Medr/2025/18: Cyllid cyfalaf addysg uwch 2025-26

Cyflwyniad

1. Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi y bydd £10m o gyllid Cyfalaf ar gael i’w ddyrannu ym Mlwyddyn Ariannol 2025-6. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi blaenoriaethau strategol Medr.

Sail y dyraniadau cyllid cyfalaf

2. Bydd y cyllid Cyfalaf yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar ddull fformiwläig. Gan y dylai’r cyllid gael ei ddefnyddio, o leiaf yn rhannol, i gefnogi dysgu ac addysgu, profiad myfyrwyr a’r seilwaith ar gyfer myfyrwyr, mae’r dyraniadau wedi cael eu pennu yn seiliedig ar nifer y myfyrwyr. Mae nifer y myfyrwyr mewn sefydliad yn ddull procsi rhesymol o gyfrifo maint yr ystâd a’r cyfleusterau sydd eu hangen. Mae’r dull hwn yn gyson â dyraniadau cyfalaf blaenorol.

3. Y niferoedd myfyrwyr a ddefnyddiwyd ar gyfer y dyraniad cychwynnol yw’r Niferoedd Cyfwerth ag Amser Llawn (Niferoedd CALl) o Gofnod Myfyrwyr HESA ar gyfer pob dull, lefel a gwlad y mae myfyrwyr yn hanu ohoni yn seiliedig ar flwyddyn academaidd 2023/24. Dyma’r un sail ag a ddefnyddiwyd i ddyrannu’r cylch blaenorol o gyllid cyfalaf.

Cymhwyso isafswm dyraniad cyllid

4. Er mwyn darparu cyllid cyfalaf a fydd yn galluogi pob sefydliad i fuddsoddi mewn prosiectau a fydd yn cael effaith gynaliadwy, mae isafswm gwerth dyraniad o £750,000 wedi cael ei gymhwyso. Ac ystyried ei hystâd gyfyngedig yng Nghymru, bydd trothwy isafswm y Brifysgol Agored wedi’i osod ar 50% (£375,000) i gyfrannu at brosiectau a fydd o fudd i fyfyrwyr Cymru.

5. Mae’r cyllid ar gyfer sefydliadau lle’r oedd y dyraniad gwreiddiol ar sail nifer eu myfyrwyr CALl yn is na’r gwerth hwn wedi cael ei gynyddu i’r swm hwn, a nifer y myfyrwyr CALl ar gyfer y sefydliadau hynny wedi cael eu tynnu allan o’r cyfrifiad wedi hynny. Mae gweddill y cyllid sydd ar gael wedi cael ei ddosrannu rhwng y sefydliadau eraill yn seiliedig ar y niferoedd CALl a oedd yn weddill wrth gyfrifo.

6. Mae’r dyraniadau canlyniadol ar gyfer pob sefydliad wedi’u darparu yn Atodiad A.

Cyflwyno cynlluniau

7. Bydd hi’n ofynnol i sefydliadau ddarparu eu cynlluniau buddsoddi Cyfalaf ar gyfer y cyllid hwn, ynghyd â’u strategaethau Ystadau, gan egluro sut mae’r cynlluniau buddsoddi’n gyson â’u strategaethau Ystadau. Os yw strategaethau Ystadau ar ganol cael eu diweddaru, rhaid darparu diweddariad ysgrifenedig sy’n cynnwys blaenoriaethau ar gyfer ystadau.

8. Dylai’r cynlluniau buddsoddi cyfalaf gynnwys manylion gwariant arfaethedig y sefydliad a sut y bydd yn cefnogi blaenoriaethau strategol Medr. Mae sero net ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, felly dylai sefydliadau flaenoriaethu prosiectau sy’n mynd i’r afael â hynny’n uniongyrchol. Mae’n debygol y byddai prosiectau o’r fath hefyd yn creu buddion ehangach yn gysylltiedig â materion eraill â blaenoriaeth, fel bioamrywiaeth. Dylai sefydliadau hefyd amlygu sut y bydd cynlluniau’n gwella’r gofod dysgu ac addysgu ac o fudd i brofiad myfyrwyr.

9. Bydd Swyddogion Medr yn cadarnhau bod cynlluniau buddsoddi Cyfalaf yn briodol ac yn bodloni’r meini prawf angenrheidiol.

10. Byddwn yn parhau i fonitro metrigau HESA drwy’r datganiadau data a gyhoeddir ac felly dylai sefydliadau barhau i fod yn ymwybodol o’r effaith y gallai prosiectau ei chael arnynt.

11. Mae profforma ar gyfer y cynlluniau hyn wedi’i gynnwys yn Atodiad B.

12. Os bydd gennym unrhyw bryderon ynghylch priodoldeb unrhyw brosiectau penodol, gallwn fynnu bod y cyllid yn cael ei ddargyfeirio at rai mwy addas. Gan hynny, rydym yn argymell bod sefydliadau’n darparu cynlluniau y tu hwnt i’w dyraniad i ganiatáu hyblygrwydd.

13. Os bydd sefydliad yn rhagweld na fydd yn gallu gwario’i ddyraniad llawn, dylai roi gwybod inni ar y cyfle cyntaf a bydd unrhyw arian sydd dros ben yn cael ei ailddyrannu i sefydliadau eraill drwy’r dull fformiwläig a ddisgrifiwyd yn flaenorol.

Monitro blynyddol

14. Bydd ymarfer monitro’n cael ei gynnal yn 2026 ar ddyddiad addas i sicrhau bod y cyllid wedi cael ei ddefnyddio fel y bwriadwyd ac i roi diweddariad ar effaith y buddsoddiad.

15. Disgwylir i sefydliadau roi dadansoddiad o’r gwariant cyfalaf a manylu ar unrhyw brosiectau y mae’r cyllid wedi cyfrannu atynt.

16. Gofynnir i sefydliadau roi crynodeb ansoddol o’r effeithiau cadarnhaol y mae’r cyllid hwn wedi’u cael/yn eu cael o ran cyflawni blaenoriaethau Medr a’r meini prawf a nodir uchod.

Amserlen

17. Gofynnir i ddarparwyr gadarnhau eu gallu i wario eu dyraniad llawn erbyn 30 Medi 2025.

18. Bydd Medr yn trefnu i dalu’r cyllid a ddyrannwyd i sefydliadau ar ôl derbyn y cadarnhad uchod, a hynny ym mis Hydref 2025.

19. Bydd y broses fonitro flynyddol yn digwydd yn 2026 ar ddyddiad addas.

Rhagor o wybodaeth

20. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].

Atodiad A: Modelu cyllid cyfalaf addysg uwch ychwanegol 2025/26

SefydliadMyfyrwyr CALl 2023/24Dyraniadau pro rata i (£): CALlCanran a ddyrannwyd i bob sefydliad CALl
Prifysgol Abertawe19,009.001,514,809.3115%
Prifysgol Aberystwyth750,000.008%
Prifysgol Bangor750,000.008%
Prifysgol Caerdydd28,326.002,257,272.2823%
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant11,755.00936,744.889%
Prifysgol De Cymru19,177.001,528,197.0715%
Prifysgol Metropolitan Caerdydd10,578.00842,950.868%
Prifysgol Wrecsam750,000.008%
Y Brifysgol Agored yng Nghymru8,408.00670,025.607%
Cyfanswm97,253.0010,000,000.00100%

Ffynhonnell: Cofnod myfyrwyr HESA 2023/24

Niferoedd Myfyrwyr heb eu defnyddio wrth gyfrifo: Poblogaeth gofrestru safonol HESA, pob dull, lefel a gwlad.

Myfyrwyr CALl a ddefnyddiwyd wrth gyfrifo: Poblogaeth Sesiwn HESA, pob dull, lefel a gwlad.

Sylwch fod talgrynnu wedi’i gymhwyso i werthoedd CALl ar ôl eu defnyddio mewn cyfrifiadau.

Medr/2025/18: Cyllid cyfalaf addysg uwch 2025-26

Dyddiad:  30 Medi 2025

Cyfeirnod: Medr/2025/18

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn:  07 Hydref 2025

Crynodeb: Mae’r cylchlythyr hwn yn darparu manylion y sail ar gyfer dyrannu Cyfalaf i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2025-26, yr wybodaeth sydd ei hangen gan sefydliadau a’n dull o fonitro. Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2025/26.

Medr/2025/18 Cyllid cyfalaf addysg uwch 2025-26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Ymateb Medr i adroddiad Estyn ar Y Cwricwlwm Medrau Byw yn Annibynnol (MBA) mewn Addysg Bellach

Mae Medr yn croesawu adroddiad thematig Estyn ar y Cwricwlwm Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) mewn sefydliadau addysg bellach. Rydym yn derbyn y canfyddiadau a’r argymhellion fel y maent yn berthnasol i Medr.

Comisiynwyd yr adroddiad thematig gan Medr ym mis Awst 2024 yn dilyn gwaith ymgysylltu helaeth â’r sector, lle y nodwyd nifer o flaenoriaethau ar gyfer gwella. Ers adroddiad thematig Estyn yn 2017, mae’r sector wedi gwneud gwelliannau sylweddol i’r ffordd y caiff y cwricwlwm SBA ei gyflwyno, gyda ffocws cadarn ar ymateb i anghenion dysgwyr. Comisiynwyd yr adroddiad thematig hwn er mwyn sicrhau bod newidiadau effeithiol wedi cael eu gwneud ac er mwyn atgyfnerthu arlwy cyson i ddysgwyr ledled Cymru. Mae Cynllun Strategol 2025-2030 Medr yn amlinellu ein hymrwymiad i hyrwyddo dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, ochr yn ochr â ffocws cadarn ar gynyddu cyfranogiad. Bydd yr adroddiad thematig hwn yn helpu i lywio ein hymdrechion ar y cyd â’r sector wrth i ni wneud cynnydd o ran datblygu darpariaeth SBA wedi’i hatgyfnerthu.

Cyn i’r adroddiad thematig gael ei gomisiynu, roedd Llywodraeth Cymru (cyn i’r swyddogaethau perthnasol gael eu trosglwyddo i Medr), mewn partneriaeth â’r sector, eisoes wedi canfod bod angen diweddaru ein manylebau SBA er mwyn adlewyrchu cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn well, a hynny’n unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Felly, mae Medr yn croesawu argymhelliad cyntaf Estyn y dylid diwygio’r manylebau, ac mae’n gwerthfawrogi’r dystiolaeth a gyflwynwyd er mwyn llywio’r gwaith hwn. Mae’r ymrwymiad hwn wedi’i wreiddio yn ein Cynllun Gweithredol, a chaiff yr holl newidiadau eu gwneud ar y cyd â’r sector. Bydd rhoi canllawiau clir i gefnogi dealltwriaeth hefyd yn rhan allweddol o’r broses hon, gan helpu i atgyfnerthu’r manylebau diwygiedig (Argymhelliad 2).

Yn fwy cyffredinol, mae ein Cynllun Strategol yn amlinellu ein hymrwymiad i hyrwyddo dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Fel rhan o hyn, ein nod yw helpu Llywodraeth Cymru i roi argymhellion perthnasol ar waith (Argymhellion 3–5) drwy barhau i gymryd rhan mewn gweithgorau perthnasol a rhoi gwybodaeth a chyngor ynglŷn â darparu ar gyfer ADY yn y sector trydyddol. Bydd Medr yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol lle bo hynny’n briodol er mwyn archwilio meysydd lle y bydd angen cymorth ychwanegol yn y sector ôl-16 (Argymhellion 12–15).

Bydd Medr yn gweithio gyda sefydliadau addysg bellach i sicrhau bod y wybodaeth ar eu gwefannau’n hygyrch ac yn adlewyrchu’r cymorth sydd ar gael i ddysgwyr yn glir (Argymhelliad 10), ac yn cynnal ymarfer monitro yn ystod 2026 i adolygu cynnydd. Yn ogystal â chyhoeddi manylebau a chanllawiau wedi’u diweddaru, byddwn hefyd yn gweithio gyda’r sector i archwilio’r gweithgareddau dysgu proffesiynol y bydd eu hangen er mwyn helpu i gyflwyno’r cwricwlwm diwygiedig yn effeithiol (Argymhelliad 7).  Byddwn yn archwilio’r potensial ar gyfer defnyddio cyllid dysgu proffesiynol i gefnogi’r gweithgareddau hyn.  Rydym yn cydnabod pwysigrwydd helpu sefydliadau addysg bellach i ddatblygu’r cwricwlwm mewn ffyrdd sy’n sicrhau mynediad teg i ddysgwyr ledled Cymru.

Rydym yn falch bod Estyn wedi cydnabod gwelliannau sylweddol ar draws y sector ers yr adolygiad diwethaf. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r sector a phartneriaid perthnasol i roi’r argymhellion ar waith ac atgyfnerthu’r ddarpariaeth ymhellach, gan sicrhau arlwy cyson o ansawdd da i ddysgwyr ag anghenion cymhleth ledled Cymru.

You can subscribe to updates to be the first to know about our publications, news and job opportunities.

Subscribe

Medr yn lansio ymgynghoriad ar raglen brentisiaethau

Mae Medr yn gwahodd darparwyr, dysgwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar raglen brentisiaethau newydd i Gymru.

Caiff yr ymgynghoriad, a fydd yn llywio dyfodol prentisiaethau o fis Awst 2027 ymlaen, ei gynnal o 15 Medi 2025 tan 31 Hydref 2025.

Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr: “Mae hwn yn gyfle unigryw i helpu i lywio system brentisiaethau sy’n hyblyg, yn ymatebol, ac yn canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r economi wrth iddynt ddatblygu.

“Uchelgais Medr yw sicrhau bod darpariaeth prentisiaethau’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yn helpu pob unigolyn i ddysgu’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd eu hangen ar gyfer byd gwaith sy’n newid.

“Rydyn ni am weld rhaglen brentisiaethau sy’n sicrhau rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltu i bawb. Rydyn ni’n annog pawb sydd â diddordeb mewn prentisiaethau i ymateb i’r ymgynghoriad a dod i un o’r digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal.”

I gael gwybod mwy am sut i lywio dyfodol prentisiaethau yng Nghymru:

Rhaglen brentisiaethau yng Nghymru: ymgynghoriad

Fideo: Medr yn lansio ymgynghoriad ar raglen brentisiaethau

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Ymateb Medr i adroddiad Estyn ar lythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol

Mae Medr yn croesawu adroddiad Estyn ar lythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol o ran dysgu oedolion yn y gymuned. Rydym yn derbyn y canfyddiadau a’r argymhellion fel y bônt yn berthnasol i Medr.

Yn 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei datganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi. Mae’r blaenoriaethau’n cynnwys cynyddu dysgu oedolion a gwella’r broses o gaffael sgiliau sylfaenol, gan roi’r dysgwr wrth wraidd y system a datblygu data cadarn er mwyn mesur canlyniadau dysgwyr.

Mae Cynllun Strategol cyntaf Medr 2025–2030 yn nodi ein hymrwymiad i ystyried sut y gellir gwneud gwelliannau o ran mynediad, cyfranogiad a llwyddiant wrth ddarparu sgiliau hanfodol Rydym yn cydnabod bod mwy i’w wneud i gefnogi’r ddarpariaeth hon er mwyn bodloni anghenion oedolion sy’n dysgu yng Nghymru. 

Er mwyn darparu sylfaen dystiolaeth gref ar gyfer ein gwaith cynllunio a’n penderfyniadau a llywio polisi’r llywodraeth, rydym yn ymrwymo drwy ein Cynllun Gweithredol ar gyfer 2025-26 i adolygu ein data a’n mesurau presennol. Bydd argymhellion adroddiad Estyn (A1-3) yn llywio’r gwaith hwnnw, gan gynnwys cefnogi ein hystyriaeth o fesurau canlyniad ar gyfer y sector dysgu oedolion yn y gymuned (ACL), a’n hymgynghoriad ar hynny.

Yn fwy cyffredinol, rydym wedi ymrwymo yn ein Cynllun Strategol i adolygu cynllunio, trefniadaeth, hyblygrwydd ac effeithiolrwydd ACL. Yn rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn adolygu canllawiau ar gyfer partneriaethau ACL i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas at y diben, a bod darparwyr yn glir ynghylch y disgwyliadau ar gyfer darpariaeth ACL (A4). Byddwn hefyd yn parhau i adolygu trefniadau partneriaeth rhwng darparwyr cyfansoddol (A6).

Mae Medr yn cydnabod pwysigrwydd gwahanol ddulliau dysgu er mwyn annog cyfranogiad ac ehangu mynediad at ACL. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i sicrhau aliniad a chydweithrediad â rhaglenni fel Ysgolion Bro er mwyn cynnwys rhieni a chymunedau (A5).

Roeddem yn falch bod yr adroddiad wedi canfod bod yr addysgu cyffredinol yn effeithiol ac wedi’i bersonoli, a bod mwyafrif y dysgwyr yn cwblhau ystod eang o gyrsiau llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol yn llwyddiannus. Er mwyn cynorthwyo’r gweithlu ACL i gael mynediad at ddysgu proffesiynol effeithiol a rhannu arfer gorau (un o’n hymrwymiadau twf), byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Colegau Cymru a phartneriaid eraill i hyrwyddo dysgu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau addysgu pwnc-benodol, gan gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg (A7).

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/17: Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: Ymgynghoriad

Crynodeb

Mae cynllun strategol Medr yn nodi nod i ‘greu system drydyddol hyblyg a chydgysylltiedig lle gall pawb gaffael y sgiliau a’r wybodaeth y mae eu hangen arnynt ar gyfer economi a chymdeithas sy’n newid’. Rydym wedi ymrwymo i ddylunio darpariaeth prentisiaethau yn y dyfodol i ymateb i flaenoriaethau sgiliau Llywodraeth Cymru ac i ddiwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r economi.

Mae prentisiaethau yn allweddol ar gyfer hybu cynhyrchiant a helpu i feithrin gweithlu medrus ac amrywiol.

Bydd y rhaglen brentisiaethau newydd yn dechrau ar 1 Awst 2027.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn rhanddeiliaid, gan gynnwys darparwyr hyfforddiant ac addysg drydyddol, cynrychiolwyr diwydiant, cyflogwyr, dysgwyr, rhieni ac awdurdodau lleol i helpu i lunio’r rhaglen newydd.

Rydym eisoes wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid i lywio’r egwyddorion lefel uchel ar gyfer y rhaglen brentisiaethau newydd, gan gynnwys sut y caiff prentisiaethau eu datblygu, eu cyflwyno, a’u rheoli.

Byddem yn croesawu ymatebion i’r ymgynghoriad gan unigolion sydd â phrofiad o brentisiaethau. Mae clywed gan ddysgwyr yn allweddol i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu o’r rhaglen bresennol a bod syniadau’n cael eu cyflwyno i’r rhaglen newydd.

Rydym nawr yn ceisio barn ar y canlynol:

  • yr egwyddorion lefel uchel hyn i arwain y rhaglen brentisiaethau newydd
  • diffiniad o brentisiaeth
  • taith dysgwr sy’n brentis
  • ymgysylltiad cyflogwyr
  • cyflawni hyblyg
  • fframweithiau sector prentisiaethau
  • ymatebolrwydd economaidd y rhaglen
  • canlyniadau prentisiaid
  • cryfhau cyfleoedd yn y Gymraeg
  • prentisiaethau cynhwysol

Byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgynghori:

I gael dweud eich dweud, cwblhewch y ffurflen ymateb yn Atodiad A a’i hanfon at [email protected] erbyn 31 Hydref 2025.

Medr/2025/17: Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: Ymgynghoriad

Dyddiad:  15 Medi 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/17

At:  Penaethiaid darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru; Darparwyr prentisiaethau cyfredol yng Nghymru / Deiliaid contract prentisiaeth wedi’u comisiynu; Cyrff cynrychioli cyflogwyr; Cynrychiolwyr addysg awdurdodau lleol

Ymateb erbyn:  31 Hydref 2025

Crynodeb: Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn i ddeiliaid contractau presennol a darpar ddeiliaid contractau, cyflogwyr a dysgwyr am gymorth i lunio dyluniad rhaglen brentisiaethau newydd Cymru, sydd i fod i ddechrau ar 1 Awst 2027.

Medr/2025/17 Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: Ymgynghoriad

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/16: Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) 2025-26

Rhagair

1. Ers 2011, mae Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) wedi cael ei ddarparu i sefydliadau cymwys yng Nghymru. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynghori Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) ynghylch dyraniadau 2025-26 ac yn rhoi canllawiau ar y gofynion adrodd a monitro cysylltiedig. 

Y cefndir

2. Mae’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) wedi cadarnhau y bydd yn darparu cyllid HERC i bedwar corff cyllido AU y DU[1] yn 2025-26. Bydd DSIT yn darparu £4,623,296 yng Nghymru, a bydd Llywodraeth Cymru (LlC) yn gwneud cyfraniad ar ffurf arian cyfatebol, gan greu cyfanswm cronfa o £9,246,592.

Defnydd o’r cyllid

3. Ni cheir ond defnyddio’r cyllid a ddarperir o dan HERC er mwyn buddsoddi cyfalaf yn y seilwaith ffisegol ar gyfer ymchwil. Mae ymchwil yn cynnwys ‘ymchwil wyddonol’ (sy’n golygu ymchwil a datblygu yn unrhyw un o’r gwyddorau gan gynnwys y gwyddorau cymdeithasol neu dechnoleg (adran 6(1) o Ddeddf Gwyddoniaeth a Thechnoleg 1965)) ac ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau.

4. Wrth benderfynu sut i ddefnyddio’u dyraniadau, dylai sefydliadau ystyried gofynion Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r uchelgeisiau a nodwyd yn Strategaeth Arloesi’r DU, Strategaeth Ymchwil ac Arloesi’r DU, Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru a Chynllun Strategol Medr 2025-2030. Dylid ystyried hefyd sut mae cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dyraniadau

5. Dyrennir y Cyllid drwy ddulliau gwahanol ar gyfer elfennau DSIT a LlC:

  1. Dyrennir elfen DSIT y cyllid drwy defnyddio’r data 3 blynedd diweddaraf gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar incwm Cyngor Ymchwil ac Arloesi’r DU. Yn unol â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth DSIT â Medr a Llywodraeth Cymru, dylai’r cyllid ganolbwyntio ar gynnal adrannau ardderchog â’r màs critigol i gystadlu’n fyd-eang, a’r arbenigedd i gydweithio’n agos â busnesau, elusennau a gwasanaethau cyhoeddus.
  2. Dyrennir elfen Llywodraeth Cymru o’r grant ar sail pro rata yn unol â chyfuniad o’r dyraniad Ymchwil Ansawdd cylchol diweddaraf plws incwm ymchwil arall a adroddwyd gan y darparydd ar gofnod cyllid HESA. Defnyddiwyd y dyraniad Ymchwil Ansawdd ar gyfer 2024/25 oddi mewn i’ fformiwla gyllido ar gyfer HERC 2025-26.

Trothwy cyllido

6. Er mwyn bodloni gofyniad y DSIT fod y gronfa’n cefnogi rhagoriaeth ac yn adeiladu màs critigol, mae’r fformiwla’n cynnwys trothwy isafswm o £100k. Dim ond sefydliadau y cyfrifir bod eu dyraniadau uwchlaw’r trothwy cymhwysedd hwn fydd yn derbyn cyllid yn 2025-26.

7. Ceir hyd i ddyraniadau cyllid 2025-26 ar gyfer sefydliadau cymwys yn Atodiad A.

Trefniadau monitro

8. Ym mis Chwefror 2025, cyflwynodd sefydliadau fanylion eu blaenoriaethau cyllido HERC i’r dyfodol ar gyfer 2025-26. Dylid cadarnhau’r buddsoddiadau hyn a chynlluniau posibl i’r dyfodol ar gyfer 2026-27 drwy lenwi a chyflwyno’r profforma yn Atodiad B.

  • Dylai Rhan 1 y profforma i gadarnhau’r defnydd o gyllid yn 2025-26, gan gynnwys cyfanswm costau buddsoddiadau graddfa fawr, lle cyfrannodd cyllid HERC at hynny. Dylai sefydliadau ddangos lle mae cyllid HERC wedi galluogi ac ysgogi capasiti ymchwil, wedi datblygu blaenoriaethau strategol, ac wedi galluogi sefydliadau i gystadlu’n fwy effeithiol am gyllid ymchwil ac arloesi allanol.
  • Dylid defnyddio Rhan 2 o’r profforma i amlinellu blaenoriaethau gwariant ar gyfer 2026-27 yn seiliedig ar ragdybiaeth y bydd cyllid HERC pellach yn cael ei ddarparu.
  • Rhaid anfon Atodiad B yn ôl i Medr erbyn 13 Chwefror 2026 ar yr hwyraf.

9. Er mwyn cadarnhau bod HERC wedi’i wario’n llawn, gofynnir i sefydliadau cymwys gyflwyno’r profforma Cadarnhau Gwariant yn Atodiad C erbyn 24 Ebrill 2026. Dylai sefydliadau sicrhau eu bod yn nodi’n glir a oes unrhyw gyllid heb ei wario wedi’i ymrwymo ac, os felly, y dyddiad pan fydd y cyllid hwnnw wedi’i wario’n llawn. Gall Medr adhawlio unrhyw gyllid heb ei wario os nad yw wedi’i ymrwymo.

10. Bydd yr wybodaeth a gyflwynir gan SAUau yn yr adroddiadau hyn yn sail i ofynion adrodd Medr ar gyfer Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2026 a DSIT ym mis Mehefin 2026. Gallai methu â darparu manylion digonol am brosiectau a gwariant olygu gohirio cadarnhad o ddyraniadau cyllid yn y dyfodol, neu ddangos diffyg effaith posibl yn sgil buddsoddiad HERC yng Nghymru, a allai danseilio’r ddadl o blaid cyllid parhaus.


Trefniadau talu

11. Fel y nodwyd yn Atodiad A bydd cyllid yn cael ei ddosbarthu drwy ddau daliad ym mis Medi 2025 ac ym mis Ionawr 2026.

Rhagor o wybodaeth / ymatebion i

12. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Hayley Moss ([email protected]).

[1] Medr – Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil; Cyngor Cyllido’r Alban; Adran yr Economi (Gogledd Iwerddon); Ymchwil Lloegr

Medr/2025/16: Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) 2025-26

Dyddiad:  12 Medi 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/16

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn: 13 Chwefror 2026 a 24 Ebrill 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi manylion dyraniadau 2025-26 ar gyfer sefydliadau sy’n gymwys i dderbyn cyllid Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch.

Medr/2025/16 Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) 2025-26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Fframwaith Ansawdd Medr: y camau nesaf

Roedd ymgynghoriad diweddar Medr ar y dull rheoleiddio yn cynnwys nifer o gwestiynau am ein Fframwaith Ansawdd arfaethedig. Nod y Fframwaith yw lleihau’r baich a roddir ar ddarparwyr gan sicrhau profiad dysgwyr o ansawdd da ym mhob rhan o’r sector addysg drydyddol ar yr un pryd. Ein huchelgais yw y bydd unrhyw ddysgwr, ble bynnag y bo yn y sector addysg drydyddol, yn gallu cael sicrwydd ynghylch y disgwyliadau cyffredin ar gyfer darparwyr.


Mae’r broses ddrafftio’n adlewyrchu’r darpariaethau yn y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) i Medr gyhoeddi fframwaith er mwyn nodi polisi ac arferion mewn perthynas â’r canlynol:
– Meini prawf ar gyfer asesu ansawdd
– Prosesau ar gyfer asesu ansawdd.
– Rolau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n asesu ansawdd a darparwyr mewn perthynas ag ansawdd.

Un o’r prif themâu a ddaeth i’r amlwg o’r ymgynghoriad oedd bod angen mwy o eglurder a dealltwriaeth ynghylch y ffordd y bwriedir i’r Fframwaith gael ei ddefnyddio a sut y byddai’n gweithio ochr yn ochr â dulliau sydd eisoes yn bodoli (megis y rhai a ddilynir gan Estyn a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA)).

Bydd ail gam ein hymgynghoriad ar reoleiddio yn dechrau yn yr hydref. Fel rhan o hyn, byddwn yn rhannu fersiwn ddiwygiedig o’r Fframwaith Ansawdd a fydd yn adlewyrchu llawer o’r pwyntiau a godwyd yn yr ymatebion. Fodd bynnag, roeddem yn awyddus i fynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau canolog nawr yn y gobaith o gynnal deialog â rhanddeiliaid a llywio’r ffordd y byddwn yn diwygio’r Fframwaith yn y dyfodol.

Sut mae’r Fframwaith yn adlewyrchu dulliau o ymdrin ag ansawdd sydd eisoes yn bodoli, neu’n rhyngweithio â nhw?

Ni fwriedir i’r Fframwaith ddyblygu’r gweithgareddau a gyflawnir gan Estyn a QAA. Yn lle hynny, bwriedir iddo egluro’r disgwyliadau cyffredin ar gyfer darparwyr ym mhob rhan o’r sector trydyddol cyfan, ac esbonio sut y bydd Medr yn asesu cydymffurfiaeth â’n hamod rheoleiddio sy’n ymwneud ag ansawdd.

Mae’r Fframwaith yn seiliedig ar gyfres o gonglfeini sy’n ymdrin â meysydd megis yr angen i arolygu neu adolygu ansawdd yn allanol, pwysigrwydd hunanwerthuso, a rôl llywodraethu mewn perthynas ag ansawdd. Mewn gwahanol rannau o’r sector trydyddol, bydd y gweithgareddau a gaiff eu ‘mapio’ ar y conglfeini hynny’n edrych yn wahanol. Er enghraifft, yn achos darparwyr addysg bellach, byddem yn disgwyl i arolygiad Estyn fodloni gofynion conglfaen Allanoldeb, ac i’r broses hunanwerthuso fodloni gofynion conglfaen Hunanwerthuso.

O edrych ar enghraifft arall, yn achos addysg uwch, byddem yn disgwyl i’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr fodloni’r cynigion o dan gonglfaen Llais y Dysgwr i ddefnyddio data a deilliannau o arolygon cenedlaethol.

Mae rhai o’r conglfeini’n ymwneud â gweithgarwch ‘newydd’. Er enghraifft, mae conglfaen Ymgysylltu â Dysgwyr yn cyd-fynd â’r gofyniad arfaethedig i ddarparwyr gydymffurfio â’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr sydd ar ddod. Mae’r enghraifft benodol hon yn adlewyrchu gwaith ehangach sy’n cael ei wneud gan Medr er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau yn unol â’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Y bwriad yw y bydd cynnwys y Cod yn y Fframwaith yn sicrhau bod ein system yn gydgysylltiedig. Byddwn yn ymgynghori ar y Cod a’i amod cysylltiedig yn yr hydref.

Ymhen amser, byddem yn disgwyl i Estyn a QAA ddatblygu eu fframweithiau arolygu a’u dulliau cynnal adolygiadau gwella ansawdd mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r Fframwaith.
 
Beth yw’r cysylltiad rhwng hyn a rheoleiddio? A fyddwch yn rheoleiddio gwelliant parhaus?

Mae ein hymgynghoriad ar reoleiddio yn nodi dull rheoleiddio ehangach Medr, gan gynnwys sut y bydd ymyriadau’n gweithio a’r egwyddorion a fydd yn sail i’r ffordd y byddwn yn gweithredu.

Bydd angen i ddarparwyr gydymffurfio â’r amod sy’n ymwneud ag ansawdd p’un a ydynt ar y gofrestr ar gyfer darparu addysg uwch neu’n cael eu rheoleiddio drwy delerau ac amodau cyllid. Mae hyn yn golygu y bydd Medr yn monitro darparwyr – er enghraifft, drwy ddeilliannau arolygiadau ac adolygiadau, yn ogystal â ffurflenni data a ffynonellau eraill o wybodaeth – er mwyn gweld a ydynt yn cydymffurfio.

Fodd bynnag, mae’r dull rheoleiddio a’r datganiad ymyrryd hefyd yn nodi sut y byddem yn disgwyl i’n gweithgarwch ymgysylltu â darparwyr weithio. Er enghraifft, pe bai Medr yn credu bod risg o ddiffyg cydymffurfiaeth, yna ymgysylltu’n anffurfiol â’r darparwr er mwyn deall y cyd-destun penodol fyddai’r cam cyntaf fel arfer. Rydym yn ymrwymedig i gydnabod amrywiaeth darparwyr, a rheoleiddio mewn ffordd gymesur sy’n seiliedig ar risg.

Mae nifer o’r ymatebion yn nodi pryderon ynglŷn â chonglfaen Gwella’n Barhaus ac, yn benodol, p’un a allai fod ymyriad rheoleiddio pe na bai darparwyr yn gwella o un flwyddyn i’r llall. O’n safbwynt ni, yr hyn sy’n bwysig yw bod darparwyr yn ymgymryd â’r mathau o hunanfyfyrio, cynllunio a gweithredu sydd â’r bwriad o adnabod a datblygu meysydd ar gyfer gwella ym mhob rhan o’u darpariaeth. Byddwn yn egluro’r disgwyliadau hyn yn y Fframwaith diwygiedig a’r amod cysylltiedig.

Lle bo sefydliadau’n ymgymryd â gweithgareddau gwelliant parhaus, ni fyddem yn disgwyl ymyrryd cyn belled â bod eu perfformiad yn foddhaol.
 
Diffiniadau o fewn y Fframwaith

Cododd llawer o’r ymatebion gwestiynau ynglŷn â diffiniadau, gan gynnwys y diffiniad o ansawdd a’r diffiniad o dermau allweddol fel anghenion rhesymol a safonau trothwy.

Rydym yn ystyried sut i egluro’r diffiniad o ansawdd er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan sicrhau bod gennym hefyd ddiffiniad sy’n ddigonol i gyfleu’r ehangder o brofiadau addysgu a dysgu ym mhob rhan o’r sector trydyddol ar yr un pryd. Ein bwriad yw y bydd y diffiniad o ansawdd a chwmpas y term yn canolbwyntio ar agweddau ar y profiad dysgu sydd o fewn dylanwad y darparwr.

O ran y gyfres ehangach o ddiffiniadau, byddwn yn cyhoeddi rhestr termau a fydd yn nodi’r holl ddiffiniadau fel rhan o ymgynghoriad cam 2 yn yr hydref.
 
Pwy sy’n gyfrifol am gasglu data? Sut y caiff y data eu defnyddio?

Cododd yr ymatebion nifer o gwestiynau ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am gasglu data, eu dadansoddi, a gweithredu yn seiliedig arnynt. Mae Medr eisoes yn defnyddio amrywiaeth o ddata i lywio ein gweithgarwch parhaus i ymgysylltu â darparwyr, sy’n deillio’n bennaf o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, y Casgliad Data Ôl-16 a chofnodion HESA, yn ogystal â’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn achos addysg uwch.

Mae Medr yn ymrwymedig i ymgynghori ar ddangosyddion perfformiad yn ystod y ddwy flynedd nesaf, a byddem yn rhagweld y byddai’r ymgynghoriad hwnnw’n ystyried sut y gellid defnyddio meincnodi a/neu drothwyon. Tan hynny, byddem yn rhagweld y byddwn yn defnyddio’r mesurau presennol fel sail ar gyfer ystyried ansawdd.

A yw’r Fframwaith yn adlewyrchu amrywiaeth darparwyr?

Bwriedir i’r Fframwaith adlewyrchu amrywiaeth darparwyr yn y sector addysg drydyddol. Dyna pam y mae wedi’i strwythuro mewn ffordd sy’n golygu y gall gwahanol drefniadau mewn gwahanol rannau o’r sector gael eu hymgorffori a’u hadlewyrchu yn y conglfeini. Er bod rhai ymatebion wedi gofyn am Fframwaith mwy rhagnodol, ein barn ni yw y byddai gwneud hynny’n ei gwneud hi’n anos i ni ddarparu ar gyfer y gwahaniaethau cyd-destunol rhwng darparwyr.

Rydym yn deall ac yn cydnabod bod anghenion a disgwyliadau dysgwyr yn amrywio a, phan fyddwn yn trafod pwysigrwydd deilliannau dysgwyr, rydym yn cytuno bod dimensiwn cyd-destunol i ddeilliannau y dylid ei ystyried. Byddwn yn adlewyrchu hyn yn y Fframwaith a bydd yn llywio ein hymrwymiadau ehangach mewn perthynas â mesurau perfformiad.

Mae gennym gyfle yng Nghymru i gefnogi sector addysg drydyddol sy’n gyson o ran sicrhau profiad dysgwyr o ansawdd da ar bob cam. Bwriedir i’r Fframwaith hwn helpu i gyflawni’r nod hwnnw.

Y camau nesaf

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn ystyried deilliannau cam cyntaf yr ymgynghoriad ymhellach. Wedyn, byddwn yn cynnwys y Fframwaith Ansawdd wedi’i ddiweddaru fel rhan o’r ddogfennaeth yn ein hymgynghoriad yn yr hydref, gan roi cyfle i ddarllenwyr ystyried y ddogfennaeth yn ei chyfanrwydd.

Byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o grwpiau sector. Byddem yn croesawu rhagor o ddeialog cyn cam nesaf yr ymgynghoriad.

Rydym hefyd yn bwriadu rhoi mwy o eglurder ynghylch rhai o’r pwyntiau penodol a godwyd yn yr ymgynghoriad, yn enwedig gan eu bod yn berthnasol i elfennau eraill o’n gweithgarwch dros yr wythnosau nesaf.

I gael sgwrs am y materion hyn neu unrhyw faterion eraill sy’n gysylltiedig â’r Fframwaith, e-bostiwch [email protected].

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
(REF) 2029: diweddariad

Yn dilyn cyhoeddiad Gweinidog Gwyddoniaeth y DU yr wythnos diwethaf, byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â Research England, Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon, i bwyso a mesur yr adborth gan y gymuned ymchwil.

Byddwn yn adeiladu ar ein gweithgarwch ymgysylltu diweddar â phrifysgolion yng Nghymru sydd wedi dangos bod cefnogaeth gyffredinol o blaid trywydd ymarfer REF 2029 o ran cydnabod dealltwriaeth ehangach o ragoriaeth ymchwil, ochr yn ochr â galw dealladwy i symleiddio a lleihau baich.

Drwy grŵp llywio’r pedair gwlad, byddwn yn gweithio gyda thîm REF i gytuno ar unrhyw newidiadau a gaiff eu cyhoeddi erbyn mis Rhagfyr 2025, a byddwn yn profi’r rhain yn erbyn blaenoriaethau Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig.

Ar wahân i hynny, mae Research England heddiw wedi cadarnhau rhaglen newydd o waith sy’n gysylltiedig â’i gyllid ymchwil sefydliadol craidd a dulliau o asesu gwaith ymchwil yn y dyfodol. Bydd gan agweddau o’r rhaglen hon oblygiadau ledled y DU, a byddwn yn ymgysylltu â Research England a’r cyrff cyllido datganoledig eraill i archwilio’r potensial ar gyfer dulliau ar y cyd gan ystyried yr effaith ar y sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru hefyd ar yr un pryd.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/15: Cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg uwch yn 2025/26

Cyflwyniad

1. Yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26, mae Medr yn amcanu at wella a diweddaru ein dealltwriaeth am anghenion a blaenoriaethau dysgu digidol yn y sector trydyddol ac adnabod unrhyw destunau o ddiddordeb ar draws y sector sy’n cynnig potensial ar gyfer cydweithio. Bydd hyn yn cynnwys ystyried effaith a budd mentrau dysgu digidol blaenorol ar gyfer addysg bellach, ac ymgysylltu â Prifysgolion Cymru a sefydliadau AU yn ogystal â rhanddeiliaid eraill.

2. Yn y cyfamser, mae Medr wedi neilltuo cyllid refeniw i gefnogi gweithgareddau dysgu digidol cychwynnol yn y sector AU yn ystod 2025/26. Cyllid a gynigir ar gyfer blwyddyn unigol yw hwn tra ydym yn casglu tystiolaeth i oleuo dulliau a phenderfyniadau cyllido Medr yn y dyfodol (yn amodol ar gyllidebau yn y dyfodol).

Llinellau amser

AmseriadCarreg filltir neu gam gweithredu
Erbyn 24 Hydref 2025Pob sefydliad i gadarnhau a yw’n dymuno derbyn y cyllid a gynigir gan Medr (Atodiad A).
Os derbynnir y cynnig o gyllid, dylid amlinellu sut y bwriedir defnyddio’r cyllid hwn.
Chwefror 2026Bydd y taliad interim (50% o’r dyraniad cyllid) yn cael ei brosesu yn ystod mis Chwefror.
Erbyn 31 Gorffennaf 2026Bydd hi’n ofynnol adrodd ar wariant a chyflwyno hawliad terfynol.
(Bydd Atodiad B yn cael ei ychwanegu unwaith y mae taliadau interim wedi cael eu gwneud. Bydd arweinwyr cyllid enwebedig yn cael eu hysbysu pan fo’r ffurflen hon ar gael.)

Medr/2025/15: Cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg uwch yn 2025/26

Dyddiad:  03 Medi 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/15

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn: 24 Hydref 2025

Crynodeb: Mae’r ddogfen yn nodi dyraniadau cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg uwch ym mlwyddyn academaidd 2025/26, ac yn darparu canllawiau ynghylch gwariant cymwys ac anghymwys.

Bydd pob sefydliad yn cael cynnig cyllid refeniw o £40,000.

Medr/2025/15 Cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg uwch yn 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/14: Gofynion Data Addysg Uwch 2025/26

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn hysbysu darparwyr addysg uwch (DAUwyr) ynghylch y data addysg uwch (AU) a ddefnyddir at y dibenion canlynol:

  • cyfrifo dyraniadau cyllid;
  • monitro’r Mesurau Cenedlaethol;
  • monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth;
  • darparu data i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg;
  • cyhoeddiadau;
  • dadansoddi ansawdd data cofnod myfyrwyr HESA;
  • monitro cynlluniau hepgor ffioedd rhan-amser;
  • monitro gradd-brentisiaethau;
  • goleuo polisi.

2. Yn y cyhoeddiad hwn mae DAUwyr yn cynnwys sefydliadau addysg bellach (SABau) sy’n darparu addysg uwch a sefydliadau addysg uwch (SAUau), a gyllidir gan Medr. Hefyd wedi’u cynnwys mae darparwyr sy’n tanysgrifio i HESA i ddychwelyd eu darpariaeth cyrsiau a ddynodwyd yn benodol, ond nad ydynt yn cael eu cyllido gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch. Nid yw’r darparwyr hyn wedi’u cynnwys yn yr echdyniadau a’r dadansoddiadau mewn perthynas â chyllid ond maent wedi’u cynnwys yn rhai o’r echdyniadau a dadansoddiadau data eraill a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn. Caiff y mathau o ddarparwyr sydd wedi’u cynnwys eu dynodi dan y penawdau unigol isod ac fe’u crynhoir ymhellach yn y tabl yn Atodiad P.

3. Mae’r mapiadau yn yr atodiadau sy’n ymwneud â data myfyrwyr yn seiliedig ar ddata cofnod myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) a gesglir gan Jisc ar gyfer blwyddyn casglu data 2024/25. Mae’r mapiadau a gyflwynir wedi cael eu profi ar ddata a ddychwelwyd ar gofnod myfyrwyr HESA ar gyfer 2023/24 a data a gyflwynwyd yn gynnar ar gyfer 2024/25. Rydym yn croesawu unrhyw adborth sydd gan ddarparwyr ar y mapiadau yn yr atodiadau, naill ai yn ystod proses gyflwyno 2024/25 fel y gallwn wneud newidiadau ar unwaith i raglenni’r Gwasanaeth Rhyngwyneb Adrodd ar Wybodaeth (IRIS) fel y bo angen, neu i fwydo i mewn i’n hadolygiad o’r mapiadau hyn yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dylai unrhyw sylwadau sydd gan ddarparwyr gael eu hanfon i [email protected]. Mae mapiadau ar gyfer yr echdyniad data monitro diwedd blwyddyn wedi’u cynnwys yn Atodiad K o’r cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn (EYM). Croesewir sylwadau ar y mapiad hwnnw hefyd. Bydd unrhyw newidiadau sylweddol i’r mapiadau naill ai yn y ddogfen hon neu yn y cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn, a wneir yn ystod y broses gyflwyno, yn cael eu cyfleu i ddarparwyr.

4. Pe bai unrhyw broblemau mawr gyda’r echdyniadau data yn ystod y broses gyflwyno, er enghraifft materion gyda’r mapiad, y system IRIS neu faterion mewn darparwyr unigol, sy’n golygu nad yw rhai neu’r cyfan o’r allbynnau IRIS yn ddefnyddiadwy, yna ceir posibilrwydd i ail-echdynnu ar ôl casglu. Os yw hyn yn debygol, byddwn yn hysbysu darparwyr.

5. Nid yw dulliau cyllido ar gyfer 2026/27 yn derfynol ar adeg cyhoeddi’r cylchlythyr hwn a gall rhai dulliau dyrannu newid. Y rhai ar gyfer 2025/26 yw’r dulliau cyllido a gynhwysir yn y cylchlythyr hwn. Tybir er mwyn echdynnu data y bydd y dulliau cyllido’n aros yr un fath ar gyfer 2026/27.

Prif newidiadau ar gyfer 2025/26 o’i gymharu â 2024/25

6. Y prif newidiadau a gynhwysir yn y cyhoeddiad hwn o’i gymharu â chyhoeddiad Medr, Medr/2024/01: Gofynion Data Addysg Uwch 2024/25, yw:

  • Mae’r holl atodiadau sy’n cynnwys data myfyrwyr wedi cael eu diweddaru i gyfeirio at unrhyw newidiadau sy’n ymwneud yn benodol ag IRIS a wnaed o ganlyniad i’r ymgynghoriad ynghylch newidiadau ar gyfer Monitro Diwedd Blwyddyn 2023/24, na chawsant eu rhoi ar waith yn 2023/24, er enghraifft codio cofrestriadau myfyrwyr segur/myfyrwyr sy’n ysgrifennu eu traethawd ymchwil a dosrannu credydau meddygaeth a deintyddiaeth.
  • Mae Atodiad F wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau a wnaed ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar yr adolygiad o allbynnau’r dadansoddiad o ansawdd data. Mae’r atodiad yn cynnwys crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae manylion yr allbynnau wedi’u diweddaru yn IRIS 2024/25, ac unrhyw newidiadau a fydd yn cael eu hymgorffori yn IRIS 2025/26, wedi cael eu cynnwys yn Atodiad Q.
  • Mae Atodiad K (Data a ddefnyddir i fonitro cynlluniau bwrsariaeth Meistr Ôl-radd a Addysgir) o gyhoeddiad y llynedd wedi cael ei dynnu allan gan mai 2023/24 oedd y flwyddyn olaf y cafodd dyraniadau eu monitro gan ddefnyddio data cofnod myfyrwyr HESA. Mae’r holl Atodiadau dilynol wedi cael eu diweddaru i adlewyrchu’r ffaith bod yr Atodiad hwn wedi cael ei dynnu allan.

Ffynonellau Data

7. Mae Medr yn defnyddio data o’i arolygon ei hun, data a gasglwyd gan HESA a data o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) wrth gyflawni’r dibenion a ddisgrifir ym mharagraff 1 uchod. Mae data arall megis data Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS) yn cael ei ddefnyddio hefyd i oleuo polisi a darparu gwybodaeth am y sector AU yng Nghymru.

8. Mae Medr yn casglu data gan DAUwyr yng Nghymru a gyllidir ar gyfer eu darpariaeth AU trwy:

  • yr arolwg ystadegau cynnar myfyrwyr addysg uwch (HESES); a hefyd
  • y ceisiadau am ragolygon myfyrwyr a chyllid (SAUau yn unig).

9. Mae Jisc yn casglu data gan yr holl SAUau yn y DU ar gofnodion HESA ar y canlynol:

  • gweithgarwch myfyrwyr, gan gynnwys hynt graddedigion;
  • gwybodaeth ar gyfer myfyrwyr trwy’r dychweliadau Darganfod Prifysgol;
  • cyllid;
  • Rhyngweithiad Addysg Uwch-Busnes a Chymuned (HE-BCI);
  • staff; a
  • rheoli ystadau.

10. Mae Jisc yn casglu’r data canlynol ar gofnodion HESA gan SABau Cymru sy’n darparu AU a gyllidir yn uniongyrchol gan Medr a SABau Cymru a darparwyr amgen â darpariaeth cyrsiau AU a ddynodwyd yn benodol:

  • gweithgarwch myfyrwyr, gan gynnwys hynt graddedigion;
  • gwybodaeth ar gyfer myfyrwyr trwy’r dychweliad Darganfod Prifysgol.

11. Tybir bod darllenwyr y cyhoeddiad hwn yn gyfarwydd ag arolygon HESES a Monitro Diwedd Blwyddyn, cofnodion ac arolygon HESA, y system IRIS a Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 (SAUau yn unig). Mae’r cyhoeddiadau HESES, Monitro Diwedd Blwyddyn a rhagolygon diweddaraf ar gael ar y dudalen casglu data ar wefan Medr; mae llawlyfrau data diweddaraf HESA ar gael ar wefan HESA ac mae cylchlythyrau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ar gael ar wefan REF 2021. Ceir dolenni i gyhoeddiadau neu gylchlythyrau perthnasol neu gyfeiriadau atynt drwy’r cyhoeddiad hwn hefyd.

Sicrhau cywirdeb data

12. Mae data HESA a ddefnyddir wrth ddyrannu cyllid yn amodol ar gadarnhad gan DAUwyr bod Medr wedi echdynnu’r data’n gywir o gofnodion HESA. Fel rheol, ni chaniateir i DAUwyr ddiwygio’r data yn ystod y broses gadarnhau os yw eu data HESA yn anghywir. Yr eithriad i hyn yw pan fo newidiadau i’r dulliau echdynnu neu’r data a ddefnyddir wrth gyllido, neu lle defnyddir ffynhonnell ddata wahanol. Yn yr achosion hyn, byddwn yn caniatáu diwygio’r data a echdynnwyd ar y cam cadarnhau. Gan bod rhai anawsterau’n cael eu profi o hyd wrth ddychwelyd data dan gofnod myfyrwyr newydd HESA rydym yn dal i ganiatáu gwneud newidiadau i’r holl allbynnau IRIS ar y cam cymeradwyo. Dylai darparwyr ddarparu eglurhad o unrhyw newidiadau a wneir. Nid oes angen i ddarparwyr sy’n dychwelyd data at HESA am eu darpariaeth cyrsiau a ddynodwyd yn benodol, nad ydynt yn cael eu cyllido gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU, gymeradwyo unrhyw rai o’r allbynnau IRIS a ddarperir iddynt.

13. Mae’n bwysig bod DAUwyr yn hyderus bod eu holl ddata HESA yn gywir cyn y cyflwynir dychweliadau terfynol i HESA ac y cymeradwyir y data. Dylai DAUwyr nodi unrhyw anghysonderau yn eu data HESA a ganfuwyd mewn blynyddoedd blaenorol, gan gynnwys y rhai a amlygwyd fel rhan o unrhyw ddadansoddiadau o ansawdd data a gyflawnwyd gan Medr, materion a ganfuwyd yng ngweithgarwch DAUwyr eu hunain i graffu ar y crynodebau a allbynnwyd trwy IRIS, problemau y mae HESA neu Medr wedi’u dwyn i’w sylw, a materion a gwallau a ganfuwyd trwy archwiliadau mewnol neu allanol. Yn arbennig, dylai DAUwyr sicrhau eu bod yn astudio’r adroddiadau a gynhyrchwyd gan HESA yn fanwl pan ydynt yn traddodi eu data a gwneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol o ganlyniad cyn cymeradwyo’r data i sicrhau bod eu data’n gredadwy. Rydym yn cydnabod y bu newidiadau helaeth i’r broses casglu data o ganlyniad i roi’r cofnod myfyrwyr newydd ar waith dan Dyfodol Data yn 2022/23, felly byddwn yn parhau i weithio gyda darparwyr a Jisc i roi cyngor ac arweiniad i sicrhau bod ansawdd data’n cael ei gynnal. Gallwn hefyd ddefnyddio’r broses diwygiadau hanesyddol os yn briodol, ar gyfer cofnod myfyrwyr HESA 2024/25.

14. Trefnir bod nifer o adroddiadau cadarnhau ar gael yn y system IRIS ac mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo gan y DAUwyr a gyllidir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU, a chael eu dychwelyd at Medr ar ôl i’r data a gyflwynir i gofnod myfyrwyr HESA ar gyfer 2024/25 gael ei gymeradwyo a hynny erbyn 5 Tachwedd 2025. I leihau nifer y gwiriadau data ar wahân a gynhelir yn ystod y flwyddyn, mae’r rhan fwyaf o’r dychweliadau y mae’n ofynnol eu cymeradwyo trwy adroddiad cadarnhau yn cael eu prosesu trwy IRIS.

15. Bydd manylion y broses ddychwelyd IRIS, elfennau y mae gofyn eu cymeradwyo a therfynau amser cysylltiedig ar gael ar y dudalen we IRIS a thrwy’r cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn 2024/25. Mae amserlen casglu data llawn Medr ar gael trwy ein gwefan.

16. Caiff y terfyn amser ar gyfer cymeradwyo’r allbynnau IRIS ei amlinellu yn y cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn, a 5 Rhagfyr 2025 yw’r dyddiad. Os yw darparwyr yn meddwl y byddant yn cael unrhyw anhawster cyflwyno gwybodaeth erbyn y terfyn amser hwn, dylent gysylltu â ni trwy [email protected].

17. Ar gyfer y cadarnhadau data hynny lle na dderbynnir diwygiadau. os oes gwall yn nata HESA DAU, ac y byddai’r gwall hwn yn arwain at ddyrannu cyllid i’r DAU sy’n fwy na’r hyn y mae ganddo hawl iddo, bydd disgwyl i’r DAU hysbysu Medr fel bod y cyllid yn gallu cael ei addasu’n briodol.

Codio pynciau

18. Mae cofnod myfyrwyr HESA yn defnyddio’r system godio Dosbarthu Pynciau Addysg Uwch (HECoS), ac mae codau HECoS yn cael eu grwpio’n Hierarchaeth Cydgasglu Cyffredin (CAH) ar dair lefel. Mae manylion y codau a’r lefelau CAH, ynghyd â mapio o godau HECoS i’r grwpiadau CAH, ar gael ar dudalen we HECoS. Mae gwybodaeth mewn perthynas â mapio codau HECoS i Gategorïau Pynciau Academaidd (ASC) Medr ar gael ar wefan Medr.

Data a ddefnyddir mewn dyraniadau cyllid addysgu

19. Roedd y dyraniadau cyllid addysgu seiliedig-ar-gredydau ar gyfer darpariaeth israddedig ran-amser yn 2025/26 yn seiliedig ar ddata gwerthoedd credydau 2023/24 a gymerwyd o’r echdyniad data monitro diwedd blwyddyn. Dyrannwyd cyllid y pen ar gyfer 2025/26 ar gyfer pob dull astudio a lefel astudio a addysgir a dyrannwyd y premiwm anabledd ar gyfer pob dull a lefel astudio, gan gynnwys ymchwil ôl-radd. Dyrannwyd yr holl gyllid premiwm arall fel a ganlyn:

  • Premiwm mynediad a chadw (darpariaeth israddedig ran-amser yn unig);
  • Premiwm cyfrwng Cymraeg (darpariaeth israddedig ran-amser i gyd a darpariaeth israddedig amser llawn a nodir yn unig);
  • Premiwm pynciau drud (deintyddiaeth a meddygaeth glinigol ac Elfen Perfformio Conservatoire, darpariaeth israddedig amser llawn yn unig);
  • Premiwm pynciau cost uwch (deintyddiaeth a meddygaeth anghlinigol, gwyddoniaeth a pheirianneg a thechnoleg, a gwyddorau mathemategol, TG a chyfrifiadura, darpariaeth israddedig amser llawn yn unig).

Mae’r cyhoeddiad hwn yn tybio:

  • y bydd y dyraniadau cyllid addysgu seiliedig-ar-gredydau ar gyfer darpariaeth israddedig ran-amser yn 2026/27 yn seiliedig ar ddata gwerthoedd credydau Monitro Diwedd Blwyddyn 2024/25 a
  • bod cyllid y pen a’r un premiymau’n cael eu dyrannu mewn perthynas â’r un grwpiau o fyfyrwyr ar gyfer 2026/27 ag yn 2025/26, at ddibenion cyflwyno gwybodaeth yn y cyhoeddiad hwn.

20. Dylid nodi y gall y tybiaethau hyn newid.

21. Mae’r premiymau mynediad a chadw, anabledd, cyfrwng Cymraeg, pynciau drud a phynciau cost uwch a’r dyraniad y pen yn seiliedig ar ddata ôl-weithredol a gafwyd o gofnod myfyrwyr HESA.

22. Defnyddir data diwedd blwyddyn a echdynnwyd o gofnod myfyrwyr HESA i gyfrifo unrhyw addasiad i gyllid addysgu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cyllid yn ymwneud â hi. Er enghraifft, bydd data Monitro Diwedd Blwyddyn sy’n ymwneud â blwyddyn academaidd 2024/25 yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo unrhyw addasiad sy’n ofynnol i gyllid seiliedig-ar-gredydau israddedig rhan-amser 2024/25. Mae manylion y data diwedd blwyddyn a echdynnwyd o gofnod HESA wedi’u cynnwys yn Atodiad K y cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn (gweler paragraff 1) ac nid ydynt yn cael eu hatgynhyrchu yma.

23. Caiff rhagor o wybodaeth am y data a ddefnyddir mewn cyllid addysgu, gan gynnwys yr elfennau cyllid premiwm a chyllid y pen, ei nodi yn Atodiad A.

24. Mae’r weithdrefn gymeradwyo ar gyfer data a ddefnyddir yn y cyllid y pen a’r cyllid premiwm ar gyfer 2026/27 wedi’i chynnwys yn y broses IRIS. Bydd unrhyw ddata arall y mae gofyn ei defnyddio yn y dyraniadau cyllid addysgu neu gyllid arall ar gyfer 2026/27, nad yw ar gael yn yr allbynnau IRIS, yn cael ei wirio a’i gymeradwyo ar wahân. Dim ond ar gyfer darparwyr a gyllidir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU y caiff allbynnau IRIS at ddibenion cyllid addysgu eu cynhyrchu.

Data a ddefnyddir mewn dyraniadau cyllid ymchwil

25. Yn dilyn REF 2021, defnyddiwyd methodoleg gyllido newydd i gyfrifo’r dyraniad cyllid QR o 2022/23 ymlaen. Cafodd y data a ddefnyddiwyd i gyfrifo cyllid QR 2022/23 ei gymryd o REF 2021 ac o gofnod cyllid HESA 2018/19, 2019/20 a 2020/21. Gan bod yr holl ddata a fewnbynnir yn cael ei rewi, mae’r cylchlythyr hwn yn nodi dull cyllid QR fel yr oedd ar gyfer 2022/23 yn Atodiad B. Dim ond SAUau, heb gynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru, a gynhwysir mewn dyraniadau cyllid QR.

26. Yn dilyn REF 2021, defnyddiwyd methodoleg newydd i gyfrifo’r dyraniad hyfforddiant ymchwil ôl-radd hefyd, sy’n defnyddio data ôl-weithredol a gymerwyd o gofnod myfyrwyr HESA. Bydd dyraniad hyfforddiant ymchwil ôl-radd 2026/27 yn defnyddio data o gofnod myfyrwyr HESA 2024/25. Darperir rhagor o wybodaeth am y meysydd HESA a ddefnyddir yn Atodiad C. Fel a amlinellwyd ym mharagraff 25, rydym yn bwriadu parhau i gael cymeradwyaeth i gymaint o ddata â phosibl trwy’r broses IRIS, a bydd data ymchwil ôl-radd yn cael ei gymeradwyo ym mhroses IRIS 2024/25. Dim ond SAUau, heb gynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru, a gynhwysir mewn dyraniadau cyllid ymchwil ôl-radd; felly ni chynhyrchir allbwn ymchwil ôl-radd IRIS ar gyfer y Brifysgol Agored yng Nghymru, SABau na darparwyr amgen.

Data a ddarperir i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

27. Mae Medr yn darparu data bob blwyddyn, dan gytundeb rhannu data, i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Hefyd o 2020/21, mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, fe wnaed gwaith monitro ar y strwythur codio a’r data ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg a ddychwelwyd ar gofnod myfyrwyr HESA. Mae’r data yma’n cael ei grynhoi a’i gynnwys yn IRIS ar gyfer yr holl ddarparwyr hefyd, gan gynnwys y darparwyr hynny sy’n dychwelyd data am gyrsiau a ddynodwyd yn benodol. Manylir ar y meysydd a’r meini prawf a ddefnyddir i echdynnu’r ddwy set o ddata yn Atodiad D.

Data a ddefnyddir i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth

28. Mae Medr yn defnyddio data HESA i fonitro ethnigrwydd, anabledd, rhyw ac oedran myfyrwyr yn DAUwyr Cymru a staff yn SAUau Cymru. Cyhoeddir y dadansoddiad ar wefan Medr: Sta/Medr/02/2025: Nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr addysg uwch: 2016/17 i 2022/23

29. Cyhoeddodd CCAUC adroddiad monitro cydraddoldeb hil. Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg fanylach ar ddata ethnigrwydd na’r gweithgarwch monitro cydraddoldeb safonol y cyfeirir ato uchod. Bydd dadansoddiad pellach yn cael ei gyhoeddi gan Medr.

30. Ceir rhagor o wybodaeth am y meysydd a ddefnyddir yn Atodiad E.

Data a ddefnyddir ar gyfer cyhoeddiadau

31. Mae Medr yn gynhyrchydd ystadegau swyddogol. Byddwn hefyd yn cyhoeddi adroddiadau ystadegol ar sail ad hoc. Bydd manylion y data a’r fethodoleg a ddefnyddir mewn unrhyw gyhoeddiadau ystadegau swyddogol ac adroddiadau ystadegol yn cael eu cynnwys gyda’r adroddiad. Gellir cael mynediad at gyhoeddiadau trwy wefan Medr.

Dadansoddi ansawdd data cofnod myfyrwyr HESA

32. Mae Medr yn darparu crynodeb (y cyfeirir ato fel ‘dadansoddiad o ansawdd data HESA’) i bob DAU o’i ddata ar gyfer amrywiaeth o feysydd a ddefnyddir ar gyfer cyllido, dadansoddi a monitro, sydd wedi’i fwriadu i roi cymorth i wella ansawdd y cofnod myfyrwyr a bod yn ddefnyddiol i Medr a DAUwyr.

33. Mae’r crynodebau hyn wedi’u bwriadu i ategu’r adroddiadau a ddarperir gan HESA pan fo DAUwyr yn cyflwyno eu cofnod myfyrwyr. Cynhyrchir y crynodebau ansawdd data ar gyfer yr holl ddarparwyr gan gynnwys y darparwyr hynny sy’n dychwelyd data am gyrsiau a ddynodwyd yn benodol.

34. Mae’r crynodebau a gynhyrchir gan Medr yn cael eu cynnwys yn allbwn IRIS fel bod DAUwyr yn gallu gweld eu data eu hunain ar gyfer y flwyddyn gyfredol a data cyfrannau hanesyddol ar gyfer eu DAU a’r sector.

35. Fe adolygwyd fformat yr allbynnau hyn ym mis Mehefin 2025 ac mae canlyniad yr adolygiad a manylion allbynnau wedi’u diweddaru wedi’u cynnwys yn Atodiad F.

36. Ceir rhagor o wybodaeth am y meysydd a’r mapiadau a ddefnyddir yn y dadansoddiad o ansawdd data HESA yn Atodiad F.

Hepgor ffioedd rhan-amser

37. O gyllid 2022/23, mae data a ddefnyddir i ddyrannu’r cynllun hepgor ffioedd rhan-amser wedi bod yn cael ei echdynnu o gofnod myfyrwyr HESA. Fe ychwanegwyd yr echdyniad at y system IRIS ar gyfer 2021/22 a bydd data a echdynnwyd trwy’r system IRIS yn cael ei gymeradwyo gan DAUwyr i gadarnhau bod y data’n gywir. Mae’r broses ar gyfer dyraniadau 2024/25 i’w chael yng nghylchlythyr CCAUC Cynllun hepgor ffioedd israddedig rhan-amser CCAUC (W24/15HE). Ar gyfer dyraniadau 2025/26, bydd manylion yn cael eu cyhoeddi gan Medr yn hydref 2025. Ceir manylion y data a echdynnwyd i DAUwyr ei gymeradwyo yn Atodiad G.

38. Caiff data a ddefnyddir i fonitro gwerth gwirioneddol hepgoriadau ffioedd rhan-amser a hawliwyd gan DAUwyr dan gynllun Medr ei echdynnu o gofnod myfyrwyr HESA trwy’r system IRIS. Bydd data a echdynnwyd trwy’r system IRIS yn cael ei gymeradwyo gan DAUwyr i gadarnhau bod y data’n gywir. Mae’r broses ar gyfer gweithgarwch monitro 2023/24 i’w chael yng nghylchlythyr CCAUC Cynllun hepgor ffioedd israddedig rhan-amser CCAUC (W24/15HE). I fonitro dyraniadau 2024/25, bydd manylion yn cael eu cyhoeddi gan Medr yn haf 2025. Ceir manylion y data a echdynnir i DAUwyr ei gymeradwyo yn Atodiad G. Dim ond ar gyfer darparwyr a gyllidir gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU y cynhyrchir y dyraniadau hepgor ffioedd rhan-amser ac allbynnau monitro IRIS.

Dadansoddi incwm

39. Fel rhan o’r gwaith a wneir i fonitro incwm yn DAUwyr Cymru, defnyddiwyd data mewn perthynas â niferoedd myfyrwyr a staff CagALl yn DAUwyr Cymru. Mae crynodeb o’r data wedi’i gynnwys yn yr allbwn IRIS er gwybodaeth. Ceir manylion y meini prawf a ddefnyddir i echdynnu’r data yn Atodiad H. Cynhyrchir yr allbynnau dadansoddi incwm ar gyfer yr holl ddarparwyr.

Mesurau cenedlaethol

40. Daw’r data a ddefnyddir i fonitro’r mesurau cenedlaethol o gofnodion myfyrwyr, staff, cyllid ac alltraeth cyfanredol HESA; arolygon Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DLHE) a hynt graddedigion (GO) HESA; y Dangosyddion Perfformiad a gyhoeddwyd ar gyfer AU yn y DU; ac arolwg Rhyngweithiad Addysg Uwch-Busnes a Chymuned HESA. Defnyddir ffynonellau eraill, megis yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS), yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) a Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol hefyd. Mae data ar gyfer SABau a gyllidir ar gyfer eu darpariaeth AU gan Medr wedi’i gynnwys mewn is-set o’r mesurau a daw’r data yma o gofnod myfyrwyr HESA, arolygon Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch a Hynt Graddedigion HESA; y Dangosyddion Perfformiad a gyhoeddwyd ar gyfer AU yn y DU, yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol.

Y mesurau a gaiff eu monitro gan ddefnyddio’r data yma yw:

  • Ehangu mynediad;
  • Cyfranogi;
  • Cadw;
  • Rhan-amser;
  • Yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr;
  • Cyfrwng Cymraeg;
  • Symudedd myfyrwyr;
  • Ansawdd;
  • Cwynion
  • Cyflogaeth;
  • Cyflogaeth graddedigion;
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus;
  • Cyfanswm incwm Rhyngweithiad Addysg Uwch-Busnes a Chymuned am bob aelod o staff academaidd CagALl;
  • Gweithgarwch cwmnïau deilliedig;
  • Gweithgarwch dechrau busnes (graddedigion);
  • Staff Ymchwil;
  • Myfyrwyr Ymchwil Ôl-radd;
  • Doethuriaethau a ddyfarnwyd;
  • Incwm ymchwil;
  • Myfyrwyr o’r UE/Myfyrwyr Tramor;
  • Staff o’r UE/Staff Tramor;
  • Addysg drawswladol.

41. Ceir disgrifiad o bob un o’r mesurau hyn a’r data a ddefnyddir i’w monitro yn Atodiad I.

42. Mae meysydd eraill a gaiff eu monitro a’u cynnwys yn y rhestr o fesurau cenedlaethol yn cynnwys:

  • Amrywiaeth y boblogaeth myfyrwyr;
  • Deilliannau effaith REF;
  • Deilliannau REF;
  • Iechyd ariannol;
  • Ystadau;
  • Cyflog uwch aelodau o staff a’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau;
  • Data staff mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth

ond nid yw mesurau unigol wedi’u nodi; yn lle hynny, mae’r rhain yn feysydd sydd eisoes yn cael eu dadansoddi’n fwy eang a’u cyhoeddi gan Medr. Ceir gwybodaeth ble i ddod o hyd i’r dadansoddiadau hyn yn Atodiad I hefyd.

43. Mae’r mesurau sy’n seiliedig ar gofnod myfyrwyr HESA yn cael eu hechdynnu trwy’r system IRIS a byddant yn cael eu cymeradwyo gan DAUwyr, heblaw am y rhai sy’n cyflwyno data am eu cyrsiau a ddynodwyd yn benodol, i gadarnhau bod y data’n gywir. Nid yw’r darparwyr hynny sy’n cyflwyno data am eu cyrsiau a ddynodwyd yn benodol yn cael eu cynnwys wrth gyhoeddi a monitro’r mesurau hyn, er bod yr allbynnau ar gael iddynt trwy IRIS er gwybodaeth.

44. Cafodd y mesurau cyfranogiad a chadw eu monitro gan ddefnyddio data a gasglwyd ar gofnod myfyrwyr HESA, a gyfrifwyd ac a gyhoeddwyd gan HESA fel dangosyddion perfformiad y DU. Gan nad yw Dangosyddion Perfformiad y DU yn cael eu diweddaru mwyach rydym wedi datblygu ein methodoleg ni ein hunain ar gyfer y mesur cyfranogiad, ac mae gwaith yn parhau ar gyfrifo’r mesur cadw.

Data a ddefnyddir i fonitro gradd-brentisiaethau

45. Fe wnaeth cylchlythyr CCAUC W23/04HE gyhoeddi cynigion ar gyfer cyllido gradd-brentisiaethau 2023/24 a 2024/25 a darparu rhagor o wybodaeth am y broses gyflwyno ar gyfer DAUwyr. Yn yr ymgynghoriad Medr/2024/02, gofynnwyd i ddarparwyr wneud sylwadau am y cynnig i gasglu data ar raglenni gradd-brentisiaethau a gyllidir gan Medr fel rhan o arolwg HESES 2024/25, a fyddai’n disodli’r tri adroddiad monitro yn ystod y flwyddyn a gesglir ar hyn o bryd. Derbyniwyd y cynnig hwn gan DAUwyr ac fe’i rhoddwyd ar waith fel rhan o arolwg HESES 2024/25.

46. Caiff data a ddefnyddir i fonitro’r darlun ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer nifer y myfyrwyr a gofrestrwyd ar radd-brentisiaethau mewn DAUwyr ei echdynnu o gofnod myfyrwyr HESA trwy’r system IRIS a bydd yn cael ei gymeradwyo gan DAUwyr i gadarnhau bod y data’n gywir. Ceir manylion y data a echdynnir i DAUwyr ei gymeradwyo yn Atodiad J. Nid yw’r allbynnau gradd-brentisiaethau o IRIS yn cael eu cynhyrchu ar gyfer SABau na darparwyr amgen.

47. Bydd y data HESA a ddarperir yn y system IRIS yn cael ei ddefnyddio i wirio’r data a gasglwyd fel rhan o ddychweliad HESES 2024/25, ac a ddefnyddiwyd i ddyrannu cyllid. Mae’n bosibl y bydd yn ofynnol gwneud addasiadau i gyllid. Os felly, bydd gwybodaeth am sut y bydd addasiadau i gyllid yn cael eu rhoi ar waith yn cael ei chyfleu i DAUwyr ar wahân.

Data a ddefnyddir i gyfrifo Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF)

48. Mae cylchlythyr CCAUC W22/41HE yn adrodd ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ar yr adolygiad yn 2022 o Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF) ac yn cadarnhau’r fethodoleg ddyrannu a gofynion eraill wedi’u diweddaru sy’n gysylltiedig â Chronfa Arloesi Ymchwil Cymru a gyflwynwyd yn 2023/24. Caiff data a ddefnyddir yn y dyraniad ei ddisgrifio yn Atodiad K. Dim ond SAUau a gynhwysir yn nyraniadau cyllid Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru.

Data a ddefnyddir i gyfrifo cyllid Cyfalaf

49. Mae cylchlythyr CCAUC W24/12HE yn amlinellu’r fethodoleg ddyrannu a ddefnyddiwyd ar gyfer cyllid Cyfalaf 2024/25. Caiff data CagALl myfyrwyr a ddefnyddiwyd yn y dyraniad ei ddisgrifio yn Atodiad N. Dim ond SAUau a gynhwysir yn y dyraniadau cyllid Cyfalaf.

Data a ddefnyddir i gyfrifo cyllid Cydraddoldeb hil a chyllid Llesiant ac iechyd

50. Fe wnaeth cyhoeddiad Medr, Medr/2024/03, gyhoeddi dyraniadau cyllid cydraddoldeb hil ar gyfer 2024/25 ac fe wnaeth cyhoeddiad Medr, Medr/2024/07, gyhoeddi dyraniadau gweithredu strategaethau Llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, a dyraniad ychwanegol ar gyfer Llesiant ac iechyd yn 2024/25. Mae’r dyraniadau cydraddoldeb hil a’r dyraniadau llesiant ac iechyd yn defnyddio’r un data o gofnod myfyrwyr HESA a ddisgrifir yn Atodiad L. Bydd y data ar gael yn system IRIS 2024/25 a bydd yn cael ei gymeradwyo gan DAUwyr a gyllidir gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU, i gadarnhau bod y data’n gywir. Dim ond ar gyfer DAUwyr a gyllidir gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU y cynhyrchir yr allbynnau o IRIS i gyfrifo’r cyllid hwn.

Data a ddefnyddir i gyfrifo cyllid Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu (TES)

51. Mae cyhoeddiad Medr, Medr/2025/09: Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26, yn gwahodd darparwyr AU i gyflwyno cynlluniau cyflawni dwy flynedd ar gyfer y cyfnod rhwng 2025/26 a 2026/27 ac yn nodi dyraniadau sefydliadol ar gyfer 2025/26. Byddwn yn defnyddio’r un fethodoleg gyllido i gyfrifo dyraniadau 2026/27 gan ddefnyddio data gwiriedig sydd wedi’i gynnwys yn y system IRIS ar gyfer 2024/25. Dylai data gael ei gymeradwyo gan DAUwyr a gyllidir gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU, i gadarnhau bod y data’n gywir. Ceir manylion y data a echdynnir i DAUwyr ei gymeradwyo yn Atodiad M. Nid yw’r allbynnau o IRIS i gyfrifo’r cyllid hwn yn cael eu cynhyrchu ar gyfer y darparwyr hynny sy’n dychwelyd data at HESA ynghylch eu darpariaeth cyrsiau a ddynodwyd yn benodol.

Data a ddefnyddir i gyfrifo cyllid Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru

52. Fe wnaeth cyhoeddiad Medr, Medr/2024/08, gyhoeddi cyllid parhaus i gefnogi gweithgareddau newydd a phresennol mewn sefydliadau cymwys sy’n gwella diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil cadarnhaol. Caiff y data a ddefnyddir i gyfrifo’r cyllid hwn ei ddisgrifio yn Atodiad O. Defnyddir data myfyrwyr a staff HESA. Bydd y data myfyrwyr yn cael ei gymeradwyo yn y broses IRIS yn 2024/25. Dim ond SAUau, heb gynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru, a gynhwysir yn y dyraniadau cyllid ac fe gynhyrchir yr allbynnau o IRIS ar gyfer y rhai a gyllidir yn unig.

Ffyrdd eraill y defnyddir y data

53. Gall unrhyw ddata a ddisgrifir gael ei ddefnyddio i oleuo polisi. Yn arbennig, bydd data ar fyfyrwyr a addysgir yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg, a staff sy’n addysgu neu sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn cael ei ddefnyddio i oleuo polisi ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Bydd data sy’n ymwneud â myfyrwyr mewn SABau a gyllidir yn uniongyrchol, sydd mewn SABau dan drefniadau breinio o SAUau, neu mewn SABau â darpariaeth cyrsiau a ddynodwyd yn benodol, yn cael ei ddefnyddio i oleuo polisi ar AU mewn SABau.

54. Mae HESA yn gweithredu cyfleuster newidiadau hanesyddol ar gyfer data myfyrwyr a chyfleuster cronfa ddata sefydlog ar gyfer ffrydiau data eraill sy’n rhoi’r cyfle i DAUwyr wneud newidiadau ar ôl casglu i set ddata yn dilyn cau’r casgliad data byw. Mae’r cyfleuster hwn ar wahân i’r brif broses casglu data, fe godir tâl amdano a dim ond ar ôl cael awdurdodiad penodol gan Medr y mae ar gael. Mae’r cyfleuster ar agor am beth amser ar ôl i’r casgliad data byw cyfatebol gau, felly dylai darparwyr fod yn ymwybodol efallai na fydd data a gyflwynir ganddynt trwy’r cyfleuster hwn yn cael ei ddefnyddio ar unwaith a’i bod yn bosibl mai dim ond mewn dadansoddiadau o gyfresi amser yn y dyfodol y bydd yn ymddangos.

55. Caiff y data a ddisgrifir ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru yn ei dadansoddiad o’r sector addysg uwch hefyd, gan gynnwys dadansoddiad a gyhoeddir yn ei bwletinau ystadegol a data a gyflwynir ar wefan StatsCymru.

56. Caiff data sy’n ymwneud â niferoedd myfyrwyr a ragwelir mewn SAUau yn unig ei gasglu trwy’r cyhoeddiad cais am ragolygon sydd ar gael ar wefan Medr: Medr/2025/04: Cais am ragolygon 2025. Defnyddir y data yma ar gyfer prosesau monitro a chynllunio mewnol Medr ac nid yw’n cael ei gyhoeddi ar lefel darparwyr.

57. Dylid nodi, er bod y cyhoeddiad hwn yn nodi’r meysydd HESA a ddefnyddir gan Medr, y gall unrhyw un neu rai o’r meysydd y mae DAUwyr yn eu dychwelyd ar gofnodion HESA gael ei/eu d(d)efnyddio yn y dyfodol at ddibenion cyllido, at ddibenion rheoleiddiol, at ddibenion monitro, i oleuo polisi neu ar gyfer cyhoeddiadau, a’u bod hefyd yn cael eu defnyddio gan sefydliadau eraill. Felly, mae’n bwysig bod yr holl feysydd HESA yn cael eu cwblhau’n llawn ac yn gywir i ddangos darlun teg o’r ddarpariaeth a’r gweithgarwch yn y DAU.

Archwilio

58. Gallai’r holl ddata a ddefnyddir ar gyfer cyllido a monitro gael ei archwilio. Mae manylion y broses archwilio ddiweddaraf ar gyfer data addysg uwch a rhagor o fanylion am archwilio mewnol ac allanol wedi’u cynnwys ar y dudalen data a dadansoddi ar wefan Medr.

59. 2021/22 oedd y flwyddyn olaf yn y cylch archwilio allanol cyfredol ar gyfer data AU. Cyfrifoldeb Medr bellach yw’r broses archwilio allanol a bydd y broses yn cael ei hadolygu.

60. Fel mesur interim, yn lle archwiliadau allanol, a hyd oni fydd y broses wedi cael ei hadolygu gan Medr, bydd aelodau o dîm Ystadegau Addysg Uwch Medr yn cwrdd â chysylltiadau data ym mhob darparwr ar wahân, lle byddwn yn trafod eitemau megis ansawdd data a chanfyddiadau archwilio blaenorol.

Defnyddio meysydd a ddeilliwyd o HESA

61. Lle mae meysydd a ddeilliwyd o HESA wedi cael eu defnyddio fe’u dangosir yn y manylion codio ym mhob adran berthnasol o’r atodiadau a ganlyn. Caiff yr holl feysydd a ddeilliwyd o HESA ar gyfer y cofnod myfyrwyr eu dangos yn y fformat Endid.Z_ENWMAES, ac ar gyfer y cofnod staff yn y fformat Xenwmaes. Caiff manylion meysydd a ddeilliwyd o HESA ar gyfer cofnod myfyrwyr a chofnod staff 2024/25 eu cyhoeddi ar wefan HESA. Lle defnyddiwyd maes a ddeilliwyd, mae’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i ddeillio’r maes o’r meysydd gwreiddiol yng nghofnod HESA ar gael trwy wefan HESA.

Cynnwys

62. Mae cynnwys yr atodiadau fel a ganlyn:

Rhagor o wybodaeth

63. Mae croeso i ddarparwyr gysylltu â ni os oes arnynt angen rhagor o eglurder neu os oes ganddynt sylwadau am y mapiadau a amlinellir yn yr atodiadau; bydd unrhyw ddiweddariadau pellach sy’n ofynnol yn cael eu cyfleu i ddarparwyr.

64. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn at Rachael Clifford ([email protected]).

Medr/2025/14: Gofynion Data Addysg Uwch 2025/26

Dyddiad:  01 Medi 2025

Cyfeirnod: Medr/2025/14

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach sy’n darparu addysg uwch; Penaethiaid darparwyr sy’n dychwelyd darpariaeth cyrsiau a ddynodwyd yn benodol ar gofnod myfyrwyr HESA

Ymateb erbyn:  05 Rhagfyr 2025

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad yn hysbysu darparwyr addysg uwch ynghylch y data addysg uwch a ddefnyddir i gyfrifo dyraniadau cyllid; i fonitro’r Mesurau Cenedlaethol; i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth; ar gyfer cyhoeddiadau; i ddarparu data i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol; i ddadansoddi ansawdd data cofnod myfyrwyr HESA; i fonitro cynlluniau hepgor ffioedd rhan-amser a gradd-brentisiaethau; ac i oleuo polisi.

Medr/2025/14 Gofynion Data Addysg Uwch 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/13: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2025/26

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu canllawiau i gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch, ynghyd â dyraniadau cyllid gwrth-hiliaeth, disgwyliadau o ran arian cyfatebol, a gofynion monitro ar gyfer 2025/26.

2. Darparwyd y cyllid hwn yn wreiddiol yng nghylchlythyr CCAUC W22/05HE: Ymgynghoriad ar gyllid i gefnogi cydraddoldeb hiliol mewn addysg uwch,i ymdrin â gwrth-hiliaeth a chefnogi newid diwylliant mewn addysg uwch, yn unol â datblygiadau polisi hil, mynediad a llwyddiant yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Roedd y cyhoeddiad cychwynnol yn cynnwys amodau arian cyfatebol a’r disgwyliad i brifysgolion ennill dyfarniad siarter cydraddoldeb hiliol erbyn 2024/25. Cadarnhaodd pob prifysgol wrth CCAUC eu bwriad i gyflawni’r ymrwymiad hwn erbyn diwedd 2025.

3. Dylid darllen y cyhoeddiad hwn ar y cyd â chylchlythyr CCAUC W23/06HE: Addysg uwch ddiogel a chynhwysol: cefnogi addysg cydraddoldeb ac amrywiaeth. Ym mis Hydref 2024 cyhoeddodd Medr ei ganllawiau ar gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch a sefydlodd y cyd-destun ar gyfer y sector addysg uwch.

4. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030. Yn 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn newydd o’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i sicrhau cynnydd cyflym yn erbyn camau penodol, gan gynnwys camau’n gysylltiedig ag addysg drydyddol. Rydym yn disgwyl i brifysgolion ystyried y camau gweithredu hyn a chyfrannu atynt.

5. Rydym yn croesawu’r ffaith bod gan wyth prifysgol yng Nghymru bellach Ddyfarniad Efydd y siarter cydraddoldeb hiliol. Mae prifysgolion wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gweithio tuag at gyflawni’r siarter cydraddoldeb hiliol. Mae’r siarter yn cefnogi’r broses o ddatblygu’n brifysgol wrth-hiliol. Rydym yn disgwyl i bob prifysgol barhau i gyflawni yn erbyn eu cynlluniau gweithredu ar gyfer y siarter yn 2025/26.

Dyletswyddau a chyfrifoldebau Medr

6. Mae gan Medr ddyletswydd strategol i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn addysg drydyddol, gan gynnwys y mod y mae hyn yn berthnasol i grwpiau tangynrychioledig a phobl â nodweddion gwarchodedig. Rhoddir esboniad manwl ym mharagraffau 8-11 Medr/2024/03.

7. Mae Medr wedi cyhoeddi ei gynllun strategol sy’n nodi ein hymrwymiad ariannu i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r sector i wneud cynnydd tuag at greu Cymru wrth-hiliol ac at sicrhau amgylcheddau dysgu a gwaith sy’n gynhwysol i bawb, waeth beth fo’u hunaniaeth. Mae cynllun gweithredol Medr hefyd yn egluro y byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a darparwyr addysg drydyddol i gyfrannu at y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys: monitro cynnydd darparwyr addysg drydyddol yn erbyn cynlluniau gweithredu ac/neu ymrwymiadau siarter, a datblygu a chyhoeddi data monitro cydraddoldeb hiliol.

8. Yn 2025/26, bydd Medr yn ymgynghori ar amodau rheoleiddio newydd ar gyfer cofrestru a chyllido a fydd yn cynnwys ei amodau ar gyfer llesiant a chyfle cyfartal i staff a dysgwyr. Mae’r amod llesiant yn cynnwys gofyniad sy’n ymwneud â diogelwch staff a dysgwyr, sydd yn y cyd-destun hwn yn golygu rhyddid rhag niwed gan gynnwys aflonyddwch, trais, camymddygiad a throseddau casineb. Bydd pwerau rheoleiddio Medr hefyd yn gosod disgwyliad ar ddarparwyr i gefnogi cyfle cyfartal i fyfyrwyr tangynrychioledig. Mae rhai sydd wedi’u tangynrychioli yn golygu’r rhai sy’n wynebu rhwystrau neu anfantais gymdeithasol, ddiwylliannol, economaidd neu sefydliadol.

9. Mae Diweddariad Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru wedi cryfhau ei bwyslais ar arweinyddiaeth a grwpiau â blaenoriaeth. Disgwylir y bydd atebolrwydd am ymrwymiad prifysgolion i wrth-hiliaeth yn cael ei oruchwylio gan yr aelodau uwch priodol o staff (fel Dirprwy Is-Gangellorion) gyda chefnogaeth cyrff llywodraethu. Disgwylir i brifysgolion hefyd wella’u hymgysylltiad â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a’u cefnogaeth i’r cymunedau hynny.

Pwrpas cyllid gwrth-hiliaeth

10. Mae’r cyllid hwn i atal anghydraddoldeb, mynd i’r afael â hiliaeth a chefnogi’r broses o ymwreiddio polisïau ac arferion gwrth-hiliol mewn prifysgolion. Mae’n cyfrannu at newid diwylliant ac at fodloni disgwyliadau’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru.

11. Er bod y cyllid hwn wedi’i fframio o ran hil ac ethnigrwydd, dylai prifysgolion fabwysiadu dull cyfannol o gydnabod sut mae hil ac ethnigrwydd yn croestorri â nodweddion gwarchodedig a grwpiau a materion eraill o fewn cymdeithas, gan gynnwys trais, cam-drin ac aflonyddu ar sail hunaniaeth, llesiant ac iechyd meddwl, ffoaduriaid a cheiswyr lloches a chrefydd a chred, ymhlith eraill.

Dyraniadau ac amodau cyllid ar gyfer 2025/26

12. Mae dyraniadau cyllid 2025/26:

  1. yn amodol ar ymrwymiad gan brifysgolion i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer dyraniadau (fel mewn blynyddoedd cynt, ac fel y nodir yn y tabl cyllido isod);
  2. yn defnyddio data myfyrwyr 2023/24 HESA sy’n seiliedig ar boblogaeth gofrestru safonol HESA, wedi’i ostwng i nifer yr unigolion, h.y. os bydd myfyriwr wedi cofrestru ar fwy nag un cwrs ni chaiff ond ei gyfrif unwaith);
  3. yn defnyddio data myfyrwyr sy’n cynnwys yr holl gorff o fyfyrwyr: pob dull, lefel a domisil;
  4. yn seiliedig ar ddata HESA 2023/24 sydd wedi’u dilysu gan y brifysgol;
  5. yn ôl ein harfer, mae data myfyrwyr y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama wedi’u cynnwys yn nata a dyraniad Prifysgol De Cymru; ac
  6. yn cael eu cyflwyno ar ffurf un taliad ym mis Hydref 2025. Os yw’r adroddiadau’n anfoddhaol neu’n gyfyngedig, rydym yn cadw’r hawl i adennill cyllid.

13. Dyma ein disgwyliadau ar gyfer defnyddio arian cyfatebol:

  1. na ddylai dyraniad Medr arwain at unrhyw ostyngiad yn yr adnoddau a ddarperir eisoes gan brifysgolion ar gyfer datblygiadau gwrth-hiliol, gan gynnwys eu hymrwymiad i sicrhau a dangos cynnydd ac ymrwymiad parhaus tuag at ennill eu hachrediad siarter;
  2. bod prifysgolion yn clustnodi adnoddau ychwanegol i gefnogi camau gwrth-hiliaeth, sy’n uwch na chyfanswm dyraniad Medr o £1m;
  3. lle caiff unrhyw weithgareddau neu wasanaethau gwrth-hiliaeth sy’n bodoli eisoes eu hariannu drwy gynllun mynediad a ffioedd neu o ffynonellau eraill yn 2025/26, ceir defnyddio’r cyllid a ddarperir gan Medr drwy’r canllawiau hyn neu drwy’r arian cyfatebol gwrth-hiliaeth cysylltiedig i brifysgolion er mwyn cynyddu darpariaeth y gweithgareddau a’r gwasanaethau hyn (mae cynlluniau mynediad a ffioedd yn parhau i fod yn weithredol yn 2025/26 nes bo’r broses gofrestru newydd yn weithredol o 2026/27). Yn yr achos hwn, bydd yn rhaid i’r brifysgol gyfleu’n glir ym mhob adroddiad ac mewn unrhyw waith monitro cydraddoldeb hiliol, sut ac i ba raddau y mae’r cyllid hwn wedi gwella gweithgareddau a gwasanaethau, a gallai hynny fod yn destun archwiliad gennym ni;
  4. ceir defnyddio arian cyfatebol neu arian Medr i dalu costau tanysgrifiadau aelodaeth perthnasol, hyfforddiant wedi’i hwyluso’n allanol neu arbenigedd arall allanol;
  5. rhaid i brifysgolion gyfrannu’n effeithiol at nodau a chamau gweithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol;
  6. bod prifysgolion yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r safonau a nodir yn y Siarter Cydraddoldeb Hiliol a’r camau yn eu cynllun gweithredu;
  7. bod prifysgolion yn cydweithredu’n effeithiol ar draws y sector trydyddol a chyda phartneriaid allanol, gan gynnwys rhai â phrofiad bywyd, i ddatblygu a rhannu dysgu ac ymarfer; a
  8. bod yr arian cyfatebol a dyraniad Medr yn arwain at gynyddu cynnydd a chyflymder y cynnydd tuag at ymdrin â hiliaeth, i ymwreiddio arferion gwrth-hiliaeth, gwella cydraddoldeb hiliol, a chynnydd tuag at ddyfarniad siarter ac/neu barhau i gyflawni dyfarniad siarter.

14. Dyma ddyraniadau 2025/26:

SefydliadDyraniad Medr 2025/26 (gydag isafswm o £50K)
(£)
Arian cyfatebol y sector 2025/26
 (dim isafswm)

(£)
2025/26
Cyfanswm

(£)
Prifysgol De Cymru160,566160,566321,132
Prifysgol Aberystwyth53,88153,881107,762
Prifysgol Bangor73,83073,830147,660
Prifysgol Caerdydd224,721224,721449,443
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant106,160106,160212,320
Prifysgol Abertawe144,340144,340288,679
Prifysgol Metropolitan Caerdydd77,94877,948155,896
Prifysgol Wrecsam54,34554,345108,689
Y Brifysgol Agored yng Nghymru104,210104,210208,420
Cyfanswm1,000,0001,000,0002,000,000

Adnoddau a gwybodaeth

15. Ym mis Gorffennaf 2023 cyhoeddodd Prifysgolion y DU Tackling racial harassment in higher education: progress since 2020 i adolygu effaith canllawiau 2020 ar sut mae prifysgolion yn mynd i’r afael ag aflonyddu hiliol mewn AU a sut y gallant wella ymhellach. Mae Prifysgolion y DU hefyd wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau ar newid y diwylliant ac ar grefydd a chred, gan fynd i’r afael â gwrthsemitiaeth ac islamoffobia) i ddarparu canllawiau ymarferol er mwyn llywio ystyriaethau hiliol.

16. Ym mis Mawrth 2024, lansiodd y Black Leadership Group Higher Education Anti-Racism Toolkit (HEART). Mae’n cynnwys cynllun deg pwynt i ymwreiddio gwrth-hiliaeth mewn systemau addysg uwch (Gan gynnwys strategaeth, addysgeg a phrofiadau myfyrwyr a staff). Gallai’r adnodd hwn fod yn ddefnyddiol i brifysgolion.

17. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu matrics aeddfedrwydd fel offeryn hunanasesu sy’n gysylltiedig â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae’r matrics aeddfedrwydd wedi’i gynnwys yn Atodiad A er gwybodaeth. Gallai’r adnodd hwn fod yn ddefnyddiol i brifysgolion.

18. Wrth i Medr ddatblygu, drwy ymgynghori, ei amodau rheoleiddio a’i ganllawiau ar lesiant a chyfle cyfartal i staff a myfyrwyr, rydym yn annog prifysgolion i adolygu eu gweithgareddau gwrth-hiliaeth, gan ystyried yr amodau rheoleiddio a fydd yn berthnasol iddynt o 2026/27.

Cyflawniadau a monitro

19. Dylai gwybodaeth monitro a chyflawniadau ar gyfer 2025/26 adeiladu ar y cynlluniau ar gyfer 2024/25 a gyflwynwyd i Medr, a bod yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o broses y siarter cydraddoldeb hiliol a chanlyniadau cynlluniau gweithredu, yn ogystal â phrofiadau staff a dysgwyr. Mae templed monitro wedi cael ei ddarparu yn Atodiad B a dylai’r dogfennau a anfonir atom gynnwys:

  1. Cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth 2025/25 y brifysgol,
  2. Templed monitro’r brifysgol, gan gynnwys cynnydd a chyflawniadau hyd at fis Gorffennaf 2026; a
  3. Datganiad ariannu i roi cyfrif am ddyraniad Medr ac arian cyfatebol y brifysgol.

20. Os yw cynlluniau gweithredu’r prifysgolion yr un peth â’u cynlluniau gweithredu siarter cydraddoldeb hiliol, gallant gyflwyno cynllun gweithredu’r siarter er mwyn osgoi ail-wneud gwaith a lleihau’r baich o orfod adrodd yn ddiangen.

21. Os bydd Llywodraeth Cymru yn gosod disgwyliadau newydd ar addysg uwch neu’r sector trydyddol yn ystod y cyfnod cyllido, mae’n bosib y byddwn yn gofyn am friffiau gwybodaeth ychwanegol ac/neu’n gofyn fonitro ychwanegol.

Dyddiadau monitro a chyflwyno ar gyfer cyllid ac adroddiadau 2025/26

22. Y dyddiad cyflwyno ar gyfer cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth prifysgolion yw Dydd Llun, 13 Hydref 2025. Cyflwynwch i [email protected].

23. Dyddiad cyflwyno templed monitro 2025/26 yw Dydd Gwener, 23 Hydref 2026. Dychwelwch y ddogfen fonitro wedi’i chwblhau (Atodiad B) i [email protected].

Asesu effaith ein polisïau

24. Rydym wedi cynnal ymarfer sgrinio asesu effaith er mwyn helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb. Rydym yn rhagweld effaith gadarnhaol ar hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd a chred.

25. Buom hefyd yn ystyried effaith y polisi hwn ar y Gymraeg, a darpariaeth Gymraeg yn sector AU Cymru, a’r effeithiau posibl ar y nodau a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cysylltwch ag [email protected] am ragor o wybodaeth am asesiadau effaith cydraddoldeb.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau i’w cyflwyno

26. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Savanna Jones ([email protected]).

27. Cyflwynwch eich cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth i [email protected] erbyn Dydd Llun, 13 Hydref 2025.

28. Cyflwynwch eich templed monitro i [email protected] erbyn Dydd Gwener, 23 Hydref 2026.

Medr/2025/13: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2025/26

Dyddiad: 26 Awst 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/13

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn:  13 Hydref 2025 a 23 Hydref 2026 i [email protected]

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu canllawiau i gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch, a dyraniadau cyllid gwrth-hiliaeth, disgwyliadau o ran arian cyfatebol, a gofynion monitro ar gyfer 2025/26.

Medr/2025/13 Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/12: Cyllid digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2025/26

Cyflwyniad

1. Yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26, bydd Medr yn coladu tystiolaeth am effaith a manteision yr ‘alwad i weithredu’ flaenorol ar ddysgu digidol ar gyfer addysg bellach (AB) ac yn datblygu ein sylfaen dystiolaeth ar anghenion a blaenoriaethau ar gyfer dysgu digidol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda Jisc ar ddiweddariad canol tymor i’r fframwaith strategol Digidol 2030. Bydd y gweithgareddau hyn yn goleuo gwaith cynllunio ar gyfer dull strategol Medr o ymdrin â dysgu digidol yn y sector trydyddol yn y dyfodol.

2. Mae setliad cyllid Llywodraeth Cymru i Medr ar gyfer 2025/26 yn cynnwys cyllid cyfalaf digidol o £3 miliwn ar gyfer AB. Diben y cyllid hwn yw darparu parhad ar gyfer AB ar ôl yr alwad i weithredu; cynnal y momentwm gyda chynnydd a wnaed dros y tair blynedd ddiwethaf; a helpu i ymdrin â’r pwysau penodol o ran cyllid a godwyd gan sefydliadau AB. Bydd pob sefydliad AB hefyd yn cael dyraniad refeniw digidol o £25,000 yn 2025/26.

Llinellau amser

AmseriadCarreg filltir neu gam gweithredu
Erbyn 24 Hydref 2025Pob sefydliad i amlinellu sut y mae’n bwriadu defnyddio’r cyllid (Atodiad B).
Rhagfyr 2025Bydd taliad cyfalaf interim (50% o’r dyraniad) yn cael ei brosesu yn ystod mis Rhagfyr.
Mawrth 2026Bydd y 50% sy’n weddill o’r dyraniad cyfalaf a thaliad interim o £15,000 o gyllid refeniw yn cael ei brosesu yn ystod mis Mawrth.
Erbyn 31 Gorffennaf 2026Adroddiad ar wariant a hawliad terfynol. (Bydd Atodiad C yn cael ei ychwanegu unwaith y mae taliadau interim wedi cael eu gwneud. Bydd arweinwyr cyllid enwebedig yn cael eu hysbysu pan fo’r ffurflen hon ar gael.)

Medr/2025/12: Cyllid digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2025/26

Dyddiad:  26 Awst 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/12

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol

Ymateb erbyn:  24 Hydref 2025

Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn nodi dyraniadau cyllid cyfalaf a refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach ym mlwyddyn academaidd 2025/26, ac yn darparu canllawiau ynghylch gwariant cymwys ac anghymwys.

Medr/2025/12 Cyllid digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio