James Owen
James Owen
Prif Weithredwr
Penodwyd James Owen yn Prif Weithredwr ym mis Awst 2025 ar ôl ymuno â Medr fel Prif Swyddog Gweithredu yn 2024.
James sy’n gyfrifol am oruchwylio gwerth £1bn o fuddsoddiad mewn addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, meithrin cydberthnasau cydweithredol â phartneriaid, ac arwain y tîm i ddatblygu sector mwy cydgysylltiedig a chynhwysol yng Nghymru – un sy’n helpu pob dysgwr i ganfod ei lwybr ac sy’n sicrhau bod y system yn diwallu anghenion ein cymdeithas a’n heconomi.
Mae James wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau arwain uwch yn Llywodraeth Cymru yn flaenorol. Mae ganddo frwdfrydedd dros arwain rhaglenni newid trawsffurfiadol, a bu’n arwain ar bolisi ffermio’r dyfodol cyn ymgymryd â’r rôl i arwain y rhaglen ddiwygio sector cyfan i sefydlu Medr. Yn ystod ei yrfa gynnar, bu James hefyd yn gweithio i Swyddfa’r Cabinet yn Whitehall.
Mae’n frwd dros helpu pobl i wireddu eu potensial llawn. Mae’n hyfforddwr gweithredol ac yn ddysgwr Cymraeg.