This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2026/20: Casglu data cofnod myfyrwyr HESA yn ystod y flwyddyn – disgwyliadau a chyllid ar gyfer darparwyr addysg uwch yng Nghymru

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi ein disgwyliadau ynghylch casglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn ar gyfer darparwyr addysg uwch drwy gofnod myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Rydym hefyd yn rhoi gwybod i ddarparwyr am ddyraniadau cyllid i’w defnyddio ar gyfer casglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn.

2. Mae data ar addysg uwch yng Nghymru yn ffynhonnell wybodaeth hanfodol a gaiff ei defnyddio ar gyfer llawer o nodau strategol Medr. Ar hyn o bryd, dim ond ar lefel fanwl yn ôl-weithredol ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd y mae gwybodaeth a dirnadaethau am addysg uwch yng Nghymru ar gael.

3. Un datblygiad mawr sydd ar y gorwel ar gyfer casglu data addysg uwch yw casglu data myfyrwyr addysg uwch yn ystod y flwyddyn, gan ddechrau o flwyddyn academaidd 2028/29. Yn bwysig ddigon, mae hyn yn golygu y byddwn ni ac eraill ledled Cymru yn gallu deall yr hyn sy’n digwydd yn y sector addysg uwch yn gynharach nag sy’n bosibl ar hyn o bryd, ac mewn ffordd sy’n fwy cyson â’r wybodaeth sydd gennym am weddill y sector addysg drydyddol. Mae rhai o’r ffyrdd y caiff y data a gesglir eu defnyddio wedi’u nodi ym mharagraff 7.

4. Bydd angen adnoddau ychwanegol ar gyfer y newid pwysig hwn er mwyn sicrhau y bydd darparwyr addysg uwch, mewn cydweithrediad â Medr a Jisc, yn gallu rhoi’r broses gasglu newydd ar waith.  Bydd adnoddau annigonol yn peri risg i les staff, i’r gallu i gyflwyno data’n amserol, ac i ansawdd y data. Rydym yn cyfrannu cyllid tuag at yr adnoddau ychwanegol hynny, fel y nodir ym mharagraff 18.

Casglu data yn ystod y flwyddyn

5. Mae’r cyhoeddiad hwn yn dilyn gohebiaeth gan Jisc ar 4 Mawrth 2026 i swyddogion atebol yn y DU ynglŷn â’r newid yn y sector i gasglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn. Er mwyn i Jisc gasglu data i gofnod myfyrwyr HESA, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru gyflwyno data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn ar un pwynt casglu sy’n ychwanegol at y pwynt casglu presennol ar ddiwedd y flwyddyn, a hynny o flwyddyn academaidd 2028/29 ymlaen. Mae manylion am y ffordd y mae Jisc, Medr a chyrff yng ngwledydd eraill y DU yn gweithio tuag at hyn i’w gweld ar wefan Jisc.

6. Mae hyn yn newid mawr i’r dirwedd data myfyrwyr addysg uwch. Mae argaeledd data o ansawdd da ynglŷn â’r sector addysg uwch yng Nghymru yn bwysig iawn i lawer o agweddau ar waith Medr a bydd cael data mwy amserol yn fuddiol i Medr ac i’r sector.

7. Mae angen data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn er mwyn gwneud y canlynol:

  • Cael syniad mwy amserol o’r myfyrwyr sy’n cael eu recriwtio i ddechrau yn nhymor yr hydref, yn enwedig ymgeiswyr UCAS ac israddedigion amser llawn, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol, a’r niferoedd mewn ardaloedd penodol. Gellir defnyddio hyn i lywio cynaliadwyedd ariannol a chanfod meysydd sy’n peri risg i ddarparwyr.
  • Cysoni gwybodaeth am addysg uwch yn well â’r wybodaeth am weddill y sector addysg drydyddol yng Nghymru sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn.
  • Gwneud llai o geisiadau ad hoc i ddarparwyr am wybodaeth yn ystod y flwyddyn academaidd, a rhoi’r gorau i wneud ein cais ar gyfer yr arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (HESES) o bosibl.
  • Darparu data mwy cyfredol i’w defnyddio at ddibenion cyllido.
  • Cael syniad cynnar o gynnydd tuag at fesurau a dangosyddion a ddatblygir o ganlyniad i gynllun gweithredol Medr.
  • Ymateb i geisiadau gan gydweithwyr a chyrff allanol megis Llywodraeth Cymru â gwybodaeth a dirnadaethau mwy amserol.
  • Llunio rhestr darged yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn seiliedig ar wybodaeth fwy cyfredol.

8. Bydd cyflwyno data yn ystod y flwyddyn hefyd yn darparu data mwy amserol i’w defnyddio at ddibenion cynllunio a rhagweld gan ddarparwyr addysg uwch, gan gynnwys data sector a fydd ar gael drwy adnodd dadansoddi data Heidi Plus Jisc.

9. Ni fydd holl fanteision cael data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn yn dod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl i’r newid hwn gael ei roi ar waith, a chaiff y manteision hyn eu gwireddu drwy broses iteraidd dros yr ychydig flynyddoedd cyntaf. Mae Jisc hefyd wedi nodi’r manteision yn yr adran ar gasglu data yn ystod y flwyddyn ar ei wefan.

Cyllid ar gyfer casglu data myfyrwyr addysg uwch yn ystod y flwyddyn

10. I gydnabod y baich a chostau ychwanegol i ddarparwyr yn sgil rhoi’r newid hwn ar waith yn ystod cyfnod o gyfyngiadau ariannol yn y sector, byddwn yn dyrannu rhywfaint o gyllid tuag at gasglu data yn ystod y flwyddyn i bob darparwr addysg uwch y byddwn yn gofyn iddo wneud hynny (gweler Categori A isod).

11. Drwy ddyrannu cyllid, rydym hefyd yn ymateb i bryderon a godwyd gan staff cyflwyno data darparwyr addysg uwch ynglŷn â’r gallu i gyflwyno data yn ystod y flwyddyn mewn amgylchedd o doriadau i adnoddau darparwyr, a’r effaith bosibl ar les staff os na fydd adnoddau ychwanegol ar gael. Hefyd, rhoddodd staff cyflwyno data wybod nad yw’r holl aelodau uwch o staff darparwyr yn gwbl ymwybodol o’r gofynion newydd ar gyfer data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn, ac felly mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn ceisio helpu i feithrin dealltwriaeth o’r gofynion newydd ymhlith staff darparwyr addysg uwch.

12. Bydd cyllid ar gyfer y diben penodol hwn yn helpu darparwyr i fodloni amod rheoleiddio Lles Staff a Dysgwyr Medr ac yn adeiladu ar argymhellion yr adolygiad annibynnol o’r ffordd y mae’r rhaglen Dyfodol Data wedi cael ei rhoi ar waith.

13. Rydym hefyd yn pryderu bod statws risg HESA ar gyfer darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn peri mwy o risg ar gyfartaledd i ddarparwyr mewn perthynas â chyflwyno data myfyrwyr o gymharu â’r DU yn ei chyfanrwydd ac felly rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn rhoi mesurau ar waith i liniaru’r risg honno ar gyfer casglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn.

14. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gyflwyno data yn ystod y flwyddyn os ydynt yn cael eu rheoleiddio neu eu cyllido gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch. Felly, os yw darparwr addysg uwch yn tanysgrifio i HESA ac yn cyflwyno data myfyrwyr ar ddiwedd pob blwyddyn i gofnod myfyrwyr HESA ar hyn o bryd, bydd yn ofynnol iddo gyflwyno data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn os oes ganddo gynllun ffioedd a mynediad Medr, os yw ar gofrestr addysg uwch Medr a/neu os yw Medr yn rhoi cyllid iddo ar gyfer ei ddarpariaeth addysg uwch. Y darparwyr addysg uwch sy’n perthyn i’r categori hwn ar hyn o bryd yw:

Categori A
Prifysgol De Cymru
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Bangor
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prifysgol Wrecsam
Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Grŵp Llandrillo Menai
Grŵp Colegau NPTC
Coleg Gŵyr Abertawe
Coleg Cambria

15. Ni fyddai darparwyr addysg uwch sy’n tanysgrifio i HESA, sy’n cyflwyno data am fod ganddynt ddarpariaeth cyrsiau sydd wedi’i dynodi’n benodol, ac na chânt eu rheoleiddio na’u cyllido gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch, yn perthyn i’r categori uchod. Ar hyn o bryd, mae hyn yn cynnwys y canlynol:

Categori B
Coleg Gwent
Coleg Caerdydd a’r Fro
Canolfan y Dechnoleg Amgen
Athrofa Padarn Sant

16. Pe bai darparwr yng Nghategori B yn dod yn ddarparwr a reoleiddir drwy wneud cais llwyddiannus i fod ar y gofrestr addysg uwch, byddai’n symud i Gategori A ac yn dod yn gymwys i gael y cyllid ar gyfer casglu data yn ystod y flwyddyn.

17. Cyfanswm y cyllid sydd ar gael i’r sector ar gyfer rhoi hyn ar waith yw £650k ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. Rydym yn dechrau darparu’r cyllid yn ystod 2026/27 i gydnabod y gwaith y bydd angen ei wneud yn y cyfnod cyn dechrau casglu’r data. Ein nod yw darparu lefelau tebyg o gyllid yn ystod blynyddoedd academaidd 2027/28 a 2028/29, yn amodol ar argaeledd cyllid. Caiff y cyllid ei rannu rhwng darparwyr addysg uwch, gan roi swm penodedig i brifysgolion a swm penodedig llai i ddarparwyr llai yn unol â’u maint. Dyrennir y cyllid yn unol â’r disgwyliad mai dim ond i dalu costau sy’n gysylltiedig â chasglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn y caiff ei ddefnyddio.

18. Mae’r dyraniadau cyllid fesul darparwr wedi’u nodi isod:

Math o ddarparwr addysg uwch (a reoleiddir a/neu a gyllidir ar gyfer darpariaeth addysg uwch)Cyllid fesul darparwr yn 2026/27 (£)
Prifysgol65,000
CAB neu DA â ≥ 500 o fyfyrwyr addysg uwch wedi’u cofrestru ar gyfer BA 2024/2515,000
CAB neu DA â < 500 o fyfyrwyr addysg uwch wedi’u cofrestru ar gyfer BA 2024/2510,000

CAB = coleg addysg bellach; DA = darparwr amgen; BA = blwyddyn academaidd
Ffynhonnell ddata ar gyfer myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru = poblogaeth gofrestru safonol cofnod myfyrwyr HESA 2024/25

19. Mae ein disgwyliadau ynghylch sut y caiff y cyllid hwn ei wario wedi’u nodi isod:

  • Disgwylir i’r cyllid gael ei wario ar gostau sy’n gysylltiedig â chasglu data yn ystod y flwyddyn, a dylai hyn fod yn ychwanegol at unrhyw adnoddau neu wariant presennol, neu adnoddau neu wariant arfaethedig, sy’n gysylltiedig â chyflwyno data myfyrwyr.
  • Dylai’r cyllid gael ei wario ar weithgarwch sy’n ychwanegol at fusnes fel arfer ar gyfer cyflwyno data myfyrwyr ar ddiwedd y flwyddyn.
  • Gall y cyllid gael ei wario ar adnoddau staff mewn timau cyflwyno data neu TG, gwelliannau TG a gwelliannau i systemau, a chostau eraill sy’n gysylltiedig â gallu cyflwyno data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn yn llwyddiannus, megis gwelliannau i brosesau casglu data fel y gall data fod ar gael i’w cyflwyno’n gynharach.

20. Disgwylir i ddarparwyr addysg uwch sicrhau bod adnoddau digonol ar gael, gan gynnwys unrhyw rai sy’n defnyddio’r cyllid gan Medr ar gyfer rhoi hyn ar waith, er mwyn gallu casglu data yn ystod y flwyddyn yn llwyddiannus o fewn yr amserlen ofynnol, a hynny heb gael effaith andwyol ar les staff na’r broses arferol o gasglu data myfyrwyr ar ddiwedd y flwyddyn.

 21. Caiff darparwyr addysg uwch eu hannog yn gryf i gymryd rhan mewn gweithgarwch treialu yn 2027/28 mewn perthynas â chyflwyno data yn ystod y flwyddyn er mwyn gallu bod yn gwbl barod ar gyfer cyflwyno data yn ystod y flwyddyn yn llawn am y tro cyntaf yn 2028/29. Bydd Jisc yn rhannu manylion y gweithgarwch a sut i gymryd rhan â darparwyr.

Gofynion archwilio mewnol

22. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr addysg uwch yng Nghategori A gynnwys gwiriadau ar y ffordd y caiff data eu casglu yn ystod y flwyddyn a’r adnoddau a ddyrennir ar gyfer hyn fel rhan o’u harchwiliad mewnol blynyddol o systemau a phrosesau data addysg uwch. Caiff yr adroddiad archwilio mewnol ei gyflwyno i Medr yn yr haf bob blwyddyn, ac rydym yn disgwyl i’r adroddiad a gyflwynir i ni yn ystod haf 2027 gynnwys safbwynt ar barodrwydd a risg mewn perthynas â chyflwyno data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn yn ogystal â chadarnhad bod cyllid Medr ar gyfer rhoi hyn ar waith yn cael ei ddefnyddio i baratoi ar gyfer cyflwyno’r data a lleihau’r risgiau cysylltiedig. Caiff rhagor o fanylion eu cynnwys yn y nodiadau canllaw wedi’u diweddaru ar gyfer archwilio mewnol a gaiff eu cyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn.

Yr ymateb sy’n ofynnol

23. Gofynnir i benaethiaid darparwyr addysg uwch yng Nghategorïau A a B gadarnhau eu bod wedi cael y cyhoeddiad hwn a’u bod yn deall y disgwyliadau a nodir yn y llythyr hwn, drwy ymateb i Hannah Falvey, Pennaeth Ystadegau Addysg Uwch, [email protected], erbyn 29 Mai 2026.

Rhagor o wybodaeth

24. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn at Hannah Falvey ([email protected]).

Medr/2026/20: Casglu data cofnod myfyrwyr HESA yn ystod y flwyddyn – disgwyliadau a chyllid ar gyfer darparwyr addysg uwch yng Nghymru

Dyddiad: 19 Mai 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/20

At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Prifathrawon/Penaethiaid sefydliadau addysg bellach a darparwyr addysg uwch amgen sy’n tanysgrifio i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)

Ymateb erbyn: 29 Mai 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi ein disgwyliadau ynghylch casglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn ar gyfer darparwyr addysg uwch drwy gofnod myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Rydym hefyd yn rhoi gwybod i ddarparwyr am ddyraniadau cyllid i’w defnyddio ar gyfer casglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn.

Medr/2026/20 Casglu data cofnod myfyrwyr HESA yn ystod y flwyddyn – disgwyliadau a chyllid ar gyfer darparwyr addysg yng Nghymru

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio