Cyhoeddiadau
Sta/Medr/15/2026: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyrchfannau dysgwyr, Awst 2023 i Orffennaf 2024
17 Nov 2026
Prif bwyntiau
Trosolwg
Mae’r gyfradd cyrchfan barhaus gyffredinol wedi codi a gostwng rhwng 85% ac 86% ers 2016/17.
Ffigur 1: Cyrchfannau dysgwyr ôl-16, 2014/15 i 2023/24

Disgrifiad: Mae’r gyfradd cyrchfan barhaus wedi aros yn gymharol sefydlog ers 2016/17. Gostyngodd 1 pwynt canran rhwng 2022/23 a 2023/24.
[Nodyn d] Mae ffigurau a gyhoeddwyd yn flaenorol wedi’u diwygio â’r data diweddaraf. Gweler y wybodaeth allweddol am ansawdd am fanylion.
Data yn Nhabl 1a ar y daenlen gysylltiedig.
Symudodd 48% o ddysgwyr yn 2023/24 ymlaen i gyrchfan dysgu parhaus, sef gostyngiad o gymharu â 49% yn 2022/23. Cyflogaeth barhaus yw’r gyrchfan fwyaf cyffredin a gostyngodd y gyfradd am yr ail flwyddyn yn olynol, i 60% yn 2023/24 o 62% yn 2022/23.
Sta/Medr/15/2026: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyrchfannau dysgwyr, Awst 2023 i Orffennaf 2024
Ystadegau Medr
Dyddiad: 17 Tachwedd 2026
Dynodiad: Ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu
Crynodeb: Cyrchfannau cyflogaeth a dysgu ar gyfer dysgwyr addysg bellach, y chweched dosbarth mewn ysgolion a dysgu seiliedig ar waith yn y flwyddyn yn dilyn eu rhaglen astudio.
Thema: Addysg bellach, y chweched dosbarth, dysgu seiliedig ar waith
Sta/Medr/15/2026 Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyrchfannau dysgwyr, Awst 2023 i Orffennaf 2024Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio