This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Gwenllian Lansdown Davies

Aelod y Bwrdd

Gwenllian Lansdown Davies
Aelod y Bwrdd

Dr Gwenllian Lansdown Davies yw Prif Weithredwr Dysgu, corff dysgu ac arwain proffesiynol o fewn y sector addysg.

O 2014 tan 2025, Gwenllian oedd Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin, sefydliad trydydd sector a’r prif gorff sy’n darparu ac yn galluogi gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector gwirfoddol.

Yn 2011, fe’i penodwyd yn Swyddog Cyhoeddiadau i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth lle bu hefyd yn gyfrifol am ei gyfnodolyn ymchwil y Coleg, ‘Gwerddon’.

Ar ôl cael ei hethol i gynrychioli Glan-yr-afon ar Gyngor Sir Caerdydd yn 2004, bu’n gweithio fel Rheolwr Swyddfa i Leanne Wood AS yn y Rhondda cyn cael ei phenodi’n Brif Weithredwr Plaid Cymru yn 2007.

Astudiodd Gwenllian Ffrangeg a Sbaeneg yn Rhydychen a bu’n byw am gyfnod yn Galicia a Brwsel cyn cwblhau MScEcon a doethuriaeth mewn Theori Wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd lle bu hefyd yn addysgu.

Mae Gwenllian yn Aelod o Fwrdd S4C ac mae’n gwirfoddoli ar bwyllgor ei Chylch Meithrin lleol fel yr Unigolyn Cyfrifol.

Mae hi’n hanu o Fangor ond bellach yn byw gyda’i gŵr a phedwar o blant yn Llanerfyl, Powys.