Medr/2026/28: Gradd-brentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am fuddsoddiad mewn gradd-brentisiaethau ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, gan gynnwys y ffordd y caiff y cyfanswm cyllid o £10.111m ei ddyrannu i sefydliadau addysg uwch, ac mae’n nodi’r meini prawf y bydd angen i sefydliadau addysg uwch a phrentisiaid eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid. Caiff llythyrau cyllido eu hanfon ar wahân cyn bo hir i sefydliadau sy’n cael cyllid.

2. Caiff cyllid Medr ar gyfer gradd-brentisiaethau ei roi i sefydliadau addysg uwch ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â chynnal y cyrsiau hyn. Caiff unrhyw gyllid cymorth i fyfyrwyr unigol y gall gradd-brentisiaid fod yn gymwys i’w gael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

3. Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau wedi cael cyllid ychwanegol ar gyfer dechreuwyr newydd, sy’n bosibl oherwydd y cynnydd yn y gyllideb ar gyfer gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn academaidd 2026/27. Fodd bynnag, dylid nodi ei bod yn ymddangos bod rhai sefydliadau wedi cael cyfanswm dyraniad cyllid llai o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Y rheswm dros hyn yw bod ganddynt lai o ddysgwyr sy’n parhau ym mlwyddyn academaidd 2026/27.

4. Anogir darparwyr i hysbysebu’r cyfleoedd sydd ar gael i gyflogwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill er mwyn sicrhau y gall cynifer â phosibl o brentisiaid gael budd o raglen gradd-brentisiaeth gymwys a chofrestru arni.

Dull cyllido

5. Mae Medr wedi pennu blaenoriaethau strategol ar gyfer buddsoddi ym mlwyddyn academaidd 2026/27 sy’n ystyried data o’r sector sy’n dangos ble y gellid gwella deilliannau a gwneud y defnydd gorau o’r gyllideb sydd ar gael.

6. Mae’r blaenoriaethau cyllido ar gyfer gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn academaidd 2026/27 fel a ganlyn:

  • prentisiaethau sy’n parhau;
  • dechreuwyr newydd, yn enwedig y rhai hynny sydd rhwng 18 a 24 oed (yn unol â’r Warant i Bobl Ifanc);
  • uwchsgilio cyflogeion presennol;
  • prentisiaid â nodweddion gwarchodedig;
  • darpariaeth Gymraeg;
  • llwybr gradd adeiladu newydd – Technolegydd Pensaernïol.

7. Mae’r trefniadau cyllido fel a ganlyn:

  • Dyrennir cyllid yn seiliedig ar nifer disgwyliedig y prentisiaethau a fydd yn parhau a’r rhai newydd a fydd yn dechrau yn ystod 2026/27;
  • Bydd y cyllid yn cwmpasu fframweithiau gradd-brentisiaeth ym meysydd adeiladu, digidol, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch;
  • Mae’r gwerth credyd wedi cael ei gyfrifo gan ddefnyddio cyfanswm o £27,000 ar gyfer cwrs â gwerth credyd nodweddiadol o 360, h.y. £75 fesul gwerth credyd. Felly, bydd prentis y disgwylir iddo astudio 120 o gredydau y flwyddyn ar gwrs tair blynedd yn denu £9,000 o gyllid y flwyddyn.

8. Ni ellir hawlio cyllid am gredyd a ddyfernir drwy gydnabod dysgu blaenorol a/neu gostau cysylltiedig y broses hon.

Cyllid yn ystod blwyddyn academaidd 2026/27

9. Caiff Medr ei gyllideb gan Lywodraeth Cymru fesul blwyddyn ariannol. Wedyn, caiff y gyllideb ei throsi’n ddyraniadau ar gyfer blwyddyn academaidd sy’n tybio y bydd y gyllideb yn parhau i fod ar gael y flwyddyn ariannol ganlynol. Caiff dyraniadau i ddarparwyr eu gwneud fesul blwyddyn academaidd.

10. Y gyllideb ar gyfer gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn ariannol 2026-27 yw £10.111m, a’r swm sydd ar gael i’w ddyrannu i sefydliadau ym mlwyddyn academaidd 2026/27 yw £10.111m. Fodd bynnag, didynnir £180,183 o’r dyraniad hwn ar gyfer taliad wedi’i addasu i sefydliadau addysg uwch yn seiliedig ar eu ffurflenni data HESA wedi’u gwirio ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Felly, cyfanswm y dyraniad ar gyfer cynnal gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn 2026/27 yw £9,930,967.

11. Mae dyraniadau sefydliadau yn ystyried cynnydd yn nifer y dysgwyr sy’n parhau ym mlwyddyn academaidd 2026/27. Cytunwyd ar y dull o ddyrannu cyllid ar gyfer dechreuwyr newydd yn ystod 2026/27 gyda darparwyr gradd-brentisiaethau o’r blaen, ac mae’n seiliedig ar weithgarwch yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26 a’r ffurflen ddata Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (HESES) a gyflwynwyd gan sefydliadau addysg uwch ym mis Chwefror 2026.

Methodoleg dyrannu

12. Mae’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i gapio’r cyllidebau yn unol â’r cyllid sydd ar gael yn seiliedig ar nifer o gamau:

  1. Mae nifer y myfyrwyr sy’n parhau ar fframweithiau yn ystod blwyddyn academaidd 2026/27 yn seiliedig ar niferoedd a gyflwynwyd gan bob sefydliad ac mae’r cyllid yn seiliedig ar y gyfradd gyllido yn unol â hyd disgwyliedig y cwrs. Daw’r cyfanswm cyllid hwn sy’n ofynnol ar y sector ar gyfer myfyrwyr sy’n parhau o gyfanswm y gyllideb sydd ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27.
  2. Caiff cyllid blwyddyn academaidd 2026/27 ar gyfer dechreuwyr newydd ar fframweithiau gradd-brentisiaeth ei ddosbarthu ar sail y dull a gafodd y mwyaf o gefnogaeth yn ein hymgynghoriad anffurfiol â sefydliadau yn 2024/25.

13. Mae’r dyraniad cyllid yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

  • Cyllido dysgwyr sy’n parhau yn unol â’r nifer a gyflwynwyd gan bob sefydliad;
  • Dyrannu cyllid ar gyfer o leiaf bum dechreuwr newydd, yn seiliedig ar £9,000 fesul prentis, i bob sefydliad;
  • Dyrannu cyllid ar gyfer dechreuwyr newydd ychwanegol yn gymesur â nifer y dechreuwyr newydd yn 2025/26 a data gwariant cyffredinol y sefydliad addysg uwch ym mis Ionawr 2026, o gymharu â’i gyllideb wreiddiol a oedd yn seiliedig ar y ffurflen HESES.

14. Yr uchafswm y gellir ei ddyrannu er mwyn bodloni gofynion pob prentisiaeth yw £27,000. Mewn blynyddoedd blaenorol, rydym wedi dyrannu cyllideb o £9,000 y flwyddyn fesul prentis, yn seiliedig ar y dybiaeth mai tair blynedd fydd hyd rhaglen. Mae uchafswm y gyllideb a ddyrennir ar gyfer gradd-brentisiaethau newydd a’r rhai sy’n parhau yn seiliedig ar yr hyd cwrs byrraf, ond, pan fydd hyd y cwrs yn hwy, caiff y cyllid ei dalu ar sail nifer gwirioneddol y credydau a gwblheir.

15. Mae cyllideb uchaf gyfunol ar gyfer prentisiaethau newydd a’r rhai sy’n parhau ym mlwyddyn academaidd 2026/27 wedi cael ei dyrannu, fel y bydd modd rheoli’r rhaglen gradd-brentisiaethau yn hyblyg o fewn sefydliadau a rhwng fframweithiau a chymwysterau er mwyn bodloni’r galw gan gyflogwyr.

Dyraniadau cyllid 2026/27

16. Cyfanswm y cyllid sydd ar gael i’w ddyrannu yw £10.111m llai £180,183 (addasiadau i gyllid o flwyddyn academaidd 2024/25 i’w dalu i sefydliadau addysg uwch ym mlwyddyn ariannol 2026-27 yn seiliedig ar ddata wedi’u gwirio).

DarparwrCyfanswm y cyllid
(£)
Prifysgol Bangor911,939
Prifysgol Metropolitan Caerdydd1,037,938
Prifysgol Caerdydd243,460
Y Brifysgol Agored182,750
Prifysgol Abertawe1,194,842
Prifysgol De Cymru2,114,570
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant2,599,512
Prifysgol Wrecsam1,645,956
Cyfanswm  9,930,967

Talu grant

17. Dylai sefydliadau addysg uwch ddisgwyl cael dau daliad ar gyfer gradd-brentisiaethau yn ystod blwyddyn academaidd 2026/27. Caiff 60% o gyfanswm dyraniad cyllid sefydliad ei dalu ym mis Hydref 2026 a chaiff y 40% sy’n weddill ei dalu ym mis Mawrth 2027. Caiff addasiadau i’r ail daliad eu cyfrifo fel yr amlinellir ym mharagraffau 22-25.

18. Os bydd newidiadau i’r gyllideb neu gyfyngiadau rheoli arian parod (e.e. terfyn Medr ar gario ymlaen o un flwyddyn ariannol i’r llall), mae’n bosibl y bydd angen addasu proffil yn ystod y flwyddyn. Rhoddir gwybod yn ysgrifenedig ymlaen llaw os bydd hyn yn digwydd.

Gofynion Gradd-Brentisiaethau

19. Er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid, rhaid i brentis fod wedi’i gofrestru ar fframwaith prentisiaeth cymeradwy a rhaid i’r ddarpariaeth gydymffurfio â’r gofynion canlynol:

  • Bydd prentisiaid yn treulio 51% neu fwy o’u hamser yn gweithio yng Nghymru;
  • Rhaid i gytundeb prentisiaeth fod ar waith ac wedi’i lofnodi gan y dysgwr, y cyflogwr a’r darparwr;
  • Cynhelir asesiad cychwynnol gyda’r prentis er mwyn sicrhau y caiff profiad a dysgu blaenorol eu cydnabod, lle bo hynny’n briodol, ac y caiff gofynion cymorth dysgu ychwanegol eu hadnabod a’u cefnogi; gall prentisiaid feddu ar gymwysterau ar lefel gyfatebol sy’n eu galluogi i ddilyn y fframwaith ac a allai fod y tu allan i’r sector a ddewiswyd;
  • Caiff prentisiaid eu cefnogi yn y gweithle ag o leiaf 20% o ddysgu i ffwrdd o’r gwaith neu chwe awr o hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith bob wythnos ar gyfer unigolyn cyfwerth ag amser llawn (unigolyn sy’n gweithio 30 awr neu fwy) a/neu’r hyn sy’n cyfateb i oriau dan arweiniad tybiannol ar gyfer y credydau a gaiff eu hastudio;
  • Bydd prentisiaid yn ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith;
  • Caiff cynnydd prentisiaid ei adolygu’n aml mewn proses a fydd yn cynnwys y sefydliad a/neu’r darparwr a ariennir gan Medr, y prentis a’r cyflogwr;
  • Bydd prentisiaid yn gallu manteisio ar yr ystod lawn o wasanaethau myfyrwyr a gynigir gan y darparwr, a’i undeb myfyrwyr;
  • Cyflwynir data fel y bo’n ofynnol gan Medr;
  • Gall prentis ymadael â’r cymhwyster ag achrediad neu ardystiad o’r hyn a ddysgwyd. Ni fydd hyn yn gyfystyr â chwblhau prentisiaeth lawn yn llwyddiannus.

20. Bydd bodloni’r gofynion ar gyfer gradd-brentisiaethau a chyflawni’r blaenoriaethau cyllido yn rhoi sicrwydd i Medr bod cysondeb agos â’r rhaglen brentisiaethau ehangach yng Nghymru a bod y gofynion deddfwriaethol perthnasol yn cael eu bodloni. Mae Medr yn disgwyl i sefydliadau a ariennir ddogfennu tystiolaeth eu bod yn bodloni’r gofynion ac mae’n cadw’r hawl i archwilio’r wybodaeth honno.

Newid mewn amgylchiadau

21. Os bydd newid mewn amgylchiadau, mae’n bosibl na fydd prentis yn gymwys i ddilyn y brentisiaeth neu i gael cyllid gan Medr yn ystod cyfnod astudio mwyach. Mewn achos o’r fath, bydd yn rhaid i’r darparwr roi gwybod i Medr er mwyn iddo ystyried parhad y cyllid prentisiaeth.

Monitro ac adhawlio cyllid

22. Caiff y cyllid a ddyfernir ar gyfer 2026/27 ei fonitro gan ddefnyddio data recriwtio arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (HESES) 2026/27 a gesglir ar gyfer dechreuwyr newydd hyd at 1 Mawrth 2027 a dysgwyr sy’n parhau o flynyddoedd blaenorol. Caiff data HESES 2026/27 eu casglu a’u gwirio ym mis Chwefror 2027.

23. Bydd y cyllid yn seiliedig ar nifer y gwerthoedd credyd wedi’u cwblhau a gyflwynir. Gallai’r cyllid gael ei addasu tuag i lawr os bydd modiwlau heb eu cwblhau, os bydd myfyrwyr wedi tynnu’n ôl neu os bydd nifer y credydau ar gyfer y cwrs cyfan yn llai na 360 o gredydau yn sgil cydnabod dysgu blaenorol.

24. Bydd Tîm Prentisiaethau Medr yn cysylltu â sefydliadau ym mis Hydref a mis Rhagfyr 2026 i gadarnhau eu gwariant hyd yma a nodi unrhyw danwariant a ragwelir ar gyfer dychwelyd ac ailddosbarthu.

25. Caiff addasiadau cyllid eu cyfrifo tua diwedd y flwyddyn ariannol gan ddefnyddio data HESES, y bydd sefydliadau’n eu gwirio fel rhan o’r broses casglu data ar gyfer gradd-brentisiaethau. Gellir cael rhagor o wybodaeth gan Hannah Falvey, [email protected].

Amodau grant

26. Mae’r cyllid a ddyrennir gan Medr ar gael yn ddarostyngedig i’r amodau cyffredinol ar gyfer cyllid a delir gan Medr i Gorff Llywodraethu sefydliad. Nodir y rhain yn Nhelerau ac Amodau Cyllid Medr 2026/27.

Hyrwyddo gradd-brentisiaethau

27. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr hyrwyddo cyfleoedd am radd-brentisiaethau i amrywiaeth o ddysgwyr, yn enwedig dysgwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg drydyddol ac yn y gweithlu yng Nghymru yn y sectorau perthnasol.

28. Disgwylir i ddarparwyr gradd-brentisiaethau gymryd rhan yn y canlynol:

  • Gweithgareddau marchnata ac ymgyrchoedd cenedlaethol Medr a Llywodraeth Cymru;
  • Cystadlaethau sgiliau fel World Skills. Mae’r cystadlaethau hyn yn cynnig profiadau a heriau ychwanegol i brentisiaid a fydd yn fuddiol iddynt yn eu gyrfaoedd. Maent hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddangos cryfder sector addysg drydyddol Cymru drwy gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn WorldSkills UK (Frequently asked questions).

Asesu effaith ein polisïau

29. Byddwn yn cynnal prawf sgrinio asesiadau effaith er mwyn helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb. Hefyd, rydym wedi ystyried effaith polisïau ar y Gymraeg a darpariaeth Gymraeg yn y sector addysg uwch yng Nghymru, a’r effeithiau posibl ar y gallu i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gan gynnwys ein Hamcanion Llesiant. Cysylltwch ag [email protected] i gael rhagor o wybodaeth am asesiadau effaith. Darparwyr sy’n gyfrifol am adolygu eu hasesiadau effaith eu hunain mewn perthynas â gradd-brentisiaethau.

Rhagor o wybodaeth

30. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Simon Phelps a/neu Kelly Hillard ([email protected]).

Medr/2026/28: Gradd-brentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27

Dyddiad:  25 Mehefin 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/28

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Prifathrawon sefydliadau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant annibynnol

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi dyraniadau cyllid Medr i sefydliadau addysg uwch ar gyfer gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn academaidd 2026/27. Mae’r ddogfen yn rhoi arweiniad ar ofynion y cyllid a’r ffordd y caiff ei weinyddu.

Medr/2026/28 Gradd-brentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/27: Cyllid atodol (Elfen 3) 2025/26

1. Cyllid atodol (Elfen 3) yw’r cyllid atodol a ddarperir gan Medr i gefnogi dysgwyr sy’n hanu o Gymru sydd â lefel uchel o  anghenion ac sy’n astudio mewn sefydliad AB yn Lloegr.

2. Mae’n berthnasol lle bo cost y gefnogaeth addysgol sydd ei hangen yn fwy na’r hyn y gellir ei dalu’n rhesymol drwy ddarpariaeth graidd (Elfen 1) a chyfraniad cymorth dysgu ychwanegol tybiannol y darparydd o £6,000 (Elfen 2). Mae elfennau 1, 2 a 3 yn cyfeirio at fframwaith cyllido anghenion lefel  uchel yr Adran Addysg yn Lloegr, sy’n strwythuro cyllid i ddysgwyr ag anghenion cymorth dysgu ychwanegol.

3. Bwriedir i gyllid Elfen 3 dalu cost cymorth addysgol sydd wedi’i bersonoli, sydd wedi’i asesu ac y ceir tystiolaeth ar ei gyfer. Fe’i dyfernir ar sail dysgwr a enwir, ac ni cheir ei ddefnyddio fel ffactor wrth benderfynu derbyn dysgwr ai peidio. Cytunir ar gyllid drwy broses ymgeisio flynyddol ffurfiol. Mae angen cadw tystiolaeth glir o angen a chost i ddibenion archwilio, ac mae’r cyllid yn destun monitro ac adolygu parhaus i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn briodol a chymesur a’i fod yn canolbwyntio ar addysg a deilliannau.

Symiau cyllido 2025/26

Sefydliad addysg bellachSwm y cyllid atodolNifer y dysgwyr a gefnogir drwy gyllid atodol
Coleg Swydd Gaerloyw£6,417.641
Coleg Celfyddydau Henffordd£7,147.502
Coleg Reaseheath£15,433.785
Coleg Swydd Gaer – De a Gorllewin£5,541.421
Swydd Henffordd, Llwydlo a Gogledd Swydd Amwythig (HLSNC)£107,824.3511
Coleg Amwythig£7,894.164
Cyfanswm£150,258.8524

Medr/2026/27: Cyllid atodol (Elfen 3) 2025/26

Dyddiad: 25 Mehefin 2026

Cyfeirnod:   Medr/2026/27

At: Sefydliadau addysg bellach yn Lloegr sy’n cefnogi dysgwyr sy’n hanu o Gymru â lefel uchel o anghenion

Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Cyllid atodol (Elfen 3) yw’r cyllid atodol a ddarperir gan Medr i gefnogi dysgwyr sy’n hanu o Gymru sydd â lefel uchel o  anghenion ac sy’n astudio mewn sefydliad addysg bellach (AB) yn Lloegr.

Medr/2026/27 Cyllid atodol (Elfen 3) 2025/26

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/11/2026: Deilliannau graddedigion: darparwyr addysg uwch 2023/24

Beth oedd graddedigion yn ei wneud?

O blith y graddedigion o ddarparwyr addysg uwch (AU) Cymru a ymatebodd i arolwg Deilliannau Graddedigion 2023/24:

  • Roedd 67% mewn cyflogaeth amser llawn, ran-amser neu ar batrwm cyflogaeth anhysbys. Roedd 11% yn ymgymryd â chyfuniad o waith ac astudiaeth bellach.
  • Roedd 6% naill ai’n astudio ymhellach yn rhan-amser, yn amser llawn, neu ar batrwm anhysbys.
  • Roedd 1% yn gwneud gwaith gwirfoddol neu ddi-dâl, roedd 6% yn ddi-waith ac roedd 7% yn gwneud rhyw weithgarwch arall fel teithio, gofalu am rywun, neu wedi ymddeol.

O blith y graddedigion o Gymru a oedd yn astudio yn unrhyw ran o’r DU, ac a ymatebodd i arolwg Deilliannau Graddedigion 2023/24:

  • Roedd 69% mewn cyflogaeth amser llawn, ran-amser neu ar batrwm cyflogaeth anhysbys. Roedd 12% yn ymgymryd â chyfuniad o waith ac astudiaeth bellach.
  • Roedd 5% naill ai’n astudio ymhellach yn rhan-amser, yn amser llawn, neu ar batrwm anhysbys.
  • Roedd 1% yn gwneud gwaith gwirfoddol neu ddi-dâl, roedd 5% yn ddi-waith ac roedd 7% yn gwneud rhyw weithgarwch arall fel teithio, gofalu am rywun, neu wedi ymddeol.
  • Roedd ymatebwyr israddedig amser llawn o’r cwintel mwyaf amddifadus ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yn llai tebygol o fod mewn cyflogaeth ac yn fwy tebygol o fod yn ymgymryd â gweithgarwch arall fel teithio, gofalu am rywun neu wedi ymddeol, na’r rhai o’r cwintel lleiaf amddifadus ym MALlC.
  • Roedd gwahaniaeth o 2 bwynt canran rhwng cyfrannau’r ymatebwyr israddedig amser llawn oedd yn ddi-waith o’r cwintelau mwyaf a lleiaf amddifadus. Roedd 8% o raddedigion o’r cwintel mwyaf amddifadus yn ddi-waith, o’i gymharu â 6% o’r cwintel lleiaf amddifadus.

Ymhle yr oedd graddedigion yn gweithio?

O blith y graddedigion a ymatebodd i arolwg Deilliannau Graddedigion 2023/24 ac a ddywedodd mai gwaith oedd eu gweithgarwch pwysicaf:

  • Gwnaeth 45% o’r rhai a ddeuai o Gymru ond a astudiodd gyda darparydd AU yn rhannau eraill o’r DU ddychwelyd i weithio yng Nghymru.
  • Arhosodd 88% o’r rhai o Gymru ac a astudiodd gyda darparydd AU yng Nghymru i weithio yng Nghymru.
  • Arhosodd 18% o’r rhai a astudiodd gyda darparydd AU yng Nghymru ond a oedd yn dod o rannau eraill o’r DU yng Nghymru i weithio.

Sut oedd graddedigion yn teimlo ynghylch eu gweithgarwch presennol?

O blith y graddedigion o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru a ymatebodd i arolwg Deilliannau Graddedigion 2023/24:

  • Roedd 84% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf fod eu gweithgarwch presennol yn ystyrlon.
  • Roedd 68% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf fod eu gweithgarwch presennol yn defnyddio’r sgiliau yr oeddent wedi’u dysgu yn ystod eu hastudiaethau.
  • Roedd 73% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf fod eu gweithgarwch presennol yn cyd-fynd â’u cynlluniau i’r dyfodol.

Sta/Medr/11/2026: Deilliannau graddedigion: darparwyr addysg uwch 2023/24

Cyfeirnod: Sta/Medr/11/2026

Dyddiad:  23 June 2026

Dynodiad:  Ystadegau Swyddogol

Crynodeb:  Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys canlyniadau’r arolwg Deilliannau Graddedigion ar gyfer ymatebwyr a astudiodd gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru, ac ymatebwyr o Gymru a astudiodd gyda darparwyr addysg uwch ledled y DU.

Sta/Medr/11/2026 Deilliannau Graddedigion: darparwyr addysg uwch, 2023/24

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/26: Cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach ac uwch yn 2026/27

Cyflwyniad

1. Mae Medr yn paratoi am ddiweddariad canol tymor o’r Fframwaith strategol Digidol 2030 ar gyfer dysgu digidol, ac rydym yn datblygu ein sylfaen dystiolaeth ar anghenion a blaenoriaethau dysgu digidol yn sail ar gyfer ein hymdriniaeth â dysgu digidol yn y sector trydyddol yn y dyfodol. Rydym yn gweithio’n agos gyda Jisc i gael dealltwriaeth well o’r sefyllfa, yr anghenion a’r blaenoriaethau cyfredol o ran dysgu digidol yn y sectorau addysg bellach ac uwch, ac wrth ddarparu prentisiaethau.

2. Mae Jisc eisoes wedi ymgysylltu â sefydliadau addysg bellach, Colegau Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gynhyrchu canfyddiadau i Medr ar anghenion a blaenoriaethau cyfredol mewn addysg bellach. Rydym wedi dechrau ymgorffori canfyddiadau o’r darn hwn o waith, yn enwedig o amgylch y thema seilwaith digidol, yn ein dull o ddarparu cyllid cyfalaf digidol i sefydliadau addysg bellach (Medr/2026/18).

3. Mae’r meini prawf ar gyfer gwariant refeniw a nodir yn y cyhoeddiad hwn hefyd yn adlewyrchu’r themâu canlynol a godwyd gan sefydliadau addysg bellach:

  • Deallusrwydd Artiffisial
  • Gwella aeddfedrwydd data
  • Annog dulliau cydweithredol

4. Mae ymgysylltu pellach â sefydliadau addysg uwch, Prifysgolion Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill ynghylch anghenion a blaenoriaethau cyfredol ym maes dysgu digidol mewn addysg uwch wedi’i drefnu ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.

5. Yn y cyfamser, rydym wedi parhau i ymgorffori themâu allweddol o’r sector addysg uwch a adlewyrchwyd mewn meini prawf cyllido refeniw blaenorol (Medr/2025/15):

  • Deallusrwydd Artiffisial
  • Trawsnewid Digidol a datblygu ymagweddau strategol at ddysgu digidol
  • Defnydd a rheolaeth effeithiol ar ddata

6. Ar gyfer y blynyddoedd i ddod, bydd canfyddiadau a themâu o’r dystiolaeth a gesglir gennym yn cael eu hystyried gan Medr, ynghyd ag adborth o’r sector, yn sail ar gyfer ein penderfyniadau ynghylch dyraniadau cyllid digidol yn y dyfodol. Rydym yn ymwybodol y gallai rhai prosiectau a ariannwyd o dan Gronfa Datblygu Strategol Ôl-16 Medr yn 2025/26 (Medr/2026/03) hefyd gynhyrchu canfyddiadau ac allbynnau perthnasol.

AmeseruCarreg filltir neu weithredu
11 Tachwedd 2026Pob sefydliad i roi amlinelliad cryno o’r defnydd a fwriedir o’r cyllid (Atodiad A)
c. 20 Ionawr 2027Ar ôl derbyn Atodiad A, bydd taliad interim yn cael ei brosesu ym mis Ionawr
15 Gorffennaf 2027Bydd yn ofynnol adrodd ar wariant diwedd blwyddyn (Atodiad B i’w ychwanegu ar ddechrau 2027)
c. 20 Awst 2027Ar ôl derbyn Atodiad B, bydd y taliad terfynol yn cael ei brosesu ym mis Awst

Medr/2026/26: Cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach ac uwch yn 2026/27

Dyddiad:  23 Mehefin 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/26

At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Benaethiaid sefydliadau addysg bellach

Ymateb erbyn:  11 Tachwedd 2026

Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn nodi’r dyraniadau cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach ac uwch, yn rhoi canllawiau ar ddefnyddio’r cyllid ac yn nodi’r gofynion o ran adrodd a thystiolaeth.
Dyrannwyd £32,500 i bob sefydliad a restrir yn y cyhoeddiad hwn.

Medr/2026/26 Cyllid refeniw digidol are gyfer sefydliadau addysg bellach ac uwch yn 2026/27

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Medr/2026/25: Ymgynghoriad ar y Datganiad Polisi Buddsoddi

Cefndir

1. Mae adran 87 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr) gyhoeddi datganiad polisi ar y ffordd rydym bwriadu arfer ein pwerau cyllido. Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Medr ymgynghori ar y Datganiad Polisi Buddsoddi hwn.

Adran 87: Polisi ar bwerau cyllido

2. Mae’r Ddeddf yn nodi:

  • Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad polisi ar y ffordd y mae’n bwriadu arfer ei bwerau cyllido.
  • Wrth baratoi’r datganiad, rhaid i’r Comisiwn ystyried yr egwyddor y dylai penderfyniadau ynglŷn â darparu neu sicrhau adnoddau ariannol gael eu gwneud mewn ffordd sy’n dryloyw.
  • Rhaid i’r Comisiwn adolygu’r datganiad yn rheolaidd, a gall ei ddiwygio.
  • Cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’n eu hystyried yn briodol.
  • Pwerau’r Comisiwn i ddarparu neu sicrhau adnoddau ariannol yn unol ag adrannau 88, 89, 97, 101, 103, 104 a 105 yw ei bwerau cyllido.
    • adran 88 (darparwyr addysg uwch penodedig);
    • adran 89 (cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau);
    • adran 97 (addysg bellach neu hyfforddiant); 
    • adran 101 (chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol);
    • adran 103 (gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig ag addysg drydyddol); 
    • adran 104 (prentisiaethau); ac
    • adran 105 (ymchwil ac arloesi) 

3. Daw adrannau 88, 104 a 105 i rym yn y dyfodol. Serch hynny, bwriedir i’r datganiad hwn lywio ein penderfyniadau buddsoddi sy’n gysylltiedig ag addysg uwch, prentisiaethau ac ymchwil ac arloesi.

Dull ymgynghori

4. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn amrywiaeth eang o ddarparwyr a rhanddeiliaid, ac rydym yn awyddus i gael adborth ar b’un a yw’r Datganiad Polisi Buddsoddi a geir yn Atodiad A yn cynnig sylfaen briodol a thryloyw ar gyfer penderfyniadau buddsoddi Medr drwy’r sector addysg drydyddol ac ymchwil gyfan ai peidio.

5. Caiff yr ymgynghoriad ei gynnal mewn dau gam.

  • Nod Cam 1 yw casglu safbwyntiau gan amrywiaeth eang o randdeiliaid ym mhob rhan o’r sector. Caiff yr ymgynghoriad ei gynnal o ddydd Llun 22 Mehefin tan ddydd Llun 3 Awst.
  • Bydd Cam 2 yn canolbwyntio’n benodol ar ymgysylltu â dysgwyr, ac fe’i cynhelir rhwng 14 Medi a 12 Hydref, ar yr un pryd â dechrau’r flwyddyn academaidd er mwyn helpu i ymgysylltu mewn modd amserol ac ystyrlon.

Sut i ymateb

6. Gellir cyflwyno ymatebion drwy’r ffurflen ar-lein erbyn 3 Awst 2026.

7. Gallwch ddod o hyd i gopi o gwestiynau’r ymgynghoriad yn Atodiad B.

8. Rydym yn croesawu ymatebion yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Beth fydd yn digwydd nesaf

9. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad yn ofalus cyn cadarnhau’r Datganiad Polisi Buddsoddi terfynol. Caiff crynodeb o’r ymatebion ac ein hymateb i’r ymgynghoriad eu cyhoeddi ar ein gwefan.

10. Bydd y datganiad terfynol yn llywio ein dull buddsoddi yn y dyfodol ac yn cefnogi tryloywder ac atebolrwydd yn y ffordd y caiff cyllid cyhoeddus ei ddefnyddio ym mhob rhan o’r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru..

Rhagor o wybodaeth

11. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cylchlythyr hwn at y tîm Buddsoddiad a Monitro ([email protected]).

Medr/2026/25: Ymgynghoriad ar y Datganiad Polisi Buddsoddi

Date:  22 Mehefin 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/25

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid colegau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg; Penaethiaid chweched dosbarth mewn ysgolion; Arweinwyr dysgu oedolion yn y gymuned mewn awdurdodau lleol; Deiliaid contract prentisiaeth

Ymateb erbyn:  03 Awst 2026

Crynodeb: Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y Datganiad Polisi Buddsoddi ar gyfer darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru. Caiff y Datganiad Polisi Buddsoddi ei roi ar waith yn 2026. Gwahoddir pob darparwr addysg drydyddol a hyfforddiant a rhanddeiliaid eraill i ymateb.

Medr/2026/25 Ymgynghoriad ar y Datganiad Polisi Buddsoddi

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/24: Fframwaith Hunanwerthuso Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ar gyfer prifysgolion a darparwyr addysg uwch yng Nghymru

Cyflwyniad: Ynglŷn â’r Offeryn

1. Mae’r offeryn hwn wedi’i gynllunio i gynorthwyo prifysgolion yng Nghymru i nodi angen, i gynllunio a chyflawni ymyriadau sy’n anelu i atal ac ymateb i Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) sy’n effeithio ar staff a myfyrwyr. Fe’i datblygwyd gan y Tîm Atal Trais, wedi’i seiliedu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn cydweithrediad â phrifysgolion yng Nghymru, Llywodraeth Cymru a’r Tîm Glasbrint VAWDASV. Yn ychwanegol at hyn, mae’r Offeryn wedi cael ei ddatblygu i gyfeirio at amodau rheoleiddio a chyllido Medr, fel y nodir yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2021 (ceir rhagor o fanylion am y Ddeddf yn adran Gefndir y ddogfen hon).

2. Bwriedir i’r offeryn ystyriaethau cynllunio gael ei ddefnyddio gan brifysgolion i ymgorffori dull iechyd cyhoeddus a phrifysgol gyfan o ddylunio a chyflwyno gweithgarwch sy’n anelu i fynd i’r afael â VAWDASV. Mae dull iechyd cyhoeddus yn rhoi’r flaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal yn y lle cyntaf, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac ar werthuso gweithgarwch i sicrhau bod yr effeithiau a ragwelwyd yn cael eu cyflawni ac effeithiau andwyol wedi’u lliniaru. Mae dull prifysgol gyfan yn cyd-fynd â dull iechyd cyhoeddus gan ei fod yn argymell y dylai pob agwedd ar leoliad prifysgol gydweithio i hyrwyddo a chefnogi pawb o fewn poblogaeth y brifysgol, gan sicrhau mynediad teg at wasanaethau ac ymatebion cyson i faterion waeth ymhle a sut y bydd rhywun yn ceisio neu’n derbyn arweiniad. Mae dull prifysgol gyfan hefyd yn pwysleisio’r angen i gydnabod amrywiaeth y boblogaeth o fyfyrwyr, gan gynnwys, ymhlith eraill, myfyrwyr rhyngwladol, myfyrwyr ar leoliad a myfyrwyr aeddfed a’r boblogaeth o staff, gan gynnwys staff gweinyddol, cyfadran a’r uwch arweinyddiaeth, er mwyn sicrhau’r mynediad teg at wasanaethau y cyfeirir ato uchod.

3. Gyda’r dulliau hyn mewn golwg, mae’r offeryn yn tywys defnyddwyr drwy’r ystyriaethau allweddol o ran yr hyn sydd angen ei gael mewn lleoliad prifysgol er mwyn cynllunio a chyflwyno gweithgarwch. Mae’r ystyriaethau hyn yn cynnwys ystyried polisïau a strategaethau presennol, deall data sydd ar gael y gellid eu defnyddio i nodi’r broblem/problemau a sefydlu sut i gyrraedd rhanddeiliaid allweddol o fewn fforymau neu sianeli presennol neu newydd.

4. Mae’r offeryn yn cynnwys set o egwyddorion er mwyn helpu i sicrhau dull cyson o gyflawni gweithgarwch sy’n anelu i atal VAWDASV neu ymateb i hynny ledled Cymru, gan gydnabod y tirlun y mae pob prifysgol yn gweithredu ynddo, sy’n unigryw ac yn aml yn amrywiol. Datblygwyd yr egwyddorion hyn ar y cyd â phrifysgolion Cymru ac maent wedi’u seilio ar egwyddorion Glasbrint VAWSASV Cymru, y Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma a’r Fframwaith Cymru Heb Drais.

Medr/2026/24: Fframwaith Hunanwerthuso Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ar gyfer prifysgolion a darparwyr addysg uwch yng Nghymru

Dyddiad:  11 Mehefin 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/24

At:  Prif Weithredwyr prifysgolion; Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r ddogfen yma yn setio all y fframwaith hunanwerthuso Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais (VAWDASV) rhywiol i gefnogi brifysgolion i ganfod angen, cynllunio a ddarparu ymyyrraeth i atal ac ymateb i VAWDASV sy’n effeithio staff a myfyrwyr.

Medr/2026/24 Fframwaith Hunanwerthuso Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ar gyfer prifysgolion a darparwyr addysg uwch yng Nghymru

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Lansio cymorth newydd i oedolion ifanc sy’n ofalwyr mewn addysg bellach

Mae adnodd newydd sy’n rhoi cyngor a syniadau i golegau addysg bellach i wella eu cymorth i ddysgwyr â chyfrifoldebau gofalu wedi cael ei lansio heddiw.

Mae’r pecyn cymorth, a grëwyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, yn darparu mewnwelediad manwl i’r cymorth sy’n helpu oedolion ifanc sy’n ofalwyr i gyfranogi a ffynnu mewn addysg bellach.

Mae’r canllaw arfer da’n cynnwys awgrymiadau a chynghorion ymarferol, rhestri gwirio ac astudiaethau achos sy’n rhoi sylw i oedolion ifanc sy’n ofalwyr, a bydd yn galluogi colegau i adolygu eu cymorth i oedolion ifanc sy’n ofalwyr ac adeiladu arno’n barhaus.

Meddai Kieron Rees, Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr Medr:

“Yn ystod Wythnos Gofalwyr eleni rydym wrth ein bodd bod y pecyn cymorth pwysig hwn a allai newid bywydau’n cael ei lansio.

“Mae gwneud y dysgwr yn ganolog i’w profiad yn allweddol i ni yn Medr, ac mae’r ffaith bod y Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi gweithio gyda dwsinau o oedolion ifanc sy’n ofalwyr ledled Cymru i ddeall go iawn sut y mae cymorth effeithiol yn edrych mewn AB yn rhan hollbwysig o’r darn hwn o waith.

“Nid yn unig bydd colegau’n gallu defnyddio’r pecyn cymorth i roi trefniadau yn eu lle i gefnogi oedolion ifanc sy’n ofalwyr, ond bydd hefyd yn helpu staff i ddeall anghenion amrywiol gofalwyr ifainc yn y system addysg.”

Soniodd yr oedolion ifanc sy’n ofalwyr a gyfranogodd yn yr ymchwil mai:

  • staff sy’n deall eu sefyllfa
  • cymorth hyblyg sy’n addasu i’w rôl ofalu
  • cyfathrebu clir
  • ffyrdd disylw o fynegi pwy ydynt, a
  • diwylliant sy’n eu hystyried yn unigolion, nid yn broblemau i’w datrys

sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’w hamser yn y coleg.

Nodiadau

Mae’r pecyn cymorth yn cyd-fynd ag Amod Cyfle Cyfartal Medr ac yn cynnig dulliau ymarferol, seiliedig-ar-dystiolaeth o adnabod oedolion ifanc sy’n ofalwyr, dileu rhwystrau a rhoi cymorth hyblyg wedi’i dargedu ar waith, sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, ac sy’n gwella mynediad, cyfranogiad a dilyniant ar gyfer oedolion ifanc sy’n ofalwyr ar draws y sector addysg bellach.

Mae Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a chynlluniau cyflawni cysylltiedig ynghyd â’r ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth Genedlaethol ddrafft ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yn 2026 yn canolbwyntio ar wella cysondeb cymorth i ofalwyr ifainc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr mewn addysg. Fe roddodd Medr gomisiwn i’r Sefydliad Dysgu a Gwaith i ddatblygu pecyn cymorth ymarferol ar gyfer addysg bellach gan adeiladu ar waith cynharach yn y sector a gwblhawyd ochr yn ochr â’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr.

Oedolion ifanc sy’n gofalu mewn addysg bellach: Pecyn cymorth ar gyfer colegau addysg bellach yng Nghymru Blog: Sefydliad Dysgu a Gwaith

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/23: Cais am ragolygon 2026

Cyflwyniad

1. Mae’r cylchlythyr hwn yn gofyn i sefydliadau addysg uwch gyflwyno’r wybodaeth ganlynol:

  • Rhan 1 – Amcangyfrifon ariannol ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2025/26 a rhagolygon ariannol ar gyfer 2026/27 i 2029/30
  • Sylwebaeth naratif i gyd-fynd â’r wybodaeth
  • Rhagolygon llifoedd arian parod misol ar gyfer y 12 mis hyd at 31 Gorffennaf 2027
  • Rhan 2 – Niferoedd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2025/26 a rhagolygon ar gyfer 2026/27 i 2029/30

Ceir canllawiau mwy manwl isod. Mae newidiadau nad ydynt yn fân newidiadau yn y cylchlythyr a’r templedi wedi’u dynodi yn y PDF gan destun porffor.

Mae copïau o’r ffurflenni sydd i’w cyflwyno wedi eu cynnwys yn yr atodiadau wrth y cylchlythyr hwn, ynghyd â rhagor o wybodaeth dechnegol.

Noder nad yw’r llyfrau gwaith Excel ar gyfer data ariannol (B1) a niferoedd myfyrwyr (C ac E) wedi’u hatodi i’r cylchlythyr hwn. Caiff y dogfennau hyn eu poblogi ymlaen llaw yn unigol ar gyfer pob sefydliad a’u cylchredeg yn uniongyrchol ar ffurf electronig. Mae manylion am gynnwys y templedi hyn wedi’u cynnwys yn Atodiad B3 ac Atodiad D yn y drefn honno.

Cefndir a chynllunio strategol sefydliadol

2. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gyflwyno gwybodaeth sy’n cynnwys rhagolygon ariannol a rhagolygon niferoedd myfyrwyr yn flynyddol. Y rheswm dros hyn yw er mwyn ein galluogi i ddeall perfformiad ariannol blaenorol sefydliadau a’u perfformiad ariannol disgwyliedig yn y dyfodol, ac mae hefyd yn ffynhonnell wybodaeth bwysig i ategu cynlluniau ffioedd a mynediad a gyflwynir a deialog strategol rhwng Medr a’r sefydliadau. Daw’r cynlluniau ffioedd a mynediad presennol i ben yn 2026/27. Dylai sefydliadau fod yn gweithio mewn ffordd sy’n cyd-fynd yn llawn ag amod Cyfle Cyfartal Medr o 2027/28 ymlaen.

Cyd-destun strategol

3. Wrth ymateb i’r cylchlythyr hwn, dylai sefydliadau ystyried yr amryw gylchlythyrau a chyhoeddiadau eraill allweddol sy’n ymwneud â datblygiadau polisi, strategaeth a chyllido addysg uwch yng Nghymru. Mae ffynonellau allweddol wedi’u cynnwys yn Atodiad A, gan gynnwys dolenni i’r cyhoeddiadau diweddaraf sydd ar gael ar adeg rhyddhau’r cylchlythyr hwn.

Crynodeb o’r gofynion o ran gwybodaeth

4. Rydym yn cyflwyno ffurflenni data rhagolygon ariannol a rhagolygon myfyrwyr unigoledig i bob sefydliad ar wahân. Anfonir y rhain, fel y bo’n briodol, at gyfarwyddwyr cyllid a chysylltiadau data a enwebwyd gan bennaeth y sefydliad. Dylai’r holl sefydliadau gyflwyno eu ffurflenni wedi’u cwblhau erbyn y dyddiadau a ddynodir i’r ffolder SharePoint unigol ddiogel a roddir i bob sefydliad.

5. Yn ychwanegol at y dibenion penodol a amlinellir uchod, bydd yr holl wybodaeth y gofynnir amdani trwy’r cylchlythyr hwn yn darparu tystiolaeth i oleuo ein proses sicrwydd risg ar gyfer darparwyr.

6. Dylai sefydliadau nodi y byddwn yn ceisio diweddariadau lefel uchel i ragolygon ariannol a rhagolygon myfyrwyr ym mis Tachwedd 2026. Diben hyn fydd goleuo ein dadansoddiad o oblygiadau ariannol newidiadau i’r rhagolygon o ganlyniad i’r sefyllfa wedi’i diweddaru o ran recriwtio myfyrwyr ar gyfer 2026/27.

Rhan 1 – Rhagolygon ariannol ar gyfer y cyfnod o 2025/26 i 2029/30

7. Ein hamcanion wrth ofyn am ragolygon ariannol yw ein galluogi i:

  • fonitro iechyd ariannol sefydliadau;
  • monitro a yw rhagolygon sefydliadau’n ystyried yr amgylchedd addysg uwch sydd ohoni;
  • cael sicrwydd bod trefniadau cynllunio ariannol effeithiol ar waith;
  • sicrhau bod cyrff llywodraethu’n ymgysylltu’n briodol â phrosesau rhagolygon a chynllunio ariannol y sefydliad;
  • gwirio bod gweithgarwch cynllunio strategol ac ariannol sefydliadau wedi eu hintegreiddio; a
  • chynhyrchu gwybodaeth ar lefel gryno am dueddiadau ac iechyd ariannol cyffredinol y sector AU yng Nghymru.

8. Ar gyfer yr wybodaeth a gyflwynir ar hyn o bryd gofynnwn i sefydliadau baratoi rhagolygon ariannol pum mlynedd, sy’n cwmpasu’r cyfnod hyd at 2029/30. Er mwyn lleihau llwyth gwaith sefydliadau i’r eithaf, rydym wedi rhagboblogi colofnau ffigyrau gwirioneddol 2023/24 a 2024/25 yn y modelau, lle y bo’n bosibl, i gynorthwyo gydag adnabod unrhyw dueddiadau mewn perfformiad. Rydym hefyd wedi rhagboblogi’r rhagolwg ar gyfer y flwyddyn 2025/26 (fel y’i cyflwynwyd i ni ym mis Gorffennaf 2025). Byddwn yn disgwyl i ragolygon ariannol fod yn seiliedig ar gylchlythyrau perthnasol ar ddyraniadau cyllid a niferoedd myfyrwyr.

9. Dylid cyflwyno gwybodaeth am ragolygon ariannol i ni i’r ffolder SharePoint unigol ddiogel a roddir i bob sefydliad erbyn 31 Gorffennaf 2026.

10. Wrth baratoi’r rhagolygon dylai sefydliadau gyfeirio at y tybiaethau cynllunio a amlinellir yn Atodiad A.

Cynnwys y rhagolygon ariannol

11. Mae ffurf a chynnwys y modelau rhagolygon ariannol 2025/26 i 2029/30 yn debyg i’r hyn a gyflwynwyd gan sefydliadau ym mis Gorffennaf 2025. Sylwer bod cwblhau’r rhagolygon pum mlynedd, y sylwebaeth a’r datganiad llifoedd arian parod misol yn orfodol ac y dylai hynny adlewyrchu gofynion Cod Rheoli Ariannol CCAUC (cylchlythyr CCAUC W17/16HE) rhwng Medr a’r sefydliadau. Dylai’r rhagolygon fod yn seiliedig ar dybiaethau realistig. I roi cymorth i gymharu gwybodaeth dylent fod yn gyson ag unrhyw newidiadau i driniaeth gyfrifyddu a’r modd y cyflwynwyd gwybodaeth a’r modd y nodwyd dyraniadau cyllid yn y datganiadau ariannol diwethaf a chofnod cyllid HESA. Yn benodol, dylid dilyn y triniaethau sydd wedi’u cynnwys yn y Datganiad o’r Arfer a Argymhellir ar gyfer Addysg Bellach / Addysg Uwch a gyhoeddwyd yn 2019.

Ffurflenni gofynnol

12. Mae’r cylchlythyr hwn yn cyfeirio at nifer o atodiadau i’w dychwelyd at Medr:
(i) Y templed rhagolwg ariannol (B1). Caiff y llyfr gwaith hwn ei ddarparu’n uniongyrchol ar ffurf electronig i gysylltiadau data a chyfarwyddwyr cyllid ym mhob sefydliad. Mae’n cynnwys tablau penodol sydd wedi’u llenwi’n rhannol ymlaen llaw.
(ii) Mae’r sylwebaeth ar ragolygon ariannol (Atodiad B2) yn gofyn am ddadansoddiad naratif pellach o’r tablau yn y model rhagolygon.
(iii) Mae rhagfynegiadau o lifoedd arian parod misol ar gyfer y 12 mis hyd at fis Gorffennaf 2027 yn ofynnol hefyd. Gall y rhain fod yn y fformat mewnol ar gyfer y sefydliad.
Rhoddir crynodebau o’r gofynion ar gyfer pob un isod. Rhoddir canllawiau ynghylch cwblhau’r prif ragolwg (B1) yn Atodiad B3.

Templed rhagolygon ariannol (B1)

13. Rydym yn disgwyl i unrhyw dwf dros ffigyrau recriwtio 2025/26 gael ei egluro’n llawn, gyda thystiolaeth ategol gadarn yn cael ei darparu.

14. Mae’r rhagolwg ariannol yn cynnwys templed ‘senarios anffafriol’ Medr ar gyfer 2026/27. Ceir ansicrwydd sylweddol o hyd yn y sector a’r economi ehangach, ac mae’r templed hwn yn darparu sicrwydd bod eich cyrff llywodraethu wedi rhoi ystyriaeth briodol i senarios anffafriol yn ogystal â darparu data ar ein cyfer i asesu risg i’r sector:
(i) Dylid cynnwys addasiadau mewn meysydd eraill yn y rhagolwg hefyd lle nad yw twf o’r fath yn sicr neu lle mae cost yn briodoledig i dwf yn niferoedd y myfyrwyr, er enghraifft cyfleusterau a phreswylfeydd.
(ii) Tybir bod costau ar lefel eich rhagolwg ar gyfer 2026/27. Dylai camau lliniaru sy’n ofynnol gael eu nodi’n fanwl yn y naratif am y rhagolwg.

15. Mae tab ‘senario anffafriol y sefydliad ei hun’ wedi cael ei gynnwys er mwyn galluogi sefydliadau i adlewyrchu eu gwaith modelu eu hunain ar senarios anffafriol realistig dros gyfnod llawn y rhagolygon.

16. Rhoddir canllawiau manwl ynghylch cwblhau’r templed rhagolygon ariannol yn Atodiad B3. Caiff canllawiau ynghylch newidiadau i’r templed eu dynodi mewn porffor er mwyn eu gwneud yn rhwydd cyfeirio atynt.

Sylwebaeth ar y rhagolygon ariannol (Atodiad B2)

17. Dylai sefydliadau ddarparu sylwebaeth ar y rhagolygon ariannol B1 gan ddefnyddio’r profforma yn Atodiad B2. Mae hwn yn rhestru gofynion manwl ar gyfer gwybodaeth am nifer o agweddau allweddol ar y rhagolwg ariannol, ond y nod ar y cyfan yw bod sefydliadau’n darparu:
(i) sicrwydd bod y rhagolygon ariannol yn deillio o gynllun strategol cyfredol a strategaeth ariannol gyfredol y sefydliad a’u bod yn gyson â’r rhain a bod cysylltedd â pherfformiad ariannol diweddar yn ogystal â’r gudd-wybodaeth ddiweddaraf a allai effeithio ar ragolygon megis recriwtio myfyrwyr;
(ii) gwybodaeth ategol ychwanegol am y tybiaethau allweddol yn y rhagolygon ariannol; a
(iii) eglurhad o dueddiadau pwysig yn y niferoedd a ragwelir ar draws y cyfnod, yn enwedig mewn perthynas â’r dangosyddion allweddol megis hylifedd, llif arian parod gweithredu, gwarged gweithredu a chreu arian parod.
(iv) naratif am gynllunio wrth gefn ar gyfer y prif heriau a adnabuwyd gan y sefydliad. Dylai hyn gynnwys unrhyw effaith ar recriwtio myfyrwyr a dychwelwyr cartref a thramor, ynghyd â’r canlyniadau ariannol ar gyfer ffioedd dysgu a ffrydiau incwm cysylltiedig ar gyfer incwm, llif arian parod gweithredu net a chreu arian parod.
(v) Yn yr hinsawdd bresennol byddem yn disgwyl i’r naratif gynnwys ystyried y lefelau uwch o risg y mae’r sefydliad yn agored iddynt, oherwydd y gofyniad i arallgyfeirio incwm oddi wrth fyfyrwyr israddedig amser llawn o’r DU, ac unrhyw sensitifrwydd cysylltiedig i gostau ychwanegol a gwaith arall i fodelu’r risgiau hyn.
(vi) Ar ochr costau byddem yn disgwyl i’r naratif gynnwys ystyried y risg sy’n gysylltiedig â phwysau chwyddiannol, yn rhai sy’n ymwneud â staff ac nad ydynt yn ymwneud â staff, ac i ba raddau y mae cynlluniau’r sefydliad yn sensitif i’r rhain.
Mae newidiadau i’r gofynion o’i gymharu â 2025 wedi eu hamlygu mewn porffor.

Rhagolygon llifoedd arian parod misol

18. Rydym yn gofyn am gyflwyno rhagolygon llifoedd arian parod misol ar gyfer y 12 mis hyd at fis Gorffennaf 2026. I hwyluso hyn, nid ydym yn ei gwneud yn ofynnol defnyddio fformat a ragnodir ar gyfer y ffurflenni hyn. Fodd bynnag, rydym yn ei gwneud yn ofynnol:
a. paratoi’r ffurflen yn ddigon manwl i adnabod yn glir beth yw’r prif ffrydiau incwm a gwariant;
b. bod unrhyw fuddsoddiadau neu gyfleusterau benthyca y disgwylir eu defnyddio neu eu talu’n ôl yn cael eu hadnabod yn glir;
c. dangos llif net misol arian parod i mewn / (allan);
d. dangos balansau agoriadol a chau misol arian parod yn y banc ar wahân i’r defnydd o fuddsoddiadau / cyfleusterau benthyca byrdymor; ac
e. dangos cyfanswm asedau hylifol, a chyfleusterau benthyca sydd ar gael, yn fisol. Lle y bo’n briodol dylai unrhyw arian parod cyfyngedig gael ei adnabod yn glir fel eitem ar wahân i gronfeydd wrth gefn rhydd.
f. Dylai balansau arian parod ar ddiwedd y flwyddyn fod yn gyson â’r rhagolygon a gyflwynir

19. Er y byddwn yn parhau i fonitro llifoedd arian parod gwirioneddol yn erbyn y rhagolygon hyn fel rhan o’n trafodaethau rheolaidd gyda chyfarwyddwyr cyllid, cyfrifoldeb corff llywodraethu pob sefydliad yw hysbysu Medr ynghylch digwyddiadau adroddadwy, gan gynnwys unrhyw ddiffygion arian parod a ragwelir, o hyd.

20. Mae paratoi rhagolygon arian parod 12 mis yn un o ofynion y Cod Rheoli Ariannol [paragraff 83]. Hoffem dynnu eich sylw at y paragraff:
Rhaid i’r corff llywodraethu hysbysu CCAUC (Medr erbyn hyn) ar unwaith os, ar unrhyw adeg yn y 12 mis sydd i ddod, yw arian parod net negyddol (fel y’i diffinnir o fewn FRS 102 S(7), gan gynnwys arian parod a symiau sy’n cyfateb i arian parod) yn cael ei ragweld am fwy na 30 diwrnod olynol.
O 1 Awst 2026 ymlaen, byddwn yn cyfeirio darparwyr at ofyniad 4, sef y gofyniad cyfatebol o fewn amod cynaliadwyedd ariannol Medr:
Bydd y darparwr yn hysbysu Medr lle mae perfformiad andwyol yn dynodi mwy o bwysau ar gynaliadwyedd ariannol. Gallai’r dangosyddion hyn gynnwys, ymhlith eraill:
* rhagolygon arian parod misol sy’n dynodi dirywiad mewn cyfalaf gweithio gweithredol i 30 diwrnod neu lai dros gyfnod estynedig
* defnydd parhaus a/neu gynyddol o gyfleusterau banc
* colli neu ostyngiad mewn ffrydiau incwm arwyddocaol neu ddigwyddiadau andwyol perthnasol eraill nas rhagwelwyd

Rhan 2 – Niferoedd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2025/26a rhagolygon ar gyfer 2026/27 i 2029/30

21. Mae’r wybodaeth ar gyfer rhagolygon incwm ffioedd myfyrwyr yn ofynnol ar wahân yn Atodiad C. Caiff yr wybodaeth am niferoedd y myfyrwyr yn Atodiad C ei phoblogi’n awtomatig o’r tablau yn Atodiad E, i roi cymorth i’w chysoni â ffioedd myfyrwyr. Ceir canllawiau ar gyfer y rhagolygon niferoedd myfyrwyr yn Atodiad D.

22. Ceir perthynas annatod rhwng tybiaethau sefydliad ynglŷn â newidiadau yn y dyfodol i’w boblogaeth fyfyrwyr a’i ragolygon ariannol. Felly mae’r rhagolygon myfyrwyr yn nodweddion pwysig sy’n tanategu cynllun strategol a rhagolygon ariannol sefydliad.

23. Gofynnir i sefydliadau gyflwyno, i’r ffolder SharePoint unigol ddiogel a roddir i bob sefydliad, erbyn 31 Gorffennaf 2026,ragolygon o niferoedd yr holl fyfyrwyr AU (Cartref cyllidadwy, Cartref anghyllidadwy a Thramor) ar gyfer y pum mlynedd rhwng 2025/26 a 2029/30. Mae hyn yn cynnwys rhagolygon o niferoedd myfyrwyr addysg drawswladol (TNE) mewn campysau yn yr UE a thramor (y tu allan i’r UE), i’w cynnwys yn Atodiad E, SPF3 a’r incwm ffioedd cysylltiedig sydd i’w gynnwys yn nhab Atodiad C2. Mae Atodiad D yn cynnwys gwybodaeth am y tablau a chanllawiau i gynorthwyo gyda chwblhau’r ffurflenni’n gywir.

24. Byddwn yn e-bostio Atodiadau C ac E wedi’u poblogi’n rhannol ymlaen llaw i bob sefydliad yn unigol. Mae’r tablau hyn yn cynnwys gwybodaeth am ddilysu a gwybodaeth gryno. Mae tablau yn nhab Atodiadau C1 ac C2 wedi eu cynnwys yn yr un llyfr gwaith â thab Atodiad E, ac mae gwiriadau hygrededd wedi cael eu cyflwyno i helpu i wirio ffurflenni niferoedd myfyrwyr ochr yn ochr â data incwm ffioedd. Y tablau hyn y mae angen eu cwblhau a’u dychwelyd.

25. Yn ychwanegol at y rhagolygon, rydym yn gofyn am wybodaeth am niferoedd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2025/26. Y rheswm dros hyn yw er mwyn sicrhau ein bod yn gallu dwyn cymariaethau rhwng y boblogaeth fyfyrwyr ddiweddaraf a’r data incwm ffioedd myfyrwyr a ddychwelir yn nhab Atodiadau C1 ac C2. Rydym yn cydnabod y bydd yn dal i gynnwys elfen o amcangyfrif gan na fydd y flwyddyn academaidd wedi gorffen ond bydd yn rhoi niferoedd mwy cywir i ni er mwyn cymharu â thybiaethau a wnaed wrth baratoi’r ffigyrau incwm ffioedd a ragwelir. Er gwybodaeth, mae ffigyrau o Dabl 1 ystadegau cynnar myfyrwyr addysg uwch (HESES) 2025/26 wedi cael eu cynnwys fel tabl atodol.

26. Yn gyffredinol, dylai’r diffiniadau sydd wedi eu cynnwys yng nghylchlythyr Medr/2025/33, arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (HESES) 2025/26 ac yng nghofnod Alltraeth Cyfanredol HESA gael eu defnyddio wrth lunio’r wybodaeth am ragolygon myfyrwyr sy’n ofynnol gan y cylchlythyr hwn. Ceir y manylion yn Atodiad D.

27. Dylai tybiaethau fod yn gyson â’r rhai a gyflwynir yn Atodiad A, ac unrhyw dybiaethau perthnasol eraill a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r rhagolygon ariannol.

28. Ceir nodiadau pellach ar gwblhau’r tablau yn Atodiad D.

Rhyddid gwybodaeth

29. Byddwn yn trin yr holl wybodaeth a ddarperir ar ein cyfer yn y cylchlythyr hwn fel gwybodaeth gyfrinachol.

30. Fel awdurdod cyhoeddus mae Medr yn ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl gyhoeddus i gael mynediad at unrhyw wybodaeth a ddelir gan awdurdod cyhoeddus. Gall gwybodaeth a gyflwynir i Medr gael ei datgelu ar gais dan amodau’r Ddeddf. Mae gennym gyfrifoldeb i benderfynu a ddylai ymatebion gael eu gwneud yn gyhoeddus ynteu a ddylid eu trin fel gwybodaeth gyfrinachol. Gallwn wrthod datgelu gwybodaeth dan amgylchiadau lle byddai datgelu gwybodaeth yn niweidio buddiannau masnachol neu lle darparwyd gwybodaeth yn gyfrinachol (er enghraifft, amcanestyniadau ariannol ar gyfer y dyfodol). Ceir rhagor o wybodaeth am y Ddeddf, gan gynnwys yr amgylchiadau penodol pan ellir dal gwybodaeth yn ôl, yn https://ico.org.uk/ dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Rhagor o wybodaeth

31. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cylchlythyr hwn at [email protected].

Medr/2026/23: Cais am ragolygon 2026

Dyddiad:  09 Mehefin 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/23

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Prif swyddogion cyllid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru

Ymateb erbyn: 31 Gorffennaf 2026

Crynodeb: Mae’r cylchlythyr hwn yn gofyn i sefydliadau addysg uwch gyflwyno’r wybodaeth ganlynol:
* Rhan 1 – Rhagolygon ariannol sy’n cynnwys:
— Amcangyfrifon ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2025/26 a rhagolygon ariannol ar gyfer 2026/27 i 2029/30
— Rhagolygon llifoedd arian parod misol ar gyfer y 12 mis hyd at 31 Gorffennaf 2027
— Sylwebaeth naratif i gyd-fynd â’r wybodaeth
* Rhan 2 – Niferoedd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2025/26 a rhagolygon ar gyfer 2026/27 i 2029/30

Medr/2026/23 Cais am ragolygon 2026

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/22: Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach ym Mlwyddyn Academaidd 2026/27 – canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllid

Cyflwyniad

1. Mae Adran 5 Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Deddf 2022) yn nodi bod rhaid i Medr hybu gwelliant parhaus yn ansawdd addysg drydyddol Gymreig ac, wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, bod rhaid iddo roi sylw:
a. i bwysigrwydd sicrhau bod aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol yn gallu darparu addysg drydyddol o ansawdd uchel, a
b. i ofynion rhesymol aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol am ddatblygiad proffesiynol parhaus.

2. Mae Adran 5 (3) yn nodi bod aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol yn golygu:
a. athrawon personau sy’n cael addysg drydyddol,
b. personau sy’n darparu cymorth i’r athrawon hynny, ac
c. personau sy’n darparu cymorth i ddysgwyr i gymryd rhan mewn addysg drydyddol.

3. I roi cymorth i gyflawni’r ddyletswydd hon, mae dysgu proffesiynol wedi’i gynnwys yng Nghynllun Strategol Medr dan Nod Strategol 3.

Nod Strategol 3
Sicrhau bod dysgwyr yn cael darpariaeth o’r ansawdd gorau mewn system addysg drydyddol sy’n ymegnïo i wella’n barhaus.
Ymrwymiad twf
Cynorthwyo’r gweithlu addysg drydyddol i gael mynediad at ddysgu proffesiynol effeithiol ac archwilio ffyrdd o rannu arfer gorau, gan estyn addysgeg effeithiol ar draws y sector cyfan.

4. Gall dysgu proffesiynol yn y cyd-destun hwn gynnwys hyfforddiant gorfodol, datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), gwybodaeth bynciol a diwydiannol, cymwysterau proffesiynol, ymchwil weithredol ac ymholi proffesiynol.

Astudiaeth Gwmpasu Dysgu Proffesiynol

5. Yn 2019, fe gomisiynodd Llywodraeth Cymru Astudiaeth Gwmpasu Dysgu Proffesiynol i ddeall yn well sut allai dysgu proffesiynol gynorthwyo’r gweithlu ôl-16 i ymateb i’r heriau sy’n wynebu’r sector. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys addysg bellach, dysgu seiliedig-ar-waith ac addysg oedolion yng Nghymru ac fe’i cynhaliwyd gan ICF Consulting Services Ltd, mewn cydweithrediad gydag Arad Research Ltd.

6. Darparodd yr astudiaeth sylfaen dystiolaeth gref, gan adnabod bylchau o ran sgiliau a gwneud cyfres o argymhellion i oleuo polisi yn y dyfodol. Er bod y gwaith hwn wedi bod yn werthfawr, mae wedi canolbwyntio ar AB a sectorau cysylltiedig gan mwyaf.

7. Gan adeiladu ar waith cynharach gan Lywodraeth Cymru a’r gwersi a ysgogwyd trwy’r Gronfa Dysgu Proffesiynol AB, mae Medr wedi comisiynu astudiaeth gwmpasu newydd ar ddysgu proffesiynol ar draws y sector trydyddol.

8. Diben yr astudiaeth hon yw sefydlu sylfaen dystiolaeth gadarn, gychwynnol i oleuo penderfyniadau strategol yn y dyfodol ynghylch dysgu proffesiynol y tu hwnt i AB, gan gynnwys AU. Bydd yr astudiaeth yn archwilio:

  • Gweithgarwch dysgu proffesiynol cyfredol ar draws gwahanol rannau o addysg drydyddol
  • Rhwystrau i gyfranogiad y gweithlu mewn dysgu proffesiynol
  • Achosion o ddyblygu darpariaeth ac effeithlonrwydd
  • Cyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng darparwyr i ddiwallu anghenion cyffredin

9. Bydd yr astudiaeth hefyd yn esgor ar argymhellion ymarferol y gall Medr, darparwyr dysgu a sefydliadau partner eu defnyddio i siapio cymorth dysgu proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg drydyddol yn y dyfodol. Y nod ar y cyfan yw deall darpariaeth dysgu proffesiynol a gofynion yn y dyfodol ar draws y sector.

10. Bydd yr adroddiad ac argymhellion terfynol yn cael eu rhannu gyda’r sector yn hydref 2026.

Defnyddio’r Gronfa Dysgu Proffesiynol

11. Mae Medr wedi dyrannu £5 miliwn i gefnogi dysgu a datblygiad proffesiynol y gweithlu addysg bellach. Bydd £4.8m yn cael ei ddyrannu i sefydliadau AB yn seiliedig ar faint y sefydliad fel dirprwy ar gyfer nifer y staff. Mae’r dyraniadau wedi’u nodi yn Atodiad A. Bydd £200,000 yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau cenedlaethol a fydd o fudd i’r sector AB yn ei gyfanrwydd. Mae’r rhain yn cynnwys cyllid grant i’r canlynol:

  • Coleg Sir Gâr i gefnogi ail flwyddyn y Rhwydwaith Dysgu Proffesiynol.
  • Y Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored ar gyfer hyfforddiant i reoli ymweliadau addysgol a gweithgarwch awyr agored.
  • Y Sefydliad Gwaddol Addysgol i hyrwyddo’r Cymrodoriaethau Addysgu Technegol (TTF).
  • Prifysgolion perthnasol yng Nghymru ar gyfer lleoliadau i ymarferwyr AB ar y rhaglenni Arweinyddiaeth ar ffurf graddau Meistr a Doethuriaeth mewn addysg.
  • Colegau Cymru ar gyfer cynhadledd Dysgu ac Addysgu.

12. Mae’r cyllid a ddyrennir gan Medr ar gael gyda’r amodau cyffredinol ar gyfer talu arian a nodir yn Nhelerau ac Amodau Cyllid Medr.

13. Bydd cyllid yn cefnogi dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr a staff cymorth dysgu, a gellir ei ddefnyddio i alluogi sefydliadau i ddarparu neu gomisiynu dysgu proffesiynol sy’n cyd-fynd â’r themâu a amlinellir yn y canllawiau hyn.

14. Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau unigol pob sefydliad, yn seiliedig ar ei bolisïau ei hun a’r anghenion a adnabuwyd ar gyfer ei staff. Anogir sefydliadau hefyd i ddefnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgarwch cydweithredol a gallant ddewis “cyfuno” cyfran o’r cyllid hwn i gefnogi prosiectau cydweithredol.

15. Wrth lunio ceisiadau ar gyfer defnyddio cyllid, rydym yn disgwyl i’r holl sefydliadau ystyried:

  • Safonau proffesiynol ar gyfer athrawon AB, ymarferwyr Dysgu Seiliedig-ar-Waith ac ymarferwyr Addysg Oedolion/Addysgwyr Cymru.
  • Cydweithio ar draws y sector i wella effeithlonrwydd, cymorth rhwng cymheiriaid a rhannu arfer da. 
  • Gwersi blaenorol i adeiladu ar y gwaith a gwreiddio’r gwaith a ddatblygwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
  • Taro cydbwysedd rhwng anghenion dysgu’r sefydliad (DPP) a’r penderfyniadau y mae ymarferwyr yn eu gwneud am eu hanghenion a’u diddordebau dysgu proffesiynol hwy eu hunain.
  • Datblygu sgiliau staff i gefnogi anghenion cymhleth a blaenoriaethau o ran sgiliau.
  • Lle mae sefydliadau’n gwneud dysgu proffesiynol sy’n ymwneud â darpariaeth ddigidol, gofynnwn iddynt ddefnyddio’r Safonau Proffesiynol Digidol a ddatblygwyd gan Jisc fel rhan o’n gwaith Digidol 2030.

16. Rhaid i geisiadau ganolbwyntio ar y themâu cymwys a restrir isod. Mae’r rhestr isod yn cynnwys themâu gorfodol y mae’n rhaid eu cynnwys a themâu dewisol.

  • Datblygu neu gryfhau dulliau addysgu dwyieithog a/neu gefnogi staff i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer cyflwyno.
  • Dysgu proffesiynol sy’n ofynnol i greu ac ategu diwylliant gwrth-hiliol.
  • Dysgu digidol.
  • Strategaethau dysgu ac addysgu, gan gynnwys dysgu gwahaniaethol.
  • Llythrennedd a rhifedd (gan gynnwys ESOL).
  • Gwella sgiliau diwydiannol sy’n gysylltiedig ag anghenion y farchnad lafur (gan gynnwys capasiti i ddarparu cymwysterau lefel uwch).
  • Cryfhau addysgeg Safon Uwch a galwedigaethol.
  • Ymchwil weithredol.
  • Dysgu proffesiynol i staff addysgu a chymorth arbenigol ar gyfer dysgwyr ag anghenion cymhleth. 
  • Darparu gweithgareddau sydd wedi’u bwriadu i gyflymu a meithrin arbenigedd staff a fydd yn cynyddu gwybodaeth a phrofiad dysgu’r dysgwr.

Materion allweddol a dulliau gweithio

17. Wrth baratoi ceisiadau, dylai sefydliadau ystyried polisïau trawsbynciol eraill a ffyrdd eraill o weithio. Rhaid i’r rhain gynnwys:

  • Hybu cydweithio gydag undebau llafur
    Disgwylir i SABau ddatblygu eu cynigion mewn cydweithrediad gydag undebau llafur, i sicrhau bod eu hundebau llafur cydnabyddedig yn cael eu cynnwys yn llawn wrth gynllunio newidiadau a fydd yn effeithio ar staff, gwneud penderfyniadau yn eu cylch, a’u rhoi ar waith.
  • Cymru Wrth-hiliol
    Dylai unigolion a sefydliadau gymryd cyfrifoldeb am greu diwylliant gwrth-hiliol ac ysgogi newid cadarnhaol parhaol ac, wrth wneud hynny, byddem yn disgwyl i chi ystyried y dysgu proffesiynol sy’n ofynnol yn eich sefydliad i helpu i wireddu’r uchelgais i greu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030.
  • Y Gymraeg
    Mae gan Medr rôl i gyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050 ac mae dyletswydd arno i hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg. Rydym felly’n disgwyl i chi ystyried hyn wrth baratoi eich ceisiadau.

Gweithgareddau cymwys

18. Gellir defnyddio cyllid i wneud y canlynol:

  • Gwneud cymwysterau addysgu achrededig.
  • Gwneud modiwlau neu unedau hyfforddi penodol i wella sgiliau addysgu (e.e. modiwlau MA).
  • Diweddaru a gwella sgiliau diwydiannol/galwedigaethol staff.
  • Prynu hyfforddiant pwrpasol, gan gynnwys costau hyfforddwyr neu hwyluswyr allanol.
  • Prynu neu ddatblygu pecynnau e-ddysgu.
  • Ariannu costau cefnlenwi ar gyfer staff sy’n gwneud dysgu proffesiynol.
  • Cynnal ymchwil gan gynnwys ymchwil weithredol.
  • Dylunio a darparu dysgu proffesiynol a datblygiad arweinwyr mewn modd cydweithredol, gan gynnwys hyfforddiant ar y cyd yn rhanbarthol.
  • Datblygu adnoddau a chanllawiau dysgu proffesiynol dwyieithog er budd y sector cyfan, gan gynnwys mewn dysgu seiliedig-ar-waith ac addysg oedolion.
  • Dysgu proffesiynol i staff addysgu a chymorth arbenigol ar gyfer dysgwyr ag anghenion cymhleth.
  • Darparu gweithgareddau sydd wedi’u bwriadu i gyflymu a meithrin arbenigedd staff a fydd yn cynyddu gwybodaeth a phrofiad dysgu’r dysgwr.

19. Ni ellir defnyddio’r cyllid i brynu offer na meddalwedd cyfalaf nac i ddatblygu cyrsiau ar gyfer dysgwyr.

20. Os ydych yn ansicr a yw eich defnydd arfaethedig o’r cyllid yn gymwys cysylltwch â [email protected].

Meini prawf gwerthuso

21. Rhaid i gyni gion wneud y canlynol:

Sut i ymgeisio

22. Mae’n ofynnol i bob sefydliad gwblhau a llofnodi copi o’r ffurflen yn Atodiad C a’i ddychwelyd i:

  • Gadarnhau’n ffurfiol bod eich sefydliad yn derbyn y cyllid.
  • Enwebu unigolyn priodol yn eich sefydliad fel y cyswllt arweiniol mewn perthynas â’r cyllid hwn.
  • Amlinellu’n fras beth yw eich bwriadau ar gyfer defnyddio’r cyllid hwn.

23. Dylai ffurflenni wedi’u llofnodi gael eu dychwelyd i [email protected] erbyn 3 Gorffennaf 2026.

24. Rhowch wybod i Medr ar y cyfle cynharaf os ydych yn rhagweld na fyddwch yn gallu gwario eich dyraniad yn llawn. Os caiff cyllid ei ryddhau gan sefydliadau unigol, bydd Medr yn ystyried a yw’n ddichonadwy ailddyrannu’r cyllid hwn.

Monitro a thalu’r cyllid

25. Yn amodol ar ddychwelyd Atodiad C, bydd taliad interim (65% o ddyraniad cyllid eich sefydliad) yn cael ei amserlennu yn ystod mis Mawrth 2027.

26. Bydd hi’n ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth am wariant erbyn 31 Gorffennaf 2027 i ryddhau’r taliad terfynol. Dim ond yn erbyn gwariant gwirioneddol a ysgwyddwyd erbyn 31 Gorffennaf 2027 y dylech hawlio. Bydd swm y taliad terfynol hwn yn cael ei addasu yn unol â’r gwariant gwirioneddol a ysgwyddwyd, hyd at gyfanswm gwerth dyraniad eich sefydliad.

27. Bydd templedi ar gyfer adroddiadau interim a therfynol ynghyd â gwybodaeth am wariant ar ddiwedd y flwyddyn yn cael eu hychwanegu fel Atodiad D. Bydd arweinwyr cyllid a enwebwyd yn cael eu hysbysu pan fo’r ffurflenni hyn ar gael.

28. Mae cadarnhau’r dyraniad yn amodol ar gymeradwyo gweithgareddau gan Medr.

Further information

29. Dylai unrhyw ymholiadau ynghylch y canllawiau hyn a dogfennaeth ategol gael eu cyfeirio at Karron Williams yn [email protected].

Medr/2026/22: Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach ym Mlwyddyn Academaidd 2026/27 – canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllid

Dyddiad:  05 Mehefin 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/22

At:  Principals of further education institutions (FEIs) in Wales; FEI professional learning leads

Ymateb erbyn:  Applications to be submitted by midday 3 July 2026

Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn nodi’r dyraniadau cyllid refeniw dysgu proffesiynol (PLF) i sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. Mae’r ddogfen yn darparu canllawiau ynghylch gwariant cymwys ac anghymwys a thempledi ar gyfer ceisiadau a chostau.

Medr/2026/22 Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach ym Mlwyddyn Academaidd 2026/27 – Canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllid

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/21: Cyfarwyddyd cyfrifon i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer 2025/26

Cyflwyniad

1. Diben y cyfarwyddyd cyfrifon hwn yw hysbysu sefydliadau am ofynion Medr ynghylch fformat eu datganiadau ariannol archwiliedig ar gyfer y flwyddyn 2025/26.

2. Mae sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn dal i fod yn ddarostyngedig i fframwaith cod rheoli ariannol (CRhA) CCAUC (Cylchlythyr CCAUC W17/16HE) nes i fframwaith rheoleiddio Medr ei hun ddod i rym ar 1 Awst 2026.

Newidiadau o gyfarwyddyd cyfrifon 2024/25

3. Cyflwynwyd y diwygiadau canlynol i’r dogfen hon ers y fersiwn derfynol ar gyfer 2024/25:
a) Mân newidiadau i’r naratif / teipograffeg a diweddaru dolenni’r rhyngrwyd.

Cyfarwyddyd cyfrifon ar gyfer 2025/26

4. Mae’n ofynnol i sefydliadau addysg uwch ddilyn y Datganiad o’r Arfer a Argymhellir: Cyfrifyddu ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch 2019 (FEHE SORP), neu unrhyw ddogfennau sy’n olynu’r SORP, wrth lunio’u datganiadau ariannol. Gellir cael hyd i ddolenni i’r FEHE SORP a chanllawiau ar weithredu rhai meysydd yn yr adran SORP ar wefan Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Prifysgolion Prydain (BUFDG). Os oes unrhyw anghysondebau rhwng gofynion y FEHE SORP a’r cyfarwyddyd cyfrifon hwn, y cyfarwyddyd cyfrifon hwn fydd yn drech.

5. Fel y nodwyd yn y SORP, rhaid i sefydliadau gymhwyso’r holl ofynion o dan FRS 102: y Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).

6. Yn achos sefydliad sydd hefyd yn gwmni cyfyngedig drwy warant, mae’r cyfarwyddyd hwn yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Cwmnïau 2006.

7. Bydd y datganiadau ariannol yn cael eu llofnodi gan y Swyddog Atebol a chan y Cadeirydd neu un aelod arall o’r corff llywodraethu a benodir gan y corff hwnnw.

8. Dylai sefydliadau nodi y dylid dilyn fformatau’r prif ddatganiadau cyfrifyddu (datganiad cyfunol o incwm a gwariant cynhwysfawr, datganiad cyfunol o newidiadau mewn cronfeydd wrth gefn, mantolen, a datganiad llif arian cyfunol). Dylai’r datganiadau ariannol ddilyn datganiadau ariannol enghreifftiol diweddaraf BUFDG lle bo modd, i hyrwyddo cysondeb o ran ymdriniaeth o fewn y sector, gan roi sylw digonol i amrywiaeth sefydliadau, a’r angen am eglurder wrth gyflwyno’r wybodaeth i ddefnyddwyr. Gellir cael hyd i’r model yn adran SORP ar wefan BUFDG.

9. Wrth i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) symud i ddarparu data agored, mae defnyddwyr trydydd parti yn gynyddol yn echdynnu data am sefydliadau a’r sector o’r ffynhonnell hon er mwyn cymharu a gwneud sylwadau yn hytrach nag o’r datganiadau ariannol cyhoeddedig. Byddem felly’n disgwyl i Sefydliadau roi sylw digonol i ddiffiniadau a chanllawiau HESA wrth gategoreiddio o fewn y datganiadau ariannol, er mwyn sicrhau bod y datganiadau ariannol, fel y cawsant eu cymeradwyo gan y corff llywodraethu, yn cyd-fynd â’r cofnod cyllid a gyflwynwyd i HESA wedi hynny..

10. Mae cysondeb rhwng cofnod cyllid HESA a datganiadau ariannol cyhoeddedig yn hyrwyddo cymhariaeth well rhwng sefydliadau a chysondeb y data a ddefnyddir i ddadansoddi sectorau’r DU.

11. Dylai’r nodiadau i’r cyfrifon gynnwys dadansoddiadau o incwm a gwariant ac eitemau ar y fantolen sy’n gyson ag arfer cyfrifyddu da cydnabyddedig, a dylent fod yn ddigon manwl fel bod defnyddwyr yn gallu cael dealltwriaeth glir o berfformiad ariannol y sefydliad.

12. Os yw’r cyfrifon yn cynnwys eitemau incwm neu wariant sylweddol nad ydynt yn debygol o ddigwydd eto ac/neu nad ydynt yn adlewyrchu’r perfformiad ariannol sylfaenol, dylid rhoi esboniad am hynny.

13. Dylai’r datganiadau ariannol gydymffurfio ymhellach ag unrhyw ofynion perthnasol yn Neddf Elusennau 2011 i’r graddau y mae’r Ddeddf honno’n berthnasol i sefydliad.

14. Dylai sefydliadau hefyd:

a) Sicrhau bod contractau ar gyfer archwilio allanol yn nodi bod yn rhaid i’r archwilydd allanol gynnwys adroddiad i’r corff llywodraethu yn y datganiadau ariannol ynghylch a yw’r canlynol yn wir, ym mhob ffordd berthnasol:

i.) bod y datganiadau ariannol yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y sefydliad addysg uwch, ac o’i incwm a’i wariant, ei enillion a’i golledion, newidiadau i’w gronfeydd wrth gefn a’i lifoedd arian am y flwyddyn. Dylent roi ystyriaeth i ofynion statudol perthnasol, ac i ofynion datgelu a chyfrifyddu gorfodol eraill, ac i ofynion Medr;
ii.) bod y datganiadau ariannol wedi’u paratoi’n briodol yn unol ag Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y DU, sef y safon adrodd ariannol (FRS102), y datganiad o’r arfer a argymhellir: cyfrifyddu ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch (FEHE SORP), a deddfwriaeth berthnasol;
iii.) bod arian o ba bynnag ffynhonnell a weinyddir gan y sefydliad addysg uwch i ddibenion penodol wedi’i gymhwyso’n briodol i’r dibenion hynny a’i reoli yn unol â deddfwriaeth berthnasol;
iv.) bod y sefydliad wedi defnyddio incwm, lle bo’n briodol, yn unol â pharagraff 145 y Cod Rheoli Ariannol (CRhA) (HEFCW W17/16HE) ac a yw grantiau Cynghorau Cyllido (gan gynnwys grantiau gan Medr) wedi’u cymhwyso’n unol â’r telerau ac amodau cysylltiedig, a’u defnyddio i’r dibenion y’u derbyniwyd ar eu cyfer, gan gynnwys y Telerau ac Amodau Cyllido; a
v.) bod gofynion cyfarwyddyd cyfrifon Medr wedi’u bodloni.

b) Darparu dadansoddiad a datgeliad manwl o fewn y datganiadau ariannol o ffioedd archwilio a ffioedd eraill a delir i archwilwyr allanol, yn unol ag Offeryn Statudol SI 2008 Rhif 489– Rheoliadau Cwmnïau (Datgelu Tâl Archwilwyr a Chytundebau Cyfyngu Atebolrwydd) 2008 a’r Diwygiadau i’r Rheoliadau hyn sydd wedi’u cynnwys yn Offeryn Statudol OS 2011 Rhif 2198. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer y sefydliadau hynny y mae cyfraith cwmnïau yn berthnasol iddynt. Gellir gweld yr Offeryn Statudol ar Wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (www.legislation.gov.uk).

c) Yn eu hadroddiadau neu eu llythyrau at reolwyr, dylai archwilwyr roi sylw digonol i ofynion penodol Medr, fel cydymffurfio â chodiadau i drothwyon ymrwymiadau ariannol, neu agweddau eraill ar ddiffyg cydymffurfio.

Dyddiad cyflwyno datganiadau ariannol archwiliedig i Medr

Dyddiad cau
Datganiadau ariannol archwiliedig30 Tachwedd 2026
Cyhoeddi ar y wefan31 Ionawr 2027
Datganiadau ariannol is-gyrff archwiliedig31 Rhagfyr 2026

Medr/2026/21: Cyfarwyddyd cyfrifon i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer 2025/26

Dyddiad: 03 Mehefin 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/21

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Brif swyddogion cyllid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru

Ymateb erbyn:  30 Tachwedd 2026 [is-gyrff perthnasol 31 Rhagfyr 2026]

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu gwybodaeth am ofynion Medr ynghylch fformat datganiadau ariannol archwiliedig sefydliadau addysg uwch Cymru.

Medr/2026/21 Cyfarwyddyd cyfrifon i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer 2025/26

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/10/2026: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Tachwedd 2025 i Ionawr 2026 (dros dro)

Ystadegau Swyddogol a gyhoeddwyd ar 28 Mai 2026. Ceir y diweddariad nesaf ym mis Awst 2026.

  • Dechreuodd 3,765 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch2 2025/26 (p), o gymharu â 3,650 yn Ch2 2024/25.
  • Ymhlith y prentisiaethau uwch y gwelwyd y cynydd mwyaf o gymharu â Ch2 y flwyddyn gynt, sy’n cynyddu o 19% (p).
  • Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd yn Ch2 2025/26 (p) hefo 1,805 raglenni dysgu prentisiaethau yn ddechreuwyd. Roedd 48% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Roedd 60% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr gwrywaidd yn Ch2 2025/26 (p), roedd hyn dim wedi gostwng 2 pwynt canran o gymharu â Ch2 2024/25.
  • Roedd 40% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr 25 i 39 oed yn Ch2 2025/26 (p) o gymharu â 42% yn Ch2 y flwyddyn gynt.
  • Roedd 18% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn Ch2 2025/26 (p), roedd hyn dim wedi cynyddu 3 pwynt canran o gymharu â Ch2 2024/25
  • Roedd 13% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau yn Ch2 2025/26 (p) gan ddysgwyr a oedd yn nodi bod ganddynt anabledd ac/neu anhawster dysgu, rdim newid o gymharu â Ch2 2024/25.
  • Roedd 24% o’r dysgwyr a ddechreuodd raglenni dysgu prentisiaeth yn ddysgwyr sy’n byw yn y 20% o gymdogaethau â’r mwyaf o amddifadedd yng Nghymru yn 2025/26 Ch2 (p).
  • Mae 92,010 o brentisiaethau wedi’u dechrau rhwng Mai 2020 ac Ionawr 2026, yn rhan o’r cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru yn y tymor Senedd blaenorol o 100,000 o brentisiaethau. Gan gynnwys y dysgwyr a ddechreuodd raglenni na chânt eu cyfrif fel rhan o’r mesur mwy trwyadl ar gyfer y targed, dechreuodd gyfanswm o 101,070 o ddysgwyr brentisiaethau yn ystod y cyfnod.
  • Roedd y Rhaglen Lywodraethu’n ar gyfer tymor y Senedd 2021 i 2026 wedi cynnwys targed i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed. Yn ystod cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 26 Mehefin 2024, fe gytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar darged newydd o 100,000 o brentisiaethau pob oed i gynnal targed tymor blaenorol y Senedd o 100,000.

Roedd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau yn y flwyddyn ariannol 2023-24 yn £139m ac yn £144m yn 2024-25 (Ffynhonnell: Dyraniadau cyllid Medr 2025 i 2026).). Yn ystod blynyddoedd blaenorol, roedd cyllid ychwanegol ar gyfer prentisiaethau o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (£43m yn 2023-24 Dyraniadau cyllid Medr 2025 i 2026). Fe ddaeth hyn i ben erbyn y flwyddyn ariannol 2024-2025.

Rhaglenni dysgu Prentisiaeth a ddechreuwyd: dangosfwrdd rhyngweithiol

Gwybodaeth reoli a gyhoeddwyd ar 25 Mehefin.

Mae gan Medr fynediad at wybodaeth reoli fwy diweddar, nad yw wedi cael ei dilysu na’i gwirio o ran ansawdd, i’r un graddau â’r ystadegau swyddogol yn yr adroddiad hwn.

Yn ôl y wybodaeth reoli ar 18 Mehefin 2026:

  • Cafwyd 96,330 o ddechreuadau prentisiaeth ers Ch4 2020/21, yn rhan o’r mesur llymach o gynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o 100,000 o brentisiaethau yng nghyfnod 2021 i 2026 y Senedd.
  • O gynnwys y dechreuadau nad ydynt wedi’u cyfrif yn rhan o fesur llymach y targed, cafwyd cyfanswm o 105,570 o ddechreuadau prentisiaeth dros y cyfnod hwnnw o amser.
  • Gwnaeth cyfanswm nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd yn ystod cyfnod y Senedd groesi 100,000 ym mis Ionawr 2026. Gwnaeth nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd ar gyfer y mesur targed mwy trwyadl aros islaw 100,000.

I ddibenion y mesur hwn ac i gyd-fynd â’r cyfnodau adrodd chwarterol ar gyfer yr ystadegau hyn, rydym yn ystyried bod cyfnod y Senedd yn rhychwantu Ch4 2020/21 i Ch3 2025/26 (1 Mai 2021 i 30 Ebrill 2026).

Mae’r mesurau hyn yn cynnwys gradd-brentisiaethau. Daw’r data ar radd-brentisiaethau o gasgliad data gwahanol, sydd ar gael bob blwyddyn. Cafodd y diweddariad diwethaf i’r data ar radd-brentisiaethau ei wneud ar 29 Ionawr ac roedd yn cynnwys data ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.Bydd gwybodaeth am radd-brentisiaethau a ddechreuodd yn ystod tri chwarter cyntaf blwyddyn academaidd 2025/26 ar gael ym mis Ionawr 2027. Roedd 480 o radd-brentisiaethau yn 2024/25 fel rhan o’r mesur targed, a dechreuwyd cyfanswm o 485.

Ffigur 1: Gwybodaeth reoli ar 18 Mehefin 2026

Ffigur 1: Gwybodaeth reoli ar 21 Mai 2026: Cyfanswm y dechreuadau prentisiaeth yng nghyfnod 2021 i 2026 y Senedd

Mae gan ddarparwyr gyfnod o 8 wythnos i gofnodi bod prentis yn dechrau. Ni fydd yr wybodaeth reoli hon yn cynnwys yr holl brentisiaid sydd wedi dechrau yn y cyfnod dan sylw.

Mae’n cymryd amser hefyd i ganfod a yw prentis yn anghymwys ar gyfer y mesur llymach, sy’n eithrio prentisiaid sy’n tynnu’n ôl yn yr 8 wythnos gyntaf a rhai sy’n trosglwyddo allan o’i rhaglen.

Bydd darparwyr yn newid eu cofnodion yn barhaus i sicrhau cywirdeb. Mae’r sefyllfa derfynol ar gyfer ystadegau swyddogol yn seiliedig ar y cofnod fel y mae ym mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd.

Dyma’r diweddariad misol olaf o wybodaeth reoli ar gynnydd tuag at y targed o 100,000 o brentisiaethau.

Cesglir yr wybodaeth reoli ar y dydd Iau yn nhrydedd wythnos lawn y mis. Dylai’r ffigurau a adroddir ym mis Mehefin roi syniad rhesymol o’r ffigurau terfynol dros gyfnod 2021 i 2026 y Senedd, er na fydd gennym ddarlun llawn o’r rhai a dynnodd yn ôl, tan y caiff y data terfynol ei gyhoeddi.

Bydd sefyllfa derfynol y targed prentisiaethau, yn ôl yr ystadegau swyddogol â sicrwydd ansawdd, yn cael ei hadrodd yn yr adroddiad ar Raglenni dysgu prentisiaeth sydd wedi’i amserlennu i’w gyhoeddi yng Ngwanwyn 2027.

Sta/Medr/10/2026: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Tachwedd 2025 i Ionawr 2026 (dros dro)

Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/10/2026

Dyddiad:  28 Mai 2026 (wedi’r ddiweddaru 25 Mehefin 2026)

Crynodeb: Ystadegau ar rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd. Yn cynnwys data yn ôl rhanbarth cartref, math o raglen, oedran, sector, rhywedd, a blwyddyn academaidd.

Sta/Medr/10/2026 Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd Tachwedd 2025 i Ionawr 2026 (dros dro) v2

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/09/2026: Cyllid sefydliadau addysg uwch, o fis Awst 2024 i fis Gorffennaf 2025

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn rhoi crynodeb o wybodaeth ariannol a gyflwynwyd i gofnod cyllid yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd Medr yr adroddiad Cynaliadwyedd ariannol y sector addysg uwch yng Nghymru sy’n rhoi asesiad manylach o gyllid y sector addysg uwch yng Nghymru. Ceir rhai gwahaniaethau rhwng y ffigurau yn y naill adroddiad a’r llall. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys Prifysgol Cymru gan ei bod yn cyflwyno data i gofnod cyllid HESA, ond nid yw’r adroddiad ar gynaliadwyedd ariannol yn cynnwys y sefydliad hwn (gweler yr adran Data).

Siart 1: Dadansoddiad o gategorïau incwm yn yr holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, o 2022/23 i 2024/25

Siart 1: Dadansoddiad o gategorïau incwm yn yr holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, o 2022/23 i 2024/25

Ffynhonnell: Cofnod Cyllid HESA, Tabl 1

Cyfanswm incwm cyfunol sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2024/25 oedd £1.90 biliwn. Yn 2022/23 ac yn 2023/24, y cyfanswm oedd £1.98 biliwn.

Roedd ffioedd dysgu a chontractau addysg yn cyfrif am £1.04 biliwn o’r incwm yn 2024/25, sy’n golygu mai’r categori hwn oedd y ffynhonnell incwm fwyaf. Mae hyn yn cynrychioli lleihad o 6% ers 2023/24, pan gofnodwyd £1.11 biliwn.

Grantiau cyrff cyllido oedd yr unig gategori incwm lle y gwelwyd cynnydd rhwng 2023/24 a 2024/25, gan godi 3% o £276 miliwn i £285 miliwn. Yn ogystal â chyllid gan Medr, gall grantiau cyrff cyllido gynnwys cyllid ar gyfer sefydliadau addysg bellach o fewn grwpiau addysg uwch, a rhywfaint o gyllid arall gan Lywodraeth y DU.

Roedd grantiau a chontractau ymchwil yn cyfrif am werth £237 miliwn o incwm yn 2024/25.

Gwelwyd lleihad ym mhob un o’r categorïau incwm sy’n weddill yn ystod 2024/25.

Noder: mae’r dull o gyfrifo gwariant sylfaenol yn y datganiad hwn yn wahanol i ddatganiad 2023/24 am ei fod yn cadw addasiadau cyfrifyddu technegol nad ydynt yn arian parod i gynlluniau pensiwn â buddion wedi’u diffinio ar wahân i gostau llog a chostau cyllid eraill, yn ogystal â chostau staff. Dim ond eu cadw ar wahân i gostau staff a wnaed yn natganiad 2023/24. Gwnaed y newid hwn er mwyn cyd-fynd ag arferion safonol yn y sector a chyhoeddiadau eraill gan Medr.

Nid yw cofnod cyllid HESA yn casglu ffigurau wedi’u hailddatgan ar gyfer addasiadau costau pensiwn, felly defnyddiwyd y ffigurau a gyflwynwyd yn wreiddiol.

Tabl 1: Cymhariaeth o fathau o wariant ar gyfer yr holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, o 2022/23 i 2024/25 (£M)

Math o wariant2022/23 (£M)2023/24 (£M)2024/25 (£M)
Cyfanswm y gwariant1,8891,6792,020
Gwariant sylfaenol1,9452,0562,026
Gwariant gweithredu sylfaenol1,9432,0391,977

Ffynonellau: Cofnod Cyllid HESA, Tabl 1, Tabl 8 a Thabl 12.
(Mae Tabl 1 yn cynnwys y categorïau gwariant cyffredinol. Mae Tabl 8 yn cynnwys yr addasiadau pensiwn i’r categori ‘costau llog a chostau cyllid eraill’ yn y golofn ‘Interest and other finance costs’, y gellir ei gweld pan fydd ‘Other expenditure’ wedi’i ddewis ar gyfer hidlydd grŵp canolfan gostau HESA a phan fydd ‘Pension cost adjustment’ wedi’i ddewis ar gyfer hidlydd costau HESA. Mae Tabl 12 yn cynnwys y newidiadau i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn ar gyfer costau staff.)

Mae cyfanswm y gwariant, fel y’i nodir mewn cyfrifon statudol, yn cynnwys addasiadau pensiwn technegol nad ydynt yn arian parod ac eitemau untro megis costau ailstrwythuro sylfaenol. Mae’r addasiadau pensiwn yn seiliedig ar brisiadau actiwaraidd o’r cynlluniau pensiwn, a gallant amrywio’n sylweddol yn dibynnu ar werth marchnadol ar adeg prisio. Gall hyn roi darlun camarweiniol o’r costau sylfaenol.

Mae gwariant sylfaenol yn tynnu addasiadau pensiwn technegol nad ydynt yn arian parod allan o gostau staff a chostau llog a chostau cyllid eraill.

Nid yw gwariant gweithredu sylfaenol yn cynnwys costau ailstrwythuro sylfaenol chwaith. Gan mai costau untro yw costau ailstrwythuro, nid ydynt yn rhan o weithrediadau parhaus arferol.

Yn 2024/25, bu lleihad o 3% mewn gwariant gweithredu sylfaenol, i £1.98 biliwn.

Siart 2: Dadansoddiad o gategorïau gwariant mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, o 2022/23 i 2024/25

Siart 2: Dadansoddiad o gategorïau gwariant mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, o 2022/23 i 2024/25

Ffynonellau: Cofnod Cyllid HESA, Tabl 1, Tabl 8 a Thabl 12
(Mae Tabl 1 yn cynnwys y categorïau gwariant cyffredinol. Mae Tabl 8 yn cynnwys yr addasiadau pensiwn i’r categori ‘costau llog a chostau cyllid eraill’ yn y golofn ‘Interest and other finance costs’, y gellir ei gweld pan fydd ‘Other expenditure’ wedi’i ddewis ar gyfer hidlydd grŵp canolfan gostau HESA a phan fydd ‘Pension cost adjustment’ wedi’i ddewis ar gyfer hidlydd costau HESA. Mae Tabl 12 yn cynnwys y newidiadau i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn ar gyfer costau staff.)

Bu lleihad mewn costau staff (heb gynnwys newidiadau technegol nad ydynt yn arian parod i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn) a chostau gweithredu eraill yn 2024/25. Cofnodwyd costau staff o £1.1 biliwn yn 2024/25; bu lleihad o lai nag 1%.

Bu lleihad o 8% mewn costau gweithredu eraill, i £681 miliwn yn 2024/25.

Y gwarged neu’r diffyg yn sgil gweithgareddau gweithredol craidd mewn prifysgolion yw’r sefyllfa weithredu sylfaenol. Yn y cyhoeddiad hwn, fe’i cyfrifwyd drwy dynnu’r gwariant gweithredu sylfaenol (nad yw’n cynnwys addasiadau pensiwn technegol nad ydynt yn arian parod na chostau ailstrwythuro sylfaenol untro) o gyfanswm yr incwm.

Yn 2024/25, cofnododd prifysgolion yng Nghymru ddiffyg gweithredu cyfunol o £81 miliwn. Yn 2023/24, £56 miliwn oedd y diffyg hwn. Yn 2022/23, roedd gwarged gweithredu o £40 miliwn.

Ffigurau ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2025 yw ffigurau 2024/25, ac mae data’r blynyddoedd blaenorol yn dilyn yr un patrwm.

Nid yw’r datganiad hwn yn cynnwys data gan y Brifysgol Agored yng Nghymru, gan mai dim ond data ariannol ar sail y DU gyfan y mae’r Brifysgol Agored yn eu cynhyrchu. Mae Prifysgol Cymru (swyddogaethau canolog) wedi cael ei chynnwys yn y datganiad hwn, sy’n golygu ei bod yn bosibl y bydd y ffigurau fymryn yn wahanol i’r adroddiad Cynaliadwyedd ariannol y sector addysg uwch yng Nghymru Medr, nad oedd yn cynnwys Prifysgol Cymru yn ei ffigurau, am nad yw Prifysgol Cymru yn gorff dyfarnu i sefydliadau eraill yng Nghymru ar hyn o bryd ac am fod ganddi weithgarwch cyfyngedig fel endid annibynnol. Nid yw sefydliadau addysg bellach, colegau chweched dosbarth na darparwyr addysg uwch amgen wedi’u cynnwys chwaith.

Mae cofnod cyllid HESA yn caniatáu i ddarparwyr ddiwygio eu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn yn y cyflwyniad dilynol. Mae’r cyhoeddiad hwn yn defnyddio’r ffigurau a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar. Daeth ffigurau 2023/24 o gyflwyniad 2024/25 ac felly mae’n bosibl y byddant yn wahanol i gyhoeddiadau blaenorol. Yr eithriad i hyn yw addasiadau pensiwn nad ydynt yn arian parod sydd wedi’u cynnwys o fewn ‘costau llog a chostau cyllid eraill’, lle nad yw’r cofnod cyllid yn casglu gwerth diwygiedig.

Mae’r data i’w gweld ar wefan Data Agored HESA, sydd hefyd yn cynnwys data ar gyfer darparwyr unigol.

Sta/Medr/09/2026: Cyllid sefydliadau addysg uwch, o fis Awst 2024 i fis Gorffennaf 2025

Cyfeirnod:  Sta/Medr/09/2026

Dyddiad:  19 Mai 2026

Dynodiad:  Official Statistics

Crynodeb:  Dadansoddiad o incwm a gwariant sefydliadau addysg uwch yng Nghymru o fis Awst 2024 i fis Gorffennaf 2025

Sta/Medr/09/2026 Cyllid sefydliadau addysg uwch, o fis Awst i fis Gorffennaf 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio