Dysgu digidol

Rydym yn cynorthwyo darparwyr addysg drydyddol i integreiddio technoleg ddigidol fel rhan o’r hyn a ddarperir ganddynt a defnyddio technolegau ac offer digidol i wella profiad y dysgwr

Mae gwaith Medr ar ddysgu digidol yn ategu Nod Strategol 2 o’n Cynllun Strategol:

“Creu system addysg drydyddol hyblyg a chydgysylltiedig lle gall pawb gaffael y sgiliau a’r wybodaeth y mae eu hangen arnynt ar gyfer economi a chymdeithas sy’n newid.”

Fframwaith strategol deng mlynedd ar gyfer dysgu digidol a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2019 yw Digidol 2030. Mae’n berthnasol i sefydliadau addysg bellach (colegau), darparwyr prentisiaethau craidd a darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned. Trosglwyddodd cyfrifoldeb am Ddigidol 2030 o Lywodraeth Cymru i Medr ar 1 Awst 2024.

Mae’r fersiwn yma o Ddigidol 2030 wedi’i diweddaru gan Medr yn 2026 i’w:

  • ymgorffori newidiadau sylweddol i’r cyd-destun a’r dirwedd ar gyfer dysgu digidol
  • adlewyrchu’r ffordd y mae’r sector wedi datblygu ers 2019
  • pennu blaenoriaethau ar gyfer gweddill cyfnod y fframwaith (hyd at 2030).
Digidol 2030: Fframwaith strategol ar gyfer ôl-16 digidol yng Nghymru

Cafodd y fframwaith ei gydgynhyrchu gyda’r sector, gan nodi gweledigaeth gyffredin a nodau i’w cyrraedd erbyn 2030.

“Bydd darparwyr dysgu ôl-16 yn integreiddio technoleg ddigidol yn ddi-dor; ac yn annog arloesedd wrth ddefnyddio dulliau cynhwysol, hygyrch a dwyieithog i wella profiad y dysgwr. Yn seiliedig ar ymwybyddiaeth o’r sgiliau digidol sydd eu hangen i gefnogi economi Cymru, bydd darparwyr yn rhoi’r galluoedd a’r hyder digidol i ddysgwyr a staff y bydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd bob dydd ac mewn gwaith.”

Gweledigaeth Digidol 2030

Cyn adolygu Digidol 2030, gofynnodd Jisc  ymgysylltu â darparwyr dysgu a rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau bod y fframwaith yn berthnasol ac yn werthfawr i’r sector o hyd; ystyried y cynnydd hyd yma; canfod unrhyw ddiweddariadau hanfodol; a chynnig blaenoriaethau strategol ar gyfer y cyfnod sy’n weddill.

Mae’r gwaith paratoadol gan Jisc wedi cynhyrchu’r allbynnau dilynol:

Adolygiad canol tymor Digidol 2030: Crynodeb Gweithredol Digidol 2030: Yr heriau bryd hynny a nawr Digidol 2030: Straeon defnyddwyr

I gael rhagor o wybodaeth am grantiau cyfredol ar gyfer darparwyr dysgu, gweler:

Mae Jisc wedi cydweithio’n agos â Medr i ddatblygu sylfaen dystiolaeth gyfredol sy’n llywio prosesau gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r ffordd y byddwn yn ymdrin â dysgu digidol a buddsoddi digidol yn y dyfodol, yn unol â Digidol 2030 a thu hwnt. Mae darparwyr dysgu, cyrff cynrychioli a rhanddeiliaid allweddol mewn rhannau perthnasol o’r sector addysg drydyddol wedi bod yn rhan o bob darn o waith.

Caiff canfyddiadau ac argymhellion Jisc o bob un o’r astudiaethau hyn eu hamlygu yn eu crynodebau gweithredol:

Mae darn pellach o waith ar ddysgu digidol mewn addysg uwch yng Nghymru wedi’i drefnu ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.

Elusen gofrestredig a sefydliad dielw yw Jisc sy’n cynorthwyo cymunedau addysg drydyddol ac ymchwil ledled y DU i ddefnyddio technolegau digidol a data. Fel un o gyllidwyr Jisc yn y DU, rydym yn darparu oddeutu £3.3 miliwn i Jisc ym mhob blwyddyn academaidd ar gyfer gwasanaethau a chymorth i ddarparwyr dysgu cymwys yng Nghymru.

O dan ein cytundeb grant blynyddol, mae Jisc hefyd yn rhoi cyngor arbenigol a chymorth ymarferol ar gyfer Digidol 2030 a blaenoriaethau dysgu digidol strategol yng Nghymru.

Gall darparwyr dysgu yng Nghymru gael gwybod mwy trwy gysylltu â’u rheolwr perthynas yn Jisc.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio