Medr/2025/08: Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach Blwyddyn Academaidd 2025/26 – canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllid
Cyflwyniad
1. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Y Ddeddf), Adran 5 yn nodi bod rhaid i Medr hybu gwelliant parhaus yn ansawdd addysg drydyddol Gymreig ac, wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, rhoi sylw:
a) i bwysigrwydd sicrhau bod aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol yn gallu darparu addysg drydyddol o ansawdd uchel; a
b) i ofynion rhesymol aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol am ddatblygiad proffesiynol parhaus.
2. SMae Adran 5 (3) yn nodi bod aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol yn golygu:
a) athrawon personau sy’n cael addysg drydyddol,
b) personau sy’n darparu cymorth i’r athrawon hynny, ac
c) personau sy’n darparu cymorth i ddysgwyr i gymryd rhan mewn addysg drydyddol.
3. I roi cymorth i gyflawni’r ddyletswydd hon, mae dysgu proffesiynol wedi’i gynnwys yng Nghynllun Strategol Medr dan Nod Strategol 3.
Nod Strategol 3 Sicrhau bod dysgwyr yn cael darpariaeth o’r ansawdd gorau mewn system addysg drydyddol sy’n ymegnïo i wella’n barhaus. |
Ymrwymiad twf Byddwn yn cynorthwyo’r gweithlu addysg drydyddol i gael mynediad at ddysgu proffesiynol effeithiol ac yn archwilio ffyrdd o rannu arfer gorau, gan estyn addysgeg effeithiol ar draws y sector cyfan. |
4. Gall dysgu proffesiynol yn y cyd-destun hwn gynnwys hyfforddiant gorfodol, datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), gwybodaeth bynciol a diwydiannol, cymwysterau proffesiynol, ymchwil weithredu ac ymholi proffesiynol.
Defnyddio’r Gronfa Dysgu Proffesiynol
5. Mae llythyr cyllid Llywodraeth Cymru i Medr ar gyfer 2025/26 yn cynnwys £5 miliwn i gefnogi dysgu a datblygiad proffesiynol y gweithlu addysg bellach. Dyrannwyd cyllid i sefydliadau AB yn seiliedig ar faint y sefydliad fel dirprwy ar gyfer nifer y staff. Nodir y dyraniadau yn Atodiad A.
6. Mae’r cyllid a ddyrennir gan Medr ar gael gyda’r amodau cyffredinol ar gyfer talu arian a nodir yn Nhelerau ac Amodau Cyllid Medr.
7. Bydd cyllid yn cefnogi dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr a staff cymorth dysgu a gellir ei ddefnyddio i alluogi sefydliadau i ddarparu neu gomisiynu dysgu proffesiynol sy’n cyd-fynd â’r themâu a amlinellir yn y canllawiau hyn. Dylai’r cyllid gael ei ddefnyddio dim ond i ddatblygu staff sy’n rhan o ddarparu dysgu ac addysgu mewn AB.
8. Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau unigol pob sefydliad, yn seiliedig ar ei bolisïau ei hun a’r anghenion a adnabuwyd ar gyfer ei staff. Anogir sefydliadau hefyd i ddefnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgarwch cydweithredol a gallant ddewis “cyfuno” cyfran o’r cyllid hwn i gefnogi prosiectau cydweithredol.
9. Wrth lunio ceisiadau ar gyfer defnyddio cyllid, rydym yn disgwyl i’r holl sefydliadau ystyried:
- Safonau proffesiynol ar gyfer athrawon AB, ymarferwyr dysgu seiliedig-ar-waith ac ymarferwyr addysg oedolion/Addysgwyr Cymru.
- Cydweithio ar draws y sector i wella effeithlonrwydd, cymorth gan gymheiriaid a rhannu arfer da.
- Dysgu blaenorol i adeiladu ar y gwaith a ddatblygwyd mewn blynyddoedd blaenorol a gwreiddio’r gwaith hwnnw.
- Taro cydbwysedd rhwng anghenion dysgu’r sefydliad (DPP) a’r penderfyniadau y mae ymarferwyr yn eu gwneud ynglŷn â’u hanghenion a’u diddordebau dysgu proffesiynol hwy eu hunain.
- Datblygu sgiliau staff i gefnogi anghenion cymhleth a blaenoriaethau o ran sgiliau.
- Lle mae sefydliadau’n gwneud dysgu proffesiynol mewn perthynas â darpariaeth ddigidol, byddwn yn gofyn iddynt ddefnyddio’r Safonau Proffesiynol Digidol a ddatblygwyd gan Jisc fel rhan o’n gwaith Digidol 2030.
10. Rhaid i geisiadau ganolbwyntio ar y themâu cymwys a restrir isod. Mae’r rhestr isod yn cwmpasu themâu gorfodol y mae’n rhaid eu cynnwys a themâu dewisol.
Themâu gorfodol
- Datblygu’r Gymraeg.
- Dysgu proffesiynol sy’n ofynnol i greu a chefnogi diwylliant gwrth-hiliol.
Themâu dewisol
- Dysgu digidol.
- Strategaethau dysgu ac addysgu, gan gynnwys dysgu gwahaniaethol.
- Llythrennedd a rhifedd.
- Gwella sgiliau diwydiannol sy’n gysylltiedig ag anghenion y farchnad lafur (gan gynnwys capasiti i ddarparu cymwysterau lefel uchel).
- Cryfhau addysgeg Safon Uwch a galwedigaethol.
- Ymchwil weithredu.
- Dysgu proffesiynol ar gyfer staff addysgu a staff cymorth arbenigol i weithio gyda dysgwyr ag anghenion cymhleth.
- Darparu gweithgareddau sydd wedi’u bwriadu i gyflymu a chynyddu arbenigedd staff a fydd yn cynyddu gwybodaeth a phrofiad dysgu’r dysgwr.
11. Bydd disgwyl i sefydliadau adrodd yn erbyn pob gweithgaredd fel rhan o’r gofynion adrodd interim a therfynol.
Materion a dulliau gweithio allweddol
12. Wrth baratoi ceisiadau, dylai sefydliadau ystyried polisïau a ffyrdd o weithio trawsbynciol eraill. Rhaid i’r rhain gynnwys:
- Partneriaeth Gymdeithasol
Mae disgwyl i SABau ddatblygu eu cynigion gan ddefnyddio egwyddorion partneriaeth gymdeithasol, i sicrhau bod eu hundebau llafur cydnabyddedig yn cael eu cynnwys yn llawn yn y broses o gynllunio, gwneud penderfyniadau, a gweithredu newidiadau a fydd yn effeithio ar staff. - Cymru Wrth-hiliol
Dylai unigolion a sefydliadau gymryd cyfrifoldeb am greu diwylliant gwrth-hiliol a llywio newid cadarnhaol parhaus ac, wrth wneud hynny, byddem yn disgwyl i chi ystyried y dysgu proffesiynol sy’n ofynnol o fewn eich sefydliad i helpu i wireddu’r uchelgais i greu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030. - Creu Cymru ddwyieithog
Mae gan Medr rôl o ran cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae dyletswydd arno i annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg. Rydym felly’n disgwyl i chi ystyried hyn wrth baratoi eich ceisiadau.
Strategaethau Dysgu Proffesiynol
13. Fel un o’r amodau cyllid, bydd Medr yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl sefydliadau gyflwyno strategaeth dysgu proffesiynol ffurfiol. Gall sefydliadau naill ai adolygu strategaeth bresennol neu ddatblygu un newydd. Gellir defnyddio’r Cyllid Dysgu Proffesiynol i ariannu’r amser rhyddhau staff i ddatblygu a gwerthuso strategaethau, a/neu i ddod ag arbenigedd allanol i mewn i gefnogi’r broses os oes angen. Bydd angen cyflwyno strategaethau i Medr gyda’u hadroddiadau interim ym mis Chwefror 2026.
Gweithgareddau cymwys
14. Gellir defnyddio cyllid i wneud y canlynol:
- Gwneud cymwysterau addysgu achrededig.
- Gwneud modiwlau neu unedau hyfforddi penodol i wella sgiliau addysgu (e.e. modiwlau MA).
- Diweddaru a gwella sgiliau diwydiannol/galwedigaethol staff.
- Prynu hyfforddiant pwrpasol, gan gynnwys costau hyfforddwyr neu hwyluswyr allanol.
- Prynu neu ddatblygu pecynnau e-ddysgu.
- Talu costau cefnlenwi ar gyfer staff sy’n gwneud hyfforddiant proffesiynol.
- Gwneud ymchwil gan gynnwys ymchwil weithredu.
- Dylunio a darparu dysgu proffesiynol a datblygiad arweinwyr yn gydweithredol, gan gynnwys hyfforddiant ar y cyd ar sail ranbarthol.
- Datblygu adnoddau a chanllawiau dysgu proffesiynol dwyieithog er budd y sector cyfan, gan gynnwys mewn dysgu seiliedig-ar-waith ac addysg oedolion.
- Dysgu proffesiynol ar gyfer staff addysgu a staff cymorth arbenigol i weithio gyda dysgwyr ag anghenion cymhleth.
- Darparu gweithgareddau sydd wedi’u bwriadu i gyflymu a chynyddu arbenigedd ar gyfer staff a fydd yn cynyddu gwybodaeth a phrofiad dysgu’r dysgwr.
15. Ni ellir defnyddio’r cyllid i brynu offer neu feddalwedd cyfalaf nac i ddatblygu cyrsiau ar gyfer dysgwyr.
16. Os ydych yn ansicr a yw eich defnydd arfaethedig o’r cyllid yn gymwys cysylltwch â [email protected].
Meini prawf gwerthuso
17. Rhaid i gynigion wneud y canlynol:
- Darparu dysgu proffesiynol yn unol â’r Safonau proffesiynol ar gyfer athrawon AB, ymarferwyr dysgu seiliedig-ar-waith ac ymarferwyr addysg oedolion/Addysgwyr Cymru.
- Adnabod manteision eglur a dangos sut y bydd effaith yn cael ei gwerthuso.
- Cyd-fynd â’r themâu a restrir yn y canllawiau hyn.
- Cynnwys gweithgareddau sydd o gymorth i ddatblygu’r Gymraeg
- Dangos dysgu proffesiynol a fydd yn creu ac yn ategu diwylliant gwrth-hiliol.
- Dangos rhesymeg eglur sy’n adlewyrchu anghenion dysgu proffesiynol a adnabuwyd ar gyfer staff y sefydliad.
Sut i ymgeisio
18. Mae’n ofynnol i bob sefydliad gwblhau a dychwelyd copi wedi’i lofnodi o’r ffurflen yn Atodiad C er mwyn:
- Cadarnhau’n ffurfiol bod eich sefydliad yn derbyn y cyllid.
- Enwebu unigolyn priodol yn eich sefydliad fel y cyswllt arweiniol mewn perthynas â’r cyllid hwn.
- Amlinellu’n fras beth yw eich bwriadau ar gyfer defnyddio’r cyllid hwn.
19. Dylid dychwelyd ffurflenni wedi’u llofnodi i [email protected] erbyn 30 Mehefin 2025.
20. Rhowch wybod i Medr ar y cyfle cynharaf os ydych yn rhagweld na fyddwch yn gallu gwario eich dyraniad yn llawn. Os yw cyllid yn cael ei ryddhau gan sefydliadau unigol, bydd Medr yn ystyried a yw’n ddichonadwy ailddyrannu’r cyllid hwn.
Monitro a thalu cyllid
21. Ym amodol ar ddychwelyd Atodiad C, bydd taliad interim (65% o ddyraniad cyllid eich sefydliad) yn cael ei amserlennu yn ystod mis Chwefror 2026.
22. Bydd yn ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth am wariant erbyn 31 Gorffennaf 2026 i ryddhau’r taliad terfynol. Dim ond yn erbyn gwariant gwirioneddol a gafwyd erbyn 31 Gorffennaf 2026 y dylech hawlio. Bydd swm y taliad terfynol hwn yn cael ei addasu yn unol â’r gwariant gwirioneddol a gafwyd, hyd at gyfanswm gwerth dyraniad eich sefydliad.
23. Bydd templedi ar gyfer adroddiadau interim a therfynol ynghyd â gwybodaeth am wariant ar ddiwedd y flwyddyn yn cael eu hychwanegu fel Atodiad D. Bydd arweinwyr cyllid enwebedig yn cael eu hysbysu pan fydd y ffurflenni hyn ar gael.
24. Mae cadarnhau’r dyraniad yn amodol ar gymeradwyo gweithgareddau gan Medr.
Rhagor o wybodaeth
25. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y canllawiau hyn a’r ddogfennaeth ategol at Karron Williams yn [email protected].
Medr/2025/08: Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach Blwyddyn Academaidd 2025/26 – canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllid
Dyddiad: 12 Awst 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/08
At: Benaethiaid sefydliadau addysg bellach (SABau) yng Nghymru; Arweinwyr dysgu proffesiynol SABau
Ymateb erbyn: Ceisiadau i’w cyflwyno erbyn canol dydd 7 Gorffennaf 2025
Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn nodi’r dyraniadau cyllid refeniw dysgu proffesiynol (PLF) i sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Mae’r ddogfen yn darparu canllawiau ynghylch gwariant cymwys ac anghymwys a thempledi ar gyfer ceisiadau a chostau.
Cyhoeddwyd canllawiau drafft i ddarparwyr ar 9 Mehefin ac mae ymatebion wedi’u derbyn.
Ceir rhagor o wybodaeth yn yr Atodiadau canlynol wrth y canllawiau hyn.
Medr/2025/08 Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach Blwyddyn Academaidd 2025/26 – canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllidDogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2025/07: Monitro Diwedd Blwyddyn ar gyfer Cofrestriadau Addysg Uwch 2024/25
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi diffiniadau a chanllawiau i sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg bellach sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch (a elwir ar y cyd yn ddarparwyr addysg uwch) a ariennir gan Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch. Mae’r canllawiau hefyd yn berthnasol i ddarparwyr sy’n cynnig darpariaeth cyrsiau wedi’u dynodi’n benodol, ond nad ydynt yn cael cyllid yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch, gan gynnwys rhai sefydliadau addysg bellach a rhai darparwyr amgen. Mae’r canllawiau’n ymwneud â data diwedd blwyddyn a gaiff eu hechdynnu o gofnod myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar gyfer 2024/25 gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Rhyngwyneb Adrodd Gwybodaeth (IRIS) er mwyn galluogi Medr i wneud y canlynol:
a). cyfrifo dyraniadau cyllid ar gyfer cyllid seiliedig ar gredydau myfyrwyr israddedig rhan-amser a’r premiwm pynciau cost uwch ar gyfer 2026/27;
b). cyfrifo unrhyw addasiadau i gyllid seiliedig ar gredydau myfyrwyr israddedig rhan-amser 2024/25;
c). monitro darpariaeth cyrsiau meddygaeth a deintyddiaeth;
d). canfod niferoedd terfynol myfyrwyr a gwerthoedd credydau darparwyr addysg uwch ar gyfer 2024/25 at ddibenion modelu cyllid a gwybodaeth.
Prif newidiadau ar gyfer 2024/25
2. Mae’r prif newidiadau a wnaed ers arolwg monitro diwedd blwyddyn 2023/24 fel a ganlyn:
a). Mae’r dull ar gyfer canfod nifer y myfyrwyr segur/sy’n ysgrifennu sydd wedi bod yn anweithredol drwy gydol y flwyddyn academaidd wedi newid. Mae Atodiad M yn cynnwys manylion y fethodoleg a ddefnyddiwyd i adnabod myfyrwyr o’r fath yn yr echdyniad data. Mae Atodiad K hefyd wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r newid.
b). Mae’r ffordd y caiff credydau meddygaeth a deintyddiaeth eu dynodi i’w categorïau pynciau academaidd wedi newid ac mae’r dull bellach yn defnyddio pwnc a chyfran cymhwyster y cwrs yn hytrach na’r flwyddyn astudio. Mae’r manylion i’w gweld yn Atodiad K, paragraff 17.
c). Mae’r terfynau ffioedd uchaf ar gyfer cyrsiau israddedig a TAR amser llawn wedi cael eu diweddaru. Gweler Atodiad F.
d). Mae’r darparwyr hynny sy’n tanysgrifio i HESA er mwyn cyflwyno data sy’n ymwneud â chyrsiau wedi’u dynodi’n benodol bellach o fewn cwmpas yr echdyniad data monitro diwedd blwyddyn. Diben hyn yw cael darlun recriwtio diwedd blwyddyn ar gyfer y darparwyr hyn. Ni chaiff data eu defnyddio wrth gyfrifo cyllid ac nid oes angen iddynt gael eu cymeradwyo. Mae rhagor o fanylion i’w cael yn yr atodiadau canllaw.
Cynnwys
3. Mae’r cylchlythyr hwn yn rhoi:
a). canllawiau a diffiniadau ar gyfer yr amrywiol gategorïau a ddefnyddir i ddosbarthu myfyrwyr;
b). gwybodaeth am y meini prawf a ddefnyddir i echdynnu data monitro diwedd blwyddyn o gofnod myfyrwyr HESA 2024/25 gan ddefnyddio IRIS;
c). manylion y trefniadau cymeradwyo ar gyfer y tablau a ddarperir drwy allbynnau IRIS HESA (gweler y rhestr o dablau y mae angen eu cymeradwyo ym mharagraff 10). Noder mai dim ond i ddarparwyr addysg uwch sy’n cael cyllid gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch y mae’r broses gymeradwyo’n berthnasol. Nid yw’n ofynnol i ddarparwyr sy’n cyflwyno data i HESA am fod ganddynt gyrsiau wedi’u dynodi’n benodol gymeradwyo’r tablau monitro diwedd blwyddyn, ac mae’r daflen gymeradwyo wedi cael ei thynnu o’u hallbynnau IRIS HESA.
4. Mae cynnwys yr atodiadau fel a ganlyn:
Atodiad | Rhif tudalen | |
---|---|---|
Atodiad A | Canllaw cryno ar arolwg monitro diwedd blwyddyn 2024/25 | 5 |
Atodiad B | Diffiniad o gymhwyster addysg uwch cydnabyddedig | 13 |
Atodiad C | Dysgu o bell, campysau, is-sefydliadau, trefniadau breinio, trefniadau dilysu a threfniadau cydweithredol eraill | 14 |
Atodiad D | Diffiniad o statws preswyl a statws cyllid | 21 |
Atodiad E | Diffiniad o gategorïau pynciau academaidd | 25 |
Atodiad F | Diffiniad o ddull astudio | 27 |
Atodiad G | Diffiniad o lefel astudio | 30 |
Atodiad H | Rheolau ar gyfer cyfrif cofrestriadau | 31 |
Atodiad I | Rheolau ar gyfer cyfrif gwerthoedd credydau | 38 |
Atodiad J | Disgrifiadau o’r tablau a’r colofnau | 43 |
Atodiad K | Mapiadau HESA/ystadegau cynnar myfyrwyr addysg uwch/monitro diwedd blwyddyn a meini prawf echdynnu data monitro diwedd blwyddyn | 47 |
Atodiad L | Defnydd o ddata gan Medr | 57 |
Atodiad M | Dosbarthiad myfyrwyr segur/sy’n ysgrifennu | 59 |
Atodiad N | Grid cyfeirio statws cyllid | 61 |
Atodiad O | Copïau enghreifftiol o dablau allbwn IRIS wedi’u hechdynnu o ddata HESA | 63 |
Addasu cyllid 2024/25
5. At ddibenion cyfrifo canlyniadau tanrecriwtio i gyllid ar gyfer 2024/25, caiff cyllid addysgu seiliedig ar gredydau myfyrwyr israddedig rhan-amser ei ailgyfrifo gan ddefnyddio data monitro diwedd blwyddyn. Caiff gwerthoedd credydau (ar gyfer myfyrwyr israddedig rhan-amser) sy’n deillio o fodiwlau y gwnaeth myfyrwyr gofrestru ar eu cyfer hyd at a chan gynnwys 1 Tachwedd 2024, ac ar ôl hynny, eu defnyddio a chaiff nifer y gwerthoedd credydau sy’n gysylltiedig â modiwlau y bydd myfyrwyr yn tynnu’n ôl ohonynt ei ddidynnu. Caiff y tablau monitro diwedd blwyddyn wedi’u cymeradwyo o echdyniad IRIS HESA eu defnyddio at y diben hwn.
Y broses ar gyfer cymeradwyo data monitro diwedd blwyddyn a data eraill a gaiff eu hechdynnu o gofnod myfyrwyr HESA
6. Rhaid i ddarparwyr addysg uwch a ariennir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch gymeradwyo’r data a gyflwynir yn allbynnau IRIS terfynol cofnod myfyrwyr HESA 2024/25 fel y byddant ar ddyddiad cymeradwyo terfynol HESA, sef 5 Tachwedd 2025. Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd yr allbynnau IRIS wedi’u cymeradwyo i Medr fydd 5 Rhagfyr 2025. Dyma’r drydedd flwyddyn o greu allbynnau IRIS o dan gofnod myfyrwyr newydd HESA. Gwnaethom rai newidiadau y llynedd o ganlyniad i’r ymgynghoriad ar newidiadau i fonitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2023/24, ac rydym yn gwneud rhai newidiadau ychwanegol ar gyfer 2024/25 (gweler paragraff 2). Os gwneir unrhyw ddiwygiadau i’r mapiad neu’r dull echdynnu ar ôl i’r echdyniad gael ei roi ar waith yn y lle cyntaf, byddwn yn rhoi gwybod i ddarparwyr. Dylai darparwyr hefyd roi gwybod i ni os gwelant unrhyw broblemau yn yr echdyniad, naill ai yn y ffordd y caiff yr allbynnau eu cyflwyno neu yn y mapiad a ddefnyddir.
7. Yn ystod y cyfnod gwirio ansawdd data HESA rhwng 1 Awst a 29 Hydref 2025, bydd Medr yn cynnal gwiriadau ansawdd ar y data a gyflwynir. Byddwn yn cysylltu â darparwyr tua chwe wythnos cyn y dyddiad cymeradwyo terfynol ar gyfer cofnod myfyrwyr HESA, sef 5 Tachwedd, a phan fydd darparwyr wedi cadarnhau eu bod yn barod i ni anfon unrhyw ymholiadau ymlaen, byddwn yn darparu cyfres o ymholiadau. Gall darparwyr hefyd ofyn i ni godi cwestiynau’n gynharach na chwe wythnos ymlaen llaw neu bennu dyddiad pan hoffant i ni anfon ein rhestr o ymholiadau atynt os bydd hynny’n well ganddynt, a gallant ofyn unrhyw bryd i ni edrych ar agweddau penodol ar eu data os bydd hynny’n ddefnyddiol iddynt. Diben hyn yw cynorthwyo proses gwirio ansawdd fewnol y darparwr ei hun a sicrhau bod y data’n addas i’r diben i Medr. Fel y disgrifir yn amserlen casglu Cofnodion Myfyrwyr HESA, mae’n ofynnol i ddarparwyr naill ai ailgyflwyno eu data i ddiwygio’r anghysondebau hyn, neu esbonio pam y maent yn ddilys.
8. Cyn cyflwyno’r allbynnau IRIS wedi’u cymeradwyo i Medr, rhaid i ddarparwyr addysg uwch fod wedi cynnal gwiriadau digonol er mwyn bod yn fodlon bod y data wedi’u hechdynnu yn gywir, a/neu wneud diwygiadau lle bo angen os na fydd y data’n gywir. Gan mai 2024/25 yw trydedd flwyddyn y cofnod myfyrwyr newydd o dan Data Futures, a chan fod rhai darparwyr yn dal i gael anawsterau wrth roi’r cofnod newydd ar waith, rydym yn parhau i ganiatáu newidiadau i’r holl allbynnau IRIS ar y cam cymeradwyo. Dylai darparwyr roi esboniad o unrhyw newidiadau a wneir. Bydd rhagor o fanylion am y broses i’w cael yn y cyhoeddiad Gofynion Data ar gyfer 2025/26, a gaiff ei gyhoeddi ym mis Awst 2025.
9. Ni fydd angen i ni gael copi caled o’r allbynnau IRIS wedi’u cymeradwyo. Dylid cyflwyno’r allbynnau wedi’u cymeradwyo drwy eu hanfon drwy e-bost at Andrea Thomas yn [email protected]. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r allbynnau wedi’u cymeradwyo fydd 5 Rhagfyr 2025. Caiff manylion y broses ei hanfon drwy e-bost ar wahân at lofnodwyr awdurdodedig a chysylltiadau data ym mis Hydref 2025 i’w hatgoffa.
10. Mae gan yr allbynnau IRIS y bydd angen eu cymeradwyo ragddodiad “S” o flaen eu henwau ffeil ac maent fel a ganlyn
a). Monitro Diwedd Blwyddyn
b). Mesurau Cenedlaethol Medr
c). Dyraniadau hepgor ffioedd rhan-amser
d). Monitro hepgor ffioedd rhan-amser
e). Monitro gradd-brentisiaethau (ynghyd â’r wybodaeth ychwanegol y gofynnir amdani)
f). Cyllid y pen
g). Premiwm anabledd
h). Premiwm mynediad a chadw
i). Premiwm cyfrwng Cymraeg
j). Premiwm pynciau drud
k). Dyraniad hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig
l). Cyllid cydraddoldeb hil/llesiant ac iechyd meddwl
m). Cyllid Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu
n). Cyfwerth ag amser llawn (FTE) (ar gyfer dyraniadau cyllid cyfalaf)
Archwilio data
11. Atgoffir darparwyr y gall data monitro diwedd blwyddyn, a thablau eraill fel y disgrifir ym mharagraff 10 a echdynnir o gofnod myfyrwyr HESA gan ddefnyddio IRIS, ac unrhyw ddiwygiadau a wneir i’r echdyniadau, gan gynnwys dulliau a ddefnyddir i gyfrifo unrhyw amcangyfrifon a gaiff eu cynnwys yn y diwygiadau, fod yn destun archwiliad allanol a gynhelir gan Medr neu gan gontractwyr ar ran Medr. Mae’r systemau a’r prosesau a ddefnyddir i gynhyrchu’r data HESA a echdynnir o fewn cwmpas archwiliadau mewnol y sefydliad.
Rhagor o wybodaeth
12. Dylid anfon unrhyw ymholiadau at Andrea Thomas (e-bost [email protected]).
Medr/2025/07: Monitro Diwedd Blwyddyn ar gyfer Cofrestriadau Addysg Uwch 2024/25
Dyddiad: 11 Awst 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/07
At: Penaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Prifathrawon sefydliadau addysg bellach yng Nghymru sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch
Ymateb erbyn: 05 Rhagfyr 2025
Crynodeb:
Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi diffiniadau a chanllawiau i ddarparwyr addysg uwch ynglŷn â’r data diwedd blwyddyn a gaiff eu hechdynnu o gofnod myfyrwyr HESA 2024/25.
Caiff y data eu hechdynnu gan ddefnyddio Gwasanaeth Rhyngwyneb Adrodd Gwybodaeth (IRIS) HESA a chânt eu defnyddio i gyfrifo cyllid seiliedig ar gredydau ar gyfer myfyrwyr israddedig rhan-amser a’r premiwm pynciau cost uwch ar gyfer 2026/27, cyfrifo unrhyw addasiad i gyllid addysgu seiliedig ar gredydau myfyrwyr israddedig rhan-amser ar gyfer 2024/25, monitro darpariaeth meddygaeth a deintyddiaeth a chanfod niferoedd terfynol myfyrwyr a gwerthoedd credydau darparwyr ar gyfer 2024/25.
Medr/2025/07 Monitro Diwedd Blwyddyn ar gyfer Cofrestriadau Addysg Uwch 2024/25Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioBron i £1 biliwn o ddyraniadau cyllid ar gyfer y sector trydyddol wedi’u cadarnhau gan Medr
Mae Medr wedi cadarnhau y bydd prifysgolion, colegau a darparwyr addysg ledled Cymru yn derbyn cyfran o bron i £1 biliwn eleni, wrth rannu manylion ei ddyraniadau cyllid ar gyfer 2025/26.
Ym mis Ionawr, amlinellodd Medr y cyllid yr oedd yn bwriadu ei ddarparu i ddarparwyr addysg drydyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Yn dilyn cadarnhad terfynol o’i gyllideb gan Lywodraeth Cymru, mae Medr bellach wedi cadarnhau’r dyraniadau hynny ac wedi egluro ymhellach sut y bydd cyllidebau’n cael eu dosbarthu ar draws y sector trydyddol.
Dyma’r tro cyntaf yng Nghymru i gyfanswm cyllidebau o bob rhan o’r sector trydyddol gael eu cyflwyno ochr yn ochr â’i gilydd, ac mae’n cynnwys dadansoddiadau ar draws prentisiaethau, chweched dosbarth ysgolion awdurdodau lleol, darpariaeth awdurdodau lleol ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, addysg bellach ac addysg uwch, gan gynnwys ymchwil ac arloesi.
Yn ôl James Owen, Prif Weithredwr Medr: “Dyma garreg filltir arwyddocaol i addysg yng Nghymru. Mae cyhoeddi ein dyraniadau cyllid cyntaf yn dangos ein hymrwymiad i dryloywder a chyfleoedd addysg ac ymchwil o ansawdd uchel i bawb. Mae Medr bellach yn weithredol ers blwyddyn, ac rydym yn edrych ymlaen i weld effaith gadarnhaol y buddsoddiad hwn ar ein dysgwyr a’n cymunedau.
“Mae ein dull cynhwysfawr o ariannu, sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau yn ein Cynllun Strategol, yn cefnogi sefydliadau fel eu bod yn barod i roi’r profiadau gorau posibl i ddysgwyr yn ogystal ag ymateb i heriau’r dyfodol.”
Tabl 1: Cyfanswm y cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26
Blwyddyn Academaidd 2024/25 £ miliwn | Blwyddyn Academaidd 2025/26 £ miliwn | |
Wedi’i glustnodi | ||
Contract prentisiaethau | 134.520 | 134.520 |
Prentisiaethau iau | 0.400 | 0.600 |
Craidd | ||
Chweched dosbarth awdurdodau lleol * | 116.664 | 116.853 |
Dysgu Oedolion yn y Gymuned awdurdodau lleol * | 6.479 | 6.479 |
Addysg bellach brif ffrwd | 409.066 | 422.826 |
Cymorth Dysgu Ychwanegol ar gyfer addysg bellach | 16.741 | 16.741 |
Cronfa Ariannol Wrth Gefn addysg bellach | 7.192 | 6.880 |
Wedi’i ddal yn ôl o’r dyraniadau i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad pan geir tystiolaeth o hynny yn 2025/26. | 21.126 | |
Ymchwil ac arloesi addysg uwch ** 1 | 97.295 | 97.121 |
Cyllid addysgu addysg uwch 2 | 69.434 | 69.745 |
Prentisiaethau gradd | 9.411 | 9.411 |
Strategol | ||
Mynediad, llesiant a chynhwysiant *** | 23.962 | 28.469 |
Cyflogadwyedd a sgiliau *** | 3.320 | 3.320 |
Ymchwil ac arloesi *** | 1.733 | 2.000 |
Y myfyriwr/dysgwr a’r gweithlu *** | 8.254 | 8.254 |
Data a thechnoleg *** | 3.993 | 3.993 |
Datblygiadau strategol | 2.250 | 3.500 |
Cyfalaf | ||
Addysg Uwch | 10.000 | 10.000 |
Digidol Addysg Bellach | 3.000 | 3.000 |
Cyfanswm | 923.240 | 964.536 |
Mae’n bosibl y ceir mân anghysondebau yn sgil talgrynnu
Hysbyswyd darparwyr am eu dyraniadau ymhell cyn blwyddyn academaidd 2025/26.
Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26Ym mis Ionawr 2025, ysgrifennodd Medr at ddarparwyr i roi esboniad bras o’r rhagdybiaethau cyllido a fyddai’n sail i’w gynlluniau i ddosbarthu ei gyllideb ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Cafodd Medr gadarnhad terfynol o’n cyllideb gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2025.
Rhagdybiaethau cyllido Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 (Ionawr 2025)
Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyllid i Medr yn flynyddol ar sail blwyddyn ariannol o 1 Ebrill i 31 Mawrth. Mae Medr yn dyrannu cyllid i’r rhan fwyaf o sefydliadau a darparwyr cymwys ar sail blwyddyn academaidd o 1 Awst i 31 Gorffennaf. Mae Medr yn defnyddio’r fformat hwn: 2025-26, i ddynodi’r flwyddyn ariannol hyd at 31 Mawrth 2026, a’r fformat hwn: 2025/26, i ddynodi’r flwyddyn academaidd hyd at 31 Gorffennaf 2026.
1 Mae hyn yn cynnwys Ymchwil Cysylltiedig ag Ansawdd (QR), ymchwil ôl-radd (PGR) a Chronfa Arloesi Ymchwil Cymru (CAYC).
2 Mae hyn yn cynnwys premiymau amser llawn a rhan-amser, dyraniadau ar sail credydau a dyraniadau fesul pen.
* Yn y gorffennol, byddai dyraniadau chweched dosbarth awdurdodau lleol a Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael eu pennu ar sail blwyddyn ariannol. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, cynigir bod awdurdodau lleol yn cael dyraniad 16 mis o fis Ebrill 2025 hyd at fis Gorffennaf 2026, fel bo modd i Medr symud yr holl ddarpariaeth drydyddol graidd i gylch cyllideb blwyddyn academaidd. Nid yw’r tabl uchod ond yn cynnwys yr ymrwymiad 12 mis sy’n cwmpasu’r flwyddyn academaidd.
** Ym mlwyddyn academaidd 2024/25, cymhwysodd rhagflaenydd Medr, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), ostyngiad pro rata untro o £11 miliwn i linellau cyllid craidd ar gyfer addysg uwch ac ymchwil i adlewyrchu gostyngiad yn y cyllid a oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Gan nad yw cyllid Llywodraeth Cymru ym mlwyddyn ariannol 2025-26 yn gwrthdroi’r toriad hwnnw, mae’r ffigurau a gyflwynir yn y tabl hwn wedi’u cyfrifo ar sail y ffigurau ar ôl y gostyngiad, ar sail pro rata yn erbyn pob llinell fel bo modd cymharu.
*** Mae cyllidebau strategol yn cynnwys llinellau cyllido strategol a drosglwyddwyd i Medr o Lywodraeth Cymru a CCAUC. mae 49 o linellau cyllido strategol wedi cael eu grwpio i chwe llinell cyllideb thematig. Mae cyllideb sydd i raddau helaeth yn wastad o ran arian parod wedi galluogi sefydlogrwydd yn lefelau’r cyllid, gyda chynnydd i’r gyllideb mynediad, llesiant a chynhwysiant (£2 miliwn i gydnabod cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ynghylch cynnydd o £2 filiwn ar gyfer cymorth iechyd meddwl) a’r gyllideb ymchwil ac arloesi. Mae hyn hefyd wedi caniatáu datblygu cynigion ar gyfer tua £3.5m o gyllid sydd heb ei ddyrannu ar hyn o bryd i gynorthwyo darparwyr addysg drydyddol i gyflawni yn erbyn cynllun gweithredu Medr. Gall y grwpiau hyn newid mewn blynyddoedd dilynol ar ôl gwerthuso effaith a chanlyniadau’r buddsoddiadau strategol hyn.
Cyllid ar gyfer y chweched dosbarth mewn ysgolion awdurdod lleol
Mae cynnydd o 3.0% i’r gyfradd fesul uned wedi’i gymhwyso i’r cyfraddau cyllido fesul dysgwr. Mae’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo dyraniadau chweched dosbarth yr awdurdodau lleol wedi cael ei defnyddio ers blwyddyn ariannol 2015-16 ac fe’i diwygiwyd ychydig ym mlwyddyn ariannol 2023-24 i roi cyfrif am ostyngiad cyson yn niferoedd y disgyblion o Bl. 10 i Bl. 11. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26 caiff hyn ei ddiwygio ychydig yn fwy yn sgil cyfraniad ychwanegol ar gyfer y Cynllun Pensiwn Athrawon (CPA), wedi’i ychwanegu ar gyfradd o 3.91%. Ar gyfer y fethodoleg gyllido, defnyddir cyfuniad o niferoedd dysgwyr o’r gorffennol a niferoedd dysgwyr demograffig a ragwelir ar gyfer pob awdurdod lleol, gan luosi’r rhain â chyfrifiad o werth rhaglen gyfartalog. Caiff ychwanegiadau ar gyfer amddifadedd, ardaloedd tenau eu poblogaeth a chyfrwng Cymraeg, ynghyd â 3% o lwfans awdurdod lleol a gadwir yn ganolog a’r cyfraniad CPA o 3.91% eu hadio at hyn i gyfrifo’r dyraniad terfynol. Nid oes darpariaeth chweched dosbarth mewn dau awdurdod lleol, sef Merthyr Tudful a Blaenau Gwent.
Addysg bellach
Mae darpariaeth amser llawn yn cynnwys darpariaeth Safon Uwch a galwedigaethol ar draws pob lefel addysgol o lefel mynediad i lefel 4 ar gyfer tua 44,000 o ddysgwyr. Mae’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo’r dyraniadau amser llawn wedi cael ei defnyddio ers 2015-16 gan wneud mân newidiadau ym mlwyddyn academaidd 2023/24 i roi cyfrif am ostyngiad cyson yn nifer y disgyblion o Flwyddyn 10 i Flwyddyn 11. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26, mae hyn wedi’i ddiwygio ychydig ymhellach, yn sgil cyfraniad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru tuag at gynnydd yng nghostau’r Cynllun Pensiwn Athrawon (CPA) i ddarparwyr AB, wedi’i ychwanegu ar gyfradd o 2.56%. Mae’r fethodoleg gyllido yn defnyddio cyfuniad o niferoedd dysgwyr o’r gorffennol a niferoedd dysgwyr demograffig a ragwelir ar gyfer pob darparydd, gan luosi’r rhain â chyfrifiad o werth rhaglen cyfartalog. At hyn, ceir ychwanegiadau ar gyfer amddifadedd, ardaloedd tenau eu poblogaeth a chyfrwng Cymraeg, ynghyd â 3% o lwfans a gadwir yn ganolog, 2% o lwfans cynnal ystadau a’r cyfraniad diweddaraf o 2.56% at y CPA er mwyn pennu’r dyraniad amser llawn terfynol. Mae cynnydd o 3.0% i’r gyfradd fesul uned wedi’i gymhwyso i’r cyfraddau cyllido fesul dysgwr.
Dyraniadau Cymorth Dysgu Ychwanegol (CDY)
Caiff cyfanswm y gyllideb Cymorth Dysgu Ychwanegol ei rannu fesul cyfran yn ôl dyraniad prif ffrwd pob coleg. Mae hyn yn cydnabod, lle bo coleg yn cynyddu/gostwng nifer ei ddysgwyr, ei bod hi’n debygol y bydd yr angen am Gymorth Ychwanegol i Ddysgwyr yn cynyddu/gostwng yn gymesur â hynny.
Addysg Uwch
Rydym wedi dyrannu cyllid strategol gwerth £650k i’r Brifysgol Agored yng Nghymru, sef yr un swm ag ym mlwyddyn academaidd 2024/25.
Mae cyllid elfen berfformio ar gyfer darpariaeth conservatoire wedi’i ddyrannu i Brifysgol De Cymru ar gyfer darpariaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, sy’n rhan o Grŵp Prifysgol De Cymru. Darperir dyraniad o £585k i gefnogi datblygiadau strategol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ogystal â’r cyllid elfen berfformio a ddarperir drwy’r premiwm pynciau drud. Mae’r cyllid strategol hwn yr un swm â’r llynedd.
Mae cyllid premiwm yn cynnwys dyraniadau ar gyfer:
Darpariaeth gradd amser llawn ar gyfer:
- Pynciau drud (meddygaeth/deintyddiaeth glinigol a darpariaeth elfen berfformiad conservatoire).
- Pynciau cost uwch (meddygaeth/deintyddiaeth anghlinigol, gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg, a gwyddorau mathemategol, TG a chyfrifiadura).
- Modiwlau cyfrwng Cymraeg.
Darpariaeth gradd ran-amser ar gyfer:
- Modiwlau cyfrwng Cymraeg.
- Mynediad a chadw.
Yr holl ddulliau a lefelau ar gyfer:
- Premiwm Anabledd.
Mae dyraniadau ymchwil ac arloesi yn cynnwys:
- Cyllid Ymchwil Cysylltiedig ag Ansawdd, sy’n gwobrwyo rhagoriaeth ymchwil gynaliadwy;
- Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru (CAYC), sy’n cefnogi’r ystod o weithgareddau cyfnewid gwybodaeth sy’n arwain at effaith economaidd a chymdeithasol, gan gynnwys rôl ehangach darparwyr o ran eu cenhadaeth ddinesig; a
- Hyfforddiant ymchwil ôl-radd.
Cyllidebau strategol
Etifeddodd Medr 49 o linellau cyllideb strategol gan CCAUC a Llywodraeth Cymru. Er mwyn galluogi dull strategol sy’n canolbwyntio mwy ar addysg drydyddol, mae’r tair llinell gyllideb ar wahân hyn wedi cael eu cyfuno i greu nifer llai o botiau strategol. Mae hyn yn arwydd o symudiad tuag at ymagwedd addysg drydyddol, gan chwalu rhwystrau rhwng rhannau o’r sector addysg drydyddol o ran y modd y dyrennir cyllid yn y dyfodol, yn unol â Chynllun Strategol Medr.
Yn y dyfodol bydd Medr yn ymgynghori ar bolisi cyllido a fydd yn nodi egwyddorion ar gyfer cyllido addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi yng Nghymru. Bydd hyn yn cael ei lywio gan y gofrestr addysg uwch newydd, lle na fydd ond y rhai yng nghategori craidd y gofrestr yn gymwys i dderbyn cyllid addysg uwch ac ymchwil ac arloesi. Bydd y polisi hefyd yn ystyried dyletswyddau strategol Medr.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2025/06: Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26
Cyflwyniad
1. Derbyniodd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ym mis Medi 2022. Yn sgil y Ddeddf sefydlwyd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a adwaenir fel Medr, sydd wedi cymryd cyfrifoldeb dros reoleiddio a chyllido’r rhan fwyaf o ddarpariaeth addysg drydyddol yng Nghymru. Daeth Medr yn weithredol o 1 Awst 2024. Y cyhoeddiad hwn yw’r cyhoeddiad cyntaf o’i fath o ran y gyllideb a chyllido, gan gynnwys yr holl sectorau trydyddol a’r cyllid a ddarperir gan Medr.
2. Cyhoeddodd Medr ei Gynllun Strategol cyntaf ar 12 Mawrth 2025, yn esbonio ei uchelgeisiau ar gyfer addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi yng Nghymru. Cyflwynir yr uchelgeisiau hyn mewn ymrwymiadau sylfaenol i’w cyflawni o fewn dwy flynedd, ac ymrwymiadau ar gyfer twf i’w cyflawni o fewn pum mlynedd. Mae’r cyllid a gyhoeddir yn y cyhoeddiad hwn wedi’i osod yng nghyd-destun yr ymrwymiadau hynny a phwysigrwydd creu sefydlogrwydd i ddarparwyr yn ystod newid i’r oruchwyliaeth dros addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi yng Nghymru.
3. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi ein cyllid cyffredinol ar gyfer darparwyr addysg drydyddol a gyllidir gan Medr yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Mae’r ddogfen hon hefyd yn cynnwys dyraniadau darparwyr unigol ar gyfer yr holl gyllid craidd a rhai cyllidebau strategol lle bônt ar gael.
4. Ar hyn o bryd mae Medr yn cyllido addysg bellach (AB) ar ran Llywodraeth Cymru drwy gytundeb asiantaeth a gyhoeddwyd o dan adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae Medr yn dyrannu cyllid drwy’r pwerau hyn i sefydliadau o fewn y sector addysg bellach, awdurdodau lleol a darparwyr prentisiaethau dan gontract.
5. Mae Medr yn gweinyddu ei gyllid ar gyfer addysg uwch (AU) yn seiliedig ar bwerau a nodir yn Neddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, sy’n pennu natur y gweithgareddau sy’n gymwys ar gyfer cyllid. Y gweithgareddau sy’n gymwys i dderbyn cyllid yw’r rhai a gyflawnir gan sefydliadau addysg uwch yn bennaf. Mae rhywfaint o gyllid addysg uwch yn cael ei ddyrannu i sefydliadau addysg bellach, ond dim ond ar gyfer darparu cyrsiau addysg uwch rhagnodedig y gall Medr ddyrannu’r cyllid hwn.
6. Bydd y cytundeb asiantaeth a’r pwerau a nodir uchod yn parhau nes bo’r pwerau cyllido a nodir yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn cael eu gweithredu.
7. Ar wahân i hyn, rydym yn rheoleiddio sefydliadau a chanddynt Gynlluniau Mynediad a Ffioedd cymeradwy o dan bwerau a nodir yn Neddf Addysg Uwch (Cymru) 2015. Yn sgil cael eu rheoleiddio, bydd cyrsiau gradd ac ôl-radd sefydliadau’n cael eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr. Ar gyfer cyrsiau nad ydynt wedi’u dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr, rydym yn gweinyddu proses sy’n galluogi darparwyr i ddynodi cyrsiau fesul achos. Nid yw‘r ddwy broses hon sy’n arwain at ddynodi cyrsiau gan Lywodraeth Cymru yn gysylltiedig â’n swyddogaethau i ddarparu cyllid i sefydliadau. Gan hynny, ni fydd cael eu rheoleiddio na chael cyrsiau wedi’u dynodi yn golygu y bydd darparwyr yn derbyn y cyllid a weinyddir gennym ac sydd wedi’i nodi ar ffurf dyraniadau yn y cyhoeddiad hwn.
8. Ar gyfer prifysgolion yng Nghymru a darparwyr eraill yng Nghymru sy’n derbyn cyllid craidd AU, nid yw cyllid Medr yn cynnwys taliadau ar gyfer benthyciadau a grantiau ffioedd dysgu na thaliadau cymorth eraill i fyfyrwyr. Gweinyddir y rhain gan Lywodraeth Cymru drwy’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Nid yw darparwyr prentisiaethau, colegau a chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yn derbyn ffioedd dysgu ac eithrio ar gyfer darpariaeth AU. Y cyllid craidd a ddyrennir gan Medr sydd i gyfrif am y rhan fwyaf o’u hincwm.
9. Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyllid i Medr yn flynyddol ar sail blwyddyn ariannol o 1 Ebrill i 31 Mawrth. Mae Medr yn dyrannu cyllid i’r rhan fwyaf o sefydliadau a darparwyr cymwys ar sail blwyddyn academaidd o 1 Awst i 31 Gorffennaf. Rydym yn defnyddio’r fformat hwn: 2025-26, i ddynodi’r flwyddyn ariannol hyd at 31 Mawrth 2026, a’r fformat hwn: 2025/26, i ddynodi’r flwyddyn academaidd hyd at 31 Gorffennaf 2026.
10. Yn y dyfodol bydd Medr yn ymgynghori ar bolisi cyllido a fydd yn nodi egwyddorion ar gyfer cyllido addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi yng Nghymru. Bydd hyn yn cael ei lywio gan y gofrestr addysg uwch newydd, lle na fydd ond y rhai yng nghategori craidd y gofrestr yn gymwys i dderbyn cyllid addysg uwch ac ymchwil ac arloesi. Bydd y polisi hefyd yn ystyried ein dyletswyddau strategol.
Cynnwys
11. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cwmpasu pob elfen o’n dyraniad cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb derfynol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26 ym mis Mawrth 2025. Derbyniwyd y llythyr cyllido cyfatebol ym mis Mawrth 2025.
12. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys yr holl grantiau craidd sy’n seiliedig ar fformiwla. Lle bo modd, mae grantiau a ddyrennir drwy gyllidebau strategol, a all fod yn amodol ar ddarparu cynllun neu strategaeth gwariant benodol, hefyd wedi’u cynnwys.
13. Caiff manylion dyrannu cyfalaf ar gyfer sefydliadau AU[1] eu cyhoeddi ar wahân, yn ogystal â dyraniadau cyllid ar gyfer mentrau addysg drydyddol strategol fel llesiant ac iechyd meddwl a chymorth cyflogadwyedd wedi’i dargedu. Er tryloywder, caiff y dyraniadau hyn eu cyfleu drwy gyhoeddiadau ar wahân.
[1] Darperir cyllid cyfalaf ar gyfer yr ystâd AB yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru drwy’r rhaglen cymunedau cynaliadwy.
Medr/2025/06: Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26
Dyddiad: 06 Awst 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/06
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid colegau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg; Penaethiaid Chweched Dosbarth Ysgolion; Arweinwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned Awdurdodau Lleol; Deiliaid Contractau Prentisiaeth
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos sut y dosberthir cyllid cyffredinol Medr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26 gan gynnwys dyraniadau sefydliadol unigol ar gyfer holl gyllid craidd addysg drydyddol.
Medr/2025/06 Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26Atodiadau’r dyraniadau
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2025/05: Cyfarwyddyd cyfrifon i golegau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer 2024/25
1. Cyflwyniad
1.1 Cyfarwyddyd cyfrifon
Mae’r cyfarwyddyd cyfrifon hwn yn hysbysu colegau ynghylch gofynion Medr o ran fformat eu datganiadau ariannol archwiliedig ar gyfer y flwyddyn 2024/25.
Defnyddiwn y term “coleg” i gyfeirio at gorfforaethau addysg bellach a cholegau chweched dosbarth, a sefydlwyd dan ddarpariaethau Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
Mae Medr yn cyhoeddi’r cyfarwyddyd cyfrifon ar ran Llywodraeth Cymru, sef prif reoleiddiwr colegau addysg bellach Cymru fel elusennau eithriedig. Mae cydymffurfio â’r cyfarwyddyd cyfrifon hwn yn un o’r gofynion ar gyfer telerau cyllid colegau gyda Medr a chyllidwyr cyhoeddus eraill.
Mae colegau yng Nghymru’n dal i fod yn ddarostyngedig i Femorandwm Ariannol Llywodraeth Cymru nes daw fframwaith rheoleiddio Medr ei hun i rym.
Tybir bod cyfeiriadau at Medr yn cyfeirio at y cydgyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru trwy Medr.
Mae’r cyfarwyddyd cyfrifon hwn wedi’i fwriadu i gael ei ddefnyddio’n bennaf gan:
This accounts direction for primarily for use by:
a) penaethiaid, prif weithredwyr / swyddogion cyfrifyddu, a chyfarwyddwyr cyllid
b) llywodraethwyr
c) archwilwyr allanol / cyfrifwyr adrodd
1.2 Cefndir
Mae paragraff 36 y Memorandwm Ariannol rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015 (dogfen ganllaw rhif: 160/2015), yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gydymffurfio â’r Cyfarwyddyd Cyfrifon a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Medr. Bydd y cyfarwyddyd yn cwmpasu gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y datganiadau ariannol, y modd y dylid eu cyflwyno, y dulliau a’r egwyddorion y cânt eu paratoi yn unol â hwy, ac y byddant yn unol ag Arfer Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y DU a’r Datganiad o’r Arfer a Argymhellir: Cyfrifyddu ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch 2019 (‘SORP AB ac AU’).
Wrth gyhoeddi’r cyfarwyddyd hwn mae Medr yn dymuno sicrhau bod y ffurf, cynnwys a datgeliadau yn natganiadau ariannol sefydliadau’n dilyn arfer da, eu bod yn gyson ar draws y sector ac yn ateb unrhyw ofynion penodol gan Lywodraeth Cymru.
Medr/2025/05: Cyfarwyddyd cyfrifon i golegau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer 2024/25
Dyddiad: 31 Gorffennaf 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/05
At: Benaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol; Prif swyddogion cyllid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol
Ymateb erbyn: 31 Rhagfyr 2025
Crynodeb:
Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu gwybodaeth am ofynion Medr ar gyfer fformat datganiadau ariannol archwiliedig sefydliadau addysg bellach yng Nghymru.
Medr/2025/05 Cyfarwyddyd cyfrifon i golegau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer 2024/25Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioCefnogi dros 1000 o gyflogeion Tata Steel trwy gyllid sgiliau cyhoeddus
Mae dros fil o gyflogeion a oedd yn wynebu dyfodol ansicr o ganlyniad i benderfyniad Tata Steel UK i roi’r gorau i gynhyrchu dur yn y ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot wedi cael eu cynorthwyo i ddatblygu sgiliau newydd trwy raglen arloesol o ddysgu lleol.
Gyda chyllid a ddarparwyr yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru ac a ddarperir ers mis Awst 2024 gan Medr, y corff newydd sy’n gyfrifol am gyllido a rheoleiddio’r sector trydyddol* yng Nghymru, mae niferoedd sylweddol wedi manteisio ar y cynllun Cyfrifon Dysgu Personol (PLA), ac mewn llawer o achosion mae’r cynllun wedi bod yn arfogi dysgwyr yn gyflym â’r sgiliau ar gyfer cyflogaeth amgen.
Dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf yn unig, mae’r Cyfrifon Dysgu Personol sy’n rhan o’r ymyriad ar gyfer gweithlu Tata Steel wedi cynorthwyo 800 o weithwyr i wneud 995 o gyrsiau Cyfrifon Dysgu Personol, ac mae 215 o ddysgwyr eraill sydd wedi bod yn gwneud ymhell dros 300 o gyrsiau wedi cael eu cefnogi dros y misoedd diwethaf.
Roedd Ben, sy’n 40 oed ac yn dad i ddau o blant yn eu harddegau, wedi bod yn gweithio yn Tata Steel am 24 mlynedd, ac mae’n un o’r cyn-gyflogeion sydd wedi cael budd o Gyfrif Dysgu Personol. Ar ôl adnabod a chwblhau cyrsiau lluosog gyda Choleg Castell-nedd, mae bellach wedi dod o hyd i gyflogaeth amgen.
Meddai Ben: “Fe ddewisais i’r cyrsiau am mai’r rheiny oedd yn gweddu orau i mi fel ffordd o atgyfnerthu ac adeiladu ar fy mhrofiadau a’m hyfforddiant yn Tata, nad oedd wastad yn cael ei achredu’n swyddogol gan gyrff allanol. A minnau heb gael rhyw lawer o lwyddiant yn y farchnad swyddi ar gyfer y rolau yr oedd gennyf ddiddordeb ynddynt, mae wedi bod yn agoriad llygad go iawn cael gweld effaith yr achrediadau yr wyf wedi eu hennill.
“Ers hynny dangoswyd diddordeb ynof ar gyfer rolau a chan gwmnïau lluosog ac yn ddiweddar rwyf wedi derbyn swydd ar brosiect ynni mawr ar lefel y DU nid nepell o Bort Talbot. Rwyf wir yn ei mwynhau.’
Eglurodd Simon Pirotte, Prif Weithredwr Medr: “Yn amlwg, mae digwyddiadau diweddar ym Mhort Talbot wedi ei gwneud yn ofynnol i nifer o gyflogeion a busnesau yn y gadwyn gyflenwi ystyried eu dyfodol o’r newydd.
“Yr hyn yr ydym ni, a Llywodraeth Cymru o’n blaenau, wedi llwyddo i’w wneud trwy dargedu cyllid i ddiwallu anghenion penodol y rhai sy’n gallu cael mynediad ato, yw gweithio gyda’n colegau, darparwyr hyfforddiant a busnesau lleol nid dim ond i roi optimistiaeth ynglŷn â chyflogaeth amgen i lawer ond, mewn nifer o achosion, darparu’r sgiliau sydd wedi helpu i gyflawni union hynny.
“Rwyf wrth fy modd i gadarnhau y bydd yr ymyriad hwn sydd wedi’i glustnodi, yn dilyn ei lwyddiannau, yn parhau yn ystod 2025/2026.”
Meddai’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells: “Rydym wedi gwneud ymrwymiad i’r gymuned gyfan ym Mhort Talbot na fyddent yn cael eu gadael ar ôl o ganlyniad i benderfyniad Tata i newid gweithrediadau yn y gwaith dur yn gyflym ac mae’r Cyfrifon Dysgu Personol pwrpasol hyn yn enghraifft ardderchog o sut yr ydym ni, gan weithio gyda Medr a phartneriaid, yn darparu ymyriadau sy’n cael effaith fawr i ailsgilio pobl a’u cynorthwyo i gael cyflogaeth leol amgen.
“Mae’n dda iawn gennyf weld Medr yn parhau â’r ymyriad hwn yn ystod 2026 a byddwn yn annog unrhyw un sy’n gymwys ac nad yw wedi cael mynediad ato eto i ystyried sut y gallai fod o fudd iddynt hwy.”
Nod y rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol yw helpu unigolion i uwchsgilio neu ailsgilio mewn sectorau sy’n flaenoriaeth, yn enwedig y rhai sy’n ennill llai na’r ffigwr blynyddol gros canolrifol ar gyfer oedolion sy’n gweithio’n llawn-amser yng Nghymru. Trwy ganolbwyntio ar sectorau sy’n flaenoriaeth genedlaethol, mae’r rhaglen yn gwella potensial cyfranogwyr i ddilyn gyrfaoedd ac ennill cyflog. Mae Cyfrifon Dysgu Personol Tata yn dileu rhai o’r rhwystrau mynediad er mwyn teilwra’r cymorth yn fwy i anghenion gwahanol y gweithlu.
Gall unigolion ymgeisio naill ai’n uniongyrchol i’r colegau neu drwy Cymru’n Gweithio. Bydd yr holl sefydliadau’n sicrhau bod ganddynt broses ar waith i gefnogi ceisiadau am Gyfrifon Dysgu Personol, cynnal yr asesiad cychwynnol a phrosesu cofrestriadau.
Nodiadau
*Mae’r sector trydyddol yn ymwneud ag addysg ar gyfer pobl uwchlaw oedran ysgol gorfodol – gan gynnwys, ymhlith eraill, colegau, prifysgolion a lleoliadau galwedigaethol.
Mae ymyriad a dargedir ar gyfer gweithlu Tata wedi bod yn weithredol ers 1 Ebrill 2024, Ers hynny, mae’r rhai a gyflogwyd yn uniongyrchol gan Tata Steel UK a chadwyn gyflenwi’r cwmni yng Nghymru wedi bod yn gymwys ar gyfer Cyfrif Dysgu Personol (PLA), gan roi’r cymorth hyblyg sy’n angenrheidiol i ailhyfforddi a newid gyrfa.
Hefyd, rhaid i’r holl ymgeiswyr gael cynnig cymorth cyflogadwyedd trwy Raglen Camau i Gyflogaeth Gyrfa Cymru. Lle mae unigolion wedi cadarnhau y byddent yn croesawu cymorth ychwanegol, rhaid i’r sefydliadau Addysg Bellach amcanu at ddarparu’r offer y mae eu hangen arnynt.
Mae’r cyllid a’r ymyriad hwn yn ychwanegol at gyllid a gyhoeddwyd gan Fwrdd Pontio Tata.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioYmatebion i ymgynghoriadiau: Rheoleiddio darparwyr addysg uwch a dynodi cymorth i fyfyrwyr
Rheoleiddio darparwyr addysg uwch a dynodi cymorth i fyfyrwyr
Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer rheoliadau pellach i gefnogi sefydlu cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol sy’n darparu addysg uwch yng Nghymru.
Ymateb i’r Ymgynghoriad gan Medr: 3 Gorffennaf 2025
Ymateb Medr i Ymgynghoriad Llywodraeth CymruRhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMae pob un o wyth prifysgol Cymru wedi ennill Gwobr Efydd Cydraddoldeb Hiliol
Mae prifysgolion yn cefnogi gwaith ei gilydd i wella cynrychiolaeth, profiad, dilyniant a llwyddiant staff a myfyrwyr lleiafrifiedig ym maes addysg uwch.
Mae pob un o’r wyth prifysgol yng Nghymru – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Wrecsam – wedi cydweithio i ennill gwobr Efydd Siarter Cydraddoldeb Hiliol. Cenhadaeth y Siarter Cydraddoldeb Hiliol yw gwella cynrychiolaeth, profiad, dilyniant a llwyddiant staff a myfyrwyr lleiafrifiedig ym maes addysg uwch. Mae’n cynnig fframwaith trylwyr a chadarn y mae sefydliadau’n ei ddefnyddio fel sail i fyfyrio’n feirniadol a gweithredu ar rwystrau sefydliadol a diwylliannol sy’n rhwystro eu cynnydd a’u llwyddiant.
Yn ôl Anne Mwangi, Pennaeth y Siarter Cydraddoldeb Hiliol: “Mae’r cyflawniad hwn mewn tair blynedd yn eithriadol ac yn ganlyniad gwych i addysg drydyddol yng Nghymru, gan ddangos yr ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Mae gwobr Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hiliol yn gydnabyddiaeth o sylfaen gadarn sefydliad ar gyfer dileu anghydraddoldebau hiliol, datblygu diwylliannau cynhwysol a symud o ddangos ymrwymiad i weithredu’n gadarn ac yn uchelgeisiol mewn modd cynaliadwy ac integredig.
“Mae’r prifysgolion wedi cydweithio drwy gydol y broses, gan rannu arferion gorau a dulliau arloesol sydd wedi cyfoethogi eu cynlluniau gweithredu unigol, bob un wedi’i deilwra’n ofalus i’w cyd-destun sefydliadol penodol. Mae’r gwobrau hyn yn dilyn adolygiadau cyfoedion annibynnol trylwyr o bob cais ar wahân. Daw’r adolygwyr i gyd o’r sector.
“Mae AU Ymlaen yn edrych ymlaen at gefnogi’r sefydliadau hyn wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau gweithredu i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol.”
Meddai Kieron Rees, Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr yn Medr: “Mae hwn yn gyflawniad arwyddocaol gan brifysgolion Cymru. Rydyn ni, fel ein corff rhagflaenol CCAUC, yn falch o fod wedi gallu cefnogi prifysgolion yn y gwaith pwysig hwn. Hoffem dalu teyrnged i waith caled y staff wrth sicrhau’r gydnabyddiaeth hon.
“Gwyddom y bydd prifysgolion yn parhau â’u cynnydd yn y maes hwn, gan adeiladu ar y sylfeini cryf o fod wedi cyflawni Gwobr Efydd Siarter Cydraddoldeb Hiliol AU Ymlaen.” Byddwn ninnau hefyd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, y sector addysg drydyddol ac ymchwil, a phartneriaid allweddol yn y sector i wneud cynnydd tuag at gyflawni Cymru wrth-hiliol a sicrhau amgylcheddau dysgu a gwaith cynhwysol i bawb.”
Meddai’r Athro Paul Boyle, Cadeirydd Prifysgolion Cymru: “Mae’r cyflawniad nodedig hwn gan brifysgolion Cymru yn dyst i ymrwymiad parhaus y sector i greu amgylcheddau dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol i staff a myfyrwyr. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio a phwrpas cyffredin.”
Mae’r gwobrau yng Nghymru yn cyd-daro â degfed pen-blwydd Siarter Cydraddoldeb Hiliol. Gwelwyd gwelliannau mewn cynrychiolaeth ar gyfer staff lleiafrifiedig yn y deng mlynedd yn y DU ers sefydlu’r Siarter:
- Mae cyfran yr academyddion lleiafrifiedig wedi cynyddu 9.6 pwynt canran o 12.8% yn 2012/13 i 22.4% yn 2022/23
- Mae cyfran yr athrawon lleiafrifiedig wedi cynyddu 4.4 pwynt canran o 8.4% o athrawon yn 2012/13 i 12.8% o athrawon yn 2022/23
- Mae cyfran penaethiaid lleiafrifiedig sefydliadau wedi cynyddu 10.5 pwynt canran o 0% yn 2012/13 i 10.5% yn 2022/23.
Bydd AU Ymlaen yn cefnogi pob un o’r wyth prifysgol wrth iddynt weithio i roi eu cynlluniau gweithredu ar waith a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol mewn addysg uwch yng Nghymru, yn union fel y mae wedi gwneud yn ystod y gwaith a wnaed i ennill y gwobrau hyn.
Nodiadau
Medr
- Darparwyd cyllid yn wreiddiol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) W22/05HE: Ymgynghoriad ar gyllid i gefnogi cydraddoldeb hiliol mewn addysg uwch i fynd i’r afael â hiliaeth a chefnogi newid diwylliant mewn addysg uwch, yn unol â datblygiadau polisi hil, mynediad a llwyddiant a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Roedd y cyhoeddiad cychwynnol yn cynnwys amodau cyllid cyfatebol a’r disgwyliad y byddai prifysgolion yn cyflawni gwobr siarter cydraddoldeb hiliol erbyn 2024/25. Cadarnhaodd pob prifysgol i CCAUC eu bwriad i gyflawni’r ymrwymiad hwn erbyn diwedd 2025.
AU Ymlaen
- Mae eleni hefyd yn nodi ugeinfed pen-blwydd Siarter Athena Swan, fframwaith i gefnogi a thrawsnewid cydraddoldeb rhywiol mewn addysg uwch (AU) ac ymchwil. Mae Siarteri Cydraddoldeb AU Ymlaen yn gatalyddion ar gyfer newid – gan gefnogi sefydliadau addysg uwch a sefydliadau ymchwil yn eu gwaith i drawsnewid eu diwylliannau a chael effaith ar fywydau staff a myfyrwyr.
- Ym mis Ionawr 2026, byddwn yn lansio’r Fframwaith Sefydliadau Cynhwysol, a gynlluniwyd i helpu sefydliadau i alinio ac ymgorffori eu blaenoriaethau ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant, ehangu cyfranogiad a mynediad. Rhagor o wybodaeth.
Cyhoeddwyd yr eitem newydd hon yn wreiddiol gan Advance HE: Mae pob un o wyth prifysgol Cymru wedi ennill Gwobr Efydd Cydraddoldeb Hiliol.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioSta/Medr/14/2025: Hynt Graddedigion, 2022/23
Prif bwyntiau
Beth mae graddedigion yn ei wneud?
O blith y graddedigion o ddarparwyr addysg uwch (AU) Cymru a ymatebodd i arolwg Hynt Graddedigion 2022/23:
- Roedd 68% mewn cyflogaeth â thâl, 1% yn gwneud gwaith gwirfoddol neu ddi-dâl, 7% yn astudio ymhellach ac 11% yn gwneud cyfuniad o waith ac astudiaethau pellach.
- Roedd 6% yn ddi-waith a 7% yn gwneud rhywbeth arall, fel teithio, gofalu am rywun, neu wedi ymddeol.
O blith y graddedigion o Gymru a oedd yn astudio yn unrhyw ran o’r DU, ac a ymatebodd i arolwg Hynt Graddedigion 2022/23:
- Roedd 70% mewn cyflogaeth â thâl, 1% yn gwneud gwaith gwirfoddol neu ddi-dâl, 6% yn astudio ymhellach ac 11% yn gwneud cyfuniad o waith ac astudiaethau pellach.
- Roedd 4% yn ddi-waith a 7% yn gwneud rhywbeth arall, fel teithio, gofalu am rywun, neu wedi ymddeol.
- Roedd ymatebwyr israddedig amser llawn o’r cwintel mwyaf amddifadus ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yn llai tebygol o fod mewn cyflogaeth lawnamser neu o fod yn astudio ymhellach yn llawnamser, na’r rhai o gwintel lleiaf amddifadus MALlC.
- Roedd 6% o’r ymatebwyr israddedig amser llawn yn ddi-waith; roedd hyn yr un peth yn holl gwintelau MALlC.
Ble mae graddedigion yn gweithio?
O blith y graddedigion a ymatebodd i arolwg Hynt Graddedigion ac a ddywedodd mai gwaith oedd eu gweithgarwch pwysicaf:
- arhosodd 88% o’r rhai o Gymru ac a astudiodd gyda darparydd AU yng Nghymru i weithio yng Nghymru.
- arhosodd 20% o’r rhai a astudiodd gyda darparydd AU yng Nghymru ond a oedd yn dod o rannau eraill o’r DU yng Nghymru i weithio.
- gwnaeth 43% o’r rhai a ddeuai o Gymru ond a astudiodd gyda darparydd AU mewn rhan arall o’r DU ddychwelyd i weithio yng Nghymru.
Myfyrdodau graddedigion
O blith y graddedigion o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru a ymatebodd i arolwg Hynt Graddedigion 2022/23:
- Roedd 84% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf fod eu gweithgarwch presennol yn ystyrlon.
- Roedd 69% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf fod eu gweithgarwch presennol yn defnyddio’r sgiliau yr oeddent wedi’u dysgu yn ystod eu hastudiaethau.
- Roedd 75% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf fod eu gweithgarwch presennol yn cyd-fynd â’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Sta/Medr/14/2025: Hynt Graddedigion, 2022/23
Cyfeirnod: Sta/Medr/14/2025
Dyddiad: 23 Gorffennaf 2025
Dynodiad: Ystadegau Swyddogol
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys canlyniadau’r arolwg Hynt Graddedigion ar gyfer ymatebwyr fu’n astudio gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru, ac ymatebwyr o Gymru a astudiaeth gyda darparwyr addysg uwch ledled y DU.
Thema: Addysg Uwch
Ffynhonnell: Arolwg Hynt Graddedigion yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)
Sta/Medr/14/2025 Hynt Graddedigion 2022/23Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2025/04: Cais am ragolygon 2025
Cyflwyniad
1. Mae’r cylchlythyr hwn yn gofyn i sefydliadau addysg uwch gyflwyno’r wybodaeth ganlynol:
• Rhan 1 – Amcangyfrifon ariannol ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2024/25 a rhagolygon ariannol ar gyfer 2025/26 i 2028/29
• Rhagolygon llifoedd arian parod misol ar gyfer y 12 mis hyd at 31 Gorffennaf 2026
• Sylwebaeth naratif i gyd-fynd â’r wybodaeth
• Rhan 2 – Niferoedd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2024/25 a rhagolygon ar gyfer 2025/26 i 2028/29
Ceir canllawiau mwy manwl isod. Mae copïau o’r ffurflenni sydd i’w cyflwyno wedi eu cynnwys yn yr atodiadau wrth y cylchlythyr hwn, ynghyd â rhagor o wybodaeth dechnegol. Mae copïau electronig o rai atodiadau sydd wedi eu cwblhau rhag blaen yn cael eu hanfon at y cysylltiadau perthnasol mewn sefydliadau er mwyn dechrau’r broses o gyflwyno rhagolygon. Mae llyfr gwaith a sylwebaeth y model rhagolygon ariannol (gyda chanllawiau perthnasol ar gyfer cwblhau) wedi eu hatodi wrth y cylchlythyr hwn yn Atodiad B, yn ychwanegol at lyfr gwaith sy’n cynnwys gwiriadau dilysu sy’n cysylltu’r niferoedd myfyrwyr a ragwelir â’r incwm ffioedd a ragwelir ar gyfer myfyrwyr cartref a thramor (Atodiadau C1a, C1d a C2).
Cefndir a chynllunio strategol sefydliadol
2. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gyflwyno gwybodaeth sy’n cynnwys rhagolygon ariannol a rhagolygon niferoedd myfyrwyr yn flynyddol. Y rheswm dros hyn yw er mwyn ein galluogi i ddeall perfformiad ariannol blaenorol sefydliadau a’u perfformiad ariannol disgwyliedig yn y dyfodol, ac mae hefyd yn ffynhonnell wybodaeth bwysig i ategu Cynlluniau Ffioedd a Mynediad a gyflwynir a deialog strategol rhwng Medr a’r sefydliadau.
Cyd-destun strategol
3. Wrth ymateb i’r cylchlythyr hwn, dylai sefydliadau ystyried yr amryw gylchlythyrau a chyhoeddiadau eraill allweddol sy’n ymwneud â datblygiadau polisi, strategaeth a chyllido addysg uwch yng Nghymru. Mae ffynonellau allweddol wedi eu cynnwys isod, gyda dolenni i gyhoeddiad y flwyddyn flaenorol lle nad yw manylion 2025/26 wedi cael eu cyhoeddi ar adeg cyhoeddi. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
• Mae llythyr cyllido blynyddol y Gweinidog at Medr yn cyhoeddi cyllid a blaenoriaethau addysg uwch am y flwyddyn gyllidol.
• Mae tybiaethau Cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 wedi cael eu cyflwyno i Benaethiaid sefydliadau.
• Cylchlythyrau Medr sy’n nodi’r dyraniadau grant craidd. Cyfeiriwyd at y cylchlythyrau diweddaraf ar adeg cyhoeddi:
o Arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (Medr/2024/09)
Crynodeb o’r gofynion o ran gwybodaeth
4. Rydym yn cyflwyno ffurflenni data rhagolygon ariannol a rhagolygon myfyrwyr unigoledig i bob sefydliad ar wahân. Anfonir y rhain, fel y bo’n briodol, at gyfarwyddwyr cyllid a chysylltiadau data a enwebwyd gan bennaeth y sefydliad. Dylai’r holl sefydliadau gyflwyno eu ffurflenni wedi’u cwblhau erbyn y dyddiadau a ddynodir i [email protected]. Yn ychwanegol at y dibenion penodol a amlinellir uchod, bydd yr holl wybodaeth y gofynnir amdani trwy’r cylchlythyr hwn yn darparu tystiolaeth i oleuo ein proses Adolygu Sicrwydd Sefydliadol.
5. Dylai sefydliadau nodi y byddwn yn ceisio diweddariadau lefel uchel i ragolygon ariannol a rhagolygon myfyrwyr ym mis Tachwedd 2025. Diben hyn fydd goleuo ein dadansoddiad o oblygiadau ariannol newidiadau i’r rhagolygon o ganlyniad i’r sefyllfa wedi’i diweddaru o ran recriwtio myfyrwyr ar gyfer 2025/26.
Rhan 1 – Rhagolygon ariannol ar gyfer y cyfnod o 2024/25 i 2028/29
6. Ein hamcanion wrth ofyn am ragolygon ariannol yw ein galluogi i:
• fonitro iechyd ariannol sefydliadau;
• monitro a yw rhagolygon sefydliadau’n ystyried yr amgylchedd addysg uwch sydd ohoni;
• cael sicrwydd bod trefniadau cynllunio ariannol effeithiol ar waith;
• sicrhau bod cyrff llywodraethu’n ymgysylltu’n briodol â phrosesau rhagolygon a chynllunio ariannol y sefydliad;
• gwirio bod gweithgarwch cynllunio strategol ac ariannol sefydliadau wedi eu hintegreiddio; a
• chynhyrchu gwybodaeth ar lefel gryno am dueddiadau ac iechyd ariannol cyffredinol y sector AU yng Nghymru.
7. Ar gyfer yr wybodaeth a gyflwynir ar hyn o bryd gofynnwn i sefydliadau baratoi rhagolygon ariannol pum mlynedd, sy’n cwmpasu’r cyfnod hyd at 2028/29. Er mwyn lleihau llwyth gwaith sefydliadau i’r eithaf, rydym wedi rhagboblogi colofnau ffigyrau gwirioneddol 2022/23 a 2023/24 yn y modelau, lle y bo’n bosibl, i gynorthwyo gydag adnabod unrhyw dueddiadau mewn perfformiad. Rydym hefyd wedi rhagboblogi’r rhagolwg ar gyfer y flwyddyn 2024/25 (fel y’i cyflwynwyd i ni ym mis Gorffennaf 2024). Byddwn yn disgwyl i ragolygon ariannol fod yn seiliedig ar gylchlythyrau perthnasol ar ddyraniadau cyllid a niferoedd myfyrwyr.
8. Dylid cyflwyno gwybodaeth am ragolygon ariannol i ni yn [email protected] erbyn 31 Gorffennaf 2025.
9. Wrth baratoi’r rhagolygon dylai sefydliadau gyfeirio at y tybiaethau cynllunio a amlinellir yn Atodiad A ac at y dogfennau a restrir ym mharagraff 3 uchod.
Cynnwys y rhagolygon ariannol
10. Mae ffurf a chynnwys y modelau rhagolygon ariannol 2024/25 i 2028/29 yn debyg i’r hyn a gyflwynwyd gan sefydliadau ym mis Gorffennaf 2024. Sylwer bod cwblhau’r rhagolygon pum mlynedd, y sylwebaeth a’r datganiad llifoedd arian parod misol yn orfodol ac y dylai hynny adlewyrchu gofynion Cod Rheoli Ariannol CCAUC (cylchlythyr HEFCW W17/16HE) rhwng Medr[1] a’r sefydliadau. Dylai’r rhagolygon fod yn seiliedig ar dybiaethau realistig. I roi cymorth i gymharu gwybodaeth dylent fod yn gyson ag unrhyw newidiadau i driniaeth gyfrifyddu a’r modd y cyflwynwyd gwybodaeth a’r modd y nodwyd dyraniadau cyllid yn y datganiadau ariannol diwethaf a chofnod cyllid HESA.
Ffurflenni gofynnol
11. Mae’r cylchlythyr hwn yn cynnwys nifer o atodiadau i’w dychwelyd at Medr:
(i) Y templed rhagolygon ariannol (Atodiad B1). Byddwn yn anfon y tablau sefydliad-benodol wedi’u rhaglenwi at gysylltiadau data a chyfarwyddwyr cyllid.
(ii) Mae’r sylwebaeth ar ragolygon ariannol (Atodiad B2) yn gofyn am ddadansoddiad naratif pellach o’r tablau yn y model rhagolygon.
(iii) Mae rhagfynegiadau o lifoedd arian parod misol ar gyfer y 12 mis hyd at fis Gorffennaf 2026 yn ofynnol hefyd.
Rhoddir crynodebau o’r gofynion ar gyfer pob un isod. Rhoddir canllawiau ynghylch cwblhau’r prif ragolwg yn Atodiad B3.
Templed rhagolygon ariannol (Atodiad B1)
12. Rydym yn disgwyl i unrhyw dwf dros ffigyrau recriwtio 2024/25 gael ei egluro’n llawn, gyda thystiolaeth ategol gadarn yn cael ei darparu.
13. Mae’r rhagolwg ariannol yn cynnwys templed ‘senarios anffafriol’ ar gyfer 2025/26. Ceir ansicrwydd sylweddol o hyd yn y sector a’r economi ehangach, ac mae’r templed hwn yn darparu sicrwydd bod eich cyrff llywodraethu wedi rhoi ystyriaeth briodol i senarios anffafriol yn ogystal â darparu data ar ein cyfer i asesu risg i’r sector:
(i) Dylid cynnwys addasiadau mewn meysydd eraill yn y rhagolwg hefyd lle nad yw twf o’r fath yn sicr neu lle mae cost yn briodoledig i dwf yn niferoedd y myfyrwyr, er enghraifft cyfleusterau a phreswylfeydd.
(ii) Tybir bod costau ar lefel eich rhagolwg ar gyfer 2025/26. Dylai camau lliniaru sy’n ofynnol gael eu nodi’n fanwl yn y naratif am y rhagolwg.
14. Rhoddir canllawiau manwl ynghylch cwblhau’r templed rhagolygon ariannol yn Atodiad B3. Caiff canllawiau ynghylch newidiadau i’r templed eu dynodi mewn glas er mwyn eu gwneud yn rhwydd cyfeirio atynt.
Sylwebaeth ar y rhagolygon ariannol (Atodiad B2)
15. Dylai sefydliadau ddarparu sylwebaeth ar y rhagolygon ariannol gan ddefnyddio’r profforma yn Atodiad B2. Mae hwn yn rhestru gofynion manwl ar gyfer gwybodaeth am nifer o agweddau allweddol ar y rhagolwg ariannol, ond y nod ar y cyfan yw bod sefydliadau’n darparu:
(i) sicrwydd bod y rhagolygon ariannol yn deillio o gynllun strategol cyfredol a strategaeth ariannol gyfredol y sefydliad a’u bod yn gyson â’r rhain a bod cysylltedd â pherfformiad ariannol diweddar yn ogystal â’r gudd-wybodaeth ddiweddaraf a allai effeithio ar ragolygon megis recriwtio myfyrwyr;
(ii) gwybodaeth ategol ychwanegol am y tybiaethau allweddol yn y rhagolygon ariannol; a
(iii) eglurhad o dueddiadau pwysig yn y niferoedd a ragwelir ar draws y cyfnod, yn enwedig mewn perthynas â’r dangosyddion allweddol megis hylifedd, llif arian parod gweithredu, gwarged gweithredu a chreu arian parod.
(iv) naratif am gynllunio wrth gefn ar gyfer y prif heriau a adnabuwyd gan y sefydliad. Dylai hyn gynnwys unrhyw effaith ar recriwtio myfyrwyr a dychwelwyr cartref a thramor, ynghyd â’r canlyniadau ariannol ar gyfer ffioedd dysgu a ffrydiau incwm cysylltiedig ar gyfer incwm, llif arian parod gweithredu net a chreu arian parod.
(v) Yn yr hinsawdd bresennol byddem yn disgwyl i’r naratif gynnwys ystyried y lefelau uwch o risg y mae’r sefydliad yn agored iddynt, oherwydd y gofyniad i arallgyfeirio incwm oddi wrth fyfyrwyr israddedig amser llawn o’r DU, ac unrhyw sensitifrwydd cysylltiedig i gostau ychwanegol a gwaith arall i fodelu’r risgiau hyn.
(vi) Ar ochr costau byddem yn disgwyl i’r naratif gynnwys ystyried y risg sy’n gysylltiedig â phwysau chwyddiannol, yn rhai sy’n ymwneud â staff ac nad ydynt yn ymwneud â staff, ac i ba raddau y mae cynlluniau’r sefydliad yn sensitif i’r rhain.
Mae newidiadau i’r gofynion o’i gymharu â 2024 wedi eu hamlygu mewn melyn.
Rhagolygon llifoedd arian parod misol
16. Rydym yn gofyn am gyflwyno rhagolygon llifoedd arian parod misol ar gyfer y 12 mis hyd at fis Gorffennaf 2026. Mae paratoi rhagolygon arian parod ar gyfer 12 mis yn un o ofynion y Cod Rheoli Ariannol [para 83]. I hwyluso hyn, nid ydym yn ei gwneud yn ofynnol defnyddio fformat a ragnodir ar gyfer y ffurflenni hyn. Fodd bynnag, rydym yn ei gwneud yn ofynnol:
a. paratoi’r ffurflen yn ddigon manwl i adnabod yn glir beth yw’r prif ffrydiau incwm a gwariant;
b. bod unrhyw fuddsoddiadau neu gyfleusterau benthyca y disgwylir eu defnyddio neu eu talu’n ôl yn cael eu hadnabod yn glir;
c. dangos llif net misol arian parod i mewn / (allan);
d. dangos balansau agoriadol a chau misol arian parod yn y banc ar wahân i’r defnydd o fuddsoddiadau / cyfleusterau benthyca byrdymor; ac
e. dangos cyfanswm asedau hylifol, a chyfleusterau benthyca sydd ar gael, yn fisol. Lle y bo’n briodol dylai unrhyw arian parod cyfyngedig gael ei adnabod yn glir fel eitem ar wahân i gronfeydd wrth gefn rhydd.
f. Dylai balansau arian parod ar ddiwedd y flwyddyn fod yn gyson â’r rhagolygon a gyflwynir
17. Er y byddwn yn parhau i fonitro llifoedd arian parod gwirioneddol yn erbyn y rhagolygon hyn fel rhan o’n trafodaethau rheolaidd gyda chyfarwyddwyr cyllid, cyfrifoldeb corff llywodraethu pob sefydliad yw hysbysu Medr ynghylch digwyddiadau adroddadwy, gan gynnwys unrhyw ddiffygion arian parod a ragwelir, o hyd. Hoffem dynnu eich sylw at baragraff 84 yn y Cod Rheoli Ariannol:
Rhaid i’r corff llywodraethu hysbysu CCAUC [Medr erbyn hyn] ar unwaith os, ar unrhyw adeg yn y 12 mis sydd i ddod, yw arian parod net negyddol (fel y’i diffinnir o fewn FRS 102 S(7), gan gynnwys arian parod a symiau sy’n cyfateb i arian parod) yn cael ei ragweld am fwy na 30 diwrnod olynol.
Rhan 2 – Niferoedd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2024/25 a rhagolygon ar gyfer 2025/26 i 2028/29
18. Mae’r wybodaeth ar gyfer rhagolygon incwm ffioedd myfyrwyr yn ofynnol ar wahân yn Atodiad C. Caiff yr wybodaeth am niferoedd y myfyrwyr yn Atodiad C ei phoblogi’n awtomatig o’r tablau yn Atodiad E, i roi cymorth i’w chysoni â ffioedd myfyrwyr. Ceir canllawiau ar gyfer y rhagolygon niferoedd myfyrwyr yn Atodiad D.
19. Ceir perthynas annatod rhwng tybiaethau sefydliad ynglŷn â newidiadau yn y dyfodol i’w boblogaeth fyfyrwyr a’i ragolygon ariannol. Felly mae’r rhagolygon myfyrwyr yn nodweddion pwysig sy’n tanategu cynllun strategol a rhagolygon ariannol sefydliad.
20.Gofynnir i sefydliadau gyflwyno, i [email protected], erbyn 31 Gorffennaf 2025,ragolygon o niferoedd yr holl fyfyrwyr AU (Cartref cyllidadwy, Cartref anghyllidadwy a Thramor) ar gyfer y pum mlynedd rhwng 2024/25 a 2028/29. Mae hyn yn cynnwys rhagolygon o niferoedd myfyrwyr addysg drawswladol (TNE) mewn campysau yn yr UE a thramor (y tu allan i’r UE), i’w cynnwys yn Atodiad E, SPF3 a’r incwm ffioedd cysylltiedig sydd i’w gynnwys yn nhab Atodiad C2. Mae Atodiad D yn cynnwys gwybodaeth am y tablau a chanllawiau i gynorthwyo gyda chwblhau’r ffurflenni’n gywir. Mae copi templed o’r tablau i’w cwblhau wedi ei atodi er gwybodaeth yn Atodiadau C ac E. Byddwn yn e-bostio tablau unigol sefydliadau sy’n cynnwys gwybodaeth ddilysu a chryno. Mae tablau yn nhab Atodiadau C1 ac C2 wedi eu cynnwys yn yr un llyfr gwaith â thab Atodiad E, ac mae gwiriadau hygrededd wedi cael eu cyflwyno i helpu i wirio ffurflenni niferoedd myfyrwyr ochr yn ochr â data incwm ffioedd. Y tablau hyn y mae angen eu cwblhau a’u dychwelyd.
21. Yn ychwanegol at y rhagolygon, rydym yn gofyn am wybodaeth am niferoedd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2024/25. Y rheswm dros hyn yw er mwyn sicrhau ein bod yn gallu dwyn cymariaethau rhwng y boblogaeth fyfyrwyr ddiweddaraf a’r data incwm ffioedd myfyrwyr a ddychwelir yn nhab Atodiadau C1 ac C2. Rydym yn cydnabod y bydd yn dal i gynnwys elfen o amcangyfrif gan na fydd y flwyddyn academaidd wedi gorffen ond bydd yn rhoi niferoedd mwy cywir i ni er mwyn cymharu â thybiaethau a wnaed wrth baratoi’r ffigyrau incwm ffioedd a ragwelir. Er gwybodaeth, mae ffigyrau o Dabl 1 ystadegau cynnar myfyrwyr addysg uwch (HESES) 2024/25 wedi cael eu cynnwys fel tabl atodol.
22. Yn gyffredinol, dylai’r diffiniadau sydd wedi eu cynnwys yng nghylchlythyr Medr/2024/09, arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (HESES) 2024/25 ac yng nghofnod Alltraeth Cyfanredol HESA gael eu defnyddio wrth lunio’r wybodaeth am ragolygon myfyrwyr sy’n ofynnol gan y cylchlythyr hwn. Ceir y manylion yn Atodiad D.
23. Dylai tybiaethau fod yn gyson â’r rhai a gyflwynir yn Atodiad A, ac unrhyw dybiaethau perthnasol eraill a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r rhagolygon ariannol.
24. Ceir nodiadau pellach ar gwblhau’r tablau yn Atodiad D.
Rhyddid gwybodaeth
25. Byddwn yn trin yr holl wybodaeth a ddarperir ar ein cyfer yn y cylchlythyr hwn fel gwybodaeth gyfrinachol.
26. Fel awdurdod cyhoeddus mae Medr yn ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl gyhoeddus i gael mynediad at unrhyw wybodaeth a ddelir gan awdurdod cyhoeddus. Gall gwybodaeth a gyflwynir i Medr gael ei datgelu ar gais dan amodau’r Ddeddf. Mae gennym gyfrifoldeb i benderfynu a ddylai ymatebion gael eu gwneud yn gyhoeddus ynteu a ddylid eu trin fel gwybodaeth gyfrinachol. Gallwn wrthod datgelu gwybodaeth dan amgylchiadau lle byddai datgelu gwybodaeth yn niweidio buddiannau masnachol neu lle darparwyd gwybodaeth yn gyfrinachol (er enghraifft, amcanestyniadau ariannol ar gyfer y dyfodol). Ceir rhagor o wybodaeth am y Ddeddf, gan gynnwys yr amgylchiadau penodol pan ellir dal gwybodaeth yn ôl, yn https://ico.org.uk/ dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Rhagor o wybodaeth
27. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cylchlythyr hwn at Diane Rowland ([email protected]).
[1] Mae gofynion presennol a oedd yn eu lle dan CCAUC, gan gynnwys y Cod Rheoli Ariannol, yn dal i fod yn eu lle dan Medr nes bod fframwaith rheoleiddio newydd Medr yn ei le.
Medr/2025/04: Cais am ragolygon 2025
Dyddiad: 18 Gorffennaf 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/04
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Prif swyddogion cyllid sefydliadau addysg uwch
Ymateb erbyn: 31 Gorffennaf 2025
Mae’r cylchlythyr hwn yn gofyn i sefydliadau addysg uwch gyflwyno’r wybodaeth ganlynol:
Rhan 1 – Rhagolygon ariannol sy’n cynnwys:
• amcangyfrifon ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2024/25 a rhagolygon ariannol ar gyfer 2025/26 i 2028/29
• rhagolygon llifoedd arian parod misol ar gyfer y 12 mis hyd at 31 Gorffennaf 2026
• sylwebaeth naratif i gyd-fynd â’r wybodaeth
Rhan 2 – Niferoedd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2024/25 a rhagolygon ar gyfer 2025/26 i 2028/29
Dogfennau eraill
- Medr/2025/04 Atodiad A Tybiaethau
- Medr/2025/04 Atodiad B1 Rhagolygon ariannol 2025 templed
- Medr/2025/04 Atodiad B2 Rhagolygon ariannol sylwebaeth 2025
- Medr/2025/04 Atodiad B3 Canllawiau ar gyfer cwblhau llyfr gwaith y model rhagolygon ariannol 2025
- Medr/2025/04 Atodiadau C a E Templed Niferoedd myfyrwyr 2025
- Medr/2025/04 Atodiad D Rhagolygon niferoedd myfyrwyr Canllawiau 2025
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd
TanysgrifioArolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025
Mae boddhad myfyrwyr ymhlith israddedigion mewn colegau a phrifysgolion wedi codi yng Nghymru, gydag 82% o fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf yn dweud eu bod yn fodlon ar eu cwrs eleni.
Mae hyn yn gynnydd o gymharu ag 80% o foddhad cyffredinol yn 2024.
Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) ar agor i fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf gyda darparwyr addysg uwch yng ngwledydd y DU.
Ym mis Mawrth 2025, cyhoeddodd Medr ei Gynllun Strategol ar gyfer 2025-2030, gan amlinellu ei nod i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn darpariaeth o’r ansawdd uchaf mewn sector addysg drydyddol sy’n ymdrechu i wella’n barhaus.
Yr NSS yw un o brif ddangosyddion boddhad myfyrwyr ar gyfer Medr a’r sector addysg drydyddol, gan gasglu adborth cynhwysfawr gan fyfyrwyr addysg uwch israddedig sydd ar eu blwyddyn olaf ar agweddau allweddol ar eu profiad addysgol – o ansawdd yr addysgu a threfniadau cyrsiau hyd at effeithiolrwydd sefydliadau wrth wrando ar leisiau dysgwyr.
Roedd yr arolwg ar agor o 11 Ionawr hyd at 30 Ebrill 2025.
Yn ôl Simon Pirotte OBE, Prif Weithredwr Medr:
“Rydym yn falch o weld gwelliannau ar draws pob canlyniad cwestiwn ar gyfer Cymru yn yr NSS 2025 o’i gymharu â’r NSS 2024. Mae’n galonogol nodi hefyd fod perfformiad Cymru yn parhau i fod yn gyson ar y cyfan â sgoriau’r DU gyfan, gan ragori ar y sgoriau hynny mewn themâu fel cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd, trefniadaeth a rheolaeth, adnoddau dysgu, llais y myfyrwyr, a’r cwestiwn ynglŷn ag undebau myfyrwyr. Mae’r canlyniadau hyn yn tystio i’r gwaith dylanwadol sy’n digwydd ar draws sefydliadau yng Nghymru.
“Drwy gydol y flwyddyn mae wedi bod yn galonogol gweld y modd y mae sefydliadau ac undebau myfyrwyr wedi cydweithio i wella profiad y myfyrwyr a chefnogi eu llwyddiant. Llongyfarchiadau i bawb ar eu cyflawniadau.
“Mae sefydliadau Cymru yn cymryd canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr o ddifrif ac wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a’u cynrychiolwyr i sbarduno gwelliannau i ansawdd a gwelliant parhaus. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd ein hail ymgynghoriad ar amodau cofrestru a chyllid yn cynnwys y rhai sy’n ymwneud â chyfle cyfartal, lles staff a myfyrwyr, y Gymraeg ac ymgysylltiad dysgwyr. Byddwn hefyd yn datblygu fframwaith cyffredin ar gyfer iechyd, iechyd meddwl a lles myfyrwyr.
“Wrth inni edrych ymlaen at flwyddyn academaidd 2025/26, mae profiad myfyrwyr yn parhau i fod yn gryfder sy’n diffinio addysg uwch yng Nghymru. Rydym yn croesawu darpar fyfyrwyr a myfyrwyr y dyfodol yn gynnes i astudio yma — a gallant ddisgwyl cyrsiau gradd o ansawdd uchel, cymunedau cefnogol, a phrofiad prifysgol sy’n cyfoethogi eu bywyd yn wirioneddol.”
Canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn 2025: Data cymharol ar gyfer pob cwestiwn a drafodir yn yr arolwg
Cwestiwn | Y DU 2024 (sgôr positifrwydd %) | Y DU 2025 (sgôr positifrwydd %) | Cymru 2024 (sgôr positifrwydd %) | Cymru 2025 (sgôr positifrwydd %) | |
---|---|---|---|---|---|
1 | Pa mor dda yw’r staff am egluro pethau? | 91 | 93 | 92 | 93 |
2 | Pa mor aml y mae staff addysgu’n gwneud y pwnc yn ddiddorol? | 81 | 83 | 82 | 83 |
3 | Pa mor aml y mae’r cwrs yn ysgogol yn ddeallusol? | 85 | 86 | 85 | 86 |
4 | Pa mor aml y mae eich cwrs yn eich herio i gyflawni eich gwaith gorau? | 85 | 87 | 85 | 87 |
5 | I ba raddau ydych chi wedi cael y cyfle i archwilio syniadau a chysyniadau yn fanwl? | 84 | 85 | 83 | 85 |
6 | Pa mor dda y mae eich cwrs yn cyflwyno pynciau a sgiliau mewn ffordd sy’n adeiladu ar yr hyn yr ydych eisoes wedi’i ddysgu? | 85 | 87 | 86 | 87 |
7 | I ba raddau ydych chi wedi cael y cyfle i ddod â syniadau a gwybodaeth ynghyd o wahanol destunau? | 84 | 85 | 83 | 85 |
8 | I ba raddau y mae eich cwrs yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng astudio dan gyfarwyddyd ac astudio annibynnol? | 77 | 79 | 78 | 80 |
9 | Pa mor dda mae eich cwrs wedi datblygu gwybodaeth a sgiliau yr ydych yn meddwl y bydd eu hangen arnoch ar gyfer y dyfodol? | 83 | 85 | 83 | 86 |
10 | Pa mor eglur oedd y meini prawf marcio a ddefnyddiwyd i asesu eich gwaith? | 76 | 78 | 78 | 80 |
11 | Pa mor deg fu’r marcio a’r asesu ar eich cwrs? | 81 | 84 | 83 | 85 |
12 | Pa mor dda y mae’r asesiadau wedi eich galluogi i ddangos yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu? | 82 | 84 | 82 | 84 |
13 | Pa mor aml ydych chi wedi cael adborth asesu ar amser? | 80 | 83 | 83 | 85 |
14 | Pa mor aml y mae adborth yn eich helpu i wella eich gwaith? | 73 | 75 | 74 | 75 |
15 | Pa mor hawdd oedd hi i gysylltu â staff addysgu pan oedd angen i chi wneud hynny? | 86 | 88 | 86 | 89 |
16 | Pa mor dda y mae’r staff addysgu wedi cefnogi eich dysgu? | 86 | 88 | 87 | 89 |
17 | Pa mor dda y mae eich cwrs wedi’i drefnu? | 74 | 77 | 75 | 79 |
18 | Pa mor dda oedd unrhyw newidiadau i addysgu ar eich cwrs yn cael eu cyfleu? | 76 | 80 | 77 | 80 |
19 | Pa mor dda y mae’r adnoddau a chyfleusterau TG wedi cefnogi eich dysgu? | 85 | 87 | 84 | 87 |
20 | Pa mor dda y mae’r adnoddau llyfrgell (e.e. llyfrau, gwasanaethau ar-lein a mannau dysgu) wedi cefnogi eich dysgu? | 90 | 90 | 90 | 90 |
21 | Pa mor hawdd yw hi i gael gafael ar adnoddau pwnc-benodol (e.e. offer, cyfleusterau, meddalwedd) pan fo’u hangen arnoch? | 86 | 88 | 86 | 88 |
22 | I ba raddau ydych chi’n cael y cyfleoedd cywir i roi adborth ar eich cwrs? | 82 | 85 | 83 | 85 |
23 | I ba raddau mae barn myfyrwyr ynglŷn â’r cwrs yn cael ei gwerthfawrogi gan staff? | 77 | 80 | 78 | 81 |
24 | Pa mor eglur yw hi y gweithredir ar adborth myfyrwyr ar y cwrs? | 63 | 68 | 66 | 69 |
25 | Pa mor dda y mae undeb (cymdeithas neu urdd) y myfyrwyr yn cynrychioli buddiannau academaidd myfyrwyr? | 73 | 76 | 75 | 78 |
26 | Pa mor dda gafodd gwybodaeth am wasanaethau cymorth lles meddyliol eich prifysgol/coleg ei chyfleu? | 79 | 82 | 74 | 79 |
28 | Ar y cyfan, rwy’n fodlon ar ansawdd y cwrs | N/A | N/A | 80 | 82 |
Mae gan bob cwestiwn ddau opsiwn i ymateb yn gadarnhaol – e.e. fel arfer “i raddau helaeth” neu “i ryw raddau”; neu “yn aml iawn” neu “yn weddol aml” – a dau opsiwn i ymateb yn negyddol, gyda phumed opsiwn ‘Nid yw hyn yn berthnasol i mi’. Sgôr positifrwydd yw canran yr ymatebwyr a atebodd gan ddefnyddio un o’r ddau opsiwn cadarnhaol.
Nid oes sgôr y DU ar gyfer cwestiwn 28. Gofynnwyd cwestiwn 28 i fyfyrwyr yng Nghymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn unig ac nid i fyfyrwyr yn Lloegr.
Nodiadau
Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) yn cynnwys y rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf sy’n astudio ar gyfer cymwysterau addysg uwch (AU) yn:
- yr holl brifysgolion a cholegau addysg uwch a gyllidir ag arian cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon;
- sefydliadau addysg bellach yng Nghymru â myfyrwyr addysg uwch a gyllidir yn uniongyrchol;
- colegau addysg bellach yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Caiff yr arolwg, a gynhelir gan Ipsos, ei gyllido gan y pedwar corff cyllido a rheoleiddio addysg uwch yn y DU (Medr, y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS), Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon).
Mae’r canlyniadau llawn ar gael ar wefan yr OfS. Cyhoeddir y data ar y wefan Darganfod Prifysgol yn ddiweddarach, gan ddarparu gwybodaeth i oleuo dewisiadau myfyrwyr posibl ynghylch ble i astudio a beth i’w astudio.
Y trothwy ar gyfer cyhoeddi ar lefel sefydliad yw bod rhaid bod o leiaf 10 o fyfyrwyr wedi ymateb, ac y dylai’r rhain gynrychioli o leiaf hanner y myfyrwyr a oedd yn gymwys i gyfranogi.
Fe ymatebodd mwy na 357,000 o fyfyrwyr ar draws y DU i’r arolwg, cyfradd ymateb o 71.5%.
Mae data boddhad myfyrwyr ar gyfer y Brifysgol Agored yng Nghymru wedi’i gynnwys yn y ffigyrau ar gyfer y Brifysgol Agored (er bod y data ar gyfer y DU gyfan, fe’i rhestrir fel ‘SAUau Lloegr’).
Mae canlyniadau blaenorol yr NSS wedi’u rhestru ar wefan yr OfS o dan “archif o ddata”.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2025/03: Cyfarwyddyd cyfrifon i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer 2024/25
1. Diben y cyfarwyddyd cyfrifon hwn yw hysbysu sefydliadau am ofynion Medr ynghylch fformat eu datganiadau ariannol archwiliedig ar gyfer y flwyddyn 2024/25.
2. Mae sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn dal i fod yn ddarostyngedig i fframwaith cod rheoli ariannol (CRhA) CCAUC (Cylchlythyr CCAUC W17/16HE) nes i fframwaith rheoleiddio Medr ei hun ddod i rym.
Newidiadau o gyfarwyddyd cyfrifon 2023/24
3. Cyflwynwyd y diwygiadau canlynol i’r dogfen hon ers y fersiwn derfynol ar gyfer 2023/24:
a. Ychwanegu tudalen gynnwys er mwyn gallu cael hyd i wahanol adrannau’n rhwydd.
b. Mân newidiadau i’r naratif / teipograffeg a diweddaru dolenni’r rhyngrwyd
c. Ychwanegu paragraff 10, gan amlygu ymhellach bwysigrwydd cysondeb rhwng dadansoddiadau yn y datganiadau ariannol cyhoeddedig a chofnod cyllid HESA.
d. Ychwanegu paragraff 12 i gefnogi tryloywder.
e. Ychwanegu paragraff 32 gan gadarnhau’r ffaith bod Medr yn disgwyl cael hysbysiad ac esboniad os rhagwelir na fydd dyddiadau terfyn gofynnol yn cael eu cyrraedd.
f. Ychwanegu paragraff 33. Mae hyn yn diwygio dyddiad cyflwyno is-gyrff ansylweddol, os bodlonir gofynion penodol ac yr hysbysir Medr amdanynt.
g. Diweddaru’r cyfeiriadau a’r dolenni o CCAUC i Medr, fel bo’n briodol.
Cyfarwyddyd cyfrifon ar gyfer 2024/25
4. Mae’n ofynnol i sefydliadau addysg uwch ddilyn y Datganiad o’r Arfer a Argymhellir: Cyfrifyddu ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch 2019 (FEHE SORP), neu unrhyw ddogfennau sy’n olynu’r SORP hwn, wrth lunio’u datganiadau ariannol. Gellir cael hyd i ddolenni i’r FEHE SORP a chanllawiau ar weithredu rhai meysydd yn yr adran SORP ar wefan Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Prifysgolion Prydain (BUFDG). Os oes unrhyw anghysondebau rhwng gofynion y FEHE SORP a’r cyfarwyddyd cyfrifon hwn, y cyfarwyddyd cyfrifon hwn fydd yn drech.
5. Fel y nodwyd yn y SORP, rhaid i sefydliadau gymhwyso’r holl ofynion o dan FRS 102: y Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).
6. Yn achos sefydliad sydd hefyd yn gwmni cyfyngedig drwy warant, mae’r cyfarwyddyd hwn yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Cwmnïau 2006.
7. Bydd y datganiadau ariannol yn cael eu llofnodi gan y Swyddog Atebol a chan y Cadeirydd neu un aelod arall o’r corff llywodraethu a benodir gan y corff hwnnw.
8. Dylai sefydliadau nodi y dylid dilyn fformatau’r prif ddatganiadau cyfrifyddu (datganiad cyfunol o incwm a gwariant cynhwysfawr, datganiad cyfunol o newidiadau mewn cronfeydd wrth gefn, mantolen, a datganiad llif arian cyfunol). Dylai’r datganiadau ariannol ddilyn datganiadau ariannol enghreifftiol diweddaraf BUFDG lle bo modd, i hyrwyddo cysondeb o ran ymdriniaeth o fewn y sector, gan roi sylw digonol i amrywiaeth sefydliadau, a’r angen am eglurder wrth gyflwyno’r wybodaeth i ddefnyddwyr. Gellir cael hyd i’r model yn adran SORP ar wefan BUFDG.
9. Wrth i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) symud i ddarparu data agored, mae defnyddwyr trydydd parti yn gynyddol yn echdynnu data am sefydliadau a’r sector o’r ffynhonnell hon er mwyn cymharu a gwneud sylwadau yn hytrach nag o’r datganiadau ariannol cyhoeddedig. Byddem felly’n disgwyl i Sefydliadau roi sylw digonol i ddiffiniadau a chanllawiau HESA wrth gategoreiddio o fewn y datganiadau ariannol, er mwyn sicrhau bod y datganiadau ariannol, fel y cawsant eu cymeradwyo gan y corff llywodraethu, yn cyd-fynd â’r cofnod cyllid a gyflwynwyd i HESA wedi hynny.
10. Mae cysondeb rhwng cofnod cyllid HESA a datganiadau ariannol cyhoeddedig yn hyrwyddo cymhariaeth well rhwng sefydliadau a chysondeb y data a ddefnyddir i ddadansoddi sectorau’r DU.
11. Dylai’r nodiadau i’r cyfrifon gynnwys dadansoddiadau o incwm a gwariant ac eitemau ar y fantolen sy’n gyson ag arfer cyfrifyddu da cydnabyddedig, a dylent fod yn ddigon manwl fel bod defnyddwyr yn gallu cael dealltwriaeth glir o berfformiad ariannol y sefydliad.
12. Os yw’r cyfrifon yn cynnwys eitemau incwm neu wariant sylweddol nad ydynt yn debygol o ddigwydd eto ac/neu nad ydynt yn adlewyrchu’r perfformiad ariannol sylfaenol, dylid rhoi esboniad am hynny.
13. Dylai’r datganiadau ariannol gydymffurfio ymhellach ag unrhyw ofynion perthnasol yn Neddf Elusennau 2011 i’r graddau y mae’r Ddeddf honno’n berthnasol i sefydliad.
14. Dylai sefydliadau hefyd:
a) Sicrhau bod contractau ar gyfer archwilio allanol yn nodi bod yn rhaid i’r archwilydd allanol gynnwys adroddiad i’r corff llywodraethu yn y datganiadau ariannol ynghylch a yw’r canlynol yn wir, ym mhob ffordd berthnasol:
i. bod y datganiadau ariannol yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y sefydliad addysg uwch, ac o’i incwm a’i wariant, ei enillion a’i golledion, newidiadau i’w gronfeydd wrth gefn a’i lifoedd arian am y flwyddyn. Dylent roi ystyriaeth i ofynion statudol perthnasol, ac i ofynion datgelu a chyfrifyddu gorfodol eraill, ac i ofynion Medr;
ii. bod y datganiadau ariannol wedi’u paratoi’n briodol yn unol ag Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y DU, sef y safon adrodd ariannol (FRS102), y datganiad o’r arfer a argymhellir: cyfrifyddu ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch (FEHE SORP), a deddfwriaeth berthnasol;
iii. bod arian o ba bynnag ffynhonnell a weinyddir gan y sefydliad addysg uwch i ddibenion penodol wedi’i gymhwyso’n briodol i’r dibenion hynny a’i reoli yn unol â deddfwriaeth berthnasol;
iv. bod y sefydliad wedi defnyddio incwm, lle bo’n briodol, yn unol â pharagraff 145 y Cod Rheoli Ariannol (CRhA) (HEFCW W17/16HE) ac a yw grantiau Cynghorau Cyllido (gan gynnwys grantiau gan Medr) wedi’u cymhwyso’n unol â’r telerau ac amodau cysylltiedig, a’u defnyddio i’r dibenion y’u derbyniwyd ar eu cyfer, gan gynnwys y Telerau ac Amodau Cyllido; a
v. bod gofynion cyfarwyddyd cyfrifon Medr wedi’u bodloni.
b) Darparu dadansoddiad a datgeliad manwl o fewn y datganiadau ariannol o ffioedd archwilio a ffioedd eraill a delir i archwilwyr allanol, yn unol ag Offeryn Statudol SI 2008 Rhif 489 – Rheoliadau Cwmnïau (Datgelu Tâl Archwilwyr a Chytundebau Cyfyngu Atebolrwydd) 2008 a’r Diwygiadau i’r Rheoliadau hyn sydd wedi’u cynnwys yn Offeryn Statudol OS 2011 Rhif 2198. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer y sefydliadau hynny y mae cyfraith cwmnïau yn berthnasol iddynt. Gellir gweld yr Offeryn Statudol ar Wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (www.legislation.gov.uk).
c) Yn eu hadroddiadau neu eu llythyrau at reolwyr, dylai archwilwyr roi sylw digonol i ofynion penodol Medr, fel cydymffurfio â chodiadau i drothwyon ymrwymiadau ariannol, neu agweddau eraill ar ddiffyg cydymffurfio.
Busnes gweithredol a risg hylifedd
15. Rhaid i aelodau’r corff llywodraethu gadarnhau yn yr adroddiad blynyddol fod y datganiadau ariannol wedi’u paratoi ar sail busnes gweithredol. Rhaid iddynt hefyd gadarnhau eu bod wedi cynnal asesiad cadarn o’r prif risgiau a’r ansicrwydd perthnasol sy’n wynebu’r sefydliad, gan gynnwys y rhai a fyddai’n bygwth ei fodel busnes, ei berfformiad yn y dyfodol, ei solfedd neu ei hylifedd. Rhaid i’r adroddiad ddisgrifio’r risgiau hynny ac egluro sut maen nhw’n cael eu rheoli neu eu lliniaru.
16. Disgwylir i adran y datganiadau ariannol sy’n adrodd ar agweddau gweithredol ac ariannol esbonio sut mae’r sefydliad yn sicrhau ei gynaliadwyedd, gan gynnwys drwy ei strategaeth, ansawdd ei addysgu a’i ymchwil, metrigau cynaliadwyedd ariannol, rheolaeth ar risgiau allweddol gan gynnwys rheoli llif arian, ymrwymiadau ariannol a gynigir a phrydlesoedd perthnasol, a buddsoddiadau mewn ystadau a seilwaith. Dylai sefydliadau gyflwyno’r wybodaeth hon drwy ddefnyddio’r fformat y cytunwyd arno ar gyfer templed yr adroddiad llywodraethu blynyddol a grëwyd yn dilyn yr Adolygiad o Drefniadau Llywodraethu Prifysgolion yng Nghymru.
17. Byddem yn disgwyl i strategaeth y sefydliad fod yn glir ac yn gyson â dogfennau eraill cyhoeddedig.
Adrodd ar faterion amgylcheddol
18. Rhaid i sefydliadau gynnwys sylwadau ar y camau a gymerwyd ac a gynlluniwyd i sicrhau bod adnoddau cymdeithasol ac amgylcheddol yn gynaliadwy ar raddfa ehangach. Dylai hyn gynnwys datganiad o darged sero net y sefydliad, ymhlith agweddau eraill (lle bo hynny wedi’i ddatgan yn gyhoeddus) a’r cynnydd tuag at gyflawni hyn. Gallai agweddau i’w hystyried gynnwys gwella effeithlonrwydd ystadau, y defnydd o ynni, lleihau gwastraff hyd yr eithaf, effeithlonrwydd adnoddau, defnydd o ddŵr, caffael, bioamrywiaeth, teithio a lleihau effeithiau amgylcheddol eraill. Cyfeirir Canllawiau Llywodraeth Cymru i sylw sefydliadau ynghylch y maes hwn, sy’n nodi’r hyn i’w flaenoriaethu ar sail dosbarthu fel allyriadau uniongyrchol (cwmpas 1), allyriadau anuniongyrchol (cwmpas 2 a 3) a Defnydd o Dir, Newid y Defnydd o Dir a Choedwigaeth. Ceir canllawiau pellach yn y Fframwaith Allyriadau Carbon Safonol (SCEF) a’r Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol sy’n Gysylltiedig â’r Hinsawdd.
Llywodraethu corfforaethol a rheolaeth fewnol
19. Rhaid i sefydliadau gynnwys ‘datganiad llywodraethu corfforaethol’ yn eu datganiadau ariannol. Rhaid i’r datganiad hwn roi disgrifiad o drefniadau llywodraethu corfforaethol y sefydliad a datganiad o gyfrifoldebau’r corff llywodraethu. Rhaid iddo ymwneud yn benodol â’r cyfnod a drafodir yn y datganiadau ariannol, a’r cyfnod hyd at ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol archwiliedig.
20. Rhaid i sefydliadau gynnwys ‘datganiad rheolaeth fewnol’ yn y datganiadau ariannol. Mae’r datganiad rheolaeth fewnol yn ymwneud â threfniadau’r sefydliad ar gyfer atal a chanfod llygredd, twyll, llwgrwobrwyo ac anghysondebau eraill. Rhaid iddo gynnwys esboniad o’r modd y cafodd egwyddorion rheolaeth fewnol eu cymhwyso.
21. Gall sefydliadau gyfuno’r datganiad llywodraethu corfforaethol â’r datganiad rheolaeth fewnol, yn amodol ar wneud yr holl ddatgeliadau gofynnol. Wrth lunio eu datganiadau, dylai sefydliadau gyfeirio at ganllawiau arfer gorau, gan gynnwys canllawiau gan Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Prifysgolion Prydain (BUFDG). Mae canllawiau pellach ar y gofynion hyn wedi’u cynnwys yn Atodiad C.
22. Mae Cod Llywodraethu Addysg Uwch y Pwyllgor Cadeiryddion Prifysgol (Cod y CUC), a gafodd ei ailwampio a’i ailgyhoeddi yn 2020, yn argymell y dylai sefydliadau gynnwys yn eu datganiadau ariannol archwiliedig ddatganiad sy’n esbonio’r trefniadau llywodraethu ac yn cadarnhau y rhoddwyd sylw i God y CUC wrth fabwysiadu’r trefniadau hyn. Dylai’r datganiadau ariannol gynnwys datganiad penodol naill ai i gadarnhau bod y sefydliad wedi cydymffurfio â holl egwyddorion y Cod neu, lle ceir eithriadau, i esbonio sut yr ymdrinnir â’r rhain, gan gynnwys llinellau amser.
23. Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys datganiad penodol bod y sefydliad wedi mabwysiadu’r Siarter Llywodraethu ar gyfer Prifysgolion yng Nghymru (y Siarter Llywodraethu) yn seiliedig ar yr Adolygiad o Drefniadau Llywodraethu Prifysgolion yng Nghymru gan Gillian Camm.
24. Rhaid i’r adroddiad blynyddol ddefnyddio’r templed adroddiad llywodraethu blynyddol a ddatblygwyd mewn ymateb i adolygiad Camm fel canllaw ar gyfer strwythur yr adroddiad blynyddol.
25. Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys datganiad ar gydymffurfiaeth y sefydliad ag adolygiad Camm Ymrwymiad i Weithredu, gan gynnwys cynnydd tuag at weithredu argymhellion yr adolygiad yn llawn, lle na lwyddwyd i wneud hynny eisoes.
Datgeliadau partïon cysylltiedig
26. Atgoffir sefydliadau o’r gofynion datgelu ar gyfer trafodion partïon cysylltiedig. Rhaid datgelu trafodion o’r fath sy’n cynnwys ymddiriedolwyr, p’un a ydynt yn cael eu cynnal ar sail hyd braich ai peidio, ynghyd ag enw(au) y parti neu’r partïon cysylltiedig sy’n gwneud y trafodion. Dylai’r datgeliad hefyd gynnwys disgrifiad o’r berthynas rhwng y partïon (gan gynnwys buddiant y parti neu’r partïon cysylltiedig yn y trafodiad, disgrifiad o’r trafodiad, a’r symiau dan sylw).
27. Rhaid i sefydliadau ddatgelu rhestr o ymddiriedolwyr sy’n dal swydd yn ystod y flwyddyn ynghyd â manylion penodiadau ac ymddiswyddiadau hyd at y dyddiad llofnodi.
28. Yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru i fod yn agored a thryloyw, mae’n ofynnol i sefydliadau ddatgelu’r canlynol:
a. cyfanswm tâl gwirioneddol pennaeth y sefydliad;
b. tâl sylfaenol a chyfanswm tâl pennaeth y sefydliad, wedi’i gyflwyno ar ffurf cymhareb o gyflogau sylfaenol a chyfanswm cyflogau amser llawn staff;
c. cyfiawnhad dros dâl pennaeth y sefydliad;
d. tâl aelodau o staff sy’n derbyn cyflog uwch mewn bandiau o £5,000 gan ddefnyddio £100,000 fel man cychwyn;
e. cyfanswm y tâl i bersonél rheoli allweddol, ynghyd â naill ai nifer y personél rheoli allweddol neu restr o swyddi cymwys; a
f. manylion unrhyw iawndal a dalwyd neu sy’n daladwy i bennaeth y sefydliad ac i staff y mae eu tâl blynyddol yn fwy na £100,000, neu ddatganiad yn cadarnhau nad oedd unrhyw iawndal yn daladwy i staff ar y lefel hon yn ystod y flwyddyn.
Anogir sefydliadau i roi sylw arbennig i’r gofynion datgelu ar gyfer staff â chyflog uwch fel y manylir uchod, yn enwedig o ran y diffiniad o ‘dâl’ a’r dadansoddiad o gyflog, buddion mewn nwyddau a chyfraniadau pensiwn y cyflogwr. Ceir manylion pellach am y gofynion yn Atodiad A am dâl ac Atodiad B am iawndal.
29. Cynghorir sefydliadau, o dan Ddeddf Elusennau 2011 y dylid cynnwys yr wybodaeth ganlynol yn eu datganiadau ariannol archwiliedig a’r adroddiadau cysylltiedig:
a. statws elusennol y sefydliad;
b. yr ymddiriedolwyr a wasanaethodd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol a hyd at y dyddiad y cymeradwywyd y datganiadau ariannol yn ffurfiol;
c. datganiad bod yr elusen wedi rhoi sylw i ganllawiau’r Comisiwn Elusennau ar fudd y cyhoedd;
d. adroddiad sy’n egluro sut mae’r sefydliad wedi cyflawni ei ddibenion elusennol er budd y cyhoedd; a
e. gwybodaeth am daliadau i ymddiriedolwyr neu ar eu rhan, gan gynnwys treuliau; taliadau i ymddiriedolwyr am wasanaethu fel ymddiriedolwyr (a thaliadau o’r fath sydd wedi’u hepgor); trafodion partïon cysylltiedig sy’n cynnwys ymddiriedolwyr.
Dyddiad cyflwyno datganiadau ariannol archwiliedig i Medr
30. Dylid paratoi’r adroddiad a’r cyfrifon blynyddol fel eu bod y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Gorffennaf.
31. Dyma’r dyddiadau cau terfynol ar gyfer cyflwyno datganiadau ariannol archwiliedig i Medr a’u cyhoeddi:
Dyddiad cau | |
---|---|
Datganiadau ariannol archwiliedig | 30 Tachwedd 2025 |
Cyhoeddi ar y wefan | 31 Ionawr 2026 |
Datganiadau ariannol is-gyrff archwiliedig | 31 Rhagfyr 2025 |
32. Os daw sefydliad yn ymwybodol na fydd y gofynion uchod wedi’u cyflawni erbyn y dyddiadau cau, bydd Medr yn disgwyl cael gwybod am yr oedi a’r rhesymau am hynny ymlaen llaw, ynghyd â llinell amser ddisgwyliedig, a diweddariad rheolaidd.
33. Os bydd hi’n amlwg bod datganiadau ariannol is-gorff yn amherthnasol i farn archwilio’r grŵp, gellir defnyddio dyddiad cau arferol Tŷ’r Cwmnïau (30 Ebrill) neu’r Comisiwn Elusennau (31 Mai). Rhaid i sefydliadau a’u harchwilwyr hysbysu Medr yn ysgrifenedig cyn 31 Rhagfyr 2025 gan gadarnhau na fydd yr is-gorff/is-gyrff a enwir yn effeithio ar farn archwilio’r grŵp yn unigol na chyda’i gilydd, a’u bod yn gallu defnyddio’r eithriad hwn. Nid yw’r eithriad hwn yn berthnasol i is-gyrff sy’n cyflawni gweithgareddau trydyddol a fyddai oddi mewn i gylch gwaith Medr.
34. Dylid cyflwyno datganiadau ariannol i [email protected].
35. Adolygir y cyfarwyddyd cyfrifon yn flynyddol. Bydd y cyfarwyddyd cyfrifon yn parhau i fod mewn grym oni hysbysir sefydliadau fel arall.
36. Rydym yn argymell rhoi copi o’r cylchlythyr hwn a’i atodiadau gerbron eich Pwyllgorau Cyllid ac Archwilio er gwybodaeth.
37. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Diane Rowland ([email protected]).
Medr/2025/03: Cyfarwyddyd cyfrifon i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer 2024/25
Dyddiad: 26 Mehefin 2025
Cyfeiriad: Medr/2025/03
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Brif swyddogion cyllid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru
Ymateb erbyn: 30 Tachwedd 2025 [is-gyrff perthnasol 31 Rhagfyr 2025]
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu gwybodaeth am ofynion Medr ynghylch fformat datganiadau ariannol archwiliedig sefydliadau addysg uwch Cymru.
M/2025/03 Cyfarwyddyd cyfrifon i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer 2024/25Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio