Gwybodaeth sefydliadol

Gwybodaeth ymarferol ar gyfer ein darparwyr, ein cyflenwyr a’n rhanddeiliaid pan fyddant yn gweithio gyda ni.

Rydym yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan y sector addysg drydyddol ac ymchwil wrth gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru ddwyieithog. O dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, mae gennym ddyletswydd strategol i hyrwyddo astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fel corff, rydym yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal ein busnes cyhoeddus yng Nghymru. Rydym hefyd yn cydnabod ein rôl o ran hwyluso amgylchedd gwaith dwyieithog i’n pobl.

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd gohebu yn y Gymraeg yn achosi unrhyw oedi. 

Byddwn hefyd yn craffu ar ein polisïau a’n cynlluniau i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, ac yn ystyried effaith ein polisïau ar y defnydd o’r Gymraeg yn fewnol ac yn allanol.  

Byddwn yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg ac yn derbyn Hysbysiad Cydymffurfio oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg maes o law. 

Y Gymraeg mewn addysg drydyddol ac ymchwil

Polisi a gweithdrefn rheoli datgelu data

Rydym yn cymhwyso rheolaethau data i ddata cyfanredol er mwyn atal y posibilrwydd o ddatgelu gwybodaeth am unigolion. Bydd pob un o’n cyhoeddiadau ystadegol yn esbonio’r fethodoleg rheoli datgelu data a ddefnyddiwyd.

Rhyddid gwybodaeth 

Fel mater o drefn, rydym yn darparu ystod eang o wybodaeth drwy ein gwefan. Os na allwch gael hyd i’r wybodaeth rydych chi’n chwilio amdani, cysylltwch â [email protected] i ddechrau.

Gofynnwch am wybodaeth

Wrth sefydlu Medr fel corff hyd braich newydd, rydym yn ymrwymedig i fod yn gyflogwr delfrydol ac yn batrwm o sefydliad. Rydym yn cydnabod yr angen am strwythur cyflog sy’n rhoi gwerth am arian; gwobrwyo staff Medr am y gwaith a wnânt, gan hefyd gydnabod bod ein cyllid yn dod o bwrs y wlad a bod rhaid ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae rhan o gyflawni trefniadau cyflog Medr yn y ffordd yma’n ei gwneud yn ofynnol i ni weithredu yn ôl egwyddorion cysondeb, tryloywder, hygyrchedd a fforddiadwyedd, felly rydym yn cyhoeddi ein datganiad cyflog, y polisi a’r gweithdrefnau a graddfeydd cyflog Medr i gyflawni hyn.

Mae ein gwerthoedd yn bwysig iawn i ni, ac maent yn helpu i lunio diwylliant ein sefydliad. Mae ein gwerth cynnwys pawb yn golygu ein bod yn angerddol am gynhwysiant, gan geisio creu’r amodau cywir i bawb gyflawni eu potensial llawn. 

Mae gennym hefyd ddyletswydd strategol o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 i hyrwyddo cyfle cyfartal. 

Cynllun Cydraddoldeb Strategol Medr 2024-2028

Rydym hefyd yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015m a byddwn yn mynegi ein hymrwymiad i lesiant cenedlaethau’r dyfodol drwy ein cynllun strategol. 

Ein blaenoriaethau

Yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, byddwn yn ystyried bioamrywiaeth ac ecosystemau fel rhan o’n cynlluniau busnes a’n gweithgareddau beunyddiol drwy eu halinio â’n dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Byddwn yn adrodd drwy ein hadroddiad a’n cyfrifon blynyddol fel arfer.

Cyfrifon terfynol CCAUC: 1 Ebrill 2023 i 31 Gorffennaf 2024.

Adroddiad blynyddol a chyfrifon CCAUC 2023-24 Cyfrifon CCAUC a osodwyd gerbron y Senedd.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio