Medr yn darparu bron i £5 miliwn ar gyfer 12 o brosiectau cydweithredol ledled Cymru

Bydd 12 o brosiectau ledled Cymru yn cael budd o werth £4.75 miliwn o gyllid gan Medr ar gyfer archwilio ffyrdd newydd o weithio ar draws sefydliadau addysg drydyddol a ffiniau daearyddol, gan arwain at sector mwy cydlynol a chydweithredol. 

Cyhoeddwyd y Gronfa Datblygu Strategol ym mis Hydref gan Medr, sy’n cyllido ac yn rheoleiddio’r sector addysg drydyddol yng Nghymru, er mwyn annog mwy o gydweithio a chefnogi prosiectau sy’n cyfrannu at o leiaf un o nodau strategol Medr. Gwahoddwyd ceisiadau gan brifysgolion, colegau addysg bellach, awdurdodau lleol neu ddarparwyr prentisiaethau a gyllidir yn uniongyrchol gan Medr ac a allai gydweithio ag eraill yn ehangach fel partneriaid arweiniol.

Cafwyd cryn dipyn o ddiddordeb o bob cwr o Gymru ac, yn dilyn gwerthusiad cadarn, y prosiectau sydd wedi llwyddo i gael cyllid yw:

ArweinyddPartneriaidProsiect
Coleg CambriaPrifysgol WrecsamPartneriaeth Sgiliau Gogledd-ddwyrain Cymru Hyb Sgiliau Uwch – prosiect i gynnal cyrsiau byr er mwyn mynd i’r afael â phrinder sgiliau rhanbarthol ym meysydd technolegau digidol, sgiliau gwyrdd, technolegau sy’n datblygu, gweithgynhyrchu uwch a’r sector cyhoeddus.
Grŵp Colegau NPTCPedwar coleg; darparwyr dysgu seiliedig ar waith; partneriaid mewn diwydiantPartneriaeth y Porthladd Rhydd Celtaidd – prosiect rhanbarthol i drawsnewid y cwricwlwm mewn perthynas ag ynni glân.
Cyngor CaerdyddColeg Caerdydd a’r Fro, Coleg Catholig Dewi Sant a Chyngor Bro MorgannwgDatgloi Potensial Ôl-16 – prosiect i ddatblygu cynnig addysg ôl-16 unedig drwy gyflwyno cydweithredol gan nifer o bartneriaid yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Prifysgol Metropolitan CaerdyddColeg Penybont ac ALS TrainingLlwybrau Addysg Drydyddol Hyblyg ar gyfer Uwchsgilio ac Ailsgilio Dysgwyr yng Nghymru – prosiect i dreialu microgymwysterau ar gyfer y diwydiant technoleg ariannol a’r diwydiannau creadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Prifysgol De CymruColeg Penybont, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg y Cymoedd, Coleg Gwent, Y Coleg Merthyr Tudful a Chynghrair Sgrin CymruMynd i’r Afael â Bylchau o ran Sgiliau a Phrinder Llafur mewn Ardaloedd Cyflogaeth Allweddol – dull cydlynol integredig o ymgysylltu â darpar ddysgwyr mewn ardaloedd o angen economaidd.
Prifysgol WrecsamPrifysgol Bangor, Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo MenaiLlwybrau Llwyddiant – prosiect i wella cyfraddau cyfranogiad a chynnydd dysgwyr mewn addysg bellach ac addysg uwch drwy hyrwyddo gyrfaoedd a chyfleoedd addysgol i ddysgwyr.
Coleg Catholig Dewi SantArchesgobaeth Caerdydd-Mynyw a Gwasanaeth Addysg yr Eglwys GatholigY Coleg Catholig Cenedlaethol – prosiect i ffurfioli strwythur y Coleg Cenedlaethol fel rhwydwaith cydweithredol o ddarparwyr addysg ôl-16 Gatholig, dan arweiniad Coleg Dewi Sant, ac ehangu mynediad at sefydliadau nad ydynt yn Gatholig a sefydliadau gwledig, yn enwedig y rhai â dewis neu leoedd cyfyngedig o ran cymwysterau Safon Uwch.
Coleg Gŵyr AbertaweColeg Sir Benfro, Coleg Gwent, Stable a MicrosoftY Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Sgiliau Digidol – prosiect i hyfforddi staff addysgu i gyflwyno cymwysterau technoleg ddigidol a gydnabyddir gan ddiwydiant a datblygu hyb cydweithio digidol, a gynhelir gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Sgiliau Digidol, er mwyn bodloni’r gofynion o fewn swyddi a hwylusir gan dechnoleg, a hwyluso partneriaethau cryfach â chyflogwyr mewn diwydiannau ledled Cymru. 
Y Brifysgol Agored yng NghymruY Brifysgol Agored yng Nghymru; Y Sefydliad Dysgu a Gwaith; Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; Cymdeithas Dai Trivallis; Addysg Oedolion Cymru; ALS Training Ltd; Prifysgol De Cymru;  TUC CymruLlwybrau – gan ddefnyddio model gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar gyd-ddylunio llwybr ehangu cyfranogiad y bydd y dysgwr yn greiddiol iddo, ac yn profi model asesu ac atgyfeirio.
Coleg GwentY Brifysgol Agored yng NghymruGain4Growth Cymru: Grymuso Dysgwyr, Gwella Deilliannau – bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar brosiect llwyddiannus gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, gan dreialu rhaglen gydweithredol ar gyfer Cymru gyfan i wella deilliannau, cymorth academaidd a gwaith datblygu sgiliau ar gyfer myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar raglenni gradd a gyflwynir mewn amgylcheddau addysg uwch mewn colegau.  
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon TafNifer o ysgolion yng NghymruCyfleoedd+ – prosiect i wella arweinyddiaeth strategol a dewis a phrofiad i ddysgwyr ym maes addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg ledled ardaloedd cynghorau bwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae cais 12 wedi’i gymeradwyo ond yn ddibynnol ar wiriadau pellach.Manylion i ddilyn

Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:

“A ninnau’n un o’r cyrff addysg drydyddol cyntaf yn y byd, mae’n newyddion gwych ein bod wedi llwyddo i gefnogi amrywiaeth o brosiectau cydweithredol arloesol er budd dysgwyr ledled Cymru.

“Gwnaeth amrywiaeth, uchelgais ac ansawdd y cynigion a gawsom gryn argraff arnom, ac edrychwn ymlaen at werthuso effaith y prosiectau llwyddiannus.    

“Mae’r prosiectau hefyd yn dangos yr awydd am fwy o gydweithio, gan helpu i ddatgloi potensial sector sy’n fwy na chyfanswm ei rannau.”

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:

“Sefydlwyd Medr yn 2024 gyda mandad clir i gyflawni ar gyfer dysgwyr a gwneud y gorau o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil rheoleiddio a chyllido’r sector ôl-16 cyfan. Mae helpu darparwyr addysg drydyddol i gydweithio’n fwy effeithiol yn amcan allweddol i Medr ei gyflawni.

“Mae’r prosiectau hyn yn dangos beth yn union y gall y dull hwnnw ei gyflawni: prifysgolion, colegau ac awdurdodau lleol yn cydweithio â’i gilydd i greu cyfleoedd newydd ar gyfer dysgwyr ym mhob cwr o Gymru. Rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau’r partneriaethau hyn.”

Cronfa Datblygu Strategol Ôl-16 – ceisiadau llwyddiannus

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/03: Cronfa Datblygu Strategol Ôl-16 – ceisiadau llwyddiannus

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu’r ceisiadau llwyddiannus am gyllid o’r Gronfa Datblygu Strategol Ôl-16.

2. Mae £4.75 miliwn ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 a chawsom 48 o geisiadau a oedd yn werth cyfanswm o fwy na £14 miliwn.

3. Cyfanswm gwerth y ceisiadau llwyddiannus yw £4.92 miliwn a’r rhagdybiaeth yw y ceir tanwariant o’r 12 cais llwyddiannus. Mae Bwrdd Medr wedi cymeradwyo risg o £177k.

Cefndir

4. Diben y cyllid hwn yw annog mwy o gydweithio yn y sector addysg drydyddol. Mae’r broses gwneud cais wedi galluogi Medr i gasglu rhagor o wybodaeth am yr angen am fuddsoddi strategol ym mhob rhan o’r sector.

5. Roedd y Gronfa yn chwilio am geisiadau i fyddai’n mynd i’r afael â’r canlynol:

  • Cydweithio – prosiectau sy’n dangos cydweithio ym mhob rhan o’r sector addysg drydyddol rhwng o leiaf ddau sefydliad.
  • Newydd – prosiectau sy’n cynnwys gweithgarwch newydd ac nad yw’r un rhan ohonynt wedi dechrau’n barod.
  • Strategol – prosiectau sy’n gysylltiedig ag uchelgeisiau strategol Medr.

Ceisiadau a ddaeth i law

6. Nodwyd yn y cyhoeddiad gwreiddiol ei bod yn rhaid i’r partner arweiniol sy’n cyflwyno’r cais fod yn brifysgol, yn sefydliadau addysg bellach, yn awdurdod lleol neu’n ddarparwr prentisiaethau a gyllidir yn uniongyrchol gan Medr. Gall sefydliadau eraill sy’n gweithio yn y sector addysg drydyddol yng Nghymru gael eu cynnwys fel partneriaid cydweithredol. O’r 48 o geisiadau a ddaeth i law, cawsom geisiadau gan bartneriaid arweiniol o bob rhan o’r sector addysg drydyddol a oedd yn cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau partner, megis cyflogwyr, undebau llafur a phartneriaethau sgiliau rhanbarthol.

7. Sefydlodd Medr banel i sgorio’r ceisiadau. Gwnaeth y system sgorio ystyried sut y byddai’r prosiectau’n mynd i’r afael â’r elfennau canlynol:

  1. Cydweithio rhwng darparwyr,
  2. Torri tir newydd,
  3. Nodau strategol Medr,
  4. Strwythurau llywodraethu,
  5. Tystiolaeth o angen,
  6. Amserlenni arfaethedig,
  7. Cynnwys dysgwyr ac undebau llafur,
  8. Costau arfaethedig,
  9. Deilliannau a phethau i’w cyflawni,
  10. Cynaliadwyedd.

Ceisiadau llwyddiannus

8. Mae’r ceisiadau llwyddiannus fel a ganlyn:

Sefydliad arweiniolPartneriaidProsiectSwm y cais
Coleg CambriaPrifysgol WrecsamHyb Sgiliau Uwch Partneriaeth Sgiliau Gogledd-ddwyrain Cymru – Bwriedir i’r Hyb Sgiliau Uwch sicrhau cyflenwad sgiliau integredig o ddarpariaeth cyrsiau byr a fydd yn amrywio o hyfforddiant galwedigaethol Lefel 2 i gymwysterau ôl-raddedig Lefel 7, gan ganolbwyntio’n benodol ar fynd i’r afael â phrinder sgiliau rhanbarthol difrifol mewn meysydd fel technolegau digidol, sgiliau gwyrdd a thechnolegau sy’n datblygu, yn ogystal â gweithgynhyrchu uwch ochr yn ochr â gofynion sgiliau’r sector cyhoeddus a diwydiant yn ehangach.£257,100
Grŵp Colegau NPTCColeg Sir Gâr, Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Sir Benfro, partneriaid ym maes dysgu seiliedig ar waith ac mewn diwydiantPartneriaeth y Porthladd Rhydd Celtaidd: Trawsnewid y Cwricwlwm yn Rhanbarthol ar gyfer Ynni Glân – Mae’r cais hwn yn cynnig prosiect cydweithredol i drawsnewid y cwricwlwm a fydd yn cynnwys pedwar coleg addysg bellach ac a gaiff ei gydgysylltu gan Gyfarwyddwr Sgiliau’r Porthladd Rhydd.£550,000
Cyngor CaerdyddColeg Caerdydd a’r Fro, Coleg Catholig Dewi Sant a Chyngor Bro MorgannwgDatgloi Potensial Ôl-16: Sicrhau Mynediad Teg drwy Ddarpariaeth Gydweithredol Ledled Caerdydd a’r Fro – Bydd y prosiect hwn yn datblygu cynnig addysg ôl-16 unedig drwy gyflawni ar y cyd gan nifer o bartneriaid yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.£566,000
Prifysgol Metropolitan CaerdyddColeg Penybont ac ALS TrainingLlwybrau Addysg Drydyddol Hyblyg ar gyfer Uwchsgilio ac Ailsgilio Dysgwyr yng Nghymru – Bydd y prosiect hwn yn sefydlu consortiwm addysg drydyddol dan arweiniad Prifysgol Metropolitan Caerdydd mewn partneriaeth â Choleg Penybont ac ALS Training i dreialu’r gwaith o gyflwyno microgymwysterau pentyradwy ar Lefel 4 a Lefel 5 ar gyfer y diwydiant technoleg ariannol a’r diwydiannau creadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ei nod fydd atgyfnerthu gallu’r system addysg drydyddol i ymateb yn hyblyg i ofynion diwydiant a dysgwyr, gan sicrhau y gall dysgwyr o bob oed fanteisio ar gyfleoedd perthnasol o ansawdd da i ddatblygu sgiliau gan ddefnyddio modiwlau gradd-brentisiaethau a modiwlau annibynnol sydd eisoes yn bodoli. £151,572
Prifysgol De CymruColeg Penybont, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg y Cymoedd, Coleg Gwent, Y Coleg Merthyr Tudful a Chynghrair Sgrin CymruSgiliau’r Dyfodol: Mynd i’r Afael â Bylchau o ran Sgiliau a Phrinder Llafur mewn Meysydd Cyflogaeth Allweddol – Mae prosiect Sgiliau’r Dyfodol, sef prosiect cydweithredol newydd a fydd yn cynnwys chwe sefydliad a nifer o asiantaethau, yn cynnig dull cydlynol ac integredig o ennyn diddordeb darpar ddysgwyr mewn pynciau â phrinder a meysydd cyflogaeth sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau ymchwil ac arloesi ac yn eu hategu.£595,000
Prifysgol WrecsamPrifysgol Bangor, Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo MenaiLlwybrau Llwyddiant – Mae’r prosiect newydd hwn yn cynnig y gallu i dyfu yn unol â’r anghenion, gan wella cyfraddau cyfranogiad a chynnydd dysgwyr mewn addysg bellach ac addysg uwch drwy hyrwyddo gyrfaoedd a chyfleoedd addysgol i ddysgwyr.£803,511
Coleg Catholig Dewi SantArchesgobaeth Caerdydd-Mynyw a Gwasanaeth Addysg yr Eglwys GatholigY Coleg Catholig Cenedlaethol (enw gweithredol) – Bydd y prosiect arfaethedig yn ffurfioli strwythur y Coleg Cenedlaethol fel rhwydwaith cydweithredol o ddarparwyr addysg ôl-16 Gatholig, dan arweiniad Coleg Dewi Sant, ac yn ehangu mynediad at sefydliadau nad ydynt yn Gatholig a sefydliadau gwledig, yn enwedig y rhai â dewis neu leoedd cyfyngedig o ran cymwysterau Safon Uwch. Bydd yn atgyfnerthu prosesau sicrhau ansawdd ym mhob rhan o ddarpariaeth addysg ôl-16 Gatholig drwy ddysgu proffesiynol a rennir, adolygu gan gymheiriaid, a chynllunio’r cwricwlwm ar y cyd. Bydd hyn yn cynnwys creu fframwaith sicrhau ansawdd trosfwaol a fydd yn canolbwyntio ar safonau academaidd a chysoni’r dull strategol hwn â thegwch, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a chynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd y prosiect yn datblygu addysgeg ar-lein arbennig a fydd yn helpu athrawon i gynnal gweithgareddau dysgu digidol o ansawdd da.£225,000
Coleg Gŵyr AbertaweColeg Sir Benfro, Coleg Gwent, Stable a MicrosoftY Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Sgiliau Digidol – Bydd y prosiect yn hyfforddi 15 o aelodau o staff addysgu gwahanol bartneriaid i gyflwyno cymwysterau technoleg ddigidol a gydnabyddir gan ddiwydiant.  Y bwriad yw gwreiddio modiwlau newydd wedi’u hardystio gan Microsoft mewn tri o feysydd y cwricwlwm erbyn mis Gorffennaf 2026. Bydd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Sgiliau Digidol yn datblygu ac yn cynnal hyb cydweithio digidol byw. Bydd hyn yn helpu i wella setiau sgiliau addysgu a chyflwyno’r cwricwlwm er mwyn bodloni’r gofynion o fewn swyddi a hwylusir gan dechnoleg a’r gofynion mewn diwydiant, a hwyluso partneriaethau cryfach â chyflogwyr mewn diwydiannau ledled Cymru. £310,324
Y Brifysgol Agored yng NghymruY Brifysgol Agored yng Nghymru, Y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cymdeithas Dai Trivallis, Addysg Oedolion Cymru, ALS Training Ltd, Prifysgol De Cymru, TUC CymruLlwybrau – Gan ddefnyddio model gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar gyd-ddylunio llwybr ehangu cyfranogiad sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, a’i nod fydd dangos effeithiolrwydd model asesu ac atgyfeirio a fydd yn gallu tyfu’n unol â’r anghenion ac a fydd yn canolbwyntio ar y dysgwr. £359,850
Coleg GwentY Brifysgol AgoredGain4Growth Cymru: Grymuso Dysgwyr, Gwella Deilliannau – Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar brosiect llwyddiannus gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar arferion gorau ym maes arloesi, ac mae’n ceisio cyllid i wella a threialu rhaglen gydweithredol ar gyfer Cymru gyfan i wella cynnydd addysgol, cymorth academaidd a gwaith datblygu sgiliau ar gyfer myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar raglenni gradd a gyflwynir mewn amgylcheddau addysg uwch mewn colegau. Bydd yn creu systemau cymorth cydgysylltiedig, adnoddau a rennir, a chyfleoedd i ddarparwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd a fydd yn mynd y tu hwnt i ddarpariaeth safonol, gan sicrhau y bydd dysgwyr mewn amgylcheddau addysg uwch mewn colegau yn cael mynediad teg at gyfleoedd cyfoethogi academaidd, cymorth i fod yn barod ar gyfer gyrfaoedd, a llwybrau datblygu personol.£201,600
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon TafNifer o Ysgolion yng NghymruCyfleoedd+, Arweinyddiaeth Strategol ar gyfer Addysg Ôl-16 Cyfrwng Cymraeg ledled Ardaloedd Cynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr – Bydd y prosiect yn gwella arweinyddiaeth strategol ym maes addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg ac yn gwella dewis a phrofiad i ddysgwyr yn fawr. Bydd yn meithrin gallu a chynaliadwyedd drwy fynd ati mewn modd strategol a chydweithredol i sicrhau a lledaenu ymarfer effeithiol ac effeithlon a dysgu proffesiynol wedi’i dargedu. Bydd y prosiect yn datblygu modelau cwricwlwm ôl-16 hybrid o ansawdd da a fydd yn gallu tyfu yn unol â’r anghenion ac a fydd yn ymatebol i ofynion a dewis dysgwyr, ac yn atgyfnerthu llwybrau dilyniant, gan gysoni ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, a diwydiant.£375,000
Mae cais 12 wedi’i gymeradwyo ond yn ddibynnol ar wiriadau pellach. £530,000
£4,924,957

9. Mae’r ceisiadau llwyddiannus yn werth cyfanswm o £4.92 miliwn.

Monitro

10. Bydd yn ofynnol cwblhau adroddiad prosiect interim hanner ffordd drwy bob prosiect ac adroddiad prosiect terfynol ar y diwedd, gan ddefnyddio’r templedi yn Atodiadau A a B.

11. Un o’r amodau cyllido yw bod disgwyl i wersi a ddysgir o brosiectau gael eu rhannu. O’r gwaith monitro a nodir yn Atodiadau A a B, byddwn yn canfod gwersi a ddysgwyd ac yn eu rhannu drwy’r rhwydwaith cyfan. Yn ychwanegol at hynny, byddem yn croesawu ceisiadau ar gyfer prosiectau sy’n nodi sut y byddech yn lledaenu’r gwersi a ddysgir gennych.

Amserlen

12. Amserlen ar gyfer y prosiectau:

Taliad60%: 20 Chwefror 2026
40%: 20 Ebrill 2026
Yr holl gyllid wedi’i ymrwymo31 Awst 2026
Ffurflen werthuso hanner ffordd01 Mai 2026
Ffurflen werthuso derfynol01 Tachwedd 2026

Rhagor o wybodaeth

13. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].

Medr/2026/03: Cronfa Datblygu Strategol Ôl-16 – ceisiadau llwyddiannus

Dyddiad:  30 Ionawr 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/03

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Prifathrawon sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol; Deiliaid contractau prentisiaeth wedi’u comisiynu

Ymatebwch erbyn:  Adroddiad interim (Atodiad A): 01 Mai 2026; Adroddiad terfynol (Atodiad B): 01 Tachwedd 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu’r ceisiadau llwyddiannus am gyllid o’r Gronfa Datblygu Strategol Ôl-16.

Mae £4.75 miliwn ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 a chawsom 48 o geisiadau a oedd yn werth cyfanswm o fwy na £14 miliwn.

Medr/2026/03 Cronfa Datblygu Strategol Ôl-16 – ceisiadau llwyddiannus

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/01/2026: Myfyrwyr mewn Addysg Uwch, 2024/25

Ymrestriadau mewn darparwyr addysg uwch (AU) yng Nghymru
  • Cafwyd 143,825 o ymrestriadau mewn darparwyr AU yng Nghymru yn 2024/25, 5% yn llai na’r 150,680 a gafwyd yn 2023/24. Mewn cymhariaeth, ar gyfer darparwyr AU ledled y DU, gostyngodd nifer yr ymrestriadau 1% yn 2024/25 o gymharu â 2023/24
  • Yn 2024/25 cafwyd 32,070 o ymrestriadau ôl-radd mewn darparwyr AU yng Nghymru. Roedd hyn yn ostyngiad o 19% gymharu â 2023/24 pan gafwyd 39,360 o ymrestriadau ôl-radd. Gostyngiad yn nifer yr ymrestriadau gan fyfyrwyr o’r tu allan o’r DU ar gyrsiau ôl-radd a addysgir oedd i gyfrif am y rhan fwyaf o’r gostyngiad hwn.
  • Yn 2024/25 cafwyd 111,755 o ymrestriadau ar lefel israddedig. Roedd hyn yn wahaniaeth o lai nag 1% o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol a 6% yn uwch nag yn 2016/17.
  • Roedd 48% o’r ymrestriadau mewn darparwyr AU yng Nghymru yn fyfyrwyr oedd â’u cyfeiriad parhaol yng Nghymru cyn dechrau astudio. Roedd 37% o’r ymrestriadau yn 2024/25 yn fyfyrwyr o weddill y DU, ac 15% o’r tu allan i’r DU.
  • Mae cyfran yr ymrestriadau gan fyfyrwyr y gwyddys bod ganddynt anabledd wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Roedd 22% o’r ymrestriadau yn 2024/25 yn fyfyrwyr y gwyddys bod ganddynt anabledd.
  • O’r ymrestriadau gan fyfyrwyr o’r DU lle’r oedd y cefndir ethnig yn hysbys, roedd 17% o’r ymrestriadau gan fyfyrwyr a chefndir lleiafrifol ethnig yn 2024/25. Mae’r gyfran hon wedi bod yn cynyddu’n gyson o’r naill flwyddyn i’r nesaf.
  • Arweiniodd 52,685 o ymrestriadau gan fyfyrwyr at ennill cymhwyster yn 2024/25. Roedd hyn yn gynnydd o 5% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Enillodd 29% o fyfyrwyr gradd gyntaf radd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2024/25. Roedd hyn ddau bwynt canran yn uwch nag yn 2023/24.
Ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru mewn darparwyr AU ledled y DU
  • Cafwyd 103,060 o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru mewn darparwyr AU ledled y DU yn 2024/25. Roedd hyn yn debyg i’r 103,205 o ymrestriadau yn 2023/24.
  • Roedd bron i un o bob tri ymrestriad gan fyfyrwyr o Gymru mewn darparwyr AU y tu allan i Gymru yn 2024/25.
  • Mae cyfrannau cynyddol o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yn rhai gan fyfyrwyr y gwyddys bod ganddynt anabledd. Roedd 25% o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yn 2024/25 yn ymrestriadau gan fyfyrwyr y gwyddys bod ganddynt anabledd.
  • Mae cyfrannau cynyddol o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yn  rhai gan fyfyrwyr o gefndir lleiafrifol ethnig. Roedd 12% o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yn 2024/25 yn fyfyrwyr o gefndir lleiafrifol ethnig.
  • Yn 2024/25, roedd 17% o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru ar gyrsiau gradd amser llawn o’r cwintel mwyaf amddifadus ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC 2019), o gymharu â 26% o’r cwintel lleiaf amddifadus. Mae’r ffaith bod niferoedd llawer uwch o ymrestriadau gan fyfyrwyr o ardaloedd â llai o amddifadedd mewn darparwyr AU y tu allan i Gymru, o gymharu â’r rhai o ardaloedd â mwy o amddifadedd yn egluro hyn.
  • Arweiniodd 31,090 o ymrestriadau ledled y DU gan fyfyrwyr o Gymru at ennill cymhwyster yn 2024/25. Roedd hyn yn gynnydd o 5% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Sta/Medr/01/2026: Myfyrwyr mewn Addysg Uwch, 2024/25

Cyfeirnod: Sta/Medr/01/2026

Dyddiad: 29 Ionawr 2026

Dynodiad:  Ystadegau Swyddogol

Crynodeb: Ystadegau ar ymrestriadau mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru, ac ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru sy’n astudio mewn darparwyr addysg uwch ledled y DU

Sta/Medr/01/2026 Myfyrwyr mewn Addysg Uwch 2024/25

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar lwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16

Adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar lwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16

Cynhaliodd Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ymchwiliad i lwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16. Fe gyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad Ysgrifenedig yn Tachwedd 2025.

Ymateb gan Medr: 27 Ionawr 2026

Mae Medr yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16. Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd ar 12 Tachwedd 2025, yn cynnwys 16 o argymhellion. Rydym yn derbyn y canfyddiadau a’r argymhellion fel y maent yn berthnasol i Medr.

Yn rhinwedd ei rôl fel stiward cenedlaethol addysg a hyfforddiant drydyddol yng Nghymru, mae Medr yn ymrwymedig i ddatblygu system addysg drydyddol lle y gall pawb ddysgu’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd eu hangen arnynt ar gyfer economi a chymdeithas sy’n newid. Rydym yn cydnabod y bydd llwybrau dysgu cydlynus y mae’n hawdd ymdrin â hwy a hyblygrwydd gwell yn hwyluso cyfranogiad a chyfraddau cadw uwch ac yn rhoi mwy o fynediad i ddysgwyr at gyfleoedd sy’n eu galluogi i ffynnu.

Mae creu Medr, a’r ymrwymiadau rydym wedi’u nodi yn ein Cynllun Strategol, yn cyfrannu at wneud llwybrau dysgwyr yn symlach ac yn fwy hyblyg. Mae Dyletswydd Strategol ar Medr i hyrwyddo dysgu gydol oes ac ehangu cyfranogiad ym mhob rhan o’r sector ôl-16, gan gynnwys addysg bellach, prentisiaethau, dysgu oedolion a’r gymuned, addysg uwch, a dysgu seiliedig ar waith. Oherwydd y cylch gwaith eang hwn, mae Medr yn rhan ganolog o’r ymdrechion i gyflawni uchelgeisiau’r adroddiad i greu sector ôl-16 cydlynol a chydweithredol sy’n annog dysgwyr i gael addysg a meithrin sgiliau drwy ba bynnag lwybrau addysgol sy’n iawn iddyn nhw. Byddwn yn gwneud hynny drwy gysoni ein fframweithiau rheoleiddio a chyllido, a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid ym mhob rhan o’r sector ôl-16 i greu sector lle y gall dysgwyr symud yn hyderus rhwng llwybrau a manteisio ar gyfleoedd dysgu o ansawdd da.

Yn ein rôl i oruchwylio system addysg drydyddol gydgysylltiedig, rydym yn ymrwymedig i feithrin dealltwriaeth o ymddygiad a phenderfyniadau dysgwyr, gan gynnwys drwy ddefnyddio data’n effeithiol, er mwyn i ni allu adnabod y ffactorau sy’n ysgogi dewisiadau dysgwyr a datblygu dirnadaeth gadarn o deithiau dysgwyr ym mhob rhan o’r system. Rydym eisoes yn gwneud gwelliannau i ehangder ac amseroldeb y data a gyhoeddir gennym a, thrwy ein Cynlluniau Strategol a Gweithredol, rydym wedi ymrwymo i atgyfnerthu’r sylfaen dystiolaeth sy’n sail i waith datblygu polisïau a stiwardio’r system. Yr hyn sydd wrth wraidd y gwaith hwn yw ein hymrwymiad i gydweithio â rhanddeiliaid allweddol er mwyn gwella ehangder ac amseroldeb data ymhellach, gan sicrhau eu bod yn cefnogi system addysg drydyddol sy’n fwy cydlynol, yn fwy ymatebol, ac yn canolbwyntio’n fwy ar y dysgwr.

Mae’r ymateb hwn yn amlinellu’r camau rydym wrthi’n eu cymryd, neu’n bwriadu eu cymryd, er mwyn mynd i’r afael â’r canfyddiadau mewn perthynas â data, cyllid a diwygio polisïau, ac yn nodi ein cyfraniadau at yr argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru lle y gellir disgwyl i Medr gyflawni rôl.

Ymateb Medr i adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16'

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/02: Cyllid ychwanegol i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol 2025/26

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau a’r amseriadau ar gyfer cyllid ychwanegol gwerth £21,126,000 i gydnabod cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg uwch ac awdurdodau lleol ym mlwyddyn academaidd 2025/26.

2. Clustnododd Medr y cyllid hwn fel rhan o’i gyllideb ar gyfer 2024-25 a chaiff ei ddyrannu i ddarparwyr yn ystod blwyddyn ariannol 2025-26.

3. Caiff y cyllid hwn ei dalu’n llawn mewn un rhandaliad ym mis Ionawr 2026.

Sail resymegol

4. Roedd y broses ddyrannu fel a ganlyn:

  1. Gwarentir hyd at 5% o unrhyw orgyflawni i bob darparwr.
  2. Ar sail pro rata, rhannwyd yr elfennau a oedd yn weddill o’r £21.126m rhwng yr awdurdodau lleol a’r sefydliadau addysg bellach a oedd yn gweithio uwchlaw 5% o’u dyraniad gwreiddiol.
  3. Addaswyd cyfuniad o i) a ii) yn seiliedig ar y newidiadau a oedd yn angenrheidiol i’r gronfa gwerth £10m ar gyfer cynnydd mewn cyfranogiad yn 2024/25. Ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn unig y mae hyn. Roedd hyn o ganlyniad i wall yng nghiplun data mis Rhagfyr 2024 Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, sydd bellach wedi cael ei gywiro.

Symiau ac amseriadau’r cyllid ychwanegol

5. Rhoddir dyraniad ychwanegol o £18,020,897.72 i sefydliadau addysg bellach am gynnydd mewn cyfranogiad ym mlwyddyn academaidd 2025/26, fel y gwelir yn y tabl isod:

Sefydliad addysg bellachAddysg bellach | Cymorth ychwanegol ar gyfer cyllid prif ffrwd
Coleg Penybont£872,587.48
Coleg Caerdydd a’r Fro£2,058,056.69
Coleg Cambria£2,547,714.70
Coleg Gwent£2,273,366.02
Coleg Sir Gâr£1,058,470.25
Coleg y Cymoedd£1,843,057.34
Coleg Gŵyr Abertawe£1,498,235.69
Grŵp Llandrillo Menai£2,341,486.00
Grŵp NPTC £1,421,489.70
Y Coleg Merthyr Tudful£894,499.30
Coleg Sir Benfro£674,369.20
Coleg Catholig Dewi Sant£537,565.35
Cyfanswm£18,020,897.72

6. Rhoddir dyraniad ychwanegol o £3,247,221.59 i awdurdodau lleol am gynnydd mewn cyfranogiad ar gyfer cyllid prif ffrwd ym mlwyddyn academaidd 2025/26, fel y gwelir yn y tabl isod.

Awdurdod lleolAwdurdod lleol | Cymorth ychwanegol ar gyfer cyllid prif ffrwd
Cyngor Sir Ynys Môn£139,737.76
Cyngor Caerdydd£848,827.40
Cyngor Sir Caerfyrddin£135,542.12
Cyngor Sir Ddinbych£201,391.89
Cyngor Sir y Fflint£153,758.21
Cyngor Sir Fynwy£197,469.32
Cyngor Castell-nedd Port Talbot£112,346.27
Cyngor Dinas Casnewydd£157,296.10
Cyngor Sir Penfro£167,861.62
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf£393,914.14
Cyngor Dinas a Sir Abertawe£329,051.31
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen£22,864.36
Cyngor Bro Morgannwg£387,161.09
Cyfanswm£3,247,221.59

7. Mae’r cyllid hwn yn gysylltiedig â’r cyfnod o 1 Awst 2025 tan 31 Gorffennaf 2026. Caiff y cyllid ychwanegol hwn i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 ei dalu’n llawn mewn un rhandaliad ym mis Ionawr 2026.

Medr/2026/02: Cyllid ychwanegol i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol 2025/26

Dyddiad:  22 Ionawr 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/02

At:  Brifathrawon sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol

Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau a’r amseriadau ar gyfer cyllid ychwanegol gwerth £21,126,000 i gydnabod cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg uwch ac awdurdodau lleol ym mlwyddyn academaidd 2025/26.

Clustnododd Medr y cyllid hwn fel rhan o’i gyllideb ar gyfer 2024-25 a chaiff ei ddyrannu i ddarparwyr yn ystod blwyddyn ariannol 2025-26.

Caiff y cyllid hwn ei dalu’n llawn mewn un rhandaliad ym mis Ionawr 2026.

Medr/2026/02 Cyllid ychwanegol i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol 2025/26

You can subscribe to updates to be the first to know about our publications, news and job opportunities.

Subscribe

Blwyddyn o dwf: Medr yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol cyntaf

Mae Medr, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru, wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol a’i gyfrifon cyntaf, gan gofnodi uchafbwyntiau a llwyddiant ei wyth mis cyntaf o weithredu.

Dros y cyfnod adrodd, mae Medr, a ddaeth yn weithredol ym mis Awst 2024, wedi cyflawni’r canlynol:

  • Buddsoddi dros £686 miliwn yn y sector addysg drydyddol ac ymchwil, gan sicrhau cefnogaeth ariannol a sefydlogrwydd i ddarparwyr a dysgwyr.
  • Cwblhau trosglwyddiad sefydliadol llyfn, gan sicrhau ei fod yn parhau â’i oruchwyliaeth reoleiddiol ar gyfer y sector addysg drydyddol drwy gydol cyfnod o newid sylweddol.
  • Meithrin perthnasoedd cryf â darparwyr a rhanddeiliaid, a hyrwyddo cydweithio ar draws y sector.
  • Cyflwyno ei weledigaeth hirdymor ar gyfer y sector trydyddol drwy ei Gynllun Strategol cyntaf, yn dilyn ymgynghori helaeth â dysgwyr a rhanddeiliaid.
  • Gosod y sylfeini ar gyfer sefydliad cryf sydd â safonau uchel o atebolrwydd a chyfrifoldeb dros arian cyhoeddus; yn blaenoriaethu dysgwyr a gweithio ar y cyd; ac yn cefnogi ac yn datblygu ei staff.

Yn ôl James Owen Prif Weithredwr Medr:

“Roedd hon yn flwyddyn gyntaf enfawr i’n sefydliad arloesol lle cawsom y cyfle i sefydlu llwybr deinamig ar gyfer dyfodol dysgwyr, cymunedau a’n heconomi.

“Mae’r ffaith ein bod wedi cefnogi’r sector yn effeithiol gyda bron i £700 miliwn yn ein wyth mis cyntaf, gan gynnal ein goruchwyliaeth reoleiddiol, yn tystio i’n staff proffesiynol, galluog a chydweithredol.

“Mae sicrhau ein bod yn cefnogi sector cynhwysol, cydgysylltiedig sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr presennol a dysgwyr y dyfodol gyrraedd eu potensial wedi bod yn allweddol inni o’r cychwyn cyntaf, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i weld effaith ein Cynllun Strategol – sy’n eiriol dros sector addysg drydyddol ac ymchwil cryf – dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”

Cyflwynwyd adroddiad blynyddol Medr ar gyfer y cyfnod Awst 2024 – Mawrth 2025 gerbron y Senedd ym mis Rhagfyr 2025 ac mae ar gael ar wefan Medr.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024-25

Cynllun Strategol Medr 2025-2030

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Medr/2026/01: Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr – Prentisiaid Anabl a Chymorth Dysgu Ychwanegol ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu gwybodaeth am gyllid y cynllun cyfunol EIS/ALS prentisiaethau ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26, gan gynnwys dyrannu cyfanswm cyllid o £600,000 i ddeiliaid contract a gomisiynwyd, ac mae’n nodi’r meini prawf y bydd angen iddynt hwy a phrentisiaid eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid. Anfonwyd llythyrau cyllid ar wahân hefyd at ddeiliaid contract a gomisiynwyd sy’n cael cyllid.

2. Darperir cyllid EIS ac ALS prentisiaethau Medr i gynorthwyo cyflogwyr i ddarparu cyfleoedd i brentisiaid anabl ac i ddarparwyr hyfforddiant gefnogi anghenion dysgu ychwanegol prentisiaid.

3. Anogir darparwyr i hysbysebu’r cyllid sydd ar gael i gynorthwyo cyflogwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill i gynyddu i’r eithaf nifer y prentisiaid anabl sy’n gallu cael budd ac yna’n gallu cofrestru ar raglen brentisiaeth.

Dull cyllido

4. Mae Medr wedi adnabod blaenoriaethau strategol ar gyfer cyllid ym mlwyddyn ariannol 2025-26 sy’n ystyried data cydraddoldeb gan ddangos ble y gellid gwella deilliannau ac i wneud y defnydd gorau o’r gyllideb sydd ar gael.

5. Blaenoriaethau cyllid EIS/ALS prentisiaethau ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26 yw:

  • Prentisiaid anabl;
  • Prentisiaid ag anghenion dysgu ychwanegol.

6. Mae’r trefniadau cyllid fel a ganlyn:

  • Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar werthoedd canrannol y prif gontract prentisiaethau ar gyfer 2025/2026.
  • Dangosir cymhwystra, prosesau cyllido a gwerthoedd cyllido yn Fframwaith Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau Cymru.

Cyllid ym mlwyddyn ariannol 2025-26

7. Mae’r gyllideb EIS/ALS prentisiaethau ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26, rhwng 1 Tachwedd 2025 a 31 Mawrth 2026, yn £600,000; gellir defnyddio dyraniadau’n hyblyg ar draws EIS ac ALS hyd at yr uchafswm cyllid a ddyrennir i bob darparwr ar gyfer y cynllun cyfunol.

Dyraniadau cyllid 2025/26

8. Cyfanswm y cyllid sydd ar gael rhwng 1 Tachwedd 2025 a 31 Mawrth 2026 yw £600,000. Fe’i dyrennir fel a ganlyn:

DarparwrCyfanswm cyllid (£)
Associated Community Training Ltd109,860
Cambrian Training33,660
Coleg Caerdydd a’r Fro56,040
Coleg Cambria52,980
Educ8 Training Group Ltd51,600
Coleg Gŵyr Abertawe40,560
Grŵp Llandrillo Menai53,100
ITEC Training Solutions31,800
Coleg Castell-nedd Port Talbot76,440
Coleg Sir Benfro93,960
Cyfanswm600,000

Gofynion a thalu’r cyllid

9. Caiff manylion llawn sut y bydd taliadau’n cael eu gwneud a gofynion y cynllun cyfunol EIS/ALS eu dangos yn Fframwaith Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau Cymru.

Monitro’r cyllid

10. Bydd hawliadau deiliaid contract a gomisiynwyd yn erbyn y cyllid a ddyrannwyd yn cael eu monitro’n chwarterol ac os yw’n ofynnol gall cyllid gael ei ailddyrannu i ystyried hawliadau gwirioneddol a rhagamcanol deiliaid contract unigol a gomisiynwyd.

Amodau’r cyllid

11. Mae Manyleb Fframwaith Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau Cymru’n rhan o’r Cytundeb ar gyfer darparu a chyllido Prentisiaethau ac yn nodi gofynion penodol y mae’n rhaid ymlynu wrthynt wrth gyflawni’r rhaglen brentisiaethau.

Hyrwyddo prentisiaethau

12. Rydym yn disgwyl i ddeiliaid contract a gomisiynwyd hyrwyddo’r cyfleoedd hyn i ystod o ddysgwyr, yn enwedig y rhai ag anabledd a/neu anghenion dysgu ychwanegol.

13. Ceir disgwyliad y bydd deiliaid contract a gomisiynwyd ar gyfer prentisiaethau’n cyfranogi yn y canlynol:

  • Gweithgareddau marchnata Medr ac ymgyrchoedd cenedlaethol;
  • Cystadlaethau sgiliau fel World Skills. Mae’r cystadlaethau hyn yn darparu profiadau a heriau ychwanegol i brentisiaid a fydd o gymorth iddynt yn eu gyrfaoedd. Maent hefyd yn darparu cyfleoedd i ddangos cryfder sector addysg drydyddol Cymru trwy gystadlaethau ledled y DU a chystadlaethau rhyngwladol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o WorldSkills UK.

Asesu effaith ein polisïau

14. Rydym yn cynnal ymarfer sgrinio sy’n asesu effeithiau i helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hybu cydraddoldeb. Fe wnaethom hefyd ystyried effaith polisïau ar y Gymraeg a darpariaeth prentisiaethau Cymraeg yng Nghymru ac effeithiau posibl tuag at y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gan gynnwys ein Hamcanion Llesiant ni. Cysylltwch âg [email protected] i gael rhagor o wybodaeth am asesiadau effaith. Darparwyr sy’n gyfrifol am adolygu eu hasesiadau effaith hwy eu hunain mewn perthynas â phrentisiaethau.

15. Ar gyfer yr holl ymholiadau cysylltwch â Kelly Hillard neu Ceri Sullivan ([email protected]).

Medr/2026/01: Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr – Prentisiaid Anabl a Chymorth Dysgu Ychwanegol ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26

Dyddiad: 07 Ionawr 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/01

At:  Ddeiliaid Contract a Gomisiynwyd ar gyfer Prentisiaethau 

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi dyraniadau cyllid Medr i ddeiliaid contract a gomisiynwyd (CCH) ar gyfer prentisiaethau dan y cynllun a gyfunwyd yn ddiweddar sy’n cynnwys y Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr – Prentisiaid Anabl (EIS) a Chymorth Dysgu Ychwanegol (ALS) ar gyfer prentisiaethau. Mae’r dyraniadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26. Mae’r ddogfen yn darparu canllawiau ynghylch y gofynion ar gyfer y cyllid a sut i’w weinyddu.

Medr/2026/01 Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr – Prentisiaid Anabl a Chymorth Dysgu Ychwanegol ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Cynigion ar gyfer cyflwyno Cronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru

Cynigion ar gyfer cyflwyno Cronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynigion o ran buddsoddi ar gyfer Cronfa Twf Lleol newydd yng Nghymru.

Ymateb i’r Ymgynghoriad gan Medr: 19 Rhagfyr 2025

Yngynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer cyflwyno Cronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/35: Cyllid ychwanegol 2025-26 yn ystod y flwyddyn ar gyfer darpariaeth conservatoire cerddoriaeth a drama sy’n seiliedig ar berfformio

Darpariaeth cerddoriaeth a drama sy’n seiliedig ar berfformio

Ar 14 Hydref dyrannodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol £1.97m o gyllid ychwanegol wedi’i neilltuo Brif Grŵp Gwariant yr Economi, Ynni a Chynllunio i gefnogi darpariaeth addysg uwch mewn conservatoires cerddoriaeth a drama sy’n seiliedig ar berfformio.

Bydd yr £1.97m yn cael ei ddyrannu i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru drwy Brifysgol De Cymru, sef yr unig sefydliad addysg uwch perthnasol sy’n darparu conservatoire cerddoriaeth a pherfformio.

Bydd yr £1.97m yn cael ei rannu’n ddwy ran:

  1. Bydd £1.75m yn cael ei ddyrannu drwy gynnydd i’r gyfradd fesul uned sy’n berthnasol i’r Ddarpariaeth Pynciau Drud ar gyfer darpariaeth conservatoire;
  2. Bydd £0.22m yn cael ei ddyrannu drwy’r gyllideb sy’n gysylltiedig â pherfformiad, yn benodol i ddatblygu a chyflwyno darpariaeth drwy weithgarwch rhanbarthol.

Medr/2025/35: Cyllid ychwanegol 2025-26 yn ystod y flwyddyn ar gyfer darpariaeth conservatoire cerddoriaeth a drama sy’n seiliedig ar berfformio

Dyddiad:  16 Rhagfyr 2025

Cyfeirnod: Medr/2025/35

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae £1,970,000 wedi cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, drwy Brif Grŵp Gwariant yr Economi, Ynni a Chynllunio, i gefnogi darpariaeth addysg uwch sy’n seiliedig ar berfformio mewn conservatoires cerddoriaeth a drama.

Mae’r cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol 2025-26, ac i gydnabod y cynnydd yng nghostau conservatoires cerddoriaeth a pherfformio. Bydd Medr yn darparu cyllid i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC), drwy Brifysgol De Cymru (PDC), sef yr unig sefydliad addysg uwch (SAU) perthnasol sy’n darparu conservatoire cerddoriaeth a pherfformio.

Medr/2025/35 Cyllid ychwanegol 2025-26 yn ystod y flwyddyn ar gyfer darpariaeth conservatoire cerddoriaeth a drama sy'n seiliedig ar berfformio

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Prifysgol Bangor yw’r drydedd o Gymru i gael ei chydnabod am arferion gorau ym maes cwmnïau deillio

Mae Prifysgol Bangor wedi ymuno â rhestr fawreddog o brifysgolion yn y DU sydd wedi cael eu cydnabod am fabwysiadu polisïau sy’n seiliedig ar yr arferion gorau ym maes cwmnïau deillio, yn dilyn argymhellion a wnaed yn yr Adolygiad Annibynnol o Gwmnïau Deillio Prifysgolion yn 2023.

Mae’r rhestr hon bellach yn cynnwys tair prifysgol yng Nghymru, gan fod Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe eisoes wedi cael eu cydnabod ers mis Tachwedd 2024.

Egin gwmnïau a gaiff eu sefydlu ar sail eiddo deallusol a grëwyd drwy waith ymchwil prifysgol yw cwmnïau deillio. Maent yn rhan allweddol o’r dirwedd ymchwil ac arloesi ledled y byd, gan drawsnewid darganfyddiadau academaidd yn fentrau masnachol sy’n ysgogi twf economaidd, datblygiadau technolegol, ac effaith gymdeithasol.

Mae’r gydnabyddiaeth i Brifysgol Bangor, a gymeradwywyd gan Medr, yn dangos yr arferion gorau o ran mabwysiadu arferion a chanllawiau sy’n addas ar gyfer arloesi ac y gall prifysgolion, buddsoddwyr a sylfaenwyr i gyd eu defnyddio.

Mae cwmnïau deillio’n cyflawni rôl bwysig i Gymru o ran ysgogi partneriaethau newydd a sicrhau twf economaidd. Mae gan brifysgolion yng Nghymru restr hir o lwyddiannau ym maes cwmnïau deillio, gan gynnwys buddsoddiad diweddar yn un o gwmnïau deillio Prifysgol Caerdydd, sef Draig Therapeutics, a ddenodd fuddsoddiad gwerth dros £100 miliwn er mwyn datblygu therapïau newydd ar gyfer anhwylderau niwroseiciatrig

Wrth siarad am y gydnabyddiaeth, dywedodd Prif Weithredwr Medr, James Owen:

“Yn fuan ar ôl i Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe gael eu hychwanegu at y rhestr y llynedd, mae hyn yn newyddion gwych i’n rhwydwaith ymchwil ac arloesi toreithiog. Mae cwmnïau deillio yn ffordd bwysig o fesur llwyddiant wrth ystyried masnacheiddio ac effaith economaidd ac mae bob amser yn braf gweld rhagoriaeth yn ein prifysgolion yn cael ei chydnabod fel hyn. Rydyn ni wrth ein bodd dros Brifysgol Bangor a’r diwylliant o arloesi sy’n cael ei feithrin yno.

“Mae llwyddiant yn magu llwyddiant ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gyllido a chefnogi gwaith ymchwil ac arloesi yn ein prifysgolion a’r effeithiau cadarnhaol sy’n deillio o hynny.”

Mae’r rhestr, sydd i’w gweld yn Spin-outs review implementation: best practice adoption list, wedi cael ei llunio gan Adran yr Economi Gogledd Iwerddon, Medr, Research England a Chyngor Cyllido’r Alban, yn seiliedig ar wybodaeth a gyflwynwyd gan sefydliadau.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Sta/Medr/18/2025: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyrchfannau dysgwyr, Awst 2021 i Orffennaf 2023

Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio data addysg wedi’u paru sy’n gysylltiedig â’r Astudiaeth o Ddeilliannau Addysg Hydredol (LEO) i ddangos cyrchfannau cyflogaeth a dysgu ar gyfer dysgwyr addysg bellach, y chweched dosbarth mewn ysgolion, a dysgu seiliedig ar waith yn y flwyddyn ar ôl eu rhaglen astudio.

Mae datganiad ar wahân yn darparu gwybodaeth am gyflawniad y dysgwr.

Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at rai o’r negeseuon yn y data. Mae’r tablau cysylltiedig yn cynnwys y dadansoddiadau llawn ar gyfer yr holl fesurau yn ôl yr holl nodweddion yn yr erthygl hon.

Mae’r gyfradd cyrchfannau parhaus gyffredinol wedi cynyddu fymryn ers 2014/15.

Disgrifiad: Mae’r gyfradd cyrchfannau parhaus wedi aros yn gymharol sefydlog ers 2014/15, gan gynyddu o 83% i 86% yn 2020/21 a 2022/23.
  • Mae cyfraddau cyflogaeth barhaus a dysgu parhaus wedi cynyddu’n gyffredinol o 2014/15, a chyflogaeth barhaus yw’r gyrchfan fwyaf cyffredin.
  • Aeth 49% o ddysgwyr yn 2022/23 ymlaen i gyrchfan ddysgu barhaus, cynnydd o 47% yn 2021/22. Mae’r gyfradd cyflogaeth barhaus wedi gostwng 1 pwynt canran i 62% yn 2022/23.

Sta/Medr/18/2025: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyrchfannau dysgwyr, Awst 2021 i Orffennaf 2023

Cyfeirnod ystadegau:  Sta/Medr/18/2025

Dyddiad: 10 Rhagfyr 2025

Dynodiad:  Ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu

Crynodeb:  Cyrchfannau cyflogaeth a dysgu ar gyfer dysgwyr addysg bellach, y chweched dosbarth mewn ysgolion a dysgu seiliedig ar waith yn y flwyddyn yn dilyn eu rhaglen astudio.

Thema:  Addysg bellach, y chweched dosbarth, dysgu seiliedig ar waith

Sta/Medr/18/2025 Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyrchfannau dysgwyr, Awst 2021 i Orffennaf 2023

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/34: Prentisiaethau – Cyllid Dechreuwyr Ychwanegol y Rhaglen Lywodraethu

Nodir manylion y dyraniadau cyllid a gymeradwywyd yn y tabl isod:

Darparydd Dyraniad dechreuwyr ychwanegol
Coleg Sir Benfro£539,714 
ACT£1,030,765 
Cwmni Hyfforddiant Cambrian£316,012 
Coleg Caerdydd a’r Fro£525,556 
Grŵp Llandrillo Menai£225,125 
Educ8£460,841 
Grŵp NPTC £717,370
ITEC£184,617
Cyfanswm£4,000,000

Dyfernir a thelir cyllid Dechreuwyr Ychwanegol ochr yn ochr â phrif Gontract Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau 2025-26. 

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cylchlythyr hwn i sylw Carly Davies [email protected].

Medr/2025/34: Prentisiaethau – Cyllid Dechreuwyr Ychwanegol y Rhaglen Lywodraethu

Dyddiad:  02 Rhagfyr 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/34

At:  Darparwyr Hyfforddiant Prentisiaethau

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu’r symiau o gyllid a’r amserlen ar gyfer £4,000,000 ychwanegol a ddarperir gan Medr i Ddeiliaid Contract Rhaglenni Prentisiaeth.

Cymeradwyodd Bwrdd Medr ailddyrannu £4,000,000 i gefnogi dechreuwyr prentisiaeth newydd ac ychwanegol y tu hwnt i brif ddyraniadau contract cyfredol 2025-26. Nod y cyllid hwn yw cyflymu cynnydd y rhwydwaith tuag at Darged y Rhaglen Lywodraethu o 100,000 o brentisiaethau yn ystod Tymor presennol y Senedd.

Rhaid i ddechreuadau prentisiaeth a gefnogir drwy’r cyllid hwn ddigwydd rhwng 1 Awst 2025 a 30 Ebrill 2026.

Medr/2025/34 Prentisiaethau – Cyllid Dechreuwyr Ychwanegol y Rhaglen Lywodraethu

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio