Medr/2025/21: Cyllid ychwanegol ar gyfer cynnydd yng ngwerth yr uned yn 2025/26

Symiau ac amseriad cyllid ychwanegol

Bydd dyraniad prif ffrwd AB o £2,666,447 yn cael ei ddyrannu i sefydliadau AB ar gyfer cynnydd yng ngwerth yr uned ym misoedd perthnasol y flwyddyn academaidd ym mlwyddyn ariannol 2025-26, fel y dangosir yn y tabl isod.

SABAB | Cyfraniad at gynnydd yng ngwerth yr uned
Coleg Penybont£136,073
Coleg Caerdydd a’r Fro£332,108
Coleg Cambria£326,668
Coleg Gwent£380,749
Coleg Sir Gâr£175,035
Coleg y Cymoedd£284,022
Coleg Gŵyr Abertawe£231,927
Grŵp Llandrillo Menai£293,837
Grŵp NPTC£201,853
Y Coleg Merthyr Tudful£86,370
Coleg Sir Benfro£105,383
Coleg Catholig Dewi Sant£61,807
Addysg Oedolion Cymru£50,615
Cyfanswm£2,666,447

Bydd dyraniad o £631,853 yn cael ei ddyrannu i ALlau ar gyfer ysgolion Chweched Dosbarth ar gyfer cynnydd yng ngwerth yr uned ym misoedd perthnasol y flwyddyn academaidd ym mlwyddyn ariannol 2025-26, fel y dangosir yn y tabl isod. 

Awdurdod LleolALl | Cyfraniad at gynnydd yng ngwerth yr uned
Cyngor Sir Ynys Môn£15,596
Cyngor Gwynedd£23,374
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy £32,197
Cyngor Sir Ddinbych£23,033
Cyngor Sir y Fflint £27,973
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam£6,926
Cyngor Sir Powys£26,695
Cyngor Sir Ceredigion £21,340
Cyngor Sir Penfro £17,783
Cyngor Sir Caerfyrddin £39,293
Cyngor Dinas a Sir Abertawe£39,975
Cyngor Castell-nedd Port Talbot£13,501
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr £44,385
Cyngor Bro Morgannwg£46,936
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf £55,220
Cyngor Caerdydd£100,563
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili£22,952
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen £2,463
Cyngor Sir Fynwy£23,413
Cyngor Dinas Casnewydd £48,235
Cyfanswm£631,853

Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â misoedd perthnasol y flwyddyn academaidd ym mlwyddyn ariannol 2025-26. Bydd y cyllid ychwanegol hwn ar gyfer cynnydd yng ngwerth yr uned yn cael ei dalu’n llawn mewn un taliad ym mis Hydref 2025.

Medr/2025/21: Cyllid ychwanegol ar gyfer cynnydd yng ngwerth yr uned yn 2025/26

Dyddiad:  03 Hydref 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/21

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg Awdurdodau Lleol

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau a’r amseriad ar gyfer cyllid prif ffrwd ychwanegol sydd i’w ddarparu gan Medr o £2,666,447 i sefydliadau addysg bellach (AB) a £631,853 i awdurdodau lleol (ALlau) ar gyfer ysgolion chweched dosbarth, ar gyfer misoedd perthnasol y flwyddyn academaidd ym mlwyddyn ariannol 2025-26. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu’r cyllid hwn i alluogi sefydliadau AB ac ALlau ysgolion Chweched Dosbarth i gynnal cydraddoldeb cyflogau staff addysgu, a bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy gynyddu’r gwerth fesul uned. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei dalu’n llawn mewn un swm ym mis Hydref 2025.

Medr/2025/21 Cyllid ychwanegol ar gyfer cynnydd yng ngwerth yr uned yn 2025/26

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/20: Cyllid ychwanegol er mwyn Paratoi i Weithredu Deddf a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol 2025-26

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid ychwanegol o £700,000 i Medr ym mlwyddyn ariannol 2025-26 er mwyn cynorthwyo sefydliadau i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei dalu’n llawn mewn un swm ym mis Hydref 2025. Gellir cyflawni gweithgarwch drwy gydol y flwyddyn academaidd, ond mae Medr yn disgwyl i sefydliadau ymrwymo’r gwariant o fewn blwyddyn ariannol 2025-26.

Symiau ychwanegol o gyllid, amseriadau a dibenion

Dylai’r cyllid helpu i feithrin capasiti a gweithredu camau a fydd yn hyrwyddo dulliau effeithiol o fodloni anghenion pobl ifanc ag ADY a chyfrannu at ddarparu system addysg gwbl gynhwysol, lle caiff pob dysgwr gefnogaeth i gyrraedd ei botensial.

Bwriedir i’r cyllid ar gyfer paratoi i weithredu’r Ddeddf a’r Cod ADY ychwanegu at gyllid arall a ddyrannwyd, ac nid yw’n disodli’r brif ffynhonnell o gyllid i sefydliadau. Ni ddylai ychwaith fod yn ffactor sy’n dylanwadu ar y penderfyniad i dderbyn dysgwyr ai peidio.

Rhaid i sefydliadau gadw at y Canllawiau ar gyfer Paratoi i Weithredu’r Ddeddf a’r Cod ADY ar wefan Medr.

Cyfrifir y cyllid yn seiliedig ar gyfran y sefydliad o gyllid Cymorth Dysgu Ychwanegol ac fe’i tanategir â dyraniad cychwynnol o £40,000 fesul sefydliad.

Cyfanswm dyraniad Blwyddyn Ariannol 2024/25
£
Cyfanswm dyraniad Blwyddyn Academaidd 2025/26
£
Gwahaniaeth o gymharu â dyraniad Blwyddyn Academaidd 2024/25
£
Canran y gwahaniaeth
%
Addysg Oedolion Cymru43,415.0043,418.0030.01%
Coleg Penybont49,363.0049,181.00(182)-0.37%
Coleg Caerdydd a’r Fro62,176.0062,443.002670.43%
Coleg Cambria62,095.0062,029.00(66)-0.11%
Coleg Gwent66,150.0065,709.00(441)-0.67%
Coleg Sir Gâr51,830.0051,793.00(37)-0.07%
Coleg y Cymoedd57,935.0059,210.001,2752.20%
Coleg Gŵyr Abertawe55,950.0055,665.00(285)-0.51%
Grŵp Llandrillo Menai59,849.0059,818.00(31)-0.05%
Grŵp NPTC 54,006.0053,619.00(387)-0.72%
Coleg Sir Benfro47,162.0047,098.00(64)-0.14%
Coleg Catholig Dewi Sant44,187.0044,178.00(9)-0.02%
Y Coleg Merthyr Tudful45,882.0045,839.00(43)-0.09%
700,000.00700,000.00

Gellir cyflawni gweithgarwch drwy gydol y flwyddyn academaidd, ond mae Medr yn disgwyl i sefydliadau ymrwymo’r gwariant o fewn blwyddyn ariannol 2025-26.

Medr/2025/20: Cyllid ychwanegol er mwyn Paratoi i Weithredu Deddf a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol 2025-26

Dyddiad: 30 Medi 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/20

At: Benaethiaid sefydliadau addysg bellach

Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau i Medr ddarparu £700,000 o gyllid ychwanegol i sefydliadau addysg bellach (AB), ac amseriad hynny. Pwrpas y cyllid yw ymestyn am flwyddyn ychwanegol y cyllid paratoi i weithredu’r Ddeddf a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol er mwyn ymwreiddio gweithgareddau a gyflawnwyd mewn blynyddoedd cynt. Bydd sefydliadau’n gallu cyflawni gweithgarwch rhwng mis Ebrill 2025 a mis Gorffennaf 2026.

Medr/2025/20 Cyllid ychwanegol er mwyn Paratoi i Weithredu Deddf a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol 2025-26

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/19: Cyllid ychwanegol ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn 2025-26

Symiau ac amseriad cyllid ychwanegol

Bydd dyraniad prif ffrwd AB o £8,068,000 yn cael ei ddyrannu i sefydliadau AB ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn 2025-26, fel y dangosir yn y tabl isod.

SAB
Blwyddyn ariannol 2025/26
AB | Cyfraniad tuag at gostau YG uwch
Addysg Oedolion Cymru£113,547.70
Coleg Caerdydd a’r Fro£945,002.09
Coleg Cambria£1,103,664.86
Coleg Catholig Dewi Sant£167,771.54
Coleg Gwent£890,552.23
Coleg Gŵyr Abertawe£785,166.10
Coleg Penybont£444,774.05
Coleg Sir Benfro£370,025.94
Coleg Sir Gâr£570,373.88
Coleg y Cymoedd£640,873.42
Grŵp NPTC£732,340.62
Grŵp Llandrillo Menai£1,125,251.92
Y Coleg Merthyr Tudful£178,655.64
Cyfanswm£8,068,000.00

Dyrennir £1,375,000 i ALlau ar gyfer ysgolion Chweched Dosbarth ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn 2025-26, fel y dangosir yn y tabl isod.

Awdurdod LleolALl | Cyfraniad tuag at gostau Yswiriant Gwladol uwch
Cyngor Bro Morgannwg£103,604
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili£48,340
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy£70,799
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr£96,082
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf£116,177
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen£5,254
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam£14,958
Cyngor Caerdydd£217,956
Cyngor Castell-nedd Port Talbot£28,930
Cyngor Dinas a Sir Abertawe£86,836
Cyngor Dinas Casnewydd£101,359
Cyngor Gwynedd£51,663
Cyngor Sir Caerfyrddin£87,299
Cyngor Sir Ceredigion£47,766
Cyngor Sir Ddinbych£50,659
Cyngor Sir Fynwy£52,305
Cyngor Sir Penfro£39,375
Cyngor Sir Powys£59,605
Cyngor Sir y Fflint£62,019
Cyngor Sir Ynys Môn£34,015
Cyfanswm£1,375,000

Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â’r cyfnod o’r 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026. Bydd y cyllid ychwanegol hwn ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn 2025-26 yn cael ei dalu’n llawn mewn un swm ym mis Hydref 2025.

Medr/2025/19: Cyllid ychwanegol ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn 2025-26

Dyddiad: 30 Medi 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/19

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg Awdurdodau Lleol

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau a’r gyfer cyllid prif ffrwd ychwanegol sydd i’w ddarparu gan Medr o £8,068,000 i sefydliadau addysg bellach a £1,375,000 i awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion chweched dosbarth, ac amseriad y taliadau hynny, ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ym mlwyddyn ariannol 2025-26.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu’r cyllid ychwanegol hwn i Medr ym mlwyddyn ariannol 2025-26 ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Bydd cyllid ychwanegol ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ym mlwyddyn ariannol 2025-26 yn cael ei dalu’n llawn mewn un swm ym mis Hydref 2025.

Medr/2025/19 Cyllid ychwanegol ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn 2025-26

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/18: Cyllid cyfalaf addysg uwch 2025-26

Cyflwyniad

1. Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi y bydd £10m o gyllid Cyfalaf ar gael i’w ddyrannu ym Mlwyddyn Ariannol 2025-6. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi blaenoriaethau strategol Medr.

Sail y dyraniadau cyllid cyfalaf

2. Bydd y cyllid Cyfalaf yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar ddull fformiwläig. Gan y dylai’r cyllid gael ei ddefnyddio, o leiaf yn rhannol, i gefnogi dysgu ac addysgu, profiad myfyrwyr a’r seilwaith ar gyfer myfyrwyr, mae’r dyraniadau wedi cael eu pennu yn seiliedig ar nifer y myfyrwyr. Mae nifer y myfyrwyr mewn sefydliad yn ddull procsi rhesymol o gyfrifo maint yr ystâd a’r cyfleusterau sydd eu hangen. Mae’r dull hwn yn gyson â dyraniadau cyfalaf blaenorol.

3. Y niferoedd myfyrwyr a ddefnyddiwyd ar gyfer y dyraniad cychwynnol yw’r Niferoedd Cyfwerth ag Amser Llawn (Niferoedd CALl) o Gofnod Myfyrwyr HESA ar gyfer pob dull, lefel a gwlad y mae myfyrwyr yn hanu ohoni yn seiliedig ar flwyddyn academaidd 2023/24. Dyma’r un sail ag a ddefnyddiwyd i ddyrannu’r cylch blaenorol o gyllid cyfalaf.

Cymhwyso isafswm dyraniad cyllid

4. Er mwyn darparu cyllid cyfalaf a fydd yn galluogi pob sefydliad i fuddsoddi mewn prosiectau a fydd yn cael effaith gynaliadwy, mae isafswm gwerth dyraniad o £750,000 wedi cael ei gymhwyso. Ac ystyried ei hystâd gyfyngedig yng Nghymru, bydd trothwy isafswm y Brifysgol Agored wedi’i osod ar 50% (£375,000) i gyfrannu at brosiectau a fydd o fudd i fyfyrwyr Cymru.

5. Mae’r cyllid ar gyfer sefydliadau lle’r oedd y dyraniad gwreiddiol ar sail nifer eu myfyrwyr CALl yn is na’r gwerth hwn wedi cael ei gynyddu i’r swm hwn, a nifer y myfyrwyr CALl ar gyfer y sefydliadau hynny wedi cael eu tynnu allan o’r cyfrifiad wedi hynny. Mae gweddill y cyllid sydd ar gael wedi cael ei ddosrannu rhwng y sefydliadau eraill yn seiliedig ar y niferoedd CALl a oedd yn weddill wrth gyfrifo.

6. Mae’r dyraniadau canlyniadol ar gyfer pob sefydliad wedi’u darparu yn Atodiad A.

Cyflwyno cynlluniau

7. Bydd hi’n ofynnol i sefydliadau ddarparu eu cynlluniau buddsoddi Cyfalaf ar gyfer y cyllid hwn, ynghyd â’u strategaethau Ystadau, gan egluro sut mae’r cynlluniau buddsoddi’n gyson â’u strategaethau Ystadau. Os yw strategaethau Ystadau ar ganol cael eu diweddaru, rhaid darparu diweddariad ysgrifenedig sy’n cynnwys blaenoriaethau ar gyfer ystadau.

8. Dylai’r cynlluniau buddsoddi cyfalaf gynnwys manylion gwariant arfaethedig y sefydliad a sut y bydd yn cefnogi blaenoriaethau strategol Medr. Mae sero net ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, felly dylai sefydliadau flaenoriaethu prosiectau sy’n mynd i’r afael â hynny’n uniongyrchol. Mae’n debygol y byddai prosiectau o’r fath hefyd yn creu buddion ehangach yn gysylltiedig â materion eraill â blaenoriaeth, fel bioamrywiaeth. Dylai sefydliadau hefyd amlygu sut y bydd cynlluniau’n gwella’r gofod dysgu ac addysgu ac o fudd i brofiad myfyrwyr.

9. Bydd Swyddogion Medr yn cadarnhau bod cynlluniau buddsoddi Cyfalaf yn briodol ac yn bodloni’r meini prawf angenrheidiol.

10. Byddwn yn parhau i fonitro metrigau HESA drwy’r datganiadau data a gyhoeddir ac felly dylai sefydliadau barhau i fod yn ymwybodol o’r effaith y gallai prosiectau ei chael arnynt.

11. Mae profforma ar gyfer y cynlluniau hyn wedi’i gynnwys yn Atodiad B.

12. Os bydd gennym unrhyw bryderon ynghylch priodoldeb unrhyw brosiectau penodol, gallwn fynnu bod y cyllid yn cael ei ddargyfeirio at rai mwy addas. Gan hynny, rydym yn argymell bod sefydliadau’n darparu cynlluniau y tu hwnt i’w dyraniad i ganiatáu hyblygrwydd.

13. Os bydd sefydliad yn rhagweld na fydd yn gallu gwario’i ddyraniad llawn, dylai roi gwybod inni ar y cyfle cyntaf a bydd unrhyw arian sydd dros ben yn cael ei ailddyrannu i sefydliadau eraill drwy’r dull fformiwläig a ddisgrifiwyd yn flaenorol.

Monitro blynyddol

14. Bydd ymarfer monitro’n cael ei gynnal yn 2026 ar ddyddiad addas i sicrhau bod y cyllid wedi cael ei ddefnyddio fel y bwriadwyd ac i roi diweddariad ar effaith y buddsoddiad.

15. Disgwylir i sefydliadau roi dadansoddiad o’r gwariant cyfalaf a manylu ar unrhyw brosiectau y mae’r cyllid wedi cyfrannu atynt.

16. Gofynnir i sefydliadau roi crynodeb ansoddol o’r effeithiau cadarnhaol y mae’r cyllid hwn wedi’u cael/yn eu cael o ran cyflawni blaenoriaethau Medr a’r meini prawf a nodir uchod.

Amserlen

17. Gofynnir i ddarparwyr gadarnhau eu gallu i wario eu dyraniad llawn erbyn 30 Medi 2025.

18. Bydd Medr yn trefnu i dalu’r cyllid a ddyrannwyd i sefydliadau ar ôl derbyn y cadarnhad uchod, a hynny ym mis Hydref 2025.

19. Bydd y broses fonitro flynyddol yn digwydd yn 2026 ar ddyddiad addas.

Rhagor o wybodaeth

20. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].

Atodiad A: Modelu cyllid cyfalaf addysg uwch ychwanegol 2025/26

SefydliadMyfyrwyr CALl 2023/24Dyraniadau pro rata i (£): CALlCanran a ddyrannwyd i bob sefydliad CALl
Prifysgol Abertawe19,009.001,514,809.3115%
Prifysgol Aberystwyth750,000.008%
Prifysgol Bangor750,000.008%
Prifysgol Caerdydd28,326.002,257,272.2823%
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant11,755.00936,744.889%
Prifysgol De Cymru19,177.001,528,197.0715%
Prifysgol Metropolitan Caerdydd10,578.00842,950.868%
Prifysgol Wrecsam750,000.008%
Y Brifysgol Agored yng Nghymru8,408.00670,025.607%
Cyfanswm97,253.0010,000,000.00100%

Ffynhonnell: Cofnod myfyrwyr HESA 2023/24

Niferoedd Myfyrwyr heb eu defnyddio wrth gyfrifo: Poblogaeth gofrestru safonol HESA, pob dull, lefel a gwlad.

Myfyrwyr CALl a ddefnyddiwyd wrth gyfrifo: Poblogaeth Sesiwn HESA, pob dull, lefel a gwlad.

Sylwch fod talgrynnu wedi’i gymhwyso i werthoedd CALl ar ôl eu defnyddio mewn cyfrifiadau.

Medr/2025/18: Cyllid cyfalaf addysg uwch 2025-26

Dyddiad:  30 Medi 2025

Cyfeirnod: Medr/2025/18

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn:  07 Hydref 2025

Crynodeb: Mae’r cylchlythyr hwn yn darparu manylion y sail ar gyfer dyrannu Cyfalaf i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2025-26, yr wybodaeth sydd ei hangen gan sefydliadau a’n dull o fonitro. Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2025/26.

Medr/2025/18 Cyllid cyfalaf addysg uwch 2025-26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Ymateb Medr i adroddiad Estyn ar Y Cwricwlwm Medrau Byw yn Annibynnol (MBA) mewn Addysg Bellach

Mae Medr yn croesawu adroddiad thematig Estyn ar y Cwricwlwm Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) mewn sefydliadau addysg bellach. Rydym yn derbyn y canfyddiadau a’r argymhellion fel y maent yn berthnasol i Medr.

Comisiynwyd yr adroddiad thematig gan Medr ym mis Awst 2024 yn dilyn gwaith ymgysylltu helaeth â’r sector, lle y nodwyd nifer o flaenoriaethau ar gyfer gwella. Ers adroddiad thematig Estyn yn 2017, mae’r sector wedi gwneud gwelliannau sylweddol i’r ffordd y caiff y cwricwlwm SBA ei gyflwyno, gyda ffocws cadarn ar ymateb i anghenion dysgwyr. Comisiynwyd yr adroddiad thematig hwn er mwyn sicrhau bod newidiadau effeithiol wedi cael eu gwneud ac er mwyn atgyfnerthu arlwy cyson i ddysgwyr ledled Cymru. Mae Cynllun Strategol 2025-2030 Medr yn amlinellu ein hymrwymiad i hyrwyddo dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, ochr yn ochr â ffocws cadarn ar gynyddu cyfranogiad. Bydd yr adroddiad thematig hwn yn helpu i lywio ein hymdrechion ar y cyd â’r sector wrth i ni wneud cynnydd o ran datblygu darpariaeth SBA wedi’i hatgyfnerthu.

Cyn i’r adroddiad thematig gael ei gomisiynu, roedd Llywodraeth Cymru (cyn i’r swyddogaethau perthnasol gael eu trosglwyddo i Medr), mewn partneriaeth â’r sector, eisoes wedi canfod bod angen diweddaru ein manylebau SBA er mwyn adlewyrchu cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn well, a hynny’n unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Felly, mae Medr yn croesawu argymhelliad cyntaf Estyn y dylid diwygio’r manylebau, ac mae’n gwerthfawrogi’r dystiolaeth a gyflwynwyd er mwyn llywio’r gwaith hwn. Mae’r ymrwymiad hwn wedi’i wreiddio yn ein Cynllun Gweithredol, a chaiff yr holl newidiadau eu gwneud ar y cyd â’r sector. Bydd rhoi canllawiau clir i gefnogi dealltwriaeth hefyd yn rhan allweddol o’r broses hon, gan helpu i atgyfnerthu’r manylebau diwygiedig (Argymhelliad 2).

Yn fwy cyffredinol, mae ein Cynllun Strategol yn amlinellu ein hymrwymiad i hyrwyddo dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Fel rhan o hyn, ein nod yw helpu Llywodraeth Cymru i roi argymhellion perthnasol ar waith (Argymhellion 3–5) drwy barhau i gymryd rhan mewn gweithgorau perthnasol a rhoi gwybodaeth a chyngor ynglŷn â darparu ar gyfer ADY yn y sector trydyddol. Bydd Medr yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol lle bo hynny’n briodol er mwyn archwilio meysydd lle y bydd angen cymorth ychwanegol yn y sector ôl-16 (Argymhellion 12–15).

Bydd Medr yn gweithio gyda sefydliadau addysg bellach i sicrhau bod y wybodaeth ar eu gwefannau’n hygyrch ac yn adlewyrchu’r cymorth sydd ar gael i ddysgwyr yn glir (Argymhelliad 10), ac yn cynnal ymarfer monitro yn ystod 2026 i adolygu cynnydd. Yn ogystal â chyhoeddi manylebau a chanllawiau wedi’u diweddaru, byddwn hefyd yn gweithio gyda’r sector i archwilio’r gweithgareddau dysgu proffesiynol y bydd eu hangen er mwyn helpu i gyflwyno’r cwricwlwm diwygiedig yn effeithiol (Argymhelliad 7).  Byddwn yn archwilio’r potensial ar gyfer defnyddio cyllid dysgu proffesiynol i gefnogi’r gweithgareddau hyn.  Rydym yn cydnabod pwysigrwydd helpu sefydliadau addysg bellach i ddatblygu’r cwricwlwm mewn ffyrdd sy’n sicrhau mynediad teg i ddysgwyr ledled Cymru.

Rydym yn falch bod Estyn wedi cydnabod gwelliannau sylweddol ar draws y sector ers yr adolygiad diwethaf. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r sector a phartneriaid perthnasol i roi’r argymhellion ar waith ac atgyfnerthu’r ddarpariaeth ymhellach, gan sicrhau arlwy cyson o ansawdd da i ddysgwyr ag anghenion cymhleth ledled Cymru.

You can subscribe to updates to be the first to know about our publications, news and job opportunities.

Subscribe

Medr yn lansio ymgynghoriad ar raglen brentisiaethau

Mae Medr yn gwahodd darparwyr, dysgwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar raglen brentisiaethau newydd i Gymru.

Caiff yr ymgynghoriad, a fydd yn llywio dyfodol prentisiaethau o fis Awst 2027 ymlaen, ei gynnal o 15 Medi 2025 tan 31 Hydref 2025.

Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr: “Mae hwn yn gyfle unigryw i helpu i lywio system brentisiaethau sy’n hyblyg, yn ymatebol, ac yn canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r economi wrth iddynt ddatblygu.

“Uchelgais Medr yw sicrhau bod darpariaeth prentisiaethau’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yn helpu pob unigolyn i ddysgu’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd eu hangen ar gyfer byd gwaith sy’n newid.

“Rydyn ni am weld rhaglen brentisiaethau sy’n sicrhau rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltu i bawb. Rydyn ni’n annog pawb sydd â diddordeb mewn prentisiaethau i ymateb i’r ymgynghoriad a dod i un o’r digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal.”

I gael gwybod mwy am sut i lywio dyfodol prentisiaethau yng Nghymru:

Rhaglen brentisiaethau yng Nghymru: ymgynghoriad

Fideo: Medr yn lansio ymgynghoriad ar raglen brentisiaethau

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Ymateb Medr i adroddiad Estyn ar lythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol

Mae Medr yn croesawu adroddiad Estyn ar lythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol o ran dysgu oedolion yn y gymuned. Rydym yn derbyn y canfyddiadau a’r argymhellion fel y bônt yn berthnasol i Medr.

Yn 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei datganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi. Mae’r blaenoriaethau’n cynnwys cynyddu dysgu oedolion a gwella’r broses o gaffael sgiliau sylfaenol, gan roi’r dysgwr wrth wraidd y system a datblygu data cadarn er mwyn mesur canlyniadau dysgwyr.

Mae Cynllun Strategol cyntaf Medr 2025–2030 yn nodi ein hymrwymiad i ystyried sut y gellir gwneud gwelliannau o ran mynediad, cyfranogiad a llwyddiant wrth ddarparu sgiliau hanfodol Rydym yn cydnabod bod mwy i’w wneud i gefnogi’r ddarpariaeth hon er mwyn bodloni anghenion oedolion sy’n dysgu yng Nghymru. 

Er mwyn darparu sylfaen dystiolaeth gref ar gyfer ein gwaith cynllunio a’n penderfyniadau a llywio polisi’r llywodraeth, rydym yn ymrwymo drwy ein Cynllun Gweithredol ar gyfer 2025-26 i adolygu ein data a’n mesurau presennol. Bydd argymhellion adroddiad Estyn (A1-3) yn llywio’r gwaith hwnnw, gan gynnwys cefnogi ein hystyriaeth o fesurau canlyniad ar gyfer y sector dysgu oedolion yn y gymuned (ACL), a’n hymgynghoriad ar hynny.

Yn fwy cyffredinol, rydym wedi ymrwymo yn ein Cynllun Strategol i adolygu cynllunio, trefniadaeth, hyblygrwydd ac effeithiolrwydd ACL. Yn rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn adolygu canllawiau ar gyfer partneriaethau ACL i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas at y diben, a bod darparwyr yn glir ynghylch y disgwyliadau ar gyfer darpariaeth ACL (A4). Byddwn hefyd yn parhau i adolygu trefniadau partneriaeth rhwng darparwyr cyfansoddol (A6).

Mae Medr yn cydnabod pwysigrwydd gwahanol ddulliau dysgu er mwyn annog cyfranogiad ac ehangu mynediad at ACL. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i sicrhau aliniad a chydweithrediad â rhaglenni fel Ysgolion Bro er mwyn cynnwys rhieni a chymunedau (A5).

Roeddem yn falch bod yr adroddiad wedi canfod bod yr addysgu cyffredinol yn effeithiol ac wedi’i bersonoli, a bod mwyafrif y dysgwyr yn cwblhau ystod eang o gyrsiau llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol yn llwyddiannus. Er mwyn cynorthwyo’r gweithlu ACL i gael mynediad at ddysgu proffesiynol effeithiol a rhannu arfer gorau (un o’n hymrwymiadau twf), byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Colegau Cymru a phartneriaid eraill i hyrwyddo dysgu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau addysgu pwnc-benodol, gan gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg (A7).

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/17: Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: Ymgynghoriad

Crynodeb

Mae cynllun strategol Medr yn nodi nod i ‘greu system drydyddol hyblyg a chydgysylltiedig lle gall pawb gaffael y sgiliau a’r wybodaeth y mae eu hangen arnynt ar gyfer economi a chymdeithas sy’n newid’. Rydym wedi ymrwymo i ddylunio darpariaeth prentisiaethau yn y dyfodol i ymateb i flaenoriaethau sgiliau Llywodraeth Cymru ac i ddiwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r economi.

Mae prentisiaethau yn allweddol ar gyfer hybu cynhyrchiant a helpu i feithrin gweithlu medrus ac amrywiol.

Bydd y rhaglen brentisiaethau newydd yn dechrau ar 1 Awst 2027.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn rhanddeiliaid, gan gynnwys darparwyr hyfforddiant ac addysg drydyddol, cynrychiolwyr diwydiant, cyflogwyr, dysgwyr, rhieni ac awdurdodau lleol i helpu i lunio’r rhaglen newydd.

Rydym eisoes wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid i lywio’r egwyddorion lefel uchel ar gyfer y rhaglen brentisiaethau newydd, gan gynnwys sut y caiff prentisiaethau eu datblygu, eu cyflwyno, a’u rheoli.

Byddem yn croesawu ymatebion i’r ymgynghoriad gan unigolion sydd â phrofiad o brentisiaethau. Mae clywed gan ddysgwyr yn allweddol i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu o’r rhaglen bresennol a bod syniadau’n cael eu cyflwyno i’r rhaglen newydd.

Rydym nawr yn ceisio barn ar y canlynol:

  • yr egwyddorion lefel uchel hyn i arwain y rhaglen brentisiaethau newydd
  • diffiniad o brentisiaeth
  • taith dysgwr sy’n brentis
  • ymgysylltiad cyflogwyr
  • cyflawni hyblyg
  • fframweithiau sector prentisiaethau
  • ymatebolrwydd economaidd y rhaglen
  • canlyniadau prentisiaid
  • cryfhau cyfleoedd yn y Gymraeg
  • prentisiaethau cynhwysol

Byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgynghori:

I gael dweud eich dweud, cwblhewch y ffurflen ymateb yn Atodiad A a’i hanfon at [email protected] erbyn 31 Hydref 2025.

Medr/2025/17: Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: Ymgynghoriad

Dyddiad:  15 Medi 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/17

At:  Penaethiaid darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru; Darparwyr prentisiaethau cyfredol yng Nghymru / Deiliaid contract prentisiaeth wedi’u comisiynu; Cyrff cynrychioli cyflogwyr; Cynrychiolwyr addysg awdurdodau lleol

Ymateb erbyn:  31 Hydref 2025

Crynodeb: Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn i ddeiliaid contractau presennol a darpar ddeiliaid contractau, cyflogwyr a dysgwyr am gymorth i lunio dyluniad rhaglen brentisiaethau newydd Cymru, sydd i fod i ddechrau ar 1 Awst 2027.

Medr/2025/17 Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: Ymgynghoriad

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/16: Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) 2025-26

Rhagair

1. Ers 2011, mae Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) wedi cael ei ddarparu i sefydliadau cymwys yng Nghymru. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynghori Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) ynghylch dyraniadau 2025-26 ac yn rhoi canllawiau ar y gofynion adrodd a monitro cysylltiedig. 

Y cefndir

2. Mae’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) wedi cadarnhau y bydd yn darparu cyllid HERC i bedwar corff cyllido AU y DU[1] yn 2025-26. Bydd DSIT yn darparu £4,623,296 yng Nghymru, a bydd Llywodraeth Cymru (LlC) yn gwneud cyfraniad ar ffurf arian cyfatebol, gan greu cyfanswm cronfa o £9,246,592.

Defnydd o’r cyllid

3. Ni cheir ond defnyddio’r cyllid a ddarperir o dan HERC er mwyn buddsoddi cyfalaf yn y seilwaith ffisegol ar gyfer ymchwil. Mae ymchwil yn cynnwys ‘ymchwil wyddonol’ (sy’n golygu ymchwil a datblygu yn unrhyw un o’r gwyddorau gan gynnwys y gwyddorau cymdeithasol neu dechnoleg (adran 6(1) o Ddeddf Gwyddoniaeth a Thechnoleg 1965)) ac ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau.

4. Wrth benderfynu sut i ddefnyddio’u dyraniadau, dylai sefydliadau ystyried gofynion Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r uchelgeisiau a nodwyd yn Strategaeth Arloesi’r DU, Strategaeth Ymchwil ac Arloesi’r DU, Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru a Chynllun Strategol Medr 2025-2030. Dylid ystyried hefyd sut mae cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dyraniadau

5. Dyrennir y Cyllid drwy ddulliau gwahanol ar gyfer elfennau DSIT a LlC:

  1. Dyrennir elfen DSIT y cyllid drwy defnyddio’r data 3 blynedd diweddaraf gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar incwm Cyngor Ymchwil ac Arloesi’r DU. Yn unol â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth DSIT â Medr a Llywodraeth Cymru, dylai’r cyllid ganolbwyntio ar gynnal adrannau ardderchog â’r màs critigol i gystadlu’n fyd-eang, a’r arbenigedd i gydweithio’n agos â busnesau, elusennau a gwasanaethau cyhoeddus.
  2. Dyrennir elfen Llywodraeth Cymru o’r grant ar sail pro rata yn unol â chyfuniad o’r dyraniad Ymchwil Ansawdd cylchol diweddaraf plws incwm ymchwil arall a adroddwyd gan y darparydd ar gofnod cyllid HESA. Defnyddiwyd y dyraniad Ymchwil Ansawdd ar gyfer 2024/25 oddi mewn i’ fformiwla gyllido ar gyfer HERC 2025-26.

Trothwy cyllido

6. Er mwyn bodloni gofyniad y DSIT fod y gronfa’n cefnogi rhagoriaeth ac yn adeiladu màs critigol, mae’r fformiwla’n cynnwys trothwy isafswm o £100k. Dim ond sefydliadau y cyfrifir bod eu dyraniadau uwchlaw’r trothwy cymhwysedd hwn fydd yn derbyn cyllid yn 2025-26.

7. Ceir hyd i ddyraniadau cyllid 2025-26 ar gyfer sefydliadau cymwys yn Atodiad A.

Trefniadau monitro

8. Ym mis Chwefror 2025, cyflwynodd sefydliadau fanylion eu blaenoriaethau cyllido HERC i’r dyfodol ar gyfer 2025-26. Dylid cadarnhau’r buddsoddiadau hyn a chynlluniau posibl i’r dyfodol ar gyfer 2026-27 drwy lenwi a chyflwyno’r profforma yn Atodiad B.

  • Dylai Rhan 1 y profforma i gadarnhau’r defnydd o gyllid yn 2025-26, gan gynnwys cyfanswm costau buddsoddiadau graddfa fawr, lle cyfrannodd cyllid HERC at hynny. Dylai sefydliadau ddangos lle mae cyllid HERC wedi galluogi ac ysgogi capasiti ymchwil, wedi datblygu blaenoriaethau strategol, ac wedi galluogi sefydliadau i gystadlu’n fwy effeithiol am gyllid ymchwil ac arloesi allanol.
  • Dylid defnyddio Rhan 2 o’r profforma i amlinellu blaenoriaethau gwariant ar gyfer 2026-27 yn seiliedig ar ragdybiaeth y bydd cyllid HERC pellach yn cael ei ddarparu.
  • Rhaid anfon Atodiad B yn ôl i Medr erbyn 13 Chwefror 2026 ar yr hwyraf.

9. Er mwyn cadarnhau bod HERC wedi’i wario’n llawn, gofynnir i sefydliadau cymwys gyflwyno’r profforma Cadarnhau Gwariant yn Atodiad C erbyn 24 Ebrill 2026. Dylai sefydliadau sicrhau eu bod yn nodi’n glir a oes unrhyw gyllid heb ei wario wedi’i ymrwymo ac, os felly, y dyddiad pan fydd y cyllid hwnnw wedi’i wario’n llawn. Gall Medr adhawlio unrhyw gyllid heb ei wario os nad yw wedi’i ymrwymo.

10. Bydd yr wybodaeth a gyflwynir gan SAUau yn yr adroddiadau hyn yn sail i ofynion adrodd Medr ar gyfer Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2026 a DSIT ym mis Mehefin 2026. Gallai methu â darparu manylion digonol am brosiectau a gwariant olygu gohirio cadarnhad o ddyraniadau cyllid yn y dyfodol, neu ddangos diffyg effaith posibl yn sgil buddsoddiad HERC yng Nghymru, a allai danseilio’r ddadl o blaid cyllid parhaus.


Trefniadau talu

11. Fel y nodwyd yn Atodiad A bydd cyllid yn cael ei ddosbarthu drwy ddau daliad ym mis Medi 2025 ac ym mis Ionawr 2026.

Rhagor o wybodaeth / ymatebion i

12. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Hayley Moss ([email protected]).

[1] Medr – Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil; Cyngor Cyllido’r Alban; Adran yr Economi (Gogledd Iwerddon); Ymchwil Lloegr

Medr/2025/16: Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) 2025-26

Dyddiad:  12 Medi 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/16

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn: 13 Chwefror 2026 a 24 Ebrill 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi manylion dyraniadau 2025-26 ar gyfer sefydliadau sy’n gymwys i dderbyn cyllid Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch.

Medr/2025/16 Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) 2025-26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Fframwaith Ansawdd Medr: y camau nesaf

Roedd ymgynghoriad diweddar Medr ar y dull rheoleiddio yn cynnwys nifer o gwestiynau am ein Fframwaith Ansawdd arfaethedig. Nod y Fframwaith yw lleihau’r baich a roddir ar ddarparwyr gan sicrhau profiad dysgwyr o ansawdd da ym mhob rhan o’r sector addysg drydyddol ar yr un pryd. Ein huchelgais yw y bydd unrhyw ddysgwr, ble bynnag y bo yn y sector addysg drydyddol, yn gallu cael sicrwydd ynghylch y disgwyliadau cyffredin ar gyfer darparwyr.


Mae’r broses ddrafftio’n adlewyrchu’r darpariaethau yn y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) i Medr gyhoeddi fframwaith er mwyn nodi polisi ac arferion mewn perthynas â’r canlynol:
– Meini prawf ar gyfer asesu ansawdd
– Prosesau ar gyfer asesu ansawdd.
– Rolau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n asesu ansawdd a darparwyr mewn perthynas ag ansawdd.

Un o’r prif themâu a ddaeth i’r amlwg o’r ymgynghoriad oedd bod angen mwy o eglurder a dealltwriaeth ynghylch y ffordd y bwriedir i’r Fframwaith gael ei ddefnyddio a sut y byddai’n gweithio ochr yn ochr â dulliau sydd eisoes yn bodoli (megis y rhai a ddilynir gan Estyn a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA)).

Bydd ail gam ein hymgynghoriad ar reoleiddio yn dechrau yn yr hydref. Fel rhan o hyn, byddwn yn rhannu fersiwn ddiwygiedig o’r Fframwaith Ansawdd a fydd yn adlewyrchu llawer o’r pwyntiau a godwyd yn yr ymatebion. Fodd bynnag, roeddem yn awyddus i fynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau canolog nawr yn y gobaith o gynnal deialog â rhanddeiliaid a llywio’r ffordd y byddwn yn diwygio’r Fframwaith yn y dyfodol.

Sut mae’r Fframwaith yn adlewyrchu dulliau o ymdrin ag ansawdd sydd eisoes yn bodoli, neu’n rhyngweithio â nhw?

Ni fwriedir i’r Fframwaith ddyblygu’r gweithgareddau a gyflawnir gan Estyn a QAA. Yn lle hynny, bwriedir iddo egluro’r disgwyliadau cyffredin ar gyfer darparwyr ym mhob rhan o’r sector trydyddol cyfan, ac esbonio sut y bydd Medr yn asesu cydymffurfiaeth â’n hamod rheoleiddio sy’n ymwneud ag ansawdd.

Mae’r Fframwaith yn seiliedig ar gyfres o gonglfeini sy’n ymdrin â meysydd megis yr angen i arolygu neu adolygu ansawdd yn allanol, pwysigrwydd hunanwerthuso, a rôl llywodraethu mewn perthynas ag ansawdd. Mewn gwahanol rannau o’r sector trydyddol, bydd y gweithgareddau a gaiff eu ‘mapio’ ar y conglfeini hynny’n edrych yn wahanol. Er enghraifft, yn achos darparwyr addysg bellach, byddem yn disgwyl i arolygiad Estyn fodloni gofynion conglfaen Allanoldeb, ac i’r broses hunanwerthuso fodloni gofynion conglfaen Hunanwerthuso.

O edrych ar enghraifft arall, yn achos addysg uwch, byddem yn disgwyl i’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr fodloni’r cynigion o dan gonglfaen Llais y Dysgwr i ddefnyddio data a deilliannau o arolygon cenedlaethol.

Mae rhai o’r conglfeini’n ymwneud â gweithgarwch ‘newydd’. Er enghraifft, mae conglfaen Ymgysylltu â Dysgwyr yn cyd-fynd â’r gofyniad arfaethedig i ddarparwyr gydymffurfio â’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr sydd ar ddod. Mae’r enghraifft benodol hon yn adlewyrchu gwaith ehangach sy’n cael ei wneud gan Medr er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau yn unol â’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Y bwriad yw y bydd cynnwys y Cod yn y Fframwaith yn sicrhau bod ein system yn gydgysylltiedig. Byddwn yn ymgynghori ar y Cod a’i amod cysylltiedig yn yr hydref.

Ymhen amser, byddem yn disgwyl i Estyn a QAA ddatblygu eu fframweithiau arolygu a’u dulliau cynnal adolygiadau gwella ansawdd mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r Fframwaith.
 
Beth yw’r cysylltiad rhwng hyn a rheoleiddio? A fyddwch yn rheoleiddio gwelliant parhaus?

Mae ein hymgynghoriad ar reoleiddio yn nodi dull rheoleiddio ehangach Medr, gan gynnwys sut y bydd ymyriadau’n gweithio a’r egwyddorion a fydd yn sail i’r ffordd y byddwn yn gweithredu.

Bydd angen i ddarparwyr gydymffurfio â’r amod sy’n ymwneud ag ansawdd p’un a ydynt ar y gofrestr ar gyfer darparu addysg uwch neu’n cael eu rheoleiddio drwy delerau ac amodau cyllid. Mae hyn yn golygu y bydd Medr yn monitro darparwyr – er enghraifft, drwy ddeilliannau arolygiadau ac adolygiadau, yn ogystal â ffurflenni data a ffynonellau eraill o wybodaeth – er mwyn gweld a ydynt yn cydymffurfio.

Fodd bynnag, mae’r dull rheoleiddio a’r datganiad ymyrryd hefyd yn nodi sut y byddem yn disgwyl i’n gweithgarwch ymgysylltu â darparwyr weithio. Er enghraifft, pe bai Medr yn credu bod risg o ddiffyg cydymffurfiaeth, yna ymgysylltu’n anffurfiol â’r darparwr er mwyn deall y cyd-destun penodol fyddai’r cam cyntaf fel arfer. Rydym yn ymrwymedig i gydnabod amrywiaeth darparwyr, a rheoleiddio mewn ffordd gymesur sy’n seiliedig ar risg.

Mae nifer o’r ymatebion yn nodi pryderon ynglŷn â chonglfaen Gwella’n Barhaus ac, yn benodol, p’un a allai fod ymyriad rheoleiddio pe na bai darparwyr yn gwella o un flwyddyn i’r llall. O’n safbwynt ni, yr hyn sy’n bwysig yw bod darparwyr yn ymgymryd â’r mathau o hunanfyfyrio, cynllunio a gweithredu sydd â’r bwriad o adnabod a datblygu meysydd ar gyfer gwella ym mhob rhan o’u darpariaeth. Byddwn yn egluro’r disgwyliadau hyn yn y Fframwaith diwygiedig a’r amod cysylltiedig.

Lle bo sefydliadau’n ymgymryd â gweithgareddau gwelliant parhaus, ni fyddem yn disgwyl ymyrryd cyn belled â bod eu perfformiad yn foddhaol.
 
Diffiniadau o fewn y Fframwaith

Cododd llawer o’r ymatebion gwestiynau ynglŷn â diffiniadau, gan gynnwys y diffiniad o ansawdd a’r diffiniad o dermau allweddol fel anghenion rhesymol a safonau trothwy.

Rydym yn ystyried sut i egluro’r diffiniad o ansawdd er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan sicrhau bod gennym hefyd ddiffiniad sy’n ddigonol i gyfleu’r ehangder o brofiadau addysgu a dysgu ym mhob rhan o’r sector trydyddol ar yr un pryd. Ein bwriad yw y bydd y diffiniad o ansawdd a chwmpas y term yn canolbwyntio ar agweddau ar y profiad dysgu sydd o fewn dylanwad y darparwr.

O ran y gyfres ehangach o ddiffiniadau, byddwn yn cyhoeddi rhestr termau a fydd yn nodi’r holl ddiffiniadau fel rhan o ymgynghoriad cam 2 yn yr hydref.
 
Pwy sy’n gyfrifol am gasglu data? Sut y caiff y data eu defnyddio?

Cododd yr ymatebion nifer o gwestiynau ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am gasglu data, eu dadansoddi, a gweithredu yn seiliedig arnynt. Mae Medr eisoes yn defnyddio amrywiaeth o ddata i lywio ein gweithgarwch parhaus i ymgysylltu â darparwyr, sy’n deillio’n bennaf o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, y Casgliad Data Ôl-16 a chofnodion HESA, yn ogystal â’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn achos addysg uwch.

Mae Medr yn ymrwymedig i ymgynghori ar ddangosyddion perfformiad yn ystod y ddwy flynedd nesaf, a byddem yn rhagweld y byddai’r ymgynghoriad hwnnw’n ystyried sut y gellid defnyddio meincnodi a/neu drothwyon. Tan hynny, byddem yn rhagweld y byddwn yn defnyddio’r mesurau presennol fel sail ar gyfer ystyried ansawdd.

A yw’r Fframwaith yn adlewyrchu amrywiaeth darparwyr?

Bwriedir i’r Fframwaith adlewyrchu amrywiaeth darparwyr yn y sector addysg drydyddol. Dyna pam y mae wedi’i strwythuro mewn ffordd sy’n golygu y gall gwahanol drefniadau mewn gwahanol rannau o’r sector gael eu hymgorffori a’u hadlewyrchu yn y conglfeini. Er bod rhai ymatebion wedi gofyn am Fframwaith mwy rhagnodol, ein barn ni yw y byddai gwneud hynny’n ei gwneud hi’n anos i ni ddarparu ar gyfer y gwahaniaethau cyd-destunol rhwng darparwyr.

Rydym yn deall ac yn cydnabod bod anghenion a disgwyliadau dysgwyr yn amrywio a, phan fyddwn yn trafod pwysigrwydd deilliannau dysgwyr, rydym yn cytuno bod dimensiwn cyd-destunol i ddeilliannau y dylid ei ystyried. Byddwn yn adlewyrchu hyn yn y Fframwaith a bydd yn llywio ein hymrwymiadau ehangach mewn perthynas â mesurau perfformiad.

Mae gennym gyfle yng Nghymru i gefnogi sector addysg drydyddol sy’n gyson o ran sicrhau profiad dysgwyr o ansawdd da ar bob cam. Bwriedir i’r Fframwaith hwn helpu i gyflawni’r nod hwnnw.

Y camau nesaf

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn ystyried deilliannau cam cyntaf yr ymgynghoriad ymhellach. Wedyn, byddwn yn cynnwys y Fframwaith Ansawdd wedi’i ddiweddaru fel rhan o’r ddogfennaeth yn ein hymgynghoriad yn yr hydref, gan roi cyfle i ddarllenwyr ystyried y ddogfennaeth yn ei chyfanrwydd.

Byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o grwpiau sector. Byddem yn croesawu rhagor o ddeialog cyn cam nesaf yr ymgynghoriad.

Rydym hefyd yn bwriadu rhoi mwy o eglurder ynghylch rhai o’r pwyntiau penodol a godwyd yn yr ymgynghoriad, yn enwedig gan eu bod yn berthnasol i elfennau eraill o’n gweithgarwch dros yr wythnosau nesaf.

I gael sgwrs am y materion hyn neu unrhyw faterion eraill sy’n gysylltiedig â’r Fframwaith, e-bostiwch [email protected].

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
(REF) 2029: diweddariad

Yn dilyn cyhoeddiad Gweinidog Gwyddoniaeth y DU yr wythnos diwethaf, byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â Research England, Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon, i bwyso a mesur yr adborth gan y gymuned ymchwil.

Byddwn yn adeiladu ar ein gweithgarwch ymgysylltu diweddar â phrifysgolion yng Nghymru sydd wedi dangos bod cefnogaeth gyffredinol o blaid trywydd ymarfer REF 2029 o ran cydnabod dealltwriaeth ehangach o ragoriaeth ymchwil, ochr yn ochr â galw dealladwy i symleiddio a lleihau baich.

Drwy grŵp llywio’r pedair gwlad, byddwn yn gweithio gyda thîm REF i gytuno ar unrhyw newidiadau a gaiff eu cyhoeddi erbyn mis Rhagfyr 2025, a byddwn yn profi’r rhain yn erbyn blaenoriaethau Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig.

Ar wahân i hynny, mae Research England heddiw wedi cadarnhau rhaglen newydd o waith sy’n gysylltiedig â’i gyllid ymchwil sefydliadol craidd a dulliau o asesu gwaith ymchwil yn y dyfodol. Bydd gan agweddau o’r rhaglen hon oblygiadau ledled y DU, a byddwn yn ymgysylltu â Research England a’r cyrff cyllido datganoledig eraill i archwilio’r potensial ar gyfer dulliau ar y cyd gan ystyried yr effaith ar y sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru hefyd ar yr un pryd.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/15: Cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg uwch yn 2025/26

Cyflwyniad

1. Yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26, mae Medr yn amcanu at wella a diweddaru ein dealltwriaeth am anghenion a blaenoriaethau dysgu digidol yn y sector trydyddol ac adnabod unrhyw destunau o ddiddordeb ar draws y sector sy’n cynnig potensial ar gyfer cydweithio. Bydd hyn yn cynnwys ystyried effaith a budd mentrau dysgu digidol blaenorol ar gyfer addysg bellach, ac ymgysylltu â Prifysgolion Cymru a sefydliadau AU yn ogystal â rhanddeiliaid eraill.

2. Yn y cyfamser, mae Medr wedi neilltuo cyllid refeniw i gefnogi gweithgareddau dysgu digidol cychwynnol yn y sector AU yn ystod 2025/26. Cyllid a gynigir ar gyfer blwyddyn unigol yw hwn tra ydym yn casglu tystiolaeth i oleuo dulliau a phenderfyniadau cyllido Medr yn y dyfodol (yn amodol ar gyllidebau yn y dyfodol).

Llinellau amser

AmseriadCarreg filltir neu gam gweithredu
Erbyn 24 Hydref 2025Pob sefydliad i gadarnhau a yw’n dymuno derbyn y cyllid a gynigir gan Medr (Atodiad A).
Os derbynnir y cynnig o gyllid, dylid amlinellu sut y bwriedir defnyddio’r cyllid hwn.
Chwefror 2026Bydd y taliad interim (50% o’r dyraniad cyllid) yn cael ei brosesu yn ystod mis Chwefror.
Erbyn 31 Gorffennaf 2026Bydd hi’n ofynnol adrodd ar wariant a chyflwyno hawliad terfynol.
(Bydd Atodiad B yn cael ei ychwanegu unwaith y mae taliadau interim wedi cael eu gwneud. Bydd arweinwyr cyllid enwebedig yn cael eu hysbysu pan fo’r ffurflen hon ar gael.)

Medr/2025/15: Cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg uwch yn 2025/26

Dyddiad:  03 Medi 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/15

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn: 24 Hydref 2025

Crynodeb: Mae’r ddogfen yn nodi dyraniadau cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg uwch ym mlwyddyn academaidd 2025/26, ac yn darparu canllawiau ynghylch gwariant cymwys ac anghymwys.

Bydd pob sefydliad yn cael cynnig cyllid refeniw o £40,000.

Medr/2025/15 Cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg uwch yn 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio