Medr/2026/43: Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) 2026/27

Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru

1. Fel a nodir yn ein Cynllun Strategol, mae Medr yn ymrwymedig i ddatblygu amgylcheddau ymchwil â diwylliannau cadarnhaol sy’n denu ac yn cadw’r ymchwilwyr a’r arloeswyr gorau o bob rhan o’r byd. Rydym yn uchelgeisiol ar gyfer ein sector ymchwil yng Nghymru. Mae arnom eisiau i Gymru fod yn adnabyddus fel lle gwych i wneud ymchwil sydd, trwy gydweithio, yn sicrhau manteision cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.

2. Mae datblygiad a chynaliadwyedd diwylliannau ymchwil iach mewn prifysgolion yn allweddol i gefnogi ymchwil ragorol. Mae hefyd yn bwysig yn ei rinwedd ei hun. Mae arnom eisiau cefnogi’r gweithlu amrywiol sy’n cyfrannu at ymchwil, gan gynnwys staff technegol a phroffesiynol. Trwy ein cyllid, a’n gwaith gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys cyrff cyllido’r DU ar REF 2029, byddwn yn rhoi anogaeth ar gyfer amgylcheddau ymchwil sy’n ategu uniondeb, amrywiaeth, cynwysoldeb, llesiant, iechyd meddwl a pharch.

3. Mae cyllid WREC yn darparu cymorth wedi’i neilltuo ar gyfer gwella diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil. Fodd bynnag, mae Medr yn disgwyl y dylai cynnal diwylliant iach fel rhan annatod o weithgarwch ymchwil ac arloesi a’i gefnogi’n chael ei gefnogi’n strategol drwy gyllid craidd ar gyfer ymchwil ac arloesi.

4. Dyrennir y bydsoddiad o £200,000 i brifysgolion Cymru i gefnogi prosiectau, rhaglenni a gweithgareddau sy’n cyfrannu’n weithredol at gefnogi neu ddatblygu diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil cadarnhaol ac iach. Gellid defnyddio’r cyllid hwn i estyn prosiectau presennol, a hefyd ar gyfer gweithgareddau a seilwaith newydd.

5. Ar gyfer y pedwerydd flwyddyn hon o gyllid, byddem yn annog sefydliadau i barhau i wreiddio ffordd werthusol o feddwl yn eu gweithgareddau i ddeall deilliannau ac effeithiau eu gweithgareddau diwylliant ymchwil. Y rheswm dros hyn yw er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau’n gwneud newidiadau pendant i ddiwylliant ymchwil neu’n esgor ar wersi ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio. Yn y flwyddyn academaidd hon mae gennym ddiddordeb yn neilliannau gwerthusiadau interim.  Bydd Medr yn paratoi gwerthusiad o’r gronfa WREC yn 2027 ac mae’n bosib y byddwn yn geisio trafodaethau dilynol yn seiliedig ar eich cyflwyniadau monitro.

6. Wrth benderfynu sut i ddefnyddio dyraniadau, dylai sefydliadau barhau i gyfeirio at y tair thema a amlinellir yn y tabl isod. Mae’r rhain yn seiliedig ar themâu a ddatblygwyd trwy ymgysylltu â sectorau ymchwil Cymru a’r DU. Nid rhestr gynhwysfawr mo hon ac anogir sefydliadau i ddefnyddio’r cyllid yn hyblyg gan ystyried eu blaenoriaethau strategol, ac egwyddorion ehangach sy’n ymwneud â gwella diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil.

ThemâuIs-feysydd posibl i gyd-fynd â hynny
Creu Diwylliant/ Diwylliannau Ymchwil Cadarnhaol• Gwobrwyo a chydnabod ymddygiadau cadarnhaol
• Adnabod sut y mae diwylliant ymchwil cadarnhaol yn edrych gan gynnwys ar gyfer llesiant ac iechyd meddwl
• Gwerthfawrogi gweithgarwch ymchwil amrywiol
• Datblygiad gyrfa ymchwilwyr a phroffesiynau cysylltiedig
• Cymorth ar gyfer prosesau pontio gyrfaol, mandylledd gyrfaol a symudedd rhwng sectorau
• Datblygu fframweithiau diwylliant ymchwil
•  Gwella seilwaith a chapasiti i roi cymorth i ennill mwy o grantiau ymchwil
• Mynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu
• Colegoldeb a pherthyn
• Gwerthfawrogi’r ystod lawn o brofiadau, sgiliau a chyfraniadau gan bawb sy’n cyfrannu at ymchwil
Gwreiddio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant• Deall ac ymdrin â rhwystrau i gynhwysiant ar gyfer ymgeiswyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y cyflenwad o dalent ymchwil gyda golwg ar sicrhau bod yr amgylchedd ymchwil yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn deg i bawb
• Cydnabod yr holl gyfraniadau gan staff a’r fframweithiau llwybrau gyrfa ar eu cyfer, gan gynnwys ar gyfer staff â chontractau am gyfnod penodedig, staff technegol a staff sy’n galluogi ymchwil
• Gwella mynediad at ymchwil a chyfranogiad mewn ymchwil o blith grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol
• Deall ac ymdrin â’r heriau a brofir gan y rhai a all fod yn profi anfanteision lluosog
Ymchwil Gyfrifol• Uniondeb, bod yn agored a moeseg
• Gwella’r modd y cynhelir ymchwil a’i atgynyrchioldeb
• Asesu a diwygio ymchwil
• Cydweithio a chynnull sefydliadau i rannu arfer
• Atgynyrchioldeb metrigau

Cynhwysiant

7. Mae gan y sector ymchwil rôl bwysig o ran cefnogi Cymru gynhwysol, gan gynnwys cyfleoedd i wella cymorth i staff a myfyrwyr sy’n profi anfantais ar hyn o bryd. Mae dyletswydd strategol ar Medr i hybu cyfle cyfartal ac rydym wedi nodi ymrwymiadau a chamau gweithredu i gyflawni hyn yn ein Cynlluniau Strategol a Gweithredol. Mae Medr yn datblygu system reoleiddio newydd sy’n cynnwys amodau ar les staff a myfyrwyr a chyfle cyfartal.

8. Bydd hi’n ofynnol i ddarparwyr addysg uwch gydymffurfio â’r amodau hyn, gan gynnwys fel y maent yn berthnasol i ymchwil. Mae Medr yn disgwyl i gyllid WREC gael ei ddefnyddio i ymdrin â rhwystrau i gynhwysiant ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y cyflenwad o dalent ymchwil ac i ddatblygu amgylchedd ymchwil cefnogol a chynhwysol, sy’n gwerthfawrogi cyfraniad staff academaidd, staff sy’n galluogi ymchwil a staff cymorth ymchwil, a staff gwasanaethau proffesiynol.

9. Rydym yn croesawu’n arbennig weithgareddau sy’n cynorthwyo pobl sydd â nodweddion gwarchodedig i gael mynediad cyfartal at yrfaoedd ymchwil boddhaus ac i gyfranogi mewn ymchwil fel dinasyddion, gan gyfrannu at strategaethau a chynlluniau Llywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb gan gynnwys, ymhlith eraill, y Cynllun Hawliau Pobl Anabl.

10. Rydym hefyd yn croesawu gweithgareddau sy’n gwneud cynnydd tuag at nodau a chamau gweithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, ac yn ystyried ymrwymiadau’r sefydliad yng nghynllun gweithredu ei siarter cydraddoldeb hil. Rydym yn disgwyl gweld myfyrwyr a staff ymchwil yn cael eu cynnwys yn strategaethau a chynlluniau gweithredu llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, sefydliadau, sy’n ofynnol trwy gyllid llesiant ac iechyd Medr: Medr/2026/33: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2026/27.

11. Disgwylir i sefydliadau sicrhau bod myfyrwyr ymchwil a staff yn cael eu cynnwys yn strategaethau a chynlluniau gweithredu lles a iechyd y sefydliadau, gan gynnwys iechyd meddwl, sy’n ofynnol trwy arian lles ac iechyd Medr: Medr/2026/37: Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg uwch 2026/27.

12. Mae Medr yn mynd ati’n frwd i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn ymchwil, nid dim ond i feithrin amgylchedd cyfoethog a chynhwysol sy’n adlewyrchu treftadaeth ddiwylliannol Cymru, ond hefyd gan gydnabod y dyletswyddau statudol a osodir ar sefydliadau i gefnogi’r Gymraeg a darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Gellir defnyddio cyllid WREC i gefnogi gweithgareddau i roi anogaeth ar gyfer ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rhannu gwersi ac arferion da

13. Mae Medr yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio ar draws y sector i ddatblygu diwylliannau ymchwil cadarnhaol a rôl sefydliadau megis Rhwydwaith Arloesi Cymru (WIN), Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a Prifysgolion Cymru. Rydym yn gweithio trwy bartneriaethau a gyllidir gyda’r sefydliadau hyn i barhau i gefnogi cymunedau amrywiol i achosi newid. Anogir sefydliadau’n gryf i gydweithio ac adeiladu ar weithgareddau presennol sy’n cefnogi diwylliannau ymchwil cadarnhaol, er enghraifft: Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr (Cymdeithas Ddysgedig Cymru).

14. Yn ystod 2025/26, cefnogodd Medr Gymdeithas Ddysgedis Cymru trwy’r Gronfa Gydweithredol i gyflwyno’r Cynllun Grant Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil. Fel rhan o Gronfa WREC ehangach, mae’r Gronfa Gydweithredol yn hybu diwylliant ymchwil drwy gyfuniad o weithgareddau a arweinir gan sefydliadau a gweithgareddau a arweinir gan y gymuned. Bydd y cefnogaeth hon yn parhau yn 2026/27.

15. Mae diwylliant ymchwil cadarnhaol a chynhwysol yn hanfodol i ddatblygu cenhadaeth ddinesig prifysgolion yng Nghymru. Trwy feithrin amrywiaeth, tegwch, a chydweithio, mae prifysgolion yn galluogi ymchwil sy’n ymatebol yn gymdeithasol ac yn cael ei llywio gan y gymuned a honno’n dwyn manteision cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ystyrlon i Gymru a’i chymunedau. Mae amgylcheddau cynhwysol hefyd yn gallu cefnogi dulliau ymgysylltu arloesol, gan rymuso ymchwilwyr i gyd-greu gwybodaeth a datrysiadau gyda phartneriaid allanol.

Dyraniadau sefydliadol

16. Mae’r dull a ddefnyddir i ddyrannu cyllid ar gyfer 2026/27 yn seiliedig ar ddata staff a myfyrwyr HESA 2024/25:

  • Nifer y staff CagALl ar gontractau ymchwil-yn-unig yn y sefydliad addysg uwch
  • Nifer y staff CagALl ar gontractau addysgu ac ymchwil yn y sefydliad addysg uwch
  • Nifer y myfyrwyr ymchwil ôl-radd yn y sefydliad addysg uwch

17. Defnyddir isafswm dyraniad o £5k i sicrhau bod gan bob prifysgol ddyraniad defnyddiadwy i wella eu diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil. Mae data HESA a ddefnyddiwyd wedi cael ei wirio gan brifysgolion.

SefydliadCagALl:
Contractau Ymchwil
CagALl:
Contractau Addysgu ac Ymchwil
CagALl:
Myfyrwyr Ymchwil Ôl-radd
CagALl:
Cyfanswm
CagALl:
Dyraniad
Prifysgol De Cymru56.595667.857197.59922£18,974
Prifysgol Aberystwyth99.848277.406247.982625£12,866
Prifysgol Bangor168.63276.204510.625955£19,662
Prifysgol Caerdydd855.9761,361.3921,578.5273796£78,114
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant33.849354.494347.715736£15,147
Prifysgol Abertawe366.817602.350681.2841,650£33,964
Prifysgol Metropolitan Caerdydd28.991568.069169.468767£15,774
Prifysgol Wrecsam3.544219.11444.494267£5,498
Cyfanswm1,614.2504,362.8863,777.6859,719£200,000

18. Mae Medr yn nodi nad yw methodoleg dyrannu cyllid WREC yn benodol yn cynnwys staff sy’n cefnogi ymchwil megis rhai o’r gymuned dechnegol, a staff gwasanaethau proffesiynol. Mae Medr yn cydnabod cyfraniadau hollbwysig yr aelodau hyn o staff i ddiwylliannau ymchwil a’r amgylchedd ymchwil.

Trefniadau Monitro Cronfa WREC

19. Bydd taliadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 yn cael eu gwneud ym mis Awst 2026. Mae Medr yn disgwyl sicrwydd ynghylch y prosiectau a’r gweithgareddau a gyflawnir trwy’r gronfa hon. Dylai dyraniadau gael eu gwario’n llawn ym mlwyddyn academaidd 2026/27.

20. Dylai sefydliadau gwblhau ffurflen fonitro cyllid WREC yn Atodiad A erbyn 24 Medi 2027:

  • Rhan 1 – Cyd-destun Strategol: dynodwch gyd-destun strategol y diwylliant ymchwil yn eich sefydliad.
  • Rhan 2 – Meysydd Thematig: dynodwch sut y mae’r gweithgareddau/prosiectau’n cyd-fynd â’r meysydd thematig a amlinellir ym mharagraff 7, a pha un: 1. a fyddai gweithgareddau wedi digwydd heb y cyllid, 2. a ddigwyddodd gweithgareddau trwy ddarparu cyllid WREC yn unig, ynteu 3. a allai gweithgareddau fod wedi digwydd heb y cyllid, ond i raddau llai.
  • Rhan 3 – Gwerthuso:  eglurwch effeithiolrwydd ac effaith y prosiectau/gweithgareddau.
  • Rhan 4– Cadarnhad: cadarnhewch fod cyllid WREC wedi cael ei wario yn unol â’r wybodaeth a amlinellir yn y cyhoeddiad hwn.

21. Bydd gwybodaeth a gyflwynir gan sefydliadau yn eu hadroddiadau’n sail i dystiolaeth i ategu penderfyniadau ynghylch cyllidebau a chymorth ar gyfer y diwylliant a’r amgylchedd ymchwil ledled Cymru yn y dyfodol.

22. Rydym yn croesawu cyflwyno adroddiadau monitro yn Gymraeg.

Rhagor o wybodaeth

23. I  gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Hayley Moss ([email protected]).

Asesu effaith

24. Rydym wedi cynnal asesiad o’r effaith i helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hybu cydraddoldeb. Rydym yn rhagweld effaith gadarnhaol ar hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd a chred. Fe wnaethom hefyd ystyried effaith y polisi hwn ar y Gymraeg, darpariaeth yn y Gymraeg yn y sector AU yng Nghymru, nodweddion economaidd-gymdeithasol ac effeithiau posibl tuag at y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Medr/2026/43: Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) 2026/27

Dyddiad: 13 Awst 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/43

At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru

Ymateb erbyn: 24 Medi 2027

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu manylion dyraniadau sefydliadol cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2026/27.

Bydd cyllid WREC yn cael ei ddyrannu i brifysgolion Cymru sy’n derbyn cyllid Ymchwil o Ansawdd (QR) (fel a nodir yn Medr/2026/16: Buddsoddiad Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27). Disgwylir i gyllid WREC barhau tan 2027/28, yn amodol ar gyllidebau yn y dyfodol. Mae dyraniadau blwyddyn academaidd 2026/27 yn seiliedig ar ddata o gofnod staff a myfyrwyr HESA 2024/25.

Medr/2026/43 Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) 2026/27

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Blog: Datblygu’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant

Yng Nghynllun Strategol Medr 2025-2030, fe wnaethon ni nodi ein huchelgais hirdymor i wella llesiant dysgwyr. Mae creu Medr, a’n gallu i weithio drwy’r sector addysg drydyddol ac ymchwil cyfan, yn creu cyfle unigryw i sicrhau cysondeb a chydlyniant yn y cynnig llesiant sydd ar gael i ddysgwyr yng Nghymru, a chefnogi disgwyliadau cliriach o ran pa gymorth y gallan nhw ei ddisgwyl.

Mae cyhoeddi’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant yn gam pwysig ymlaen i ni tuag at wireddu’r uchelgais hwn.

Dechreuodd y broses o ddatblygu’r Fframwaith â’r cwestiwn: sut y gall Cymru hybu mwy o gysondeb mewn cymorth iechyd meddwl a llesiant i ddysgwyr heb greu baich diangen na’i gwneud hi’n ofynnol i ddarparwyr roi’r gorau i ffyrdd effeithiol o weithredu sydd eisoes ar waith? Fe wyddom ni o’n gwaith gyda darparwyr a rhanddeiliaid fod darparwyr addysg drydyddol yn gweithredu mewn cyd-destunau gwahanol iawn sydd ag anghenion dysgwyr, strwythurau ac adnoddau gwahanol. Roedd rhanddeiliaid yn glir bod angen i unrhyw fframwaith cyffredin ychwanegu gwerth, osgoi dyblygu a gweithio ar gyfer addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned drwyddynt draw.

Gan gydnabod yr amrywiaeth hon, fe wnaethon ni ddechrau ar ein gwaith ar y Fframwaith drwy adolygu’r dystiolaeth a oedd ar gael, arferion yn y sector a modelau gwelliant a oedd wedi ennill eu plwyf gan ddefnyddio dull damcaniaeth newid. Er bod llawer o enghreifftiau o fframweithiau iechyd meddwl a llesiant yn y sector addysg drydyddol, ni fyddai’r un fframwaith a oedd eisoes yn bodoli yn gallu cael ei fabwysiadu’n uniongyrchol. Yn lle hynny, fe wnaethon ni ddefnyddio’r fframweithiau hynny a oedd eisoes yn bodoli i brofi rhagdybiaethau, strwythuro trafodaethau gweithdai a sicrhau bod y dull a oedd yn datblygu yn adlewyrchu’r ffactorau roedden ni’n gwybod eu bod nhw’n dylanwadu ar lesiant dysgwyr, gan gynnwys dysgu, cymorth, amgylchedd, cydberthnasau ac arweinyddiaeth.

Drwy’r gweithdai, daeth sawl thema i’r amlwg yn glir:

  • dylai dysgwyr allu deall ble i droi am gymorth,
  • ni ddylai fod yn ofynnol i ddarparwyr ddisodli trefniadau effeithiol sydd eisoes ar waith,
  • dylai cymorth fod yn gymesur â’r cyd-destun,
  • a dylai’r fframwaith ganolbwyntio ar brofiad dysgwyr yn hytrach na rhagnodi modelau gwasanaeth, lefelau staffio neu strwythurau sefydliadau.

Fe wnaeth y cyfranogwyr hefyd bwysleisio pwysigrwydd ffiniau clir, gan gydnabod bod darparwyr yn cyflawni rôl bwysig o ran cefnogi llesiant, ond nad ydyn nhw’n cymryd lle’r GIG, gofal cymdeithasol na gwasanaethau statudol eraill.

Roedd y trafodaethau hyn yn sail ar gyfer drafft o’r Fframwaith y gwnaethon ni ei brofi â darparwyr, cynrychiolwyr y sector, dysgwyr, Llywodraeth Cymru, Estyn a phartneriaid eraill. Fe wnaeth ymgysylltu â dysgwyr atgyfnerthu pwysigrwydd gwybodaeth glir, iaith syml, llwybrau cymorth gweladwy a gwell dealltwriaeth o’r hyn a fydd yn digwydd ar ôl gofyn am help. Hefyd, fe wnaeth yr adborth o’r ymgynghoriad atgyfnerthu’r pwyslais ar hygyrchedd, cyd-destunau dysgu seiliedig ar waith, arferion presennol yn y sector a’r angen i sefydlu’r Fframwaith fel dull cyffredin yn hytrach na gofyniad cydymffurfio newydd.

Fe gawson ni ein cefnogi ar y daith hon gan gyngor arbenigol Grŵp y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant. Fe ddaeth y grŵp â chynrychiolwyr ynghyd o feysydd addysg uwch, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, dysgu oedolion yn y gymuned, partneriaethau iechyd meddwl dysgwyr, GIG Cymru a chyrff y sector.

Mae’r Fframwaith sydd wedi cael ei lunio yn adlewyrchu’r mewnbwn cyfunol hwnnw. Y bwriad yw y bydd yn cynnig dull cyffredin sy’n addas ar gyfer dysgwyr o fewn cysyniad arfaethedig y Map Cymorth a fydd yn gallu eistedd ochr yn ochr â threfniadau presennol darparwyr. Bydd defnyddio Mapiau Cymorth yn golygu y bydd gofyn i ddarparwyr lenwi eu cynnig presennol mewn templed a fydd ar gael i ddysgwyr er mwyn helpu dysgwyr i ddeall yn well pa gymorth sydd ar gael, a chael gafael arno’n hyderus. Yn bwysig ddigon, mae’n canolbwyntio ar brofiad dysgwyr yn hytrach na model cyflawni cyffredin, gan alluogi darparwyr i barhau i adeiladu ar yr arferion effeithiol sydd eisoes ar waith, gan gydnabod nad yw’r un darparwr yn gweithio dan yr un amgylchiadau yn union.

Nid dyma ddiwedd y broses. Mae Medr yn gweld y Fframwaith fel sylfaen ar gyfer gwelliant a chydweithio parhaus. Fe fyddwn ni’n parhau i ymgysylltu â dysgwyr, darparwyr a phartneriaid er mwyn deall sut mae’n cael ei ddefnyddio’n ymarferol, rhannu gwersi a ddysgir a mireinio’r dull dros amser. Drwy ddatblygu momentwm ar y cyd a chynnal ffocws ar brofiad dysgwyr, rydyn ni’n gobeithio y bydd y Fframwaith hwn yn cyfrannu at ffordd fwy dealladwy, hygyrch a chyson o ymdrin â chymorth iechyd meddwl a llesiant ar gyfer dysgwyr ledled Cymru.

Fe hoffai Medr ddiolch i holl aelodau Gweithgor y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant am eu hamser, eu harbenigedd a’u hymroddiad drwy gydol y broses o ddatblygu’r Fframwaith hwn:

  • Anne Jones – Cambrian Training
  • Beth Allender – Rhaglen Partneriaeth Iechyd Meddwl Myfyrwyr Addysg Bellach ac Addysg Uwch
  • Chris Laity – Prifysgolion Cymru
  • Emma McCutcheon – educ8training
  • Dr Emma Roberts – Cynghorydd – Prifysgol Salford
  • Gemma Hartnoll – educ8training
  • Hannah Wenden – Rhaglen Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, Perfformiad a Gwella GIG Cymru
  • Ian Munton – Prifysgol Aberystwyth / AMOSSHE Cymru
  • James Donaldson – Coleg Gŵyr Abertawe
  • Kay Smith – Y Sefydliad Dysgu a Gwaith
  • Marcus Westmoreland – Coleg Gŵyr Abertawe
  • Robert Baynham – ColegauCymru
  • Sally Lambah – Prifysgol Wrecsam / AMOSSHE Cymru
  • Samantha Gunnarsson –  Y Coleg Merthyr Tudful / Rhwydwaith Iechyd Meddwl Addysg Bellach
  • Sarah Quibell – Cyngor Sir Powys / Rhwydwaith Dysgu Oedolion yn y Gymuned
  • Tamara Garnault – Addysg Oedolion Cymru

Am sgwrs sy’n ymwneud â’r Fframwaith, e-bostiwch [email protected].

Sam Bowen
Uwch Reolwr Cydraddoldeb a Lles

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/42: Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant

Cyflwyniad a chwmpas y fframwaith

1. Yn 2024, cyhoeddodd Gweinidogion Cymru y datganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi. Roedd un o’r blaenoriaethau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Medr greu fframwaith cyffredin ar gyfer cymorth iechyd meddwl a llesiant ym mhob rhan o’r sector addysg drydyddol ac ymgysylltu â darparwyr er mwyn ei wreiddio yn eu polisïau a’u harferion, gan sicrhau bod pob dysgwr yn cael cymorth cyson, cyn belled ag y bo’n ymarferol, gan wasanaethau iechyd meddwl ei ddarparwr ac yn deall lefel sylfaenol y cymorth y gall ddisgwyl ei gael yn y maes hwn.

2. Yr hyn a geir yn y ddogfen hon yw’r fersiwn ddrafft o’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant mewn addysg drydyddol yng Nghymru, a fydd ar waith o fis Medi 2026 ymlaen.

3. Mae’r Fframwaith wedi’i ddylunio i gefnogi dull darparwr cyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant drwy alluogi darparwyr addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned i’w roi ar waith mewn modd cymesur.

4. Nid yw’n cyflwyno gofynion rheoleiddio newydd, nac yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr ddisodli trefniadau sydd eisoes yn cefnogi iechyd meddwl a llesiant dysgwyr. Bwriedir i’r Fframwaith helpu darparwyr i adolygu, cyfleu ac atgyfnerthu trefniadau lles sydd eisoes ar waith, gan gynnwys drwy weithgarwch hunanwerthuso sy’n gysylltiedig â’r Amod Lles Staff a Dysgwyr. Mae’r egwyddorion sy’n canolbwyntio ar y dysgwr a dull y Map Cymorth yn cynnig strwythur a rennir er mwyn helpu darparwyr i fynegi a datblygu eu dulliau presennol.

5. Gweledigaeth y Fframwaith yw y bydd pob dysgwr, waeth beth fo’i leoliad, ei oedran neu ei fodd astudio, yn gallu deall pa gymorth sydd ar gael, sut i gael gafael arno, a beth y gall ddisgwyl ei gael gan ei ddarparwr. Ein huchelgais yw y bydd darparwyr yn creu adnodd sydd wedi’i fwriadu ar gyfer dysgwyr o’r enw Map Cymorth er mwyn gwireddu hyn.

6. Mae’r Fframwaith wedi’i ddylunio i ategu trefniadau a chanllawiau presennol darparwyr ac adeiladu arnynt yn hytrach na’u disodli. Ni fydd disgwyl i ddarparwyr greu strwythurau cwbl newydd lle bo eu dulliau presennol eisoes yn cefnogi’r profiad dysgwyr a ddisgrifir yn y Fframwaith hwn.

7. Tynnodd y gwaith ymgysylltu â dysgwyr a wnaed yn ystod y broses o ddatblygu’r Fframwaith sylw at awydd am wybodaeth gliriach am y cymorth sydd ar gael, sut i gael gafael arno, a beth i’w ddisgwyl wrth ofyn am help.

8. Mae’n debygol y bydd rhoi’r Fframwaith ar waith yn effeithiol yn cynnwys gweithio gyda GIG Cymru, awdurdodau lleol, cyflogwyr a phartneriaid eraill yn y trydydd sector, gan gydnabod cyfrifoldebau a rennir am gefnogi llesiant dysgwyr.

9. Nid yw’r Fframwaith yn rhagnodi modelau cyflawni, strwythurau sefydliadol na threfniadau staffio. Bydd darparwyr yn gallu penderfynu ar y ffyrdd gorau o gyflawni’r deilliannau hyn gan adlewyrchu eu cyd-destun, eu poblogaeth ddysgwyr a’u model cyflwyno.

10. Bydd Medr yn parhau i hyrwyddo, cefnogi a datblygu’r gwaith hwn gyda dysgwyr, darparwyr a phartneriaid. Byddwn yn ymgysylltu â’r sector er mwyn deall sut mae’r Fframwaith yn cael ei ystyried a’i roi ar waith yn ymarferol, ac yn rhannu’r gwersi i’w dysgu a ddaw i’r amlwg er mwyn cefnogi’r gwaith parhaus o ddatblygu profiad dysgwyr cyffredin ledled Cymru. Bydd y Fframwaith yn parhau i ddatblygu dros amser mewn ymateb i weithgareddau ymgysylltu â dysgwyr, profiadau darparwyr a thystiolaeth a ddaw i’r amlwg.

Egwyddorion ac elfennau craidd y Fframwaith

11. Bydd disgwyl i ddarparwyr ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant yn unol â’r egwyddorion canlynol:

Canolbwyntio ar y dysgwrGall dysgwyr ddeall yn glir pa gymorth sydd ar gael, sut i gael gafael arno a beth i’w ddisgwyl nesaf. Rhaid i’r wybodaeth hon fod ar gael yn ddwyieithog. Caiff data, asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb a gweithgareddau ymgysylltu â dysgwyr eu defnyddio i adnabod gwahanol anghenion, profiadau a rhwystrau, gan sicrhau bod cymorth iechyd meddwl a llesiant yn deg, yn gynhwysol ac mor ymatebol â phosibl i gymunedau dysgwyr amrywiol.
Darparwr cyfanNid dim ond cymorth llesiant arbenigol sy’n dylanwadu ar lesiant, ond hefyd bethau megis cymorth dysgu, y ffordd y caiff gweithgareddau dysgu eu dylunio, yr amgylchedd, cydberthnasau rhwng y staff a’r myfyrwyr, diwylliant y sefydliad, gofodau ffisegol a digidol, arweinyddiaeth, partneriaethau allanol, a mwy.
CymesurMae dulliau’n adlewyrchu cyd-destun a phroffil dysgwyr darparwyr, gan gydnabod na fydd pob darparwr yn cynnig yr un lefel na math o ddarpariaeth.
Ffiniau clirMae darparwyr yn cyflawni rôl bwysig o ran hybu llesiant, rhoi cymorth a rheoli risg o fewn eu cylch gwaith. Fodd bynnag, nid ydynt yn cymryd lle gwasanaethau’r GIG, gwasanaethau gofal cymdeithasol na gwasanaethau statudol eraill, a dylent sefydlu llwybrau clir ar gyfer atgyfeirio, uwchgyfeirio, a gweithio mewn partneriaeth.
CydweithredolGweithio gyda phartneriaid megis GIG Cymru, awdurdodau lleol, cyflogwyr a phartneriaid yn y trydydd sector, gan gydnabod y gall capasiti, llywodraethiant a threfniadau gwahanol bartneriaid effeithio ar y ffordd y bydd cydweithio’n digwydd yn ymarferol.
Ymatebol i dystiolaethCaiff trefniadau eu hadolygu a’u gwella dros amser mewn ymateb i dystiolaeth.

12. Tra bydd darparwyr yn trefnu ac yn rhoi cymorth mewn gwahanol ffyrdd, rydym yn disgwyl i’r Map Cymorth fod yn gyffredin drwy’r holl sector addysg drydyddol yng Nghymru. Mae’r Map Cymorth yn amlinellu strwythur cyffredin ac yn cynnig sylfaen ar gyfer cysondeb, hyd yn oed os bydd gwasanaethau, modelau staffio ac adnoddau yn amrywio.

Rhagor o wybodaeth

Cysylltwch â Sam Bowen ([email protected]).

Blog: Datblygu’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant

Medr/2026/42: Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant

Dyddiad:  13 Awst 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/42

At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid colegau addysg bellach; Arweinwyr dysgu oedolion yn y gymuned mewn awdurdodau lleol; Deiliaid contract prentisiaeth

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi arweiniad i ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru er mwyn cefnogi ffordd fwy cyson o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant. Mae’r Fframwaith yn cynnwys dull Map Cymorth cyffredin, er mwyn helpu dysgwyr i ddeall y cymorth sydd ar gael, ac yn cefnogi dull darparwr cyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant.

Medr/2026/42 Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/41: Canllawiau ar gynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth a chyhoeddiad am gyllid ar gyfer colegau addysg bellach

Canllawiau cryno: Cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth

Er cysondeb a pharhad, mae’r ddogfen Canllawiau ar Gynlluniau Gweithredu Gwrth-hiliaeth Colegau Addysg Bellach hon wedi’u llywio gan ganllawiau cyllid blaenorol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Medr.

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys cyfeiriadau uniongyrchol at ganllawiau gwrth-hiliaeth blaenorol. Fe’u datblygwyd ymhellach gan Medr i roi ystyriaeth i’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (CGCW) a diweddariad 2024 gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn croesawu cyfraniad parhaus colegau at y gwaith hwn drwy eu hymrwymiad i’r camau gweithredu yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Yn unol â’n gwerthoedd, rydym eisiau cydweithio â’r sector er mwyn helpu i fodloni gofynion y canllawiau hyn. Gallwch gysylltu â’r tîm yn [email protected].

Rydym wedi ymrwymo i gynnal yr un swm o gyllid ar gyfer gweithredu gwrth-hiliaeth ar gyfer colegau yn 2026/27. Bydd colegau’n derbyn £25k, a disgwylir iddynt:

  • barhau i ystyried Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol 2022 i 2026;
  • datblygu ac ymestyn eu cynlluniau gweithredu ar gyfer 2025//26;
  • parhau i nodi a gwneud cynnydd gyda blaenoriaethau 2026/27 sy’n seiliedig ar ddata;
  • diweddaru eu hasesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb;
  • adeiladu ar ddeilliannau hunanasesu a nodwyd yn ymarfer matrics aeddfedrwydd Llywodraeth Cymru o 2025/26; ac
  • ymgysylltu â’r prosiect cwricwlwm gwrth-hiliaeth (Metaverse) (a’r gwerthusiad ohono).

Dylai cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth colegau fod yn ‘ddogfennau byw’ a gaiff eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd fel rhan o brosesau blynyddol y coleg ar gyfer cynllunio strategol, risg a sicrhau ansawdd.

Nodiadau

Dylai polisïau, gweithdrefnau a chynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth gwmpasu’r ystod lawn o ddarpariaeth a gynigir gan y Coleg (dysgwyr AB, prentisiaethau, Twf Swyddi Cymru Plws, dysgu oedolion a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, addysg athrawon ac addysg uwch, fel y bo’n briodol).

Os yw colegau’n brif bartner mewn darpariaeth gydweithredol, dylent gynnwys partneriaid cyflawni/consortia, staff, myfyrwyr, ac arbenigwyr eraill sydd â phrofiad byw yn y canlynol (fel y bo’n briodol):

  • llunio eu gweledigaeth, eu hegwyddorion a’u gwerthoedd ar gyfer gwrth-hiliaeth, a
  • datblygu eu cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth ymhellach.

Cyflwyniad

1. Mae’r cyllid a’r wybodaeth hon yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed gan golegau yn 2022-2024 i fod yn wrth-hiliol ac maent wedi’u llywio gan ganllawiau blaenorol gan Lywodraeth Cymru a chefnogaeth y Black Leadership Group, a chanllawiau 2025/26 gan Medr.

2. Nod gwybodaeth 2026/27 yw helpu colegau i ddiweddaru eu cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth ymhellach i:

  • gyfrannu at nodau a chamau gweithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i ddod yn Gymru Wrth-hiliol;
  • gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a mesuradwy i ddysgwyr/prentisiaid a staff presennol a rhai’r dyfodol;
  • datblygu camau gweithredu wedi’u llywio gan arbenigwyr ac ymarferwyr, dysgwyr/prentisiaid a staff sydd â phrofiad byw o hiliaeth; a
  • dangos arweinyddiaeth sefydliadol, ymrwymiad ac egni i fynd i’r afael â hiliaeth mewn addysg bellach, a sicrhau newid diwylliannol.

3. Rydym yn argymell bod colegau’n darllen y ddogfen hon ochr yn ochr, ac yn yr un cyd-destun, â’r canllawiau ar gynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth ar gyfer colegau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2022.

4. Mae agenda wrth-hiliaeth uchelgeisiol Llywodraeth Cymru wedi’i chyfleu yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Rydym yn disgwyl i gynlluniau gweithredu diwygiedig colegau ystyried fersiwn ddiwygiedig y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae diweddariad y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru wedi cryfhau ei bwyslais ar arweinyddiaeth a grwpiau blaenoriaeth. Disgwylir y bydd atebolrwydd am ymrwymiad colegau i wrth-hiliaeth yn cael ei oruchwylio gan aelodau uwch priodol o staff (fel Is-Gangellorion a Phenaethiaid) gyda chefnogaeth cyrff llywodraethu. Disgwylir i golegau hefyd wella’u hymgysylltiad â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a’u cefnogaeth i’r cymunedau hynny.

5. Mae gan Medr ddyletswydd strategol i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn addysg drydyddol, gan gynnwys y modd y mae hyn yn berthnasol i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cynnwys pobl sydd dan anfantais oherwydd rhwystrau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a/neu sefydliadol.

6. Ym mis Ebrill 2026, cyhoeddodd Medr ei amodau rheoleiddio. Er mwyn bodloni gofynion yr amod Llesiant Staff a Dysgwyr, rhaid i golegau gyflwyno i Medr erbyn 30 Tachwedd 2026 eu cynllun gweithredu dwy flynedd ar lesiant staff a dysgwyr, wedi’i lywio gan hunanwerthusiadau. O dan yr amod, rhaid i ddarparwyr sicrhau trefniadau effeithiol ar gyfer llesiant a diogelwch staff a dysgwyr a chefnogaeth ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys llesiant emosiynol, iechyd meddwl, a diogelwch, gyda diogelwch wedi’i ddiffinio fel rhyddid rhag aflonyddwch, camymddygiad, trais (gan gynnwys trais rhywiol), a throseddau casineb. Bydd amod cyfle cyfartal Medr yn dod i rym yn 2027.

Diweddaru’r cynllun gweithredu

7. Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â chyfnod blwyddyn academaidd 2026/27. Rydym yn disgwyl i golegau ddiweddaru eu cynlluniau gweithredu ymhellach i ni, gan ganolbwyntio ar:
A. A. y trosolwg strategol; a
B. hunanwerthuso’r camau gweithredu creiddiol ar gyfer arweinyddiaeth.

8. Rydym yn disgwyl i golegau roi ystyriaeth i’r camau yn fersiwn ddiwygiedig y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: diweddariad 2024 wrth ddiweddaru eu cynlluniau gweithredu.

9. Disgwylir i golegau roi sicrwydd eu bod yn gwneud cynnydd yn erbyn eu trosolwg strategol. Lle ceir newid o’r cyflwyniad gwreiddiol, rydym yn disgwyl i golegau roi esboniad cryno.

10. Os yw colegau’n dewis ymestyn eu cynlluniau gweithredu ar gyfer 2025/26 tan fis Gorffennaf 2027 er mwyn hwyluso gweithgarwch parhaus a/neu dymor hwy ar gyfer adrodd yn 2026/27, rydym yn disgwyl cadarnhad o hyn yn yr adrodd.

11. Rydym yn disgwyl i gynlluniau colegau at gyfer bwrw ymlaen â’u strategaeth gael eu harwain a’u cyfarwyddo gan eu Bwrdd a’u huwch arweinwyr. Dylai’r bwrdd ac uwch arweinwyr sicrhau bod digon o adnoddau’n parhau i gael eu neilltuo ar gyfer y gwaith hwn, a’u bod yn parhau i fod yn atebol ac yn gyfrifol am ysgogi newid diwylliannol drwy ymagwedd coleg cyfan.

12. Rydym yn annog colegau i barhau i ystyried y canllawiau gwreiddiol gan y Black Leadership Group, gan gynnwys y Cynllun Deg Pwynt. Rydym yn darparu cyllid ychwanegol i gefnogi hyfforddiant gwrth-hiliaeth ledled y sector, fel blaenoriaeth ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus yn 2026/27, gan gydnabod mai hyfforddiant yw Pwynt Dau yng Nghynllun Deg Pwynt y Black Leadership Group.

Adolygu a datblygu

13. Rydym yn disgwyl i waith adolygu a datblygu gan golegau gael ei lywio gan asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb, a’i fod yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth. Rydym yn cadw’r hawl i alw asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb i mewn os ydym yn ansicr ynghylch lefel uchelgais a/neu ffocws y cynlluniau.

14. Dylai gwaith adolygu a datblygu cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth gael ei ymgorffori yng nghylch adolygu a datblygu blynyddol y colegau i lywio hunanasesu, ansawdd a datblygiad proffesiynol parhaus, cynllunio strategol (gan gynnwys yr agweddau hynny ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol y coleg sy’n gysylltiedig â hil/ethnigrwydd) a phrosesau penderfynu.

15. Dylid monitro cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth ar lefel timau, yr uwch reolwyr a’r Bwrdd, o leiaf deirgwaith y flwyddyn.

16. Yn ogystal â hynny, dylai dysgwyr, prentisiaid, staff a phartneriaid cydweithredol, a chyfeillion beirniadol, sydd â phrofiad byw, gael eu cynnwys mewn diweddariadau, gan gynnwys llywio barn am gynnydd a llunio blaenoriaethau ac anghenion hyfforddiant o ganlyniad i hynny.

Cyllid

17. Bydd colegau’n derbyn £25k ar gyfer 2026/27. Mae hyn yn cynnal lefel y cyllid a ddarparwyd yn 2025/26, ac er mwyn i golegau gynnal eu hymrwymiad i wrth-hiliaeth o 2025/26.

18. I ymateb i’r £25k o gyllid, rydym yn disgwyl i golegau:

  • roi ystyriaeth i’r fersiwn wedi’i diweddaru o’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol 2024-26;
  • diweddaru eu cynlluniau gweithredu ar gyfer 2026/27;
  • diweddaru eu hasesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb;
  • nodi blaenoriaethau sy’n seiliedig ar ddata;
  • adeiladu ar ddeilliannau hunanasesu a nodwyd yn ymarfer matrics aeddfedrwydd Llywodraeth Cymru o 2025/26; ac
  • ymgysylltu â’r prosiect cwricwlwm gwrth-hiliaeth (Metaverse) (a’i werthusiad).
Enw’r darparwrCyfanswm y dyraniad
Addysg Oedolion Cymru£25,000
Coleg Penybont£25,000
Coleg Caerdydd a’r Fro£25,000
Coleg Cambria£25,000
Coleg Gwent£25,000
Coleg Sir Gâr£25,000
Coleg Y Cymoedd£25,000
Coleg Gŵyr Abertawe£25,000
Grŵp Llandrillo Menai£25,000
Grŵp NPTC£25,000
Y Coleg Merthyr Tudful£25,000
Coleg Sir Benfro£25,000
Coleg Catholig Dewi Sant£25,000
Cyfanswm – Talu fel un llinell£325,000

19. Ar wahân, yn 2026/27 bydd Medr yn caffael hyfforddiant ledled y sector i hwyluso hyfforddiant gwrth-hiliol. Bydd hyfforddiant yn adeiladu ar y deilliannau a ddarperir gan golegau yn dilyn cwblhau matrics aeddfedrwydd y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, dadansoddiad o adroddiadau 2025/26, a mewnbwn gan y sector AB.

20. Rydym yn disgwyl i golegau roi sicrwydd i ni gan Benaethiaid/Prif Weithredwyr i gadarnhau bod yr holl gyllid a ddarparwyd wedi’i ddefnyddio i’r dibenion a nodir yn y canllawiau hyn.

21. Bydd y dyraniad llawn o £25k yn cael ei roi i’r colegau ym mis Tachwedd 2026, yn amodol ar gyflwyno cynlluniau gweithredu 2026/27. Rydym yn cadw’r hawl i adhawlio cyllid os yw’r cynlluniau neu’r monitro diwedd blwyddyn yn anfoddhaol.y.

Trefniadau adrodd

22. Dylai colegau anfon copi o’u cynllun gweithredu ar gyfer 2026/27 atom i [email protected] erbyn dydd Llun 12 Hydref 2026. Erbyn y dyddiad hwn, byddwn yn derbyn copïau drafft o gynlluniau nad ydynt wedi’u llofnodi gan y Bwrdd eto, gyda chynlluniau cymeradwy yn cael eu cyflwyno cyn diwedd mis Rhagfyr fan bellaf.

23. Rydym yn disgwyl i golegau gyflwyno eu templed monitro i [email protected] erbyn dydd Llun 18 Hydref 2027.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau i’w cyflwyno

24. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Savanna Jones ([email protected]).

Medr/2026/41: Canllawiau ar gynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth a chyhoeddiad am gyllid ar gyfer colegau addysg bellach

Dyddiad:  10 Awst 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/41

At:  Benaethiaid colegau addysg bellach

Ymateb erbyn:  12 Hydref 2026 a 18 Hydref 2027

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r canllawiau wedi’u hadnewyddu ar gyfer cynlluniau gwrth-hiliaeth a’r cyllid ar gyfer hynny yn 2026/27.

Gellir defnyddio’r ddogfen gyllid a gwybodaeth hon i lywio hunanasesiadau lles a chyfle cyfartal staff a dysgwyr yn y dyfodol.

Medr/2026/41 Canllawiau ar gynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth a chyhoeddiad am gyllid ar gyfer colegau addysg bellach

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Gweminar: Y broses ymgeisio am grant Rhaglen Brentisiaethau Cymru newydd

Sesiwn Wybodaeth ar Wneud Cais am Grant – gweminar

Dyddiad: Dydd Mawrth, 8 Medi 2026
Amser: 11:00 – 12:30

Cofrestrwch
Graphic of learners around a giant lightbulb
Mae’r sesiwn wedi’i hanelu at ddarpar ymgeiswyr, gan gynnwys:
  • darparwyr prentisiaethau presennol
  • sefydliadau sy’n newydd i’r farchnad
  • sefydliadau addysg uwch
  • sefydliadau addysg bellach
  • darparwyr hyfforddiant annibynnol
  • sefydliadau elusennol
  • sefydliadau’r sector cyhoeddus, a
  • phartneriaethau neu gonsortia cydweithredol.
Trosolwg

Bydd y Rhaglen Brentisiaethau newydd yn dechrau ar 1 Awst 2027 ac yn cael ei hariannu drwy grant, gyda darparwyr yn cael eu dewis drwy broses ymgeisio gystadleuol.

Yn unol â hynny, ar 1 Medi 2026 byddwn yn lansio proses ymgeisio am grant Rhaglen Brentisiaethau Cymru.

Bydd y broses hon yn nodi:

  • gofynion y rhaglen
  • y broses ymgeisio
  • y trefniadau asesu
  • y fethodoleg ar gyfer dyrannu cyllid
  • disgwyliadau monitro, a’r
  • trefniadau llywodraethu a fydd yn berthnasol drwy gydol cyfnod y grant.

Bydd angen i bob darparwr sydd am ddarparu prentisiaethau yng Nghymru (gan gynnwys darparwyr presennol, darparwyr newydd neu ddarparwyr presennol sydd wedi’u trefnu mewn consortia gwahanol) gyflwyno cais cychwynnol (“Cam 1”) erbyn 30 Medi 2026.

Yn dilyn lansio proses gwneud cais am grant y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ar 1 Medi 2026, byddwn yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein ar gyfer sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwneud cais i ddarparu prentisiaethau yng Nghymru.

Sesiwn Wybodaeth ar Wneud Cais am Grant – gweminar

Dyddiad: Dydd Mawrth, 8 Medi 2026
Amser: 11:00 – 12:30

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Trosolwg lefel uchel o broses gwneud cais am grant y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru.
  • Cyfle i ofyn cwestiynau am y gofynion ar gyfer gwneud cais, y broses asesu, meysydd y rhaglen, a’r trefniadau cyflwyno.
Cofrestrwch

Anogir pawb a fydd yn bresennol i ddarllen y Canllawiau ar Wneud Cais am Grant, a gyhoeddir ar 1 Medi 2026, a pharatoi unrhyw gwestiynau ymlaen llaw. Byddwn yn cyhoeddi ymatebion i’r cwestiynau a ofynnir yn ystod y sesiwn ar wefan Medr yn dilyn y digwyddiad er mwyn sicrhau tryloywder a chysondeb.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Medr yn cryfhau partneriaeth hirdymor

Mae academi genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau a’r gwyddorau a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr) wedi adnewyddu eu hymrwymiad i gydweithio i gefnogi ymchwil, arloesedd a chydweithredu yng Nghymru ymhellach.

Chief Executives of the Learned Society of Wales and Medr sign partnership agreement.

Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Olivia Harrison (ar y chwith) a Phrif Weithredwr Medr, James Owen (ar y dde) yn llofnodi’r cytundeb i gydweithio.

Mae partneriaeth pum mlynedd newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Medr yn canolbwyntio ar:

  • Hyrwyddo ymchwil ragorol
  • Cefnogi pobl sy’n gwneud gwaith ymchwil
  • Creu cysylltiadau rhwng ymchwilwyr, a
  • Defnyddio ymchwil ragorol i wella ffyniant y genedl yn y dyfodol.

Bydd y ddau gorff yn cytuno’n flynyddol ar weithgareddau i fynd i’r afael â’u huchelgeisiau cyffredin, sy’n debygol o gynnwys:

  • Ymgysylltiad allanol i gynyddu dealltwriaeth llunwyr polisïau o bwysigrwydd ymchwil ac arloesi rhagorol, ar draws pob disgyblaeth, er budd Cymru.
  • Gweithio gydag academïau cenedlaethol eraill, fel y Gynghrair Academïau Celtaidd, i godi proffil ymchwil ac arloesi yng Nghymru y tu allan i Gymru.
  • Cefnogi ymchwilwyr trwy gyllid a dyfarniadau, rhwydweithiau a digwyddiadau, a galluogi amgylcheddau ymchwil iach.

Wrth lofnodi’r cytundeb i gydweithio, dywedodd Prif Weithredwr Medr, sef James Owen:

“Mae ein dau sefydliad yn cydnabod bod hyrwyddo ymchwil ac arloesedd rhagorol yn hollbwysig i les cymdeithasol, economaidd a diwylliannol y genedl.

“I’r perwyl hwn, rydym yn hyderus y bydd effaith ein buddsoddiad yng ngwaith Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cryfhau ein proffil ymchwil gartref ac yn rhyngwladol, yn cefnogi ymchwilwyr, ac yn rhoi cyngor polisi arbenigol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.”

Dywedodd Olivia Harrison, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru:

“Mae ecosystem ymchwil ac arloesi ffyniannus yn allweddol i ddyfodol Cymru. Mae’n rhoi sylfeini cadarn i ni barhau i feithrin y wybodaeth, y syniadau a’r doniau sy’n cynnal bywyd gwyddonol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.

“Mae angen ymrwymiad a buddsoddiad parhaus i wireddu’r buddion hyn, felly bydd y bartneriaeth hirdymor hon â Medr yn rhoi’r parhad a’r hyder i ni barhau i chwarae ein rhan.

“Bydd buddsoddiad Medr yn ein galluogi i ddatblygu arweinwyr ac arbenigwyr Cymru yn y dyfodol, cysylltu arbenigedd ymchwil â llunio polisïau ar sail tystiolaeth, a helpu i sicrhau bod gwybodaeth newydd yn trosi’n fuddion pendant i bobl a chymunedau ledled Cymru a thu hwnt.”

Nodiadau

Fel Academi Genedlaethol Cymru, mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cynnwys 700 o Gymrodyr, academyddion, ymchwilwyr ac arweinwyr o fywyd dinesig a diwylliannol Cymru. Mae’n hyrwyddo ac yn datblygu cymuned ymchwil Cymru, ac yn cyfrannu at y trafodaethau am y polisïau sy’n effeithio ar Gymru.

Corff hyd braich i Lywodraeth Cymru yw Medr, sydd yn cyllido a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys: • addysg bellach • addysg uwch gan gynnwys ymchwil ac arloesi • dysgu oedolion yn y gymuned ac addysg seiliedig ar waith • prentisiaethau • chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Medr/2026/40: Cronfa Hyfforddi Staff Iechyd Meddwl a Llesiant
Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu dyraniad untro o £57,200 i gefnogi buddsoddiad mewn hyfforddiant i staff Dysgu Oedolion yn y Gymuned, gyda ffocws ar iechyd meddwl a llesiant, a ddylai gael ei gwblhau rhwng mis Gorffennaf 2026 a mis Chwefror 2027.

2. At ddibenion y cyllid hwn, mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cyfeirio at ddarpariaeth a gyflwynir gan ddarparwyr y dyrannir Grant Dysgu yn y Gymuned iddynt. Mae’r ddarpariaeth hon yn cynnig cyfleoedd dysgu rhan-amser o lefel mynediad i Lefel 2 i ddysgwyr 19 oed a hŷn ac fel arfer fe’i cyflwynir mewn lleoliadau cymunedol.

3. Mae’r cyllid hwn yn cefnogi:

  • Gweithredu’r amod rheoleiddio Lles Staff a Dysgwyr, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gael trefniadau effeithiol, gan gynnwys polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau, sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi llesiant a diogelwch staff a dysgwyr gan ddefnyddio hunanwerthuso parhaus i nodi cryfderau, bylchau a risgiau sy’n dod i’r amlwg i gynllunio gweithgareddau
  • Mae Fframwaith Iechyd Meddwl a Llesiant Cyffredin Medr yn darparu dull a rennir o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant ar draws addysg drydyddol yng Nghymru. Mae’n cefnogi datblygiad map cymorth sy’n helpu dysgwyr i gael mynediad at gymorth priodol, o ymyrraeth gynnar i ymateb i argyfwng.

Dyraniad

4. Mae cyfanswm o £57,200 wedi’i ddyrannu’n gyfartal ar draws darparwyr sy’n darparu Dysgu Oedolion yn y Gymuned, fel y nodir yn Nhabl 1.

5. Er bod cyllid Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei ddyrannu gan ddefnyddio fformiwla, mae’r gronfa hon yn cael ei dosbarthu’n gyfartal ar draws darparwyr. Mae hyn yn adlewyrchu ei phwrpas fel ymyriad untro pan fo angen isafswm o adnoddau i alluogi gweithgaredd hyfforddi staff ystyrlon. Mae dull dyrannu cyfartal yn sicrhau cyfle cyson i gymryd rhan ac yn osgoi dyraniadau bach iawn a fyddai’n cyfyngu ar yr effaith, yn enwedig ar gyfer darparwyr llai neu ddarparwyr mewn ardaloedd mwy gwledig.

Awdurdod lleolCyfanswm y dyraniad
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent£2600
Coleg Pen-y-bont ar Ogwr£2600
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili£2600
Cyngor Caerdydd£2600
Cyngor Sir Caerfyrddin£2600
Cyngor Sir Ceredigion£2600
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy£2600
Cyngor Sir Ddinbych£2600
Cyngor Sir y Fflint£2600
Cyngor Gwynedd£2600
Cyngor Sir Ynys Môn£2600
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful£2600
Cyngor Sir Fynwy£2600
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot£2600
Cyngor Dinas Casnewydd£2600
Cyngor Sir Penfro£2600
Cyngor Sir Powys£2600
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf£2600
Cyngor Abertawe£2600
Cyngor Bro Morgannwg£2600
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen£2600
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam£2600

Defnyddio cyllid

6. Rhaid defnyddio’r cyllid o fewn blwyddyn ariannol 2026/27 ac ar gyfer gweithgareddau hyfforddi iechyd meddwl a llesiant a ddarparwyd rhwng mis Gorffennaf 2026 a mis Chwefror 2027.

7. Gallai gweithgareddau hyfforddi ar gyfer tiwtoriaid a staff Dysgu Oedolion yn y Gymuned gynnwys:

  • cydnabod ac ymateb i anghenion iechyd meddwl staff a dysgwyr
  • ymgorffori dulliau sy’n ystyriol o drawma
  • deall llwybrau uwchgyfeirio a diogelu (ac eithrio hyfforddiant gorfodol)

8. Mae gweithgareddau cymwys yn cynnwys:

  • datblygu neu gaffael rhaglenni hyfforddi (darparwyr neu bartneriaethau allanol)
  • adnoddau hyfforddi dwyieithog
  • talu staff cyfradd fesul awr i gymryd rhan mewn hyfforddiant

9. Ni ellir defnyddio cronfeydd ar wariant cyfalaf (e.e. offer) nac i ariannu’n uniongyrchol ddarpariaeth gwasanaethau therapiwtig clinigol neu arbenigol i staff neu ddysgwyr.

10. Er mwyn gwneud y defnydd gorau o gyllid a chefnogi blaenoriaethau lleol a rhanbarthol, rydym yn annog gweithio ar y cyd, gan gynnwys gyda darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned eraill a phartneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned pan fo’n briodol.

Monitro

11. Rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno tystysgrif gwariant (Atodiad A) i hawlio cyllid yn ôl.

12. Mae’r dystysgrif gwariant yn gofyn am ddadansoddiad o’r gwariant rhwng:

  • Costau staff (e.e. rhyddhau tiwtoriaid / amser tiwtoriaid am dâl fesul awr)
  • Taliadau i ddarparwyr hyfforddiant / darpariaeth allanol

13. Bydd adhawliadau’n digwydd ym mis Mawrth 2027. Rhaid cyflwyno tystysgrif gwariant cyn 19 Chwefror 2027 i [email protected].

14. Nid oes angen adroddiad diwedd blwyddyn ychwanegol. Bydd Medr yn ymgysylltu â darparwyr drwy’r Rhwydwaith Partneriaeth Dysgu Oedolion i rannu dysgu, deall effaith a llywio gwelliant parhaus.

Medr/2026/40: Cronfa Hyfforddi Staff Iechyd Meddwl a Llesiant Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Dyddiad:  31 Gorffennaf 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/40

At: Penaethiaid darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned

Ymateb erbyn:  19 Chwefror 2027

Crynodeb: Dyraniad untro o £57,200 i gefnogi buddsoddiad mewn hyfforddiant i staff Dysgu Oedolion yn y Gymuned (DOG), gyda ffocws ar iechyd meddwl a llesiant. Dylid cwblhau’r gweithgarwch rhwng mis Gorffennaf 2026 a mis Chwefror 2027.

Medr/2026/40 Cronfa Hyfforddi Staff Iechyd Meddwl a Llesiant Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/39: Cyllid Ychwanegol ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 2026-27

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau a’r amseriadau ar gyfer cyllid ychwanegol gwerth £3,000,000 ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 ym mlwyddyn academaidd 2026/27 – £2,202,000 i sefydliadau addysg bellach a £798,000 i awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion prif ffrwd â dosbarthiadau chwech.

2. Dylai sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol lynu wrth y ddogfen ‘Cyllid Pontio Ôl-16 i Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach – Nodyn Cyfarwyddyd 2026/27’.

Symiau ac amseriadau’r cyllid ychwanegol

3. Rhoddir dyraniad o £798,000 i awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion prif ffrwd â dosbarthiadau chwech ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 yn 2026/27, fel y gwelir yn y tabl isod. Dyrennir y cyllid ar sail £6,000 fesul ysgol.

Awdurdod LleolDyraniad (£)
Cyngor Sir Ynys Môn30,000.00
Cyngor Gwynedd42,000.00
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy42,000.00
Cyngor Sir Ddinbych36,000.00
Cyngor Sir y Fflint36,000.00
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam18,000.00
Cyngor Sir Powys66,000.00
Cyngor Sir Ceredigion36,000.00
Cyngor Sir Penfro24,000.00
Cyngor Sir Gaerfyrddin48,000.00
Cyngor Abertawe42,000.00
Cyngor Castell-nedd Port Talbot12,000.00
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr54,000.00
Cyngor Bro Morgannwg42,000.00
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf66,000.00
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili42,000.00
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen6,000.00
Cyngor Sir Fynwy24,000.00
Cyngor Dinas Casnewydd54,000.00
Cyngor Caerdydd78,000.00
Cyfanswm798,000.00

4. Rhoddir dyraniad o £2,202,000 i sefydliadau addysg bellach ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 yn 2026/27, fel y gwelir yn y tabl isod.

Sefydliad addysg bellach Dyraniad (£)
Coleg Penybont112,941.53
Coleg Sir Gâr145,572.70
Coleg Gwent309,916.58
Grŵp Llandrillo Menai251,523.59
Y Coleg Merthyr Tudful78,663.31
Coleg Sir Benfro92,487.15
Coleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant60,670.22
Coleg Gŵyr Abertawe200,972.67
Coleg Caerdydd a’r Fro260,891.90
Coleg Cambria294,693.41
Coleg y Cymoedd231,518.47
Grŵp Colegau NPTC162,148.47
Cyfanswm2,202,000.00

5. Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â’r cyfnod o 1 Tachwedd 2026 tan 31 Gorffennaf 2027. Caiff y cyllid hwn ei dalu’n llawn mewn un rhandaliad i sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol ym mis Rhagfyr 2026.

6. Os bydd gwariant yn llai na 100% o’r dyraniad, caiff y tanwariant ei adhawlio’n llawn.

Medr/2026/39: Cyllid Ychwanegol ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 2026-27

Dyddiad:  31 Gorffennaf 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/39

At:  Brifathrawon sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau a’r amseriadau ar gyfer cyllid ychwanegol gwerth £3,000,000 y bydd Medr yn ei roi i sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 ym mlwyddyn academaidd 2026/27.

Medr/2026/39 Cyllid Ychwanegol ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 2026/27

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Y Gofrestr gyntaf o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru yn dod i rym

Mae Cofrestr statudol newydd yn cryfhau tryloywder, atebolrwydd a diogelwch dysgwyr ar draws y sector addysg uwch yng Nghymru

Daw Cofrestr Medr o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru i rym ar 1 Awst 2026, gan nodi carreg filltir allweddol yn y gwaith o reoleiddio’n effeithiol y sector trydyddol yng Nghymru.

Mae’r Gofrestr yn darparu cofnod sydd ar gael i’r cyhoedd o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru sydd wedi bodloni gofynion cofrestru Medr yn llwyddiannus. Mae’n nodi darparwyr cofrestredig a’u statws cofrestru.

Mae cofrestru yn dangos bod darparwr wedi bodloni’r gofynion cofrestru cychwynnol sylfaenol a’r amodau cofrestru cychwynnol yn foddhaol ac wedi ymrwymo i ofynion rheoleiddio parhaus a gynlluniwyd i amddiffyn dysgwyr, diogelu cyllid cyhoeddus a chynnal safonau ansawdd.

Rhaid i ddarparwyr cofrestredig barhau i fodloni amodau cofrestru parhaus drwy gydol eu cyfnod cofrestru.

Lle mae tystiolaeth o risg sylweddol yn ymwneud â chydymffurfiaeth, gall Medr osod Amod Parhaus Penodol. Mae’r mesurau hyn yn helpu i amddiffyn dysgwyr, yn cefnogi gwelliant ac yn mynd i’r afael â risgiau a nodwyd. Cyhoeddir manylion unrhyw amodau o’r fath o fewn cofnod cofrestr darparwr.

Mewn achosion difrifol, gellir tynnu darparwyr oddi ar y gofrestr os nad ydynt bellach yn bodloni gofynion cofrestru neu lle mae dadgofrestru yn ofynnol o dan ddeddfwriaeth neu’r Fframwaith Rheoleiddio. Bydd unrhyw achos o ddileu yn cael ei adlewyrchu’n gyhoeddus yn y gofrestr.

Mae’r Gofrestr yn cynnwys dau gategori:

Addysg Uwch (Craidd)
Mae darparwyr yn gymwys i gael cyllid addysg uwch Medr, gallant gynnig cyrsiau sydd wedi’u dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth myfyrwyr Llywodraeth Cymru ac maent yn ddarostyngedig i ofynion rheoleiddio ychwanegol.

Addysg Uwch (Amgen)
Nid yw darparwyr yn gymwys i gael cyllid grant addysg uwch Medr ond gallant gynnig cyrsiau sydd wedi’u dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth myfyrwyr Llywodraeth Cymru ar lefel is na’r categori craidd.

Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:

“Mae cyflwyno’r Gofrestr yn gam pwysig wrth gryfhau system addysg drydyddol Cymru. Mae’n rhoi gwybodaeth glir i ddysgwyr, myfyrwyr a rhanddeiliaid am ddarparwyr sydd wedi bodloni gofynion cofrestru Medr ac sy’n destun goruchwyliaeth reoleiddiol barhaus.

“Mae’r Gofrestr yn cefnogi tryloywder ac atebolrwydd wrth helpu i sicrhau hyder yn y ddarpariaeth addysg uwch ledled Cymru.”

Mae’r Gofrestr ar gael nawr.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Sta/Medr/12/2026: Y Gymraeg mewn addysg uwch, 2024/25

  • Yn 2024/25, roedd yn hysbys bod 13% o’r cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru’n rhai gan siaradwyr Cymraeg rhugl. Roedd gan 15% arall ryw lefel o allu i siarad Cymraeg a hwythau naill ai’n siaradwyr nad oeddent yn rhugl neu’n siaradwyr â lefel gallu anhysbys.
  • Yn 2024/25, fe wnaeth 33% o’r cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yr oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl astudio o leiaf 1 credyd yn Gymraeg, ac fe wnaeth 22% astudio o leiaf 40 o gredydau yn Gymraeg. Roedd y rhain yn gynnydd o’i gymharu â 30% a 21% yn 2023/24.
  • Roedd 4% o’r cofrestriadau gan yr holl fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai nad oeddent o Gymru ac nad oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg, yn cynnwys astudio o leiaf 1 credyd yn Gymraeg yn 2024/25, sef yr un gyfran ag yn 2023/24.
  • Ar draws yr holl gofrestriadau, roedd 5,720 o gofrestriadau ag o leiaf 1 credyd a astudiwyd yn Gymraeg yn 2024/25, sy’n gynnydd o 3% o’i gymharu â 2023/24, er bod hyn yn dal yn is nag mewn blynyddoedd cynharach.
  • Roedd mwy na dwywaith cymaint o gofrestriadau gan fyfyrwyr benywaidd yn cynnwys o leiaf 1 credyd a astudiwyd yn Gymraeg o’i gymharu â chofrestriadau gan fyfyrwyr gwrywaidd. O’r cofrestriadau ag o leiaf 1 credyd wedi cael ei astudio yn Gymraeg, roedd myfyrwyr benywaidd hefyd yn fwy tebygol o astudio nifer uwch o gredydau yn Gymraeg na myfyrwyr gwrywaidd.
  • Addysg a hyfforddiant oedd y pwnc modiwl â’r nifer a’r gyfran uchaf o gofrestriadau ag o leiaf 1 credyd wedi cael ei astudio yn Gymraeg.
  • Roedd 630 o staff addysgu academaidd wedi’u contractio i addysgu yn Gymraeg yn 2024/25, sy’n gynnydd o’r cyfanswm o 565 yn 2023/24.
Diwygiadau o ddatganiadau blaenorol

Mae data ar gyfer 2023/24 wedi cael ei ddiwygio i gynnwys data wedi’i ddiweddaru gan Brifysgol De Cymru. Effaith hyn fu gostyngiad o 45 yn nifer y cofrestriadau ar y cyfan a chynnydd o 1,010 yn nifer y cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru.

Bu diweddariad hefyd i nifer y cofrestriadau ag o leiaf 1 credyd cyfrwng Cymraeg yn 2023/24 gan nad oedd nifer o fyfyrwyr ymchwil ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cael eu categoreiddio’n gywir. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer y cofrestriadau ag o leiaf 1 credyd wedi cael ei astudio yn Gymraeg, sef cynnydd o 50 ym Mhrifysgol Bangor a chynnydd o 5 ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Sta/Medr/12/2026: Y Gymraeg mewn addysg uwch, 2024/25

Cyfeirnod:  Sta/Medr/12/2026

Dyddiad: 28 Gorffennaf 2026

Dynodiad:  Ystadegau Swyddogol

Crynodeb:  Ystadegau am allu myfyrwyr i siarad Cymraeg mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru a nifer y cofrestriadau lle ceir rhywfaint o astudio yn Gymraeg; Ystadegau ar nifer y staff addysgu sy’n gallu addysgu yn Gymraeg, ac sydd wedi’u contractio i addysgu yn Gymraeg, mewn prifysgolion yng Nghymru.

Thema:  Addysg Uwch, Y Gymraeg, Cyfrwng Cymraeg

Ffynhonnell:  Cofnodion Myfyrwyr a Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)

Sta/Medr/12/2026 Y Gymraeg mewn addysg uwch 2024/25

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/38: Cyllid cyfalaf addysg uwch 2026/27

Cyflwyniad

1. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd cyllid cyfalaf o £10 miliwn ar gael i’w ddyrannu o fewn blwyddyn ariannol 2026-27. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi blaenoriaethau strategol Medr.

Sail dyrannu cyllid cyfalaf

2. Bydd y cyllid cyfalaf yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar ddull fformiwläig. Gan fod y cyllid i’w ddefnyddio, o leiaf yn rhannol, i gefnogi dysgu ac addysgu, profiad y myfyrwyr a seilwaith ar gyfer myfyrwyr, mae’r dyraniadau wedi’u pennu yn seiliedig ar niferoedd y myfyrwyr. Mae nifer y myfyrwyr mewn sefydliad yn ddirprwy rhesymol ar gyfer faint o ystad a chyfleusterau sydd eu hangen. Mae’r dull hwn yn gyson â dyraniadau cyfalaf blaenorol.

3. Y niferoedd myfyrwyr a ddefnyddir ar gyfer y dyraniad cychwynnol yw niferoedd  cyfwerth ag amser llawn Cofnod Myfyrwyr HESA ar gyfer pob dull astudio, lefel a domisil yn seiliedig ar flwyddyn academaidd 2024/25. Dyma’r un sail a ddefnyddiwyd i ddyrannu’r rownd flaenorol o gyllid cyfalaf.

Cymhwyso isafswm dyraniad cyllid

4. Er mwyn darparu cyllid cyfalaf a fydd yn caniatáu i bob sefydliad fuddsoddi mewn prosiectau a fydd yn cael effaith gynaliadwy, mae isafswm dyraniad o £750,000 wedi’i gymhwyso. O ystyried ei hystâd gyfyngedig yng Nghymru, bydd trothwy isaf o 50% (£375,000) wedi’i bennu ar gyfer y Brifysgol Agored i gyfrannu at brosiectau a fydd o fudd i fyfyrwyr Cymru.

5. Mae’r cyllid ar gyfer sefydliadau lle roedd y dyraniad gwreiddiol yn seiliedig ar eu myfyrwyr cyfwerth ag amser llawn yn is na’r gwerth hwn wedi’i gynyddu i’r swm hwn ac yna mae’r myfyrwyr cyfwerth ag amser llawn ar gyfer y sefydliadau hynny wedi’u tynnu o’r cyfrifiad. Mae’r balans sy’n weddill o gyllid sydd ar gael wedi’i rannu rhwng y sefydliadau eraill yn seiliedig ar y myfyrwyr cyfwerth ag amser llawn sy’n weddill yn y cyfrifiad.

6. Darperir y dyraniadau canlyniadol ar gyfer pob sefydliad yn Atodiad A.

Cynllunio a monitro

7. Ni fydd yn ofynnol i sefydliadau gyflwyno cynlluniau i Medr ynghylch gwybodaeth am y prosiect(au) sy’n defnyddio’r buddsoddiad.

8. Mae Medr yn disgwyl i’r prosiectau sydd wedi defnyddio’r buddsoddiad cyfalaf fodloni’r meini prawf isod.

  1. Aliniad strategol
    haid i’r prosiect(au) gyd-fynd yn glir ag o leiaf un o nodau strategol Medr a chefnogi blaenoriaethau rhanbarthol neu genedlaethol perthnasol.
  2. Budd a llais myfyrwyr
    Rhaid i’r prosiect(au) fod o fudd i fyfyrwyr ac yn gwella profiad, canlyniadau, llesiant neu gyfranogiad myfyrwyr. Rhaid i’r sefydliad ymgysylltu â llais y myfyrwyr er mwyn datblygu’r prosiect(au) ar y cyd.
  3. Cynaliadwyedd ac effaith hirdymor
    Rhaid i’r buddsoddiad ddarparu gwerth parhaol, gan gynnwys y gallu i addasu yn y dyfodol, defnydd effeithlon o adnoddau, cyfraniad at sero net lle bo’n berthnasol, a buddion y gellir eu cynnal dros amser.

9. Byddwn yn parhau i fonitro metrigau HESA drwy’r datganiadau data cyhoeddedig ac felly dylai sefydliadau barhau i fod yn ymwybodol o’r effaith y gallai prosiectau ei chael arnynt.

10. Os yw sefydliad yn rhagweld na fydd yn gallu gwario ei ddyraniad llawn, dylai hysbysu Medr cyn gynted â phosibl a bydd unrhyw gronfeydd sy’n weddill yn cael eu hailddyrannu i sefydliadau eraill drwy’r dull fformiwläig a ddisgrifiwyd yn flaenorol.

11. Cynhelir ymarfer monitro yn 2027 i sicrhau bod y cyllid wedi’i ddefnyddio fel y bwriadwyd ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr effaith y mae’r buddsoddiad wedi’i chael. Fel rhan o ymgysylltiad parhaus Medr â sefydliadau, cynhelir trafodaethau ym mis Ionawr i adolygu prosiectau a ariannwyd yn y flwyddyn academaidd flaenorol, ystyried cynnydd yn erbyn prosiectau sy’n cael eu cyflawni yn y flwyddyn academaidd gyfredol, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd ariannu posibl yn y dyfodol lle bo modd.

12. Fel rhan o’r ymarferion monitro, disgwylir i sefydliadau ddarparu dadansoddiad o’r gwariant cyfalaf a manylion y prosiectau y mae’r cyllid wedi cyfrannu atynt. Disgwylir hefyd i sefydliadau ddarparu crynodeb ansoddol o’r canlyniadau a’r effeithiau cadarnhaol y mae’r buddsoddiad hwn wedi’u cael, gan gynnwys sut mae’r buddsoddiad wedi cefnogi blaenoriaethau strategol Medr a’r meini prawf a amlinellwyd uchod.

Amserlen

13. Bydd Medr yn trefnu talu’r cronfeydd a ddyrannwyd i sefydliadau ym mis Hydref 2026.

14. Cynhelir trafodaethau â sefydliadau ym mis Ionawr 2027 i drafod cynnydd prosiectau, adolygu unrhyw danwariant gwirioneddol neu ddisgwyliedig a thrafod effeithiau prosiectau a fuddsoddwyd ynddynt yn y blynyddoedd blaenorol. Bydd ymgysylltiadau drwy gyflwyno ffurflenni, cyfarfodydd naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb lle mae Medr a’r sefydliad yn credu bod angen.

15. Gofynnir am ffurflen werthuso derfynol gan y sefydliad ym mis Gorffennaf 2027, yn darparu crynodeb o wariant, cyflawniad y prosiect a’r canlyniadau a gyflawnwyd.

Gwybodaeth bellach

16. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].

Medr/2026/38: Cyllid cyfalaf addysg uwch 2026/27

Dyddiad:  28 Gorffennaf 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/38

At:  Penaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb  

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi manylion am y sail y bydd cyfalaf yn cael ei ddyrannu i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2026/27 a’n dull o fonitro. Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2026/27.

Medr/2026/38 Cyllid cyfalaf addysg uwch 2026/27

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Medr/2026/37: Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg uwch 2026/27

Rhagair

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi ein bwriadau yn 2026/27 i ddyrannu:

  • £2,350,000 o gyllid i brifysgolion i weithredu strategaethau iechyd a llesiant (prifysgolion yn unig);
  • £2,000,000 o gyllid ychwanegol ar gyfer cymorth iechyd a llesiant i ddysgwyr (prifysgolion a darparwyr addysg bellach (AB) sy’n derbyn cyllid addysg uwch yn uniongyrchol gan Medr).

2. Ar gyfer 2026/27, bydd Medr yn parhau i gefnogi nifer o brosiectau cenedlaethol sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau iechyd meddwl a llesiant. Bydd y rhain yn cael eu cyllido ar wahân drwy lythyr grant.

3. Mae’r cyllid hwn yn cyfrannu’n uniongyrchol at:

  • Amod Rheoleiddio Llesiant Staff a Dysgwyr sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gael trefniadau effeithiol, gan gynnwys polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau, sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi llesiant a diogelwch staff a dysgwyr gan ddefnyddio hunanwerthusiadau parhaus i nodi cryfderau, bylchau a risgiau sy’n dod i’r amlwg er mwyn cynllunio gweithgareddau; a
  • Fframwaith Iechyd Meddwl a Llesiant Cyffredin Medr sy’n darparu dull cyffredin o ymdrin â iechyd meddwl a llesiant ar draws addysg drydyddol yng Nghymru. Mae’n cefnogi datblygiad Map Cymorth sy’n helpu dysgwyr i gael mynediad at gymorth priodol, o ymyrraeth gynnar hyd at ymateb i argyfwng.

4. Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd parhaus cefnogaeth gref ar gyfer iechyd meddwl a llesiant ar draws y sector ôl-16. Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth iechyd meddwl a llesiant 2025 i 2035. Mae Medr yn disgwyl i bob darparydd ystyried y strategaeth iechyd meddwl a llesiant genedlaethol wrth ddatblygu ac adolygu ei strategaethau iechyd a llesiant, ei ddulliau o atal hunanladdiad a hunan-niwed a’i bolisïau llesiant.

5. Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio i Gymru. Mae Medr yn annog pob darparydd i gymryd rhan yn y Gymuned Ymarfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, a chyfrannu ati.

6. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr ystyried effeithiau croestoriadol ar lesiant emosiynol a meddyliol dysgwyr a staff. Dylai darparwyr felly ystyried sut mae’r cyllid iechyd meddwl a llesiant yn cyfrannu at y cynlluniau cydraddoldeb canlynol gan Lywodraeth Cymru:

  • Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol;
  • Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru;
  • Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: strategaeth 2022 i 2026 a Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a cham-drin rhywiol: glasbrint lefel uchel o gynllun gweithredu;
  • Cynllun Hawliau Pobl Anabl: 2025 i 2035.

7. Rhaid i ddarparwyr addysg uwch (AU) ddefnyddio canfyddiadau a chasgliad eu hasesiadau effaith cydraddoldeb eu hunain i lywio cynlluniau, polisïau a gweithdrefnau i ddangos bod camau gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth.

8. Dylai darparwyr ystyried y canllawiau atal hunanladdiad, a uwchlwythwyd i Padlet -cymuned ymarfer atal hunanladdiad mewn AU ac AB. Dylent hefyd ystyried goblygiadau’r Adolygiad Cenedlaethol o Hunanladdiadau Myfyrwyr AU ac ystyried camau gweithredu sy’n mynd i’r afael â’r argymhellion.

9. Dylai darparwyr ystyried defnyddio offeryn Fframwaith hunanwerthuso trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ar gyfer prifysgolion a darparwyr addysg uwch yng Nghymru i gefnogi prifysgolion i nodi angen, cynllunio a chyflawni ymyriadau i atal ac ymateb VAWDASV sy’n effeithio ar staff a myfyrwyr.

Dyraniadau cyllid

10. Yn 2026/27, bydd £4,350,000 (£2,350,000 o gyllid strategaeth yn Nhabl 1 a £2,000,000 o gyllid ychwanegol yn Nhabl 2) yn cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i sefydliadau AU a darparwyr addysg bellach sy’n derbyn cyllid addysg uwch yn uniongyrchol gan Medr.

DarparyddDyraniad 2026/27
£
University of South Wales  344,032 
Prifysgol De Cymru139,920 
Prifysgol Bangor166,298 
Prifysgol Caerdydd527,668 
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant257,269 
Prifysgol Abertawe317,604 
Prifysgol Metropolitan Caerdydd205,436 
Prifysgol Wrecsam129,389 
Y Brifysgol Agored yng Nghymru262,384 
Cyfanswm  2,350,000 
DarparyddDyraniad 2026/27
£
Prifysgol De Cymru290,716 
Prifysgol Aberystwyth118,236 
Prifysgol Bangor140,526 
Prifysgol Caerdydd  445,895 
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant  217,400 
Prifysgol Abertawe268,384 
Prifysgol Metropolitan Caerdydd173,599 
Prifysgol Wrecsam109,337 
Y Brifysgol Agored yng Nghymru221,722 
Grŵp Llandrillo Menai11,634 
Grŵp Colegau NPTC1,587 
Coleg Gŵyr Abertawe439 
Coleg Cambria524 
Cyfanswm2,000,000 

11. Yn 2026/27 byddwn yn dyrannu cyllid Tabl 1 a Thabl 2 mewn un gyfran drwy daliad ym mis Rhagfyr 2026.

Defnydd o’r cyllid

12. Rhaid i ddarparwyr sicrhau bod cyllid Iechyd Meddwl a Llesiant yn cael ei ddefnyddio i roi cefnogaeth effeithiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n bodloni anghenion eu dysgwyr a’u staff.

13. Gellir defnyddio dyraniadau strategaeth iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl, i gefnogi ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys (ymhlith eraill):

  • darparu gwasanaethau, gweithgareddau, hyfforddiant ac adnoddau iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl, i staff a dysgwyr, sy’n cynnwys dysgwyr ôl-radd; dysgwyr rhyngwladol a dysgwyr mewn sefydliadau breiniol/partner;
  • darparu gwasanaethau, gweithgareddau, hyfforddiant ac adnoddau iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl, a ddarperir yn ddwyieithog ac/neu ar wahân yn Gymraeg;
  • darparu gwasanaethau, gweithgareddau, hyfforddiant ac adnoddau iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl, i sicrhau iechyd a llesiant staff a dysgwyr, gan gynnwys iechyd yr effeithir arno gan aflonyddwch, casineb a chamymddwyn a thrais rhywiol, waeth beth fo hunaniaeth yr unigolion;
  • darparu gwasanaethau, gweithgareddau, hyfforddiant ac adnoddau iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl, i staff a dysgwyr â nodweddion gwarchodedig, neu ddarparu gwybodaeth am sut i’w cefnogi;
  • ymestyn, gwella neu roi cymhorthdal ar gyfer cynnyrch urddas mislif a hylendid personol a/neu wasanaethau golchi dillad i’w myfyrwyr;
  • gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau sy’n rhoi ystyriaeth i ganfyddiadau ac argymhellion hunanasesiad Stepchange: mentally healthy universities gan Brifysgolion y DU;
  • camau gweithredu y gellir eu hadnabod yn glir i fynd i’r afael â bylchau, blaenoriaethau neu argymhellion a nodir o ganlyniad i adolygiad y brifysgol o ddefnyddio offeryn hunanasesu Prifysgolion y DU;
  • gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau sy’n rhoi ystyriaeth i Fframwaith Diogelu Rhag Hunanladdiad Prifysgolion y DU a’r canllawiau atodol.

14. Ni ddylid defnyddio cyllid ar gyfer gwariant cyfalaf (e.e., prynu offer). Ni gwariant o’r fath yn gymwys ar gyfer cyllid.

15. O ganlyniad i’r cyllid hwn, nid yw darparwyr na’u Hundebau Myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am y Grant Urddas Mislif gan eu Hawdurdod Lleol o dan y Cynllun Gweithredu Balch o’r Mislif.

16. Mae prifysgolion a cholegau yn ddarostyngedig i’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr o 1 Awst 2026 ac felly, rhaid iddynt sicrhau bod eu Hundeb Myfyrwyr, neu gorff cyfatebol, yn cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yn gysylltiedig â’r cyllid hwn, a dangos hynny.

17. Yn unol â disgwyliadau’r Amod Rheoleiddio Llesiant Staff a Dysgwyr, dylai darparwyr ymgysylltu â chynrychiolwyr staff, gan gynnwys undebau llafur cydnabyddedig, lle bo’n briodol, fel rhan o’u trefniadau i hyrwyddo a chefnogi llesiant staff.

18. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr sy’n derbyn cyllid Medr yn uniongyrchol reoli a gwario eu dyraniadau 2026/27 yn llawn yn ystod y flwyddyn.

19. Mae Medr yn cadw’r hawl i ad-dalu cyllid lle na chaiff ei ddefnyddio yn unol â’r pwrpas a’r amodau a nodir yn y canllaw hwn. Mae hyn yn cynnwys cyllid heb ei wario a nodwyd drwy waith monitro neu wariant anghymwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.

Monitro ac adrodd

20. Nid yw’n ofynnol i ddarparwyr gyflwyno cynllun gweithredu annibynnol ar gyfer cyllid Iechyd Meddwl a Llesiant. Yn hytrach, bydd Medr yn defnyddio’r cynllun gweithredu llesiant dwy flynedd (sy’n ofynnol o dan yr Amod Rheoleiddio Llesiant Staff a Dysgwyr) i ddeall bwriadau darparwyr o ran cyflawni, a’u blaenoriaethau strategol.

21. Disgwylir i ddarparwyr gynnal deialog barhaus â Medr drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae’r dull hwn yn cefnogi ymyrraeth amserol, dysgu ar y cyd, a gwelliant parhaus ar draws y sector. Gallai hyn gynnwys:

  • Codi materion sy’n dod i’r amlwg neu heriau cyflawni wrth iddynt ymddangos;
  • Darparu diweddariadau drwy gyfarfodydd, rhwydweithiau a gweithgarwch ymgysylltu;
  • Rhannu dysgu ac ymarfer.

22. Mae’n ofynnol i brifysgolion gyflwyno ffurflen fonitro diwedd blwyddyn i ddangos y defnydd o gyllid iechyd a llesiant 2026/27. Bydd gwaith monitro yn gyson â dulliau a ddefnyddiwyd yn y blynyddoedd diwethaf, a bydd disgwyl iddo ddarparu gwybodaeth a fydd yn cynnwys:

  • cysondeb â fframweithiau cenedlaethol (gan gynnwys Stepchange Prifysgolion y DU a dulliau o ddiogelu rhag hunanladdiad);
  • y defnydd o gyllid yn unol â’r dibenion a nodir yn y ddogfen hon;
  • yr ymgysylltiad rhagweithiol â dysgwyr, drwy Undebau Myfyrwyr neu gyrff cyfatebol, wrth i ddarparwyr wneud penderfyniadau’n gysylltiedig â’r buddsoddiad hwn;
  • effaith gweithgaredd ar ddysgwyr a staff, gan gynnwys rhai â nodweddion gwarchodedig;
  • sut mae gweithgaredd yn cyd-fynd â gweithredu’r Fframwaith Iechyd Meddwl a Llesiant Cyffredin ac yn ei gefnogi, gan gynnwys datblygu a/neu ddefnyddio Map Cymorth, a thystiolaeth o gynnydd, meysydd i’w datblygu ymhellach, a heriau allweddol a gwersi i’w dysgu yn sgil gweithredu.

23. Darparwyr addysg bellach sy’n derbyn cyllid addysg uwch yn uniongyrchol gan Medr yn Nhabl 2 i gefnogi dysgwyr AU yn benodol. Dylid defnyddio’r templed monitro a ddarperir yn Medr/2026/26: Cronfa Cymorth a Llesiant 2026/27 – Cam 1: sefydliadau addysg bellach, i adrodd ar y gweithgarwch hwn.

24. Bydd gwaith monitro yn cynnwys cyfuniad o’r canlynol:

  • ffurflenni meintiol, sy’n casglu gwybodaeth am weithgareddau a chyrhaeddiad.
  • adrodd naratif, gan gynnwys cynnydd yn erbyn strategaethau a chamau gweithredu allweddol
  • astudiaethau achos, yn dangos enghreifftiau o arfer ac effaith ar draws gwahanol ffrydiau cyllido;
  • adroddiadau ariannol yn cadarnhau’r dyraniadau, y gwariant ac unrhyw danwariant.

25. Rhaid cyflwyno’r ffurflen fonitro wedi’i chwblhau erbyn dydd Gwener 24 Medi 2027.

26. Bydd Medr yn adolygu’r holl ffurflenni monitro i sicrhau bod cyllid wedi’i ddefnyddio yn unol â’r dibenion a’r disgwyliadau a nodir yn y canllawiau hyn. Gall Medr ofyn am ragor o wybodaeth gan ddarparwyr mewn amgylchiadau eithriadol.

27. Bydd Medr hefyd yn defnyddio gwybodaeth ar ffurflenni monitro i nodi a rhannu enghreifftiau o arfer, arloesi a dulliau sy’n dod i’r amlwg ar draws y sector. Bydd hyn yn cefnogi dysgu ar y cyd ac yn cyfrannu at ddatblygu a gwella’r ddarpariaeth iechyd meddwl a llesiant yn barhaus.

Asesu effaith ein polisïau

28. Rydym wedi diweddaru ein hasesiad effaith parhaus i ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Buom hefyd yn ystyried effaith y polisïau ar y Gymraeg, a darpariaeth Gymraeg yn sector trydyddol Cymru, a’r effeithiau posibl ar y nodau osodwyd yn  Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

29. Mae canfyddiadau ein hasesiad effaith yn cynnwys:

  • nodi effeithiau cadarnhaol tebygol ar y nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol.
  • cadarnhad bod y cyllid yn cefnogi pump o’r saith nod llesiant ac yn rhoi ystyriaeth i’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • nodi bod y cyllid a’r gwaith monitro yn ceisio cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg.

Medr/2026/37: Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg uwch 2026/27

Dyddiad:  28 Gorffennaf 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/37

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; PPenaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol yng Nghymru

Ymateb erbyn: Ffurflen monitro – 24 Medi 2027

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn cadarnhau cyllid ac yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer ei ddefnyddio a’i fonitro.

Medr/2026/37 Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg uwch 2026/27

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio