Blog
Adeiladu dyfodol cyflogadwyedd Cymru gyda’n gilydd
20 Nov 2026
Sut mae cymuned ymarfer yn hyrwyddo cydweithio, arloesi ac effaith ar gyfer dysgwyr trydyddol
Pan ddaeth cydweithwyr o ddarparwyr ledled Cymru at ei gilydd am y tro cyntaf yng Nghymuned Ymarfer Cyflogadwyedd Cymru, roedd ganddynt uchelgais ar y cyd: sef gwella cyflogadwyedd eu dysgwyr a’u paratoi’n well ar gyfer byd gwaith sy’n dod yn fwyfwy cymhleth ac yn newid yn gyflym.
Yn aml, mae’r sawl sy’n gweithio i gefnogi cyflogadwyedd dysgwyr yn wynebu cwestiynau tebyg:
- Sut gellir gwreiddio cyflogadwyedd yn fwy effeithiol o fewn y cwricwlwm?
- Sut gall dysgwyr fynegi eu sgiliau yn fwy hyderus wrth drafod gyda chyflogwyr?
- Sut gall darparwyr a chyflogwyr gryfhau partneriaethau er mwyn gwella deilliannau dysgwyr a diwallu anghenion o ran gweithlu yn well?
- Sut gall darparwyr gefnogi mynediad teg at gyfleoedd gyrfa?
- Sut dylai cyflogadwyedd esblygu i adlewyrchu cynaliadwyedd a chyfrifoldeb cymdeithasol?
Sefydlwyd y Gymuned gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i gefnogi cydweithio ac arloesi ym maes cyflogadwyedd graddedigion, ac mae wedi esblygu ochr yn ochr â newidiadau yn nhirwedd addysg drydyddol Cymru. Ers creu Medr a’n gweledigaeth ar gyfer system drydyddol sy’n fwy cysylltiedig a chydweithredol, mae ei haelodaeth wedi ehangu i gynnwys ymarferwyr, academyddion, gweithwyr proffesiynol ym maes gyrfaoedd, a chydweithwyr mewn gwasanaethau proffesiynol ym maes cyflogadwyedd o brifysgolion a cholegau ledled Cymru, gan greu llwyfan ar y cyd ar gyfer dysgu, arloesi a gweithredu.
Mae’r aelodaeth ehangach hon yn cefnogi’r uchelgeisiau a nodir yn ein Cynllun Strategol 2025 – 2030 ar gyfer system fwy hyblyg a chydgysylltiedig sy’n rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiadau sydd eu hangen ar ddysgwyr i ffynnu mewn economi a chymdeithas sy’n newid. Unwyd yr aelodau gan nod cyffredin o wella deilliannau dysgwyr, ac maent yn gweithio ar draws ffiniau sefydliadol ac o fewn y sector i gryfhau darpariaeth o ran cyflogadwyedd, menter ac entrepreneuriaeth, ac i wella cyfleoedd i ddysgwyr drwy gydol eu taith ddysgu.
Caiff y Gymuned ei hariannu gan Medr a’i chydlynu gan Advance HE, ac mae wedi dod yn blatfform unigryw dan arweiniad y sector ar lefel Cymru gyfan ar gyfer cydweithio ym maes cyflogadwyedd. Wrth feithrin cyfnewid arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, mae’n galluogi aelodau i fynd i’r afael ar y cyd â heriau cyffredin, a datblygu datrysiadau sy’n rhagweld ac yn ymateb i anghenion sy’n dod i’r amlwg yn y sector.
O drafodaethau i weithredu ar y cyd
Ar adeg pan mae byd gwaith yn cael ei ail-lunio gan ddatblygiadau technolegol, blaenoriaethau cynaliadwyedd, prinder sgiliau, a disgwyliadau sy’n esblygu ymhlith cyflogwyr, mae’r Gymuned yn dangos gwerth cydweithio ymarferol. Wrth rannu arbenigedd, meithrin cysylltiadau a datblygu dull cenedlaethol mwy cydlynol o ymdrin â chyflogadwyedd, mae aelodau yn cryfhau arferion ledled Cymru. Wrth wneud hynny, maent yn creu cyfleoedd mwy ystyrlon ac effeithiol i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau, y profiadau a’r hyder sydd eu hangen i lwyddo mewn marchnad lafur sy’n newid yn gyflym.
Trwy symposia, gweithdai, grwpiau gorchwyl a gorffen, a gweithgareddau dysgu gan gymheiriaid, mae aelodau wedi gallu trafod y llwyddiannau a’r heriau yn agored er mwyn datblygu datrysiadau sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth. Boed wrth drafod dylunio cwricwlwm, ymgysylltu â chyflogwyr, cynaliadwyedd, neu ddatblygu sgiliau, mae gan aelodau gyfle i ddysgu o brofiadau ei gilydd ac addasu dulliau llwyddiannus o fewn eu sefydliadau eu hunain.
“Wrth ddod â chydweithwyr academaidd a phroffesiynol ynghyd o bob rhan o’r sector yng Nghymru, mae’r Gymuned wedi helpu i feithrin perthnasoedd gwaith cryfach, dyfnhau dealltwriaeth ar y cyd, a datblygu arbenigedd ar y cyd. Mae’r cysylltiadau hyn eisoes yn cefnogi dulliau mwy cydgysylltiedig o ymdrin â chyflogadwyedd, a byddant yn parhau i fod o fudd i’r sector y tu hwnt i gwmpas uniongyrchol gwaith eleni.”
Cyd-gadeiryddion (2025/26) yr Athro Fay Short, Dirprwy Is-ganghellor Cyswllt dros Gyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor, a Bev Herring, Pennaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae’r Gymuned yn dangos grym un syniad syml: mae cydweithio yn arwain at ddeilliannau gwell na gweithio’n unigol.
Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos sut mae cydweithio yn cael ei droi’n gamau gweithredu ymarferol sydd â manteision amlwg i ddysgwyr ledled Cymru.
Stori Lwyddiant 1: Siarad yr un iaith cyflogadwyedd
Beth os nad diffyg sgiliau yw un o’r rhwystrau mwyaf rhag cyflogadwyedd, ond diffyg dealltwriaeth ar y cyd?
Bu prosiect ymchwil gan y Gymuned Ymarfer, o’r enw Ydyn ni’n siarad yr un iaith?, yn archwilio’r bwlch yn y ffordd y mae cyflogwyr, darparwyr addysg, a dysgwyr yn siarad am sgiliau, profiad a pharodrwydd ar gyfer y gweithle. Dangosodd y canfyddiadau fod dysgwyr yn aml yn cael trafferth adnabod a mynegi’r galluoedd y maent wedi’u datblygu, a bod cyflogwyr ac addysgwyr yn defnyddio iaith wahanol i ddisgrifio’r un priodoleddau.
Trwy ddod â safbwyntiau ynghyd o bob rhan o’r sector trydyddol, mae’r prosiect yn helpu i bontio’r bwlch hwnnw. Mae’r mewnwelediadau a’r adnoddau sy’n deillio o hyn yn cefnogi darparwyr i greu rhagor o gyfleoedd i ddysgwyr gael profiad gwirioneddol o ddisgwyliadau a sgiliau yn y gweithle, a’u helpu i fynegi eu profiadau mewn iaith sy’n ystyrlon i gyflogwyr.
Mae’r prosiect hwn yn mynd y tu hwnt i ymchwil; mae’n enghraifft ymarferol o’r ffordd y mae’r Gymuned Ymarfer yn helpu Cymru i adeiladu ecosystem cyflogadwyedd sy’n fwy cysylltiedig, lle mae gan ddysgwyr, darparwyr a chyflogwyr ddealltwriaeth ar y cyd o’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn llwyddo.
“Mae’r bwlch sylweddol rhwng iaith eglur ac ymhlyg mewn disgrifiadau swydd yn golygu y gall graddedigion dawnus fod yn colli cyfleoedd oherwydd na allant ddehongli’r hyn y mae cyflogwyr yn gofyn amdano, mewn gwirionedd. Nid yn unig y mae hyn yn effeithio ar yrfaoedd unigolion, mae hefyd yn effeithio ar effeithiolrwydd prosesau recriwtio graddedigion ym mhob sector.”
Stuart Norton, Pennaeth Rhagoriaeth Addysgol gydag Advance HE
Stori Lwyddiant 2: Rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd dyfodol dysgwyr
Wrth i gyflogwyr chwilio’n gynyddol am raddedigion sy’n gallu helpu i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, mae Cymuned Ymarfer Cymru wedi bod yn archwilio sut y gall cyflogadwyedd esblygu i fodloni’r disgwyliadau hyn.
Daeth darparwyr o bob cwr o Gymru ynghyd i archwilio sut y gall yr egwyddorion cynaliadwyedd sy’n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, ac sy’n cynnwys meddwl hirdymor, atal, cydweithio, cyfranogaeth a gwneud penderfyniadau integredig, gael eu gwreiddio mewn gweithgareddau datblygu gyrfaoedd a phrofiadau dysgu. Arweiniodd y gwaith cydweithredol hwn at brosiect Cymru gyfan, Ymgorffori cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy mewn addysg drydyddol: arfer gorau, sydd wedi casglu a dadansoddi 49 enghraifft o arferion o bob rhan o’r sector. Yn ogystal, lluniwyd pecyn cymorth i helpu sefydliadau addysg uwch i wreiddio cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy yn eu haddysgu, eu darpariaeth ar gyfer gyrfaoedd, a’u harferion sefydliadol.
Mae’r enghreifftiau’n arddangos ystod nodedig o eang o weithgareddau, gan gynnwys:
- Mentrau cwricwlwm sy’n gysylltiedig â heriau cynaliadwyedd.
- Partneriaethau â chyflogwyr sy’n canolbwyntio ar effaith gymdeithasol.
- Prosiectau myfyrwyr sy’n gysylltiedig â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
- Gweithgareddau sy’n alinio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
- Rhaglenni gwirfoddoli, menter ac arweinyddiaeth sy’n annog dinasyddiaeth gyfrifol.
Gyda’i gilydd, mae’r enghreifftiau hyn yn dangos sut y gall cyflogadwyedd ymestyn y tu hwnt i baratoi dysgwyr ar gyfer gwaith, gan eu paratoi, hefyd, i wneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas a’r sefydliadau y maent yn ymuno â nhw. Roedd y prosiect yn pwysleisio ffyrdd ymarferol o ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau, y gwerthoedd a’r ymddygiadau sydd eu hangen ar gyfer byd sy’n gynyddol gymhleth ac yn newid yn gyflym.
Yn bwysig, mae’r canfyddiadau’n darparu sylfaen dystiolaeth werthfawr ar gyfer y sector, gan ddangos sut y gellir integreiddio cynaliadwyedd, cyfrifoldeb cymdeithasol, a chyflogadwyedd yn ystyrlon wrth ddylunio cwricwlwm, ymgysylltu â chyflogwyr, cynnal gweithgarwch menter, a dysgu yn y gymuned. Bellach, mae’r canfyddiadau hyn yn llywio datblygiad adnoddau ac offer ymarferol a fydd yn helpu darparwyr i gryfhau eu dulliau eu hunain a gwreiddio cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy yn fwy cyson ar draws addysg drydyddol yng Nghymru.
“Mae’r angerdd, yr ymroddiad a’r gwaith arloesol gan ymarferwyr ym maes cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy yn cael effaith gadarnhaol ar fyfyrwyr, staff a rhanddeiliaid ehangach, a byddant yn parhau i wneud hynny”.
Y tîm prosiect cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy
Stori Lwyddiant 3: Paratoi dysgwyr ar gyfer dyfodol sy’n cael ei alluogi gan AI
Mae’r Coleg Merthyr Tudful yn cynnal cynllun peilot ar brosiect cyflogadwyedd arloesol sy’n arfogi dysgwyr â sgiliau y mae galw mawr amdanynt ym meysydd deallusrwydd artiffisial (AI), cyfrifiadura cwmwl, a data, drwy gyfres o gymwysterau digidol byr a gydnabyddir gan ddiwydiant, sy’n galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau penodol a sgiliau technegol ar gyfer y gweithle, a dangos tystiolaeth o’r sgiliau hyn.
Cyflwynir y fenter mewn partneriaeth â’r National Institute of Learning & Certification (NILC), FinTech Cymru a’r Coleg Nyrsio Brenhinol, ac mae’n cysylltu dysgwyr sy’n anelu at yrfaoedd mewn technoleg a gofal iechyd â’r sgiliau a’r anghenion datblygol o ran gweithlu sy’n cael eu gyrru gan AI ac arloesedd digidol.
Trwy gyfrwng y rhaglen hon, mae dysgwyr yn datblygu sgiliau a luniwyd yn dilyn mewnbwn gan gyflogwyr, ac sydd wedi’u halinio ag anghenion sy’n esblygu o ran gweithlu. Ar ôl cwblhau, maent yn derbyn bathodynnau digidol y gellir eu harddangos ar CVs a llwyfannau rhwydweithio proffesiynol fel LinkedIn, gan eu helpu i ddangos tystiolaeth o’u sgiliau i ddarpar gyflogwyr a darparwyr addysg. Wrth greu llwybrau newydd i brentisiaethau, addysg uwch a sectorau sy’n ehangu’n gyflym, mae’r fenter yn cynnig model cynaliadwy sy’n gallu tyfu neu leihau yn unol ag anghenion, y gellir ei weithredu er budd dysgwyr ledled Cymru.
“Mae FinTech Cymru yn hynod o falch o fod yn gweithio gyda’r Coleg Merthyr Tudful wrth i Academi Busnes FinTech barhau i fynd o nerth i nerth. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld yr effaith gadarnhaol mae’r academi hon yn ei chael ar ddysgwyr wrth eu cysylltu’n uniongyrchol â chyflogwyr, prosiectau yn y byd real, a mewnwelediadau byw gan ddiwydiant.”
Rhys Griffiths, Pennaeth Sgiliau a Thalent gyda FinTech Cymru
Datblygu arweinyddiaeth ar draws y sector
Er bod prosiectau’r Gymuned wedi cyflawni canlyniadau gwerthfawr, mae aelodau yn tynnu sylw yn aml at effaith arwyddocaol arall: sef twf proffesiynol.
Mae’r Gymuned Ymarfer wedi darparu cyfleoedd i aelodau:
- Arwain prosiectau cenedlaethol.
- Dylanwadu ar drafodaethau ar bolisi yn y sector.
- Rhannu arferion arloesol gyda chymheiriaid.
- Datblygu arbenigedd mewn ymchwil a gwerthuso.
- Meithrin partneriaethau strategol ar draws darparwyr.
I arweinwyr sy’n dod i’r amlwg, mae’r rhwydwaith wedi dod yn llwybr ar gyfer ymgysylltiad ehangach â’r sector. I weithwyr proffesiynol profiadol, mae wedi cynnig lle i fentora cydweithwyr a llunio cyfeiriad cyflogadwyedd yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hyn wedi creu cymuned gryfach a mwy cysylltiedig o weithwyr proffesiynol sydd wedi’u paratoi ar gyfer arwain arloesedd ym maes cyflogadwyedd ar lefel sefydliadol yn ogystal â lefel sector.
Edrych i’r dyfodol
Wrth i Gymru barhau i ddatblygu system addysg drydyddol fwy cydlynol, bydd yr angen am gydweithio, ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a dysgu ar y cyd yn parhau i dyfu.
Mae Cymuned Ymarfer Cyflogadwyedd Cymru wedi dangos yr hyn sy’n bosibl pan ddaw darparwyr ynghyd o amgylch amcanion cyffredin. Mae’n gweithredu fel catalydd ar gyfer newid ar draws y sector, gan helpu i lunio dyfodol cyflogadwyedd yng Nghymru, a sicrhau bod dysgwyr, darparwyr, cyflogwyr a chymunedau oll yn elwa ar ecosystem cyflogadwyedd sy’n gryfach ac yn fwy cysylltiedig.
Gyda’i gilydd, mae’r mentrau hyn yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer dull mwy cydgysylltiedig o ymdrin â dysgu drwy brofiad a datblygu cyflogadwyedd ar draws system addysg drydyddol Cymru, gan helpu dysgwyr i gaffael y sgiliau, y profiad a’r hyder sydd eu hangen i lwyddo mewn economi a chymdeithas sy’n newid.
“Mae wedi dod â phobl ynghyd sy’n frwd dros wneud gwahaniaeth, wedi bod yn fodd i feithrin cyfeillgarwch ac wedi cyfrannu at brosiectau parhaus a fydd yn cael effaith ar arferion cyflogadwyedd ledled Cymru a thu hwnt – sy’n dyst gwirioneddol i bŵer cydweithio.”
Dr Samantha Burvill o Brifysgol Abertawe a chyd-arweinydd grŵp y prosiect ar gyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy
Ac efallai mai dyna etifeddiaeth bwysicaf y Gymuned: dangos nad ffordd o rannu arferion yn unig yw cydweithio, ond catalydd ar gyfer newid.
Angela West, Uwch Reolwr Sgiliau a Chyflogadwyedd
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio