Cyllid i ddarparwyr

Rydym yn cyllido addysg drydyddol ac ymchwil, gan gynnwys y chweched dosbarth mewn ysgolion, prentisiaethau, addysg bellach, addysg uwch ac ymchwil ac arloesi. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio’n unol â threfniadau a etifeddwyd gan y cyrff a’n rhagflaenodd – Llywodraeth Cymru  a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae’r rhain yn cynnwys trefniadau gwahanol ar gyfer gwahanol rannau o’r sector trydyddol, o ddyraniadau cyllid mawr blynyddol yn seiliedig ar fformiwla i gronfeydd llai o gyllid ar gyfer prosiectau mwy byrdymor. Byddwn yn dechrau ymgynghori ar ein trefniadau ein hunain, a’u datblygu, yn ystod ein blwyddyn gyntaf o weithredu.  

Cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27

Ym mis Tachwedd 2025, ysgrifennom at ddarparwyr i roi braslun o’r rhagdybiaethau cyllido sy’n sail ar gyfer ein cynlluniau i ddosbarthu ein chyllideb ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026/27.

Rhagdybiaethau cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27

Cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 Rhagdybiaethau cyllido Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 (Ionawr 2025) Cefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru i Medr yn 2025-2026 (Mawrth 2025)

Bydd gwaith cyllido, cynllunio, cyflwyno a monitro o dan y Fframwaith Cynllunio a Chyllido Ôl-16 yn cael ei wneud yn bennaf drwy raglenni, gyda’r rhan fwyaf o ddarpariaeth yn amrywio rhwng Lefel Mynediad a Lefel 3. Pecyn dysgu yw rhaglen sy’n anelu at ganlyniad i ddysgwyr, fel symud ymlaen i gyflogaeth neu i addysg bellach neu uwch.

Fframwaith Cyllido ôl-16

Mae’r Cyfeiriadur Rhaglenni yn rhestru’r holl raglenni amser llawn a rhan-amser, o Lefel Mynediad i Lefel 4; gan gynnwys rhaglenni mynediad i addysg bellach neu uwch.

Cyfeiriadur Rhaglenni Atodiad A2: Codau Rhaglenni a Gwybodaeth Fanw 2025/26

Mae telerau ac amodau cyllid Chweched Dosbarth Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach yn berthnasol i’r holl grantiau newydd a ddirprwyir i Chweched Dosbarth Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach gan Medr o 1 Awst 2025.

Telerau ac Amodau Cyllid Chweched Dosbarth Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach

Mae’r telerau ac amodau cyllid yn berthnasol i’r holl grantiau newydd a ddirprwyir i’r darparwyr hynny nad ydynt Chweched Dosbarth Awdurdodau Lleol, sefydliadau Addysg Bellach neu sefydliadau Addysg Uwch.

Telerau ac Amodau Cyllid Medr

Ar gyfer grantiau sydd eisoes yn eu lle, neu amrywiadau i’r grantiau hynny, mae’r telerau ac amodau gwreiddiol naill ai gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) neu gan Lywodraeth Cymru yn dal i fod yn berthnasol.

Rhaid cwblhau unrhyw geisiadau am raglen amser llawn newydd neu i ddiwygio’r rhaglen bresennol ar ffurflen gais cyfeiriadur rhaglenni newydd, a’i chyflwyno i Medr: [email protected]

Cyllido ôl-16: Cais am Raglen Newydd
Cyllid prif ffrwd ar gyfer chweched dosbarth ysgolion

Bydd cyllid prif ffrwd ar gyfer chweched dosbarth ysgolion yn cael ei dalu gan Medr i awdurdodau lleol o fis Awst 2024.

Mae darpariaeth brif ffrwd ar gyfer chweched dosbarth ysgolion yn cynnwys addysg gyffredinol ar Lefel 3 (Safonau Uwch/UG) ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yn bennaf, ochr yn ochr â rhywfaint o ddysgu galwedigaethol a darpariaeth ar Lefel 2. Cyflwynir y ddarpariaeth o fewn yr ysgolion.

Yn y gorffennol, Llywodraeth Cymru fyddai’n dyrannu’r cyllid, ac awdurdodau lleol yn cael gwybod beth fyddai’r symiau a ddyrennir ar gyfer y flwyddyn i ddod erbyn mis Ionawr ar yr hwyraf.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn ariannol, Ebrill i Fawrth. 

Proffil taliadau: misol. 

Dyraniadau cyllid chweched dosbarth awdurdodau lleol 2023-24 Dyraniadau cyllid chweched dosbarth awdurdodau lleol 2024-25 Dyraniadau cyllid chweched dosbarth awdurdodau lleol 2025-26

Cyllid Adferiad a Chynnydd Dysgwyr 

Mae Cyllid Adferiad a Chynnydd Dysgwyr yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol ei ddosbarthu i’r chweched dosbarth mewn ysgolion er mwyn darparu oriau dysgu ychwanegol ar gyfer dysgwyr amser llawn ym Mlynyddoedd 12, 13 ac uwch.  

Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn cydnabod y bydd dysgwyr wedi profi aflonyddwch o ganlyniad i bandemig Covid-19 ac y gallai fod arnynt angen cymorth ac arweiniad pellach yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26 er mwyn helpu i ddiogelu eu llesiant, datblygu eu gwytnwch a llwyddo i ennill eu cymwysterau. 

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf. 

Proffil taliadau: un taliad blynyddol ym mis Awst.

Adferiad a Chynnydd Dysgwyr Ôl-16: dyraniadau cyllid chweched dosbarth awdurdodau lleol 2025 i 2026 Cyllid Adferiad a Chynnydd Dysgwyr: Chweched Dosbarth Awdurdodau Lleol – Manyleb y Rhaglen 2025 Cyllid Adferiad a Chynnydd Dysgwyr Medr: Daenlen Crynhoi Data 2025

Cyllid pontio

Diben y cyllid yw sicrhau bod dysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn cael gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd sy’n cwmpasu’r holl opsiynau ôl-16 sydd ar gael yn eu hardal leol.

Cyfnod cyllido: Tachwedd 2025 i Orffennaf 2026 

Proffil taliadau: un taliad ym mis Rhagfyr 2025.

Cyllid Pontio Ôl-16 i awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach Nodyn Cyfarwyddyd 2025/26

Bydd Medr yn rhoi cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned o fis Awst 2024.  

Mae darpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned yn cynnwys darpariaeth ran-amser ar bob lefel o Lefel Mynediad i Lefel 4, ac ar gael i bob oed o 16+. Yn gyffredinol, cyflwynir y cyfleoedd dysgu mewn canolfannau dysgu cymunedol.

Yn y gorffennol, gwnaed dyraniadau gan Lywodraeth Cymru. Caiff awdurdodau lleol wybod am y symiau a ddyrennir ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod erbyn mis Ionawr ar yr hwyraf.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn ariannol, Ebrill i Fawrth. 

Proffil taliadau: tri rhandaliad blynyddol. 

Dyraniadau cyllid ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022-23, 2023-24 a 2024-25 Awdurdod lleol ôl-16: dyraniadau cyllid dysgu oedolion 2025-26

Cyllid ar gyfer prentisiaethau

Bydd Medr yn cyllido darparwyr contract arweiniol y Rhaglen Brentisiaeth o fis Awst 2024.

Rhaglen ddysgu ar sail cyflogaeth ar gyfer dysgwyr cyflogedig yw Prentisiaethau. Maent yn dilyn Fframwaith Prentisiaethau cydnabyddedig sydd wedi’i gymeradwyo i’w gyflwyno yng Nghymru. 

Mae darparwyr prentisiaethau’n derbyn cyllid ar sail blwyddyn academaidd i gefnogi darpariaeth cyrsiau dysgu galwedigaethol ar lefelau 2, 3, 4 a 5 Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC). 

Yn y gorffennol, Llywodraeth Cymru oedd yn dyrannu’r cyllid, gyda darparwyr arweiniol yn cael gwybod beth fyddai eu dyraniadau ar gyfer y flwyddyn i ddod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd.  

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf. 

Proffil taliadau: misol. 

Dyraniadau 2024/25: Oddeutu £134 miliwn. 

Bydd Medr yn darparu cyllid i ddarparwyr arweiniol y contract Prentisiaeth ar gyfer y Cynllun Rhannu Prentisiaeth o fis Awst 2024.  

Mae’r Cynllun Rhannu Prentisiaeth yn caniatáu i brentisiaid gwblhau rhaglen brentisiaeth lawn drwy weithio gyda nifer o wahanol gyflogwyr lleol, i ennill y setiau sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddod yn gymwys. 

Caiff prentisiaid sy’n dechrau Cynllun Rhannu Prentisiaeth eu dyrannu ar sail flynyddol i ddarparwyr arweiniol â diddordeb.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf.  

Proffil taliadau: ar sail chwarterol/fisol ar ôl derbyn tystiolaeth foddhaol.

Dyraniadau 2024/25: £1 miliwn.

Bydd Medr yn darparu cyllid i ddarparwyr arweiniol y contract Prentisiaeth ar gyfer y gronfa Cymorth Dysgu Ychwanegol o fis Awst 2024. 

Pwrpas y gronfa Cymorth Dysgu Ychwanegol yw helpu darparwyr i weithio’n hyblyg ac i sicrhau’r Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol (DDY) sydd ei hangen fel bo modd iddynt wneud eu darpariaeth yn hygyrch i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).  Mae Cyllid CDY hefyd yn cynorthwyo darparwyr gyda’r gost o wneud addasiadau rhesymol, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf. 

Proffil taliadau: taliadau chwarterol, ar ôl cyflwyno tystiolaeth foddhaol a gaiff ei gwerthuso’n foddhaol.

Bydd Medr yn darparu cyllid i ddarparwyr arweiniol y contract Prentisiaeth ar gyfer y Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr (CCC) o fis Awst 2024.

Cynllun ydyw sy’n rhoi cymorth i gyflogwyr i’w helpu i gynnig cyfleoedd i brentisiaid anabl.

Cyfnod cyllido: blwyddyn ariannol, Ebrill i Fawrth. 

Proffil taliadau: taliadau misol, ar ôl cyflwyno tystiolaeth foddhaol. 

Dyraniadau 2024-25: £400k. 

Mae darparwyr addysg uwch yn derbyn cyllid yn flynyddol i gyflenwi prentisiaethau gradd yn erbyn y Fframweithiau Digidol, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch ac Adeiladu. 

Cyllid ar gyfer addysg bellach 

Bydd cyllid prif ffrwd ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn cael ei dalu i golegau gan Medr o fis Awst 2024 ymlaen.

Mae darpariaeth sefydliadau addysg bellach prif ffrwd yn cynnwys rhaglenni addysg gyffredinol a rhaglenni galwedigaethol o Lefel Mynediad i Lefel 4. Cynigir darpariaeth amser llawn (ar gyfer dysgwyr 16-19 oed yn bennaf) a rhan-amser (lle y gall rhai gofynion cymhwysedd ar sail oedran fod yn berthnasol). Caiff y gweithgareddau dysgu eu cynnal yn y sefydliadau addysg bellach fel arfer, ond byddant hefyd yn cynnwys rhywfaint o ddysgu yn y gymuned.

Yn hanesyddol, byddai dyraniadau’n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a byddai sefydliadau addysg bellach yn cael gwybod am y niferoedd a ddyrennir ar gyfer y flwyddyn i ddod erbyn mis Ionawr fan bellaf.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf. 

Proffil taliadau: misol.

Dyraniadau prif ffrwd colegau addysg bellach 2023/24

Dyraniadau prif ffrwd colegau addysg bellach 2024/25

Dyraniadau prif ffrwd colegau addysg bellach 2025/26

Dyrannwyd y cyllid hwn er mwyn galluogi colegau addysg bellach i ddarparu oriau dysgu ychwanegol i ddysgwyr ym Mlynyddoedd Coleg 1, 2 ac uwch.

Mae’r cyllid ychwanegol hwn wedi’i ddarparu i gydnabod y bydd dysgwyr wedi profi aflonyddwch yn sgil pandemig Covid-19, ac y gallai fod arnynt angen cymorth ac arweiniad pellach yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25 er mwyn helpu i ddiogelu eu llesiant, datblygu eu gwytnwch a llwyddo i ennill eu cymwysterau. 

Cyllidir dyraniadau ar sail blwyddyn academaidd, gan redeg o fis Awst i fis Gorffennaf, gan wneud un taliad ym mis Awst. 

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf.  

Proffil taliadau: un taliad blynyddol ym mis Awst. 

Cyllid Adferiad a Chynnydd Dysgwyr: Sefydliad addysg bellach – Manyleb y Rhaglen 2025

Dyraniadau cyllid addysg bellach 2025/26

Diben y cyllid yw sicrhau bod dysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn cael gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd sy’n cwmpasu’r holl opsiynau ôl-16 sydd ar gael yn eu hardal leol.

Cyfnod cyllido: Tachwedd 2025 i Orffennaf 2026. 

Proffil taliadau: Un taliad ym mis Rhagfyr 2025. 

Cyllid Pontio Ôl-16 i awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach Nodyn Cyfarwyddyd 2025/26

Mae’r cyllid hwn yn rhoi cymorth ariannol i’r dysgwyr cymwys hynny y gallai ystyriaethau ariannol gyfyngu ar eu mynediad at addysg, neu sy’n wynebu anawsterau ariannol, waeth beth fo’r rheswm am hynny, gan gynnwys anabledd.

Mae sefydliadau’n gweinyddu’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn i’w dysgwyr yn ôl disgresiwn, ac maent yn gyfrifol am ddosbarthu’r cyllid i sicrhau y gellir teilwra cymorth i anghenion y myfyrwyr.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf. 

Proffil taliadau: tri thaliad blynyddol. 

Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn Canllawiau Addysg Bellach

Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn Canllawiau i’r Brifysgol Agored

Mae’r cyllid hwn yn sicrhau mynediad at gynnyrch mislif yn rhad ac am ddim. Defnyddir y cyllid i gefnogi

  • pob dysgwr; a  
  • phobl yng nghymuned y coleg sydd angen mynediad at gynnyrch mislif, gan roi’r flaenoriaeth i rai o aelwydydd incwm isel.  

Cyfnod cyllido: yn symud i’r flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf, o 2024/25.

Y Gronfa Urddas Mislif Canllawiau Addysg Bellach 2025/26

Mae’r cyllid hwn yn cynorthwyo sefydliadau i fodloni anghenion addysgol pobl ifanc, gan eu galluogi i wireddu eu potensial llawn a rhoi’r gefnogaeth gywir ar waith i gael gwared â rhwystrau sylweddol rhag gwireddu potensial yr unigolyn.

Mae sefydliadau’n defnyddio’r cyllid hwn i ymateb i anghenion dysgwyr unigol.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf.

Proffil taliadau: dau daliad blynyddol.

Canllawiau Cyllid Cymorth Dysgu Ychwanegol Addysg Bellach

Nod y biwroau cyflogaeth a menter (EEB) yw sicrhau canlyniadau cadarnhaol i ddysgwyr o ran cyflogaeth a hunangyflogaeth.

Bydd y cyllid yn cefnogi dysgwyr wrth iddynt symud o addysg i gyflogaeth neu hunangyflogaeth drwy ddatblygu’r sgiliau cyflogadwyedd ac entrepreneuraidd sydd eu hangen arnynt i sicrhau canlyniadau cadarnhaol. Dylai baratoi dysgwyr i ymuno â’r farchnad lafur, gan sicrhau eu bod yn llwyr ymwybodol o’r opsiynau gyrfa sydd ar gael iddynt, a hyrwyddo cysylltiadau â chyflogwyr, gan gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr o fewn colegau.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf.

Proffil taliadau: dau daliad blynyddol.

Medr/2025/10: Biwroau Cyflogaeth a Menter canllawiau a chyllid 2025/26

Mae cyllid dysgu proffesiynol yn galluogi colegau addysg bellach i ddarparu gweithgareddau dysgu proffesiynol ar gyfer staff addysgu. Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau unigol y sefydliad, yn seiliedig ar ei bolisïau ac ar yr anghenion a ganfuwyd ymhlith y staff.

Nod y gronfa yw adeiladu ar weithgareddau a    gynhaliwyd yn rhan o’r cyllid a ddarparwyd yn y blynyddoedd cynt, gan roi cefnogaeth a chyfleoedd i staff gymryd y camau nesaf yn eu dysg proffesiynol.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf. 

Proffil taliadau: dau daliad blynyddol, ar ôl cyflwyno a gwerthuso adroddiad interim a therfynol yn foddhaol. 

Mae hyn yn galluogi colegau addysg bellach i feithrin gallu i gefnogi iechyd meddwl a llesiant dysgwyr a staff.  

Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau unigol y sefydliad, yn seiliedig ar ei bolisïau ac ar yr anghenion a ganfuwyd ymhlith ei ddysgwyr a’i staff.  

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf. 

Proffil taliadau: dau daliad blynyddol, ar ôl cyflwyno a gwerthuso adroddiad interim a therfynol yn foddhaol.

Gall Medr ystyried talu Elfen 3 (a elwir weithiau’n gyllid atodol) ar gyfer dysgwyr ag anghenion uchel o Gymru sy’n astudio mewn sefydliadau addysg bellach (SABau) yn Lloegr. Mae’r cyllid hwn yn cynorthwyo sefydliadau i fodloni anghenion addysgol pobl ifanc, gan eu galluogi i wireddu eu potensial llawn a rhoi’r gefnogaeth gywir ar waith i gael gwared â rhwystrau sylweddol rhag gwireddu potensial yr unigolyn.

Os hoffai sefydliadau ymgeisio am gyllid bydd angen iddynt gysylltu â Medr trwy [email protected] a bydd system trosglwyddo ffeiliau’n ddiogel yn cael ei sefydlu at ddibenion anfon gwybodaeth bersonol. Dylai ffurflenni cais wedi’u cwblhau (a geir yn y canllawiau) gael eu llofnodi a’u cyflwyno i Medr trwy’r system trosglwyddo ffeiliau’n ddiogel yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith olaf ym mis Medi. Efallai na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf. 

Proffil taliadau: Bydd cyllid yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad tymhorol cyfartal.

Cyllid Cymorth Dysgu Ychwanegol Addysg Bellach – Elfen 3 (Atodol) (PDF)

Cyllid Cymorth Dysgu Ychwanegol Addysg Bellach – Elfen 3 (Atodol) (Word)

Dylai’r cyllid helpu i feithrin capasiti a chyflwyno gweithredoedd a fydd yn hyrwyddo dulliau effeithiol o ddiwallu anghenion pobl ifanc ag ADY, gan gyfrannu at ddarparu system addysg gwbl gynhwysol, lle cefnogir pob dysgwr i wireddu ei botensial.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn ariannol, o fis Ebrill i fis Mawrth. Gellir cyflawni gweithgarwch drwy gydol y flwyddyn academaidd, ond mae Medr yn disgwyl i sefydliadau ymrwymo i’r gwariant o fewn blwyddyn ariannol 2025-26.. 

Proffil taliadau: Telir y cyllid mewn un taliad llawn ym mis Hydref 2025.

Callawiau Paratoi i Weithredu’d Ddeddf a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol

Caiff y rhan fwyaf o’n cyllid ei ddosbarthu ar ffurf grantiau bloc i darparwyr addysg uwch, wedi’u dyrannu drwy fformiwlâu. Mae’r rhain yn ystyried amryw o ffactorau, gan gynnwys niferoedd a gaiff eu recriwtio i gategorïau pwnc academaidd, y modd a’r lefel astudio, a maint yr ymchwil o ansawdd a gyflawnwyd yn y sefydliad. 

Rydym yn rhoi gwybod i ddarparwyr addysg uwch a gyllidir beth fydd eu dyraniadau grant craidd cyn i’r flwyddyn academaidd ddechrau ym mis Awst. Gall sefydliadau ddyrannu’r grant fel y tybir ganddynt yn briodol, ar yr amod y’i defnyddir i gefnogi addysgu, ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig.  

Roedd cyllid ar gyfer addysg uwch yn cael ei ddyrannu’n flynyddol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae Medr wedi etifeddu dulliau cyllido a dyraniadau cyllid CCAUC ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 (1 Awst – 31 Gorffennaf).

Os oes angen dogfen arnoch mewn fformat gwahanol, neu os na allwch ddod o hyd i’r ddogfen rydych yn chwilio amdani, cysylltwch â

[email protected]

Rydym yn cyllido ymchwil ac arloesi 

  • Rydym yn darparu £82 miliwn y flwyddyn drwy ein prif ffrwd gyllido Ymchwil o Ansawdd (QR) sy’n seiliedig ar fformiwla, yn seiliedig ar ganlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ar gyfer y DU gyfan. 
  • Rydym yn cefnogi arloesi ac ymgysylltu, gan gynnwys cenhadaeth ddinesig, drwy ein Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru gwerth £15 miliwn. 
  • Rydym hefyd yn darparu £6.2 miliwn i sefydliadau ar gyfer hyfforddi myfyrwyr ymchwil ôl-radd.  

Caiff cyllid cyhoeddus ar gyfer ymchwil mewn addysg uwch ei weinyddu o dan system gymorth ddeuol.  

O dan y system hon, mae’r cyllid a ddarperir gennym i sefydliadau yng Nghymru yn helpu i gefnogi eu seilwaith ymchwil, ac yn rhoi’r hyblygrwydd iddynt bennu cyfeiriad strategol eu hymchwil.  

Ar ochr arall y system gymorth ddeuol, darperir grantiau ar gyfer prosiectau a rhaglenni penodol gan y Cynghorau Ymchwil, elusennau, yr UE ac adrannau’r llywodraeth. 

Dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru (CAYC)

Rydym yn darparucyllid blynyddoli sefydliadau addysg uwch Cymru i hyrwyddo’u gweithgarwch cyfnewid gwybodaeth a’u galluogi i weithio gyda diwydiant a busnesau, i gefnogi entrepreneuriaeth a sgiliau, ac i gefnogi eu huchelgeisiau o ran y genhadaeth ddinesig ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae strategaethau pum mlynedd yn amlinellu meysydd ffocws allweddol a fydd yn cefnogi ffyniant cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. 

Caiff y strategaethau eu monitro’n flynyddol a’u diweddaru i adlewyrchu heriau a chyfleoedd newydd.

Gweler y strategaethau ar gyfer:

Cronfa Fuddsoddi Partneriaeth Ymchwil y DU (UKRPIF) 

Mae Cronfa Fuddsoddi Partneriaeth Ymchwil y DU (UKRPIF) yn darparu cyllid er mwyn buddsoddi cyfalaf mewn cyfleusterau ymchwil newydd o bwys mewn prifysgolion.  

Dyfernir y cyllid gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) drwy gystadlaethau a gynhelir drwy’r DU a reolir gan Ymchwil Lloegr, gan gydweithio â chyrff cyllido addysg uwch eraill y DU. Rhaid i geisiadau gynnwys cyllid ar y cyd o’r sector preifat. 

Mae Cymru wedi derbyn cyllid ar gyfer tair rhaglen fuddsoddi drwy gynllun UKRPIF. 

  • Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni, Prifysgol Abertawe (£11.65 miliwn).
  • Sefydliad Ymchwil Technoleg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Prifysgol Caerdydd (£17.30 miliwn). 
  • Canolfan Deunyddiau Lled-ddargludyddion Integreiddiol, Prifysgol Abertawe (£29.92 miliwn). 

Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) 

Caiff HERCei gyllido ar y cyd gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg a Llywodraeth Cymru, ac mae’n cefnogi datblygiad seilwaith ffisegol sy’n gysylltiedig ag ymchwil.  

Mae’n rhaid i sefydliadau fodloni trothwy sy’n seiliedig ar ragoriaeth i fod yn gymwys i dderbyn cymorth.  

Darparwyd £9.2 miliwn yn 2025-26. 

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio