Medr/2026/22: Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach ym Mlwyddyn Academaidd 2026/27 – canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllid
Cyflwyniad
1. Mae Adran 5 Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Deddf 2022) yn nodi bod rhaid i Medr hybu gwelliant parhaus yn ansawdd addysg drydyddol Gymreig ac, wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, bod rhaid iddo roi sylw:
a. i bwysigrwydd sicrhau bod aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol yn gallu darparu addysg drydyddol o ansawdd uchel, a
b. i ofynion rhesymol aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol am ddatblygiad proffesiynol parhaus.
2. Mae Adran 5 (3) yn nodi bod aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol yn golygu:
a. athrawon personau sy’n cael addysg drydyddol,
b. personau sy’n darparu cymorth i’r athrawon hynny, ac
c. personau sy’n darparu cymorth i ddysgwyr i gymryd rhan mewn addysg drydyddol.
3. I roi cymorth i gyflawni’r ddyletswydd hon, mae dysgu proffesiynol wedi’i gynnwys yng Nghynllun Strategol Medr dan Nod Strategol 3.
| Nod Strategol 3 Sicrhau bod dysgwyr yn cael darpariaeth o’r ansawdd gorau mewn system addysg drydyddol sy’n ymegnïo i wella’n barhaus. |
| Ymrwymiad twf Cynorthwyo’r gweithlu addysg drydyddol i gael mynediad at ddysgu proffesiynol effeithiol ac archwilio ffyrdd o rannu arfer gorau, gan estyn addysgeg effeithiol ar draws y sector cyfan. |
4. Gall dysgu proffesiynol yn y cyd-destun hwn gynnwys hyfforddiant gorfodol, datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), gwybodaeth bynciol a diwydiannol, cymwysterau proffesiynol, ymchwil weithredol ac ymholi proffesiynol.
Astudiaeth Gwmpasu Dysgu Proffesiynol
5. Yn 2019, fe gomisiynodd Llywodraeth Cymru Astudiaeth Gwmpasu Dysgu Proffesiynol i ddeall yn well sut allai dysgu proffesiynol gynorthwyo’r gweithlu ôl-16 i ymateb i’r heriau sy’n wynebu’r sector. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys addysg bellach, dysgu seiliedig-ar-waith ac addysg oedolion yng Nghymru ac fe’i cynhaliwyd gan ICF Consulting Services Ltd, mewn cydweithrediad gydag Arad Research Ltd.
6. Darparodd yr astudiaeth sylfaen dystiolaeth gref, gan adnabod bylchau o ran sgiliau a gwneud cyfres o argymhellion i oleuo polisi yn y dyfodol. Er bod y gwaith hwn wedi bod yn werthfawr, mae wedi canolbwyntio ar AB a sectorau cysylltiedig gan mwyaf.
7. Gan adeiladu ar waith cynharach gan Lywodraeth Cymru a’r gwersi a ysgogwyd trwy’r Gronfa Dysgu Proffesiynol AB, mae Medr wedi comisiynu astudiaeth gwmpasu newydd ar ddysgu proffesiynol ar draws y sector trydyddol.
8. Diben yr astudiaeth hon yw sefydlu sylfaen dystiolaeth gadarn, gychwynnol i oleuo penderfyniadau strategol yn y dyfodol ynghylch dysgu proffesiynol y tu hwnt i AB, gan gynnwys AU. Bydd yr astudiaeth yn archwilio:
- Gweithgarwch dysgu proffesiynol cyfredol ar draws gwahanol rannau o addysg drydyddol
- Rhwystrau i gyfranogiad y gweithlu mewn dysgu proffesiynol
- Achosion o ddyblygu darpariaeth ac effeithlonrwydd
- Cyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng darparwyr i ddiwallu anghenion cyffredin
9. Bydd yr astudiaeth hefyd yn esgor ar argymhellion ymarferol y gall Medr, darparwyr dysgu a sefydliadau partner eu defnyddio i siapio cymorth dysgu proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg drydyddol yn y dyfodol. Y nod ar y cyfan yw deall darpariaeth dysgu proffesiynol a gofynion yn y dyfodol ar draws y sector.
10. Bydd yr adroddiad ac argymhellion terfynol yn cael eu rhannu gyda’r sector yn hydref 2026.
Defnyddio’r Gronfa Dysgu Proffesiynol
11. Mae Medr wedi dyrannu £5 miliwn i gefnogi dysgu a datblygiad proffesiynol y gweithlu addysg bellach. Bydd £4.8m yn cael ei ddyrannu i sefydliadau AB yn seiliedig ar faint y sefydliad fel dirprwy ar gyfer nifer y staff. Mae’r dyraniadau wedi’u nodi yn Atodiad A. Bydd £200,000 yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau cenedlaethol a fydd o fudd i’r sector AB yn ei gyfanrwydd. Mae’r rhain yn cynnwys cyllid grant i’r canlynol:
- Coleg Sir Gâr i gefnogi ail flwyddyn y Rhwydwaith Dysgu Proffesiynol.
- Y Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored ar gyfer hyfforddiant i reoli ymweliadau addysgol a gweithgarwch awyr agored.
- Y Sefydliad Gwaddol Addysgol i hyrwyddo’r Cymrodoriaethau Addysgu Technegol (TTF).
- Prifysgolion perthnasol yng Nghymru ar gyfer lleoliadau i ymarferwyr AB ar y rhaglenni Arweinyddiaeth ar ffurf graddau Meistr a Doethuriaeth mewn addysg.
- Colegau Cymru ar gyfer cynhadledd Dysgu ac Addysgu.
12. Mae’r cyllid a ddyrennir gan Medr ar gael gyda’r amodau cyffredinol ar gyfer talu arian a nodir yn Nhelerau ac Amodau Cyllid Medr.
13. Bydd cyllid yn cefnogi dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr a staff cymorth dysgu, a gellir ei ddefnyddio i alluogi sefydliadau i ddarparu neu gomisiynu dysgu proffesiynol sy’n cyd-fynd â’r themâu a amlinellir yn y canllawiau hyn.
14. Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau unigol pob sefydliad, yn seiliedig ar ei bolisïau ei hun a’r anghenion a adnabuwyd ar gyfer ei staff. Anogir sefydliadau hefyd i ddefnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgarwch cydweithredol a gallant ddewis “cyfuno” cyfran o’r cyllid hwn i gefnogi prosiectau cydweithredol.
15. Wrth lunio ceisiadau ar gyfer defnyddio cyllid, rydym yn disgwyl i’r holl sefydliadau ystyried:
- Safonau proffesiynol ar gyfer athrawon AB, ymarferwyr Dysgu Seiliedig-ar-Waith ac ymarferwyr Addysg Oedolion/Addysgwyr Cymru.
- Cydweithio ar draws y sector i wella effeithlonrwydd, cymorth rhwng cymheiriaid a rhannu arfer da.
- Gwersi blaenorol i adeiladu ar y gwaith a gwreiddio’r gwaith a ddatblygwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
- Taro cydbwysedd rhwng anghenion dysgu’r sefydliad (DPP) a’r penderfyniadau y mae ymarferwyr yn eu gwneud am eu hanghenion a’u diddordebau dysgu proffesiynol hwy eu hunain.
- Datblygu sgiliau staff i gefnogi anghenion cymhleth a blaenoriaethau o ran sgiliau.
- Lle mae sefydliadau’n gwneud dysgu proffesiynol sy’n ymwneud â darpariaeth ddigidol, gofynnwn iddynt ddefnyddio’r Safonau Proffesiynol Digidol a ddatblygwyd gan Jisc fel rhan o’n gwaith Digidol 2030.
16. Rhaid i geisiadau ganolbwyntio ar y themâu cymwys a restrir isod. Mae’r rhestr isod yn cynnwys themâu gorfodol y mae’n rhaid eu cynnwys a themâu dewisol.
Themâu gorfodol
- Datblygu neu gryfhau dulliau addysgu dwyieithog a/neu gefnogi staff i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer cyflwyno.
- Dysgu proffesiynol sy’n ofynnol i greu ac ategu diwylliant gwrth-hiliol.
Themâu dewisol
- Dysgu digidol.
- Strategaethau dysgu ac addysgu, gan gynnwys dysgu gwahaniaethol.
- Llythrennedd a rhifedd (gan gynnwys ESOL).
- Gwella sgiliau diwydiannol sy’n gysylltiedig ag anghenion y farchnad lafur (gan gynnwys capasiti i ddarparu cymwysterau lefel uwch).
- Cryfhau addysgeg Safon Uwch a galwedigaethol.
- Ymchwil weithredol.
- Dysgu proffesiynol i staff addysgu a chymorth arbenigol ar gyfer dysgwyr ag anghenion cymhleth.
- Darparu gweithgareddau sydd wedi’u bwriadu i gyflymu a meithrin arbenigedd staff a fydd yn cynyddu gwybodaeth a phrofiad dysgu’r dysgwr.
Bydd disgwyl i sefydliadau adrodd yn erbyn pob gweithgaredd fel rhan o’r gofynion adrodd interim a therfynol.
Materion allweddol a dulliau gweithio
17. Wrth baratoi ceisiadau, dylai sefydliadau ystyried polisïau trawsbynciol eraill a ffyrdd eraill o weithio. Rhaid i’r rhain gynnwys:
- Hybu cydweithio gydag undebau llafur
Disgwylir i SABau ddatblygu eu cynigion mewn cydweithrediad gydag undebau llafur, i sicrhau bod eu hundebau llafur cydnabyddedig yn cael eu cynnwys yn llawn wrth gynllunio newidiadau a fydd yn effeithio ar staff, gwneud penderfyniadau yn eu cylch, a’u rhoi ar waith. - Cymru Wrth-hiliol
Dylai unigolion a sefydliadau gymryd cyfrifoldeb am greu diwylliant gwrth-hiliol ac ysgogi newid cadarnhaol parhaol ac, wrth wneud hynny, byddem yn disgwyl i chi ystyried y dysgu proffesiynol sy’n ofynnol yn eich sefydliad i helpu i wireddu’r uchelgais i greu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030. - Y Gymraeg
Mae gan Medr rôl i gyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050 ac mae dyletswydd arno i hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg. Rydym felly’n disgwyl i chi ystyried hyn wrth baratoi eich ceisiadau.
Gweithgareddau cymwys
18. Gellir defnyddio cyllid i wneud y canlynol:
- Gwneud cymwysterau addysgu achrededig.
- Gwneud modiwlau neu unedau hyfforddi penodol i wella sgiliau addysgu (e.e. modiwlau MA).
- Diweddaru a gwella sgiliau diwydiannol/galwedigaethol staff.
- Prynu hyfforddiant pwrpasol, gan gynnwys costau hyfforddwyr neu hwyluswyr allanol.
- Prynu neu ddatblygu pecynnau e-ddysgu.
- Ariannu costau cefnlenwi ar gyfer staff sy’n gwneud dysgu proffesiynol.
- Cynnal ymchwil gan gynnwys ymchwil weithredol.
- Dylunio a darparu dysgu proffesiynol a datblygiad arweinwyr mewn modd cydweithredol, gan gynnwys hyfforddiant ar y cyd yn rhanbarthol.
- Datblygu adnoddau a chanllawiau dysgu proffesiynol dwyieithog er budd y sector cyfan, gan gynnwys mewn dysgu seiliedig-ar-waith ac addysg oedolion.
- Dysgu proffesiynol i staff addysgu a chymorth arbenigol ar gyfer dysgwyr ag anghenion cymhleth.
- Darparu gweithgareddau sydd wedi’u bwriadu i gyflymu a meithrin arbenigedd staff a fydd yn cynyddu gwybodaeth a phrofiad dysgu’r dysgwr.
19. Ni ellir defnyddio’r cyllid i brynu offer na meddalwedd cyfalaf nac i ddatblygu cyrsiau ar gyfer dysgwyr.
20. Os ydych yn ansicr a yw eich defnydd arfaethedig o’r cyllid yn gymwys cysylltwch â [email protected].
Meini prawf gwerthuso
21. Rhaid i gyni gion wneud y canlynol:
- Darparu dysgu proffesiynol yn unol â’r Safonau proffesiynol ar gyfer athrawon AB, ymarferwyr Dysgu Seiliedig-ar-Waith ac ymarferwyr Addysg Oedolion/Addysgwyr Cymru
- Adnabod manteision eglur a dangos sut y bydd effaith yn cael ei gwerthuso.
- Cyd-fynd â’r themâu a restrir yn y canllawiau hyn.
- Cynnwys gweithgareddau sydd o gymorth i ddatblygu’r Gymraeg.
- Dangos dysgu proffesiynol a fydd yn creu ac yn cefnogi diwylliant gwrth-hiliol.
- Dangos rhesymeg glir sy’n adlewyrchu’r anghenion dysgu proffesiynol a adnabuwyd ar gyfer staff y sefydliad.
Sut i ymgeisio
22. Mae’n ofynnol i bob sefydliad gwblhau a llofnodi copi o’r ffurflen yn Atodiad C a’i ddychwelyd i:
- Gadarnhau’n ffurfiol bod eich sefydliad yn derbyn y cyllid.
- Enwebu unigolyn priodol yn eich sefydliad fel y cyswllt arweiniol mewn perthynas â’r cyllid hwn.
- Amlinellu’n fras beth yw eich bwriadau ar gyfer defnyddio’r cyllid hwn.
23. Dylai ffurflenni wedi’u llofnodi gael eu dychwelyd i [email protected] erbyn 3 Gorffennaf 2026.
24. Rhowch wybod i Medr ar y cyfle cynharaf os ydych yn rhagweld na fyddwch yn gallu gwario eich dyraniad yn llawn. Os caiff cyllid ei ryddhau gan sefydliadau unigol, bydd Medr yn ystyried a yw’n ddichonadwy ailddyrannu’r cyllid hwn.
Monitro a thalu’r cyllid
25. Yn amodol ar ddychwelyd Atodiad C, bydd taliad interim (65% o ddyraniad cyllid eich sefydliad) yn cael ei amserlennu yn ystod mis Mawrth 2027.
26. Bydd hi’n ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth am wariant erbyn 31 Gorffennaf 2027 i ryddhau’r taliad terfynol. Dim ond yn erbyn gwariant gwirioneddol a ysgwyddwyd erbyn 31 Gorffennaf 2027 y dylech hawlio. Bydd swm y taliad terfynol hwn yn cael ei addasu yn unol â’r gwariant gwirioneddol a ysgwyddwyd, hyd at gyfanswm gwerth dyraniad eich sefydliad.
27. Bydd templedi ar gyfer adroddiadau interim a therfynol ynghyd â gwybodaeth am wariant ar ddiwedd y flwyddyn yn cael eu hychwanegu fel Atodiad D. Bydd arweinwyr cyllid a enwebwyd yn cael eu hysbysu pan fo’r ffurflenni hyn ar gael.
28. Mae cadarnhau’r dyraniad yn amodol ar gymeradwyo gweithgareddau gan Medr.
Further information
29. Dylai unrhyw ymholiadau ynghylch y canllawiau hyn a dogfennaeth ategol gael eu cyfeirio at Karron Williams yn [email protected].
Medr/2026/22: Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach ym Mlwyddyn Academaidd 2026/27 – canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllid
Dyddiad: 05 Mehefin 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/22
At: Principals of further education institutions (FEIs) in Wales; FEI professional learning leads
Ymateb erbyn: Applications to be submitted by midday 3 July 2026
Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn nodi’r dyraniadau cyllid refeniw dysgu proffesiynol (PLF) i sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. Mae’r ddogfen yn darparu canllawiau ynghylch gwariant cymwys ac anghymwys a thempledi ar gyfer ceisiadau a chostau.
Medr/2026/22 Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach ym Mlwyddyn Academaidd 2026/27 – Canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllidDogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/21: Cyfarwyddyd cyfrifon i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer 2025/26
Cyflwyniad
1. Diben y cyfarwyddyd cyfrifon hwn yw hysbysu sefydliadau am ofynion Medr ynghylch fformat eu datganiadau ariannol archwiliedig ar gyfer y flwyddyn 2025/26.
2. Mae sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn dal i fod yn ddarostyngedig i fframwaith cod rheoli ariannol (CRhA) CCAUC (Cylchlythyr CCAUC W17/16HE) nes i fframwaith rheoleiddio Medr ei hun ddod i rym ar 1 Awst 2026.
Newidiadau o gyfarwyddyd cyfrifon 2024/25
3. Cyflwynwyd y diwygiadau canlynol i’r dogfen hon ers y fersiwn derfynol ar gyfer 2024/25:
a) Mân newidiadau i’r naratif / teipograffeg a diweddaru dolenni’r rhyngrwyd.
Cyfarwyddyd cyfrifon ar gyfer 2025/26
4. Mae’n ofynnol i sefydliadau addysg uwch ddilyn y Datganiad o’r Arfer a Argymhellir: Cyfrifyddu ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch 2019 (FEHE SORP), neu unrhyw ddogfennau sy’n olynu’r SORP, wrth lunio’u datganiadau ariannol. Gellir cael hyd i ddolenni i’r FEHE SORP a chanllawiau ar weithredu rhai meysydd yn yr adran SORP ar wefan Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Prifysgolion Prydain (BUFDG). Os oes unrhyw anghysondebau rhwng gofynion y FEHE SORP a’r cyfarwyddyd cyfrifon hwn, y cyfarwyddyd cyfrifon hwn fydd yn drech.
5. Fel y nodwyd yn y SORP, rhaid i sefydliadau gymhwyso’r holl ofynion o dan FRS 102: y Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).
6. Yn achos sefydliad sydd hefyd yn gwmni cyfyngedig drwy warant, mae’r cyfarwyddyd hwn yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Cwmnïau 2006.
7. Bydd y datganiadau ariannol yn cael eu llofnodi gan y Swyddog Atebol a chan y Cadeirydd neu un aelod arall o’r corff llywodraethu a benodir gan y corff hwnnw.
8. Dylai sefydliadau nodi y dylid dilyn fformatau’r prif ddatganiadau cyfrifyddu (datganiad cyfunol o incwm a gwariant cynhwysfawr, datganiad cyfunol o newidiadau mewn cronfeydd wrth gefn, mantolen, a datganiad llif arian cyfunol). Dylai’r datganiadau ariannol ddilyn datganiadau ariannol enghreifftiol diweddaraf BUFDG lle bo modd, i hyrwyddo cysondeb o ran ymdriniaeth o fewn y sector, gan roi sylw digonol i amrywiaeth sefydliadau, a’r angen am eglurder wrth gyflwyno’r wybodaeth i ddefnyddwyr. Gellir cael hyd i’r model yn adran SORP ar wefan BUFDG.
9. Wrth i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) symud i ddarparu data agored, mae defnyddwyr trydydd parti yn gynyddol yn echdynnu data am sefydliadau a’r sector o’r ffynhonnell hon er mwyn cymharu a gwneud sylwadau yn hytrach nag o’r datganiadau ariannol cyhoeddedig. Byddem felly’n disgwyl i Sefydliadau roi sylw digonol i ddiffiniadau a chanllawiau HESA wrth gategoreiddio o fewn y datganiadau ariannol, er mwyn sicrhau bod y datganiadau ariannol, fel y cawsant eu cymeradwyo gan y corff llywodraethu, yn cyd-fynd â’r cofnod cyllid a gyflwynwyd i HESA wedi hynny..
10. Mae cysondeb rhwng cofnod cyllid HESA a datganiadau ariannol cyhoeddedig yn hyrwyddo cymhariaeth well rhwng sefydliadau a chysondeb y data a ddefnyddir i ddadansoddi sectorau’r DU.
11. Dylai’r nodiadau i’r cyfrifon gynnwys dadansoddiadau o incwm a gwariant ac eitemau ar y fantolen sy’n gyson ag arfer cyfrifyddu da cydnabyddedig, a dylent fod yn ddigon manwl fel bod defnyddwyr yn gallu cael dealltwriaeth glir o berfformiad ariannol y sefydliad.
12. Os yw’r cyfrifon yn cynnwys eitemau incwm neu wariant sylweddol nad ydynt yn debygol o ddigwydd eto ac/neu nad ydynt yn adlewyrchu’r perfformiad ariannol sylfaenol, dylid rhoi esboniad am hynny.
13. Dylai’r datganiadau ariannol gydymffurfio ymhellach ag unrhyw ofynion perthnasol yn Neddf Elusennau 2011 i’r graddau y mae’r Ddeddf honno’n berthnasol i sefydliad.
14. Dylai sefydliadau hefyd:
a) Sicrhau bod contractau ar gyfer archwilio allanol yn nodi bod yn rhaid i’r archwilydd allanol gynnwys adroddiad i’r corff llywodraethu yn y datganiadau ariannol ynghylch a yw’r canlynol yn wir, ym mhob ffordd berthnasol:
i.) bod y datganiadau ariannol yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y sefydliad addysg uwch, ac o’i incwm a’i wariant, ei enillion a’i golledion, newidiadau i’w gronfeydd wrth gefn a’i lifoedd arian am y flwyddyn. Dylent roi ystyriaeth i ofynion statudol perthnasol, ac i ofynion datgelu a chyfrifyddu gorfodol eraill, ac i ofynion Medr;
ii.) bod y datganiadau ariannol wedi’u paratoi’n briodol yn unol ag Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y DU, sef y safon adrodd ariannol (FRS102), y datganiad o’r arfer a argymhellir: cyfrifyddu ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch (FEHE SORP), a deddfwriaeth berthnasol;
iii.) bod arian o ba bynnag ffynhonnell a weinyddir gan y sefydliad addysg uwch i ddibenion penodol wedi’i gymhwyso’n briodol i’r dibenion hynny a’i reoli yn unol â deddfwriaeth berthnasol;
iv.) bod y sefydliad wedi defnyddio incwm, lle bo’n briodol, yn unol â pharagraff 145 y Cod Rheoli Ariannol (CRhA) (HEFCW W17/16HE) ac a yw grantiau Cynghorau Cyllido (gan gynnwys grantiau gan Medr) wedi’u cymhwyso’n unol â’r telerau ac amodau cysylltiedig, a’u defnyddio i’r dibenion y’u derbyniwyd ar eu cyfer, gan gynnwys y Telerau ac Amodau Cyllido; a
v.) bod gofynion cyfarwyddyd cyfrifon Medr wedi’u bodloni.
b) Darparu dadansoddiad a datgeliad manwl o fewn y datganiadau ariannol o ffioedd archwilio a ffioedd eraill a delir i archwilwyr allanol, yn unol ag Offeryn Statudol SI 2008 Rhif 489– Rheoliadau Cwmnïau (Datgelu Tâl Archwilwyr a Chytundebau Cyfyngu Atebolrwydd) 2008 a’r Diwygiadau i’r Rheoliadau hyn sydd wedi’u cynnwys yn Offeryn Statudol OS 2011 Rhif 2198. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer y sefydliadau hynny y mae cyfraith cwmnïau yn berthnasol iddynt. Gellir gweld yr Offeryn Statudol ar Wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (www.legislation.gov.uk).
c) Yn eu hadroddiadau neu eu llythyrau at reolwyr, dylai archwilwyr roi sylw digonol i ofynion penodol Medr, fel cydymffurfio â chodiadau i drothwyon ymrwymiadau ariannol, neu agweddau eraill ar ddiffyg cydymffurfio.
Dyddiad cyflwyno datganiadau ariannol archwiliedig i Medr
| Dyddiad cau | |
|---|---|
| Datganiadau ariannol archwiliedig | 30 Tachwedd 2026 |
| Cyhoeddi ar y wefan | 31 Ionawr 2027 |
| Datganiadau ariannol is-gyrff archwiliedig | 31 Rhagfyr 2026 |
Medr/2026/21: Cyfarwyddyd cyfrifon i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer 2025/26
Dyddiad: 03 Mehefin 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/21
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Brif swyddogion cyllid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru
Ymateb erbyn: 30 Tachwedd 2026 [is-gyrff perthnasol 31 Rhagfyr 2026]
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu gwybodaeth am ofynion Medr ynghylch fformat datganiadau ariannol archwiliedig sefydliadau addysg uwch Cymru.
Medr/2026/21 Cyfarwyddyd cyfrifon i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer 2025/26Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioSta/Medr/10/2026: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Tachwedd 2025 i Ionawr 2026 (dros dro)
Pwyntiau allweddol
Ystadegau Swyddogol a gyhoeddwyd ar 28 Mai 2026. Ceir y diweddariad nesaf ym mis Awst 2026.
- Dechreuodd 3,765 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch2 2025/26 (p), o gymharu â 3,650 yn Ch2 2024/25.
- Ymhlith y prentisiaethau uwch y gwelwyd y cynydd mwyaf o gymharu â Ch2 y flwyddyn gynt, sy’n cynyddu o 19% (p).
- Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd yn Ch2 2025/26 (p) hefo 1,805 raglenni dysgu prentisiaethau yn ddechreuwyd. Roedd 48% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Roedd 60% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr gwrywaidd yn Ch2 2025/26 (p), roedd hyn dim wedi gostwng 2 pwynt canran o gymharu â Ch2 2024/25.
- Roedd 40% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr 25 i 39 oed yn Ch2 2025/26 (p) o gymharu â 42% yn Ch2 y flwyddyn gynt.
- Roedd 18% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn Ch2 2025/26 (p), roedd hyn dim wedi cynyddu 3 pwynt canran o gymharu â Ch2 2024/25
- Roedd 13% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau yn Ch2 2025/26 (p) gan ddysgwyr a oedd yn nodi bod ganddynt anabledd ac/neu anhawster dysgu, rdim newid o gymharu â Ch2 2024/25.
- Roedd 24% o’r dysgwyr a ddechreuodd raglenni dysgu prentisiaeth yn ddysgwyr sy’n byw yn y 20% o gymdogaethau â’r mwyaf o amddifadedd yng Nghymru yn 2025/26 Ch2 (p).
- Mae 92,010 o brentisiaethau wedi’u dechrau rhwng Mai 2020 ac Ionawr 2026, yn rhan o’r cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru yn y tymor Senedd blaenorol o 100,000 o brentisiaethau. Gan gynnwys y dysgwyr a ddechreuodd raglenni na chânt eu cyfrif fel rhan o’r mesur mwy trwyadl ar gyfer y targed, dechreuodd gyfanswm o 101,070 o ddysgwyr brentisiaethau yn ystod y cyfnod.
- Roedd y Rhaglen Lywodraethu’n ar gyfer tymor y Senedd 2021 i 2026 wedi cynnwys targed i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed. Yn ystod cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 26 Mehefin 2024, fe gytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar darged newydd o 100,000 o brentisiaethau pob oed i gynnal targed tymor blaenorol y Senedd o 100,000.
Roedd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau yn y flwyddyn ariannol 2023-24 yn £139m ac yn £144m yn 2024-25 (Ffynhonnell: Dyraniadau cyllid Medr 2025 i 2026).). Yn ystod blynyddoedd blaenorol, roedd cyllid ychwanegol ar gyfer prentisiaethau o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (£43m yn 2023-24 Dyraniadau cyllid Medr 2025 i 2026). Fe ddaeth hyn i ben erbyn y flwyddyn ariannol 2024-2025.
Rhaglenni dysgu Prentisiaeth a ddechreuwyd: dangosfwrdd rhyngweithiolGwybodaeth reoli
Gwybodaeth reoli a gyhoeddwyd ar 28 Mai. Ceir y diweddariad nesaf ar 25 Mehefin.
Mae gan Medr fynediad at wybodaeth reoli fwy diweddar, nad yw wedi cael ei dilysu na’i gwirio o ran ansawdd, i’r un graddau â’r ystadegau swyddogol yn yr adroddiad hwn.
Yn ôl y wybodaeth reoli ar 21 Mai 2026:
- Cafwyd 96,370 o ddechreuadau prentisiaeth ers Ch4 2020/21, yn rhan o’r mesur llymach o gynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o 100,000 o brentisiaethau yng nghyfnod 2021 i 2026 y Senedd.
- O gynnwys y dechreuadau nad ydynt wedi’u cyfrif yn rhan o fesur llymach y targed, cafwyd cyfanswm o 105,560 o ddechreuadau prentisiaeth dros y cyfnod hwnnw o amser.
- Gwnaeth cyfanswm nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd yn ystod cyfnod y Senedd groesi 100,000 ym mis Ionawr 2026. Gwnaeth nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd ar gyfer y mesur targed mwy trwyadl aros islaw 100,000.
I ddibenion y mesur hwn ac i gyd-fynd â’r cyfnodau adrodd chwarterol ar gyfer yr ystadegau hyn, rydym yn ystyried bod cyfnod y Senedd yn rhychwantu Ch4 2020/21 i Ch3 2025/26 (1 Mai 2021 i 30 Ebrill 2026).
Mae’r mesurau hyn yn cynnwys gradd-brentisiaethau. Daw’r data ar radd-brentisiaethau o gasgliad data gwahanol, sydd ar gael bob blwyddyn. Cafodd y diweddariad diwethaf i’r data ar radd-brentisiaethau ei wneud ar 29 Ionawr ac roedd yn cynnwys data ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.Bydd gwybodaeth am radd-brentisiaethau a ddechreuodd yn ystod tri chwarter cyntaf blwyddyn academaidd 2025/26 ar gael ym mis Ionawr 2027. Roedd 480 o radd-brentisiaethau yn 2024/25 fel rhan o’r mesur targed, a dechreuwyd cyfanswm o 485.
Cyfanswm y dechreuadau prentisiaeth yng nghyfnod 2021 i 2026 y Senedd
Ffigur 1: Gwybodaeth reoli ar 21 Mai 2026
Disgrifiad: Dechreuwyd llai ym mis Rhagfyr 2025 na’r misoedd eraill. Mae hyn yn nodweddiadol.
Mae gan ddarparwyr gyfnod o 8 wythnos i gofnodi bod prentis yn dechrau. Ni fydd yr wybodaeth reoli hon yn cynnwys yr holl brentisiaid sydd wedi dechrau yn y cyfnod dan sylw.
Mae’n cymryd amser hefyd i ganfod a yw prentis yn anghymwys ar gyfer y mesur llymach, sy’n eithrio prentisiaid sy’n tynnu’n ôl yn yr 8 wythnos gyntaf a rhai sy’n trosglwyddo allan o’i rhaglen.
Bydd darparwyr yn newid eu cofnodion yn barhaus i sicrhau cywirdeb. Mae’r sefyllfa derfynol ar gyfer ystadegau swyddogol yn seiliedig ar y cofnod fel y mae ym mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd.
Wrth inni ddod at ddiwedd cyfnod y targed, rydym yn bwriadu rhoi diweddariadau misol o wybodaeth reoli ar gynnydd tuag at y targed o 100,000 o brentisiaethau.
Dyma’r amserlen ar gyfer y diweddariadau:
| Dyddiad yr wybodaeth reoli | Dyddiad cyhoeddi |
|---|---|
| 18 Rhagfyr 2025 | 8 Ionawr 2026 |
| 22 Ionawr 2026 | 29 Ionawr 2026 |
| 19 Chwefror 2026 | 26 Chwefror 2026 |
| 19 Mawrth 2026 | 26 Mawrth 2026 |
| 23 Ebrill 2026 | 30 Ebrill 2026 |
| 21 Mai 2026 | 28 Mai 2026 |
| 18 Mehefin 2026 | 25 Mehefin 2026 |
Cesglir yr wybodaeth reoli ar y dydd Iau yn nhrydedd wythnos lawn y mis. Dylai’r ffigurau a adroddir ym mis Mehefin roi syniad rhesymol o’r ffigurau terfynol dros gyfnod 2021 i 2026 y Senedd, er na fydd gennym ddarlun llawn o’r rhai a dynnodd yn ôl, tan y caiff y data terfynol ei gyhoeddi.
Bydd fersiwn ddiweddaraf yr adroddiad hwn yn cynnwys y diweddariadau, ac fe’u cyhoeddir ar ein Calendr cyhoeddi ystadegau. Mae’r adroddiad nesaf ar raglenni dysgu Prentisiaeth wedi’i drefnu ar gyfer mis Chwefror 2026, a bydd yn cynnwys data hyd at fis Hydref 2025.
Bydd sefyllfa derfynol y targed prentisiaethau, yn ôl yr ystadegau swyddogol â sicrwydd ansawdd, yn cael ei hadrodd yn yr adroddiad ar Raglenni dysgu prentisiaeth sydd wedi’i amserlennu i’w gyhoeddi yng Ngwanwyn 2027.
Mae’r nifer o radd-brentisiaethau ar gyfer 2023/24 wedi cael eu hadolygu o 385 i 360 oherwydd bod rhai cyrsiau wedi cael eu cofnodi’n anghywir fel gradd-brentisiaethau. Cafodd y dechreuadau gradd sy’n cyfri tuag at fesur y targed llymach eu hadolygu o 385 i 355.
Sta/Medr/10/2026: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Tachwedd 2025 i Ionawr 2026 (dros dro)
Ystadegau swyddogol
Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/10/2026
Dyddiad: 28 Mai 2026
Crynodeb: Ystadegau ar rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd. Yn cynnwys data yn ôl rhanbarth cartref, math o raglen, oedran, sector, rhywedd, a blwyddyn academaidd.
Sta/Medr/10/2026 Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Tachwedd 2025 i Ionawr 2026 (dros dro)Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioSta/Medr/09/2026: Cyllid sefydliadau addysg uwch, o fis Awst 2024 i fis Gorffennaf 2025
Cyflwyniad
Mae’r datganiad ystadegol hwn yn rhoi crynodeb o wybodaeth ariannol a gyflwynwyd i gofnod cyllid yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd Medr yr adroddiad Cynaliadwyedd ariannol y sector addysg uwch yng Nghymru sy’n rhoi asesiad manylach o gyllid y sector addysg uwch yng Nghymru. Ceir rhai gwahaniaethau rhwng y ffigurau yn y naill adroddiad a’r llall. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys Prifysgol Cymru gan ei bod yn cyflwyno data i gofnod cyllid HESA, ond nid yw’r adroddiad ar gynaliadwyedd ariannol yn cynnwys y sefydliad hwn (gweler yr adran Data).
Incwm
Siart 1: Dadansoddiad o gategorïau incwm yn yr holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, o 2022/23 i 2024/25
Ffynhonnell: Cofnod Cyllid HESA, Tabl 1
Cyfanswm incwm cyfunol sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2024/25 oedd £1.90 biliwn. Yn 2022/23 ac yn 2023/24, y cyfanswm oedd £1.98 biliwn.
Roedd ffioedd dysgu a chontractau addysg yn cyfrif am £1.04 biliwn o’r incwm yn 2024/25, sy’n golygu mai’r categori hwn oedd y ffynhonnell incwm fwyaf. Mae hyn yn cynrychioli lleihad o 6% ers 2023/24, pan gofnodwyd £1.11 biliwn.
Grantiau cyrff cyllido oedd yr unig gategori incwm lle y gwelwyd cynnydd rhwng 2023/24 a 2024/25, gan godi 3% o £276 miliwn i £285 miliwn. Yn ogystal â chyllid gan Medr, gall grantiau cyrff cyllido gynnwys cyllid ar gyfer sefydliadau addysg bellach o fewn grwpiau addysg uwch, a rhywfaint o gyllid arall gan Lywodraeth y DU.
Roedd grantiau a chontractau ymchwil yn cyfrif am werth £237 miliwn o incwm yn 2024/25.
Gwelwyd lleihad ym mhob un o’r categorïau incwm sy’n weddill yn ystod 2024/25.
Gwariant
Noder: mae’r dull o gyfrifo gwariant sylfaenol yn y datganiad hwn yn wahanol i ddatganiad 2023/24 am ei fod yn cadw addasiadau cyfrifyddu technegol nad ydynt yn arian parod i gynlluniau pensiwn â buddion wedi’u diffinio ar wahân i gostau llog a chostau cyllid eraill, yn ogystal â chostau staff. Dim ond eu cadw ar wahân i gostau staff a wnaed yn natganiad 2023/24. Gwnaed y newid hwn er mwyn cyd-fynd ag arferion safonol yn y sector a chyhoeddiadau eraill gan Medr.
Nid yw cofnod cyllid HESA yn casglu ffigurau wedi’u hailddatgan ar gyfer addasiadau costau pensiwn, felly defnyddiwyd y ffigurau a gyflwynwyd yn wreiddiol.
Tabl 1: Cymhariaeth o fathau o wariant ar gyfer yr holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, o 2022/23 i 2024/25 (£M)
| Math o wariant | 2022/23 (£M) | 2023/24 (£M) | 2024/25 (£M) |
|---|---|---|---|
| Cyfanswm y gwariant | 1,889 | 1,679 | 2,020 |
| Gwariant sylfaenol | 1,945 | 2,056 | 2,026 |
| Gwariant gweithredu sylfaenol | 1,943 | 2,039 | 1,977 |
Ffynonellau: Cofnod Cyllid HESA, Tabl 1, Tabl 8 a Thabl 12.
(Mae Tabl 1 yn cynnwys y categorïau gwariant cyffredinol. Mae Tabl 8 yn cynnwys yr addasiadau pensiwn i’r categori ‘costau llog a chostau cyllid eraill’ yn y golofn ‘Interest and other finance costs’, y gellir ei gweld pan fydd ‘Other expenditure’ wedi’i ddewis ar gyfer hidlydd grŵp canolfan gostau HESA a phan fydd ‘Pension cost adjustment’ wedi’i ddewis ar gyfer hidlydd costau HESA. Mae Tabl 12 yn cynnwys y newidiadau i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn ar gyfer costau staff.)
Mae cyfanswm y gwariant, fel y’i nodir mewn cyfrifon statudol, yn cynnwys addasiadau pensiwn technegol nad ydynt yn arian parod ac eitemau untro megis costau ailstrwythuro sylfaenol. Mae’r addasiadau pensiwn yn seiliedig ar brisiadau actiwaraidd o’r cynlluniau pensiwn, a gallant amrywio’n sylweddol yn dibynnu ar werth marchnadol ar adeg prisio. Gall hyn roi darlun camarweiniol o’r costau sylfaenol.
Mae gwariant sylfaenol yn tynnu addasiadau pensiwn technegol nad ydynt yn arian parod allan o gostau staff a chostau llog a chostau cyllid eraill.
Nid yw gwariant gweithredu sylfaenol yn cynnwys costau ailstrwythuro sylfaenol chwaith. Gan mai costau untro yw costau ailstrwythuro, nid ydynt yn rhan o weithrediadau parhaus arferol.
Yn 2024/25, bu lleihad o 3% mewn gwariant gweithredu sylfaenol, i £1.98 biliwn.
Siart 2: Dadansoddiad o gategorïau gwariant mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, o 2022/23 i 2024/25
Ffynonellau: Cofnod Cyllid HESA, Tabl 1, Tabl 8 a Thabl 12
(Mae Tabl 1 yn cynnwys y categorïau gwariant cyffredinol. Mae Tabl 8 yn cynnwys yr addasiadau pensiwn i’r categori ‘costau llog a chostau cyllid eraill’ yn y golofn ‘Interest and other finance costs’, y gellir ei gweld pan fydd ‘Other expenditure’ wedi’i ddewis ar gyfer hidlydd grŵp canolfan gostau HESA a phan fydd ‘Pension cost adjustment’ wedi’i ddewis ar gyfer hidlydd costau HESA. Mae Tabl 12 yn cynnwys y newidiadau i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn ar gyfer costau staff.)
Bu lleihad mewn costau staff (heb gynnwys newidiadau technegol nad ydynt yn arian parod i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn) a chostau gweithredu eraill yn 2024/25. Cofnodwyd costau staff o £1.1 biliwn yn 2024/25; bu lleihad o lai nag 1%.
Bu lleihad o 8% mewn costau gweithredu eraill, i £681 miliwn yn 2024/25.
Y sefyllfa weithredu sylfaenol
Y gwarged neu’r diffyg yn sgil gweithgareddau gweithredol craidd mewn prifysgolion yw’r sefyllfa weithredu sylfaenol. Yn y cyhoeddiad hwn, fe’i cyfrifwyd drwy dynnu’r gwariant gweithredu sylfaenol (nad yw’n cynnwys addasiadau pensiwn technegol nad ydynt yn arian parod na chostau ailstrwythuro sylfaenol untro) o gyfanswm yr incwm.
Yn 2024/25, cofnododd prifysgolion yng Nghymru ddiffyg gweithredu cyfunol o £81 miliwn. Yn 2023/24, £56 miliwn oedd y diffyg hwn. Yn 2022/23, roedd gwarged gweithredu o £40 miliwn.
Data
Ffigurau ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2025 yw ffigurau 2024/25, ac mae data’r blynyddoedd blaenorol yn dilyn yr un patrwm.
Nid yw’r datganiad hwn yn cynnwys data gan y Brifysgol Agored yng Nghymru, gan mai dim ond data ariannol ar sail y DU gyfan y mae’r Brifysgol Agored yn eu cynhyrchu. Mae Prifysgol Cymru (swyddogaethau canolog) wedi cael ei chynnwys yn y datganiad hwn, sy’n golygu ei bod yn bosibl y bydd y ffigurau fymryn yn wahanol i’r adroddiad Cynaliadwyedd ariannol y sector addysg uwch yng Nghymru Medr, nad oedd yn cynnwys Prifysgol Cymru yn ei ffigurau, am nad yw Prifysgol Cymru yn gorff dyfarnu i sefydliadau eraill yng Nghymru ar hyn o bryd ac am fod ganddi weithgarwch cyfyngedig fel endid annibynnol. Nid yw sefydliadau addysg bellach, colegau chweched dosbarth na darparwyr addysg uwch amgen wedi’u cynnwys chwaith.
Mae cofnod cyllid HESA yn caniatáu i ddarparwyr ddiwygio eu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn yn y cyflwyniad dilynol. Mae’r cyhoeddiad hwn yn defnyddio’r ffigurau a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar. Daeth ffigurau 2023/24 o gyflwyniad 2024/25 ac felly mae’n bosibl y byddant yn wahanol i gyhoeddiadau blaenorol. Yr eithriad i hyn yw addasiadau pensiwn nad ydynt yn arian parod sydd wedi’u cynnwys o fewn ‘costau llog a chostau cyllid eraill’, lle nad yw’r cofnod cyllid yn casglu gwerth diwygiedig.
Mae’r data i’w gweld ar wefan Data Agored HESA, sydd hefyd yn cynnwys data ar gyfer darparwyr unigol.
Sta/Medr/09/2026: Cyllid sefydliadau addysg uwch, o fis Awst 2024 i fis Gorffennaf 2025
Ystadegau Medr
Cyfeirnod: Sta/Medr/09/2026
Dyddiad: 19 Mai 2026
Dynodiad: Official Statistics
Crynodeb: Dadansoddiad o incwm a gwariant sefydliadau addysg uwch yng Nghymru o fis Awst 2024 i fis Gorffennaf 2025
Sta/Medr/09/2026 Cyllid sefydliadau addysg uwch, o fis Awst i fis Gorffennaf 2025Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/20: Casglu data cofnod myfyrwyr HESA yn ystod y flwyddyn – disgwyliadau a chyllid ar gyfer darparwyr addysg uwch yng Nghymru
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi ein disgwyliadau ynghylch casglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn ar gyfer darparwyr addysg uwch drwy gofnod myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Rydym hefyd yn rhoi gwybod i ddarparwyr am ddyraniadau cyllid i’w defnyddio ar gyfer casglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn.
2. Mae data ar addysg uwch yng Nghymru yn ffynhonnell wybodaeth hanfodol a gaiff ei defnyddio ar gyfer llawer o nodau strategol Medr. Ar hyn o bryd, dim ond ar lefel fanwl yn ôl-weithredol ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd y mae gwybodaeth a dirnadaethau am addysg uwch yng Nghymru ar gael.
3. Un datblygiad mawr sydd ar y gorwel ar gyfer casglu data addysg uwch yw casglu data myfyrwyr addysg uwch yn ystod y flwyddyn, gan ddechrau o flwyddyn academaidd 2028/29. Yn bwysig ddigon, mae hyn yn golygu y byddwn ni ac eraill ledled Cymru yn gallu deall yr hyn sy’n digwydd yn y sector addysg uwch yn gynharach nag sy’n bosibl ar hyn o bryd, ac mewn ffordd sy’n fwy cyson â’r wybodaeth sydd gennym am weddill y sector addysg drydyddol. Mae rhai o’r ffyrdd y caiff y data a gesglir eu defnyddio wedi’u nodi ym mharagraff 7.
4. Bydd angen adnoddau ychwanegol ar gyfer y newid pwysig hwn er mwyn sicrhau y bydd darparwyr addysg uwch, mewn cydweithrediad â Medr a Jisc, yn gallu rhoi’r broses gasglu newydd ar waith. Bydd adnoddau annigonol yn peri risg i les staff, i’r gallu i gyflwyno data’n amserol, ac i ansawdd y data. Rydym yn cyfrannu cyllid tuag at yr adnoddau ychwanegol hynny, fel y nodir ym mharagraff 18.
Casglu data yn ystod y flwyddyn
5. Mae’r cyhoeddiad hwn yn dilyn gohebiaeth gan Jisc ar 4 Mawrth 2026 i swyddogion atebol yn y DU ynglŷn â’r newid yn y sector i gasglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn. Er mwyn i Jisc gasglu data i gofnod myfyrwyr HESA, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru gyflwyno data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn ar un pwynt casglu sy’n ychwanegol at y pwynt casglu presennol ar ddiwedd y flwyddyn, a hynny o flwyddyn academaidd 2028/29 ymlaen. Mae manylion am y ffordd y mae Jisc, Medr a chyrff yng ngwledydd eraill y DU yn gweithio tuag at hyn i’w gweld ar wefan Jisc.
6. Mae hyn yn newid mawr i’r dirwedd data myfyrwyr addysg uwch. Mae argaeledd data o ansawdd da ynglŷn â’r sector addysg uwch yng Nghymru yn bwysig iawn i lawer o agweddau ar waith Medr a bydd cael data mwy amserol yn fuddiol i Medr ac i’r sector.
7. Mae angen data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn er mwyn gwneud y canlynol:
- Cael syniad mwy amserol o’r myfyrwyr sy’n cael eu recriwtio i ddechrau yn nhymor yr hydref, yn enwedig ymgeiswyr UCAS ac israddedigion amser llawn, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol, a’r niferoedd mewn ardaloedd penodol. Gellir defnyddio hyn i lywio cynaliadwyedd ariannol a chanfod meysydd sy’n peri risg i ddarparwyr.
- Cysoni gwybodaeth am addysg uwch yn well â’r wybodaeth am weddill y sector addysg drydyddol yng Nghymru sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn.
- Gwneud llai o geisiadau ad hoc i ddarparwyr am wybodaeth yn ystod y flwyddyn academaidd, a rhoi’r gorau i wneud ein cais ar gyfer yr arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (HESES) o bosibl.
- Darparu data mwy cyfredol i’w defnyddio at ddibenion cyllido.
- Cael syniad cynnar o gynnydd tuag at fesurau a dangosyddion a ddatblygir o ganlyniad i gynllun gweithredol Medr.
- Ymateb i geisiadau gan gydweithwyr a chyrff allanol megis Llywodraeth Cymru â gwybodaeth a dirnadaethau mwy amserol.
- Llunio rhestr darged yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn seiliedig ar wybodaeth fwy cyfredol.
8. Bydd cyflwyno data yn ystod y flwyddyn hefyd yn darparu data mwy amserol i’w defnyddio at ddibenion cynllunio a rhagweld gan ddarparwyr addysg uwch, gan gynnwys data sector a fydd ar gael drwy adnodd dadansoddi data Heidi Plus Jisc.
9. Ni fydd holl fanteision cael data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn yn dod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl i’r newid hwn gael ei roi ar waith, a chaiff y manteision hyn eu gwireddu drwy broses iteraidd dros yr ychydig flynyddoedd cyntaf. Mae Jisc hefyd wedi nodi’r manteision yn yr adran ar gasglu data yn ystod y flwyddyn ar ei wefan.
Cyllid ar gyfer casglu data myfyrwyr addysg uwch yn ystod y flwyddyn
10. I gydnabod y baich a chostau ychwanegol i ddarparwyr yn sgil rhoi’r newid hwn ar waith yn ystod cyfnod o gyfyngiadau ariannol yn y sector, byddwn yn dyrannu rhywfaint o gyllid tuag at gasglu data yn ystod y flwyddyn i bob darparwr addysg uwch y byddwn yn gofyn iddo wneud hynny (gweler Categori A isod).
11. Drwy ddyrannu cyllid, rydym hefyd yn ymateb i bryderon a godwyd gan staff cyflwyno data darparwyr addysg uwch ynglŷn â’r gallu i gyflwyno data yn ystod y flwyddyn mewn amgylchedd o doriadau i adnoddau darparwyr, a’r effaith bosibl ar les staff os na fydd adnoddau ychwanegol ar gael. Hefyd, rhoddodd staff cyflwyno data wybod nad yw’r holl aelodau uwch o staff darparwyr yn gwbl ymwybodol o’r gofynion newydd ar gyfer data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn, ac felly mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn ceisio helpu i feithrin dealltwriaeth o’r gofynion newydd ymhlith staff darparwyr addysg uwch.
12. Bydd cyllid ar gyfer y diben penodol hwn yn helpu darparwyr i fodloni amod rheoleiddio Lles Staff a Dysgwyr Medr ac yn adeiladu ar argymhellion yr adolygiad annibynnol o’r ffordd y mae’r rhaglen Dyfodol Data wedi cael ei rhoi ar waith.
13. Rydym hefyd yn pryderu bod statws risg HESA ar gyfer darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn peri mwy o risg ar gyfartaledd i ddarparwyr mewn perthynas â chyflwyno data myfyrwyr o gymharu â’r DU yn ei chyfanrwydd ac felly rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn rhoi mesurau ar waith i liniaru’r risg honno ar gyfer casglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn.
14. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gyflwyno data yn ystod y flwyddyn os ydynt yn cael eu rheoleiddio neu eu cyllido gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch. Felly, os yw darparwr addysg uwch yn tanysgrifio i HESA ac yn cyflwyno data myfyrwyr ar ddiwedd pob blwyddyn i gofnod myfyrwyr HESA ar hyn o bryd, bydd yn ofynnol iddo gyflwyno data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn os oes ganddo gynllun ffioedd a mynediad Medr, os yw ar gofrestr addysg uwch Medr a/neu os yw Medr yn rhoi cyllid iddo ar gyfer ei ddarpariaeth addysg uwch. Y darparwyr addysg uwch sy’n perthyn i’r categori hwn ar hyn o bryd yw:
Categori A
Prifysgol De Cymru
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Bangor
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prifysgol Wrecsam
Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Grŵp Llandrillo Menai
Grŵp Colegau NPTC
Coleg Gŵyr Abertawe
Coleg Cambria
15. Ni fyddai darparwyr addysg uwch sy’n tanysgrifio i HESA, sy’n cyflwyno data am fod ganddynt ddarpariaeth cyrsiau sydd wedi’i dynodi’n benodol, ac na chânt eu rheoleiddio na’u cyllido gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch, yn perthyn i’r categori uchod. Ar hyn o bryd, mae hyn yn cynnwys y canlynol:
Categori B
Coleg Gwent
Coleg Caerdydd a’r Fro
Canolfan y Dechnoleg Amgen
Athrofa Padarn Sant
16. Pe bai darparwr yng Nghategori B yn dod yn ddarparwr a reoleiddir drwy wneud cais llwyddiannus i fod ar y gofrestr addysg uwch, byddai’n symud i Gategori A ac yn dod yn gymwys i gael y cyllid ar gyfer casglu data yn ystod y flwyddyn.
17. Cyfanswm y cyllid sydd ar gael i’r sector ar gyfer rhoi hyn ar waith yw £650k ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. Rydym yn dechrau darparu’r cyllid yn ystod 2026/27 i gydnabod y gwaith y bydd angen ei wneud yn y cyfnod cyn dechrau casglu’r data. Ein nod yw darparu lefelau tebyg o gyllid yn ystod blynyddoedd academaidd 2027/28 a 2028/29, yn amodol ar argaeledd cyllid. Caiff y cyllid ei rannu rhwng darparwyr addysg uwch, gan roi swm penodedig i brifysgolion a swm penodedig llai i ddarparwyr llai yn unol â’u maint. Dyrennir y cyllid yn unol â’r disgwyliad mai dim ond i dalu costau sy’n gysylltiedig â chasglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn y caiff ei ddefnyddio.
18. Mae’r dyraniadau cyllid fesul darparwr wedi’u nodi isod:
| Math o ddarparwr addysg uwch (a reoleiddir a/neu a gyllidir ar gyfer darpariaeth addysg uwch) | Cyllid fesul darparwr yn 2026/27 (£) |
|---|---|
| Prifysgol | 65,000 |
| CAB neu DA â ≥ 500 o fyfyrwyr addysg uwch wedi’u cofrestru ar gyfer BA 2024/25 | 15,000 |
| CAB neu DA â < 500 o fyfyrwyr addysg uwch wedi’u cofrestru ar gyfer BA 2024/25 | 10,000 |
CAB = coleg addysg bellach; DA = darparwr amgen; BA = blwyddyn academaidd
Ffynhonnell ddata ar gyfer myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru = poblogaeth gofrestru safonol cofnod myfyrwyr HESA 2024/25
19. Mae ein disgwyliadau ynghylch sut y caiff y cyllid hwn ei wario wedi’u nodi isod:
- Disgwylir i’r cyllid gael ei wario ar gostau sy’n gysylltiedig â chasglu data yn ystod y flwyddyn, a dylai hyn fod yn ychwanegol at unrhyw adnoddau neu wariant presennol, neu adnoddau neu wariant arfaethedig, sy’n gysylltiedig â chyflwyno data myfyrwyr.
- Dylai’r cyllid gael ei wario ar weithgarwch sy’n ychwanegol at fusnes fel arfer ar gyfer cyflwyno data myfyrwyr ar ddiwedd y flwyddyn.
- Gall y cyllid gael ei wario ar adnoddau staff mewn timau cyflwyno data neu TG, gwelliannau TG a gwelliannau i systemau, a chostau eraill sy’n gysylltiedig â gallu cyflwyno data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn yn llwyddiannus, megis gwelliannau i brosesau casglu data fel y gall data fod ar gael i’w cyflwyno’n gynharach.
20. Disgwylir i ddarparwyr addysg uwch sicrhau bod adnoddau digonol ar gael, gan gynnwys unrhyw rai sy’n defnyddio’r cyllid gan Medr ar gyfer rhoi hyn ar waith, er mwyn gallu casglu data yn ystod y flwyddyn yn llwyddiannus o fewn yr amserlen ofynnol, a hynny heb gael effaith andwyol ar les staff na’r broses arferol o gasglu data myfyrwyr ar ddiwedd y flwyddyn.
21. Caiff darparwyr addysg uwch eu hannog yn gryf i gymryd rhan mewn gweithgarwch treialu yn 2027/28 mewn perthynas â chyflwyno data yn ystod y flwyddyn er mwyn gallu bod yn gwbl barod ar gyfer cyflwyno data yn ystod y flwyddyn yn llawn am y tro cyntaf yn 2028/29. Bydd Jisc yn rhannu manylion y gweithgarwch a sut i gymryd rhan â darparwyr.
Gofynion archwilio mewnol
22. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr addysg uwch yng Nghategori A gynnwys gwiriadau ar y ffordd y caiff data eu casglu yn ystod y flwyddyn a’r adnoddau a ddyrennir ar gyfer hyn fel rhan o’u harchwiliad mewnol blynyddol o systemau a phrosesau data addysg uwch. Caiff yr adroddiad archwilio mewnol ei gyflwyno i Medr yn yr haf bob blwyddyn, ac rydym yn disgwyl i’r adroddiad a gyflwynir i ni yn ystod haf 2027 gynnwys safbwynt ar barodrwydd a risg mewn perthynas â chyflwyno data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn yn ogystal â chadarnhad bod cyllid Medr ar gyfer rhoi hyn ar waith yn cael ei ddefnyddio i baratoi ar gyfer cyflwyno’r data a lleihau’r risgiau cysylltiedig. Caiff rhagor o fanylion eu cynnwys yn y nodiadau canllaw wedi’u diweddaru ar gyfer archwilio mewnol a gaiff eu cyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn.
Yr ymateb sy’n ofynnol
23. Gofynnir i benaethiaid darparwyr addysg uwch yng Nghategorïau A a B gadarnhau eu bod wedi cael y cyhoeddiad hwn a’u bod yn deall y disgwyliadau a nodir yn y llythyr hwn, drwy ymateb i Hannah Falvey, Pennaeth Ystadegau Addysg Uwch, [email protected], erbyn 29 Mai 2026.
Rhagor o wybodaeth
24. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn at Hannah Falvey ([email protected]).
Medr/2026/20: Casglu data cofnod myfyrwyr HESA yn ystod y flwyddyn – disgwyliadau a chyllid ar gyfer darparwyr addysg uwch yng Nghymru
Dyddiad: 19 Mai 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/20
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Prifathrawon/Penaethiaid sefydliadau addysg bellach a darparwyr addysg uwch amgen sy’n tanysgrifio i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)
Ymateb erbyn: 29 Mai 2026
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi ein disgwyliadau ynghylch casglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn ar gyfer darparwyr addysg uwch drwy gofnod myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Rydym hefyd yn rhoi gwybod i ddarparwyr am ddyraniadau cyllid i’w defnyddio ar gyfer casglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn.
Medr/2026/20 Casglu data cofnod myfyrwyr HESA yn ystod y flwyddyn – disgwyliadau a chyllid ar gyfer darparwyr addysg yng NghymruRhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/19: Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch: dyraniadau 2026/27
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r dyraniadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 i ddarparwyr sy’n cael Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch.
Cyllid a gofynion 2026/27
2. Cyfanswm y buddsoddiad sydd ar gael i gefnogi gweithgarwch Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch rhwng 1 Awst 2026 a 31 Gorffennaf 2027 yw £2m.
3. Rhaid defnyddio’r buddsoddiad yn unol â chanllawiau cyfredol Medr, fel y nodir yn Medr/2025/09 Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 2026/27 a dyraniadau 2025/26. Rhaid hefyd ei ddefnyddio i gyflawni’r blaenoriaethau a’r gweithgareddau a amlinellir yng nghynlluniau cyflawni cymeradwy darparwyr ar gyfer y cyfnod o 2025/26 i 2026/27.
4. Gall darparwyr gynnig newidiadau i’w cynlluniau cyflawni cymeradwy drwy Adroddiad Diwedd Blwyddyn 2025/26, a disgwylir iddynt ymgysylltu â Medr yn gynnar i drafod unrhyw newidiadau arfaethedig ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.
Dyraniadau 2026/27
5. Nodir dyraniadau darparwyr ar gyfer 2026/27 yn y tabl isod. Cawsant eu cyfrifo gan ddefnyddio’r data HESA diweddaraf sydd wedi’u gwirio ar gyfer 2024/25 a chan ddefnyddio’r fethodoleg gyllido a nodir ym mharagraffau 37-41 Medr/2025/09 Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26.
| Darparwr | Cyfanswm y cyllid (£) |
|---|---|
| Prifysgol De Cymru | 312,316 |
| Prifysgol Aberystwyth | 166,565 |
| Prifysgol Bangor | 152,212 |
| Prifysgol Caerdydd | 330,000 |
| Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant | 137,207 |
| Prifysgol Abertawe | 330,000 |
| Prifysgol Metropolitan Caerdydd | 253,599 |
| Prifysgol Wrecsam | 100,000 |
| Y Brifysgol Agored yng Nghymru | 178,101 |
| Grŵp Llandrillo Menai | 25,000 |
| Grŵp NPTC | 5,000 |
| Coleg Gŵyr Abertawe | 5,000 |
| Coleg Cambria | 5,000 |
| Cyfanswm | 2,000,000 |
6. Mae Medr/2026/05: Dyraniadau cyllid addysgu addysg uwch craidd ar gyfer Coleg Cambria 2025/26 yn cadarnhau bod Coleg Cambria yn gymwys i gael buddsoddiad gan Medr ar gyfer ei ddarpariaeth addysg uwch o flwyddyn academaidd 2025/26 ymlaen, ar ôl i’w Gynllun Ffioedd a Mynediad ar gyfer 2025/26–2026/27 gael ei gymeradwyo. Ers hynny, mae trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda Choleg Cambria ynglŷn ag ymestyn buddsoddiad mewn Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch er mwyn cefnogi myfyrwyr addysg uwch Coleg Cambria a ariennir yn uniongyrchol gan Medr. O ganlyniad i hynny, a chan ystyried data myfyrwyr cymwys Coleg Cambria, cytunwyd y bydd Coleg Cambria yn cael buddsoddiad o 2026/27 ymlaen yn unol â’r un egwyddorion cyllido â Grŵp NPTC a Choleg Gŵyr Abertawe. Bydd y buddsoddiad hwn yn amodol ar gyflwyno cynllun cyflawni boddhaol ar gyfer 2026/27 a chydymffurfio â phrosesau monitro parhaus Medr, yn unol â’r trefniadau a nodir yn Medr/2025/09 Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26.
Trefniadau monitro a thalu 2026/27
7. Byddwn yn talu 60% o ddyraniad darparwr i sefydliadau addysg uwch a Grŵp Llandrillo Menai ar ôl i’w hadroddiadau monitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2025/26 a’u proffiliau gwariant ar gyfer 2026/27 gael eu cymeradwyo. Caiff y 40% o’r dyraniad sy’n weddill ei ryddhau ym mis Ebrill 2027 yn amodol ar waith monitro interim boddhaol ar gyfer 2026/27, ac ar yr amod bod darparwr wedi ymrwymo o leiaf 75% o’r taliad cychwynnol.
8. Caiff y dyraniadau ar gyfer Grŵp NPTC a Choleg Gŵyr Abertawe eu talu’n llawn ar ôl i’w hadroddiadau monitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2025/26 gael eu cymeradwyo. Caiff y dyraniad ar gyfer Coleg Cambria ei dalu’n llawn ym mis Medi 2026, yn amodol ar gymeradwyo cynllun cyflawni boddhaol ar gyfer 2026/27.
9. Bydd taliadau’n gyfan gwbl amodol ar gadarnhad bod y corff llywodraethu wedi derbyn amodau cyffredinol Medr ar gyfer talu cyllid grant, a’i fod yn cydymffurfio â nhw yn barhaus. Nodir yr amodau hyn yn Nhelerau ac Amodau Grant 2026/27: Sefydliadau Addysg Uwch, a gaiff eu cyhoeddi ar wefan Medr cyn dechrau blwyddyn academaidd 2026/27.
10. Ym mis Chwefror 2027, bydd angen cyflwyno adroddiad monitro interim sy’n nodi gweithgarwch hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2026, gan gynnwys nifer yr unigolion a gefnogwyd (wedi’i rannu yn ôl myfyrwyr, myfyrwyr breiniol a graddedigion), yn ogystal â data demograffig arnynt. Yn ychwanegol at hynny, bydd angen i ni gael data ar nifer yr unigolion a gymerodd ran mewn profiadau cysylltiedig â gwaith a nifer yr unigolion a gefnogwyd sydd o’r farn bod eu cyflogadwyedd wedi gwella i’r graddau nad ydynt yn cael cymorth cyflogadwyedd uwch mwyach. Darparwyr fydd yn gyfrifol am sicrhau y caiff yr holl wybodaeth a data gofynnol eu cynnwys yn yr adroddiad, fel bod sail gadarn ar gyfer asesu effaith y cyllid a deilliannau’r myfyrwyr.
11. Ym mis Medi 2027, bydd angen cyflwyno Adroddiad Diwedd Blwyddyn sy’n cynnwys gwybodaeth wedi’i diweddaru am weithgarwch, data ac effaith ein buddsoddiad hyd at 31 Gorffennaf 2027. Bydd yn ofynnol i ddarparwyr gadarnhau’r gwariant gwirioneddol yn 2026/27. Cadwn yr hawl i adhawlio unrhyw gyllid na fydd wedi cael ei wario (h.y. ei dalu allan) erbyn 31 Gorffennaf 2027. Bydd nifer o astudiaethau achos yn ofynnol, a hynny’n gymesur â lefel y buddsoddiad. Bydd angen i’r astudiaethau achos fod yn addas i’w cyhoeddi.
12. Byddwn yn darparu templedi ar gyfer yr Adroddiad Monitro Interim, yr Adroddiad Diwedd Blwyddyn a’r astudiaethau achos mewn gohebiaeth ar wahân.
Ymgysylltu â Medr
13.Yn ychwanegol at ofynion monitro ac adrodd ffurfiol, bydd Medr yn ceisio ategu ffurflenni monitro â deialog barhaus â darparwyr er mwyn cefnogi dealltwriaeth gyffredin o gyflawni, cynnydd, a materion a ddaw i’r amlwg. Byddwn yn parhau i fod yn agored i ymgysylltu mewn modd adeiladol a chymesur drwy gydol y flwyddyn academaidd, gan gydnabod gwerth trafod er mwyn helpu i gyflawni’n effeithiol, rheoli risg, a mynd i’r afael â materion wrth iddynt godi. Bwriedir i’r dull hwn ategu prosesau monitro ffurfiol, yn hytrach na’u disodli, a helpu i wella’n barhaus a defnyddio ein buddsoddiad yn effeithiol.
14. Bydd yn ofynnol i ddarparwyr sydd am wneud newidiadau yn ystod y flwyddyn i’w cynlluniau cyflawni ar gyfer 2026/27, neu amrywiadau sylweddol i’r proffil gwariant cymeradwy ar gyfer 2026/27, ymgysylltu â Medr yn y lle cyntaf.
Amserlen
15. Cyflwynir yr amserlen ar gyfer yr adroddiadau a’r taliadau yn y tabl isod.
| Disgrifiad | Dyddiad |
|---|---|
| Terfyn amser ar gyfer cyflwyno Adroddiad Diwedd Blwyddyn ac Astudiaeth Achos 2025/26 (pob darparwr addysg uwch) | 18 Medi 2026 |
| Dyraniad 2026/27: Coleg Cambria | 100% yn daladwy ym mis Medi 2026, yn amodol ar gymeradwyo Cynllun Cyflawni |
| Dyraniad 2026/27: Rhandaliad Cyntaf | Sefydliadau addysg uwch a Grŵp Llandrillo Menai: 60% yn daladwy pan gaiff Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn 2025/26 ei gymeradwyo Coleg Gŵyr Abertawe a Grŵp NPTC: 100% yn daladwy pan gaiff Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn 2025/26 ei gymeradwyo |
| Terfyn amser ar gyfer cyflwyno Adroddiad Monitro Interim 2026/27 (sefydliadau addysg uwch a Grŵp Llandrillo Menai) | 12 Chwefror 2027 |
| Dyraniad 2026/27: Rhandaliad Olaf | Sefydliadau addysg uwch a Grŵp Llandrillo Menai: 40% yn daladwy ym mis Ebrill 2027, yn amodol ar gymeradwyo Adroddiad Monitro Interim 2026/27 |
| Terfyn amser ar gyfer cyflwyno Adroddiad Diwedd Blwyddyn (pob darparwr addysg uwch) | 17 Medi 2027 |
Rhagor o wybodaeth
16. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn at Rachel O’Gorman ([email protected]).
Asesu effaith ein polisïau
17. Gwnaethom gynnal asesiad effaith er mwyn helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb ar Medr/2025/09 Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26, a oedd yn cwmpasu cyfnod y cynlluniau cyflawni dwy flynedd a dyraniadau 2025/26 ar gyfer cyllid Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch. Wrth ddrafftio’r cyhoeddiad hwn, rydym wedi adolygu’r asesiad effaith hwn ac rydym yn parhau i ragweld effaith gadarnhaol ar hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd a chred. Gwnaethom hefyd ystyried effaith y polisi hwn ar y Gymraeg, darpariaeth Gymraeg yn y sector addysg uwch yng Nghymru, nodweddion economaidd-gymdeithasol ac effeithiau posibl ar y gallu i gyflawni’r nodau sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Medr/2026/19: Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch: dyraniadau 2026/27
Dyddiad: 14 Mai 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/19
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Prifathrawon sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a ariennir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer darpariaeth addysg uwch
Ymateb erbyn: 18 Medi 2026
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r dyraniadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 i ddarparwyr sy’n cael Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch.
Medr/2026/19 Cymorth Cyflogadwyedd wedi'i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch: dyraniadau 2026/27Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/18: Cyllid cyfalaf digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2026/27
Cyflwyniad
1. Roedd setliad cyllid Llywodraeth Cymru i Medr ar gyfer 2025-26 yn cynnwys cyllid cyfalaf digidol o £3 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer AB. Mae’r cyllid hwn wedi cael ei gynnal ar gyfer 2026-27 ac, yn amodol ar gadarnhad mewn cyllidebau yn y dyfodol, mae disgwyl i hyn ddod yn gyllid parhaus.
2. Mae’r cyllid hwn wedi’i fwriadu i gynorthwyo sefydliadau AB i ddatblygu dulliau tymor hwy a mwy strategol o fuddsoddi mewn offer, dyfeisiau a seilwaith digidol (sy’n ofynnol i alluogi cyflawni digidol) ac o gynnal gwasanaethau a systemau digidol cadarn a chydnerth. Mae’r nodau hyn yn cyd-fynd â Gweledigaeth a Nodau’r fframwaith strategol Digidol 2030 ar gyfer dysgu digidol, sydd i fod i gael ei ddiweddaru yn y misoedd nesaf.
3. Rydym yn gofyn i bob sefydliad AB ddatblygu a chyflwyno cynllun buddsoddi cyfalaf digidol tair blynedd erbyn 10 Chwefror 2027. Bydd dyraniadau cyllid cyfalaf digidol yn y dyfodol hyd at a chan gynnwys blwyddyn academaidd 2028/29 yn cael eu dyfarnu ar sail y cynllun hwn.
Graddfeydd amser ar gyfer Blwyddyn 1 (blwyddyn academaidd 2026/27):
| Amseriad | Carreg filltir neu gam gweithredu |
|---|---|
| Tua 18 Rhagfyr 2026 | Bydd taliad cyfalaf interim (50% o’r dyraniad) yn cael ei brosesu yn ystod mis Rhagfyr. |
| Erbyn 10 Chwefror 2027 | Cynllun buddsoddi cyfalaf digidol tair blynedd yn ofynnol gan bob sefydliad (Atodiad B) |
| Tua 19 Mawrth 2027 | Yn amodol ar gael cynlluniau buddsoddi cyfalaf digidol, bydd y 50% sy’n weddill o’r dyraniad cyfalaf yn cael ei brosesu yn ystod mis Mawrth |
| Erbyn 21 Gorffennaf 2027 | Adroddiad gwariant diwedd blwyddyn yn ofynnol (Atodiad C i gael ei ychwanegu yn gynnar yn 2027) |
Medr/2026/18: Cyllid cyfalaf digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2026/27
Dyddiad: 14 Mai 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/18
At: Benaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol
Ymateb erbyn: 10 Chwefror 2027
Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn nodi dyraniadau cyllid cyfalaf digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach, yn darparu canllawiau ynghylch defnyddio cyllid ac yn nodi gofynion o ran adroddiadau a thystiolaeth.
Caiff dyraniadau cyllid ar gyfer pob sefydliad eu nodi yn Atodiad A.
Medr/2026/18 Cyllid cyfalaf digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2026/27Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/17: Model cyllido prentisiaethau: ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i gynnig mewnbwn i lywio’r model cyllido prentisiaethau ar gyfer y dyfodol.
Mae prentisiaethau’n ysgogiad allweddol i godi lefelau sgiliau, cynyddu cynhyrchiant a helpu i dyfu gweithlu medrus ac amrywiol sy’n addas i’r diben.
Bydd y rhaglen newydd yn fwy ystwyth ac ymatebol er mwyn sicrhau’r cymwysterau a’r sgiliau cywir i ddiwallu anghenion cyflogwyr, dysgwyr a’r economi o fis Awst 2027 ymlaen.
Ym mis Medi 2025, gwnaethom gynnal ymgynghoriad a oedd yn cynnwys ymgysylltu â darparwyr addysg drydyddol, cyrff diwydiant, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill.
Mae canlyniadau’r ymgynghoriad wedi helpu i lywio’r gwaith o ddylunio’r rhaglen brentisiaethau newydd ac egwyddorion model cyllido newydd.
Rydym yn awr wedi datblygu model cyllido newydd sy’n ymateb i’r adborth a gafwyd i’r ymgynghoriad ar brentisiaethau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y model yn canolbwyntio’n fwy ar y dysgwr ac yn fwy hyblyg er mwyn bodloni gofynion sy’n newid.
Cynhelir digwyddiadau ymgysylltu ym mis Mai 2026 i drafod dyluniad y rhaglen newydd.
Rydym nawr yn ceisio safbwyntiau ar y canlynol:
- egwyddorion lefel uchel y model cyllido newydd
- manteision y model cyllido newydd
- canlyniadau anfwriadol rhoi’r model cyllido newydd ar waith
- costau ychwanegol prentisiaethau
Byddem yn croesawu ymatebion i’r ymgynghoriad gan unigolion sydd â phrofiad o gynnal prentisiaethau ac eraill sydd â diddordeb yn y rhaglen brentisiaethau newydd. Bydd clywed gan randdeiliaid yn allweddol er mwyn helpu i lywio’r model cyllido newydd ac ystyried unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn llawn.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y model cyllido ar gyfer prentisiaethau ar lefelau 2-5. Rydym yn gwneud gwaith pellach er mwyn deall a oes angen gwneud newidiadau i’r model cyllido ar gyfer gradd-brentisiaethau.
Byddwn yn cynnal digwyddiad ymgynghori ar-lein ar 3 Mehefin 2026, 10:00 – 11:30.
I gael dweud eich dweud, llenwch y ffurflen ateb yn Atodiad A ac anfonwch hi i [email protected] erbyn 19 Mehefin 2026.
Medr/2026/17: Model cyllido prentisiaethau: ymgynghoriad
Dyddiad: 14 Mai 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/17
At: Benaethiaid darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru; Darparwyr prentisiaethau presennol yng Nghymru / Deiliaid contractau prentisiaeth wedi’u comisiynu; Cyrff cynrychioli cyflogwyr; Cyrff cynrychioli dysgwyr; Cynrychiolwyr addysg awdurdodau lleol
Ymateb erbyn: 19 Mehefin 2026
Crynodeb: Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn i ddarparwyr prentisiaethau, cyflogwyr a rhanddeiliaid presennol a darpar ddarparwyr prentisiaethau, cyflogwyr a rhanddeiliaid am safbwyntiau i lywio’r gwaith o ddylunio’r model cyllido prentisiaethau newydd i Gymru, a fydd yn cael ei ddefnyddio o 1 Awst 2027 ymlaen.
Medr/2026/17 Model cyllido prentisiaethau: ymgynghoriadDogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioAddysg drydyddol yng Nghymru i gael dros £1 biliwn o fuddsoddiad am y tro cyntaf
Mae Medr wedi cadarnhau mwy nag £1 biliwn o fuddsoddiad i gefnogi addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi ledled Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.
Mae’r cyllid, a fydd yn cefnogi oddeutu 330,000 o ddysgwyr, yn darparu buddsoddiad craidd ac wedi’i dargedu ar gyfer addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau, a chweched dosbarth a dysgu oedolion yn y gymuned awdurdodau lleol, ochr yn ochr â chymorth parhaus ar gyfer ymchwil ac arloesi.
Mae cyfanswm cyllideb Medr ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27, gan gynnwys cyllid cyfalaf, yn £1.018 biliwn, gyda buddsoddiad ar y cyfan dros y flwyddyn academaidd yn cyrraedd £1.03 biliwn. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol ac yn ymgorffori cyllid ychwanegol i gefnogi meysydd megis prentisiaethau, llesiant dysgwyr, cyfranogiad ac ymchwil ac arloesi.
A hwythau’n cefnogi dysgwyr a darparwyr ledled Cymru, mae’r dyraniadau’n cadarnhau:
- £150.5 miliwn ar gyfer prentisiaethau yn 2026‑27, cynnydd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, sy’n cefnogi darpariaeth o brentisiaethau sylfaen i radd-brentisiaethau.
- Cynnydd yn y buddsoddiad mewn prentisiaethau iau, gan ehangu cyfleoedd ar gyfer dysgwyr 14–16 oed.
- Dros £460 miliwn mewn cyllid craidd ar gyfer addysg bellach, sy’n gynnydd yn y gyfradd fesul uned ac yn rhoi cyfrif am amrywiannau yng nghyfranogiad dysgwyr o fewn y fethodoleg gyllido.
- £121.7 miliwn i gefnogi chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol. Eto, mae hyn yn adlewyrchu cynnydd yn y gyfradd fesul uned ac yn rhoi cyfrif am amrywiannau yng nghyfranogiad dysgwyr o fewn y fethodoleg gyllido.
- Parhad cyllid ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, sy’n cefnogi darpariaeth ar gyfer dysgwyr 19 oed a throsodd.
- Mwy na £98 miliwn ar gyfer ymchwil ac arloesi mewn addysg uwch, gan gynnwys Ymchwil o Ansawdd (QR), hyfforddiant ymchwil ôl-radd a Chronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF).
Ochr yn ochr â chyllid craidd, mae Medr wedi cadarnhau buddsoddiad wedi’i dargedu i gefnogi llesiant dysgwyr, mynediad a chyfranogiad, cyflogadwyedd a sgiliau, gallu ym maes data a digidol, a blaenoriaethau strategol ar draws y sector cyfan.
Meddai James Owen, Prif Weithredwr Medr:
“Fe grëwyd Medr i ddod â mwy o gydlyniad a chydweithio i’n system addysg drydyddol ac ymchwil. Mae’r cynnydd hwn mewn buddsoddiad yn ein sector trydyddol yn ategu’r nod hwn, gan helpu darparwyr i ddarparu addysg, ymchwil ac arloesi o ansawdd da i ddysgwyr ym mhob cyfnod gan hefyd gryfhau gallu’r sector i ymateb i heriau’r dyfodol.
“Rydym yn cydnabod y pwysau ariannol a wynebir gan y sector ac ar draws cyllidebau’r Llywodraeth a byddwn yn parhau i adolygu ein buddsoddiad i sicrhau bod yr uchelgeisiau hirdymor yn ein Cynllun Strategol yn cyd-fynd yn well â blaenoriaethau’r Llywodraeth newydd. Wrth wneud hynny, byddwn yn parhau â’n gwaith gyda darparwyr a phartneriaid i sicrhau bod pob punt a fuddsoddir gan Medr yn trosi’n ddysgwr, cymuned neu economi leol sy’n gallu edrych tua’r dyfodol â mwy o hyder a llewyrch.”
Dyraniadau buddsoddi trydyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, gan gynnwys dyraniadau darparwyr unigol a gwybodaeth fethodolegol fanwl:
Dyraniadau Buddsoddi Trydyddol ar gyfer 2026/27Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/16: Buddsoddiad Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi ein buddsoddiad ar y cyfan i ddarparwyr addysg drydyddol ac ymchwil a gyllidir gan Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. Mae’r ddogfen hon hefyd yn cynnwys dyraniadau darparwyr unigol ar gyfer yr holl fuddsoddiad craidd a rhai cyllidebau wedi’u targedu, lle y bônt ar gael.
2. Mae ein llythyr cyllid wedi’i gadarnhau’n amlygu mai £1,005.008 miliwn yw ein cyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27. Mae hyn yn gynnydd o £29.6589 miliwn (3.04%) o’i gymharu â’r gyllideb derfynol, gan gynnwys dyraniadau yn ystod y flwyddyn a gafwyd ym mlwyddyn ariannol 2025-26 sydd wedi’u hymgorffori yn y llinell sylfaen, o £975.349 miliwn. Gan gynnwys cyfalaf, £1,018,508,000 yw cyfanswm cyllideb Medr ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27.
Cyfanswm buddsoddiad ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27
3. Mae’r tabl isod yn crynhoi’r cyfanswm cyllid yn y flwyddyn academaidd, a nodir mewn mwy o fanylder drwy’r cyhoeddiad.
| Blwyddyn academaidd 2025/26 £ miliwn | Blwyddyn academaidd 2026/27 £ miliwn | |
|---|---|---|
| Wedi’i glustnodi | ||
| Cyllideb prentisiaethau | 143.277 | 150.535 |
| Prentisiaethau iau | 0.600 | 1.000 |
| Entrepreneuriaeth Ieuenctid | 0.360 | 0.360 |
| REACH | 0 | 0.400 |
| Estyn | 0 | 2.056 |
| Craidd | ||
| Chweched dosbarth awdurdodau lleol | 119.221 | 121.682 |
| Dysgu oedolion yn y gymuned awdurdodau lleol | 6.479 | 6.479 |
| Prif ffrwd addysg bellach | 434.894 | 466.424 |
| Cyllideb i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad | 21.126 | 6.250 |
| Ymchwil ac arloesi mewn addysg uwch | 97.121 | 98.121 |
| Cyllid addysgu mewn addysg uwch | 71.732 | 76.461 |
| Gradd-brentisiaethau | 9.411 | 10.111 |
| Hepgoriad ffioedd rhan-amser | 0.200 | 0.200 |
| Wedi’i dargedu | ||
| Llesiant dysgwyr | 49.020 | 49.840 |
| Mynediad a llesiant | 7.764 | 7.025 |
| Cyflogadwyedd a sgiliau | 3.005 | 3.005 |
| Ymchwil ac arloesi | 2.000 | 2.000 |
| Myfyrwyr/dysgwyr a’r gweithlu | 8.075 | 6.795 |
| Data a thechnoleg | 3.500 | 3.500 |
| Cyllideb rhaglen ganolog | 0 | 3.000 |
| Datblygiadau strategol | 3.500 | 0.500 |
| Cyfalaf | ||
| Addysg uwch | 10.000 | 10.000 |
| Digidol mewn addysg bellach | 3.000 | 3.000 |
| Cyfanswm | 994.285 | 1028.744 |
4. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys yr holl grantiau craidd a gaiff eu llywio gan fformiwla. Lle y bo’n bosibl, mae grantiau a ddyrennir trwy gyllidebau wedi’u targedu, a all fod yn amodol ar strategaeth neu gynllun gwariant penodol, wedi’u cynnwys hefyd. Bydd cyhoeddiadau pellach yn darparu manylion dyraniadau a chanllawiau, lle y bo’n ofynnol, ar gyfer ffrydiau buddsoddi penodol.
5. Nid yw’r dyraniadau yn y papur hwn yn ystyried unrhyw addasiadau cyllido posibl yn ystod y flwyddyn ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27 a allai gael eu cymhwyso gan Lywodraeth Cymru. Bydd unrhyw addasiadau cyllido o’r fath yn arwain at ddiwygio’r dyraniadau unigol.
Medr/2026/16: Buddsoddiad Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27
Dyddiad: 13 Mai 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/16
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid colegau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg; Penaethiaid chweched dosbarth mewn ysgolion; Arweinwyr dysgu oedolion yn y gymuned mewn awdurdodau lleol; Deiliaid contract prentisiaeth
Ymateb erbyn: 15 Medi 2026 ar gyfer darparwyr sy’n bwriadu ailddosbarthu credydau wedi’u cyllido ar gyfer darpariaeth israddedig ran-amser (paragraff 122)
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi buddsoddiad Medr ar y cyfan ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 gan gynnwys dyraniadau darparwyr unigol ar gyfer yr holl fuddsoddiad craidd mewn addysg drydyddol.
Medr/2026/16 Buddsoddiad Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioRôl Medr yn y broses o ad-drefnu darpariaeth chweched dosbarth
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid i unrhyw gynnig i sefydlu darpariaeth chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, cau darpariaeth o’r fath neu ei newid yn sylweddol, gael ei gyflwyno i Medr er mwyn ei ystyried ac ymgynghori arno.
Sefydlwyd Medr ym mis Awst 2024, gan ddod â swyddogaethau rheoleiddio a chyllido gwahanol rannau o’r sector addysg drydyddol yng Nghymru ynghyd o dan un corff am y tro cyntaf. Daw hyn â nifer o fanteision, yn enwedig o ran sicrhau y gall dysgwyr gael addysg o safon uchel yn gyson, pa lwybr bynnag y byddant yn ei ddewis. Fodd bynnag, mae’r dull newydd yn golygu bod angen gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod gwahanol rannau o’r sector addysg drydyddol yn fwy cyson â’i gilydd.
Os ydych chi wedi bod yn rhan o’r adolygiad o ddarpariaeth addysg leol neu o gynllunio newidiadau i strwythurau ysgolion, byddwch yn ymwybodol bod y broses yn gymhleth, yn hynod reoleiddiedig, ac yn ddibynnol ar gydgysylltu rhwng nifer o bartneriaid.
Yn sgil cyflwyno’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (“y Ddeddf”), a chyhoeddi’r Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig (“y Cod”) ar 1 Ebrill 2026, mae gan Medr rôl statudol ffurfiol o fewn prosesau ysgolion o ad-drefnu darpariaeth chweched dosbarth erbyn hyn. Golyga hyn y bydd yn rhaid i unrhyw gynnig i sefydlu darpariaeth chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, cau darpariaeth o’r fath neu ei newid yn sylweddol, gael ei gyflwyno i Medr er mwyn ymgynghori arno. Bydd hyn yn sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn ag addysg ôl-16 yn seiliedig ar wybodaeth a thystiolaeth ac yn gyson â blaenoriaethau cenedlaethol.
Ein rôl statudol
Mae Atodlen 4 o’r Ddeddf yn rhoi cyfrifoldebau cyfreithiol clir i Medr mewn perthynas â newidiadau sy’n effeithio ar ddosbarthiadau chwech. Mae’r cyfrifoldebau hyn yn berthnasol i’r holl ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, yn ogystal ag ysgolion gwirfoddol a sefydledig sy’n gweithredu dosbarthiadau chwech.
Gweler tudalen gwe chweched dosbarth mewn ysgolion MedrO dan y ddeddfwriaeth, gall Medr ei gwneud yn ofynnol:
- I awdurdodau lleol gyflwyno cynigion i agor neu gau darpariaeth chweched dosbarth annibynnol, neu ehangu neu leihau nifer y lleoedd chweched dosbarth sydd eisoes yn bodoli.
- I gyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol neu sefydledig gynnig newidiadau i’w cynnig chweched dosbarth lle bo angen.
Tra bydd y pwerau hyn yn bodoli mewn deddfwriaeth, nid ydym yn disgwyl bod mewn sefyllfa lle y rhagwelir y caiff ymyriadau o’r fath eu defnyddio.
Mae gan awdurdodau lleol eu dyletswyddau penodol eu hunain hefyd. Yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol ffurfiol ar gyfer unrhyw gynnig sy’n ymwneud â:
- sefydlu neu gau chweched dosbarth
- newid cyfrwng (iaith) cyfarwyddyd
- ehangu neu leihau nifer y lleoedd yn sylweddol
…rhaid iddynt ymgynghori â Medr. Bydd hyn yn ein galluogi i roi ymateb ffurfiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, deilliannau dysgwyr a chynaliadwyedd hirdymor y system addysg ôl-16 yng Nghymru.
Helpu i ymgysylltu’n gynnar ynghylch cynigion sy’n ymwneud â dosbarthiadau chwech
Er mai yn ystod ymgyngoriadau statudol y daw ein rôl ffurfiol i rym, rydym yn annog awdurdodau lleol yn gryf i ymgysylltu â ni yn llawer cynharach—ar y cam meddwl neu archwilio cychwynnol.
Bydd y ddeialog gynnar hon yn ein helpu i wneud y canlynol:
- Rhannu tystiolaeth a chyngor adeiladol cyn i gynigion gael eu ffurfio
- Helpu i ddatblygu opsiynau cydlynol sydd wedi’u dylunio’n dda
- Datblygu dealltwriaeth gyffredin rhwng blaenoriaethau lleol a’n Cynllun Strategol ehangach
- Sicrhau y bydd unrhyw ymateb statudol yn y dyfodol yn seiliedig ar wybodaeth, yn sylweddol ac yn wirioneddol fuddiol
Er na fydd yr ymgysylltu cynnar hwn yn rhan o’r broses statudol, bydd yn gwneud cyfraniad hanfodol at gydweithio’n well a sicrhau bod cynigion yn gadarn ac yn canolbwyntio ar y dysgwr o’r cychwyn cyntaf.
Cysoni cynigion â Chynllun Strategol Medr
Dylai pob cynnig sy’n ymwneud ag ad-drefnu darpariaeth chweched dosbarth ddangos sut mae’n gyson â’r blaenoriaethau a nodir yn ein Cynllun Strategol.
Drwy ymgysylltu’n gynnar, gall awdurdodau lleol ddeall yn well sut mae eu cynlluniau’n cyd-fynd ag uchelgeisiau cenedlaethol ar gyfer system addysg ôl-16 gydlynol a chynaliadwy o safon uchel ledled Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod newidiadau i ddarpariaeth yn helpu i ddiwallu anghenion lleol a gwella’r system gyfan.
Canllawiau fframwaith newydd ar y gweill
Er mwyn rhoi cymorth pellach i awdurdodau lleol, rydym wrthi’n datblygu canllawiau fframwaith newydd ar y cyd â rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru. Bydd y fframwaith hwn yn helpu i lywio’r gwaith meddwl cyn i gynigion fod yn destun ymgyngoriadau statudol, gan sicrhau eu bod:
- Yn gyson â dyletswyddau statudol ac amcanion strategol Medr
- Yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn a thryloyw
- Wedi’u dylunio i ddiwallu anghenion hirdymor dysgwyr a chymunedau
- Yn cefnogi tirwedd addysg ôl-16 genedlaethol gydlynol
Caiff rhagor o fanylion am y canllawiau newydd hyn eu rhannu yn nes ymlaen eleni.
Os hoffech drafod cynigion posibl neu archwilio syniadau ar gam cynnar, bydd tîm Medr yn fwy na pharod i helpu bob amser. Gall sgyrsiau cynnar wneud gwahaniaeth ystyrlon o ran datblygu darpariaeth chweched dosbarth gadarn sy’n addas at y dyfodol ar gyfer dysgwyr ledled Cymru.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/15: Cyllid ychwanegol ar gyfer dyfarniad cyflog athrawon yn 2026-27
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer cyllid prif ffrwd ychwanegol o £1,333,223.67 sydd i’w ddarparu gan Medr i sefydliadau addysg bellach (AB) a £361,058.86 i Awdurdodau Lleol (ALl), a’r amserlen ar gyfer hynny, fel bo modd i sefydliadau AB ac ysgolion sy’n cynnwys Chweched Dosbarth drwy’r ALlau barhau i roi cyflog cydradd i staff addysgu. Gwneir hyn drwy gynyddu’r gyfradd gyllido fesul uned.
2. Dyrannwyd y cyllid hwn ym mlwyddyn ariannol 2026-27, ac mae’n berthnasol i weddill blwyddyn academaidd 2025/26, 1 Ebrill 2026 hyd 31 Gorffennaf 2026. Telir y cyllid ychwanegol hwn mewn un swm llawn ym mis Ebrill 2026.
Symiau ac amseriad y cyllid ychwanegol
3. Bydd dyraniad prif ffrwd AB o £1,333,223.67 yn cael ei ddyrannu i sefydliadau AB drwy gynyddu’r gyfradd fesul uned ym mlwyddyn ariannol 2026-27 ac mae’n berthnasol i flwyddyn academaidd 2025/26.
| Sefydliad addysg bellach | Dyrniad AB |
|---|---|
| Addysg Oedolion Cymru | £25,307.33 |
| Coleg Penybont | £68,036.33 |
| Coleg Cambria | £163,334.00 |
| Coleg Caerdydd a’r Fro | £166,054.00 |
| Coleg Sir Gâr | £87,517.67 |
| Coleg Gwent | £190,374.67 |
| Coleg y Cymoedd | £142,011.00 |
| Coleg Gŵyr Abertawe | £115,963.33 |
| Grŵp Llandrillo Menai | £146,918.67 |
| Y Coleg Merthyr Tudful | £43,185.00 |
| Grŵp Colegau NPTC | £100,926.67 |
| Coleg Sir Benfro | £52,691.33 |
| Coleg Catholig Dewi Sant | £30,903.67 |
| Cyfanswm | £1,333,223.67 |
4. Bydd dyraniad prif ffrwd ALl o £361,058.86 yn cael ei ddyrannu i sefydliadau lleol drwy gynyddu’r gyfradd fesul uned ym mlwyddyn ariannol 2026-27 ac mae’n berthnasol i flwyddyn academaidd 2025/26 fel y dangosir yn y tabl isod.
| Awdurdod Lleol | Dyraniad yr ALl |
|---|---|
| Cyngor Sir Ynys Môn | £8,912.00 |
| Cyngor Gwynedd | £13,356.57 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | £18,398.29 |
| Cyngor Sir Ddinbych | £13,161.71 |
| Cyngor Sir y Fflint | £15,984.57 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam | £3,957.71 |
| Cyngor Sir Powys | £15,254.29 |
| Cyngor Sir Ceredigion | £12,194.29 |
| Cyngor Sir Penfro | £10,161.71 |
| Cyngor Sir Caerfyrddin | £22,453.14 |
| Cyngor Abertawe | £22,842.86 |
| Cyngor Castell-nedd Port Talbot | £7,714.86 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr | £25,362.86 |
| Cyngor Bro Morgannwg | £26,820.57 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf | £31,554.29 |
| Cyngor Caerdydd | £57,464.56 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili | £13,115.43 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen | £1,407.43 |
| Cyngor Sir Fynwy | £13,378.86 |
| Cyngor Dinas Casnewydd | £27,562.86 |
| Cyfanswm | £361,058.86 |
Medr/2026/15: Cyllid ychwanegol ar gyfer dyfarniad cyflog athrawon yn 2026-27
Dyddiad: 14 Ebrill 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/15
At: Benaethiaid sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg Awdurdodau Lleol
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer cyllid prif ffrwd ychwanegol o £1,333,223.67 sydd i’w ddarparu gan Medr i sefydliadau addysg bellach (AB) a £361,058.86 i Awdurdodau Lleol (ALl), a’r amserlen ar gyfer hynny, fel bo modd i sefydliadau AB ac ysgolion sy’n cynnwys Chweched Dosbarth drwy’r ALlau barhau i roi cyflog cydradd i staff addysgu. Gwneir hyn drwy gynyddu’r gyfradd gyllido fesul uned. Dyrannwyd y cyllid hwn ym mlwyddyn ariannol 2026-27, ac mae’n berthnasol i weddill blwyddyn academaidd 2025/26, 1 Ebrill 2026 hyd 31 Gorffennaf 2026. Telir y cyllid ychwanegol hwn mewn un swm llawn ym mis Ebrill 2026.
Medr/2026/15 Cyllid ychwanegol ar gyfer dyfarniad cyflog athrawon yn 2026-27Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio