This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2026/30: Canllawiau ar gymhellion hyfforddiant TAR (Addysg Bellach) i athrawon yng Nghymru blwyddyn academaidd 2026/27

Trosolwg

1. Nod grantiau cymhelliant hyfforddi athrawon ar gyfer addysg gychwynnol athrawon TAR (Addysg Bellach) yw hyrwyddo recriwtio athrawon i’r sector Addysg Bellach. Mae’r grantiau’n cefnogi myfyrwyr sy’n dechrau cyrsiau addysg athrawon cychwynnol TAR (Addysg Bellach) cyn-wasanaeth llawnamser neu ran-amser sy’n arwain at gymhwyster i addysgu addysg bellach.

2. Cyhoeddir y canllawiau hyn gan Medr, Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ac maent yn darparu gwybodaeth am gymhellion TAR (AB) ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, y cyllid sydd ar gael, cymhwysedd i dderbyn grant a sut y gwneir taliadau. Dylid darllen y nodiadau canllaw hyn yn eu cyfanrwydd i gadarnhau a fydd myfyrwyr unigol yn gymwys i dderbyn cymhelliant.

3. Yn y canllawiau hyn rydym yn defnyddio’r term “darparydd” i olygu’r sefydliad addysg bellach neu uwch lle mae myfyriwr yn astudio’r TAR (AB).

4. Nid yw’r canllawiau hyn yn cwmpasu cymhellion a gynigir ar gyrsiau addysg gychwynnol athrawon sy’n arwain at Statws Athro Cymwys. Mae rhagor o wybodaeth am gymhellion y cyrsiau ar wefan Llywodraeth Cymru.

Swm y grant

5. Mae’r cymhelliant ar gael i fyfyrwyr TAR amser llawn a rhan-amser, ar yr amod eu bod yn bodloni’r gofynion cymhwyso cyffredinol ar gyfer y rhaglen a chyllid myfyrwyr. Bydd pob myfyriwr cymwys yn derbyn grant cymhelliant cyfradd sefydlog o £1,500.

6. Mae taliadau cymhelliant ychwanegol o £1,000 ar gael i fyfyrwyr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cymhellion y Gymraeg a/neu gymhellion Mwyafrif Byd-eang. Gwneir y taliadau hyn yn ychwanegol at y grant craidd o £1,500.

Cymhwysedd myfyrwyr

7. Ni all myfyrwyr ond hawlio grant cymhelliant os ydynt:

  • yn bodloni’r meini prawf cymhwyso a nodir isod; ac
  • wedi gwneud cais drwy lenwi’r ffurflenni datgan perthnasol.

8. I fod yn gymwys ar gyfer y cymhelliant, rhaid i fyfyrwyr:

  1. wrth ddechrau’r cwrs, dal gradd gyntaf (nid yw hyn yn cynnwys gradd sylfaen) o sefydliad addysg uwch yn y Deyrnas Unedig neu gymhwyster cyfwerth
  2. fod yn gymwys i dderbyn cymorth o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 sydd mewn grym ar hyn o bryd fel y bônt yn berthnasol i’r cwrs
  3. peidio bod yn unrhyw un o’r categorïau canlynol o bobl nad ydynt yn gymwys i dderbyn y grant hyfforddi:
    • myfyrwyr a gwblhaodd gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon ar lefel addysg bellach cyn 1 Medi 2025
    • myfyrwyr sy’n astudio am Dystysgrif Addysg (AB) nad yw’n dystysgrif ôl-radd
    • Myfyrwyr TAR (AB) sy’n astudio ar gyrsiau mewn-swydd
    • unrhyw un sydd eisoes yn dal Statws Athro Cymwysedig (SAC); neu
    • unrhyw un sy’n gyflogedig mewn unrhyw goleg addysg bellach neu sefydliad addysg arall mewn unrhyw swydd

9. Yn ogystal â hynny, rhaid i’r rhai sy’n gwneud cais am gymhelliant y Gymraeg feddu ar sgiliau Cymraeg ar lefel 3 neu’n uwch (ar sail hunanasesiad).

10. Os oes gan fyfyrwyr unrhyw ymholiadau ynghylch eu cymhwysedd, ynghylch ymgeisio am grant, neu os oes ganddynt unrhyw ymholiadau ynghylch y grantiau hyn, dylent gysylltu â’u darparydd TAR (AB).

Cymhelliant TAR Mwyafrif Byd-eang (AB)

11. Mae’r cymhelliant TAR (AB) hwn yn adlewyrchu blaenoriaethau recriwtio cyfredol o fewn y gweithlu AB. Nod y cymhelliant TAR (AB) Mwyafrif Byd-eang yw cynyddu nifer yr athrawon o gefndir Mwyafrif Byd-eang, fel bod dysgwyr yn cael profiad dysgu mwy amrywiol. Mae hyn yn cefnogi ein huchelgais am Gymru wrth-hiliol.

12. I fod yn gymwys, rhaid i ddysgwyr hunan-ddatgan eu bod yn perthyn i un cefndiroedd ethnig canlynol:

Asiaidd:
* Bangladeshaidd neu Bangladeshaidd Prydeinig
* Tsieineaidd neu Tsieineaidd Prydeinig
* Indiaidd neu Indiaidd Prydeinig
* Pacistanaidd neu Pacistanaidd Prydeinig
* Unrhyw gefndir Asiaidd arall

Du, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd:
* Affricanaidd neu Affricanaidd Prydeinig
* Caribïaidd neu Garibïaidd Prydeinig
* Unrhyw gefndir Du arall

Grwpiau cymysg neu aml-ethnig:
* Gwyn neu Gwyn Prydeinig ac Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
* Gwyn neu Gwyn Prydeinig a Du Affricanaidd neu Du Affricanaidd Prydeinig
* Gwyn neu Gwyn Prydeinig a Du Caribïaidd neu Du Caribïaidd Prydeinig
* Unrhyw gefndir Cymysg neu Aml-ethnig arall
Gwyn:
* Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig
* Roma
* Iddewig

Other ethnic group:
* Arabaidd
* Cwrdaidd

Cymhelliant Dysgu ac Addysgu’r Gymraeg

13. Gall myfyrwyr sy’n astudio unrhyw bwnc drwy gyfrwng y Gymraeg (ac eithrio’r Gymraeg ei hun) wneud cais am grant cymhelliant ychwanegol o £1,000.

14. Mae darparwyr TAR (AB) wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd o hyd at 40 credyd o’r cwrs i gefnogi datblygiad sgiliau Cymraeg. I fod yn gymwys ar gyfer y cymhelliant, rhaid i fyfyrwyr gwblhau’r 40 credyd hyn yn llwyddiannus.

15. Rhaid i’r tiwtor academaidd, mentor y lleoliad a’r myfyriwr sy’n hyfforddi i fod yn athro gwblhau datganiad tystion triphlyg. Dylai’r datganiad hwn fod yn gyson â thargedau sydd wedi’u diffinio’n glir a darparu tystiolaeth bod y myfyriwr wedi cyflawni’r deilliannau dysgu sy’n gysylltiedig â’r 40 credyd.

16. Gall tystiolaeth i gefnogi cyflawniad y credydau hyn gynnwys y canlynol (ymhlith mathau eraill o dystiolaeth):

  • Datblygu adnoddau cyfrwng Cymraeg i gefnogi dysgu ac addysgu
  • Addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog yn ystod cyfnod ar leoliad
  • Datblygu sgiliau Cymraeg eu dysgwyr
  • Datblygu cymuned ehangach y Gymraeg o fewn eu lleoliad ymarfer
  • Datblygu perthnasoedd y tu allan i’w lleoliad ymarfer, e.e. ac o fewn lleoliad cymunedol neu ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion

Cyfrifoldebau darparwyr o ran gweinyddu grantiau

17. Mae darparwyr addysg gychwynnol athrawon TAR (AB) yn gyfrifol am:

  • nodi myfyrwyr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwyso..
  • sicrhau bod gan fyfyrwyr cymwys fynediad at y ffurflenni datgan ar ddechrau’r rhaglen TAR (AB).
  • sicrhau bod myfyrwyr yn deall telerau’r grant.
  • casglu’r holl ffurflenni datgan wedi’u llofnodi a’u dychwelyd, mewn modd diogel, i Medr ar gais.
  • llenwi ffurflenni hawlio tymhorol.
  • llenwi ffurflenni Cymhelliant y Gymraeg ar ddechrau ac ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
  • sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chasglu ar gyfer cymhelliant y Gymraeg.
  • sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chasglu ar gyfer y cymhelliant Mwyafrif Byd-eang
  • gweinyddu taliadau grant i fyfyrwyr.
  • ymdrin ag ymholiadau gan fyfyrwyr ynghylch y grant.

18. Cyhoeddir cyfrifoldebau llawn ar gyfer Darparwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon yn flynyddol mewn llythyrau cynnig grant unigol a llythyrau contract.

Taliadau grant wedi’u hamserlennu

19. Bydd y grant cymhelliant TAR (AB) yn cael ei dalu bob tymor mewn tri rhandaliad, sef mis Rhagfyr, mis Mawrth a mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd pan fydd y myfyriwr yn astudio.

20. Bydd y rhai sy’n bodloni gofynion grant y Gymraeg ac/neu’r grant Mwyafrif Byd-eang yn derbyn y £1,000 ychwanegol ochr yn ochr â’u taliad grant pwnc terfynol ym mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd pan fyddant yn astudio.

21. Bydd darparwyr yn penderfynu ar union ddyddiadau’r taliadau i fyfyrwyr. Dylent sicrhau bod taliadau’n cael eu gwneud cyn diwrnod gwaith olaf y mis. Ym mis Mehefin, dyma fydd diwrnod gwaith olaf mis Mehefin neu, os yw’n gynharach, yr wythnos pan ddaw’r rhaglen i ben.

22. Dim ond i’r myfyrwyr hynny sy’n mynychu’r rhaglen ar ddyddiad y taliad y dylid gwneud taliadau. Os oes unrhyw fyfyriwr wedi tynnu’n ôl neu ohirio rhaglen cyn y dyddiad talu, ni ddylid gwneud taliad.

Crynodeb o amseriadau talu

Swm y grant cymhelliantTaliad yr hydref i’w dalu ym mis RhagfyrTaliad y gwanwyn i’w dalu ym mis MawrthTaliad yr haf a thaliad terfynol i’w dalu ym mis Mehefin
£1,500£300£300£900
£1,000 (Y Gymraeg)£0£0£1,000
£1,000 (Mwyafrif Byd-eang)£0£0£1,000
Blwyddyn academaiddSwm y grant cymhelliantTaliadau’r hydref i’w talu ym mis RhagfyrTaliad y gwanwyn i’w dalu ym mis MawrthTaliad yr haf a thaliad terfynol i’w dalu ym mis Mehefin
Blwyddyn 1£1,500£150£150£450
Blwyddyn 2£150£150£450
£1,000 (Mwyafrif Byd-eang)£0£0£1,000
£1,000 (Y Gymraeg)£0£0£1,000

23. Ar gyfer myfyrwyr TAR (AB) rhan-amser, telir y grant o £1,500 yn llawn, gan sicrhau cydraddoldeb â’r cynnig amser llawn. Mae taliadau wedi’u gwasgaru ar draws dwy flwyddyn academaidd, gyda thri thaliad yn cael eu gwneud ym mhob blwyddyn (Rhagfyr, Mawrth a Mehefin) ar hanner y gyfradd safonol amser llawn. Taliadau untro ychwanegol yw cymhellion y Gymraeg a Mwyafrif Byd-eang, a lle bodlonir meini prawf cymhwyso, fe’u telir ym mis Mehefin yn yr ail flwyddyn academaidd.

24. Os yw myfyriwr yn gymwys ar gyfer y cymhelliant TAR (AB), ond hefyd wedi derbyn:

  1. rhywfaint neu’r cyfan o gymhelliant TAR (AB) o dan y cynllun hwn neu unrhyw gynllun blaenorol yng Nghymru cyn 1 Medi 2025
  2. ii. neu wedi derbyn, ar unrhyw adeg, unrhyw swm o unrhyw grant sy’n daladwy yn gysylltiedig â chynlluniau cyfatebol yn Lloegr

Bydd y taliad cymhelliant TAR (AB) y maent yn gymwys i’w dderbyn yn cael ei leihau yn ôl swm y taliadau grant blaenorol a dderbyniwyd.

25. Dim ond uchafswm gwerth y grant cymhelliant a oedd yn berthnasol yn y flwyddyn academaidd pan ddechreuodd y myfyriwr astudio’n wreiddiol y mae myfyrwyr cymwys yn gymwys i’w gael, onid yw Medr yn cytuno fel arall mewn ysgrifen.

Sut y telir cyllid i Ddarparwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon TAR (AB)

26. Rhaid i ddarparwyr gasglu ffurflenni datgan ar gyfer pob myfyriwr cymwys ar ddechrau pob blwyddyn academaidd (Atodiad A i’r canllawiau hyn). Mae’r datganiad yn cynnwys gwybodaeth y mae Medr wedi nodi sy’n ofynnol i weinyddu’r cynllun a rhaid i ddarparwyr allu rhannu pob datganiad â Medr, mewn modd diogel, os gofynnir amdano.

27. Mae’r ffurflen ddatgan yn gofyn i fyfyrwyr gadarnhau eu bod wedi darllen a deall yr wybodaeth sydd yn y canllawiau hyn. Os na fydd darparwyr yn derbyn y cadarnhad hwn, ni ellir gwneud taliadau grant.

28. Cyn pob rhandaliad tymhorol, rhaid i ddarparwyr lenwi a chyflwyno ffurflen hawlio i Medr i sicrhau bod y swm priodol o arian yn cael ei ryddhau. Bydd darparwyr yn cael gwybod am y dyddiadau cyflwyno drwy lythyr y cytundeb grant.

29. Bydd Medr yn anfon ffurflenni datgan a hawlio yn uniongyrchol at ddarparwyr.

Gohirio (atal), tynnu’n ôl ac ailgydio

30. Os bydd myfyriwr yn gohirio (atal) ei astudiaethau yn ystod tymor, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad tymhorol hwnnw. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, bydd ganddo hawl i dderbyn taliad y tymor a gollwyd, hyd at uchafswm y cymhelliant. Yn yr amgylchiadau hyn, gwneir taliad ar gwblhau taliad y tymor canlynol ac yn ychwanegol at hynny.

31. Pan fydd myfyriwr yn ailddechrau TAR (AB) mewn blwyddyn academaidd wahanol i’r flwyddyn pan ddechreuwyd neu y gohiriwyd yn wreiddiol, bydd taliadau’n parhau i gael eu gwneud ar yr un gyfradd (os o gwbl) a oedd yn berthnasol yn y flwyddyn academaidd pan ddechreuodd astudiaethau’r myfyriwr yn wreiddiol, onid yw Medr yn cytuno fel arall mewn ysgrifen

32. Dim ond os ydynt wedi cwblhau’r tymor yn llawn y bydd unigolion sy’n tynnu’n ôl o raglen cyn ei chwblhau ac sy’n gymwys i gael grant cymhelliant yn gymwys i gael y taliad(au) tymhorol.

Adennill grantiau cymhelliant

33. Mae gan Medr bwerau i adennill grantiau cymhelliant a dalwyd, yn gyfan gwbl neu’n rhannol. Caiff arfer ei ddoethineb yn ôl a ddylid arfer y pwerau hynny ai peidio, a bydd yn ystyried pob achos yn ôl ei rinweddau.

34. Gall Medr arfer y pwerau hyn yn y sefyllfaoedd canlynol:

  1. ar ôl derbyn unrhyw randaliad o grant cymhelliant, os yw’r derbynnydd yn methu bodloni unrhyw feini prawf cymhwyso a fabwysiadwyd gan Medr ac a nodir yn yr atodlen neu’r canllaw gwybodaeth mewn perthynas â rhandaliad dilynol; neu
  2. os yw’r derbynnydd wedi darparu gwybodaeth sy’n ffug neu’n sylweddol gamarweiniol yn ei g/chais, neu’n gysylltiedig â’i g/chais; neu os oes tystiolaeth gadarn nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau’r rhaglen neu, ar ôl ei chwblhau, dechrau addysgu

Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

35. Mae gwybodaeth y mae myfyrwyr yn ei chyflwyno fel rhan o’u cais o dan y cynllun cymhellion hyfforddi athrawon yng Nghymru ar gyfer TAR (AB), yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, a Deddf Diogelu Data 2018.

36. Bydd Medr yn prosesu’r holl ddata personol yn unol â’i bolisi preifatrwydd cyhoeddedig.

Canllawiau i ddarparwyr: ceisiadau a hawliadau

37. Rhaid llofnodi a chasglu ffurflenni cais a datgan y myfyrwyr er mwyn hawlio ar ran y myfyriwr hwnnw. Gall Medr ofyn am gael gweld y ffurflenni hyn unrhyw bryd a gall ofyn am ad-daliad o’r arian os na ellir cyflwyno ffurflen.

38. Ochr yn ochr â’r ddogfen hon ceir ffurflen hawlio’r darparydd (Atodiad B). Dylai darparwyr gyflwyno copi o’r ffurflen hon erbyn 30 Hydref 2026 i roi syniad o’r swm y byddant yn ei hawlio. Gwneir hyn drwy lenwi colofn B-F a cholofn I ac L ar dab y rhestr meistr. Bydd Llythyrau Cynnig Grant wedyn yn cael eu hanfon yn seiliedig ar y swm hwn.

39. Bydd 12% ychwanegol o swm cais cychwynnol darparwyr yn cael ei ychwanegu at y cyfanswm. Mae hyn yn cynnwys 10% o swm wrth gefn ar gyfer ychwanegiadau ac/neu newidiadau i symiau, a swm gweinyddol o 2%.

40. Ar ôl dychwelyd eich Llythyr Cynnig Grant wedi’i lofnodi, bydd taliad mis Rhagfyr y darparwyr yn cael ei awdurdodi’n unol â’r symiau ar y ffurflen hawlio grant a gyflwynwyd erbyn 30 Hydref 2026.

41. Dylid wedyn cyflwyno ffurflenni hawlio’r darparydd ar

  • 25 Ionawr 2027 ar gyfer taliad mis Mawrth, a
  • 26 Ebrill 2027 ar gyfer taliad mis Mehefin

42. Bydd Tîm Gweithlu Medr yn cysylltu â darparwyr cyn pob dyddiad cau ar gyfer hawlio i sicrhau bod yr holl ddogfennau a threfniadau gofynnol ar waith.

43. Wrth gyflwyno’r hawliad ar gyfer mis Mehefin rhaid i ddarparwyr gael cadarnhad bod myfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer cymhelliant y Gymraeg wedi cwblhau’r gofynion angenrheidiol i dderbyn y cyllid. Dylid diweddaru colofn I ar ffurflen hawlio’r darparydd yn unol â hynny.

44. Sylwch, cyn gynted ag y bo hawliad wedi’i gyflwyno, os bydd unrhyw wallau neu ychwanegiadau wedi digwydd, y bydd yn rhaid diweddaru’r symiau ar y ffurflen hawlio ar gyfer y taliad nesaf. Dylid hefyd gwneud nodyn o’r newid hwn ar y tabiau perthynol. (Newid dyraniad/ychwanegu neu dynnu o’r hawliad).

45. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].

Medr/2026/30: Canllawiau ar gymhellion hyfforddiant TAR (Addysg Bellach) i athrawon yng Nghymru blwyddyn academaidd 2026/27

Dyddiad:  30 Mehefin 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/30

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn:  30 Hydref 2026

Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn nodi canllawiau Cymhelliant TAR (AB) yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. Mae’r ddogfen yn darparu canllawiau ar y cyllid sydd ar gael, y meini prawf ar gyfer grantiau, a’r trefniadau talu.

Medr/2026/30 Canllawiau ar gymhellion hyfforddiant TAR (Addysg Bellach) i athrawon yng Nghymru blwyddyn academaidd 2026/27

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio