Medr/2025/17: Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: Ymgynghoriad

Crynodeb

Mae cynllun strategol Medr yn nodi nod i ‘greu system drydyddol hyblyg a chydgysylltiedig lle gall pawb gaffael y sgiliau a’r wybodaeth y mae eu hangen arnynt ar gyfer economi a chymdeithas sy’n newid’. Rydym wedi ymrwymo i ddylunio darpariaeth prentisiaethau yn y dyfodol i ymateb i flaenoriaethau sgiliau Llywodraeth Cymru ac i ddiwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r economi.

Mae prentisiaethau yn allweddol ar gyfer hybu cynhyrchiant a helpu i feithrin gweithlu medrus ac amrywiol.

Bydd y rhaglen brentisiaethau newydd yn dechrau ar 1 Awst 2027.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn rhanddeiliaid, gan gynnwys darparwyr hyfforddiant ac addysg drydyddol, cynrychiolwyr diwydiant, cyflogwyr, dysgwyr, rhieni ac awdurdodau lleol i helpu i lunio’r rhaglen newydd.

Rydym eisoes wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid i lywio’r egwyddorion lefel uchel ar gyfer y rhaglen brentisiaethau newydd, gan gynnwys sut y caiff prentisiaethau eu datblygu, eu cyflwyno, a’u rheoli.

Byddem yn croesawu ymatebion i’r ymgynghoriad gan unigolion sydd â phrofiad o brentisiaethau. Mae clywed gan ddysgwyr yn allweddol i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu o’r rhaglen bresennol a bod syniadau’n cael eu cyflwyno i’r rhaglen newydd.

Rydym nawr yn ceisio barn ar y canlynol:

  • yr egwyddorion lefel uchel hyn i arwain y rhaglen brentisiaethau newydd
  • diffiniad o brentisiaeth
  • taith dysgwr sy’n brentis
  • ymgysylltiad cyflogwyr
  • cyflawni hyblyg
  • fframweithiau sector prentisiaethau
  • ymatebolrwydd economaidd y rhaglen
  • canlyniadau prentisiaid
  • cryfhau cyfleoedd yn y Gymraeg
  • prentisiaethau cynhwysol

Byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgynghori:

I gael dweud eich dweud, cwblhewch y ffurflen ymateb yn Atodiad A a’i hanfon at [email protected] erbyn 31 Hydref 2025.

Medr/2025/17: Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: Ymgynghoriad

Dyddiad:  15 Medi 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/17

At:  Penaethiaid darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru; Darparwyr prentisiaethau cyfredol yng Nghymru / Deiliaid contract prentisiaeth wedi’u comisiynu; Cyrff cynrychioli cyflogwyr; Cynrychiolwyr addysg awdurdodau lleol

Ymateb erbyn:  31 Hydref 2025

Crynodeb: Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn i ddeiliaid contractau presennol a darpar ddeiliaid contractau, cyflogwyr a dysgwyr am gymorth i lunio dyluniad rhaglen brentisiaethau newydd Cymru, sydd i fod i ddechrau ar 1 Awst 2027.

Medr/2025/17 Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: Ymgynghoriad

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/16: Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) 2025-26

Rhagair

1. Ers 2011, mae Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) wedi cael ei ddarparu i sefydliadau cymwys yng Nghymru. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynghori Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) ynghylch dyraniadau 2025-26 ac yn rhoi canllawiau ar y gofynion adrodd a monitro cysylltiedig. 

Y cefndir

2. Mae’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) wedi cadarnhau y bydd yn darparu cyllid HERC i bedwar corff cyllido AU y DU[1] yn 2025-26. Bydd DSIT yn darparu £4,623,296 yng Nghymru, a bydd Llywodraeth Cymru (LlC) yn gwneud cyfraniad ar ffurf arian cyfatebol, gan greu cyfanswm cronfa o £9,246,592.

Defnydd o’r cyllid

3. Ni cheir ond defnyddio’r cyllid a ddarperir o dan HERC er mwyn buddsoddi cyfalaf yn y seilwaith ffisegol ar gyfer ymchwil. Mae ymchwil yn cynnwys ‘ymchwil wyddonol’ (sy’n golygu ymchwil a datblygu yn unrhyw un o’r gwyddorau gan gynnwys y gwyddorau cymdeithasol neu dechnoleg (adran 6(1) o Ddeddf Gwyddoniaeth a Thechnoleg 1965)) ac ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau.

4. Wrth benderfynu sut i ddefnyddio’u dyraniadau, dylai sefydliadau ystyried gofynion Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r uchelgeisiau a nodwyd yn Strategaeth Arloesi’r DU, Strategaeth Ymchwil ac Arloesi’r DU, Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru a Chynllun Strategol Medr 2025-2030. Dylid ystyried hefyd sut mae cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dyraniadau

5. Dyrennir y Cyllid drwy ddulliau gwahanol ar gyfer elfennau DSIT a LlC:

  1. Dyrennir elfen DSIT y cyllid drwy defnyddio’r data 3 blynedd diweddaraf gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar incwm Cyngor Ymchwil ac Arloesi’r DU. Yn unol â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth DSIT â Medr a Llywodraeth Cymru, dylai’r cyllid ganolbwyntio ar gynnal adrannau ardderchog â’r màs critigol i gystadlu’n fyd-eang, a’r arbenigedd i gydweithio’n agos â busnesau, elusennau a gwasanaethau cyhoeddus.
  2. Dyrennir elfen Llywodraeth Cymru o’r grant ar sail pro rata yn unol â chyfuniad o’r dyraniad Ymchwil Ansawdd cylchol diweddaraf plws incwm ymchwil arall a adroddwyd gan y darparydd ar gofnod cyllid HESA. Defnyddiwyd y dyraniad Ymchwil Ansawdd ar gyfer 2024/25 oddi mewn i’ fformiwla gyllido ar gyfer HERC 2025-26.

Trothwy cyllido

6. Er mwyn bodloni gofyniad y DSIT fod y gronfa’n cefnogi rhagoriaeth ac yn adeiladu màs critigol, mae’r fformiwla’n cynnwys trothwy isafswm o £100k. Dim ond sefydliadau y cyfrifir bod eu dyraniadau uwchlaw’r trothwy cymhwysedd hwn fydd yn derbyn cyllid yn 2025-26.

7. Ceir hyd i ddyraniadau cyllid 2025-26 ar gyfer sefydliadau cymwys yn Atodiad A.

Trefniadau monitro

8. Ym mis Chwefror 2025, cyflwynodd sefydliadau fanylion eu blaenoriaethau cyllido HERC i’r dyfodol ar gyfer 2025-26. Dylid cadarnhau’r buddsoddiadau hyn a chynlluniau posibl i’r dyfodol ar gyfer 2026-27 drwy lenwi a chyflwyno’r profforma yn Atodiad B.

  • Dylai Rhan 1 y profforma i gadarnhau’r defnydd o gyllid yn 2025-26, gan gynnwys cyfanswm costau buddsoddiadau graddfa fawr, lle cyfrannodd cyllid HERC at hynny. Dylai sefydliadau ddangos lle mae cyllid HERC wedi galluogi ac ysgogi capasiti ymchwil, wedi datblygu blaenoriaethau strategol, ac wedi galluogi sefydliadau i gystadlu’n fwy effeithiol am gyllid ymchwil ac arloesi allanol.
  • Dylid defnyddio Rhan 2 o’r profforma i amlinellu blaenoriaethau gwariant ar gyfer 2026-27 yn seiliedig ar ragdybiaeth y bydd cyllid HERC pellach yn cael ei ddarparu.
  • Rhaid anfon Atodiad B yn ôl i Medr erbyn 13 Chwefror 2026 ar yr hwyraf.

9. Er mwyn cadarnhau bod HERC wedi’i wario’n llawn, gofynnir i sefydliadau cymwys gyflwyno’r profforma Cadarnhau Gwariant yn Atodiad C erbyn 24 Ebrill 2026. Dylai sefydliadau sicrhau eu bod yn nodi’n glir a oes unrhyw gyllid heb ei wario wedi’i ymrwymo ac, os felly, y dyddiad pan fydd y cyllid hwnnw wedi’i wario’n llawn. Gall Medr adhawlio unrhyw gyllid heb ei wario os nad yw wedi’i ymrwymo.

10. Bydd yr wybodaeth a gyflwynir gan SAUau yn yr adroddiadau hyn yn sail i ofynion adrodd Medr ar gyfer Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2026 a DSIT ym mis Mehefin 2026. Gallai methu â darparu manylion digonol am brosiectau a gwariant olygu gohirio cadarnhad o ddyraniadau cyllid yn y dyfodol, neu ddangos diffyg effaith posibl yn sgil buddsoddiad HERC yng Nghymru, a allai danseilio’r ddadl o blaid cyllid parhaus.


Trefniadau talu

11. Fel y nodwyd yn Atodiad A bydd cyllid yn cael ei ddosbarthu drwy ddau daliad ym mis Medi 2025 ac ym mis Ionawr 2026.

Rhagor o wybodaeth / ymatebion i

12. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Hayley Moss ([email protected]).

[1] Medr – Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil; Cyngor Cyllido’r Alban; Adran yr Economi (Gogledd Iwerddon); Ymchwil Lloegr

Medr/2025/16: Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) 2025-26

Dyddiad:  12 Medi 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/16

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn: 13 Chwefror 2026 a 24 Ebrill 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi manylion dyraniadau 2025-26 ar gyfer sefydliadau sy’n gymwys i dderbyn cyllid Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch.

Medr/2025/16 Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) 2025-26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Fframwaith Ansawdd Medr: y camau nesaf

Roedd ymgynghoriad diweddar Medr ar y dull rheoleiddio yn cynnwys nifer o gwestiynau am ein Fframwaith Ansawdd arfaethedig. Nod y Fframwaith yw lleihau’r baich a roddir ar ddarparwyr gan sicrhau profiad dysgwyr o ansawdd da ym mhob rhan o’r sector addysg drydyddol ar yr un pryd. Ein huchelgais yw y bydd unrhyw ddysgwr, ble bynnag y bo yn y sector addysg drydyddol, yn gallu cael sicrwydd ynghylch y disgwyliadau cyffredin ar gyfer darparwyr.


Mae’r broses ddrafftio’n adlewyrchu’r darpariaethau yn y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) i Medr gyhoeddi fframwaith er mwyn nodi polisi ac arferion mewn perthynas â’r canlynol:
– Meini prawf ar gyfer asesu ansawdd
– Prosesau ar gyfer asesu ansawdd.
– Rolau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n asesu ansawdd a darparwyr mewn perthynas ag ansawdd.

Un o’r prif themâu a ddaeth i’r amlwg o’r ymgynghoriad oedd bod angen mwy o eglurder a dealltwriaeth ynghylch y ffordd y bwriedir i’r Fframwaith gael ei ddefnyddio a sut y byddai’n gweithio ochr yn ochr â dulliau sydd eisoes yn bodoli (megis y rhai a ddilynir gan Estyn a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA)).

Bydd ail gam ein hymgynghoriad ar reoleiddio yn dechrau yn yr hydref. Fel rhan o hyn, byddwn yn rhannu fersiwn ddiwygiedig o’r Fframwaith Ansawdd a fydd yn adlewyrchu llawer o’r pwyntiau a godwyd yn yr ymatebion. Fodd bynnag, roeddem yn awyddus i fynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau canolog nawr yn y gobaith o gynnal deialog â rhanddeiliaid a llywio’r ffordd y byddwn yn diwygio’r Fframwaith yn y dyfodol.

Sut mae’r Fframwaith yn adlewyrchu dulliau o ymdrin ag ansawdd sydd eisoes yn bodoli, neu’n rhyngweithio â nhw?

Ni fwriedir i’r Fframwaith ddyblygu’r gweithgareddau a gyflawnir gan Estyn a QAA. Yn lle hynny, bwriedir iddo egluro’r disgwyliadau cyffredin ar gyfer darparwyr ym mhob rhan o’r sector trydyddol cyfan, ac esbonio sut y bydd Medr yn asesu cydymffurfiaeth â’n hamod rheoleiddio sy’n ymwneud ag ansawdd.

Mae’r Fframwaith yn seiliedig ar gyfres o gonglfeini sy’n ymdrin â meysydd megis yr angen i arolygu neu adolygu ansawdd yn allanol, pwysigrwydd hunanwerthuso, a rôl llywodraethu mewn perthynas ag ansawdd. Mewn gwahanol rannau o’r sector trydyddol, bydd y gweithgareddau a gaiff eu ‘mapio’ ar y conglfeini hynny’n edrych yn wahanol. Er enghraifft, yn achos darparwyr addysg bellach, byddem yn disgwyl i arolygiad Estyn fodloni gofynion conglfaen Allanoldeb, ac i’r broses hunanwerthuso fodloni gofynion conglfaen Hunanwerthuso.

O edrych ar enghraifft arall, yn achos addysg uwch, byddem yn disgwyl i’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr fodloni’r cynigion o dan gonglfaen Llais y Dysgwr i ddefnyddio data a deilliannau o arolygon cenedlaethol.

Mae rhai o’r conglfeini’n ymwneud â gweithgarwch ‘newydd’. Er enghraifft, mae conglfaen Ymgysylltu â Dysgwyr yn cyd-fynd â’r gofyniad arfaethedig i ddarparwyr gydymffurfio â’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr sydd ar ddod. Mae’r enghraifft benodol hon yn adlewyrchu gwaith ehangach sy’n cael ei wneud gan Medr er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau yn unol â’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Y bwriad yw y bydd cynnwys y Cod yn y Fframwaith yn sicrhau bod ein system yn gydgysylltiedig. Byddwn yn ymgynghori ar y Cod a’i amod cysylltiedig yn yr hydref.

Ymhen amser, byddem yn disgwyl i Estyn a QAA ddatblygu eu fframweithiau arolygu a’u dulliau cynnal adolygiadau gwella ansawdd mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r Fframwaith.
 
Beth yw’r cysylltiad rhwng hyn a rheoleiddio? A fyddwch yn rheoleiddio gwelliant parhaus?

Mae ein hymgynghoriad ar reoleiddio yn nodi dull rheoleiddio ehangach Medr, gan gynnwys sut y bydd ymyriadau’n gweithio a’r egwyddorion a fydd yn sail i’r ffordd y byddwn yn gweithredu.

Bydd angen i ddarparwyr gydymffurfio â’r amod sy’n ymwneud ag ansawdd p’un a ydynt ar y gofrestr ar gyfer darparu addysg uwch neu’n cael eu rheoleiddio drwy delerau ac amodau cyllid. Mae hyn yn golygu y bydd Medr yn monitro darparwyr – er enghraifft, drwy ddeilliannau arolygiadau ac adolygiadau, yn ogystal â ffurflenni data a ffynonellau eraill o wybodaeth – er mwyn gweld a ydynt yn cydymffurfio.

Fodd bynnag, mae’r dull rheoleiddio a’r datganiad ymyrryd hefyd yn nodi sut y byddem yn disgwyl i’n gweithgarwch ymgysylltu â darparwyr weithio. Er enghraifft, pe bai Medr yn credu bod risg o ddiffyg cydymffurfiaeth, yna ymgysylltu’n anffurfiol â’r darparwr er mwyn deall y cyd-destun penodol fyddai’r cam cyntaf fel arfer. Rydym yn ymrwymedig i gydnabod amrywiaeth darparwyr, a rheoleiddio mewn ffordd gymesur sy’n seiliedig ar risg.

Mae nifer o’r ymatebion yn nodi pryderon ynglŷn â chonglfaen Gwella’n Barhaus ac, yn benodol, p’un a allai fod ymyriad rheoleiddio pe na bai darparwyr yn gwella o un flwyddyn i’r llall. O’n safbwynt ni, yr hyn sy’n bwysig yw bod darparwyr yn ymgymryd â’r mathau o hunanfyfyrio, cynllunio a gweithredu sydd â’r bwriad o adnabod a datblygu meysydd ar gyfer gwella ym mhob rhan o’u darpariaeth. Byddwn yn egluro’r disgwyliadau hyn yn y Fframwaith diwygiedig a’r amod cysylltiedig.

Lle bo sefydliadau’n ymgymryd â gweithgareddau gwelliant parhaus, ni fyddem yn disgwyl ymyrryd cyn belled â bod eu perfformiad yn foddhaol.
 
Diffiniadau o fewn y Fframwaith

Cododd llawer o’r ymatebion gwestiynau ynglŷn â diffiniadau, gan gynnwys y diffiniad o ansawdd a’r diffiniad o dermau allweddol fel anghenion rhesymol a safonau trothwy.

Rydym yn ystyried sut i egluro’r diffiniad o ansawdd er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan sicrhau bod gennym hefyd ddiffiniad sy’n ddigonol i gyfleu’r ehangder o brofiadau addysgu a dysgu ym mhob rhan o’r sector trydyddol ar yr un pryd. Ein bwriad yw y bydd y diffiniad o ansawdd a chwmpas y term yn canolbwyntio ar agweddau ar y profiad dysgu sydd o fewn dylanwad y darparwr.

O ran y gyfres ehangach o ddiffiniadau, byddwn yn cyhoeddi rhestr termau a fydd yn nodi’r holl ddiffiniadau fel rhan o ymgynghoriad cam 2 yn yr hydref.
 
Pwy sy’n gyfrifol am gasglu data? Sut y caiff y data eu defnyddio?

Cododd yr ymatebion nifer o gwestiynau ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am gasglu data, eu dadansoddi, a gweithredu yn seiliedig arnynt. Mae Medr eisoes yn defnyddio amrywiaeth o ddata i lywio ein gweithgarwch parhaus i ymgysylltu â darparwyr, sy’n deillio’n bennaf o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, y Casgliad Data Ôl-16 a chofnodion HESA, yn ogystal â’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn achos addysg uwch.

Mae Medr yn ymrwymedig i ymgynghori ar ddangosyddion perfformiad yn ystod y ddwy flynedd nesaf, a byddem yn rhagweld y byddai’r ymgynghoriad hwnnw’n ystyried sut y gellid defnyddio meincnodi a/neu drothwyon. Tan hynny, byddem yn rhagweld y byddwn yn defnyddio’r mesurau presennol fel sail ar gyfer ystyried ansawdd.

A yw’r Fframwaith yn adlewyrchu amrywiaeth darparwyr?

Bwriedir i’r Fframwaith adlewyrchu amrywiaeth darparwyr yn y sector addysg drydyddol. Dyna pam y mae wedi’i strwythuro mewn ffordd sy’n golygu y gall gwahanol drefniadau mewn gwahanol rannau o’r sector gael eu hymgorffori a’u hadlewyrchu yn y conglfeini. Er bod rhai ymatebion wedi gofyn am Fframwaith mwy rhagnodol, ein barn ni yw y byddai gwneud hynny’n ei gwneud hi’n anos i ni ddarparu ar gyfer y gwahaniaethau cyd-destunol rhwng darparwyr.

Rydym yn deall ac yn cydnabod bod anghenion a disgwyliadau dysgwyr yn amrywio a, phan fyddwn yn trafod pwysigrwydd deilliannau dysgwyr, rydym yn cytuno bod dimensiwn cyd-destunol i ddeilliannau y dylid ei ystyried. Byddwn yn adlewyrchu hyn yn y Fframwaith a bydd yn llywio ein hymrwymiadau ehangach mewn perthynas â mesurau perfformiad.

Mae gennym gyfle yng Nghymru i gefnogi sector addysg drydyddol sy’n gyson o ran sicrhau profiad dysgwyr o ansawdd da ar bob cam. Bwriedir i’r Fframwaith hwn helpu i gyflawni’r nod hwnnw.

Y camau nesaf

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn ystyried deilliannau cam cyntaf yr ymgynghoriad ymhellach. Wedyn, byddwn yn cynnwys y Fframwaith Ansawdd wedi’i ddiweddaru fel rhan o’r ddogfennaeth yn ein hymgynghoriad yn yr hydref, gan roi cyfle i ddarllenwyr ystyried y ddogfennaeth yn ei chyfanrwydd.

Byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o grwpiau sector. Byddem yn croesawu rhagor o ddeialog cyn cam nesaf yr ymgynghoriad.

Rydym hefyd yn bwriadu rhoi mwy o eglurder ynghylch rhai o’r pwyntiau penodol a godwyd yn yr ymgynghoriad, yn enwedig gan eu bod yn berthnasol i elfennau eraill o’n gweithgarwch dros yr wythnosau nesaf.

I gael sgwrs am y materion hyn neu unrhyw faterion eraill sy’n gysylltiedig â’r Fframwaith, e-bostiwch [email protected].

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
(REF) 2029: diweddariad

Yn dilyn cyhoeddiad Gweinidog Gwyddoniaeth y DU yr wythnos diwethaf, byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â Research England, Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon, i bwyso a mesur yr adborth gan y gymuned ymchwil.

Byddwn yn adeiladu ar ein gweithgarwch ymgysylltu diweddar â phrifysgolion yng Nghymru sydd wedi dangos bod cefnogaeth gyffredinol o blaid trywydd ymarfer REF 2029 o ran cydnabod dealltwriaeth ehangach o ragoriaeth ymchwil, ochr yn ochr â galw dealladwy i symleiddio a lleihau baich.

Drwy grŵp llywio’r pedair gwlad, byddwn yn gweithio gyda thîm REF i gytuno ar unrhyw newidiadau a gaiff eu cyhoeddi erbyn mis Rhagfyr 2025, a byddwn yn profi’r rhain yn erbyn blaenoriaethau Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig.

Ar wahân i hynny, mae Research England heddiw wedi cadarnhau rhaglen newydd o waith sy’n gysylltiedig â’i gyllid ymchwil sefydliadol craidd a dulliau o asesu gwaith ymchwil yn y dyfodol. Bydd gan agweddau o’r rhaglen hon oblygiadau ledled y DU, a byddwn yn ymgysylltu â Research England a’r cyrff cyllido datganoledig eraill i archwilio’r potensial ar gyfer dulliau ar y cyd gan ystyried yr effaith ar y sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru hefyd ar yr un pryd.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/15: Cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg uwch yn 2025/26

Cyflwyniad

1. Yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26, mae Medr yn amcanu at wella a diweddaru ein dealltwriaeth am anghenion a blaenoriaethau dysgu digidol yn y sector trydyddol ac adnabod unrhyw destunau o ddiddordeb ar draws y sector sy’n cynnig potensial ar gyfer cydweithio. Bydd hyn yn cynnwys ystyried effaith a budd mentrau dysgu digidol blaenorol ar gyfer addysg bellach, ac ymgysylltu â Prifysgolion Cymru a sefydliadau AU yn ogystal â rhanddeiliaid eraill.

2. Yn y cyfamser, mae Medr wedi neilltuo cyllid refeniw i gefnogi gweithgareddau dysgu digidol cychwynnol yn y sector AU yn ystod 2025/26. Cyllid a gynigir ar gyfer blwyddyn unigol yw hwn tra ydym yn casglu tystiolaeth i oleuo dulliau a phenderfyniadau cyllido Medr yn y dyfodol (yn amodol ar gyllidebau yn y dyfodol).

Llinellau amser

AmseriadCarreg filltir neu gam gweithredu
Erbyn 24 Hydref 2025Pob sefydliad i gadarnhau a yw’n dymuno derbyn y cyllid a gynigir gan Medr (Atodiad A).
Os derbynnir y cynnig o gyllid, dylid amlinellu sut y bwriedir defnyddio’r cyllid hwn.
Chwefror 2026Bydd y taliad interim (50% o’r dyraniad cyllid) yn cael ei brosesu yn ystod mis Chwefror.
Erbyn 31 Gorffennaf 2026Bydd hi’n ofynnol adrodd ar wariant a chyflwyno hawliad terfynol.
(Bydd Atodiad B yn cael ei ychwanegu unwaith y mae taliadau interim wedi cael eu gwneud. Bydd arweinwyr cyllid enwebedig yn cael eu hysbysu pan fo’r ffurflen hon ar gael.)

Medr/2025/15: Cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg uwch yn 2025/26

Dyddiad:  03 Medi 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/15

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn: 24 Hydref 2025

Crynodeb: Mae’r ddogfen yn nodi dyraniadau cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg uwch ym mlwyddyn academaidd 2025/26, ac yn darparu canllawiau ynghylch gwariant cymwys ac anghymwys.

Bydd pob sefydliad yn cael cynnig cyllid refeniw o £40,000.

Medr/2025/15 Cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg uwch yn 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/14: Gofynion Data Addysg Uwch 2025/26

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn hysbysu darparwyr addysg uwch (DAUwyr) ynghylch y data addysg uwch (AU) a ddefnyddir at y dibenion canlynol:

  • cyfrifo dyraniadau cyllid;
  • monitro’r Mesurau Cenedlaethol;
  • monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth;
  • darparu data i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg;
  • cyhoeddiadau;
  • dadansoddi ansawdd data cofnod myfyrwyr HESA;
  • monitro cynlluniau hepgor ffioedd rhan-amser;
  • monitro gradd-brentisiaethau;
  • goleuo polisi.

2. Yn y cyhoeddiad hwn mae DAUwyr yn cynnwys sefydliadau addysg bellach (SABau) sy’n darparu addysg uwch a sefydliadau addysg uwch (SAUau), a gyllidir gan Medr. Hefyd wedi’u cynnwys mae darparwyr sy’n tanysgrifio i HESA i ddychwelyd eu darpariaeth cyrsiau a ddynodwyd yn benodol, ond nad ydynt yn cael eu cyllido gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch. Nid yw’r darparwyr hyn wedi’u cynnwys yn yr echdyniadau a’r dadansoddiadau mewn perthynas â chyllid ond maent wedi’u cynnwys yn rhai o’r echdyniadau a dadansoddiadau data eraill a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn. Caiff y mathau o ddarparwyr sydd wedi’u cynnwys eu dynodi dan y penawdau unigol isod ac fe’u crynhoir ymhellach yn y tabl yn Atodiad P.

3. Mae’r mapiadau yn yr atodiadau sy’n ymwneud â data myfyrwyr yn seiliedig ar ddata cofnod myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) a gesglir gan Jisc ar gyfer blwyddyn casglu data 2024/25. Mae’r mapiadau a gyflwynir wedi cael eu profi ar ddata a ddychwelwyd ar gofnod myfyrwyr HESA ar gyfer 2023/24 a data a gyflwynwyd yn gynnar ar gyfer 2024/25. Rydym yn croesawu unrhyw adborth sydd gan ddarparwyr ar y mapiadau yn yr atodiadau, naill ai yn ystod proses gyflwyno 2024/25 fel y gallwn wneud newidiadau ar unwaith i raglenni’r Gwasanaeth Rhyngwyneb Adrodd ar Wybodaeth (IRIS) fel y bo angen, neu i fwydo i mewn i’n hadolygiad o’r mapiadau hyn yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dylai unrhyw sylwadau sydd gan ddarparwyr gael eu hanfon i [email protected]. Mae mapiadau ar gyfer yr echdyniad data monitro diwedd blwyddyn wedi’u cynnwys yn Atodiad K o’r cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn (EYM). Croesewir sylwadau ar y mapiad hwnnw hefyd. Bydd unrhyw newidiadau sylweddol i’r mapiadau naill ai yn y ddogfen hon neu yn y cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn, a wneir yn ystod y broses gyflwyno, yn cael eu cyfleu i ddarparwyr.

4. Pe bai unrhyw broblemau mawr gyda’r echdyniadau data yn ystod y broses gyflwyno, er enghraifft materion gyda’r mapiad, y system IRIS neu faterion mewn darparwyr unigol, sy’n golygu nad yw rhai neu’r cyfan o’r allbynnau IRIS yn ddefnyddiadwy, yna ceir posibilrwydd i ail-echdynnu ar ôl casglu. Os yw hyn yn debygol, byddwn yn hysbysu darparwyr.

5. Nid yw dulliau cyllido ar gyfer 2026/27 yn derfynol ar adeg cyhoeddi’r cylchlythyr hwn a gall rhai dulliau dyrannu newid. Y rhai ar gyfer 2025/26 yw’r dulliau cyllido a gynhwysir yn y cylchlythyr hwn. Tybir er mwyn echdynnu data y bydd y dulliau cyllido’n aros yr un fath ar gyfer 2026/27.

Prif newidiadau ar gyfer 2025/26 o’i gymharu â 2024/25

6. Y prif newidiadau a gynhwysir yn y cyhoeddiad hwn o’i gymharu â chyhoeddiad Medr, Medr/2024/01: Gofynion Data Addysg Uwch 2024/25, yw:

  • Mae’r holl atodiadau sy’n cynnwys data myfyrwyr wedi cael eu diweddaru i gyfeirio at unrhyw newidiadau sy’n ymwneud yn benodol ag IRIS a wnaed o ganlyniad i’r ymgynghoriad ynghylch newidiadau ar gyfer Monitro Diwedd Blwyddyn 2023/24, na chawsant eu rhoi ar waith yn 2023/24, er enghraifft codio cofrestriadau myfyrwyr segur/myfyrwyr sy’n ysgrifennu eu traethawd ymchwil a dosrannu credydau meddygaeth a deintyddiaeth.
  • Mae Atodiad F wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau a wnaed ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar yr adolygiad o allbynnau’r dadansoddiad o ansawdd data. Mae’r atodiad yn cynnwys crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae manylion yr allbynnau wedi’u diweddaru yn IRIS 2024/25, ac unrhyw newidiadau a fydd yn cael eu hymgorffori yn IRIS 2025/26, wedi cael eu cynnwys yn Atodiad Q.
  • Mae Atodiad K (Data a ddefnyddir i fonitro cynlluniau bwrsariaeth Meistr Ôl-radd a Addysgir) o gyhoeddiad y llynedd wedi cael ei dynnu allan gan mai 2023/24 oedd y flwyddyn olaf y cafodd dyraniadau eu monitro gan ddefnyddio data cofnod myfyrwyr HESA. Mae’r holl Atodiadau dilynol wedi cael eu diweddaru i adlewyrchu’r ffaith bod yr Atodiad hwn wedi cael ei dynnu allan.

Ffynonellau Data

7. Mae Medr yn defnyddio data o’i arolygon ei hun, data a gasglwyd gan HESA a data o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) wrth gyflawni’r dibenion a ddisgrifir ym mharagraff 1 uchod. Mae data arall megis data Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS) yn cael ei ddefnyddio hefyd i oleuo polisi a darparu gwybodaeth am y sector AU yng Nghymru.

8. Mae Medr yn casglu data gan DAUwyr yng Nghymru a gyllidir ar gyfer eu darpariaeth AU trwy:

  • yr arolwg ystadegau cynnar myfyrwyr addysg uwch (HESES); a hefyd
  • y ceisiadau am ragolygon myfyrwyr a chyllid (SAUau yn unig).

9. Mae Jisc yn casglu data gan yr holl SAUau yn y DU ar gofnodion HESA ar y canlynol:

  • gweithgarwch myfyrwyr, gan gynnwys hynt graddedigion;
  • gwybodaeth ar gyfer myfyrwyr trwy’r dychweliadau Darganfod Prifysgol;
  • cyllid;
  • Rhyngweithiad Addysg Uwch-Busnes a Chymuned (HE-BCI);
  • staff; a
  • rheoli ystadau.

10. Mae Jisc yn casglu’r data canlynol ar gofnodion HESA gan SABau Cymru sy’n darparu AU a gyllidir yn uniongyrchol gan Medr a SABau Cymru a darparwyr amgen â darpariaeth cyrsiau AU a ddynodwyd yn benodol:

  • gweithgarwch myfyrwyr, gan gynnwys hynt graddedigion;
  • gwybodaeth ar gyfer myfyrwyr trwy’r dychweliad Darganfod Prifysgol.

11. Tybir bod darllenwyr y cyhoeddiad hwn yn gyfarwydd ag arolygon HESES a Monitro Diwedd Blwyddyn, cofnodion ac arolygon HESA, y system IRIS a Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 (SAUau yn unig). Mae’r cyhoeddiadau HESES, Monitro Diwedd Blwyddyn a rhagolygon diweddaraf ar gael ar y dudalen casglu data ar wefan Medr; mae llawlyfrau data diweddaraf HESA ar gael ar wefan HESA ac mae cylchlythyrau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ar gael ar wefan REF 2021. Ceir dolenni i gyhoeddiadau neu gylchlythyrau perthnasol neu gyfeiriadau atynt drwy’r cyhoeddiad hwn hefyd.

Sicrhau cywirdeb data

12. Mae data HESA a ddefnyddir wrth ddyrannu cyllid yn amodol ar gadarnhad gan DAUwyr bod Medr wedi echdynnu’r data’n gywir o gofnodion HESA. Fel rheol, ni chaniateir i DAUwyr ddiwygio’r data yn ystod y broses gadarnhau os yw eu data HESA yn anghywir. Yr eithriad i hyn yw pan fo newidiadau i’r dulliau echdynnu neu’r data a ddefnyddir wrth gyllido, neu lle defnyddir ffynhonnell ddata wahanol. Yn yr achosion hyn, byddwn yn caniatáu diwygio’r data a echdynnwyd ar y cam cadarnhau. Gan bod rhai anawsterau’n cael eu profi o hyd wrth ddychwelyd data dan gofnod myfyrwyr newydd HESA rydym yn dal i ganiatáu gwneud newidiadau i’r holl allbynnau IRIS ar y cam cymeradwyo. Dylai darparwyr ddarparu eglurhad o unrhyw newidiadau a wneir. Nid oes angen i ddarparwyr sy’n dychwelyd data at HESA am eu darpariaeth cyrsiau a ddynodwyd yn benodol, nad ydynt yn cael eu cyllido gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU, gymeradwyo unrhyw rai o’r allbynnau IRIS a ddarperir iddynt.

13. Mae’n bwysig bod DAUwyr yn hyderus bod eu holl ddata HESA yn gywir cyn y cyflwynir dychweliadau terfynol i HESA ac y cymeradwyir y data. Dylai DAUwyr nodi unrhyw anghysonderau yn eu data HESA a ganfuwyd mewn blynyddoedd blaenorol, gan gynnwys y rhai a amlygwyd fel rhan o unrhyw ddadansoddiadau o ansawdd data a gyflawnwyd gan Medr, materion a ganfuwyd yng ngweithgarwch DAUwyr eu hunain i graffu ar y crynodebau a allbynnwyd trwy IRIS, problemau y mae HESA neu Medr wedi’u dwyn i’w sylw, a materion a gwallau a ganfuwyd trwy archwiliadau mewnol neu allanol. Yn arbennig, dylai DAUwyr sicrhau eu bod yn astudio’r adroddiadau a gynhyrchwyd gan HESA yn fanwl pan ydynt yn traddodi eu data a gwneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol o ganlyniad cyn cymeradwyo’r data i sicrhau bod eu data’n gredadwy. Rydym yn cydnabod y bu newidiadau helaeth i’r broses casglu data o ganlyniad i roi’r cofnod myfyrwyr newydd ar waith dan Dyfodol Data yn 2022/23, felly byddwn yn parhau i weithio gyda darparwyr a Jisc i roi cyngor ac arweiniad i sicrhau bod ansawdd data’n cael ei gynnal. Gallwn hefyd ddefnyddio’r broses diwygiadau hanesyddol os yn briodol, ar gyfer cofnod myfyrwyr HESA 2024/25.

14. Trefnir bod nifer o adroddiadau cadarnhau ar gael yn y system IRIS ac mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo gan y DAUwyr a gyllidir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU, a chael eu dychwelyd at Medr ar ôl i’r data a gyflwynir i gofnod myfyrwyr HESA ar gyfer 2024/25 gael ei gymeradwyo a hynny erbyn 5 Tachwedd 2025. I leihau nifer y gwiriadau data ar wahân a gynhelir yn ystod y flwyddyn, mae’r rhan fwyaf o’r dychweliadau y mae’n ofynnol eu cymeradwyo trwy adroddiad cadarnhau yn cael eu prosesu trwy IRIS.

15. Bydd manylion y broses ddychwelyd IRIS, elfennau y mae gofyn eu cymeradwyo a therfynau amser cysylltiedig ar gael ar y dudalen we IRIS a thrwy’r cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn 2024/25. Mae amserlen casglu data llawn Medr ar gael trwy ein gwefan.

16. Caiff y terfyn amser ar gyfer cymeradwyo’r allbynnau IRIS ei amlinellu yn y cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn, a 5 Rhagfyr 2025 yw’r dyddiad. Os yw darparwyr yn meddwl y byddant yn cael unrhyw anhawster cyflwyno gwybodaeth erbyn y terfyn amser hwn, dylent gysylltu â ni trwy [email protected].

17. Ar gyfer y cadarnhadau data hynny lle na dderbynnir diwygiadau. os oes gwall yn nata HESA DAU, ac y byddai’r gwall hwn yn arwain at ddyrannu cyllid i’r DAU sy’n fwy na’r hyn y mae ganddo hawl iddo, bydd disgwyl i’r DAU hysbysu Medr fel bod y cyllid yn gallu cael ei addasu’n briodol.

Codio pynciau

18. Mae cofnod myfyrwyr HESA yn defnyddio’r system godio Dosbarthu Pynciau Addysg Uwch (HECoS), ac mae codau HECoS yn cael eu grwpio’n Hierarchaeth Cydgasglu Cyffredin (CAH) ar dair lefel. Mae manylion y codau a’r lefelau CAH, ynghyd â mapio o godau HECoS i’r grwpiadau CAH, ar gael ar dudalen we HECoS. Mae gwybodaeth mewn perthynas â mapio codau HECoS i Gategorïau Pynciau Academaidd (ASC) Medr ar gael ar wefan Medr.

Data a ddefnyddir mewn dyraniadau cyllid addysgu

19. Roedd y dyraniadau cyllid addysgu seiliedig-ar-gredydau ar gyfer darpariaeth israddedig ran-amser yn 2025/26 yn seiliedig ar ddata gwerthoedd credydau 2023/24 a gymerwyd o’r echdyniad data monitro diwedd blwyddyn. Dyrannwyd cyllid y pen ar gyfer 2025/26 ar gyfer pob dull astudio a lefel astudio a addysgir a dyrannwyd y premiwm anabledd ar gyfer pob dull a lefel astudio, gan gynnwys ymchwil ôl-radd. Dyrannwyd yr holl gyllid premiwm arall fel a ganlyn:

  • Premiwm mynediad a chadw (darpariaeth israddedig ran-amser yn unig);
  • Premiwm cyfrwng Cymraeg (darpariaeth israddedig ran-amser i gyd a darpariaeth israddedig amser llawn a nodir yn unig);
  • Premiwm pynciau drud (deintyddiaeth a meddygaeth glinigol ac Elfen Perfformio Conservatoire, darpariaeth israddedig amser llawn yn unig);
  • Premiwm pynciau cost uwch (deintyddiaeth a meddygaeth anghlinigol, gwyddoniaeth a pheirianneg a thechnoleg, a gwyddorau mathemategol, TG a chyfrifiadura, darpariaeth israddedig amser llawn yn unig).

Mae’r cyhoeddiad hwn yn tybio:

  • y bydd y dyraniadau cyllid addysgu seiliedig-ar-gredydau ar gyfer darpariaeth israddedig ran-amser yn 2026/27 yn seiliedig ar ddata gwerthoedd credydau Monitro Diwedd Blwyddyn 2024/25 a
  • bod cyllid y pen a’r un premiymau’n cael eu dyrannu mewn perthynas â’r un grwpiau o fyfyrwyr ar gyfer 2026/27 ag yn 2025/26, at ddibenion cyflwyno gwybodaeth yn y cyhoeddiad hwn.

20. Dylid nodi y gall y tybiaethau hyn newid.

21. Mae’r premiymau mynediad a chadw, anabledd, cyfrwng Cymraeg, pynciau drud a phynciau cost uwch a’r dyraniad y pen yn seiliedig ar ddata ôl-weithredol a gafwyd o gofnod myfyrwyr HESA.

22. Defnyddir data diwedd blwyddyn a echdynnwyd o gofnod myfyrwyr HESA i gyfrifo unrhyw addasiad i gyllid addysgu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cyllid yn ymwneud â hi. Er enghraifft, bydd data Monitro Diwedd Blwyddyn sy’n ymwneud â blwyddyn academaidd 2024/25 yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo unrhyw addasiad sy’n ofynnol i gyllid seiliedig-ar-gredydau israddedig rhan-amser 2024/25. Mae manylion y data diwedd blwyddyn a echdynnwyd o gofnod HESA wedi’u cynnwys yn Atodiad K y cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn (gweler paragraff 1) ac nid ydynt yn cael eu hatgynhyrchu yma.

23. Caiff rhagor o wybodaeth am y data a ddefnyddir mewn cyllid addysgu, gan gynnwys yr elfennau cyllid premiwm a chyllid y pen, ei nodi yn Atodiad A.

24. Mae’r weithdrefn gymeradwyo ar gyfer data a ddefnyddir yn y cyllid y pen a’r cyllid premiwm ar gyfer 2026/27 wedi’i chynnwys yn y broses IRIS. Bydd unrhyw ddata arall y mae gofyn ei defnyddio yn y dyraniadau cyllid addysgu neu gyllid arall ar gyfer 2026/27, nad yw ar gael yn yr allbynnau IRIS, yn cael ei wirio a’i gymeradwyo ar wahân. Dim ond ar gyfer darparwyr a gyllidir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU y caiff allbynnau IRIS at ddibenion cyllid addysgu eu cynhyrchu.

Data a ddefnyddir mewn dyraniadau cyllid ymchwil

25. Yn dilyn REF 2021, defnyddiwyd methodoleg gyllido newydd i gyfrifo’r dyraniad cyllid QR o 2022/23 ymlaen. Cafodd y data a ddefnyddiwyd i gyfrifo cyllid QR 2022/23 ei gymryd o REF 2021 ac o gofnod cyllid HESA 2018/19, 2019/20 a 2020/21. Gan bod yr holl ddata a fewnbynnir yn cael ei rewi, mae’r cylchlythyr hwn yn nodi dull cyllid QR fel yr oedd ar gyfer 2022/23 yn Atodiad B. Dim ond SAUau, heb gynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru, a gynhwysir mewn dyraniadau cyllid QR.

26. Yn dilyn REF 2021, defnyddiwyd methodoleg newydd i gyfrifo’r dyraniad hyfforddiant ymchwil ôl-radd hefyd, sy’n defnyddio data ôl-weithredol a gymerwyd o gofnod myfyrwyr HESA. Bydd dyraniad hyfforddiant ymchwil ôl-radd 2026/27 yn defnyddio data o gofnod myfyrwyr HESA 2024/25. Darperir rhagor o wybodaeth am y meysydd HESA a ddefnyddir yn Atodiad C. Fel a amlinellwyd ym mharagraff 25, rydym yn bwriadu parhau i gael cymeradwyaeth i gymaint o ddata â phosibl trwy’r broses IRIS, a bydd data ymchwil ôl-radd yn cael ei gymeradwyo ym mhroses IRIS 2024/25. Dim ond SAUau, heb gynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru, a gynhwysir mewn dyraniadau cyllid ymchwil ôl-radd; felly ni chynhyrchir allbwn ymchwil ôl-radd IRIS ar gyfer y Brifysgol Agored yng Nghymru, SABau na darparwyr amgen.

Data a ddarperir i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

27. Mae Medr yn darparu data bob blwyddyn, dan gytundeb rhannu data, i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Hefyd o 2020/21, mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, fe wnaed gwaith monitro ar y strwythur codio a’r data ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg a ddychwelwyd ar gofnod myfyrwyr HESA. Mae’r data yma’n cael ei grynhoi a’i gynnwys yn IRIS ar gyfer yr holl ddarparwyr hefyd, gan gynnwys y darparwyr hynny sy’n dychwelyd data am gyrsiau a ddynodwyd yn benodol. Manylir ar y meysydd a’r meini prawf a ddefnyddir i echdynnu’r ddwy set o ddata yn Atodiad D.

Data a ddefnyddir i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth

28. Mae Medr yn defnyddio data HESA i fonitro ethnigrwydd, anabledd, rhyw ac oedran myfyrwyr yn DAUwyr Cymru a staff yn SAUau Cymru. Cyhoeddir y dadansoddiad ar wefan Medr: Sta/Medr/02/2025: Nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr addysg uwch: 2016/17 i 2022/23

29. Cyhoeddodd CCAUC adroddiad monitro cydraddoldeb hil. Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg fanylach ar ddata ethnigrwydd na’r gweithgarwch monitro cydraddoldeb safonol y cyfeirir ato uchod. Bydd dadansoddiad pellach yn cael ei gyhoeddi gan Medr.

30. Ceir rhagor o wybodaeth am y meysydd a ddefnyddir yn Atodiad E.

Data a ddefnyddir ar gyfer cyhoeddiadau

31. Mae Medr yn gynhyrchydd ystadegau swyddogol. Byddwn hefyd yn cyhoeddi adroddiadau ystadegol ar sail ad hoc. Bydd manylion y data a’r fethodoleg a ddefnyddir mewn unrhyw gyhoeddiadau ystadegau swyddogol ac adroddiadau ystadegol yn cael eu cynnwys gyda’r adroddiad. Gellir cael mynediad at gyhoeddiadau trwy wefan Medr.

Dadansoddi ansawdd data cofnod myfyrwyr HESA

32. Mae Medr yn darparu crynodeb (y cyfeirir ato fel ‘dadansoddiad o ansawdd data HESA’) i bob DAU o’i ddata ar gyfer amrywiaeth o feysydd a ddefnyddir ar gyfer cyllido, dadansoddi a monitro, sydd wedi’i fwriadu i roi cymorth i wella ansawdd y cofnod myfyrwyr a bod yn ddefnyddiol i Medr a DAUwyr.

33. Mae’r crynodebau hyn wedi’u bwriadu i ategu’r adroddiadau a ddarperir gan HESA pan fo DAUwyr yn cyflwyno eu cofnod myfyrwyr. Cynhyrchir y crynodebau ansawdd data ar gyfer yr holl ddarparwyr gan gynnwys y darparwyr hynny sy’n dychwelyd data am gyrsiau a ddynodwyd yn benodol.

34. Mae’r crynodebau a gynhyrchir gan Medr yn cael eu cynnwys yn allbwn IRIS fel bod DAUwyr yn gallu gweld eu data eu hunain ar gyfer y flwyddyn gyfredol a data cyfrannau hanesyddol ar gyfer eu DAU a’r sector.

35. Fe adolygwyd fformat yr allbynnau hyn ym mis Mehefin 2025 ac mae canlyniad yr adolygiad a manylion allbynnau wedi’u diweddaru wedi’u cynnwys yn Atodiad F.

36. Ceir rhagor o wybodaeth am y meysydd a’r mapiadau a ddefnyddir yn y dadansoddiad o ansawdd data HESA yn Atodiad F.

Hepgor ffioedd rhan-amser

37. O gyllid 2022/23, mae data a ddefnyddir i ddyrannu’r cynllun hepgor ffioedd rhan-amser wedi bod yn cael ei echdynnu o gofnod myfyrwyr HESA. Fe ychwanegwyd yr echdyniad at y system IRIS ar gyfer 2021/22 a bydd data a echdynnwyd trwy’r system IRIS yn cael ei gymeradwyo gan DAUwyr i gadarnhau bod y data’n gywir. Mae’r broses ar gyfer dyraniadau 2024/25 i’w chael yng nghylchlythyr CCAUC Cynllun hepgor ffioedd israddedig rhan-amser CCAUC (W24/15HE). Ar gyfer dyraniadau 2025/26, bydd manylion yn cael eu cyhoeddi gan Medr yn hydref 2025. Ceir manylion y data a echdynnwyd i DAUwyr ei gymeradwyo yn Atodiad G.

38. Caiff data a ddefnyddir i fonitro gwerth gwirioneddol hepgoriadau ffioedd rhan-amser a hawliwyd gan DAUwyr dan gynllun Medr ei echdynnu o gofnod myfyrwyr HESA trwy’r system IRIS. Bydd data a echdynnwyd trwy’r system IRIS yn cael ei gymeradwyo gan DAUwyr i gadarnhau bod y data’n gywir. Mae’r broses ar gyfer gweithgarwch monitro 2023/24 i’w chael yng nghylchlythyr CCAUC Cynllun hepgor ffioedd israddedig rhan-amser CCAUC (W24/15HE). I fonitro dyraniadau 2024/25, bydd manylion yn cael eu cyhoeddi gan Medr yn haf 2025. Ceir manylion y data a echdynnir i DAUwyr ei gymeradwyo yn Atodiad G. Dim ond ar gyfer darparwyr a gyllidir gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU y cynhyrchir y dyraniadau hepgor ffioedd rhan-amser ac allbynnau monitro IRIS.

Dadansoddi incwm

39. Fel rhan o’r gwaith a wneir i fonitro incwm yn DAUwyr Cymru, defnyddiwyd data mewn perthynas â niferoedd myfyrwyr a staff CagALl yn DAUwyr Cymru. Mae crynodeb o’r data wedi’i gynnwys yn yr allbwn IRIS er gwybodaeth. Ceir manylion y meini prawf a ddefnyddir i echdynnu’r data yn Atodiad H. Cynhyrchir yr allbynnau dadansoddi incwm ar gyfer yr holl ddarparwyr.

Mesurau cenedlaethol

40. Daw’r data a ddefnyddir i fonitro’r mesurau cenedlaethol o gofnodion myfyrwyr, staff, cyllid ac alltraeth cyfanredol HESA; arolygon Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DLHE) a hynt graddedigion (GO) HESA; y Dangosyddion Perfformiad a gyhoeddwyd ar gyfer AU yn y DU; ac arolwg Rhyngweithiad Addysg Uwch-Busnes a Chymuned HESA. Defnyddir ffynonellau eraill, megis yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS), yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) a Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol hefyd. Mae data ar gyfer SABau a gyllidir ar gyfer eu darpariaeth AU gan Medr wedi’i gynnwys mewn is-set o’r mesurau a daw’r data yma o gofnod myfyrwyr HESA, arolygon Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch a Hynt Graddedigion HESA; y Dangosyddion Perfformiad a gyhoeddwyd ar gyfer AU yn y DU, yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol.

Y mesurau a gaiff eu monitro gan ddefnyddio’r data yma yw:

  • Ehangu mynediad;
  • Cyfranogi;
  • Cadw;
  • Rhan-amser;
  • Yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr;
  • Cyfrwng Cymraeg;
  • Symudedd myfyrwyr;
  • Ansawdd;
  • Cwynion
  • Cyflogaeth;
  • Cyflogaeth graddedigion;
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus;
  • Cyfanswm incwm Rhyngweithiad Addysg Uwch-Busnes a Chymuned am bob aelod o staff academaidd CagALl;
  • Gweithgarwch cwmnïau deilliedig;
  • Gweithgarwch dechrau busnes (graddedigion);
  • Staff Ymchwil;
  • Myfyrwyr Ymchwil Ôl-radd;
  • Doethuriaethau a ddyfarnwyd;
  • Incwm ymchwil;
  • Myfyrwyr o’r UE/Myfyrwyr Tramor;
  • Staff o’r UE/Staff Tramor;
  • Addysg drawswladol.

41. Ceir disgrifiad o bob un o’r mesurau hyn a’r data a ddefnyddir i’w monitro yn Atodiad I.

42. Mae meysydd eraill a gaiff eu monitro a’u cynnwys yn y rhestr o fesurau cenedlaethol yn cynnwys:

  • Amrywiaeth y boblogaeth myfyrwyr;
  • Deilliannau effaith REF;
  • Deilliannau REF;
  • Iechyd ariannol;
  • Ystadau;
  • Cyflog uwch aelodau o staff a’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau;
  • Data staff mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth

ond nid yw mesurau unigol wedi’u nodi; yn lle hynny, mae’r rhain yn feysydd sydd eisoes yn cael eu dadansoddi’n fwy eang a’u cyhoeddi gan Medr. Ceir gwybodaeth ble i ddod o hyd i’r dadansoddiadau hyn yn Atodiad I hefyd.

43. Mae’r mesurau sy’n seiliedig ar gofnod myfyrwyr HESA yn cael eu hechdynnu trwy’r system IRIS a byddant yn cael eu cymeradwyo gan DAUwyr, heblaw am y rhai sy’n cyflwyno data am eu cyrsiau a ddynodwyd yn benodol, i gadarnhau bod y data’n gywir. Nid yw’r darparwyr hynny sy’n cyflwyno data am eu cyrsiau a ddynodwyd yn benodol yn cael eu cynnwys wrth gyhoeddi a monitro’r mesurau hyn, er bod yr allbynnau ar gael iddynt trwy IRIS er gwybodaeth.

44. Cafodd y mesurau cyfranogiad a chadw eu monitro gan ddefnyddio data a gasglwyd ar gofnod myfyrwyr HESA, a gyfrifwyd ac a gyhoeddwyd gan HESA fel dangosyddion perfformiad y DU. Gan nad yw Dangosyddion Perfformiad y DU yn cael eu diweddaru mwyach rydym wedi datblygu ein methodoleg ni ein hunain ar gyfer y mesur cyfranogiad, ac mae gwaith yn parhau ar gyfrifo’r mesur cadw.

Data a ddefnyddir i fonitro gradd-brentisiaethau

45. Fe wnaeth cylchlythyr CCAUC W23/04HE gyhoeddi cynigion ar gyfer cyllido gradd-brentisiaethau 2023/24 a 2024/25 a darparu rhagor o wybodaeth am y broses gyflwyno ar gyfer DAUwyr. Yn yr ymgynghoriad Medr/2024/02, gofynnwyd i ddarparwyr wneud sylwadau am y cynnig i gasglu data ar raglenni gradd-brentisiaethau a gyllidir gan Medr fel rhan o arolwg HESES 2024/25, a fyddai’n disodli’r tri adroddiad monitro yn ystod y flwyddyn a gesglir ar hyn o bryd. Derbyniwyd y cynnig hwn gan DAUwyr ac fe’i rhoddwyd ar waith fel rhan o arolwg HESES 2024/25.

46. Caiff data a ddefnyddir i fonitro’r darlun ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer nifer y myfyrwyr a gofrestrwyd ar radd-brentisiaethau mewn DAUwyr ei echdynnu o gofnod myfyrwyr HESA trwy’r system IRIS a bydd yn cael ei gymeradwyo gan DAUwyr i gadarnhau bod y data’n gywir. Ceir manylion y data a echdynnir i DAUwyr ei gymeradwyo yn Atodiad J. Nid yw’r allbynnau gradd-brentisiaethau o IRIS yn cael eu cynhyrchu ar gyfer SABau na darparwyr amgen.

47. Bydd y data HESA a ddarperir yn y system IRIS yn cael ei ddefnyddio i wirio’r data a gasglwyd fel rhan o ddychweliad HESES 2024/25, ac a ddefnyddiwyd i ddyrannu cyllid. Mae’n bosibl y bydd yn ofynnol gwneud addasiadau i gyllid. Os felly, bydd gwybodaeth am sut y bydd addasiadau i gyllid yn cael eu rhoi ar waith yn cael ei chyfleu i DAUwyr ar wahân.

Data a ddefnyddir i gyfrifo Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF)

48. Mae cylchlythyr CCAUC W22/41HE yn adrodd ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ar yr adolygiad yn 2022 o Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF) ac yn cadarnhau’r fethodoleg ddyrannu a gofynion eraill wedi’u diweddaru sy’n gysylltiedig â Chronfa Arloesi Ymchwil Cymru a gyflwynwyd yn 2023/24. Caiff data a ddefnyddir yn y dyraniad ei ddisgrifio yn Atodiad K. Dim ond SAUau a gynhwysir yn nyraniadau cyllid Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru.

Data a ddefnyddir i gyfrifo cyllid Cyfalaf

49. Mae cylchlythyr CCAUC W24/12HE yn amlinellu’r fethodoleg ddyrannu a ddefnyddiwyd ar gyfer cyllid Cyfalaf 2024/25. Caiff data CagALl myfyrwyr a ddefnyddiwyd yn y dyraniad ei ddisgrifio yn Atodiad N. Dim ond SAUau a gynhwysir yn y dyraniadau cyllid Cyfalaf.

Data a ddefnyddir i gyfrifo cyllid Cydraddoldeb hil a chyllid Llesiant ac iechyd

50. Fe wnaeth cyhoeddiad Medr, Medr/2024/03, gyhoeddi dyraniadau cyllid cydraddoldeb hil ar gyfer 2024/25 ac fe wnaeth cyhoeddiad Medr, Medr/2024/07, gyhoeddi dyraniadau gweithredu strategaethau Llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, a dyraniad ychwanegol ar gyfer Llesiant ac iechyd yn 2024/25. Mae’r dyraniadau cydraddoldeb hil a’r dyraniadau llesiant ac iechyd yn defnyddio’r un data o gofnod myfyrwyr HESA a ddisgrifir yn Atodiad L. Bydd y data ar gael yn system IRIS 2024/25 a bydd yn cael ei gymeradwyo gan DAUwyr a gyllidir gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU, i gadarnhau bod y data’n gywir. Dim ond ar gyfer DAUwyr a gyllidir gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU y cynhyrchir yr allbynnau o IRIS i gyfrifo’r cyllid hwn.

Data a ddefnyddir i gyfrifo cyllid Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu (TES)

51. Mae cyhoeddiad Medr, Medr/2025/09: Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26, yn gwahodd darparwyr AU i gyflwyno cynlluniau cyflawni dwy flynedd ar gyfer y cyfnod rhwng 2025/26 a 2026/27 ac yn nodi dyraniadau sefydliadol ar gyfer 2025/26. Byddwn yn defnyddio’r un fethodoleg gyllido i gyfrifo dyraniadau 2026/27 gan ddefnyddio data gwiriedig sydd wedi’i gynnwys yn y system IRIS ar gyfer 2024/25. Dylai data gael ei gymeradwyo gan DAUwyr a gyllidir gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU, i gadarnhau bod y data’n gywir. Ceir manylion y data a echdynnir i DAUwyr ei gymeradwyo yn Atodiad M. Nid yw’r allbynnau o IRIS i gyfrifo’r cyllid hwn yn cael eu cynhyrchu ar gyfer y darparwyr hynny sy’n dychwelyd data at HESA ynghylch eu darpariaeth cyrsiau a ddynodwyd yn benodol.

Data a ddefnyddir i gyfrifo cyllid Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru

52. Fe wnaeth cyhoeddiad Medr, Medr/2024/08, gyhoeddi cyllid parhaus i gefnogi gweithgareddau newydd a phresennol mewn sefydliadau cymwys sy’n gwella diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil cadarnhaol. Caiff y data a ddefnyddir i gyfrifo’r cyllid hwn ei ddisgrifio yn Atodiad O. Defnyddir data myfyrwyr a staff HESA. Bydd y data myfyrwyr yn cael ei gymeradwyo yn y broses IRIS yn 2024/25. Dim ond SAUau, heb gynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru, a gynhwysir yn y dyraniadau cyllid ac fe gynhyrchir yr allbynnau o IRIS ar gyfer y rhai a gyllidir yn unig.

Ffyrdd eraill y defnyddir y data

53. Gall unrhyw ddata a ddisgrifir gael ei ddefnyddio i oleuo polisi. Yn arbennig, bydd data ar fyfyrwyr a addysgir yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg, a staff sy’n addysgu neu sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn cael ei ddefnyddio i oleuo polisi ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Bydd data sy’n ymwneud â myfyrwyr mewn SABau a gyllidir yn uniongyrchol, sydd mewn SABau dan drefniadau breinio o SAUau, neu mewn SABau â darpariaeth cyrsiau a ddynodwyd yn benodol, yn cael ei ddefnyddio i oleuo polisi ar AU mewn SABau.

54. Mae HESA yn gweithredu cyfleuster newidiadau hanesyddol ar gyfer data myfyrwyr a chyfleuster cronfa ddata sefydlog ar gyfer ffrydiau data eraill sy’n rhoi’r cyfle i DAUwyr wneud newidiadau ar ôl casglu i set ddata yn dilyn cau’r casgliad data byw. Mae’r cyfleuster hwn ar wahân i’r brif broses casglu data, fe godir tâl amdano a dim ond ar ôl cael awdurdodiad penodol gan Medr y mae ar gael. Mae’r cyfleuster ar agor am beth amser ar ôl i’r casgliad data byw cyfatebol gau, felly dylai darparwyr fod yn ymwybodol efallai na fydd data a gyflwynir ganddynt trwy’r cyfleuster hwn yn cael ei ddefnyddio ar unwaith a’i bod yn bosibl mai dim ond mewn dadansoddiadau o gyfresi amser yn y dyfodol y bydd yn ymddangos.

55. Caiff y data a ddisgrifir ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru yn ei dadansoddiad o’r sector addysg uwch hefyd, gan gynnwys dadansoddiad a gyhoeddir yn ei bwletinau ystadegol a data a gyflwynir ar wefan StatsCymru.

56. Caiff data sy’n ymwneud â niferoedd myfyrwyr a ragwelir mewn SAUau yn unig ei gasglu trwy’r cyhoeddiad cais am ragolygon sydd ar gael ar wefan Medr: Medr/2025/04: Cais am ragolygon 2025. Defnyddir y data yma ar gyfer prosesau monitro a chynllunio mewnol Medr ac nid yw’n cael ei gyhoeddi ar lefel darparwyr.

57. Dylid nodi, er bod y cyhoeddiad hwn yn nodi’r meysydd HESA a ddefnyddir gan Medr, y gall unrhyw un neu rai o’r meysydd y mae DAUwyr yn eu dychwelyd ar gofnodion HESA gael ei/eu d(d)efnyddio yn y dyfodol at ddibenion cyllido, at ddibenion rheoleiddiol, at ddibenion monitro, i oleuo polisi neu ar gyfer cyhoeddiadau, a’u bod hefyd yn cael eu defnyddio gan sefydliadau eraill. Felly, mae’n bwysig bod yr holl feysydd HESA yn cael eu cwblhau’n llawn ac yn gywir i ddangos darlun teg o’r ddarpariaeth a’r gweithgarwch yn y DAU.

Archwilio

58. Gallai’r holl ddata a ddefnyddir ar gyfer cyllido a monitro gael ei archwilio. Mae manylion y broses archwilio ddiweddaraf ar gyfer data addysg uwch a rhagor o fanylion am archwilio mewnol ac allanol wedi’u cynnwys ar y dudalen data a dadansoddi ar wefan Medr.

59. 2021/22 oedd y flwyddyn olaf yn y cylch archwilio allanol cyfredol ar gyfer data AU. Cyfrifoldeb Medr bellach yw’r broses archwilio allanol a bydd y broses yn cael ei hadolygu.

60. Fel mesur interim, yn lle archwiliadau allanol, a hyd oni fydd y broses wedi cael ei hadolygu gan Medr, bydd aelodau o dîm Ystadegau Addysg Uwch Medr yn cwrdd â chysylltiadau data ym mhob darparwr ar wahân, lle byddwn yn trafod eitemau megis ansawdd data a chanfyddiadau archwilio blaenorol.

Defnyddio meysydd a ddeilliwyd o HESA

61. Lle mae meysydd a ddeilliwyd o HESA wedi cael eu defnyddio fe’u dangosir yn y manylion codio ym mhob adran berthnasol o’r atodiadau a ganlyn. Caiff yr holl feysydd a ddeilliwyd o HESA ar gyfer y cofnod myfyrwyr eu dangos yn y fformat Endid.Z_ENWMAES, ac ar gyfer y cofnod staff yn y fformat Xenwmaes. Caiff manylion meysydd a ddeilliwyd o HESA ar gyfer cofnod myfyrwyr a chofnod staff 2024/25 eu cyhoeddi ar wefan HESA. Lle defnyddiwyd maes a ddeilliwyd, mae’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i ddeillio’r maes o’r meysydd gwreiddiol yng nghofnod HESA ar gael trwy wefan HESA.

Cynnwys

62. Mae cynnwys yr atodiadau fel a ganlyn:

Rhagor o wybodaeth

63. Mae croeso i ddarparwyr gysylltu â ni os oes arnynt angen rhagor o eglurder neu os oes ganddynt sylwadau am y mapiadau a amlinellir yn yr atodiadau; bydd unrhyw ddiweddariadau pellach sy’n ofynnol yn cael eu cyfleu i ddarparwyr.

64. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn at Rachael Clifford ([email protected]).

Medr/2025/14: Gofynion Data Addysg Uwch 2025/26

Dyddiad:  01 Medi 2025

Cyfeirnod: Medr/2025/14

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach sy’n darparu addysg uwch; Penaethiaid darparwyr sy’n dychwelyd darpariaeth cyrsiau a ddynodwyd yn benodol ar gofnod myfyrwyr HESA

Ymateb erbyn:  05 Rhagfyr 2025

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad yn hysbysu darparwyr addysg uwch ynghylch y data addysg uwch a ddefnyddir i gyfrifo dyraniadau cyllid; i fonitro’r Mesurau Cenedlaethol; i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth; ar gyfer cyhoeddiadau; i ddarparu data i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol; i ddadansoddi ansawdd data cofnod myfyrwyr HESA; i fonitro cynlluniau hepgor ffioedd rhan-amser a gradd-brentisiaethau; ac i oleuo polisi.

Medr/2025/14 Gofynion Data Addysg Uwch 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/13: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2025/26

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu canllawiau i gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch, ynghyd â dyraniadau cyllid gwrth-hiliaeth, disgwyliadau o ran arian cyfatebol, a gofynion monitro ar gyfer 2025/26.

2. Darparwyd y cyllid hwn yn wreiddiol yng nghylchlythyr CCAUC W22/05HE: Ymgynghoriad ar gyllid i gefnogi cydraddoldeb hiliol mewn addysg uwch,i ymdrin â gwrth-hiliaeth a chefnogi newid diwylliant mewn addysg uwch, yn unol â datblygiadau polisi hil, mynediad a llwyddiant yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Roedd y cyhoeddiad cychwynnol yn cynnwys amodau arian cyfatebol a’r disgwyliad i brifysgolion ennill dyfarniad siarter cydraddoldeb hiliol erbyn 2024/25. Cadarnhaodd pob prifysgol wrth CCAUC eu bwriad i gyflawni’r ymrwymiad hwn erbyn diwedd 2025.

3. Dylid darllen y cyhoeddiad hwn ar y cyd â chylchlythyr CCAUC W23/06HE: Addysg uwch ddiogel a chynhwysol: cefnogi addysg cydraddoldeb ac amrywiaeth. Ym mis Hydref 2024 cyhoeddodd Medr ei ganllawiau ar gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch a sefydlodd y cyd-destun ar gyfer y sector addysg uwch.

4. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030. Yn 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn newydd o’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i sicrhau cynnydd cyflym yn erbyn camau penodol, gan gynnwys camau’n gysylltiedig ag addysg drydyddol. Rydym yn disgwyl i brifysgolion ystyried y camau gweithredu hyn a chyfrannu atynt.

5. Rydym yn croesawu’r ffaith bod gan wyth prifysgol yng Nghymru bellach Ddyfarniad Efydd y siarter cydraddoldeb hiliol. Mae prifysgolion wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gweithio tuag at gyflawni’r siarter cydraddoldeb hiliol. Mae’r siarter yn cefnogi’r broses o ddatblygu’n brifysgol wrth-hiliol. Rydym yn disgwyl i bob prifysgol barhau i gyflawni yn erbyn eu cynlluniau gweithredu ar gyfer y siarter yn 2025/26.

Dyletswyddau a chyfrifoldebau Medr

6. Mae gan Medr ddyletswydd strategol i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn addysg drydyddol, gan gynnwys y mod y mae hyn yn berthnasol i grwpiau tangynrychioledig a phobl â nodweddion gwarchodedig. Rhoddir esboniad manwl ym mharagraffau 8-11 Medr/2024/03.

7. Mae Medr wedi cyhoeddi ei gynllun strategol sy’n nodi ein hymrwymiad ariannu i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r sector i wneud cynnydd tuag at greu Cymru wrth-hiliol ac at sicrhau amgylcheddau dysgu a gwaith sy’n gynhwysol i bawb, waeth beth fo’u hunaniaeth. Mae cynllun gweithredol Medr hefyd yn egluro y byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a darparwyr addysg drydyddol i gyfrannu at y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys: monitro cynnydd darparwyr addysg drydyddol yn erbyn cynlluniau gweithredu ac/neu ymrwymiadau siarter, a datblygu a chyhoeddi data monitro cydraddoldeb hiliol.

8. Yn 2025/26, bydd Medr yn ymgynghori ar amodau rheoleiddio newydd ar gyfer cofrestru a chyllido a fydd yn cynnwys ei amodau ar gyfer llesiant a chyfle cyfartal i staff a dysgwyr. Mae’r amod llesiant yn cynnwys gofyniad sy’n ymwneud â diogelwch staff a dysgwyr, sydd yn y cyd-destun hwn yn golygu rhyddid rhag niwed gan gynnwys aflonyddwch, trais, camymddygiad a throseddau casineb. Bydd pwerau rheoleiddio Medr hefyd yn gosod disgwyliad ar ddarparwyr i gefnogi cyfle cyfartal i fyfyrwyr tangynrychioledig. Mae rhai sydd wedi’u tangynrychioli yn golygu’r rhai sy’n wynebu rhwystrau neu anfantais gymdeithasol, ddiwylliannol, economaidd neu sefydliadol.

9. Mae Diweddariad Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru wedi cryfhau ei bwyslais ar arweinyddiaeth a grwpiau â blaenoriaeth. Disgwylir y bydd atebolrwydd am ymrwymiad prifysgolion i wrth-hiliaeth yn cael ei oruchwylio gan yr aelodau uwch priodol o staff (fel Dirprwy Is-Gangellorion) gyda chefnogaeth cyrff llywodraethu. Disgwylir i brifysgolion hefyd wella’u hymgysylltiad â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a’u cefnogaeth i’r cymunedau hynny.

Pwrpas cyllid gwrth-hiliaeth

10. Mae’r cyllid hwn i atal anghydraddoldeb, mynd i’r afael â hiliaeth a chefnogi’r broses o ymwreiddio polisïau ac arferion gwrth-hiliol mewn prifysgolion. Mae’n cyfrannu at newid diwylliant ac at fodloni disgwyliadau’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru.

11. Er bod y cyllid hwn wedi’i fframio o ran hil ac ethnigrwydd, dylai prifysgolion fabwysiadu dull cyfannol o gydnabod sut mae hil ac ethnigrwydd yn croestorri â nodweddion gwarchodedig a grwpiau a materion eraill o fewn cymdeithas, gan gynnwys trais, cam-drin ac aflonyddu ar sail hunaniaeth, llesiant ac iechyd meddwl, ffoaduriaid a cheiswyr lloches a chrefydd a chred, ymhlith eraill.

Dyraniadau ac amodau cyllid ar gyfer 2025/26

12. Mae dyraniadau cyllid 2025/26:

  1. yn amodol ar ymrwymiad gan brifysgolion i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer dyraniadau (fel mewn blynyddoedd cynt, ac fel y nodir yn y tabl cyllido isod);
  2. yn defnyddio data myfyrwyr 2023/24 HESA sy’n seiliedig ar boblogaeth gofrestru safonol HESA, wedi’i ostwng i nifer yr unigolion, h.y. os bydd myfyriwr wedi cofrestru ar fwy nag un cwrs ni chaiff ond ei gyfrif unwaith);
  3. yn defnyddio data myfyrwyr sy’n cynnwys yr holl gorff o fyfyrwyr: pob dull, lefel a domisil;
  4. yn seiliedig ar ddata HESA 2023/24 sydd wedi’u dilysu gan y brifysgol;
  5. yn ôl ein harfer, mae data myfyrwyr y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama wedi’u cynnwys yn nata a dyraniad Prifysgol De Cymru; ac
  6. yn cael eu cyflwyno ar ffurf un taliad ym mis Hydref 2025. Os yw’r adroddiadau’n anfoddhaol neu’n gyfyngedig, rydym yn cadw’r hawl i adennill cyllid.

13. Dyma ein disgwyliadau ar gyfer defnyddio arian cyfatebol:

  1. na ddylai dyraniad Medr arwain at unrhyw ostyngiad yn yr adnoddau a ddarperir eisoes gan brifysgolion ar gyfer datblygiadau gwrth-hiliol, gan gynnwys eu hymrwymiad i sicrhau a dangos cynnydd ac ymrwymiad parhaus tuag at ennill eu hachrediad siarter;
  2. bod prifysgolion yn clustnodi adnoddau ychwanegol i gefnogi camau gwrth-hiliaeth, sy’n uwch na chyfanswm dyraniad Medr o £1m;
  3. lle caiff unrhyw weithgareddau neu wasanaethau gwrth-hiliaeth sy’n bodoli eisoes eu hariannu drwy gynllun mynediad a ffioedd neu o ffynonellau eraill yn 2025/26, ceir defnyddio’r cyllid a ddarperir gan Medr drwy’r canllawiau hyn neu drwy’r arian cyfatebol gwrth-hiliaeth cysylltiedig i brifysgolion er mwyn cynyddu darpariaeth y gweithgareddau a’r gwasanaethau hyn (mae cynlluniau mynediad a ffioedd yn parhau i fod yn weithredol yn 2025/26 nes bo’r broses gofrestru newydd yn weithredol o 2026/27). Yn yr achos hwn, bydd yn rhaid i’r brifysgol gyfleu’n glir ym mhob adroddiad ac mewn unrhyw waith monitro cydraddoldeb hiliol, sut ac i ba raddau y mae’r cyllid hwn wedi gwella gweithgareddau a gwasanaethau, a gallai hynny fod yn destun archwiliad gennym ni;
  4. ceir defnyddio arian cyfatebol neu arian Medr i dalu costau tanysgrifiadau aelodaeth perthnasol, hyfforddiant wedi’i hwyluso’n allanol neu arbenigedd arall allanol;
  5. rhaid i brifysgolion gyfrannu’n effeithiol at nodau a chamau gweithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol;
  6. bod prifysgolion yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r safonau a nodir yn y Siarter Cydraddoldeb Hiliol a’r camau yn eu cynllun gweithredu;
  7. bod prifysgolion yn cydweithredu’n effeithiol ar draws y sector trydyddol a chyda phartneriaid allanol, gan gynnwys rhai â phrofiad bywyd, i ddatblygu a rhannu dysgu ac ymarfer; a
  8. bod yr arian cyfatebol a dyraniad Medr yn arwain at gynyddu cynnydd a chyflymder y cynnydd tuag at ymdrin â hiliaeth, i ymwreiddio arferion gwrth-hiliaeth, gwella cydraddoldeb hiliol, a chynnydd tuag at ddyfarniad siarter ac/neu barhau i gyflawni dyfarniad siarter.

14. Dyma ddyraniadau 2025/26:

SefydliadDyraniad Medr 2025/26 (gydag isafswm o £50K)
(£)
Arian cyfatebol y sector 2025/26
 (dim isafswm)

(£)
2025/26
Cyfanswm

(£)
Prifysgol De Cymru160,566160,566321,132
Prifysgol Aberystwyth53,88153,881107,762
Prifysgol Bangor73,83073,830147,660
Prifysgol Caerdydd224,721224,721449,443
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant106,160106,160212,320
Prifysgol Abertawe144,340144,340288,679
Prifysgol Metropolitan Caerdydd77,94877,948155,896
Prifysgol Wrecsam54,34554,345108,689
Y Brifysgol Agored yng Nghymru104,210104,210208,420
Cyfanswm1,000,0001,000,0002,000,000

Adnoddau a gwybodaeth

15. Ym mis Gorffennaf 2023 cyhoeddodd Prifysgolion y DU Tackling racial harassment in higher education: progress since 2020 i adolygu effaith canllawiau 2020 ar sut mae prifysgolion yn mynd i’r afael ag aflonyddu hiliol mewn AU a sut y gallant wella ymhellach. Mae Prifysgolion y DU hefyd wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau ar newid y diwylliant ac ar grefydd a chred, gan fynd i’r afael â gwrthsemitiaeth ac islamoffobia) i ddarparu canllawiau ymarferol er mwyn llywio ystyriaethau hiliol.

16. Ym mis Mawrth 2024, lansiodd y Black Leadership Group Higher Education Anti-Racism Toolkit (HEART). Mae’n cynnwys cynllun deg pwynt i ymwreiddio gwrth-hiliaeth mewn systemau addysg uwch (Gan gynnwys strategaeth, addysgeg a phrofiadau myfyrwyr a staff). Gallai’r adnodd hwn fod yn ddefnyddiol i brifysgolion.

17. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu matrics aeddfedrwydd fel offeryn hunanasesu sy’n gysylltiedig â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae’r matrics aeddfedrwydd wedi’i gynnwys yn Atodiad A er gwybodaeth. Gallai’r adnodd hwn fod yn ddefnyddiol i brifysgolion.

18. Wrth i Medr ddatblygu, drwy ymgynghori, ei amodau rheoleiddio a’i ganllawiau ar lesiant a chyfle cyfartal i staff a myfyrwyr, rydym yn annog prifysgolion i adolygu eu gweithgareddau gwrth-hiliaeth, gan ystyried yr amodau rheoleiddio a fydd yn berthnasol iddynt o 2026/27.

Cyflawniadau a monitro

19. Dylai gwybodaeth monitro a chyflawniadau ar gyfer 2025/26 adeiladu ar y cynlluniau ar gyfer 2024/25 a gyflwynwyd i Medr, a bod yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o broses y siarter cydraddoldeb hiliol a chanlyniadau cynlluniau gweithredu, yn ogystal â phrofiadau staff a dysgwyr. Mae templed monitro wedi cael ei ddarparu yn Atodiad B a dylai’r dogfennau a anfonir atom gynnwys:

  1. Cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth 2025/25 y brifysgol,
  2. Templed monitro’r brifysgol, gan gynnwys cynnydd a chyflawniadau hyd at fis Gorffennaf 2026; a
  3. Datganiad ariannu i roi cyfrif am ddyraniad Medr ac arian cyfatebol y brifysgol.

20. Os yw cynlluniau gweithredu’r prifysgolion yr un peth â’u cynlluniau gweithredu siarter cydraddoldeb hiliol, gallant gyflwyno cynllun gweithredu’r siarter er mwyn osgoi ail-wneud gwaith a lleihau’r baich o orfod adrodd yn ddiangen.

21. Os bydd Llywodraeth Cymru yn gosod disgwyliadau newydd ar addysg uwch neu’r sector trydyddol yn ystod y cyfnod cyllido, mae’n bosib y byddwn yn gofyn am friffiau gwybodaeth ychwanegol ac/neu’n gofyn fonitro ychwanegol.

Dyddiadau monitro a chyflwyno ar gyfer cyllid ac adroddiadau 2025/26

22. Y dyddiad cyflwyno ar gyfer cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth prifysgolion yw Dydd Llun, 13 Hydref 2025. Cyflwynwch i [email protected].

23. Dyddiad cyflwyno templed monitro 2025/26 yw Dydd Gwener, 23 Hydref 2026. Dychwelwch y ddogfen fonitro wedi’i chwblhau (Atodiad B) i [email protected].

Asesu effaith ein polisïau

24. Rydym wedi cynnal ymarfer sgrinio asesu effaith er mwyn helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb. Rydym yn rhagweld effaith gadarnhaol ar hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd a chred.

25. Buom hefyd yn ystyried effaith y polisi hwn ar y Gymraeg, a darpariaeth Gymraeg yn sector AU Cymru, a’r effeithiau posibl ar y nodau a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cysylltwch ag [email protected] am ragor o wybodaeth am asesiadau effaith cydraddoldeb.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau i’w cyflwyno

26. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Savanna Jones ([email protected]).

27. Cyflwynwch eich cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth i [email protected] erbyn Dydd Llun, 13 Hydref 2025.

28. Cyflwynwch eich templed monitro i [email protected] erbyn Dydd Gwener, 23 Hydref 2026.

Medr/2025/13: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2025/26

Dyddiad: 26 Awst 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/13

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn:  13 Hydref 2025 a 23 Hydref 2026 i [email protected]

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu canllawiau i gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch, a dyraniadau cyllid gwrth-hiliaeth, disgwyliadau o ran arian cyfatebol, a gofynion monitro ar gyfer 2025/26.

Medr/2025/13 Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/12: Cyllid digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2025/26

Cyflwyniad

1. Yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26, bydd Medr yn coladu tystiolaeth am effaith a manteision yr ‘alwad i weithredu’ flaenorol ar ddysgu digidol ar gyfer addysg bellach (AB) ac yn datblygu ein sylfaen dystiolaeth ar anghenion a blaenoriaethau ar gyfer dysgu digidol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda Jisc ar ddiweddariad canol tymor i’r fframwaith strategol Digidol 2030. Bydd y gweithgareddau hyn yn goleuo gwaith cynllunio ar gyfer dull strategol Medr o ymdrin â dysgu digidol yn y sector trydyddol yn y dyfodol.

2. Mae setliad cyllid Llywodraeth Cymru i Medr ar gyfer 2025/26 yn cynnwys cyllid cyfalaf digidol o £3 miliwn ar gyfer AB. Diben y cyllid hwn yw darparu parhad ar gyfer AB ar ôl yr alwad i weithredu; cynnal y momentwm gyda chynnydd a wnaed dros y tair blynedd ddiwethaf; a helpu i ymdrin â’r pwysau penodol o ran cyllid a godwyd gan sefydliadau AB. Bydd pob sefydliad AB hefyd yn cael dyraniad refeniw digidol o £25,000 yn 2025/26.

Llinellau amser

AmseriadCarreg filltir neu gam gweithredu
Erbyn 24 Hydref 2025Pob sefydliad i amlinellu sut y mae’n bwriadu defnyddio’r cyllid (Atodiad B).
Rhagfyr 2025Bydd taliad cyfalaf interim (50% o’r dyraniad) yn cael ei brosesu yn ystod mis Rhagfyr.
Mawrth 2026Bydd y 50% sy’n weddill o’r dyraniad cyfalaf a thaliad interim o £15,000 o gyllid refeniw yn cael ei brosesu yn ystod mis Mawrth.
Erbyn 31 Gorffennaf 2026Adroddiad ar wariant a hawliad terfynol. (Bydd Atodiad C yn cael ei ychwanegu unwaith y mae taliadau interim wedi cael eu gwneud. Bydd arweinwyr cyllid enwebedig yn cael eu hysbysu pan fo’r ffurflen hon ar gael.)

Medr/2025/12: Cyllid digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2025/26

Dyddiad:  26 Awst 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/12

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol

Ymateb erbyn:  24 Hydref 2025

Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn nodi dyraniadau cyllid cyfalaf a refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach ym mlwyddyn academaidd 2025/26, ac yn darparu canllawiau ynghylch gwariant cymwys ac anghymwys.

Medr/2025/12 Cyllid digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/15/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Chwefror i Ebrill 2025 (dros dro)

  • Dechreuodd 3,895 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch3 2024/25 (p), o gymharu â 4,570 yn Ch3 2023/24.
  • Ymhlith y prentisiaethau sylfaen lefel 2 y gwelwyd y gostyngiadau mwyaf o gymharu â Ch3 y flwyddyn gynt, sy’n ostyngiad o 19% (p).
  • Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd yn Ch3 2024/25 (p) hefo 1,985 raglenni dysgu prentisiaethau yn ddechreuwyd. Roedd 51% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Roedd 67% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr benywaidd yn Ch3 2024/25 (p), roedd hyn dim wedi newid o gymharu â Ch3 2023/24.
  • Roedd 44% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr 25 i 39 oed yn Ch3 2024/25 (p) o gymharu â 42% yn Ch3 y flwyddyn gynt.
  • Roedd 16% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn Ch3 2024/25 (p), roedd hyn wedi cynyddu 3 pwynt canran o gymharu â Ch3 2023/24.
  • Roedd 13% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau yn Ch3 2024/25 (p) gan ddysgwyr a oedd yn nodi bod ganddynt anabledd ac/neu anhawster dysgu.
  • Roedd 12% o’r dysgwyr a ddechreuodd raglenni dysgu prentisiaeth yn ddysgwyr sy’n byw yn y 10% o gymdogaethau â’r mwyaf o amddifadedd yng Nghymru yn 2024/25 Ch3 (p).
  • Mae 77,385 o brentisiaethau wedi’u dechrau ers Ch4 2020/21, yn rhan o’r cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o 100,000 o brentisiaethau. Gan gynnwys y dysgwyr a ddechreuodd raglenni na chânt eu cyfrif fel rhan o’r mesur mwy trwyadl ar gyfer y targed, dechreuodd gyfanswm o 85,415 o ddysgwyr brentisiaethau yn ystod y cyfnod.
  • Roedd y Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys targed i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed. Yn ystod cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 26 Mehefin 2024, fe gytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar darged newydd o 100,000 o brentisiaethau pob oed i gynnal targed tymor blaenorol y Senedd o 100,000.

Roedd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau yn y flwyddyn ariannol 2023-24 yn £139m ac yn £144m yn 2024-25 (Ffynhonnell: Dyraniadau cyllid Medr 2025 i 2026).). Yn ystod blynyddoedd blaenorol, roedd cyllid ychwanegol ar gyfer prentisiaethau o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (£43m yn 2023-24 Dyraniadau cyllid Medr 2025 i 2026). Fe ddaeth hyn i ben erbyn y flwyddyn ariannol 2024-2025.

Rhaglenni dysgu Prentisiaeth a ddechreuwyd: dangosfwrdd rhyngweithiol

Sta/Medr/15/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Chwefror i Ebrill 2025 (dros dro)

Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol:  Sta/Medr/15/2025

Dyddiad:  21 Awst 2025

Crynodeb: Ystadegau ar rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd. Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd.

Nodyn: Mae ffigurau gyda (p) yn dros dro.

Sta/Medr/15/2025 Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Chwefror i Ebrill 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/11: Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) 2025/26

Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC)

1. Fel a nodir yn ein Cynllun Strategol 2025-2030, mae Medr yn ymrwymedig i ddatblygu amgylcheddau ymchwil â diwylliannau cadarnhaol sy’n denu ac yn cadw’r ymchwilwyr a’r arloeswyr gorau o bob rhan o’r byd. Rydym yn uchelgeisiol ar gyfer ein sector ymchwil yng Nghymru. Mae arnom eisiau i Gymru fod yn adnabyddus fel lle gwych i wneud ymchwil sydd, trwy gydweithio, yn sicrhau manteision cymdeithasol, economaidd a diwylliannol. Mae datblygiad a chynaliadwyedd diwylliannau ymchwil iach mewn prifysgolion yn allweddol i gefnogi ymchwil ragorol. Mae hefyd yn bwysig yn ei rinwedd ei hun. Mae arnom eisiau cefnogi’r gweithlu amrywiol sy’n cyfrannu at ymchwil, gan gynnwys staff technegol a phroffesiynol. Trwy ein cyllid, a’n gwaith gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys cyrff cyllido’r DU ar REF 2029, byddwn yn rhoi anogaeth ar gyfer amgylcheddau ymchwil sy’n ategu uniondeb, amrywiaeth, cynwysoldeb, llesiant, iechyd meddwl a pharch.

2. Mae cyllid WREC yn rhoi cymorth wedi’i neilltuo i wella diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil. Fodd bynnag, mae Medr yn disgwyl y dylai cynnal diwylliant iach gael ei drin fel rhan annatod o weithgarwch ymchwil ac arloesi a chael ei gefnogi’n strategol trwy gyllid ymchwil ac arloesi craidd.

3. Dyrennir y cyllid o £200,000 i brifysgolion Cymru i gefnogi prosiectau, rhaglenni a gweithgareddau sy’n cyfrannu’n weithredol at gefnogi neu ddatblygu diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil cadarnhaol ac iach. Gellid defnyddio’r cyllid hwn i estyn prosiectau presennol, a hefyd ar gyfer gweithgareddau a seilwaith newydd.

4. Ar gyfer y drydedd flwyddyn hon o gyllid, byddem yn annog sefydliadau i barhau i wreiddio ffordd werthusol o feddwl yn eu gweithgareddau i ddeall deilliannau ac effeithiau eu gweithgareddau diwylliant ymchwil. Y rheswm dros hyn yw er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau’n gwneud newidiadau pendant i ddiwylliant ymchwil neu’n esgor ar wersi ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio. Yn y flwyddyn academaidd hon mae gennym ddiddordeb yn neilliannau gwerthusiadau interim.

5. Wrth benderfynu sut i ddefnyddio dyraniadau, dylai sefydliadau barhau i gyfeirio at y tair thema a amlinellir yn y tabl isod. Mae’r rhain yn seiliedig ar themâu a ddatblygwyd trwy ymgysylltu â sectorau ymchwil Cymru a’r DU. Nid rhestr gynhwysfawr mo hon ac anogir sefydliadau i ddefnyddio’r cyllid yn hyblyg gan ystyried eu blaenoriaethau strategol, ac egwyddorion ehangach sy’n ymwneud â gwella diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil.

ThemâuIs-feysydd posibl i gyd-fynd â hynny
Creu Diwylliant/ Diwylliannau Ymchwil Cadarnhaol*Gwobrwyo a chydnabod ymddygiadau cadarnhaol
* Adnabod sut y mae diwylliant ymchwil cadarnhaol yn edrych gan gynnwys ar gyfer llesiant ac iechyd meddwl
* Gwerthfawrogi gweithgarwch ymchwil amrywiol
* Datblygiad gyrfa ymchwilwyr a phroffesiynau cysylltiedig
* Cymorth ar gyfer prosesau pontio gyrfaol, mandylledd gyrfaol a symudedd rhwng sectorau
* Datblygu fframweithiau diwylliant ymchwil
* Gwella seilwaith a chapasiti i roi cymorth i ennill mwy o grantiau ymchwil
* Mynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu
* Colegoldeb a pherthyn
* Gwerthfawrogi’r ystod lawn o brofiadau, sgiliau a chyfraniadau gan bawb sy’n cyfrannu at ymchwil
Gwreiddio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant* Deall ac ymdrin â rhwystrau i gynhwysiant ar gyfer ymgeiswyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y cyflenwad o dalent ymchwil gyda golwg ar sicrhau bod yr amgylchedd ymchwil yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn deg i bawb
* Cydnabod yr holl gyfraniadau gan staff a’r fframweithiau llwybrau gyrfa ar eu cyfer, gan gynnwys ar gyfer staff â chontractau am gyfnod penodedig, staff technegol a staff sy’n galluogi ymchwil
* Gwella mynediad at ymchwil a chyfranogiad mewn ymchwil o blith grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol
* Deall ac ymdrin â’r heriau a brofir gan y rhai a all fod yn profi anfanteision lluosogs
Ymchwil Gyfrifol* Uniondeb, bod yn agored a moeseg
* Gwella’r modd y cynhelir ymchwil a’i atgynyrchioldeb
* Asesu a diwygio ymchwil
* Cydweithio a chynnull sefydliadau i rannu arfer
* Atgynyrchioldeb metrigau

Cynhwysiant

6. Mae gan y sector ymchwil rôl bwysig o ran cefnogi Cymru gynhwysol, gan gynnwys cyfleoedd i wella cymorth i staff a myfyrwyr sy’n profi anfantais ar hyn o bryd. Mae dyletswydd strategol ar Medr i hybu cyfle cyfartal ac rydym wedi nodi ymrwymiadau a chamau gweithredu i gyflawni hyn yn ein Cynlluniau Strategol a Gweithredol. Mae Medr yn datblygu system reoleiddio newydd sy’n cynnwys amodau ar les staff a myfyrwyr a chyfle cyfartal. Bydd hi’n ofynnol i ddarparwyr addysg uwch gydymffurfio â’r amodau hyn, gan gynnwys fel y maent yn berthnasol i ymchwil. Mae Medr yn disgwyl i gyllid WREC gael ei ddefnyddio i ymdrin â rhwystrau i gynhwysiant ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y cyflenwad o dalent ymchwil ac i ddatblygu amgylchedd ymchwil cefnogol a chynhwysol, sy’n gwerthfawrogi cyfraniad staff academaidd, staff sy’n galluogi ymchwil a staff cymorth ymchwil, a staff gwasanaethau proffesiynol.

7. Rydym yn croesawu’n arbennig weithgareddau sy’n cynorthwyo pobl sydd â nodweddion gwarchodedig i gael mynediad cyfartal at yrfaoedd ymchwil boddhaus ac i gyfranogi mewn ymchwil fel dinasyddion, gan gyfrannu at strategaethau a chynlluniau Llywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb gan gynnwys, ymhlith eraill, y Cynllun Hawliau Pobl Anabl: 2025 i 2035.

8. Rydym hefyd yn croesawu gweithgareddau sy’n gwneud cynnydd tuag at nodau a chamau gweithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, ac yn ystyried ymrwymiadau’r sefydliad yng nghynllun gweithredu ei siarter cydraddoldeb hil. Rydym yn disgwyl gweld myfyrwyr a staff ymchwil yn cael eu cynnwys yn strategaethau a chynlluniau gweithredu llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, sefydliadau, sy’n ofynnol trwy Gyllid llesiant ac iechyd 2024/25 a’r gofynion monitro (Medr/2024/07).

9. Mae Medr yn mynd ati’n frwd i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn ymchwil, nid dim ond i feithrin amgylchedd cyfoethog a chynhwysol sy’n adlewyrchu treftadaeth ddiwylliannol Cymru, ond hefyd gan gydnabod y dyletswyddau statudol a osodir ar sefydliadau i gefnogi’r Gymraeg a darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Gellir defnyddio cyllid WREC i gefnogi gweithgareddau i roi anogaeth ar gyfer ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rhannu gwersi ac arferion da

10. Mae Medr yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio ar draws y sector i ddatblygu diwylliannau ymchwil cadarnhaol a rôl sefydliadau megis Rhwydwaith Arloesi Cymru (WIN), Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a Prifysgolion Cymru. Rydym yn gweithio trwy bartneriaethau a gyllidir gyda’r sefydliadau hyn i barhau i gefnogi cymunedau amrywiol i achosi newid. Anogir sefydliadau’n gryf i gydweithio ac adeiladu ar weithgareddau presennol sy’n cefnogi diwylliannau ymchwil cadarnhaol, er enghraifft Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

11. Yn flaenorol rydym wedi darparu £50,000 i Rwydwaith Arloesi Cymru ar gyfer gweithgareddau i gefnogi dysgu ar y cyd ar draws sefydliadau. Yn 2025-26 rydym yn archwilio opsiynau ehangach i gefnogi cydweithio a dysgu ar y cyd gan gynnwys dysgu o fentrau ar draws y DU megis cynlluniau ar gyfer y Gyfnewidfa Arfer Da a Rheolwr Cydweithio Diwylliannau Ymchwil yr Alban. Rydym yn croesawu syniadau ac adborth ar sut orau y gellid cyflawni hyn yng Nghymru, felly cysylltwch ag [email protected].

12. Mae diwylliant ymchwil cadarnhaol a chynhwysol yn hanfodol i ddatblygu cenhadaeth ddinesig prifysgolion yng Nghymru. Trwy feithrin amrywiaeth, tegwch, a chydweithio, mae prifysgolion yn galluogi ymchwil sy’n ymatebol yn gymdeithasol ac yn cael ei llywio gan y gymuned a honno’n dwyn manteision cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ystyrlon i Gymru a’i chymunedau. Mae amgylcheddau cynhwysol hefyd yn gallu cefnogi dulliau ymgysylltu arloesol, gan rymuso ymchwilwyr i gyd-greu gwybodaeth a datrysiadau gyda phartneriaid allanol.

Dyraniadau sefydliadol

13. Mae’r dull a ddefnyddir i ddyrannu cyllid ar gyfer 2025/26 yn seiliedig ar ddata staff a myfyrwyr HESA 2023/24:

  • Nifer y staff CagALl ar gontractau ymchwil-yn-unig yn y sefydliad addysg uwch
  • Nifer y staff CagALl ar gontractau addysgu ac ymchwil yn y sefydliad addysg uwch
  • Nifer y myfyrwyr ymchwil ôl-radd yn y sefydliad addysg uwch

14. Defnyddir isafswm dyraniad o £5k i sicrhau bod gan bob prifysgol ddyraniad defnyddiadwy i wella eu diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil. Mae data HESA a ddefnyddiwyd wedi cael ei wirio gan brifysgolion.

SefydliadCagALl: Contractau YmchwilCagALl: Contractau Addysgu ac YmchwilCagALl: Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddCagALl: CyfanswmCagALl: Dyraniad
Prifysgol De Cymru667222571044£21,185
Prifysgol Aberystwyth 104297260660£13,397
Prifysgol Bangor 1772795451000£20,295
Prifysgol Caerdydd 864134215703777£76,368
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant40361390791£16,057
Prifysgol Abertawe3835726381593£32,325
Prifysgol Metropolitan Caerdydd27583124736£14,924
Prifysgol Wrecsam120154255£5,180
Cyfanswm1662435738389856£200,000

15. Mae Medr yn nodi nad yw methodoleg dyrannu cyllid WREC yn benodol yn cynnwys staff sy’n cefnogi ymchwil megis rhai o’r gymuned dechnegol, a staff gwasanaethau proffesiynol. Mae Medr yn cydnabod cyfraniadau hollbwysig yr aelodau hyn o staff i ddiwylliannau ymchwil a’r amgylchedd ymchwil.

Trefniadau monitro cronfa WREC

16. Bydd taliadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 yn cael eu gwneud ym mis Awst 2025. Mae Medr yn disgwyl sicrwydd ynghylch y prosiectau a’r gweithgareddau a gyflawnir trwy’r gronfa hon. Dylai dyraniadau gael eu gwario’n llawn ym mlwyddyn academaidd 2025/26.

17. Dylai sefydliadau gwblhau ffurflen fonitro cyllid WREC yn Atodiad A erbyn 25 Medi 2026:

  • Rhan 1 – Cyd-destun Strategol: dynodwch gyd-destun strategol y diwylliant ymchwil yn eich sefydliad.
  • Rhan 2 – Meysydd Thematig: dynodwch sut y mae’r gweithgareddau/prosiectau’n cyd-fynd â’r meysydd thematig a amlinellir ym mharagraff 7, a pha un: 1. a fyddai gweithgareddau wedi digwydd heb y cyllid, 2. a ddigwyddodd gweithgareddau trwy ddarparu cyllid WREC yn unig, ynteu 3. a allai gweithgareddau fod wedi digwydd heb y cyllid, ond i raddau llai.
  • Rhan 3 – Gwerthuso:  eglurwch effeithiolrwydd ac effaith y prosiectau / gweithgareddau.
  • Rhan 4– Cadarnhad: cadarnhewch fod cyllid WREC wedi cael ei wario yn unol â’r wybodaeth a amlinellir yn y cyhoeddiad hwn.

18. Bydd gwybodaeth a gyflwynir gan sefydliadau yn eu hadroddiadau’n sail i dystiolaeth i ategu penderfyniadau ynghylch cyllidebau a chymorth ar gyfer y diwylliant a’r amgylchedd ymchwil ledled Cymru yn y dyfodol.

19. Rydym yn croesawu cyflwyno adroddiadau monitro yn Gymraeg.

Rhagor o wybodaeth

20. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Hayley Moss ([email protected]).

Asesu effaith

21. Rydym wedi cynnal asesiad o’r effaith i helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hybu cydraddoldeb. Rydym yn rhagweld effaith gadarnhaol ar hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd a chred. Fe wnaethom hefyd ystyried effaith y polisi hwn ar y Gymraeg, darpariaeth yn y Gymraeg yn y sector AU yng Nghymru, nodweddion economaidd-gymdeithasol ac effeithiau posibl tuag at y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Medr/2025/11: Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) 2025/26

Dyddiad: 20 Awst 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/11

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn:  25 Medi 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu manylion dyraniadau sefydliadol cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2025/26.

Bydd cyllid WREC yn cael ei ddyrannu i brifysgolion Cymru sy’n cael cyllid sy’n Gysylltiedig ag Ansawdd (QR) (fel a nodir yn Medr/2025/06: Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26). Disgwylir i gyllid WREC barhau tan 2027/28, yn amodol ar gyllidebau yn y dyfodol. Mae dyraniadau blwyddyn academaidd 2025/26 yn seiliedig ar ddata o gofnod staff a myfyrwyr HESA 2023/24.

Medr/2025/11 Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/10: Biwroau Cyflogaeth a Menter canllawiau a chyllid 2025/26

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion a threfniadau cyllido Medr ar gyfer gweithgarwch Biwroau Cyflogaeth a Menter (EEB) yn 2025/26. Mae’n cadarnhau trefniadau monitro, llinellau amser ac yn atodi templedi monitro. 

2. Nod y Biwroau Cyflogaeth a Menter yw cyflawni deilliannau cyflogaeth a hunangyflogaeth cadarnhaol ar gyfer myfyrwyr, trwy ddarparu pecyn o gymorth i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, menter ac entrepreneuraidd dysgwyr. Dylid rhoi’r cymorth hwn trwy gydweithio gyda chyflogwyr, Gyrfa Cymru, y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, a phartneriaid allweddol eraill i ddatblygu cyfleoedd i ddysgwyr yn eu rhanbarthau.

3. Dylid defnyddio’r cyllid i barhau i integreiddio darpariaeth menter ac entrepreneuriaeth o fewn y Biwroau Cyflogaeth a Menter, gan amcanu at gynyddu’r cyfleoedd hunangyflogaeth sydd ar gael i ddysgwyr ac ymadawyr, yn ogystal â hybu’r arfer o wreiddio cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth o fewn y cwricwlwm er budd dysgwyr.

Cyllid 2025/26

4. Mae cyfanswm y gyllideb sydd ar gael i gefnogi’r Biwroau Cyflogaeth a Menter rhwng 1 Awst 2025 a 31 Gorffennaf 2026 yn £1,320,000. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys £960,000 o gyllid Medr a £360,000 gan Busnes Cymru, y mae’n rhaid ei ddefnyddio i gefnogi’r elfen Menter ac Entrepreneuriaeth o weithgarwch y Biwroau Cyflogaeth a Menter mewn SABau yng Nghymru. Bydd cyfanswm y dyraniad yn parhau i gael ei rannu’n gyfartal ar draws y 12 SAB yng Nghymru fel bod pob SAB yn cael cyfanswm dyraniad o £110,000 yn 2025/26.

Monitro a ffrâm amser

5. Mae’n ofynnol i SABau gyflwyno adroddiad monitro interim a diwedd blwyddyn, gan ddefnyddio’r templedi yn Atodiad A ac Atodiad B, i Medr erbyn y dyddiadau a nodir yn y llinell amser ym mharagraff 24. Gan bod y cyllid menter ar gyfer 2025/26 yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, bydd gwybodaeth yr adroddir arni wrth Medr yn erbyn y gofynion hynny’n cael ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru fel y gellir monitro effaith ei chyllid.

Cam gweithreduCyfrifoldebDyddiad
Cyhoeddi canllawiau’r Biwroau Cyflogaeth a Menter ar gyfer 2025/26MedrAwst 2025
Taliad cyntaf o £83,600 i Fiwroau Cyflogaeth a Menter ar gyfer 2025/26MedrMedi 2025
Cyflwyno adroddiad interim i MedrBiwroau Cyflogaeth a Menter31 Ionawr 2026
Taliad olaf o £26,400 i Fiwroau Cyflogaeth a Menter ar gyfer 2025/26MedrEbrill 2026
Cyflwyno adroddiad diwedd blwyddyn i Medr Biwroau Cyflogaeth a Menter31 Gorffennaf 2026
Cyflwyno Datganiad o Wariant i MedrBiwroau Cyflogaeth a Menter31 Awst 2026

Medr/2025/10: Biwroau Cyflogaeth a Menter canllawiau a chyllid 2025/26

Dyddiad:  18 Awst 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/10

At: Benaethiaid sefydliadau addysg bellach

Ymateb erbyn:  Cyflwyno adroddiad interim – 31 Ionawr 2026; Cyflwyno adroddiad diwedd blwyddyn – 31 Gorffennaf 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion a threfniadau cyllido Medr ar gyfer gweithgarwch Biwroau Cyflogaeth a Menter (EEB) yn 2025/26. Mae’n cadarnhau trefniadau monitro, llinellau amser ac yn atodi templedi monitro.

Medr/2025/10 Biwroau Cyflogaeth a Menter canllawiau a chyllid 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/09: Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion Medr ar gyfer cyflwyno cynlluniau cyflawni dwy flynedd sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 2025/26 a 2026/27 ar gyfer darparwyr addysg uwch (AU) sy’n cael cyllid ar hyn o bryd ar gyfer Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr AU. Mae’n cyhoeddi’r gyllideb o £2m ym mlwyddyn academaidd 2025/26 ar gyfer y cymorth hwn ac yn manylu ar ddyraniadau ariannol darparwyr. Bydd cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 yn amodol ar gyllideb Medr.

2. Dylid defnyddio’r cyllid hwn i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau AU sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn AU o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol fel a ddiffinnir yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.

3. Dylai cynlluniau cyflawni adeiladu ar gynnydd a wnaed yn y tair blynedd flaenorol o weithgarwch a gyllidwyd, gan roi darpariaeth hyblyg a phwrpasol i fyfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i’w harfogi â’r cyfalaf cymdeithasol ac ariannol i’w helpu i gael deilliant cadarnhaol ar ôl graddio. Dylai gweithgarwch fod wedi’i dargedu, ystyried llais y myfyriwr a chael ei gyflawni mewn cydweithrediad gydag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys gwasanaethau myfyrwyr a chyflogwyr, gan amcanu at ddileu rhwystrau i gyflogadwyedd a grymuso myfyrwyr i gymryd perchnogaeth ar lywio eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Dyraniadau 2025/26

DarparwrCyfanswm cyllid (£)
Prifysgol De Cymru325,261
Prifysgol Aberystwyth154,148
Prifysgol Bangor150,304
Prifysgol Caerdydd330,000
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant152,469
Prifysgol Abertawe330,000
Prifysgol Metropolitan Caerdydd238,931
Prifysgol Wrecsam100,000
Y Brifysgol Agored yng Nghymru176,503
Grŵp Llandrillo Menai32,385
Grŵp NPTC Group5,000
Coleg Gŵyr Abertawe5,000
Cyfanswm2,000,000

4. Mae dyraniadau darparwyr yn 2025/26 wedi cael eu cyfrifo gan ddefnyddio data gwiriedig diweddaraf HESA ar gyfer 2023/24 yn ôl y fethodoleg gyllido a amlinellir ym mharagraffau 37-41 yn y cyhoeddiad hwn.

5. Bydd taliadau cyfran gyntaf 2025/26 yn cael eu gwneud yn dilyn cymeradwyo cynlluniau cyflawni a monitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2024/25.

Llinell amser

6. Mae gofyn i brifysgolion a Grŵp Llandrillo Menai:

  • Gyflwyno cynlluniau cyflawni gan ddefnyddio Atodiad A ac Atodiad B i [email protected] erbyn 19 Medi 2025.
  • Cyflwyno adroddiadau monitro i ni ym mis Chwefror 2026 a mis Medi 2026 (bydd Medr yn anfon templedi unigoledig at ddarparwyr ar wahân).

7. Bydd gofyn i Goleg Gŵyr Abertawe a Grŵp Colegau NPTC:

  • Gyflwyno cynlluniau cyflawni gan ddefnyddio Atodiad C i [email protected] erbyn 19 Medi 2025.
  • Cyflwyno adroddiad monitro i ni ym mis Medi 2026 (bydd templed yn cael ei anfon ar wahân).

Medr/2025/09: Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26

Dyddiad:  14 Awst 2025

Cyfeirnod: Medr/2025/09

At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a gyllidir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer darpariaeth AU

Ymateb erbyn:  19 Medi 2025

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion Medr ar gyfer cyflwyno cynlluniau cyflawni dwy flynedd sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 2025/26 a 2026/27 ar gyfer y darparwyr AU hynny sy’n cael cyllid ar hyn o bryd ar gyfer Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr AU. Mae’n cyhoeddi’r gyllideb o £2m ym mlwyddyn academaidd 2025/26 ar gyfer y cymorth hwn ac yn manylu ar ddyraniadau ariannol darparwyr. Mae hefyd yn cynnwys y llinell amser ar gyfer cyflwyno cynlluniau cyflawni, taliadau a monitro ar gyfer 2025/26 ac yn atodi’r templed ar gyfer cynlluniau cyflawni.

Medr/2025/09 Cymorth Cyflogadwyedd wedi'i Dargedu i Fyfyrwyr AU: Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyrandiadau 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio