Sta/Medr/01/2026: Myfyrwyr mewn Addysg Uwch, 2024/25
Prif bwyntiau
Ymrestriadau mewn darparwyr addysg uwch (AU) yng Nghymru
- Cafwyd 143,825 o ymrestriadau mewn darparwyr AU yng Nghymru yn 2024/25, 5% yn llai na’r 150,680 a gafwyd yn 2023/24. Mewn cymhariaeth, ar gyfer darparwyr AU ledled y DU, gostyngodd nifer yr ymrestriadau 1% yn 2024/25 o gymharu â 2023/24
- Yn 2024/25 cafwyd 32,070 o ymrestriadau ôl-radd mewn darparwyr AU yng Nghymru. Roedd hyn yn ostyngiad o 19% gymharu â 2023/24 pan gafwyd 39,360 o ymrestriadau ôl-radd. Gostyngiad yn nifer yr ymrestriadau gan fyfyrwyr o’r tu allan o’r DU ar gyrsiau ôl-radd a addysgir oedd i gyfrif am y rhan fwyaf o’r gostyngiad hwn.
- Yn 2024/25 cafwyd 111,755 o ymrestriadau ar lefel israddedig. Roedd hyn yn wahaniaeth o lai nag 1% o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol a 6% yn uwch nag yn 2016/17.
- Roedd 48% o’r ymrestriadau mewn darparwyr AU yng Nghymru yn fyfyrwyr oedd â’u cyfeiriad parhaol yng Nghymru cyn dechrau astudio. Roedd 37% o’r ymrestriadau yn 2024/25 yn fyfyrwyr o weddill y DU, ac 15% o’r tu allan i’r DU.
- Mae cyfran yr ymrestriadau gan fyfyrwyr y gwyddys bod ganddynt anabledd wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Roedd 22% o’r ymrestriadau yn 2024/25 yn fyfyrwyr y gwyddys bod ganddynt anabledd.
- O’r ymrestriadau gan fyfyrwyr o’r DU lle’r oedd y cefndir ethnig yn hysbys, roedd 17% o’r ymrestriadau gan fyfyrwyr a chefndir lleiafrifol ethnig yn 2024/25. Mae’r gyfran hon wedi bod yn cynyddu’n gyson o’r naill flwyddyn i’r nesaf.
- Arweiniodd 52,685 o ymrestriadau gan fyfyrwyr at ennill cymhwyster yn 2024/25. Roedd hyn yn gynnydd o 5% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
- Enillodd 29% o fyfyrwyr gradd gyntaf radd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2024/25. Roedd hyn ddau bwynt canran yn uwch nag yn 2023/24.
Ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru mewn darparwyr AU ledled y DU
- Cafwyd 103,060 o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru mewn darparwyr AU ledled y DU yn 2024/25. Roedd hyn yn debyg i’r 103,205 o ymrestriadau yn 2023/24.
- Roedd bron i un o bob tri ymrestriad gan fyfyrwyr o Gymru mewn darparwyr AU y tu allan i Gymru yn 2024/25.
- Mae cyfrannau cynyddol o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yn rhai gan fyfyrwyr y gwyddys bod ganddynt anabledd. Roedd 25% o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yn 2024/25 yn ymrestriadau gan fyfyrwyr y gwyddys bod ganddynt anabledd.
- Mae cyfrannau cynyddol o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yn rhai gan fyfyrwyr o gefndir lleiafrifol ethnig. Roedd 12% o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yn 2024/25 yn fyfyrwyr o gefndir lleiafrifol ethnig.
- Yn 2024/25, roedd 17% o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru ar gyrsiau gradd amser llawn o’r cwintel mwyaf amddifadus ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC 2019), o gymharu â 26% o’r cwintel lleiaf amddifadus. Mae’r ffaith bod niferoedd llawer uwch o ymrestriadau gan fyfyrwyr o ardaloedd â llai o amddifadedd mewn darparwyr AU y tu allan i Gymru, o gymharu â’r rhai o ardaloedd â mwy o amddifadedd yn egluro hyn.
- Arweiniodd 31,090 o ymrestriadau ledled y DU gan fyfyrwyr o Gymru at ennill cymhwyster yn 2024/25. Roedd hyn yn gynnydd o 5% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Sta/Medr/01/2026: Myfyrwyr mewn Addysg Uwch, 2024/25
Ystadegau Medr
Cyfeirnod: Sta/Medr/01/2026
Dyddiad: 29 Ionawr 2026
Dynodiad: Ystadegau Swyddogol
Crynodeb: Ystadegau ar ymrestriadau mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru, ac ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru sy’n astudio mewn darparwyr addysg uwch ledled y DU
Sta/Medr/01/2026 Myfyrwyr mewn Addysg Uwch 2024/25Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/02: Cyllid ychwanegol i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol 2025/26
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau a’r amseriadau ar gyfer cyllid ychwanegol gwerth £21,126,000 i gydnabod cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg uwch ac awdurdodau lleol ym mlwyddyn academaidd 2025/26.
2. Clustnododd Medr y cyllid hwn fel rhan o’i gyllideb ar gyfer 2024-25 a chaiff ei ddyrannu i ddarparwyr yn ystod blwyddyn ariannol 2025-26.
3. Caiff y cyllid hwn ei dalu’n llawn mewn un rhandaliad ym mis Ionawr 2026.
Sail resymegol
4. Roedd y broses ddyrannu fel a ganlyn:
- Gwarentir hyd at 5% o unrhyw orgyflawni i bob darparwr.
- Ar sail pro rata, rhannwyd yr elfennau a oedd yn weddill o’r £21.126m rhwng yr awdurdodau lleol a’r sefydliadau addysg bellach a oedd yn gweithio uwchlaw 5% o’u dyraniad gwreiddiol.
- Addaswyd cyfuniad o i) a ii) yn seiliedig ar y newidiadau a oedd yn angenrheidiol i’r gronfa gwerth £10m ar gyfer cynnydd mewn cyfranogiad yn 2024/25. Ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn unig y mae hyn. Roedd hyn o ganlyniad i wall yng nghiplun data mis Rhagfyr 2024 Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, sydd bellach wedi cael ei gywiro.
Symiau ac amseriadau’r cyllid ychwanegol
5. Rhoddir dyraniad ychwanegol o £18,020,897.72 i sefydliadau addysg bellach am gynnydd mewn cyfranogiad ym mlwyddyn academaidd 2025/26, fel y gwelir yn y tabl isod:
| Sefydliad addysg bellach | Addysg bellach | Cymorth ychwanegol ar gyfer cyllid prif ffrwd |
|---|---|
| Coleg Penybont | £872,587.48 |
| Coleg Caerdydd a’r Fro | £2,058,056.69 |
| Coleg Cambria | £2,547,714.70 |
| Coleg Gwent | £2,273,366.02 |
| Coleg Sir Gâr | £1,058,470.25 |
| Coleg y Cymoedd | £1,843,057.34 |
| Coleg Gŵyr Abertawe | £1,498,235.69 |
| Grŵp Llandrillo Menai | £2,341,486.00 |
| Grŵp NPTC | £1,421,489.70 |
| Y Coleg Merthyr Tudful | £894,499.30 |
| Coleg Sir Benfro | £674,369.20 |
| Coleg Catholig Dewi Sant | £537,565.35 |
| Cyfanswm | £18,020,897.72 |
6. Rhoddir dyraniad ychwanegol o £3,247,221.59 i awdurdodau lleol am gynnydd mewn cyfranogiad ar gyfer cyllid prif ffrwd ym mlwyddyn academaidd 2025/26, fel y gwelir yn y tabl isod.
| Awdurdod lleol | Awdurdod lleol | Cymorth ychwanegol ar gyfer cyllid prif ffrwd |
|---|---|
| Cyngor Sir Ynys Môn | £139,737.76 |
| Cyngor Caerdydd | £848,827.40 |
| Cyngor Sir Caerfyrddin | £135,542.12 |
| Cyngor Sir Ddinbych | £201,391.89 |
| Cyngor Sir y Fflint | £153,758.21 |
| Cyngor Sir Fynwy | £197,469.32 |
| Cyngor Castell-nedd Port Talbot | £112,346.27 |
| Cyngor Dinas Casnewydd | £157,296.10 |
| Cyngor Sir Penfro | £167,861.62 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf | £393,914.14 |
| Cyngor Dinas a Sir Abertawe | £329,051.31 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen | £22,864.36 |
| Cyngor Bro Morgannwg | £387,161.09 |
| Cyfanswm | £3,247,221.59 |
7. Mae’r cyllid hwn yn gysylltiedig â’r cyfnod o 1 Awst 2025 tan 31 Gorffennaf 2026. Caiff y cyllid ychwanegol hwn i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 ei dalu’n llawn mewn un rhandaliad ym mis Ionawr 2026.
Medr/2026/02: Cyllid ychwanegol i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol 2025/26
Dyddiad: 22 Ionawr 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/02
At: Brifathrawon sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau a’r amseriadau ar gyfer cyllid ychwanegol gwerth £21,126,000 i gydnabod cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg uwch ac awdurdodau lleol ym mlwyddyn academaidd 2025/26.
Clustnododd Medr y cyllid hwn fel rhan o’i gyllideb ar gyfer 2024-25 a chaiff ei ddyrannu i ddarparwyr yn ystod blwyddyn ariannol 2025-26.
Caiff y cyllid hwn ei dalu’n llawn mewn un rhandaliad ym mis Ionawr 2026.
Medr/2026/02 Cyllid ychwanegol i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol 2025/26Find out more about Medr’s work
You can subscribe to updates to be the first to know about our publications, news and job opportunities.
SubscribeBlwyddyn o dwf: Medr yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol cyntaf
Mae Medr, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru, wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol a’i gyfrifon cyntaf, gan gofnodi uchafbwyntiau a llwyddiant ei wyth mis cyntaf o weithredu.
Dros y cyfnod adrodd, mae Medr, a ddaeth yn weithredol ym mis Awst 2024, wedi cyflawni’r canlynol:
- Buddsoddi dros £686 miliwn yn y sector addysg drydyddol ac ymchwil, gan sicrhau cefnogaeth ariannol a sefydlogrwydd i ddarparwyr a dysgwyr.
- Cwblhau trosglwyddiad sefydliadol llyfn, gan sicrhau ei fod yn parhau â’i oruchwyliaeth reoleiddiol ar gyfer y sector addysg drydyddol drwy gydol cyfnod o newid sylweddol.
- Meithrin perthnasoedd cryf â darparwyr a rhanddeiliaid, a hyrwyddo cydweithio ar draws y sector.
- Cyflwyno ei weledigaeth hirdymor ar gyfer y sector trydyddol drwy ei Gynllun Strategol cyntaf, yn dilyn ymgynghori helaeth â dysgwyr a rhanddeiliaid.
- Gosod y sylfeini ar gyfer sefydliad cryf sydd â safonau uchel o atebolrwydd a chyfrifoldeb dros arian cyhoeddus; yn blaenoriaethu dysgwyr a gweithio ar y cyd; ac yn cefnogi ac yn datblygu ei staff.
Yn ôl James Owen Prif Weithredwr Medr:
“Roedd hon yn flwyddyn gyntaf enfawr i’n sefydliad arloesol lle cawsom y cyfle i sefydlu llwybr deinamig ar gyfer dyfodol dysgwyr, cymunedau a’n heconomi.
“Mae’r ffaith ein bod wedi cefnogi’r sector yn effeithiol gyda bron i £700 miliwn yn ein wyth mis cyntaf, gan gynnal ein goruchwyliaeth reoleiddiol, yn tystio i’n staff proffesiynol, galluog a chydweithredol.
“Mae sicrhau ein bod yn cefnogi sector cynhwysol, cydgysylltiedig sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr presennol a dysgwyr y dyfodol gyrraedd eu potensial wedi bod yn allweddol inni o’r cychwyn cyntaf, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i weld effaith ein Cynllun Strategol – sy’n eiriol dros sector addysg drydyddol ac ymchwil cryf – dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”
Cyflwynwyd adroddiad blynyddol Medr ar gyfer y cyfnod Awst 2024 – Mawrth 2025 gerbron y Senedd ym mis Rhagfyr 2025 ac mae ar gael ar wefan Medr.
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024-25 Cynllun Strategol Medr 2025-2030Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/01: Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr – Prentisiaid Anabl a Chymorth Dysgu Ychwanegol ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu gwybodaeth am gyllid y cynllun cyfunol EIS/ALS prentisiaethau ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26, gan gynnwys dyrannu cyfanswm cyllid o £600,000 i ddeiliaid contract a gomisiynwyd, ac mae’n nodi’r meini prawf y bydd angen iddynt hwy a phrentisiaid eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid. Anfonwyd llythyrau cyllid ar wahân hefyd at ddeiliaid contract a gomisiynwyd sy’n cael cyllid.
2. Darperir cyllid EIS ac ALS prentisiaethau Medr i gynorthwyo cyflogwyr i ddarparu cyfleoedd i brentisiaid anabl ac i ddarparwyr hyfforddiant gefnogi anghenion dysgu ychwanegol prentisiaid.
3. Anogir darparwyr i hysbysebu’r cyllid sydd ar gael i gynorthwyo cyflogwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill i gynyddu i’r eithaf nifer y prentisiaid anabl sy’n gallu cael budd ac yna’n gallu cofrestru ar raglen brentisiaeth.
Dull cyllido
4. Mae Medr wedi adnabod blaenoriaethau strategol ar gyfer cyllid ym mlwyddyn ariannol 2025-26 sy’n ystyried data cydraddoldeb gan ddangos ble y gellid gwella deilliannau ac i wneud y defnydd gorau o’r gyllideb sydd ar gael.
5. Blaenoriaethau cyllid EIS/ALS prentisiaethau ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26 yw:
- Prentisiaid anabl;
- Prentisiaid ag anghenion dysgu ychwanegol.
6. Mae’r trefniadau cyllid fel a ganlyn:
- Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar werthoedd canrannol y prif gontract prentisiaethau ar gyfer 2025/2026.
- Dangosir cymhwystra, prosesau cyllido a gwerthoedd cyllido yn Fframwaith Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau Cymru.
Cyllid ym mlwyddyn ariannol 2025-26
7. Mae’r gyllideb EIS/ALS prentisiaethau ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26, rhwng 1 Tachwedd 2025 a 31 Mawrth 2026, yn £600,000; gellir defnyddio dyraniadau’n hyblyg ar draws EIS ac ALS hyd at yr uchafswm cyllid a ddyrennir i bob darparwr ar gyfer y cynllun cyfunol.
8. Cyfanswm y cyllid sydd ar gael rhwng 1 Tachwedd 2025 a 31 Mawrth 2026 yw £600,000. Fe’i dyrennir fel a ganlyn:
| Darparwr | Cyfanswm cyllid (£) |
|---|---|
| Associated Community Training Ltd | 109,860 |
| Cambrian Training | 33,660 |
| Coleg Caerdydd a’r Fro | 56,040 |
| Coleg Cambria | 52,980 |
| Educ8 Training Group Ltd | 51,600 |
| Coleg Gŵyr Abertawe | 40,560 |
| Grŵp Llandrillo Menai | 53,100 |
| ITEC Training Solutions | 31,800 |
| Coleg Castell-nedd Port Talbot | 76,440 |
| Coleg Sir Benfro | 93,960 |
| Cyfanswm | 600,000 |
Gofynion a thalu’r cyllid
9. Caiff manylion llawn sut y bydd taliadau’n cael eu gwneud a gofynion y cynllun cyfunol EIS/ALS eu dangos yn Fframwaith Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau Cymru.
Monitro’r cyllid
10. Bydd hawliadau deiliaid contract a gomisiynwyd yn erbyn y cyllid a ddyrannwyd yn cael eu monitro’n chwarterol ac os yw’n ofynnol gall cyllid gael ei ailddyrannu i ystyried hawliadau gwirioneddol a rhagamcanol deiliaid contract unigol a gomisiynwyd.
Amodau’r cyllid
11. Mae Manyleb Fframwaith Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau Cymru’n rhan o’r Cytundeb ar gyfer darparu a chyllido Prentisiaethau ac yn nodi gofynion penodol y mae’n rhaid ymlynu wrthynt wrth gyflawni’r rhaglen brentisiaethau.
Hyrwyddo prentisiaethau
12. Rydym yn disgwyl i ddeiliaid contract a gomisiynwyd hyrwyddo’r cyfleoedd hyn i ystod o ddysgwyr, yn enwedig y rhai ag anabledd a/neu anghenion dysgu ychwanegol.
13. Ceir disgwyliad y bydd deiliaid contract a gomisiynwyd ar gyfer prentisiaethau’n cyfranogi yn y canlynol:
- Gweithgareddau marchnata Medr ac ymgyrchoedd cenedlaethol;
- Cystadlaethau sgiliau fel World Skills. Mae’r cystadlaethau hyn yn darparu profiadau a heriau ychwanegol i brentisiaid a fydd o gymorth iddynt yn eu gyrfaoedd. Maent hefyd yn darparu cyfleoedd i ddangos cryfder sector addysg drydyddol Cymru trwy gystadlaethau ledled y DU a chystadlaethau rhyngwladol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o WorldSkills UK.
Asesu effaith ein polisïau
14. Rydym yn cynnal ymarfer sgrinio sy’n asesu effeithiau i helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hybu cydraddoldeb. Fe wnaethom hefyd ystyried effaith polisïau ar y Gymraeg a darpariaeth prentisiaethau Cymraeg yng Nghymru ac effeithiau posibl tuag at y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gan gynnwys ein Hamcanion Llesiant ni. Cysylltwch âg [email protected] i gael rhagor o wybodaeth am asesiadau effaith. Darparwyr sy’n gyfrifol am adolygu eu hasesiadau effaith hwy eu hunain mewn perthynas â phrentisiaethau.
15. Ar gyfer yr holl ymholiadau cysylltwch â Kelly Hillard neu Ceri Sullivan ([email protected]).
Medr/2026/01: Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr – Prentisiaid Anabl a Chymorth Dysgu Ychwanegol ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26
Dyddiad: 07 Ionawr 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/01
At: Ddeiliaid Contract a Gomisiynwyd ar gyfer Prentisiaethau
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi dyraniadau cyllid Medr i ddeiliaid contract a gomisiynwyd (CCH) ar gyfer prentisiaethau dan y cynllun a gyfunwyd yn ddiweddar sy’n cynnwys y Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr – Prentisiaid Anabl (EIS) a Chymorth Dysgu Ychwanegol (ALS) ar gyfer prentisiaethau. Mae’r dyraniadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26. Mae’r ddogfen yn darparu canllawiau ynghylch y gofynion ar gyfer y cyllid a sut i’w weinyddu.
Medr/2026/01 Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr – Prentisiaid Anabl a Chymorth Dysgu Ychwanegol ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioCynigion ar gyfer cyflwyno Cronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru
Cynigion ar gyfer cyflwyno Cronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru
Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynigion o ran buddsoddi ar gyfer Cronfa Twf Lleol newydd yng Nghymru.
Ymateb i’r Ymgynghoriad gan Medr: 19 Rhagfyr 2025
Yngynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer cyflwyno Cronfa Twf Lleol y DU yng NghymruRhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2025/35: Cyllid ychwanegol 2025-26 yn ystod y flwyddyn ar gyfer darpariaeth conservatoire cerddoriaeth a drama sy’n seiliedig ar berfformio
Darpariaeth cerddoriaeth a drama sy’n seiliedig ar berfformio
Ar 14 Hydref dyrannodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol £1.97m o gyllid ychwanegol wedi’i neilltuo Brif Grŵp Gwariant yr Economi, Ynni a Chynllunio i gefnogi darpariaeth addysg uwch mewn conservatoires cerddoriaeth a drama sy’n seiliedig ar berfformio.
Bydd yr £1.97m yn cael ei ddyrannu i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru drwy Brifysgol De Cymru, sef yr unig sefydliad addysg uwch perthnasol sy’n darparu conservatoire cerddoriaeth a pherfformio.
Bydd yr £1.97m yn cael ei rannu’n ddwy ran:
- Bydd £1.75m yn cael ei ddyrannu drwy gynnydd i’r gyfradd fesul uned sy’n berthnasol i’r Ddarpariaeth Pynciau Drud ar gyfer darpariaeth conservatoire;
- Bydd £0.22m yn cael ei ddyrannu drwy’r gyllideb sy’n gysylltiedig â pherfformiad, yn benodol i ddatblygu a chyflwyno darpariaeth drwy weithgarwch rhanbarthol.
Medr/2025/35: Cyllid ychwanegol 2025-26 yn ystod y flwyddyn ar gyfer darpariaeth conservatoire cerddoriaeth a drama sy’n seiliedig ar berfformio
Dyddiad: 16 Rhagfyr 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/35
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae £1,970,000 wedi cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, drwy Brif Grŵp Gwariant yr Economi, Ynni a Chynllunio, i gefnogi darpariaeth addysg uwch sy’n seiliedig ar berfformio mewn conservatoires cerddoriaeth a drama.
Mae’r cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol 2025-26, ac i gydnabod y cynnydd yng nghostau conservatoires cerddoriaeth a pherfformio. Bydd Medr yn darparu cyllid i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC), drwy Brifysgol De Cymru (PDC), sef yr unig sefydliad addysg uwch (SAU) perthnasol sy’n darparu conservatoire cerddoriaeth a pherfformio.
Medr/2025/35 Cyllid ychwanegol 2025-26 yn ystod y flwyddyn ar gyfer darpariaeth conservatoire cerddoriaeth a drama sy'n seiliedig ar berfformioRhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioPrifysgol Bangor yw’r drydedd o Gymru i gael ei chydnabod am arferion gorau ym maes cwmnïau deillio
Mae Prifysgol Bangor wedi ymuno â rhestr fawreddog o brifysgolion yn y DU sydd wedi cael eu cydnabod am fabwysiadu polisïau sy’n seiliedig ar yr arferion gorau ym maes cwmnïau deillio, yn dilyn argymhellion a wnaed yn yr Adolygiad Annibynnol o Gwmnïau Deillio Prifysgolion yn 2023.
Mae’r rhestr hon bellach yn cynnwys tair prifysgol yng Nghymru, gan fod Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe eisoes wedi cael eu cydnabod ers mis Tachwedd 2024.
Egin gwmnïau a gaiff eu sefydlu ar sail eiddo deallusol a grëwyd drwy waith ymchwil prifysgol yw cwmnïau deillio. Maent yn rhan allweddol o’r dirwedd ymchwil ac arloesi ledled y byd, gan drawsnewid darganfyddiadau academaidd yn fentrau masnachol sy’n ysgogi twf economaidd, datblygiadau technolegol, ac effaith gymdeithasol.
Mae’r gydnabyddiaeth i Brifysgol Bangor, a gymeradwywyd gan Medr, yn dangos yr arferion gorau o ran mabwysiadu arferion a chanllawiau sy’n addas ar gyfer arloesi ac y gall prifysgolion, buddsoddwyr a sylfaenwyr i gyd eu defnyddio.
Mae cwmnïau deillio’n cyflawni rôl bwysig i Gymru o ran ysgogi partneriaethau newydd a sicrhau twf economaidd. Mae gan brifysgolion yng Nghymru restr hir o lwyddiannau ym maes cwmnïau deillio, gan gynnwys buddsoddiad diweddar yn un o gwmnïau deillio Prifysgol Caerdydd, sef Draig Therapeutics, a ddenodd fuddsoddiad gwerth dros £100 miliwn er mwyn datblygu therapïau newydd ar gyfer anhwylderau niwroseiciatrig.
Wrth siarad am y gydnabyddiaeth, dywedodd Prif Weithredwr Medr, James Owen:
“Yn fuan ar ôl i Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe gael eu hychwanegu at y rhestr y llynedd, mae hyn yn newyddion gwych i’n rhwydwaith ymchwil ac arloesi toreithiog. Mae cwmnïau deillio yn ffordd bwysig o fesur llwyddiant wrth ystyried masnacheiddio ac effaith economaidd ac mae bob amser yn braf gweld rhagoriaeth yn ein prifysgolion yn cael ei chydnabod fel hyn. Rydyn ni wrth ein bodd dros Brifysgol Bangor a’r diwylliant o arloesi sy’n cael ei feithrin yno.
“Mae llwyddiant yn magu llwyddiant ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gyllido a chefnogi gwaith ymchwil ac arloesi yn ein prifysgolion a’r effeithiau cadarnhaol sy’n deillio o hynny.”
Mae’r rhestr, sydd i’w gweld yn Spin-outs review implementation: best practice adoption list, wedi cael ei llunio gan Adran yr Economi Gogledd Iwerddon, Medr, Research England a Chyngor Cyllido’r Alban, yn seiliedig ar wybodaeth a gyflwynwyd gan sefydliadau.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioSta/Medr/18/2025: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyrchfannau dysgwyr, Awst 2021 i Orffennaf 2023
Nodyn
Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio data addysg wedi’u paru sy’n gysylltiedig â’r Astudiaeth o Ddeilliannau Addysg Hydredol (LEO) i ddangos cyrchfannau cyflogaeth a dysgu ar gyfer dysgwyr addysg bellach, y chweched dosbarth mewn ysgolion, a dysgu seiliedig ar waith yn y flwyddyn ar ôl eu rhaglen astudio.
Mae datganiad ar wahân yn darparu gwybodaeth am gyflawniad y dysgwr.
Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at rai o’r negeseuon yn y data. Mae’r tablau cysylltiedig yn cynnwys y dadansoddiadau llawn ar gyfer yr holl fesurau yn ôl yr holl nodweddion yn yr erthygl hon.
Prif bwyntiau
Mae’r gyfradd cyrchfannau parhaus gyffredinol wedi cynyddu fymryn ers 2014/15.
Ffigur 1: Cyrchfannau dysgwyr ôl-16, 2014/15 i 2022/23

[Nodyn d] Mae ffigurau a gyhoeddwyd yn flaenorol wedi’u diwygio â’r data diweddaraf. Gweler y wybodaeth allweddol am ansawdd am fanylion.
Data yn Nhabl 1a ar y daenlen gysylltiedig.
- Mae cyfraddau cyflogaeth barhaus a dysgu parhaus wedi cynyddu’n gyffredinol o 2014/15, a chyflogaeth barhaus yw’r gyrchfan fwyaf cyffredin.
- Aeth 49% o ddysgwyr yn 2022/23 ymlaen i gyrchfan ddysgu barhaus, cynnydd o 47% yn 2021/22. Mae’r gyfradd cyflogaeth barhaus wedi gostwng 1 pwynt canran i 62% yn 2022/23.
Sta/Medr/18/2025: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyrchfannau dysgwyr, Awst 2021 i Orffennaf 2023
Cyfeirnod ystadegau: Sta/Medr/18/2025
Dyddiad: 10 Rhagfyr 2025
Dynodiad: Ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu
Crynodeb: Cyrchfannau cyflogaeth a dysgu ar gyfer dysgwyr addysg bellach, y chweched dosbarth mewn ysgolion a dysgu seiliedig ar waith yn y flwyddyn yn dilyn eu rhaglen astudio.
Thema: Addysg bellach, y chweched dosbarth, dysgu seiliedig ar waith
Sta/Medr/18/2025 Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyrchfannau dysgwyr, Awst 2021 i Orffennaf 2023Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2025/34: Prentisiaethau – Cyllid Dechreuwyr Ychwanegol y Rhaglen Lywodraethu
Nodir manylion y dyraniadau cyllid a gymeradwywyd yn y tabl isod:
| Darparydd | Dyraniad dechreuwyr ychwanegol |
|---|---|
| Coleg Sir Benfro | £539,714 |
| ACT | £1,030,765 |
| Cwmni Hyfforddiant Cambrian | £316,012 |
| Coleg Caerdydd a’r Fro | £525,556 |
| Grŵp Llandrillo Menai | £225,125 |
| Educ8 | £460,841 |
| Grŵp NPTC | £717,370 |
| ITEC | £184,617 |
| Cyfanswm | £4,000,000 |
Dyfernir a thelir cyllid Dechreuwyr Ychwanegol ochr yn ochr â phrif Gontract Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau 2025-26.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cylchlythyr hwn i sylw Carly Davies [email protected].
Medr/2025/34: Prentisiaethau – Cyllid Dechreuwyr Ychwanegol y Rhaglen Lywodraethu
Dyddiad: 02 Rhagfyr 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/34
At: Darparwyr Hyfforddiant Prentisiaethau
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu’r symiau o gyllid a’r amserlen ar gyfer £4,000,000 ychwanegol a ddarperir gan Medr i Ddeiliaid Contract Rhaglenni Prentisiaeth.
Cymeradwyodd Bwrdd Medr ailddyrannu £4,000,000 i gefnogi dechreuwyr prentisiaeth newydd ac ychwanegol y tu hwnt i brif ddyraniadau contract cyfredol 2025-26. Nod y cyllid hwn yw cyflymu cynnydd y rhwydwaith tuag at Darged y Rhaglen Lywodraethu o 100,000 o brentisiaethau yn ystod Tymor presennol y Senedd.
Rhaid i ddechreuadau prentisiaeth a gefnogir drwy’r cyllid hwn ddigwydd rhwng 1 Awst 2025 a 30 Ebrill 2026.
Medr/2025/34 Prentisiaethau – Cyllid Dechreuwyr Ychwanegol y Rhaglen LywodraethuRhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2025/33: Arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch 2025/26
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn gofyn i sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg bellach sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch (a elwir ar y cyd yn ddarparwyr addysg uwch) a ariennir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer ddarpariaeth addysg uwch ddychwelyd data cyfanredol ar fyfyrwyr er mwyn galluogi Medr i wneud y canlynol:
a) Cael syniad cynnar o niferoedd y myfyrwyr yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26;
b) Monitro prosesau recriwtio myfyrwyr israddedig a myfyrwyr Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) amser llawn a gwmpesir gan y cynlluniau ffioedd a mynediad;
c) Ariannu a monitro darpariaeth gradd-brentisiaethau o dan gynllun gradd-brentisiaethau Medr.
Noder nad yw’r cais hwn yn cynnwys y pedwar tanysgrifiwr i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) sy’n cynnig darpariaeth cyrsiau addysg uwch sydd wedi’i dynodi’n benodol.
Prif newidiadau ar gyfer 2025/26
2. Mae’r prif newidiadau a wnaed ers Arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch 2024 fel a ganlyn:
a) Dim ond un dyddiad dychwelyd arolwg sydd eleni, a dylai’r holl dablau, gan gynnwys Tabl 3, gael eu dychwelyd erbyn 28 Ionawr 2026;
b) Mae’r terfynau ffioedd uchaf ar gyfer cyrsiau israddedig a TAR amser llawn wedi cael eu diweddaru. Gweler Atodiad F;
c) Mae Atodiad K wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r gwaith mapio a ddefnyddir wrth echdynnu data i wneud gwaith monitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2024/25;
d) Mae Tabl 3, sy’n casglu gwybodaeth am radd-brentisiaethau, bellach yn gofyn am amcangyfrifon o’r holl ddechreuwyr newydd ym mlwyddyn academaidd 2025/26, ac nid dim ond y rhai rhwng 1 Awst ac 1 Tachwedd. Gweler Atodiad I.
Data’r arolwg
3. Gofynnir i ddarparwyr addysg uwch a ariennir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch ddychwelyd niferoedd myfyrwyr addysg uwch yn Nhablau 1 a 2. Myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar gyrsiau addysg uwch rhagnodedig sy’n arwain at gymwysterau addysg uwch cydnabyddedig yw’r rhain (gweler Atodiad B). Gofynnir i ddarparwyr addysg uwch sy’n cynnig gradd-brentisiaethau a ariennir o dan gynllun Medr (cynllun CCAUC gynt) ddychwelyd niferoedd myfyrwyr a gwerthoedd credydau sy’n gysylltiedig â’r prentisiaethau hynny yn Nhabl 3.
Cynnwys
4. Mae’r cylchlythyr hwn yn rhoi:
a) Canllawiau a diffiniadau ar gyfer yr amrywiol gategorïau a ddefnyddir i ddosbarthu myfyrwyr;
b) Rheolau ar gyfer cyfrif cofrestriadau;
c) Rheolau ar gyfer cyfrif gwerthoedd credydau sy’n gysylltiedig â gradd-brentisiaethau;
d) Manylion y meini prawf y byddwn yn eu defnyddio i echdynnu data o gofnod myfyrwyr HESA ar gyfer gwaith monitro diwedd blwyddyn ac i gael gwybodaeth a gasglwyd mewn arolygon Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch blaenorol;
e) Copïau o dablau’r arolwg a gaiff eu dosbarthu mewn llyfrau gwaith Excel er mwyn i ddarparwyr eu cwblhau a’u dychwelyd.
5. Mae cynnwys yr atodiadau fel a ganlyn:
| Atodiad | Rhif tudalen | |
|---|---|---|
| Atodiad A | Canllaw cryno ar arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch 2025/26 | 5 |
| Atodiad B | Diffiniad o gymhwyster addysg uwch cydnabyddedig | 14 |
| Atodiad C | Dysgu o bell, campysau, is-sefydliadau, trefniadau breinio a threfniadau cydweithredol eraill | 15 |
| Atodiad D | Diffiniad o statws preswyl a statws cyllid | 21 |
| Atodiad E | Diffiniad o gategorïau pynciau academaidd | 25 |
| Atodiad F | Diffiniad o ddull astudio | 27 |
| Atodiad G | Diffiniad o lefel astudio | 30 |
| Atodiad H | Rheolau ar gyfer cyfrif cofrestriadau | 31 |
| Atodiad I | Canllawiau ar ddychwelyd data gradd-brentisiaethau | 39 |
| Atodiad J | Disgrifiadau o’r tablau a’r colofnau | 45 |
| Atodiad K | Mapiadau HESA/Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch a meini prawf echdynnu data monitro diwedd blwyddyn | 48 |
| Atodiad L | Nodiadau ar y llyfrau gwaith | 58 |
| Atodiad M | Gwiriadau dilysu | 59 |
| Atodiad N | Defnydd o ddata gan Medr | 61 |
| Atodiad O | Grid cyfeirio statws cyllid | 62 |
| Atodiad P | Copïau enghreifftiol o dablau i bob darparwr a ariennir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer darpariaeth addysg uwch eu cwblhau | 64 |
Dychwelyd data
6. Mae’n ofynnol i ddarparwyr roi gwybod i Medr am gofrestriadau myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfan.
7. Dylai llyfrau gwaith wedi’u cwblhau ar gyfer yr arolwg cyfan, gan gynnwys y tabl sy’n ymwneud â gradd-brentisiaethau, gael eu dychwelyd drwy e-bost i Andrea Thomas yn [email protected] erbyn 28 Ionawr 2026 fan bellaf.
8. Nid yw’n ofynnol i ddarparwyr nad ydynt yn cynnig darpariaeth gradd-brentisiaethau a ariennir o dan gynllun Medr ddychwelyd Tabl 3.
9. Anogir darparwyr i ddechrau paratoi’r data y byddant yn eu dychwelyd ymhell cyn y dyddiad dychwelyd fel mai dim ond addasiadau terfynol y bydd angen eu gwneud cyn i’r data wedi’u cwblhau gael eu hanfon.
10. Mae’n bwysig dychwelyd holl ddata’r arolwg yn brydlon fel y bydd modd cael syniad cynnar o niferoedd myfyrwyr ar gyfer 2025/26 ac er mwyn sicrhau y bydd gan Medr ddigon o amser i gwblhau’r broses wirio cyn anfon y gwiriadau er mwyn eu cymeradwyo.
11. Gofynnwn i ddarparwyr roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl, a chyn y dyddiad dychwelyd, sef 28 Ionawr 2026, os byddant yn rhagweld y byddant yn cael anhawster dychwelyd y wybodaeth ofynnol neu y byddant yn cael anhawster bodloni’r amserlen a roddir ym mharagraff 12. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y llofnodwr awdurdodedig, neu’r llofnodwr awdurdodedig amgen, ar gael i gymeradwyo’r gwiriadau erbyn y dyddiadau gofynnol. Ceidw Medr yr hawl i fewnbynnu ei amcangyfrifon ei hun o gofrestriadau myfyrwyr a gwerthoedd credydau ar gyfer darparwyr nad ydynt yn dychwelyd yr arolwg neu’n cymeradwyo’r data’n brydlon, neu os ystyrir bod y data o ansawdd annigonol.
12. Pan gaiff data eu dychwelyd, byddwn yn cynnal proses dilysu a gwirio hygrededd. Pan fydd unrhyw ymholiadau dilynol wedi’u datrys, caiff y data eu hanfon at lofnodwyr awdurdodedig darparwyr i’w gwirio. Bydd y broses yn dilyn yr amserlen a amlinellir isod.
Holl dablau’r arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch:
| 28 Ionawr 2026 | Dyddiad dychwelyd |
| 6 Chwefror 2026 | Anfon gwiriadau at ddarparwyr |
| 16 Chwefror 2026 | Dyddiad dychwelyd gwiriadau |
13. Os caiff dyddiad dychwelyd ei golli heb gytundeb ymlaen llaw, byddwn yn cysylltu â’r pwynt cyswllt ar gyfer data Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch a/neu’r llofnodwr awdurdodedig i ofyn am esboniad. Os caiff dyddiad dychwelyd ei golli o fwy na thri diwrnod gwaith heb gytundeb ymlaen llaw, byddwn yn e-bostio pennaeth y darparwr i’w atgoffa bod Medr yn cadw’r hawl i fewnbynnu ei amcangyfrifon ei hun o gofrestriadau myfyrwyr ar gyfer darparwyr nad ydynt yn dychwelyd yr arolwg yn brydlon a nodi bod Medr yn bwriadu gwneud hynny os na chymerir camau ar unwaith. Os na ddychwelir y data neu’r adroddiad gwirio o fewn dau ddiwrnod gwaith i’r neges e-bost, bydd Prif Weithredwr Medr yn anfon llythyr at bennaeth y darparwr yn datgan y ffigurau a gaiff eu defnyddio yn lle data’r darparwr ei hun.
14. Dylid dychwelyd y gwiriadau wedi’u llofnodi drwy e-bost at Andrea Thomas yn [email protected]. Cyn dychwelyd y gwiriadau wedi’u llofnodi i Medr, rhaid i ddarparwyr fod wedi cynnal gwiriadau digonol er mwyn bod yn fodlon bod y data a ddychwelir yn gywir. Rhaid i anomaleddau data sy’n destun ymholiadau gan Medr fod wedi’u cywiro neu, os ydynt yn ddilys, rhaid cyflwyno esboniad cysylltiedig. Dylai unrhyw newidiadau a wneir i’r gwiriadau cyn eu llofnodi a’u dychwelyd, nad ydynt eisoes wedi’u gwneud i’r fformat Excel, hefyd gael eu cyflwyno mewn fformat Excel.
15. Dylai pob dyddiad dychwelyd dilynol gael ei fodloni hyd yn oed os bu oedi cyn i’r dyddiad dychwelyd blaenorol gael ei fodloni.
16. Caiff data a echdynnir ac a gymeradwyir fel rhan o broses Gwasanaeth Rhyngwyneb Adrodd Gwybodaeth (IRIS) 2024/25 pan fydd darparwyr yn cyflwyno data i HESA ei defnyddio mewn dyraniadau cyllid. Dylai darparwyr nodi y gall fod angen i’r echdyniadau data yn IRIS gael eu hategu gan echdyniadau data ychwanegol pan fydd y dulliau ar gyfer cyllid addysgu ar gyfer 2026/27 wedi’u pennu’n derfynol. Os felly, byddwn yn cysylltu â darparwyr ynglŷn â’r broses gymeradwyo ar gyfer unrhyw ddata ychwanegol sy’n ofynnol ac na fyddant eisoes wedi’u cymeradwyo fel rhan o broses echdynnu data IRIS. Ceir rhagor o fanylion yn y cyhoeddiad ynghylch monitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2024/25 a’r cyhoeddiad ynghylch gofynion data ar gyfer 2025/26.
17. Atgoffir darparwyr y gall data a ddychwelir i Medr yn yr arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch, gan gynnwys dulliau a ddefnyddir i gyfrifo unrhyw amcangyfrifon a gaiff eu cynnwys yn y ffigurau a ddychwelir, fod yn destun archwiliad allanol a gynhelir gan Medr neu gan gontractwyr ar ran Medr. Mae’r systemau a’r prosesau a ddefnyddir i gynhyrchu data Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch o fewn cwmpas archwiliadau mewnol darparwyr.
Datblygiadau yn y dyfodol
18. Mae adran Ystadegau a Data gwefan Medr yn cynnwys gwybodaeth am gasglu data. Os bydd gan ddarparwyr unrhyw awgrymiadau ynglŷn ag unrhyw beth ychwanegol yr hoffent ei weld yn cael ei gynnwys, dylent gysylltu â Medr yn [email protected].
Rhagor o wybodaeth
19. Dylid anfon unrhyw ymholiadau at Andrea Thomas yn [email protected].
Medr/2025/33: Arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch 2025/26
Dyddiad: 27 Tachwedd 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/33
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Prifathrawon sefydliadau addysg bellach a ariennir gan Medr ar gyfer darpariaeth addysg uwch
Ymateb erbyn: 28 Ionawr 2026
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn gofyn i ddarparwyr addysg uwch ddychwelyd data cyfanredol ar fyfyrwyr er mwyn galluogi Medr i gael syniad cynnar o niferoedd myfyrwyr; monitro prosesau recriwtio myfyrwyr a gwmpesir gan y cynlluniau ffioedd a mynediad; a chyllido a monitro darpariaeth gradd-brentisiaethau.
Medr/2025/33 Arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch 2025/26Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2025/32: Cronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol (ISPF) 2025-26
Rhagair
1. Mae’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) wedi cadarnhau y bydd yn darparu £1,182,247 i ariannu Dyfarniadau Cefnogi Sefydliadau ar ffurf Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA) o dan y Gronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol (ISPF) ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26.
Defnydd o’r cyllid
2. Ni cheir ond defnyddio’r cyllid grant a ddarperir o dan yr ISPF i ariannu gweithgareddau sy’n cydymffurfio â’r ODA, fel y diffinnir gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), gyda’r prif ddiben o dargedu llesiant a datblygiad economaidd gwledydd sydd ar restr derbynwyr Pwyllgor Cymorth Datblygu’r OECD. Yn unol â pholisi DSIT, ni cheir defnyddio’r cyllid i gyflawni gweithgareddau sydd oddi mewn i Tsieina, mewn partneriaeth â Tsieina, neu a fyddai o fudd i Tsieina mewn unrhyw ffordd arall.
3. Rhaid i weithgareddau a ariennir drwy Grant Cefnogi Sefydliadau (ODA) yr ISPF i Sefydliadau hefyd gadw at y ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu cyllid ODA y DU:
- Deddf Datblygu Rhyngwladol 2002 fel y’i diwygiwyd
- Deddf Datblygu Rhyngwladol (Cydraddoldeb Rhywiol) 2014. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gymorth “fod yn debygol o gyfrannu at leihau tlodi mewn modd sy’n debygol o gyfrannu at leihau anghydraddoldeb rhwng personau o wahanol rywedd”.
4. Mae’r cyllid yn darparu cyllid sefydliadol hyblyg y gellir ei ddefnyddio’n strategol i gefnogi Gweithgareddau ODA cymwys. Gall hyn gynnwys ategu gweithgarwch yr ISPF a ariennir drwy bartneriaid cyflawni eraill, neu drwy roi cefnogaeth uniongyrchol i ymchwil sy’n trafod y problemau o flaen gwledydd sy’n datblygu nad yw’n erbyn cyllid drwy grantiau’r ISPF na phartneriaid cyflawni eraill.
5. Mae’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg yn disgwyl y bydd dyraniadau grant cymorth sefydliadol y Gronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol ar gyfer 2025-26 yn cael eu gwario erbyn 31 Mawrth 2026. Gellir ôl-ddyddio cyllid i 1 Ebrill 2025.
6. Gall sefydliadau ddefnyddio’r cyllid hwn i gefnogi gweithgarwch sy’n digwydd ar ôl 31 Mawrth 2026, ar yr amod bod hynny yn unol â rheolau a gweithdrefnau cyfrifyddu’r sefydliad ac y bydd y gwariant yn cael ei gofnodi ym mlwyddyn ariannol 2025-26. Dylai gweithgareddau fod wedi’u cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn academaidd a ddaw i ben ar 31 Gorffennaf 2026.
7. Ceidw Medr yr hawl i adfer unrhyw ran o ddyraniad SAU nad yw’n cael ei gwario ar weithgareddau Cymorth Datblygu Swyddogol a bydd unrhyw gyllid a gaiff ei adhawlio yn y ffordd yma’n cael ei ddychwelyd at yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg.
Dyraniadau
8. Dyrennir cyllid ar sail cyllid ODA a dderbyniwyd gan SAUau yn y gorffennol, gan gynnwys y Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang (GCRF) a Chronfa Newton, yn ogystal â grantiau cystadleuol Cyngor Ymchwil UKRI na chawsant eu dynodi’n ODA yn wreiddiol ond y cafwyd yn ddiweddarach eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer ODA. Darparwyd data gan UKRI yn 2023/24.
9. Gan y byddai dyraniad pro rata uniongyrchol yn arwain at ddyraniadau bach mewn rhai achosion, mae Medr wedi penderfynu na fydd ond yn darparu cyllid i’r sefydliadau hynny a fyddai’n derbyn dyraniad blynyddol isafswm o £50k, gweler Atodiad A. Mae hyn yn gyson â’r dull a fabwysiadwyd ar gyfer dyraniadau blaenorol y GCRF (gweler cylchlythyr W18/02HE CCAUC) ac yn rhoi cyfrif am y gorbenion gweinyddol posibl er mwyn rheoli gweithgareddau ODA.
10. Bydd dyraniadau sefydliadol ar gyfer 2025/26 yn cael eu talu ym mis Tachwedd 2025.
Trefniadau monitro
11. Bydd yn ofynnol i SAUau sy’n derbyn cyllid gadw cofnodion priodol yn manylu ar y gweithgareddau a gefnogwyd, gan gynnwys gwybodaeth berthnasol sy’n gysylltiedig â chydymffurfiaeth ag ODA.
12. Mae Medr wedi darparu templed monitro (Atodiad B) sy’n cynnwys:
- Teitl y prosiect
- Crynodeb byr o weithgareddau unigol
- Rhestr derbynwyr Pwyllgor Cymorth Datblygu’r OECD. Y gwledydd dan sylw, gan gynnwys unrhyw bartneriaid ar restr y Pwyllgor Cymorth Datblygu a heb fod ar y rhestr honno.
- Cadarnhad bod y gweithgaredd yn cydymffurfio ag ODA fel y’i diffinnir gan yr OECD
- Dyraniad cyllidebol ar gyfer pob gweithgaredd
- Adroddiad cynnydd byr
- Deilliannau’r prosiect
13. Mae’n ofynnol i SAUau gyflwyno eu ffurflenni monitro i Hayley Moss, [email protected] erbyn 31 Mawrth 2026.
14. Gall DSIT dderbyn ymholiadau ad hoc gan y Swyddfa Dramor, Y Gymanwlad a Datblygu (FCDO), y Fenter Tryloywder Cymorth Rhyngwladol (IATI) neu’r OECD. Os oes angen rhagor o wybodaeth, disgwylir i SAUau weithio gyda Medr i ymateb i ymholiadau gan DSIT am ddata ychwanegol.
15. Gall DSIT gynnal gwiriadau ar hap i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cymhwysedd ODA. Bydd y gwiriadau hyn yn gymesur ac yn canolbwyntio ar y gwerth a geir gan y sefydliad. Bydd DSIT yn pennu’r wybodaeth sydd ei hangen a’r broses ar gyfer dewis sefydliadau, gyda chefnogaeth gan Medr. Gall Medr hefyd gasglu gwybodaeth am astudiaethau achos i ddangos effaith gweithgareddau a gyllidir. Mae Medr ar hyn o bryd yn gweithio gyda DSIT i gwblhau gofynion monitro pellach a bydd yn rhoi’r newyddion diweddaraf i sefydliadau cyn gynted ag y bydd unrhyw rwymedigaethau ychwanegol wedi’u cadarnhau.
Asesu effaith
16. Fel perchennog y gronfa, DSIT sy’n gyfrifol am asesu effaith. Nid ydym wedi nodi effeithiau andwyol posibl na gwahaniaethu yn ein rheolaeth ar y gronfa.
Trefniadau talu
17. Bydd cyllid yn cael ei ddarparu i SAUau drwy un taliad ym mis Tachwedd 2025.
Rhagor o wybodaeth
18. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Hayley Moss ([email protected]).
Medr/2025/32: Cronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol (ISPF) 2025-26
Dyddiad: 27 Tachwedd 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/32
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch
Ymateb erbyn: 31 Mawrth 2026
Crynodeb: Mae Medr wedi derbyn cyllid gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) i gefnogi gweithgareddau Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA) o fewn sefydliadau addysg uwch (SAUau) cymwys yng Nghymru 2025/26. Mae’r cyhoeddiad hwn yn egluro sut y caiff y cyllid ei ddyrannu i’r SAUau.
Medr/2025/32 Cronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol (ISPF) 2025-26Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioSta/Medr/17/2025: Y Gymraeg mewn Addysg Uwch, 2023/24
Cyflwyniad
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi rhai o’r tueddiadau allweddol ynglŷn ag astudio yn y Gymraeg a gallu myfyrwyr yn y Gymraeg mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru, ac ar gyfer staff mewn prifysgolion yng Nghymru. Drwy’r adroddiad pan ydym yn cyfeirio at astudio yn Gymraeg, astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a olygir gennym yn hytrach nag astudio Cymraeg fel pwnc.
Ffynonellau’r data yw cofnodion Myfyrwyr a Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).
Mae’r data ar gael mewn taenlen sy’n cyd-fynd â’r adroddiad. Mae dadansoddiadau pellach o’r data ar gael ar StatsCymru hefyd.
Prif bwyntiau
- Yn 2023/24, roedd yn hysbys bod 13% o’r cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru’n rhai gan siaradwyr Cymraeg rhugl. Roedd 15% pellach yn siaradwyr Cymraeg nad oeddent yn rhugl neu’n siaradwyr Cymraeg â gallu anhysbys.
- Yn 2023/24, fe wnaeth 30% o’r cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yr oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl astudio o leiaf 1 credyd yn Gymraeg, ac fe wnaeth 21% astudio o leiaf 40 o gredydau yn Gymraeg. Mae’r cyfrannau hyn wedi bod ar yr un lefelau fwy neu lai ers 2017/18.
- Roedd 4% o’r cofrestriadau gan yr holl fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai nad ydynt o Gymru ac nad yw’n hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg, yn cynnwys astudio o leiaf 1 credyd yn Gymraeg yn 2023/24.
- Fe wnaeth nifer y cofrestriadau gan yr holl fyfyrwyr ag o leiaf 1 credyd a astudiwyd yn Gymraeg yn 2023/24 ostwng 19% o’i gymharu â 2022/23, a dyma oedd y nifer isaf yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae un o’r ffactor arwyddocaol yn y gostyngiad hwn yn gysylltiedig â newid yn sut y mae faint o astudio a wneir yn Gymraeg yn cael ei gyfrifo mewn rhai darparwyr yn hytrach na newid go iawn yn yr hyn a ddarparwyd.
- Roedd mwy na dwywaith cymaint o gofrestriadau gan fyfyrwyr benywaidd lle cafodd o leiaf 1 credyd ei astudio yn Gymraeg o’i gymharu â chofrestriadau gan fyfyrwyr gwrywaidd. O’r cofrestriadau ag o leiaf 1 credyd wedi cael ei astudio yn Gymraeg, roedd myfyrwyr benywaidd hefyd yn fwy tebygol o astudio nifer uwch o gredydau yn Gymraeg na myfyrwyr gwrywaidd.
- Addysg a hyfforddiant oedd y pwnc modiwl â’r nifer a’r gyfran uchaf o gofrestriadau ag o leiaf 1 credyd wedi cael ei astudio yn Gymraeg.
- Roedd 565 o staff addysgu academaidd wedi’u contractio i addysgu yn Gymraeg yn 2023/24, yr un nifer ag yn 2022/23.
Sta/Medr/17/2025: Y Gymraeg mewn Addysg Uwch, 2023/24
Cyfeirnod: Sta/Medr/17/2025
Dyddiad: 27 Tachwedd 2025
Designation: Ystadegau Swyddogol
Crynodeb: Ystadegau ar nifer y cofrestriadau lle ceir rhywfaint o astudio yn y Gymraeg a gallu myfyrwyr i siarad Cymraeg mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru.
Ystadegau ar nifer y staff addysgu sy’n gallu addysgu yn Gymraeg, ac sydd wedi’u contractio i addysgu yn Gymraeg mewn prifysgolion yng Nghymru.
Sta/Medr/17/2025 Y Gymraeg mewn Addysg Uwch 2023/24Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio