bobl â’r ymgynghoriad. Fe hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gyfrannodd, a roddodd o’u hamser i fod yn bresennol mewn digwyddiadau ymgynghori ac a gyflwynodd ymatebion i’r ymgynghoriad.

6. Mae’r adborth o’r ymgynghoriad wedi darparu peth wmbredd o wybodaeth i siapio datblygiad rhaglen brentisiaethau newydd a fydd yn cefnogi dysgu o ansawdd da, cyflogaeth ystyrlon, a thwf economaidd hirdymor ledled Cymru. Mae’r wybodaeth ac ymgysylltiad cyfoethog yma’n amhrisiadwy i sicrhau ein bod yn creu rhaglen sy’n fwy ymatebol a hyblyg i ymdrin ag anghenion dysgwyr a blaenoriaethau o ran sgiliau yn ein heconomi sy’n newid.

7. Fe wnaethom roi comisiwn i Beaufort Research i ddadansoddi’r mewnbwn o’r digwyddiadau ymgynghori a’r ymatebion ysgrifenedig a gafwyd. Mae Atodiad A yn darparu dadansoddiad manwl o’r adborth, a baratowyd gan Beaufort Research. Mae’r ddogfen hon yn darparu crynodeb o’r themâu allweddol a adnabuwyd a fydd yn goleuo datblygiad y rhaglen newydd. Mae’r adran ‘Camau Nesaf’ yn nodi cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu pellach a’r raddfa amser ar gyfer cyhoeddi manyleb y rhaglen.

Egwyddorion y Rhaglen Brentisiaethau

8. Fe ymgynghorom ni ynghylch egwyddorion lefel uchel ar gyfer y rhaglen newydd. Roedd y rhain yn datgan y dylai:

  • fod yn rhaglen pob oed.
  • darparu prentisiaethau o lefel 2 i lefel 6.
  • ymateb i alw am sgiliau sy’n newid ar draws yr economi ac anghenion o ran sgiliau ar lefel ranbarthol.
  • ymateb i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sgiliau, gan gynnwys ymateb i dechnolegau sy’n newid, a sgiliau gwyrdd.
  • diwallu anghenion dysgwyr a chynorthwyo eu dilyniant trwy’r system addysg drydyddol ac i mewn i’w gyrfa ddewisol a thrwy gydol yr yrfa honno.
  • bod yn ystwyth ac yn ymatebol i sicrhau bod y cymwysterau a’r sgiliau cywir yn cael eu darparu i ddiwallu anghenion cyflogwyr, dysgwyr a’r economi.
  • darparu prentisiaethau cynhwysol sy’n hygyrch i ddysgwyr o amrywiaeth o gefndiroedd, ac sydd â nodweddion gwarchodedig.
  • cynyddu cyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael yn y Gymraeg.
  • cynnig darpariaeth o ansawdd da sy’n cryfhau deilliannau a chyrhaeddiad dysgwyr.

9. Roedd ymatebwyr yn fodlon at ei gilydd ar yr egwyddorion cyffredinol. Fe godwyd rhai pwyntiau penodol sydd wedi cael eu hintegreiddio yn adran Themâu Allweddol y ddogfen hon, gyda gwybodaeth fanylach yn Atodiad A.

Diffiniad o Brentisiaeth

10. Fe ymgynghorom ni ynghylch y diffiniad canlynol o brentisiaeth:

‘Swydd â thâl gyda hyfforddiant yw prentisiaeth. Mae prentisiaid yn ennill profiad, yn dysgu sgiliau newydd ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol wrth ennill cyflog. Diffinnir hyn drwy fframwaith prentisiaeth.’

11. Ar y cyfan, roedd adborth rhanddeiliaid ar y diffiniad o brentisiaeth yn gadarnhaol, gyda dim ond mân newidiadau’n cael eu cynnig i’w fireinio. Fodd bynnag, fe wnaeth nifer fach o sylwadau awgrymu gweledigaeth ehangach ar gyfer prentisiaethau, a honno’n adlewyrchu safbwyntiau uchelgeisiol a manwl gan ddarparwyr hyfforddiant, cyflogwyr a dysgwyr. Bydd hwn yn cael ei ddatblygu a’i gyhoeddi ochr yn ochr â diffiniad cyffredinol yn y fanyleb ar gyfer y rhaglen newydd. Caiff y diffiniad diwygiedig arfaethedig ei amlinellu isod:

‘Swydd â thâl gyda hyfforddiant yw prentisiaeth yng Nghymru. Mae prentisiaid yn ennill cyflog, yn cael profiad, yn dysgu sgiliau newydd ac yn ennill cymwysterau a chymhwysedd a gydnabyddir gan y diwydiant (o lefel 2 i fyny i lefel gradd). Diffinnir y dysgu hwn trwy fframwaith prentisiaeth.’

Fframweithiau Sector Prentisiaethau

12. Fel a nodwyd yn yr ymgynghoriad, fe hoffem gryfhau a symleiddio perthnasedd fframweithiau sector prentisiaethau trwy weithredu strwythur newydd, symlach. Ceir 23 o fframweithiau prentisiaethau ar draws pob sector ar hyn o bryd ac fe all y rhain fod yn ddryslyd i ddysgwyr a chyflogwyr eu deall ac ymdrin â hwy. Fe gynigiom ni fireinio’r fframweithiau prentisiaethau o 23 i 18. Roedd y strwythur symlach arfaethedig a nodwyd yn yr ymgynghoriad fel a ganlyn:

  • Gofal
  • Iechyd a gwyddoniaeth
  • Peirianneg a gweithgynhyrchu
  • Creadigol, dylunio a’r cyfryngau
  • Gwasanaethau busnes a rheoli
  • Gwasanaethau cyhoeddus a diogelu
  • Addysg a’r blynyddoedd cynnar
  • Arlwyo a lletygarwch
  • Adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • Y gyfraith, cyllid a chyfrifyddu
  • Digidol
  • Gwallt a harddwch
  • Amaethyddiaeth, yr amgylchedd a gofalu am anifeiliaid
  • Trafnidiaeth, moduron a logisteg
  • Ynni
  • Bwyd a diod
  • Gwasanaethau eiddo
  • Chwaraeon a hamdden

13. Ar y cyfan roedd yr ymatebwyr yn fodlon ar y sectorau arfaethedig, gyda rhai newidiadau awgrymedig. Roedd y rhain yn cynnwys grwpio Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant gyda’i gilydd a rhannu Peirianneg a Gweithgynhyrchu. Roedd cefnogaeth i’r syniad y dylai pob fframwaith fod â chynnwys ar ddysgu AI (deallusrwydd artiffisial), digidol a sero net/gwyrdd yn hytrach na bod â fframweithiau ar wahân ar gyfer y meysydd hyn. Fe awgrymodd ymatebwyr hefyd y dylid cynnwys disgrifiad neu ddiffiniad lefel uchel ar gyfer pob un o’r fframweithiau, a fydd yn cael ei roi ar waith. Y fframweithiau sector diwygiedig arfaethedig (Atodiad B) yn dilyn yr ymgynghoriad yw:

  • Iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant
  • Peirianneg
  • Gweithgynhyrchu
  • Creadigol, dylunio a’r cyfryngau
  • Rheoli, busnes a gwasanaethau manwerthu
  • Gwasanaethau cyhoeddus a diogelu
  • Addysg a’r blynyddoedd cynnar
  • Arlwyo a lletygarwch
  • Adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • Y gyfraith, cyllid a chyfrifyddu
  • Digidol
  • Gwallt a harddwch
  • Amaethyddiaeth, yr amgylchedd a gofalu am anifeiliaid
  • Trafnidiaeth, moduron a logisteg
  • Gwyddoniaeth ac ynni
  • Bwyd a diod
  • Gwasanaethau eiddo
  • Chwaraeon a hamdden 

14. Bydd llyfrgell fframweithiau newydd yn cael ei chyflwyno a’i lansio ar gyfer dechrau’r rhaglen newydd ym mis Awst 2027. Rydym yn gweithio gyda darparwyr prentisiaethau a rhanddeiliaid eraill i ddysgu gwersi o’r llyfrgell fframweithiau gyfredol, ac ymdrin â rhwystrau a materion i’w gwneud yn bosibl rhoi llyfrgell fframweithiau symlach newydd ar waith.

Themâu Lefel Uchel 

15. Daeth y themâu lefel uchel canlynol i’r amlwg o’r ymarfer ymgynghori. Caiff dadansoddiad mwy manwl o ymatebion i bob un o’r cwestiynau ei amlinellu yn Atodiad A.

16. Roedd yr holl ymatebwyr yn cytuno y dylai’r rhaglen barhau i fod yn agored i bob oed, gan gefnogi datblygiad gyrfa gydol oes. Mae hyn yn cyd-fynd â’n dyletswydd strategol i hybu addysg drydyddol i bobl Cymru sy’n darparu cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn addysg drydyddol trwy gydol eu bywydau o 16 oed.

17. Fel a nodwyd yn y ddogfen ymgynghori, elfen ganolog o’n dull yw ymrwymiad i arfogi dysgwyr â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymwysterau sy’n ofynnol i gamu ymlaen trwy’r system addysg drydyddol ac i ymgymryd â’u dewis yrfaoedd a ffynnu ynddynt.

18. Gall dysgwyr ymuno â’r rhaglen brentisiaethau ar wahanol adegau yn eu bywyd neu eu taith yrfa, gan gynnwys y rhai sydd â’u bryd ar ailhyfforddi, newid gyrfa, neu addasu i dechnolegau newydd. Mae angen i’r rhaglen brentisiaethau fod yn ddigon hyblyg ac ymatebol i gefnogi dysgwyr, fel unigolion, gan eu galluogi i ennill y sgiliau a’r cymwysterau y mae eu hangen i ddilyn gyrfa lwyddiannus a chynaliadwy mewn economi sy’n newid yn gyflym.

19. Roedd cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd annibynnol cryfach yn thema gref yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad er mwyn i ddysgwyr ddeall y cyfleoedd gyrfa eang ac amrywiol y gallai prentisiaeth eu cynnig a chyfleoedd posibl ar gyfer camu ymlaen. Mae’r wybodaeth iawn ar yr amser iawn yn allweddol i alluogi dysgwyr i wneud dewis gwybodus ynglŷn ag ymuno â byd gwaith a/neu gamu ymlaen yn eu dewis yrfa. Cafodd deunyddiau marchnata neu gyfathrebu wedi’u targedu trwy gydol y flwyddyn i ddysgwyr, cymheiriaid, dylanwadwyr, athrawon a rhieni sy’n nodi’r opsiynau hyn eu hamlygu fel cyfle i ddenu ystod fwy amrywiol o ddysgwyr. Dylai gweithgareddau hyrwyddo amlygu prentisiaethau fel llwybrau amgen dichonadwy at yrfaoedd boddhaus a dysgu ar lefel uwch. Mae angen ystyriaeth bellach i gefnogi dysgwyr trwy adegau pontio a phenderfyniadau allweddol, er enghraifft o’r ysgol, addysg bellach neu addysg uwch i mewn i brentisiaeth.

20. Mae angen cyfathrebiadau cryfach i wella dealltwriaeth dysgwyr am y rhaglen brentisiaethau. Awgrymodd ymatebwyr siop un stop i ddarparu gwybodaeth gydgysylltiedig mewn iaith syml glir sy’n hawdd i ddysgwyr a rhieni gael mynediad ati a’i deall.

21. Roedd cymorth ychwanegol i ddysgwyr tra ydynt ar y rhaglen o’r pwys mwyaf i gwblhau eu prentisiaeth yn llwyddiannus, gan gynnwys mentora, cyflogadwyedd, sgiliau entrepreneuriaeth a llesiant. Cafwyd rhai awgrymiadau y gellid cyflwyno cymorth pellach i bobl ifanc sy’n dechrau eu prentisiaeth neu’n ymuno â byd gwaith am y tro cyntaf, gan gynnwys canllawiau ynghylch ymddygiad yn y gweithle a chymorth mwy dwys ar ddechrau prentisiaeth i leihau’r risg o adael cyn pryd. Roedd gofal bugeiliol i hybu twf personol, gan fagu hyder a sgiliau trosglwyddadwy mwy meddal (er enghraifft cyfathrebu, gwaith tîm, datrys problemau, llythrennedd digidol, arweinyddiaeth a llesiant) yn cael ei ystyried yn rhywbeth allweddol sydd o fudd i ddysgwyr wireddu eu potensial a dod yn aelodau gwerthfawr o gymdeithas ni waeth beth fo’u cefndir. Yn olaf, roedd cynorthwyo prentisiaid ar ôl iddynt orffen y brentisiaeth i ymgymryd â chyflogaeth gynaliadwy yn rhywbeth a amlygwyd fel elfen bwysig.

22. Mae cyfleoedd i ddysgwyr gamu ymlaen trwy’r lefelau prentisiaeth ac ar draws addysg drydyddol o’r pwys mwyaf. Mae prentisiaid yn dysgu ar wahanol gyflymder ac mae angen i’r system fod yn hyblyg ac yn ystwyth i allu diwallu ac ymateb i anghenion gwahanol dysgwyr, gan gynnwys yr opsiynau dilyniant sydd ar gael. Mae angen llwybrau dilynant mwy eglur i ddygwyr ddeall ac ymdrin â’r ystod lawn o opsiynau gyrfa sydd ar gael iddynt ar draws y system addysg drydyddol.

23. Mae angen i ni gefnogi cyflogwyr trwy gydol eu hymgysylltiad â phrentisiaethau, o ddeall beth yw prentisiaeth, i recriwtio a thrwy gydol taith y prentis. Bydd hyn helpu’r rhaglen brentisiaethau i ddiwallu’r anghenion o ran sgiliau sy’n newid yn gyflym ledled Cymru.

24. Mae angen cyfathrebu cryfach i wella dealltwriaeth cyflogwyr am y rhaglen brentisiaethau. Fe awgrymodd ymatebwyr siop un stop (trwy system ddigidol wedi’i symleiddio) o wybodaeth gyson a chanolog eglur, sy’n hawdd i gyflogwyr gael mynediad ati ac sy’n cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol. Dylai hyn gynnwys, ymhlith gwybodaeth arall, cyflogi prentis (amser, buddsoddiad ariannol ac adnoddau), proses recriwtio a chymorth trwy gydol taith y dysgwr. Gallai hyn fod trwy ganllawiau i gyflogwyr, adnoddau, pecynnau cymorth a thempledi ar gyfer rhaglenni sefydlu, cynlluniau dysgu, dogfennu hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith a siarter cyflogwyr.

25. Mae angen ehangu’r sylfaen gyflogwyr i alluogi rhagor o gyflogwyr, yn enwedig busnesau bach a chanolig (BBChau), i gyflogi prentis. Mae angen i ni barhau i gryfhau perthnasoedd â chyrff diwydiant a rhanddeiliaid eraill i geisio cyrraedd rhagor o gyflogwyr, gan gynnwys BBChau. Gallai ymgyrchoedd marchnata wneud gwaith ymgysylltu a dargedir a chanolbwyntio ar geisio newid cyfeiriadau meddwl cyflogwyr fel bod prentisiaid yn cael eu hystyried yn ddilys ac yn werthfawr. Gallem ystyried ble y gallai cymhellion gefnogi’r gweithgarwch hwn.

26. Byddai cyflwyno cymorth mentora mwy dwys i gyflogwyr a rheolwyr llinell a/neu greu rhwydweithiau i rannu arferion da, profiadau a chyngor, yn gwella hyder cyflogwyr ac yn gwella cyfraddau cadw prentisiaid. Gallai hyn fod gan gyflogwyr eraill sydd wedi bod trwy’r broses neu’n uniongyrchol gan ddarparwyr prentisiaethau. Gallai mentora gynnwys cymorth ar gyfer recriwtio, paratoi i brentis ddechrau neu helpu cyflogwyr i gael rhagor o wybodaeth a dealltwriaeth am roi cymorth i’r prentis trwy gydol eu cyfnod dysgu. Roedd awgrymiadau eraill gan ymatebwyr yn cynnwys hyfforddiant byr, hygyrch i fentoriaid a goruchwylwyr yn y gweithle, a hwnnw’n ymdrin â thestunau fel gosod disgwyliadau, adborth, a chefnogi llesiant.

27. Mae angen cryfhau ymgysylltiad â chyflogwyr wrth ddatblygu fframweithiau prentisiaethau gan gynnwys mecanwaith i Medr ddarparu adborth i gyflogwyr.

28. Gallai darparwyr prentisiaethau gydweithio’n agosach gyda chyflogwyr i ddeall cynnydd y dysgwr a pha ddysgu sy’n ofynnol ar ba adeg, gan gynnwys asesiadau. Gallent fynd ati ar y cyd i ddarparu dysgu, a chryfhau’r broses adrodd fisol i nodi ble y mae dysgwyr yn eu taith a pha mor agos ydynt at gwblhau i helpu cyflogwyr a dysgwyr i gynllunio’n fwy effeithiol.

29. Roedd neges glir drwy’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad bod rhaid i’r rhaglen newydd fod yn hyblyg ac yn ystwyth i ddiwallu anghenion y dysgwr a’r economi. Roedd hyn yn cynnwys bod hyd a strwythur y brentisiaeth yn canolbwyntio’n fwy ar ddysgwyr, bod cymwysterau’n ymateb i anghenion economaidd, cyflwyno microgymwysterau neu gymwysterau ategol byr, dilyniant rhwng fframweithiau, hyblygrwydd model cyllido’r fframweithiau, gofynion o ran sgiliau hanfodol a’r gallu i gydnabod dysgu blaenorol.

30. Roedd yr ymatebion yn awgrymu bod angen i ni wneud defnydd gwell o wybodaeth am y farchnad lafur i gryfhau gweithgarwch blaengynllunio ar anghenion o ran sgiliau ar draws yr economi ac fesul rhanbarth. Mae angen mwy o ystwythder wrth ddiweddaru fframweithiau i adlewyrchu anghenion a gofynion newidiol diwydiant, pa un a yw’r rhain yn cael eu diffinio gan gymwysterau ynteu gan safonau galwedigaethol.

31. Roedd gwreiddio a chyd-destunoli llythrennedd, rhifedd a digidol fel rhan o hyfforddiant galwedigaethol yn thema allweddol. Roedd galwadau am symleiddio’r asesiad ac am wneud cymwysterau sgiliau hanfodol yn ddewisol i’r dysgwyr hynny y mae eu hangen arnynt.

32. Un o’r themâu a gododd drosodd a throsodd ar draws ystod o randdeiliaid oedd yr angen i ymdrin â’r diffyg parch cydradd canfyddedig rhwng cymwysterau galwedigaethol ac academaidd. Roedd awgrymiadau’n cynnwys bod prentisiaethau’n cael eu hyrwyddo, eu cydnabod a’u dathlu fel dewis sy’n gydradd â llwybrau academaidd o ran statws a chyfle, a rhannu astudiaethau achos a llwyddiannau yn barhaus. Fe awgrymodd ymatebwyr hefyd y gellid cryfhau cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd a hyrwyddo prentisiaethau fel opsiwn ac iddo statws uchel, a all fod yn ddewis cyntaf ochr yn ochr â llwybrau trydyddol eraill, yn lle bod yn ddewis eilaidd.

33. Roedd ymatebion yn gefnogol i gryfhau deilliannau prentisiaethau. Roedd rhai enghreifftiau o sut y gellid gwneud hyn yn cynnwys:

  • Bod cyflogaeth gynaliadwy’n brif ddeilliant i brentisiaid ochr yn ochr â chyflawni’r fframwaith prentisiaethau.    
  • Newid i fodel cyllido sy’n fwy seiliedig ar ddeilliannau.
  • Dull mwy holistaidd o fesur llwyddiant mewn prentisiaethau (cwblhau/cwblhau’n amserol, cyflogaeth barhaus, dilyniant, boddhad dysgwyr/cyflogwyr, ennill cymhwysedd, parodrwydd ar gyfer gwaith ac effaith economaidd).
  • Mesur meincnodau ansawdd trwy ddangosyddion cadarn. Mae Medr yn bwriadu ymgynghori ar ddangosyddion perfformiad trydyddol yn hydref 2026.

34. Roedd cefnogaeth gan ymatebwyr i fynd ati’n fwy i hyrwyddo cyfleoedd prentisiaeth a allai gynyddu’r niferoedd sy’n eu gwneud yn ddwyieithog a thrwy gydol y Gymraeg, gyda hynny’n cael ei gyd-destunoli i’w sectorau. Roedd cefnogaeth lawn i archwilio opsiynau i ehangu darpariaeth brentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar bob lefel i sicrhau dewis iaith ar gyfer dysgwyr. Roedd nifer o awgrymiadau gan ymatebwyr ynglŷn â sut y gellid gwneud hyn, ac roedd y rhain yn cynnwys, ymhlith eraill:

  • cynllunio strategol i fynd i’r afael â phrinderau tiwtoriaid, aseswyr a mentoriaid Cymraeg, yn enwedig mewn sectorau galwedigaethol.
  • cynnwys cynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg fel rhan o fframweithiau prentisiaethau a dyluniad y rhaglen fel egwyddor graidd.
  • cynyddu hyder trwy ddysgu fesul tipyn.
  • deunyddiau dwyieithog a deunyddiau asesu hygyrch.
  • dulliau seiliedig-ar-sectorau.

35. Roedd ymatebwyr yn cefnogi’r angen i harneisio talent unigolion o bob cefndir a gweithio’n rhagweithiol i ddileu unrhyw rwystrau i fynediad pobl at brentisiaethau trwy alluogi llwybrau hyblyg mwy cynhwysol. Fe adnabuwyd cymorth cymunedol ac allgymorth fel dull da i annog dysgwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n ddifreintiedig i ystyried prentisiaeth fel opsiwn gyrfa. Awgrymodd ymatebwyr eraill y gallai darparu trefn asesu hyblyg a chymorth cofleidiol gynyddu cyfranogiad a chynorthwyo dysgwyr o bob demograffeg i gwblhau eu prentisiaeth yn llwyddiannus. Awgrymodd eraill fod angen gwaith pellach i gyd-fynd yn fwy llawn â rhaglenni cyflogadwyedd a darpariaeth profiad gwaith i alluogi dysgwyr i gamu ymlaen at brentisiaeth. Awgrymodd ymatebwyr hefyd y gellid darparu hyfforddiant i gyflogwyr i godi ymwybyddiaeth. Mae angen gwaith pellach i archwilio opsiynau ar gyfer dysgwr a allai fod yn wynebu rhwystrau eraill i fynediad at brentisiaethau y tu hwnt i gylch gwaith uniongyrchol Medr, er enghraifft iaith, cludiant a gofal plant, fel bod y system yn ei chyfanrwydd yn gallu cynnig cyfleoedd mwy hygyrch a theg.

36. Roedd consensws llethol bod Prentisiaethau â Chymorth, y Cynllun Cymell i Gyflogwyr a Chymorth Dysgu Ychwanegol yn llwyddiannus ac y dylent barhau yn y rhaglen newydd.

37. Fe wnaeth ymatebion godi pwyntiau pellach a oedd yn gysylltiedig â gweithredu’r rhaglen brentisiaethau newydd a’i rheoli’n barhaus. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Cefnogi dysgwyr trwy ddefnydd gwell o dechnoleg.
  • Pennu strwythurau atebolrwydd eglur a diffinio rolau.
  • Gwneud trefniadau cyllido’n hyblyg ac yn ymatebol i anghenion sy’n dod i’r amlwg, gan alluogi arloesi ac addasu wrth i flaenoriaethau esblygu.
  • Ymchwil seiliedig-ar-dystiolaeth i oleuo polisi ac arfer, gan sicrhau bod penderfyniadau wedi’u gwreiddio mewn dadansoddiad cadarn.
  • Cynyddu argaeledd aseswyr terfynol, symleiddio prosesau dilysu, a chryfhau systemau cydnabod dysgu blaenorol.
  • Cryfhau cysylltiadau rhwng addysg bellach ac addysg uwch.

Camau nesaf

38. Y camau nesaf allweddol o ran datblygu a gweithredu’r rhaglen brentisiaethau newydd erbyn 2027 yw:

GweithgareddDyddiad
Cyhoeddi’r amserlen ar gyfer datblygu a gweithredu’r rhaglen brentisiaethau newydd gyda dyddiadau allweddol ar ymgysylltu pellach ynghylch dyluniad manyleb y rhaglen.Chwefror 2026
Ymgynghori ynghylch y model cyllido prentisiaethau newydd arfaethedig.Mai 2026
Digwyddiadau i brofi dyluniad manwl y Rhaglen Brentisiaethau newydd.Mai 2026
Ymgysylltu parhaus â chyflogwyr trwy ddigwyddiadau ac ymchwil i ddeall y galw am brentisiaethau, cyfleoedd i arloesi o ran cyflawni a dyluniad y rhaglen, sut y gallem ehangu’r sylfaen gyflogwyr i sicrhau ymgysylltu a chyfranogiad ehangach, a pha gymorth a chyfathrebu pellach y mae eu hangen i gynorthwyo cyflogwyr.Chwefror – Ebrill 2026
Ymgysylltu â dysgwyr i ddeall yn well beth sy’n gweithio’n dda a ble y ceir cyfleoedd i wella, gan gynnwys cyn eu prentisiaeth, yn ystod eu prentisiaeth ac unwaith y mae eu prentisiaeth wedi cael ei chwblhau.Mawrth – Mai 2026
Cyhoeddi manyleb y rhaglen a’r ddogfennaeth comisiynu â grant – gan wahodd darparwyr i gynnig am gyllid ar gyfer y rhaglen newydd.Medi 2026
Bydd y llyfrgell fframweithiau prentisiaethau newydd yn cael ei lansio.Awst 2027
Bydd y rhaglen brentisiaethau newydd yn dechrau.1 Awst 2027

Rhagor o wybodaeth

39. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cylchlythyr hwn at Heather Davidson, Pennaeth Prentisiaethau ([email protected]).

Medr/2026/08: Y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: Crynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriad

Dyddiad: 17 Chwefror 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/08

At:  Benaethiaid darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru; Darparwyr prentisiaethau cyfredol yng Nghymru / Deiliaid contract prentisiaeth wedi’u comisiynu; Cyrff cynrychioli cyflogwyr; Cyrff cynrychioli dysgwyr; Cynrychiolwyr addysg awdurdodau lleol

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn darparu crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ynghylch Rhaglen Brentisiaethau newydd Cymru o 1 Awst 2027, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2025.

Medr/2026/08 Y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: Crynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriad

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Medr/2026/07: Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2025/26: cyllid refeniw dysgu proffesiynol ychwanegol

Cyflwyniad

1. Ychwanegiad at Medr/2025/08: Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach Blwyddyn Academaidd 2025/26 yw’r ddogfen hon ac mae’n nodi dyraniadau cyllid refeniw dysgu proffesiynol ychwanegol ar gyfer sefydliadau addysg bellach.

2. Bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei dalu mewn un taliad llawn gyda’r taliad Interim ym mis Mawrth 2026.

3. Bydd y cyllid PLF ychwanegol o £65,000 yn cael ei ddyrannu i Sefydliadau AB fel a ddangosir yn y tabl isod.

DarparwrDyraniad PLF gwreiddiol yn 2025/26Dyraniad ychwanegolCyfanswm newydd y dyraniad PLF yn 2025/26
Addysg Oedolion Cymru£95,111£1,236£96,347
Coleg Penybont£248,410£3,229£251,639
Coleg Caerdydd a’r Fro£606,666£7,887£614,553
Coleg Cambria£606,117£7,880£613,997
Coleg Gwent£697,423£9,067£706,490
Coleg Sir Gâr£339,522£4,414£343,936
Coleg y Cymoedd£519,333£6,751£526,084
Coleg Gŵyr Abertawe£424,635£5,520£430,155
Grŵp Llandrillo Menai£594,502£7,728£602,230
Grŵp NPTC£400,313£5,204£405,517
Coleg Sir Benfro£196,777£2,558£199,335
Coleg Catholig Dewi Sant£113,067£1,470£114,537
Y Coleg Merthyr Tudful£158,124£2,056£160,180
£5,000,000£65,000£5,065,000

4. Mae’r cyllid yn ymwneud â’r cyfnod rhwng 01 Awst 2025 a 31 Gorffennaf 2026.

5. I gael rhagor o wybodaeth am sut y gellir gwario’r cyllid hwn gweler Medr/2025/08: Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach Blwyddyn Academaidd 2025/26.

6. Mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn darparu templed (Atodiad A) ar gyfer yr adroddiad interim y mae’n ofynnol i sefydliadau addysg bellach ei gyflwyno ar sut y mae gweithgarwch, a gyllidwyd â’r Cyllid Dysgu Proffesiynol, wedi cael ei gyflawni. Dylid cyflwyno adroddiadau interim erbyn 20 Chwefror 2026 i [email protected].

Medr/2026/07: Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2025/26: cyllid refeniw dysgu proffesiynol ychwanegol

Dyddiad:  11 Chwefror 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/07

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg bellach yng Nghymru

Ymateb erbyn:  20 Chwefror 2026

Crynodeb: Ychwanegiad at Medr/2025/08: Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach Blwyddyn Academaidd 2025/26 yw’r ddogfen hon ac mae’n nodi dyraniadau cyllid refeniw dysgu proffesiynol ychwanegol ar gyfer sefydliadau addysg bellach.

Bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei dalu mewn un taliad llawn gyda’r taliad Interim ym mis Mawrth 2026.

Medr/2026/07 Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2025/26: cyllid refeniw dysgu proffesiynol ychwanegol

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Medr/2026/06: Canllawiau i’w defnyddio gan Archwilwyr Mewnol wrth gynnal eu Harchwiliad Mewnol Blynyddol o Systemau a Phrosesau Data AU

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi canllawiau i archwilwyr mewnol sefydliadau addysg uwch (SAUau) a sefydliadau addysg bellach (SABau) a ariennir gan Medr ar gyfer darpariaeth addysg uwch, a elwir drwy’r ddogfen hon yn ddarparwyr addysg uwch (DAUwyr), i’w defnyddio wrth gynnal eu harchwiliad mewnol blynyddol o’r rheolaethau mewnol sy’n gysylltiedig â’r systemau a’r prosesau sydd ar waith i gynhyrchu ffurflenni data addysg uwch (AU), ac yn gofyn am gopi o’r adroddiad archwilio mewnol hwn ar gyfer pob DAU. Cyfeirir at CCAUC a Medr drwy gydol y cyhoeddiad hwn, yn dibynnu a yw’r data a’r prosesau yn hanesyddol neu’n gyfredol.

2. Yn flaenorol, comisiynwyd archwiliadau allanol o ddata addysg uwch gan CCAUC, cyn i CCAUC ddod yn rhan o Medr, fel bod DAUwyr yn cael eu harchwilio’n allanol o leiaf unwaith bob pedair blynedd. 2021/22 oedd blwyddyn olaf y contract a oedd gan CCAUC gydag archwilwyr allanol i wneud hyn felly yn Medr rydym yn parhau â’r broses dros dro a ddefnyddiwyd y llynedd yn lle archwiliadau allanol nes adolygu’r broses archwilio.

3. Ar gyfer 2026, bydd y broses yn cynnwys cyfarfod rhwng aelodau o dîm Ystadegau Addysg Uwch Medr â chysylltiadau data ym mhob PAU, i drafod eitemau fel canfyddiadau archwiliadau blaenorol, gweithrediad parhaus cofnod Myfyrwyr newydd yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), ac ansawdd data. Fel rhan o’r broses dros dro hon, bydd Medr yn parhau i ddibynnu ar y sicrwydd blynyddol a roddir i DAUwyr a’u Pwyllgorau Archwilio gan eu harchwilwyr mewnol ynghylch y systemau a’r prosesau a ddefnyddir i gynhyrchu ffurflenni data. Bydd dibynnu ar yr archwiliadau mewnol yn cynnal lefel ddigonol o sicrwydd blynyddol o ran ffurflenni data DAUwyr.

4. Bydd yr archwiliad mewnol yn rhoi barn ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd y rheolaethau sydd ar waith i reoli’r risgiau’n gysylltiedig â chywirdeb data a gyflwynir gan y DAU i HESA, Medr a Llywodraeth Cymru (LlC), gan gynnwys data a ddefnyddir i gyfrifo’r ffrydiau ariannu canlynol:

  • Cyllid addysgu (sy’n cynnwys cyllid y pen a chyllid premiwm ar hyn o bryd a chyllid israddedigion rhan-amser (RhA) yn seiliedig ar gredydau);
  • Cyllid ymchwil sy’n cynnwys cyllid Ymchwil o Ansawdd (YoA) a chyllid hyfforddiant Ymchwil Ôl-radd;
  • Cyllid Arloesi Ymchwil Cymru (CAYC);Cynllun hepgor ffioedd israddedigion rhan-amser Medr;Cyllid lles ac iechyd meddwl;
  • Cyllid Hil, Mynediad a Llwyddiant;
  • Cyllid cymorth cyflogadwyedd wedi’i dargedu;
  • Cronfa Ymchwil, Amgylchedd a Diwylliant Cymru;
  • Cyllid cyfalaf.

a’r data a ddefnyddir i fonitro’r ffrydiau ariannu canlynol:

  • Cynllun hepgor ffioedd israddedigion rhan-amser Medr;
  • Dyraniadau bwrsariaethau Meistr ar gyfer cyrsiau ôl-radd a addysgir;
  • Dyraniadau’r cynllun Prentisiaethau Gradd a ariennir gan Medr.

5. Dylai’r archwiliad mewnol hefyd roi sicrwydd ynghylch y rheolaethau sydd ar waith i sicrhau cywirdeb y data a ddefnyddir i fonitro perfformiad, gan gynnwys dangosyddion perfformiad allweddol fel y Mesurau Cenedlaethol, ac os yw’n berthnasol, data a gynhwysir gan DAUwyr yn rhan o ofynion adrodd cynlluniau ffioedd a mynediad.

6. Mae’r ddogfen hon yn rhoi canllawiau i’r archwilwyr mewnol ynghylch natur y rheolaethau y dylid rhoi sylw iddynt wrth archwilio , er mwyn asesu a yw’r systemau a’r prosesau’n ddigonol i ddarparu ffurflenni data cywir a data i’w defnyddio wrth ariannu a monitro, a hefyd i sicrhau bod archwiliadau mewnol sy’n digwydd ar draws y sector yn cael eu cynnal mewn modd cyson.

7. Os yw casgliad cyffredinol yr adroddiad archwilio mewnol, neu’r casgliadau ynghylch digonolrwydd dyluniad y dulliau o reoli a chymhwyso’r rheolaethau hynny, yn rhoi barn negyddol (e.e. sicrwydd cyfyngedig neu ddim sicrwydd o gwbl, rheolaethau anfoddhaol neu annigonol) ac/neu os yw’r adroddiad yn cynnwys nifer sylweddol o argymhellion, dylid hysbysu Medr cyn gynted ag y cytunir ar y farn. Bydd Medr wedyn yn cynnal ei asesiad ei hun o’r mater ac/neu’n comisiynu ei archwiliad allanol ei hun fel bo’n briodol. Byddai’r archwiliad allanol hwn yn ystyried cywirdeb data ar gyfer y cyfnod cyfredol a hefyd yn ystyried canfyddiadau’r archwilydd mewnol ac yn ceisio asesu maint y gwallau posibl yn y ffurflenni data a’r data a ddefnyddiwyd ar gyfer ariannu a monitro mewn cyfnodau blaenorol hyd at yr archwiliad allanol diwethaf. Gall canfyddiadau’r archwiliad allanol hwn arwain at addasiadau i gyllid a gellir cymryd camau pellach os canfyddir nad yw DAUwyr yn cydymffurfio â’u cynlluniau ffioedd a mynediad, y cod ymarfer ar gyfer casglu data ar yr ochr gyflenwi, neu’r cod rheoli ariannol.

Cwmpas yr Archwiliad

8. Bydd y ffordd y cynhelir gwaith archwilio mewnol a phrofion ar reolaethau ym mhob DAU yn dibynnu ar y systemau a’r rheolaethau sydd ar waith a’r modd y rhennir gwybodaeth o fewn y DAU. Fodd bynnag, disgwylir y bydd y gwaith archwilio mewnol yn cwmpasu’r elfennau a amlygir yn y ddogfen hon. Os canfuwyd mewn gwaith archwilio mewnol blaenorol fod y systemau a’r rheolaethau sydd ar waith yn foddhaol, efallai y bydd Pwyllgor Archwilio’r DAU yn ystyried ei bod yn briodol trafod meysydd lle ceir risg yn unig mewn archwiliadau dilynol. Yn benodol, oherwydd y risgiau cynyddol sy’n gysylltiedig â gweithredu rhaglen Dyfodol Data HESA yn 2022/23, drwy 2023/24 ac i mewn i gasgliadau 2024/25, byddem yn disgwyl gweld y maes gwaith hwn wedi’i gynnwys o fewn y cwmpas.

9. Cafodd rhaglen Dyfodol Data ei gweithredu ar gyfer cofnod myfyrwyr HESA 2022/23. Bu anawsterau wrth ddychwelyd data yn sgil oedi i ffwythiannau Platfform Data HESA, diweddariadau meddalwedd hwyr, y ffaith bod Jisc wedi cyflwyno rheolau ansawdd data yn hwyr a phroblemau eraill yn ystod y flwyddyn pan roddwyd y rhaglen ar waith. Yng ngoleuni hyn, ar gyfer cwmpas archwiliad 2025, ni wnaethom argymell y dylai archwilwyr archwilio’r broses o weithredu’r cofnod newydd yn fanwl ar gyfer 2022/23, na’r systemau a’r broses yn gysylltiedig â ffurflen 2022/23, ond yn hytrach rhoi barn ar y rheolaethau sydd ar waith i reoli risgiau sy’n ymwneud â’r cofnod o hyn allan, gan gynnwys cynlluniau i adolygu a/neu wella prosesau, dogfennau ac ansawdd data wrth symud ymlaen i ffurflen 2023/24. Profwyd anawsterau hefyd wrth ddychwelyd cofnod myfyrwyr 2023/24, a gallai hyn fod wedi golygu nad oedd darparwyr yn gallu gweithredu prosesau a gweithdrefnau newydd yn llawn ar gyfer eu systemau ar y pryd. Profwyd anawsterau hefyd wrth ddychwelyd cofnod myfyrwyr 2024/25. Fodd bynnag, mae darparwyr bellach yn symud tuag at brosesau mwy sefydlog er mwyn cynhyrchu’r ffurflen. Byddem yn disgwyl i archwilwyr ystyried yr anawsterau hyn yn eu gwaith, ac rydym yn disgwyl i archwilwyr gynnwys yn y cwmpas unrhyw ddiweddariadau a gymhwysir i systemau a phrosesau, ac i gofrestrau risg, ar ôl adolygu ffurflenni data myfyrwyr 2022/23, 2023/24 a 2024/25.

10. Dylai archwilwyr ganfod y prosesau a ddefnyddir i gynhyrchu ffurflenni data a gwybodaeth fonitro a’u cofnodi’n ddigonol fel bo modd cynnal gwerthusiad o ddigonolrwydd y rheolaethau presennol a ddefnyddir gan y DAU i sicrhau eu bod yn cynhyrchu ffurflenni data cywir, ac yn casglu data monitro mewn modd priodol. Mae enghreifftiau o’r rheolaethau y byddai disgwyl i’r archwiliad eu hasesu fel arfer wedi’u nodi ar gyfer yr holl ffrydiau ariannu cyfredol, ffurflenni data a meysydd archwilio eraill yn yr adrannau isod. Mae llawer o’r rheolaethau yn gyffredin i’r ffurflenni data ar gyfer pob maes archwilio. Fodd bynnag, nid yw pob maes archwilio yn berthnasol i bob DAU, a dylai archwilwyr gyfeirio at y paragraffau perthnasol.

11. Dylai archwilwyr nodi bod rhai meysydd lle gallai fod yn rhaid i DAUwyr ddychwelyd amcangyfrifon, lle nad yw’r wybodaeth yn hysbys ar adeg y ffurflen ddychwelyd neu nad yw’r wybodaeth ar gael ar y ffurf ofynnol. Gellir gwneud amcangyfrifon drwy ddefnyddio dulliau a awgrymir gan Medr yn ei ganllawiau, neu os yw’n briodol, gall DAUwyr ddefnyddio eu dulliau eu hunain. Lle gwneir amcangyfrifon, dylai archwilwyr adolygu’r dulliau a ddefnyddiwyd i’w cyfrifo, cadarnhau eu bod wedi’u cofnodi’n briodol, yn rhesymol, yn cael eu cymhwyso’n gyson a’u profi am ddibynadwyedd.

12. Os yw DAU ar ganol uno neu wedi uno’n ddiweddar ag un neu fwy o DAUwyr eraill, dylai’r archwilydd ganfod a oes gweithdrefnau wedi’u rhoi ar waith i integreiddio eu systemau data, neu i sicrhau fel arall fod modd cynhyrchu ffurflenni ar gyfer y DAU cyfun.

13. Wrth gynllunio’r archwiliad, dylai’r Archwilydd ystyried canfyddiadau a chasgliadau unrhyw adroddiadau archwilio allanol ac/neu fewnol sy’n ymwneud â systemau a ffurflenni data ar gyfer y DAU, ac unrhyw adroddiadau a gohebiaeth ddilynol â rheolwyr i asesu’r graddau y mae argymhellion yr adroddiadau wedi’u gweithredu. Disgwylir y bydd yr adroddiadau archwilio yn cyfeirio at ac yn gwneud sylwadau ynghylch y graddau y mae argymhellion a wnaed gan archwilwyr yn yr adroddiadau archwilio mewnol neu allanol blaenorol wedi’u gweithredu’n effeithiol.

14. Yn ogystal, dylid cyfeirio yn yr adroddiad at unrhyw broblemau neu wallau data a gyfeiriwyd yn uniongyrchol i sylw Medr gan y darparydd, neu a gafodd eu nodi a’u cyfleu gan Medr, ynghyd ag unrhyw gamau a gymerwyd i sicrhau bod systemau a phrosesau data wedi’u diwygio lle bo’n briodol i liniaru unrhyw wallau o’r fath yn y dyfodol. Fel yr eglurwyd ym mharagraff 9, cafwyd anawsterau wrth weithredu’r rhaglen Dyfodol Data. Arweiniodd hyn at sefyllfa lle cafodd gwallau lluosog eu fflagio, eu goddef neu eu gadael yn agored yn system rheoli materion cofnod myfyrwyr HESA Nid ydym yn disgwyl i archwilwyr adolygu’r gwallau hyn, ond argymhellwn y dylai unrhyw adolygiad o gofnod myfyrwyr HESA ar gyfer ffurflen 2024/25 ganolbwyntio yn hytrach ar gynlluniau darparwyr i adolygu’r gwallau hyn, ac unrhyw gamau y gallent eu cymryd i wella systemau a phrosesau wrth symud ymlaen i ffurflenni cofnodion myfyrwyr HESA yn y dyfodol.

15. Argymhellir bod staff archwilio mewnol sydd â rhywfaint o brofiad o’r sector AU a ffurflenni data cysylltiedig yn cymryd rhan yn yr ymweliadau â DAUwyr a gynhelir fel rhan o’r adolygiad, a bod archwilwyr yn cael eu briffio’n ddigonol am y canllawiau a geir yn y cyhoeddiad hwn cyn cynnal yr archwiliad. Yn ogystal â hynny, dylai archwilwyr sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r problemau a brofwyd drwy’r DU wrth weithredu Dyfodol Data yn 2022/23 ac unrhyw broblemau a brofwyd gan y darparydd ar gyfer ffurflenni 2023/24 a 2024/25. Gellir cael cyngor ac eglurhad ynghylch y canllawiau yn y cyhoeddiad hwn gan Medr drwy [email protected], ac mae staff Medr ar gael i gyfarfod â staff archwilio mewnol os oes angen.

Medr/2026/06: Canllawiau i’w defnyddio gan Archwilwyr Mewnol wrth gynnal eu Harchwiliad Mewnol Blynyddol o Systemau a Phrosesau Data AU

Dyddiad:  11 Chwefror 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/06

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach a ariennir gan Medr ar gyfer darpariaeth addysg uwch; Archwilwyr mewnol sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg bellach a ariennir gan Medr ar gyfer darpariaeth addysg uwch

Ymateb erbyn: 10 Gorffennaf 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi canllawiau i’w defnyddio gan Archwilwyr Mewnol wrth gynnal eu harchwiliad mewnol blynyddol o systemau a phrosesau data AU.

Medr/2026/06 Canllawiau i'w defnyddio gan Archwilwyr Mewnol wrth gynnal eu Harchwiliad Mewnol Blynyddol o Systemau a Phrosesau Data AU

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Medr/2026/05: Dyraniadau cyllid addysgu addysg uwch craidd ar gyfer Coleg Cambria 2025/26

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn hysbysu darparwyr am y dyraniadau cyllid addysgu addysg uwch craidd i Goleg Cambria ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, ac yn atodiad i’r dyraniadau cyllid addysg uwch a gyhoeddwyd ym mis Awst 2025 yng nghyhoeddiad Medr Medr/2025/06: Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Mae Coleg Cambria yn gymwys i gael cyllid gan Medr ar gyfer ei ddarpariaeth addysg uwch o flwyddyn academaidd 2025/26 gan fod ganddo gynllun ffioedd a mynediad cymeradwy o flwyddyn academaidd 2025/26.

Cyllid addysgu addysg uwch craidd

2. Mae cyllid addysgu addysg uwch craidd yn cynnwys:

  • Cyllid cyrsiau gradd rhan-amser yn seiliedig ar gredydau;
  • Cyllid fesul pen;
  • Premiwm mynediad a chadw;
  • Premiwm anabledd;
  • Premiwm pynciau drud;
  • Premiwm pynciau cost uwch;  
  • Premiwm cyfrwng Cymraeg.

Ceir rhagor o wybodaeth am y ffrydiau ariannu hyn yn Medr/2025/06.

3. Defnyddiwyd data a gasglwyd ar gofnod myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) 2023/24 ar gyfer Coleg Cambria wrth gyfrifo’r dyraniadau. Ceir rhagor o wybodaeth am y data a echdynnwyd ac a ddefnyddiwyd wrth gyfrifo yng nghyhoeddiad Medr Medr/2024/01: Gofynion Data Addysg Uwch 2024/25.

4. Rhoddir gwybod ar wahân am ffrydiau ariannu addysg uwch eraill y gallai Coleg Cambria fod yn gymwys ar eu cyfer.

Dyraniadau Coleg Cambria ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

5. Mae’r tabl canlynol yn dangos dyraniadau addysgu craidd Coleg Cambria ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26:

Ffrwd cyllidCyllid israddedig amser llawn (£)Cyllid israddedig rhan-amser
(£)
Cyfanswm cyllid addysgu craidd 2025/26 (£)
Cyllid israddedig rhan-amser yn seiliedig ar gredydau000
Cyllid fesul pen1325137
Y Premiwm Mynediad a Chadw0212212
Premiwm anabledd000
Premiwm pynciau drud000
Premiwm pynciau cost uwch16,668016,668
Y premiwm cyfrwng Cymraeg000
Cyfanswm16,80021717,017

Amserlen dalu

6. Yr amserlen dalu ar gyfer cyllid addysgu addysg uwch craidd ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 fel arfer yw talu 10% o’r cyllid i ddarparwyr ym mhob mis o’r flwyddyn heblaw am fis Chwefror a mis Mawrth. Felly, ar gyfer Coleg Cambria ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, bydd taliadau ar gyfer Awst 2025 i Ionawr 2026 (cyfanswm o 60%) yn cael eu talu gyda thaliad Ebrill 2026 a bydd 10% pellach yn cael ei dalu ym mis Ebrill, Mai, Mehefin a Gorffennaf 2026.

Rhagor o wybodaeth

7. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn i sylw Hannah Falvey ([email protected]).

Medr/2026/05: Dyraniadau cyllid addysgu addysg uwch craidd ar gyfer Coleg Cambria 2025/26

Dyddiad: 11 Chwefror 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/05

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn hysbysu darparwyr am y dyraniadau cyllid addysgu addysg uwch craidd i Goleg Cambria ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, ac yn atodiad i’r dyraniadau cyllid addysg uwch a gyhoeddwyd ym mis Awst 2025 yng nghyhoeddiad Medr Medr/2025/06:Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Medr/2026/05 Dyraniadau cyllid addysgu addysg uwch craidd ar gyfer Coleg Cambria 2025/26

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Cyflwyno cyrsiau prentisiaethau newydd yn y maes adeiladu yng Nghymru

Bydd prentisiaid uchelgeisiol ledled Cymru yn gallu elwa ar brentisiaethau adeiladu newydd cyn bo hir, a fydd yn helpu i lenwi’r bylchau sgiliau a nodwyd gan y diwydiant.

Ar ôl siarad â darparwyr prentisiaethau, diwydiant a dysgwyr, bydd llwybrau prentisiaethau Lefel 2 mewn gosod brics, gwaith coed ar safleoedd, sgaffaldio a chynnal a chadw adeiladau ar gael yn nes ymlaen eleni. Mae’r cyrsiau yn cael eu cyflwyno gan Medr ar ôl cael cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Ers 2022, mae’r fframwaith adeiladu ar gyfer prentisiaid wedi dechrau ar Lefel 3. Mae’r cyrsiau Lefel 2 newydd wedi’u creu mewn cydweithrediad â Cymwysterau Cymru a byddant yn darparu dewis ehangach i ddysgwyr, gan helpu hefyd i ddiwallu gofynion sgiliau’r sector.

Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol:

“Mae adeiladu yn sector hanfodol i economi Cymru, gyda gorffennol hir a llwyddiannus o ddefnyddio pŵer prentisiaethau er budd cyflogwyr, dysgwyr a’r dirwedd economaidd-gymdeithasol ehangach. Rydym wedi ymrwymo i gryfhau ei weithlu a’i biblinell sgiliau i fodloni uchelgeisiau adeiladu, tai ac ôl-osod.

“Mae galw amlwg am brentisiaethau adeiladu Lefel 2 yng Nghymru, ac mae’r llwybrau newydd a gyhoeddwyd yn brawf bod ein hymrwymiad i brentisiaethau yn parhau’n gadarn. Gall y sector fod yn hyderus bod Cymru’n adeiladu system fodern, hyblyg ar gyfer prentisiaethau sy’n canolbwyntio ar y dyfodol.”

Ychwanegodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:

“Rydym yn falch y bydd y prentisiaethau newydd hyn ar gael i ddiwallu anghenion cyflogwyr a dysgwyr ar gyfer llwybr hygyrch i yrfaoedd cynaliadwy yn y diwydiant adeiladu.

“Mae fframweithiau prentisiaethau ymatebol yn allweddol i’n huchelgeisiau i greu system drydyddol hyblyg a chydweithredol lle gall pawb gaffael y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer economi a chymdeithas sy’n newid.”

Dywedodd Ifan Glyn, Cyfarwyddwr Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr Gwledydd y DU a Chyfarwyddwr Cymru:

“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad hwn, gan ei fod yn adlewyrchu pryderon a godwyd gan adeiladwyr bach ledled Cymru. Mae cwmnïau bach, lleol yn hyfforddi’r mwyafrif helaeth o brentisiaid Cymru, felly mae mwy o hyblygrwydd mewn llwybrau prentisiaethau yn gam cadarnhaol tuag at fynd i’r afael â’r prinder sgiliau cynyddol sy’n wynebu’r sector.

“Mae arallgyfeirio llwybrau mynediad i’r gweithlu adeiladu hefyd yn cefnogi’r hyn y mae maniffesto Senedd 2026 yn ei alw amdano, felly mae’n braf gweld Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r diwydiant yn y modd hwn.”

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Pynciau astudio – y galw am feysydd pwnc, eu darpariaeth a’u dosbarthiad ar draws addysg uwch yng Nghymru

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Medr ei adroddiad ar y galw am feysydd pwnc, y ddarpariaeth ohonynt a’u dosbarthiad ar draws addysg uwch yng Nghymru.

Mae’r dadansoddiad yn yr adroddiad yn edrych ar y pynciau y mae myfyrwyr addysg uwch yn eu hastudio,  a hefyd yn edrych ar geisiadau Safon Uwch, data mynediad UCAS a data Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, fesul pwnc.

Cyflawnwyd y gwaith mewn ymateb i gais gan Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ac fe’i cyflwynwyd mewn ymateb i alwad am gynigion papur tystiolaeth Cyfranogiad Trydyddol a Chynaliadwyedd.

Pynciau astudio – y galw am feysydd pwnc, eu darpariaeth a’u dosbarthiad ar draws addysg uwch

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/04: Pynciau astudio – y galw am feysydd pwnc, eu darpariaeth a’u dosbarthiad ar draws addysg uwch yng Nghymru

Cyflwyniad

1. Fe wnaed y darn hwn o waith mewn ymateb i gais gan Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ar ddechrau 2025, i Medr ddarparu trosolwg o’r galw am feysydd pwnc, eu darpariaeth a’u dosbarthiad ar draws addysg uwch (AU) yng Nghymru. Mae’r dadansoddiad yn crynhoi darpariaeth pynciau AU yng Nghymru ac yn cynnwys dadansoddiad o’r cofrestriadau cyfredol yn ôl grŵp pynciau yn narparwyr addysg uwch (DAUwyr) Cymru, y duedd mewn cofrestriadau, cymhariaeth â’r DU, dadansoddiad rhanbarthol, dadansoddiad o astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, dadansoddiad o’r llif Safon Uwch i AU, ceisiadau UCAS a derbyniadau i AU yng Nghymru a chanlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021.

Crynodeb gweithredol

2. Ar y cyfan, mae dosbarthiad pynciau’r cofrestriadau AU yng Nghymru ar gyfer 2023/24 yn debyg i’r dosbarthiad pynciau ar gyfer y DU gyfan, a’r grwpiau pynciau lefel uwch â’r nifer uchaf o gofrestriadau yw Busnes a Rheoli, Pynciau perthynol i feddygaeth a’r Gwyddorau cymdeithasol ar gyfer Cymru a’r DU.

3. Ceir dosbarthiadau pynciau gwahanol ar gyfer dulliau a lefelau astudio gwahanol. Mae pynciau israddedig amser llawn poblogaidd yn cynnwys Busnes a rheoli, Y Gyfraith, Cyfrifiadura, Peirianneg, Nyrsio a bydwreigiaeth a Biowyddorau, tra bo Astudiaethau cyfunol a chyffredinol, Addysg ac addysgu, Iechyd a gofal cymdeithasol, Seicoleg a Pheirianneg yn boblogaidd ar gyfer astudio israddedig rhan-amser. Ar gyfer astudio ôl-radd amser llawn, Busnes a rheoli yw’r grŵp pynciau mwyaf poblogaidd o bell ffordd. Ar gyfer astudio ôl-radd rhan-amser, Busnes a rheoli, Addysg ac addysgu, Nyrsio a bydwreigiaeth a Pherthynol i iechyd sydd â’r mwyaf o gofrestriadau.

4. Ceir cyfrannau uwch o lawer o fyfyrwyr sy’n hanu o dramor ar gyfer darpariaeth ôl-radd, nag ar gyfer darpariaeth israddedig. Ar gyfer grwpiau pynciau â thros 1,000 o gofrestriadau yn 2023/24, gwelir cyfrannau arbennig o fawr ar gyfer darpariaeth ôl-radd amser llawn mewn Busnes a rheoli (94%), Cyfrifiadura (84%),  Peirianneg (79%) a Pherthynol i iechyd (72%).

5. Mae gan rai grwpiau pynciau gyfrannau uchel o gofrestriadau o weddill y DU, megis Ieithoedd ac astudiaethau ardal, Economeg, Daearyddiaeth, astudiaethau’r ddaear ac amgylcheddol a Gwleidyddiaeth, Ffiseg a seryddiaeth a’r Biowyddorau, mae y rhain oll a dros 70% o fyfyrwyr o weddill y DU ar gyfer darpariaeth gradd israddedig amser llawn.

6. Y Brifysgol Agored yng Nghymru sy’n dominyddu darpariaeth israddedig ran-amser gan roi cyfrif am dros hanner o’r holl ddarpariaeth israddedig ran-amser yn 2023/24. Roedd darpariaeth israddedig nad yw’n radd yn fwyaf tebygol o gael ei hastudio’n rhan-amser, ac roedd rhai pynciau’n llawer mwy tebygol o gael eu hastudio’n rhan-amser, megis Astudiaethau cyfunol a chyffredinol.

7. Ar y cyfan, fe gynyddodd nifer y cofrestriadau yn DAUwyr Cymru 14% dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Mae hyn yn is na ffigwr y DU, sef 25%. Fodd bynnag, mae cofrestriadau mewn rhai meysydd pwnc wedi gostwng yn sylweddol dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Mae meysydd sy’n achos pryder arbennig ar gyfer darpariaeth gradd israddedig amser llawn yn cynnwys Ieithoedd ac astudiaethau ardal, Addysg ac addysgu, Dylunio, a’r celfyddydau creadigol a pherfformio, Gwyddorau ffisegol a Gwyddorau mathemategol, oll a gostyniadau o 20% neu fwy yn y cofrestriadau. Mewn cyferbyniad, mae cofrestriadau ar gyfer gradd israddedig amser llawn mewn Meddygaeth a deintyddiaeth, Pynciau perthynol i feddygaeth, Cyfrifiadura, Pensaernïaeth, adeiladu a chynllunio, Gwyddorau cymdeithasol a’r Gyfraith wedi cynyddu o dros 20% neu fwy o gofrestriadau.

8. Ar gyfer darpariaeth ôl-radd a addysgir amser llawn, gwelwyd cynnydd cyfrannol mawr mewn cofrestriadau mewn Pynciau perthynol i feddygaeth, Gwyddorau ffisegol, Gwyddorau mathemategol a Chyfrifiadura. Gwelwyd gostyngiadau mewn Ieithoedd ac astudiaethau ardal ac Astudiaethau hanesyddol, athronyddol a chrefyddol.

9. O’i gymharu â’r DU gyfan, mae gan Gymru gyfrannau is o gofrestriadau gan fyfyrwyr tramor, a chyfrannau uwch nag y gellid eu disgwyl o ddarpariaeth ran-amser ac israddedig nad yw’n radd.

10. Mae cyfran Cymru o gofrestriadau ymchwil ôl-radd amser llawn yn DAUwyr y DU wedi gostwng ar y cyfan rhwng 2019/20 a 2023/24, er bod cofrestriadau ymchwil ôl-radd ran-amser wedi cynyddu dros yr un cyfnod. Ar gyfer darpariaeth ymchwil ôl-radd amser llawn, mae’r gyfran o gofrestriadau yn DAUwyr y DU wedi bod islaw 4% am y pedair blynedd ddiwethaf, pan fo gan gofrestriadau ar y cyfan yn DAUwyr Cymru gyfran o ychydig dros 5%. Caiff y gyfran isel o gofrestriadau ymchwil ôl-radd amser llawn a niferoedd bychain y myfyrwyr ymchwil ôl-radd mewn rhai grwpiau pynciau eu hadlewyrchu i ryw raddau yng nghanlyniadau REF 2021 ar gyfer Cymru.

11. Mae gan Gymru gyfran uwch na’r disgwyl o gofrestriadau yn DAUwyr y DU mewn rhai pynciau, gan gynnwys Gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff, Astudiaethau cyfunol a chyffredinol, Iechyd a gofal cymdeithasol a Biowyddorau.

12. Ar gyfer y rhan fwyaf o bynciau, roedd nifer y myfyrwyr sy’n hanu o Gymru a oedd yn aros yng Nghymru i astudio yn fwy na niferoedd y rhai a oedd yn astudio yng ngweddill y DU. Mae’r eithriadau’n cynnwys Meddygaeth a deintyddiaeth, Gwyddorau milfeddygol, Cerddoriaeth a Chelfyddydau perfformio eraill.

13. Ceir ardaloedd lle mae’r galw am ddarpariaeth israddedig amser llawn gan fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru’n fwy na’r cyflenwad yn DAUwyr Cymru o leoedd ar gyfer myfyrwyr cartref. Mae’r rhain yn cynnwys y Gwyddorau milfeddygol, Celfyddydau creadigol a dylunio, Cerddoriaeth, Celfyddydau perfformio eraill, Gwyddorau cyffredinol, cymhwysol a fforensig, a Deunyddiau a thechnoleg.

14. Mae darpariaeth yng Nghymru wedi’i chrynhoi yn ne’r wlad, ac fe geir rhai pynciau sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd yn unig. Mae poblogaeth Cymru hefyd yn fwy yn y de, ond nid yw’r ddarpariaeth wedi’i dosbarthu’n gyfartal yn ôl y boblogaeth leol. Mae rhai pynciau, megis Peirianneg a Deunyddiau a thechnoleg yn Ne Orllewin Cymru, wedi’u crynhoi mewn lleoliadau penodol. Mae rhai pynciau bregus wedi’u lleoli mewn darparwyr bychain megis Ieithoedd ac astudiaethau ardal ym Mhrifysgol Aberystwyth.

15. Mae’r rhan fwyaf o ddarpariaeth wedi’i lleoli yn y naw prifysgol yng Nghymru, a Phrifysgol Caerdydd yw’r DAU mwyaf. Mae symiau llai o ddarpariaeth ar gael mewn colegau addysg bellach a darparwyr amgen. Mae’r ddarpariaeth hon ar gael naill ai’n uniongyrchol gan y coleg neu ddarparwr amgen, gyda phrifysgol neu sefydliad arall yn dyfarnu’r cymhwyster, neu mae’n cael ei chynnig yn y darparwr trwy drefniant breiniol gyda phrifysgol. Mae’r trefniadau hyn yn darparu cyfleoedd lleol ar gyfer rhai pynciau mewn ardaloedd nad oes ganddynt brifysgol ac maent yn cynnig cyfleoedd dilyniant i’r rhai sy’n astudio ar lefel 3 mewn colegau.

16. Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi’i chrynhoi mewn rhaglenni astudio israddedig amser llawn, heb ryw lawer o ddarpariaeth ar lefel ôl-radd. Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi’i chrynhoi mewn pynciau penodol hefyd megis Astudiaethau Celtaidd (fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl o ystyried bod hyn yn cynnwys y Gymraeg a llenyddiaeth Cymru), Addysg ac addysgu, Amaeth, bwyd ac astudiaethau cysylltiedig a Dylunio, a’r celfyddydau creadigol a pherfformio. Fodd bynnag, mae’r niferoedd yn isel ac mae cyfrannau’r siaradwyr Cymraeg rhugl sy’n dewis peth darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn fach mewn rhai meysydd pwnc.

17. Mae’r llif i AU o blith y rhai sy’n cwblhau Safon Uwch yn adlewyrchu rhai o’r gostyngiadau a welwyd mewn cofrestriadau ar lefel israddedig. Mae gwaith yn cael ei wneud yn Medr i archwilio’r lleihad mewn dilyniant rhwng cymwysterau Uwch Gyfrannol ac A2 a allai ddarparu peth mewnwelediad i hyn.

18. Ar gyfer newydd-ddyfodiaid israddedig sy’n gwneud cais trwy UCAS, mae myfyrwyr sy’n hanu o Gymru’n fwy tebygol o gael eu derbyn i DAUwyr Cymru ar gyfer y rhan fwyaf o bynciau, sy’n debygol o fod i’w briodoli i’r ffaith bod myfyrwyr sy’n hanu o Gymru’n ffafrio DAUwyr Cymru yn eu ceisiadau. Fodd bynnag, mae nifer y derbyniadau mewn rhai pynciau’n golygu bod rhai pynciau’n cael eu dominyddu gan newydd-ddyfodiaid o weddill y DU. Mae hyn yn cynnwys Economeg, Ieithoedd ac astudiaethau ardal, Biowyddorau, Cemeg a Daearyddiaeth, astudiaethau’r ddaear ac amgylcheddol lle gwelir dros 70% wedi eu derbyn o weddill y DU.

19. Roedd niferoedd y staff cyfwerth ag amser llawn (CagALl) a gyflwynwyd i ymarfer REF 2021 ar gyfer Cymru’n rhoi cyfrif am 3.9% o gyfanswm y DU, sy’n is nag a ddisgwylid o bosibl, ac mewn rhai meysydd pwnc roedd niferoedd y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflwynwyd yn fach iawn.

Medr/2026/04: Pynciau astudio – y galw am feysydd pwnc, eu darpariaeth a’u dosbarthiad ar draws addysg uwch yng Nghymru

Dyddiad:  06 Chwefror 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/04

At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol

Crynodeb: Mae’r adroddiad yn darparu trosolwg o’r galw am feysydd pwnc, eu darpariaeth a’u dosbarthiad ar draws addysg uwch (AU) yng Nghymru. 

Medr/2026/04 Pynciau astudio – y galw am feysydd pwnc, eu darpariaeth a'u dosbarthiad ar draws addysg uwch yng Nghymru

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio