Medr yn lansio ymgynghoriad ar fesurau perfformiad ansawdd darparwyr
Mae Medr wedi lansio ei ymgynghoriad ar Fesurau Perfformiad Ansawdd newydd heddiw fel rhan o’i ddull o reoleiddio darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cyflwyno’r mesurau unigol ac yn amlinellu’r ffordd mae Medr yn cynnig eu defnyddio yng nghyd-destun ei fframwaith rheoleiddio.
Bwriedir i’r Mesurau Perfformiad Ansawdd helpu Medr i fod yn gyson wrth asesu cydymffurfiaeth y sector addysg drydyddol â’r amod rheoleiddio ansawdd a gwelliant parhaus.
Bydd y mesurau’n helpu i wneud hyn mewn ffordd gyfannol, ac yn hwyluso dealltwriaeth gyd-destunol gyffredin o berfformiad, y bydd yn ei defnyddio fel sail ar gyfer sgyrsiau â darparwyr ac er mwyn deall blaenoriaethau o ran gwelliant parhaus ym mhob rhan o’r sector.
Uchelgais Medr yw cefnogi ymdrechion darparwyr i wella’n barhaus drwy rannu’r wybodaeth hon, a bydd y mesurau hefyd yn cynnig ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth er mwyn i ddarparwyr eu hunain ddeall eu perfformiad o fewn y sector ehangach ac o fewn eu cyd-destun.
Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:
“Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynrychioli adeg allweddol ar ein taith reoleiddio, ac mae’n dilyn llwyddiant lansio ein fframwaith rheoleiddio ym mis Awst 2026. Rydyn ni’n anhygoel o ddiolchgar am yr ymgysylltu anffurfiol adeiladol sydd wedi bod â’n cynigion hyd yma, a’r adborth sydd wedi cael ei roi drwy ymatebion i waith ymgynghori blaenorol.
“Bydd y cynigion hyn, sy’n seiliedig ar gyngor gan ein Pwyllgor Ansawdd, yn ein galluogi i ffurfio darlun gwell o berfformiad yn y sector, gan weithio tuag at ddatblygu dull cydlynol o ystyried data a thystiolaeth yn y sector addysg drydyddol yng Nghymru.
Ymgynghoriad ar fesurau perfformiad ansawdd darparwyr ar gyfer addysg drydyddol“Rydyn ni’n croesawu pob barn ar y cynigion hyn er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r diben ac y byddant, yn y pen draw, yn helpu Medr, darparwyr a rhanddeiliaid i ddeall beth sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sector yn well a sicrhau profiad o ansawdd da i’n dysgwyr.”
Nodiadau
Beth maen nhw’n ei gynnwys?
Mae’r mesurau arfaethedig yn adlewyrchu’r meysydd a nodir yn Fframwaith Ansawdd Medr, gan gynnwys cyfraddau cwblhau, cynnydd a chyrchfannau.
Mae’r ymgynghoriad hefyd yn nodi methodoleg meincnodi Medr, sy’n rhoi meincnod ar gyfer y rhan fwyaf o’r mesurau er mwyn i ddarparwyr ddeall sut beth yw eu perfformiad cyd-destunol pan gaiff ffactorau megis lefel gweithgarwch, lefel y cymhwyster uchaf a enillwyd cyn rhaglen ddysgu, pwnc astudio, cymwysterau mynediad, ac oedran, eu hystyried.
Mae’r Mesurau Perfformiad Ansawdd yn canolbwyntio ar berfformiad ar lefel darparwyr yn y meysydd a nodir yn yr ymgynghoriad. Bydd Medr yn gwneud gwaith ar wahân i gyfleu ei uchelgeisiau hirdymor ar lefel y sector a sut y bydd yn mesur ei gynnydd tuag at gyflawni’r uchelgeisiau hynny, er enghraifft fel rhan o’r gwaith i ddatblygu y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg Drydyddol.
Sut y bydd Medr yn defnyddio’r mesurau?
Bydd Medr yn defnyddio’r mesurau fel rhan o’i waith ehangach i ddadansoddi gwybodaeth am berfformiad er mwyn llywio asesiadau o gydymffurfiaeth darparwyr â’r fframwaith rheoleiddio. Byddant hefyd yn ei helpu i ddeall blaenoriaethau o ran gwelliant parhaus ym mhob rhan o’r sector, a chanfod unrhyw faterion neu dueddiadau mewn data y gall fod angen i drafod gyda darparwr. Fel arfer, bydd unrhyw faterion y mae’n ei nodi o ran perfformiad neu dueddiadau yn arwain at sgwrs â darparwr, er mwyn ei alluogi i roi’r deilliannau yn eu cyd-destun.
Nid yw Medr yn cynnig y bydd y mesurau hyn yn hwyluso dull sy’n seiliedig ar drothwyon ond, yn hytrach na hynny, y bydd y data’n llywio ei waith i ddeall ansawdd a gwelliant parhaus ac ymwneud â’r maes hwnnw drwy’r sector cyfan.
Gan y bydd y mesurau’n cael eu cyhoeddi, bydd y cynigion yn ddefnyddiol i ddarparwyr addysg drydyddol fel sail ar gyfer eu blaenoriaethau eu hunain o ran gwelliant parhaus.
Beth fydd hyn yn ei olygu i ddysgwyr?
Bydd y wybodaeth ar gael yn gyhoeddus, sy’n golygu y bydd dysgwyr yn gallu gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â’u llwybrau addysgol. Mae llais y dysgwr yn fesur allweddol a fydd yn llywio gweithgarwch Medr ym maes ansawdd a gwelliant parhaus.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/50: Ymgynghoriad ar fesurau perfformiad ansawdd darparwyr ar gyfer addysg drydyddol
Cyflwyniad
1. O dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, mae dyletswydd ar Medr i fonitro a hybu gwelliant yn ansawdd yr addysg a ddarperir gan ddarparwyr cofrestredig neu ar eu rhan, a’r addysg a gyllidir gan Medr neu a sicrheir fel arall ganddo (adran 51).
2. Mae fframwaith rheoleiddio Medr yn nodi’r Amodau Cofrestru a Chyllid y mae’n rhaid i ddarparwyr eu bodloni. Yr amodau hyn yw’r gofynion craidd ar gyfer cydymffurfio ac maent yn berthnasol ar draws y sector addysg drydyddol. Maent yn cynnwys yr amod ar gyfer ansawdd a gwelliant parhaus, sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i ddarparwyr cofrestredig a/neu a gyllidir ddangos bod eu darpariaeth, gan gynnwys yr hyn a ddarperir ar eu rhan, o ansawdd da a’u bod yn ymgysylltu â gwelliant parhaus. Mae hyn o gymorth i gyrraedd Nod Strategol 3 yng Nghynllun Strategol Medr, h.y. sicrhau bod dysgwyr yn cael darpariaeth o’r ansawdd gorau mewn system addysg drydyddol sy’n ymegnïo i wella’n barhaus.
3. Mae’r amod Ansawdd a Gwelliant Parhaus yn nodi mai un o’r gofynion cydymffurfio yw bod â data derbyniol ar berfformiad. Mae’r Fframwaith Ansawdd yn nodi bod Medr yn disgwyl, erbyn 2027, y bydd wedi adolygu trefniadau casglu data ac wedi ymgynghori ar fesurau perfformiad a’r defnydd o feincnodi. Mae’r ddogfen hon yn darparu’r ymgynghoriad hwnnw. Mae’n nodi cynigion Medr ar gyfer mesurau perfformiad ansawdd darparwyr ar draws addysg drydyddol, a fydd yn rhan o’n monitro rheoleiddiol.
4. Mae’r mesurau a nodir yn y ddogfen hon wedi’u bwriadu i oleuo ein dealltwriaeth am berfformiad darparwyr mewn perthynas ag ansawdd a gwelliant parhaus.
5. Bydd y mesurau hyn yn ategu monitro ehangach ar gyfer meysydd fel cyfrwng Cymraeg, cydraddoldeb, cyfranogiad a mynediad at addysg drydyddol. Bydd Medr hefyd yn gwneud gwaith ar wahân ar nodi a mesur metrigau sefydliadol yn erbyn ein huchelgeisiau hirdymor, a fydd yn ystyried y meysydd hyn.
Nod yr ymgynghoriad a’r rhesymeg
6. 6. Nod y cynigion yw galluogi Medr i sicrhau cysondeb yn y ffordd yr ydym yn asesu cydymffurfedd y sector addysg drydyddol â’r amod ansawdd a gwelliant parhaus. Byddant yn ein cynorthwyo i wneud hyn mewn ffordd gyfannol a byddant yn ategu dealltwriaeth gyd-destunol ar y cyd am berfformiad. Lle y bo’n bosibl, bydd hyn yn disodli cyhoeddiadau presennol, er mwyn symleiddio prosesau adrodd.
7. Mae’r cynigion hefyd wedi’u bwriadu i gynorthwyo darparwyr i fynd ati i hunanwerthuso ac adnabod blaenoriaethau ar gyfer gwelliant parhaus, fel a nodir yn y Fframwaith Ansawdd. Bydd hyn yn helpu darparwyr i’w sicrhau eu hunain eu bod yn ateb gofynion yr amod Ansawdd a Gwelliant Parhaus.
8. Yn olaf, mae’r cynigion wedi’u bwriadu i sicrhau bod asesiad ansawdd allanol yn cael ei oleuo gan set o ddata sydd ar gael i bob parti.
9. Mae Atodiad A yn darparu set o Gwestiynau Cyffredin mewn perthynas â data ar berfformiad.
Ymatebion
Gallwch ddod o hyd i gopi o’r cwestiynau ymgynghori yn Atodiad E. Ymatebwch drwy’r ffurflen ar-lein erbyn 9 Rhagfyr 2026 os gwelwch yn dda.
Rhagor o wybodaeth
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch yr ymgynghoriad hwn at [email protected].
Digwyddiadau ar-lein
Byddwn yn cynnal dwy weminar ar-lein a fydd yn galluogi rhanddeiliaid a phartïon â buddiant i glywed mwy am ein mesurau perfformiad ansawdd gyda’r cyfle i ofyn cwestiynau a chanfod rhagor o fanylion o ran sut y bydd y mesurau yn gweithredu:
Digwyddiad 1: (ar-lein) 16 Tachwedd 2026 13.00-14.00
Digwyddiad 2: (ar-lein) 17 Tachwedd 2026 13.00-14.00
Yr un yw’r sesiynau a byddant yn cael eu recordio i gydweithwyr nad ydynt yn gallu ymuno â ni.
Medr/2026/50: Ymgynghoriad ar fesurau perfformiad ansawdd darparwyr ar gyfer addysg drydyddol
Dyddiad: 20 Hydref 2026
At: Benaethiaid darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru; Darparwyr cyfredol a darparwyr posibl prentisiaethau yng Nghymru; Cyrff sy’n cynrychioli darparwyr/ cyflogwyr; Cyrff sy’n cynrychioli dysgwyr; Cynrychiolwyr addysg awdurdodau lleol ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned a darpariaeth chweched dosbarth; Penaethiaid chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
Ymateb erbyn: 09 Rhagfyr 2026
Crynodeb: Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ynglŷn â mesurau perfformiad ansawdd arfaethedig Medr ar gyfer darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru. Byddwn yn dechrau mabwysiadu’r Mesurau yn raddol o fis Mai 2027 ymlaen, ar sail y data sydd ar gael inni bryd hynny. Gwahoddir yr holl ddarparwyr addysg drydyddol a/neu hyfforddiant, cyrff cynrychiadol a rhanddeiliaid eraill i ymateb.
Medr/2026/50 Ymgynghoriad ar fesurau perfformiad ansawdd darparwyr ar gyfer addysg drydyddolDogfennau eraill
- Medr/2026/50 Atodiad A Cwestiynau Cyffredin
- Medr/2026/50 Atodiad B Disgrifiad technegol o sut y mae data’n cael ei echdynnu o'r ffynonellau data a'r mesurau'n cael eu cyfrifo
- Medr/2026/50 Atodiad C Methodoleg feincnodi
- Medr/2026/50 Atodiad D Data enghreifftiol
- Medr/2026/50 Atodiad E Crynodeb o'r cwestiynau ymgynghori
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr yn lansio platfform digidol newydd – Adnoddau Medr
Mae Medr wedi lansio platfform gwybodaeth newydd heddiw ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn lleoliadau trydyddol yng Nghymru.
Bydd Adnoddau Medr yn gweithredu ochr yn ochr â gwefan Medr, ac yn caniatáu i weithwyr addysg proffesiynol gael mynediad at ddeunydd ategol fel pecynnau cymorth, astudiaethau achos a chanllawiau ymarferol.
Gellir cael at ddeunydd digidol sy’n ymwneud â phynciau fel cydraddoldeb, addysg awyr agored, dysgu digidol, iechyd meddwl a mwy trwy’r platfform.
I ddechrau, bydd y platfform hwn yn rhoi mynediad i ddefnyddwyr at ddeunydd a oedd ar gael ar wefan Hwb Llywodraeth Cymru yn flaenorol, ac sy’n fwyaf perthnasol i staff sy’n gweithio ym meysydd addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned.
Dyma gam cyntaf newidiadau i’r ffordd y mae staff addysg drydyddol yn cael at ddeunydd proffesiynol gan Medr, a bydd yr ystod o ddeunyddiau yn cael ei datblygu dros amser.
Cynhelir Adnoddau Medr gan blatfform dysgu a datblygu digidol Thinqi. Mae’r holl ddeunydd ar gael yn gyhoeddus ar hyn o bryd, ac nid oes angen i ddefnyddwyr gofrestru na chreu cyfrif i gael at y cynnwys.
- Adnoddau Medr ar gyfer adnoddau digidol i weithwyr addysg proffesiynol sy’n gweithio yn y sector trydyddol.
- Hwb yw platfform Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector ysgolion o hyd, ac mae’n cefnogi cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Disgwylir i blatfform newydd Hwb gael ei lansio ar 27 Hydref.
Notes
Hwb is the Welsh Government’s education platform for schools in Wales, to support delivery of the Curriculum for Wales. The platform is designed for the maintained schools sector in Wales, providing access to content, online resources, digital tools and services.
The Hwb platform was previously used as a repository for vocational and post-16 professional resources. This material is now hosted on Adnoddau Medr.
The initial collection in Adnoddau Medr gives Medr a foundation from which to develop its approach to sharing digital resources with the tertiary education and research sector in future.

Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioCyhoeddi pecyn cymorth newydd i hybu cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy mewn addysg uwch yng Nghymru
Cydweithio ar lefel Cymru gyfan ar draws chwe phrifysgol yn cynhyrchu adnodd ymarferol i addysgwyr a gweithwyr gyrfaoedd proffesiynol
Mae pecyn cymorth ymarferol newydd sydd wedi’i fwriadu i helpu sefydliadau addysg uwch i wreiddio cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy fel rhan o’u haddysgu, eu darpariaeth gyrfaoedd a’u hymarfer sefydliadol wedi cael ei gyhoeddi, a hwnnw wedi’i gyllido gan Medr a’i olygu gan Advance HE.
Mae’r Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy wedi deillio o gydweithio ar lefel Cymru gyfan a oedd yn cynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, y Brifysgol Agored, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam. Mae’r pecyn cymorth, a ddatblygwyd dros 18 mis trwy Gymuned Ymarfer Cyflogadwyedd Cymru, yn tynnu ar astudiaethau achos ac arbenigedd ar draws sector addysg uwch Cymru ac mae wedi’i fwriadu i fod o ddefnydd ymarferol i unrhyw un sy’n gweithio mewn addysg drydyddol a sydd â chyfrifoldeb am ddarpariaeth cyflogadwyedd, neu ddiddordeb yn hynny.
Mae astudiaethau achos sydd wedi’u cynnwys yn y pecyn cymorth yn enghreifftio sut y mae cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy eisoes yn cael ei wireddu’n ymarferol ar draws prifysgolion Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys menter Marchnata Er Daioni Prifysgol Abertawe, lle mae myfyrwyr yn cymhwyso sgiliau marchnata digidol i brosiectau byw ar gyfer sefydliadau fel Ambiwlans Awyr Cymru; ‘Cynaliadwyathon’ y Brifysgol Agored, her wythnos o hyd sy’n ymdrin â phroblemau cynaliadwyedd go iawn; a rhaglen Lleoedd Newid Hinsawdd Prifysgol Bangor, sy’n cyfuno seminarau, gweithdai ac interniaethau â ffocws ar weithredu ar yr hinsawdd.
Croesawyd y cyhoeddiad gan Emma Mock, Pennaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn Medr:
“Mae’r pecyn cymorth hwn yn gam arwyddocaol ymlaen i gyflogadwyedd mewn addysg uwch yng Nghymru. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Medr i gynorthwyo’r sector addysg drydyddol i arfogi graddedigion â’r sgiliau a’r gwerthoedd y mae eu hangen ar gyfer byd gwaith sy’n newid yn gyflym, a gobeithio y bydd yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau ledled Cymru a’r tu hwnt..”
Meddai Stuart Norton, Pennaeth Rhagoriaeth Addysgol yn Advance HE, a arweiniodd y gwaith i ddatblygu’r pecyn cymorth:
Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy“Mae hwn yn adnodd gwirioneddol ymarferol, wedi’i seilio’n uniongyrchol ar arbenigedd a phrofiad cydweithwyr ar draws chwe phrifysgol yng Nghymru, ac rwy’n ddiolchgar i bob un ohonynt am eu cyfraniadau. Mae graddedigion yn gynyddol yn ceisio gwaith sy’n cyd-fynd â’u gwerthoedd, ac mae ar sefydliadau angen offer i ymateb i’r newid hwnnw. Mae’r Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy’n rhoi i addysgwyr a gweithwyr gyrfaoedd proffesiynol fframwaith strwythuredig, y gellir ei addasu i wneud union hynny a gobeithio y bydd yn parhau i dyfu wrth i ragor o sefydliadau ychwanegu eu henghreifftiau hwy eu hunain o ymarfer.”
Nodiadau
Mae’r Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy ar gael yn awr. Gwahoddir sefydliadau sy’n dymuno cyfrannu rhagor o astudiaethau achos neu enghreifftiau o ymarfer i gysylltu â [email protected].
Mae’r pecyn cymorth yn cynnig fframwaith eglur ac iddo bum cam – Archwilio, Adnabod a Chadarnhau, Tyfu neu Leihau yn Unol â’r Anghenion, Gweithredu a Gwerthuso, a Chyfrannu – i helpu sefydliadau i asesu eu darpariaeth gyfredol o ran Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy a’i datblygu ymhellach. Mae wedi’i wreiddio yn Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan adlewyrchu ymrwymiad deddfwriaethol unigryw Cymru i feddwl am yr hirdymor lle mae pobl, cymunedau a’r blaned yn y cwestiwn.
Er bod yr astudiaethau achos yn dod o sefydliadau yng Nghymru, mae’r pecyn cymorth wedi’i fwriadu i fod yn berthnasol ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, gan rychwantu dysgu ac addysgu, ymchwil, gwasanaethau gyrfaoedd a menter.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/46: Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC)
Cyflwyniad
1. Mae’r Gyfalaf Ymchwil Addysg Uwch wedi bod yn cael ei darparu i sefydliadau cymwys yng Nghymru ers 2011. Mae’r cyhoeddiad hwn yn hysbysu sefydliadau addysg uwch (SAU) am y dyraniadau ar gyfer 2026-2027 ac yn darparu canllawiau ar y gofynion adrodd a monitro cysylltiedig.
Cefndir
2. Mae’r Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach (yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg gynt) wedi cadarnhau y bydd yn darparu cyllid HERC i’r pedwar corff ariannu addysg uwch (AU) yn y DU yn 2026-2027. Bydd yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach yn darparu cefnogaeth o £3,985,554 yng Nghymru gyda Llywodraeth Cymru yn cyfrannu arian cyfatebol, a fydd yn dod â chyfanswm y gronfa i £7,971,108.
Newidiadau i gyllid HERC
3. Ym mis Mawrth 2026, cadarnhaodd Gweinidog Gwyddoniaeth y DU mewn llythyr at Lywodraeth Cymru y byddai cyllid HERC i Gymru yn gostwng yn raddol rhwng 2026/27 a 2029/30, yn gysylltiedig â diwygiadau ehangach i gyllid cyfalaf Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI). Ar ôl 2026/27, bydd cyllid cyfalaf UKRI a ddarperir drwy Research England yn canolbwyntio ar gynnal cyfleusterau presennol, gyda chyllid ar gyfer offer a seilwaith newydd yn cael ei ddarparu drwy alwadau cystadleuol ledled y DU o dan arweiniad cynghorau ymchwil UKRI.
4. Disgwylir i ddyraniadau dangosol HERC yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach i Gymru leihau dros gyfnod yr adolygiad gwariant, o £3.99 miliwn yn 2026/27 i £2.44 miliwn erbyn 2029/30.
5. Er mwyn rhoi amser i Lywodraeth Cymru, Medr a’r SAU addasu i’r newidiadau hyn, mae’r Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach wedi sicrhau swm atodol at ddyraniadau HERC i Gymru am amser cyfyngedig. Mae’r cyllid ychwanegol hwn wedi’i gynnwys yn y dyraniadau ar gyfer 2026-2027, gan ganiatáu gostyngiad arafach er mwyn cefnogi’r cyfnod pontio.
6. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd HERC yn cael ei gyfyngu i waith cynnal a chadw yn unig; bydd SAU yng Nghymru yn parhau i fod â’r hyblygrwydd i wneud penderfyniadau strategol ynghylch sut i fuddsoddi HERC yn eu seilwaith ymchwil.
Defnyddio cyllid
7. Mae’r cyllid a ddarperir o dan HERC yng Nghymru wedi’i fwriadu ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn y seilwaith ffisegol ar gyfer ymchwil yn unig. Mae ymchwil yn cynnwys ‘ymchwil gwyddonol’ (sef ymchwil a datblygiad mewn unrhyw un o’r gwyddorau, gan gynnwys gwyddorau cymdeithasol neu dechnoleg (adran 6(1) o Ddeddf Gwyddoniaeth a Thechnoleg 1965)) ac ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau.
8. Wrth benderfynu sut i ddefnyddio’r dyryniadau, dylai sefydliadau ystyried y blaenoriaethau a’r uchelgeisiau a nodir yng Nghynllun Strategol Medr 2025-2030, Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru sydd ar ddod (i’w chyhoeddi yn hydref 2026) a’r Strategaeth Arloesi (Cymru’n Arloesi), a Fframwaith Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Strategaeth Ddiwydiannol a Strategaeth UKRI Llywodraeth y DU. Dylid ystyried hefyd sut y caiff cyllid ei ddefnyddio i gefnogi uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Dyraniadau
9. Caiff cyllid Yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach a Llywodraeth Cymru eu dyrannu ar wahân:
- Dyrennir elfen Yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach o’r cyllid gan ddefnyddio data tair blynedd mwyaf diweddaraf yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar incwm Cyngor Ymchwil UKRI. Yn unol â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach gyda Medr a Llywodraeth Cymru, dylai cyllid ganolbwyntio ar gynnal adrannau rhagorol sydd â màs critigol i gystadlu’n fyd-eang a’r arbenigedd i weithio’n agos gyda busnesau, elusennau a gwasanaethau cyhoeddus.
- Caiff elfen Llywodraeth Cymru o’r grant ei dyrannu pro-rata i gyfuniad o’r dyraniadau ymchwil cysylltiedig ag ansawdd rheolaidd diweddaraf ynghyd ag incwm ymchwil arall a adroddwyd i gofnod cyllid HESA gan y darparwr yn 2022/23, 2023/24, a 2024/25. Defnyddiwyd y dyraniad ymchwil cysylltiedig ag ansawdd ar gyfer 2026/27 yn y fformiwla ariannu ar gyfer HERC 2026-27.
Trothwy ariannu
10. Er mwyn bodloni gofyniad yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach bod y gronfa’n cefnogi rhagoriaeth ac yn meithrin màs critigol, mae’r fformiwla’n cynnwys trothwy isaf o £100,000. Sefydliadau a gyfrifir i fod â dyraniadau sydd uwchlaw’r trothwy cymhwysedd hwn yn unig a fydd yn derbyn cyllid yn 2026-2027.
11. Gellir gweld y dyraniadau cyllid ar gyfer sefydliadau cymwys yn 2026-2027 yn Atodiad A.
Trefniadau monitro
12. Ym mis Chwefror 2026, cyflwynodd sefydliadau fanylion am eu blaenoriaethau ariannu HERC yn y dyfodol ar gyfer 2026-2027. Dylid cadarnhau’r buddsoddiadau hyn a chynlluniau posibl ar gyfer y dyfodol ar gyfer 2026-2027 drwy lenwi a chyflwyno’r ffurflen brisio yn Atodiad B.
- Dylai Rhan 1 o’r ffurflen brisio adrodd ar y defnydd o gyllid a gadarnhawyd yn 2026-2027, gan gynnwys cyfanswm costau buddsoddiadau mawr a ddefnyddiodd gyllid HERC fel cyfraniad. Dylai sefydliadau ddangos lle mae cyllid HERC wedi galluogi a chymell capasiti ymchwil, wedi datblygu blaenoriaethau strategol, ac wedi caniatáu i sefydliadau gystadlu am gyllid ymchwil ac arloesi allanol yn fwy effeithiol.
- Dylid defnyddio Rhan 2 o’r ffurflen brisio i amlinellu blaenoriaethau gwariant ar gyfer 2027-2028 yn seiliedig ar y dybiaeth y bydd rhagor o gyllid HERC ar gael.
- Rhaid dychwelyd Atodiad B i Medr erbyn 12 Chwefror 2027 fan bellaf.
13. Er mwyn cadarnhau bod HERC wedi’i wario’n llawn, gofynnir i sefydliadau cymwys gyflwyno’r ffurflen brisio Cadarnhau Gwariant yn Atodiad C erbyn 23 Ebrill 2027. Dylai sefydliadau sicrhau eu bod yn ei gwneud yn glir a oes unrhyw gyllid nad yw wedi’i wario wedi’i ymrwymo’n llawn ac, os felly, erbyn pa ddyddiad y bydd yn cael ei wario’n llawn. Gall Medr hawlio cyllid nad yw wedi’i wario sydd heb ei ymrwymo yn ôl.
14. Bydd yr wybodaeth a gyflwynir gan SAU yn yr adroddiadau hyn yn sail i ofynion adrodd Medr ar gyfer Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2027 a’r Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach ym mis Mai 2027. Gallai methiant i ddarparu manylion digonol am brosiectau a gwariant ohirio cadarnhad o ddyraniadau cyllid yn y dyfodol, neu ddangos diffyg effaith bosibl ar gyfer buddsoddiad HERC yng Nghymru a allai wanhau’r ddadl dros barhau i ariannu.
Trefniadau talu
15. Fel y nodwyd yn Atodiad A, bydd cyllid yn cael ei ddosbarthu ar ffurf dau daliad ym mis Medi 2026 ac ym mis Ionawr 2027.
Gwybodaeth/ymatebion pellach
16. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Hayley Moss ([email protected]).
Asesu effaith ein polisïau
17. Rydym yn sgrinio asesiadau effaith er mwyn helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu ac er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb.Rydym hefyd yn ystyried effaith polisïau ar y Gymraeg, y ddarpariaeth Gymraeg o fewn y sector AU yng Nghymru ac effeithiau posibl ar y nodau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gynnwys ein Hamcanion Llesiant. Cysylltwch â [email protected] am ragor o wybodaeth am asesiadau effaith.
Medr/2026/46: Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC)
Dyddiad: 14 Medi 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/46
At: Penaethiaid sefydliadau addysg uwch
Ymateb erbyn: 12 Chwefror 2027 a 23 Ebrill 2027
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu manylion am ddyraniadau 2026-2027 ar gyfer sefydliadau sy’n gymwys i dderbyn cyllid Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch.
Medr/2026/46 Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) 2026-27Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/48: Ymgynghoriad pellach ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau
Cefndir
1. Ers 2025, mae Medr wedi bod yn cynnal ‘adolygiad dwfn’ o’r sector adeiladu a gwasanaethau adeiladau, ochr yn ochr â chynnal adolygiad o’r fframweithiau prentisiaeth sydd ar gael ar hyn o bryd. Yr amcan oedd pennu addasrwydd y Fframweithiau Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau, h.y. a ydynt yn diwallu angen y diwydiant ac yn diwallu anghenion sgiliau perthnasol sector adeiladu a gwasanaethau adeiladau Cymru.
2. Bu ymgysylltu a chydweithio helaeth gyda darparwyr prentisiaethau, cyflogwyr, Cymwysterau Cymru a CITB (Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu) yn ystod pob cam o’r broses hon.
Yr ymgynghoriad
3. Lansiodd Medr ymgynghoriad ar 1 Gorffennaf 2026 (Medr/2026/31: Ymgynghoriad ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu). Rydym bellach yn ceisio sylwadau ar lwybr pellach, sef Gwaith Tir/Gweithrediadau Adeiladu (Atodiad A), a fydd yn rhan o’r Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu.
4. Nid oes cwestiynau gosod mewn perthynas â’r llwybrau eu hunain, gan yr hoffem i ymatebwyr rannu eich meddyliau’n rhydd, heb unrhyw gyfyngiadau ar yr ystod o faterion yr hoffech wneud sylwadau arnynt.
5. Yn fwy eang, dylai ymatebwyr ystyried y meysydd canlynol hefyd:
Y Gymraeg
6. A ellid newid y llwybrau newydd arfaethedig i gynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau andwyol, ar y canlynol:
- Cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
- Peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
Effaith ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
7. A ellid newid y llwybrau newydd arfaethedig i gynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau andwyol, ar y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?
Effaith ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
8. A yw’r llwybrau newydd arfaethedig yn achosi unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol, neu ganlyniadau anfwriadol, o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant?
Ymatebion
9. Dylid e-bostio ymatebion i [email protected] erbyn 14 Hydref 2026.
Medr/2026/48: Ymgynghoriad pellach ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau
Dyddiad: 30 Medi 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/48
To: Yr holl ddarparwyr prentisiaethau yn y sector adeiladu a gwasanaethau adeiladau yng Nghymru; Yr holl gyflogwyr yn y sector adeiladu a gwasanaethau adeiladau yng Nghymru.
Mae gennym ddiddordeb mewn clywed barn prentisiaid cyfredol neu flaenorol.
Croesewir sylwadau gan ddarparwyr, cyflogwyr ac unigolion y tu allan i’r sector hwn hefyd.
Ymateb erbyn: 14 Hydref 2026
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn cyhoeddi ymgynghoriad pellach ar y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau. Y llwybr dan sylw yw Gwaith Tir/ Gweithrediadau Adeiladu.
Medr/2026/48 Ymgynghoriad pellach ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau AdeiladauDogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioO osod y sylfeini i gyflawni: Medr yn cyhoeddi adroddiad blynyddol 2025–26
2025–26 oedd blwyddyn lawn gyntaf Medr ar waith, gan nodi newid o bwys o’r sefydlu i gyflawni.
Dros y flwyddyn, buddsoddodd Medr fwy na £1 biliwn ar draws y sector addysg drydyddol ac ymchwil, gan gefnogi dros 320,000 o ddysgwyr ledled Cymru.
Ymhlith y cyflawniadau allweddol roedd:
- Lansio fframwaith rheoleiddio Cymru ar gyfer y sector addysg drydyddol cyfan, y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, gan ddod â disgwyliadau o ran ansawdd, ymgysylltu â dysgwyr, llesiant, cydraddoldeb, darpariaeth Gymraeg, llywodraethu a chynaliadwyedd ariannol ynghyd mewn un system.
- Arwain ymgynghoriad cenedlaethol ar ddyfodol prentisiaethau, gan ymgysylltu â dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr, a phennu blaenoriaethau clir ar gyfer rhaglen brentisiaethau fwy hyblyg, cynhwysol ac ymatebol.
- Ehangu darpariaeth Prentisiaethau Iau ledled Cymru, gyda chymorth buddsoddiad o £600,000, gan helpu mwy o bobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio i fanteisio ar lwybrau galwedigaethol a gwella eu presenoldeb, eu hyder a’u cyfleoedd i symud ymlaen.
- Cyhoeddi’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a chryfhau rôl llais dysgwyr ar draws y sector addysg drydyddol, gan sicrhau bod dysgwyr yn cael mwy o gyfleoedd i gyfrannu’n ystyrlon at benderfyniadau a llywio eu profiadau dysgu eu hunain.
- Buddsoddi £5 miliwn drwy’r Gronfa Datblygu Strategol, gan gefnogi 12 prosiect cydweithredol sy’n cwmpasu sgiliau, arloesi cwricwlwm, ynni glân, gallu digidol, gweithgynhyrchu uwch, a datblygu economaidd rhanbarthol.
- Cryfhau’r sylfaen dystiolaeth a’r gallu i ddadansoddi, gan gynnwys cyhoeddi adroddiad cyntaf Medr ar gynaliadwyedd ariannol addysg uwch yng Nghymru a dadansoddiad newydd ar draws y system gyfan o’r galw am bynciau a’r ddarpariaeth ohonynt.
- Ennill cydnabyddiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, a ddaeth i’r casgliad fod Medr wedi sefydlu sylfaen gadarn fel cynhyrchydd newydd o ystadegau swyddogol, ac a nododd enghreifftiau o arferion da. Roedd hyn yn gymeradwyaeth bwysig i allu’r sefydliad ym maes dadansoddi a data.
- Bwrw ymlaen â blaenoriaethau strategol o ran tegwch, llesiant a’r Gymraeg, gan gynnwys amodau rheoleiddio newydd sy’n ymwneud â chyfle cyfartal, lles dysgwyr a staff, a darpariaeth Gymraeg ar draws y sector addysg drydyddol.
Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:
“Mae hon wedi bod yn flwyddyn nodedig i Medr wrth inni symud o osod sylfeini sefydliad newydd i sicrhau canlyniadau ystyrlon i ddysgwyr, darparwyr a chyflogwyr.
“Gan gydweithio’n agos â’n partneriaid, rydym wedi buddsoddi mwy na £1 biliwn yn y sector addysg drydyddol ac ymchwil, wedi cyflwyno fframwaith rheoleiddio newydd, wedi cryfhau’r broses o ymgysylltu â dysgwyr, ac wedi helpu i lunio cyfeiriad prentisiaethau yn y dyfodol.
“Gyda’i gilydd, mae’r cyflawniadau hyn yn helpu i greu system addysg drydyddol fwy cydgysylltiedig, cynhwysol a chynaliadwy sy’n hybu cyfleoedd, arloesedd a ffyniant yng Nghymru.”
Gosodwyd adroddiad blynyddol Medr ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026 gerbron y Senedd ar 29 Medi 2026.
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Medr 2025-26Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioAdolygiad Estyn o bresenoldeb a chyfranogiad ôl-16: ymateb Medr
Mae Medr yn croesawu adolygiad thematig Estyn o bresenoldeb a chyfranogiad drwy’r sector addysg ôl-16 cyfan yng Nghymru (sy’n cynnwys colegau addysg bellach a chweched dosbarth ysgolion ledled Cymru). Mae’r adroddiad yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar batrymau presenoldeb presennol, y ffactorau sy’n dylanwadu ar lefelau ymgysylltu dysgwyr, a’r dulliau y mae darparwyr yn eu mabwysiadu i wella presenoldeb a chyfranogiad. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd presenoldeb fel galluogydd allweddol ar gyfer llwyddiant, cynnydd, llesiant a deilliannau cadarnhaol dysgwyr.
Mae’r adroddiad yn cyd-fynd ag ymrwymiad Medr i gefnogi system addysg drydyddol o ansawdd da, ac yn tynnu sylw at sawl maes lle y gall gweithredu ar y cyd drwy’r sector cyfan atgyfnerthu lefelau ymgysylltu dysgwyr a gwella deilliannau.
Yn benodol, nodwn ganfyddiadau’r adroddiad ynglŷn â’r amrywiol ddulliau a ddefnyddir i gofnodi presenoldeb ac adrodd arno, yr heriau sy’n gysylltiedig â meincnodi data presenoldeb, a’r berthynas gref rhwng presenoldeb, llesiant a llwyddiant dysgwyr
Ymateb i’r prif ganfyddiadau
Mae Medr yn cydnabod casgliad yr adroddiad bod presenoldeb yn dal yn her sylweddol mewn darpariaeth addysg ôl-16, a bod amrywiaeth gymhleth o ffactorau sy’n rhyngberthyn yn dylanwadu ar bresenoldeb, gan gynnwys llesiant dysgwyr, hygyrchedd cludiant, pwysau ariannol, cyflogaeth ran-amser a pherthnasedd cwricwla.
Cawn ein calonogi gan yr enghreifftiau o arferion effeithiol a nodir yn yr adroddiad, gan gynnwys datblygu rolau cymorth bugeiliol arbenigol, ymyriadau sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, a’r defnydd cynyddol o ddata presenoldeb ochr yn ochr â dulliau ehangach o fesur cynnydd a llesiant dysgwyr. Mae’r dulliau hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd ystyried presenoldeb o fewn fframwaith ehangach sy’n ymwneud â lefelau ymgysylltu dysgwyr.
Ymateb i’r argymhellion ar gyfer Medr
Rydym yn derbyn y canfyddiadau a’r argymhellion fel y maent yn berthnasol i Medr ac yn cydnabod y cyfle i atgyfnerthu trefniadau cenedlaethol ar gyfer presenoldeb a chyfranogiad drwy’r sector addysg drydyddol cyfan. Bydd Medr yn ystyried sut y gallem gyfrannu yn y maes hwn yn sgil yr adolygiad arfaethedig o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.
Safoni adroddiadau presenoldeb
Bydd Medr yn gweithio gyda darparwyr, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol yn y sector i archwilio opsiynau ar gyfer datblygu mwy o gysondeb mewn adroddiadau presenoldeb a chyfranogiad. Gallai hyn gynnwys ystyried diffiniadau cyffredin, codau presenoldeb a threfniadau adrodd er mwyn helpu i sicrhau gwell cymharedd a dealltwriaeth drwy’r sector cyfan. Bydd angen i unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol fod yn gymesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth, a chael eu datblygu ar y cyd â darparwyr.
Datblygu data presenoldeb cenedlaethol
Rydym yn cydnabod argymhelliad yr adroddiad ynghylch cyhoeddi data presenoldeb ôl-16 cenedlaethol, ond hefyd yn cydnabod yr her sy’n gysylltiedig â hyn. Mae’n debygol mai uchelgais hirdymor fyddai hyn, ac y byddai angen buddsoddiad parhaus o ran amser ac adnoddau i’w wireddu. Bydd Medr yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a darparwyr i ystyried dichonoldeb, manteision a goblygiadau ymarferol sefydlu setiau data a threfniadau adrodd cenedlaethol ar gyfer presenoldeb sy’n cefnogi prosesau meincnodi, hunanwerthuso a gwelliant parhaus gan sicrhau cyn lleied â phosibl o faich diangen ar ddarparwyr ar yr un pryd.
Rhannu arferion effeithiol
Mae Medr yn cydnabod y cryfderau sylweddol sydd eisoes yn bodoli ledled Cymru. Byddwn yn parhau i hwyluso cyfleoedd i ddarparwyr rannu arferion effeithiol, yn enwedig mewn perthynas â monitro presenoldeb, cymorth i ddysgwyr, ymyriadau llesiant a dulliau sy’n atgyfnerthu lefelau ymgysylltu a chyfranogi.
Y camau nesaf
Mae Medr yn croesawu’r adroddiad hwn, sy’n cynnig sylfaen glir ar gyfer trafodaethau pellach ym mhob rhan o’r sector. Mae’r canfyddiadau’n atgyfnerthu’r ffaith bod angen ymateb drwy’r system gyfan er mwyn gwella presenoldeb.
Mae Medr yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion, colegau a rhanddeiliaid eraill i ystyried yr argymhellion yn fanwl a chefnogi gwelliant parhaus mewn lefelau ymgysylltu, presenoldeb, llesiant a deilliannau dysgwyr ledled Cymru.
Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag [email protected].
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/49: Cyllid ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau 2026-27
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi cynnydd yn y cyllid a ddyfarnwyd i Medr gan Llywodraeth Cymru ar gyfer Prentisiaethau Iau yn y flwyddyn ariannol 2026-27. Mae’r buddsoddiad ychwanegol i gydnabod mwy o ddarpariaeth a chyfranogiad ledled Cymru.
2. Mae’r cyllid ychwanegol a ddyfarnwyd i Medr yn £135,000.
3. Cyhoeddir dogfen ar wahân yn dilyn blwyddyn academaidd 2026/27 yn nodi dyraniadau unigol SAB.
Medr/2026/49: Cyllid ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau 2026-27
Dyddiad: 30 Medi 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/49
At: Brifathrawon sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg Awdurdodau Lleol
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad yma yn cadarnhau cyllid ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau yn 2026-27.
Medr/2026/49 Cyllid ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau 2026-27Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioLlunio dyfodol Cwricwla Lleol 16 i 18 yng Nghymru
Mae’r blynyddoedd rhwng 16 a 18 oed ymhlith y rhai pwysicaf yn nhaith addysg dysgwr. Mae’n amser pan fydd pobl ifanc yn dechrau arbenigo, archwilio’u diddordebau a chymryd y camau nesaf tuag at addysg uwch, hyfforddiant neu gyflogaeth.
I gefnogi hyn, mae angen i ddysgwyr gael at amrywiaeth eang o gyfleoedd o ansawdd uchel sy’n adlewyrchu eu dyheadau ac anghenion eu cymunedau lleol. Dyma ddiben Cwricwla Lleol 16 i 18.
Gan fod cyfrifoldeb am lunio cwricwla lleol wedi trosglwyddo i Medr, mae cyfle i gryfhau cydweithio ar draws Cymru a sicrhau bod pob dysgwr yn gallu elwa o gynigion cwricwlwm cynaliadwy, cynhwysol, sy’n canolbwyntio ar y dysgwr.
Beth yw Cwricwla Lleol 16 i 18?
Mae Cwricwlwm Lleol 16 i 18 yn amrediad cyfunol o gyrsiau a chyfleoedd dysgu sydd ar gael i bobl ifanc o fewn ardal awdurdod lleol.
Gall y cyfleoedd hyn gael eu darparu gan ysgolion, sefydliadau addysg bellach, neu drwy drefniadau cydweithredol rhwng darparwyr. Y nod yw sicrhau bod dysgwyr yn gallu manteisio ar ddewis eang o lwybrau academaidd a galwedigaethol sy’n cefnogi dilyniant i’w dewis gamau nesaf.
Yn ei hanfod, mae cynllunio cwricwlwm lleol yn ymwneud â dysgwyr. Mae’n ymwneud â deall beth mae ar bobl ifanc ei angen, pa gyfleoedd sydd ar gael, a sut gall partneriaid weithio gyda’i gilydd i sicrhau’r dewis mwyaf a chefnogi deilliannau llwyddiannus.
Rôl Medr
Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn rhoi cyfrifoldeb am lunio Cwricwla Lleol 16 i 18 i Medr, gan greu un sefydliad sy’n gyfrifol am oruchwylio addysg ôl-orfodol yng Nghymru yn strategol.
Yn rhan o’r rôl hon, bydd Medr yn gweithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion, colegau a phartneriaid ehangach i:
- Ddatblygu trefniadau cwricwlwm lleol ar draws Cymru.
- Defnyddio data, tystiolaeth a deallusrwydd i lywio cynllunio a phenderfyniadau.
- Cefnogi cynigion y cwricwlwm sy’n adlewyrchu galw dysgwyr a blaenoriaethau lleol.
- Hyrwyddo darpariaeth gynaliadwy a llwybrau dilyniant ystyrlon.
- Cefnogi cyfleoedd am ddysgu a chyfranogi trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Cydweithio â phartneriaid i ddatblygu dulliau ymarferol a chymesur sy’n adlewyrchu amgylchiadau lleol.
Mae cwricwla lleol effeithiol yn dibynnu ar bartneriaethau cryf a chyd-berchnogaeth. Mae Medr yn chwarae rôl gydweithredol, gan ddod â phartneriaid ynghyd ar draws y system.
Rôl awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau
Mae awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth lunio cwricwla lleol.
Mae eu gwybodaeth leol a’u dealltwriaeth o ddysgwyr, cymunedau a darpariaeth yn hanfodol i gynllunio effeithiol. Hefyd, maent yn bartneriaid allweddol o ran helpu i wneud y mwyaf o argaeledd cyrsiau a sicrhau bod dysgwyr yn gallu manteisio ar gynnig cwricwlwm eang a chytbwys.
Mae hyn yn cynnwys ystyried:
- Buddiannau a dyheadau dysgwyr.
- Cyfleoedd dilyniant i ddysgu a chyflogaeth bellach.
- Deallusrwydd am y farchnad lafur leol a rhanbarthol.
- Darpariaeth cyfrwng Cymraeg a pharhad ieithyddol.
- Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
- Realiti ymarferol cyflwyno cwricwlwm eang a chynaliadwy.
Trwy ddwyn goruchwyliaeth genedlaethol ac arbenigedd lleol ynghyd, gall partneriaid greu cynigion cwricwlwm sy’n bodloni anghenion amrywiol dysgwyr a chymunedau ar draws Cymru.
Pam mae cydweithredu’n bwysig
Mae cydweithredu bob amser wedi bod yn ganolog i gynllunio cwricwlwm lleol yn llwyddiannus.
Mae’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau yn cydnabod na all yr un sefydliad unigol ddarparu pob cyfle yr hoffai dysgwyr fanteisio arnynt. Felly, caiff ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol eu hannog i gydweithio er mwyn gwneud y mwyaf o ddewis dysgwyr a chreu cynigion cwricwlwm cynaliadwy.
Gall cydweithredu helpu partneriaid i:
- Ehangu’r amrediad o gyrsiau sydd ar gael i ddysgwyr.
- Lleihau dyblygu’r ddarpariaeth yn ddiangen.
- Gwneud y defnydd gorau o adnoddau sydd ar gael.
- Cryfhau llwybrau dilyniant dysgwyr.
- Cefnogi addysg cyfrwng Cymraeg a mwy o gyfranogiad cyfrwng Cymraeg.
- Ymateb i anghenion sgiliau a’r farchnad lafur leol.
Yn y pen draw, mae cwricwla lleol llwyddiannus wedi’u hadeiladu ar sail cyd-gyfrifoldeb, deialog agored, ac ymrwymiad cyfunol i roi dysgwyr yn gyntaf.
Ymuno â’r sgwrs
I gefnogi partneriaid wrth i’r gwaith hwn ddatblygu, bydd Medr yn cynnal dwy webinar sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad Cwricwla Lleol 16 i 18 yng Nghymru yn y dyfodol.
Bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle i ddeall y canlynol yn well:
- Ymagwedd Medr at Gwricwla Lleol 16 i 18.
- Rolau a chyfrifoldebau ysgolion, colegau, awdurdodau lleol, Medr a Llywodraeth Cymru.
- Sut bydd data a thystiolaeth yn ategu cynllunio’r cwricwlwm a gwneud penderfyniadau.
- Y cysylltiadau rhwng cynllunio’r cwricwlwm, dilyniant dysgwyr, digonoldeb y cwricwlwm a darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
- Sut gall partneriaid gydweithio i ddatblygu atebion lleol ymarferol.
- Canllawiau, cymorth a chyfleoedd ymgysylltu yn y dyfodol.
Dyddiadau’r gweminarau
Mae cofrestru bellach ar agor trwy Eventbrite.
Rydym yn annog cydweithwyr o ysgolion, dosbarthiadau chwech, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach a sefydliadau partner i fynychu a chyfrannu at lunio dyfodol Cwricwla Lleol 16 i 18 yng Nghymru.
Trwy gydweithio, gallwn helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu manteisio ar gynnig cwricwlwm eang, cynaliadwy ac ystyrlon, sy’n eu cefnogi i ffynnu mewn addysg, cyflogaeth a bywyd.
Am rhagor or wybodaeth, cysylltwch â [email protected].
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioGrantiau Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil yn atgyfnerthu cymunedau ymchwil ledled Cymru
Mae Medr a Chymdeithas Ddysgedig Cymru wedi mynd ati ar y cyd i lansio ail flwyddyn y cynllun Grantiau Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil (RCNG), sy’n helpu ymchwilwyr, gweithwyr ymchwil proffesiynol a chymunedau ymchwil i gydweithio â’i gilydd i fynd i’r afael â heriau ac atgyfnerthu diwylliant ymchwil ledled Cymru.
Mewn cydnabyddiaeth i werth y mentrau llawr gwlad hyn, buddsoddodd Medr yn y cynllun yn 2025/26 drwy Gronfa Gydweithredol Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Gronfa Gydweithredol yn rhan o Gronfa WREC ehangach, sy’n cefnogi diwylliant ymchwil drwy ddulliau a arweinir gan sefydliadau a chymunedau. Er y caiff cyfran sylweddol o gyllid WREC ei dyrannu’n uniongyrchol i sefydliadau addysg uwch er mwyn cefnogi gweithgarwch strategol ar lefel sefydliadau cyfan, mae cynllun RCNG yn cynnig dull cydategol o’r gwaelod i fyny drwy fuddsoddi mewn rhwydweithiau a arweinir gan ymchwilwyr/gweithwyr ymchwil proffesiynol.
Mae’r cynllun, sy’n cynnig grantiau gwerth hyd at £3,000, wedi galluogi rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli a rhwydweithiau sy’n datblygu ledled Cymru i fynd i’r afael â heriau a nodwyd gan eu cymunedau eu hunain, gan feithrin cydweithio, cynhwysiant ac arloesedd ar lawr gwlad. Gyda’i gilydd, gall y dulliau hyn o’r brig i lawr ac o’r gwaelod i fyny helpu i greu diwylliant ymchwil mwy cysylltiedig, cefnogol a gwydn ledled Cymru, gan sicrhau y caiff ymchwilwyr ar bob cam gyrfa eu grymuso i ffynnu, cydweithio a gwneud gwaith ymchwil o ansawdd da sy’n arwain at fuddiannau ystyrlon i gymdeithas.
Yn y flwyddyn gyntaf, rhoddwyd cyllid i 14 o rwydweithiau a oedd yn cynnwys prifysgolion, sefydliadau iechyd a chanolfannau ymchwil ledled Cymru. Caiff y prosiectau a gafodd gyllid eu harwain gan ymchwilwyr a gweithwyr ymchwil proffesiynol, gan gynnwys technegwyr a staff cymorth arbenigol, ar amrywiaeth o gamau gyrfa. Mae’r rhwydweithiau’n cynnwys ymchwilwyr gyrfa gynnar, academyddion sydd wedi ennill eu plwyf a chydweithwyr mewn gwasanaethau proffesiynol sy’n gweithio gyda’i gilydd i atgyfnerthu cymunedau ymchwil a gwella’r amgylchedd ymchwil. Mae pum prosiect yn sefydlu rhwydweithiau newydd sbon, ac mae eraill yn canolbwyntio ar dyfu cymunedau sydd eisoes yn datblygu neu gynnal mentrau sydd eisoes ar waith.
Aeth y prosiectau i’r afael ag amrywiaeth eang o heriau sy’n ymwneud â diwylliant ymchwil, gan gynnwys ynysigrwydd ymhlith ymchwilwyr, prinder amser wedi’i neilltuo ar gyfer gwaith ymchwil ac ysgrifennu, hyder a syndrom y ffugiwr, rhwystrau rhag cydweithio, a heriau sy’n wynebu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae sawl menter yn cefnogi menywod, ymchwilwyr anneuaidd a chymunedau ethnig leiafrifiedig yn benodol, ac mae eraill yn canolbwyntio ar atgyfnerthu partneriaethau traws-sector ac ymgysylltu â chymunedau.
Rydym eisoes yn gweld effaith gadarnhaol y rhwydweithiau hyn ar ymchwilwyr ym mhob rhan o’r sector yng Nghymru. Mae cyfranogwyr wedi rhoi gwybod am fwy o amlygrwydd i faterion pwysig sy’n ymwneud â diwylliant ymchwil, gwell cymorth gan gymheiriaid a chyfleoedd newydd i gydweithio. Cafodd un prosiect, sef Rhaglen Fentora Breswyl Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Rhyngwladol Abertawe (SIREN), fwy na 100 o geisiadau am ddim ond 20 o leoedd ac, ers hynny, mae wedi sicrhau cyllid sefydliadol ychwanegol i ehangu ei gweithgareddau a datblygu rhwydwaith cenedlaethol ehangach.
Mae’r rhaglen hefyd wedi cefnogi amrywiaeth o fentrau arloesol, gan gynnwys encilion ysgrifennu i academyddion benywaidd sydd â chyfrifoldebau gofalu (Write Now!), cymunedau ymarfer ar gyfer gweithwyr fferylliaeth proffesiynol, rhwydweithiau ar gyfer gweithwyr technegol proffesiynol ym maes ymchwil, a phartneriaethau sy’n canolbwyntio ar iechyd menywod, newid hinsawdd, academia’r gyfraith a gwaith ymchwil yn y sector gwirfoddol.
Mae’r gwersi cychwynnol sydd wedi cael eu dysgu o’r cynllun yn tynnu sylw at bwysigrwydd parhaus gweithgareddau ar lawr gwlad er mwyn creu amgylcheddau ymchwil cynhwysol a chefnogol. Ymhlith y themâu cyffredin y mae arweinwyr rhwydweithiau wedi eu nodi mae’r angen am fwy o fentora a chymorth gan gymheiriaid, mwy o gyfleoedd i gydweithio rhwng disgyblaethau a sefydliadau, cydnabyddiaeth i fathau amrywiol o arbenigedd, a chysylltiadau cryfach rhwng gwaith ymchwil academaidd a chymunedau ehangach.
Er bod cyllid ar gael ar gyfer 14 o brosiectau, cawsom 72 o geisiadau yn y cylch cyllido cyntaf, sy’n dangos pa mor sylweddol oedd y galw am y cynllun a’r awydd ymhlith ymchwilwyr a gweithwyr ymchwil proffesiynol i ddatblygu diwylliannau ymchwil mwy cysylltiedig, cynhwysol a gwydn ledled Cymru.
Bydd y cylch cyllido newydd, a lansiwyd ar 9 Medi, yn galluogi rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli i adeiladu ar eu cynnydd gan gefnogi cymunedau a syniadau newydd sy’n harneisio brwdfrydedd ac uchelgais y sector i greu ecosystem ymchwil gryfach ar gyfer Cymru ar yr un pryd.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/47: Model Cyllido Prentisiaethau: Crynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriad
Crynodeb
Nod Cynllun Strategol Medr yw ‘creu system addysg drydyddol hyblyg a chydgysylltiedig lle gall pawb ddysgu’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd eu hangen arnynt ar gyfer economi a chymdeithas sy’n newid’. Rydym wedi ymrwymo i ddylunio darpariaeth prentisiaethau ar gyfer y dyfodol mewn ffordd sy’n ymateb i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sgiliau a bodloni anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r economi. Mae prentisiaethau’n ysgogiad sylweddol i gynyddu cynhyrchiant a helpu i dyfu gweithlu medrus ac amrywiol.
Bydd y rhaglen brentisiaethau newydd yn dechrau ar 1 Awst 2027 a bydd yn fwy ymatebol a hyblyg er mwyn ymateb i’r newidiadau yn ein heconomi.
Ym mis Mai 2026, cynhaliom ymgynghoriad ar ddull cyllido arfaethedig ar gyfer y rhaglen brentisiaethau newydd sy’n arwain at gymwysterau rheoleiddiedig ar lefelau 2-5, a oedd yn cynnwys ymgysylltu â darparwyr addysg drydyddol, cyrff diwydiant, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill.
Gofynnom am safbwyntiau ar y canlynol:
- Egwyddorion lefel uchel y model cyllido newydd
- Manteision y model cyllido newydd
- Canlyniadau anfwriadol rhoi’r model cyllido newydd ar waith
- Costau ychwanegol prentisiaethau
Bu clywed gan randdeiliaid yn allweddol i helpu Medr i lunio’r model cyllido newydd ac ystyried yn llawn y canlyniadau anfwriadol a nodwyd.
Mae’r ddogfen hon yn darparu crynodeb o themâu allweddol o’r ymatebion i gwestiynau’r ymgynghoriad a sut rydym wedi penderfynu ymateb wrth gadarnhau’r model cyllido newydd.
Mae Atodiad A yn darparu dadansoddiad manylach o adborth yr ymgynghoriad.
Medr/2026/47: Model Cyllido Prentisiaethau: Crynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriad
Dyddiad: 14 Medi2026
Cyfeirnod: Medr/2026/47
At: Benaethiaid darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru; Darparwyr prentisiaethau presennol yng Nghymru / Deiliaid contractau prentisiaethau wedi’u comisiynu; Cyrff cynrychioli dysgwyr; Cynrychiolwyr addysg awdurdodau lleol
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn darparu crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y model cyllido newydd ar gyfer y Rhaglen Brentisiaethau (sy’n arwain at gymwysterau rheoleiddiedig ar lefelau 2-5) o 1 Awst 2027 ymlaen, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2026.
Medr/2026/47 Model Cyllido Prentisiaethau: Crynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriadDogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio