Newyddion
Profi’r rhaglen brentisiaethau newydd
07 Apr 2026
Rydym yn rhedeg cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer darparwyr prentisiaethau, cyflogwyr, hyfforddwyr proffesiynol, a phartneriaid y sector er mwyn help i lywrio Raglen Brentisiaethau newydd Cymru.
Bydd Rhaglen Brentisiaethau newydd Cymru’n dechrau ar 1 Awst 2027.
Ymunwch â ni i gael darganfod mwy am ddyluniad newydd prentisiaethau, ymuno mewn trafodaethau, profi elfennau allweddol, a rhannu adborth:
- Llandudno – 13 Mai
- Llandrindod – 14 Mai
- Caerdydd – 20 Mai
Ym mis Medi 2025, fe gynhaliom ni ymarfer ymgynghori 6 wythnos o hyd a geisiodd farn rhanddeiliaid, gan gynnwys darparwyr hyfforddiant ac addysg drydyddol, cynrychiolwyr diwydiant, cyflogwyr, dysgwyr ac awdurdodau lleol, i helpu i lunio’r rhaglen newydd.
Ym mis Chwefror 2026 fe adroddom ni ar ganlyniad yr ymgynghoriad, ac ar y camau nesaf allweddol o ran datblygu’r rhaglen brentisiaethau newydd ar gyfer 2027 a’i rhoi ar waith.
Y digwyddiadau
Rydym yn gwahodd darparwyr prentisiaethau, cyflogwyr, hyfforddwyr proffesiynol, a phartneriaid y sector i gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru.
Bydd y sesiynau hyn yn profi ac yn mireinio dyluniad y rhaglen brentisiaethau newydd, gan sicrhau ei bod yn ymatebol, yn gydnerth, ac yn cyd-fynd ag anghenion dysgwyr, cyflogwyr, ac economi ehangach Cymru.
Trwy gymryd rhan, byddwch yn helpu i siapio rhaglen sy’n cefnogi dysgu o ansawdd da, dilyniant ystyrlon, a datblygiad sgiliau cynaliadwy ar gyfer gweithlu’r dyfodol.
Gweld y sleidiau o'r digwyddiadauYmholiadau: [email protected]
Cofrestrwch drwy Eventbrite (wedi cau)Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio