Gweithio gyda ni

Rydym yn corff hyd braich newydd Llywodraeth Cymru, yn cyllido, rheoleiddio a goruchwylio: addysg bellach, gan gynnwys colegau a’r chweched dosbarth mewn ysgolion, addysg uwch gan gynnwys ymchwil ac arloesi, addysg oedolion a dysgu oedolion yn y gymuned, a phrentisiaethau a hyfforddiant. 

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i alluogi system addysg ac ymchwil drydyddol sy’n canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, cymdeithas, a’r economi; gyda rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltu’n greiddiol iddi.  

Ein gwerthoedd

Dysgu – mae dysgu’n greiddiol i bopeth a wnawn. Rydym yn credu bod chwilfrydedd yn hybu arloesi ac yn helpu i ehangu ein gorwelion.

Cydweithio – gallwn gyflawni llawer mwy gyda’n gilydd nag y gallem fyth ei wneud ar ein pen ein hunain.

Cynnwys pawb – rydym yn frwd dros gynhwysiant, gan geisio creu’r amodau cywir i bawb gyflawni eu llawn botensial.

Rhagori – mae gennym ddyheadau uchel ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru ac rydym felly’n gosod safonau uchel i ni ein hunain er mwyn bod ar ein gorau.

Ochr yn ochr â’ch cyflog, mae Medr yn cyfrannu’n hael at eich pensiwn gwasanaeth sifil.

Rydym hefyd yn darparu:

  • 33 diwrnod o wyliau y flwyddyn (pro rata). 
  • Amgylchedd sy’n hyrwyddo cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys amser llesiant bob wythnos. 
  • Cynllun Beicio i’r Gwaith i wneud perchnogaeth ar feic yn fwy fforddiadwy. 

Gwyddom y gallwch weithiau wynebu heriau neu ddigwyddiadau mewn bywyd sy’n golygu bod angen cymorth ychwanegol arnoch. 

  • Rydym yn darparu rhaglen cymorth-i-gyflogeion gynhwysfawr gyda mynediad o bell at adnoddau a chymorth yn y cnawd pryd bynnag y bo angen hynny.
  • Mae gennym bolisi absenoldeb arbennig sy’n sicrhau bod pawb yn y sefydliad yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt yn ystod cyfnodau anodd. 
  • Mae ein pwyllgor chwaraeon, cymdeithasol a llesiant gweithgar yn cynnig ystod o weithgareddau i ddod ynghyd y tu allan i’r lleoliad gwaith.   
  • Bydd gennych hawl i gymryd 5 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn i wneud gwaith gwirfoddol i gefnogi ein cymunedau.
  • Unwaith y cynigir swydd i chi, byddwn yn dod i’ch adnabod ac yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun cynefino wedi’i bersonoli sy’n ystyried eich profiad, eich sgiliau, eich arddull dysgu a’ch gwybodaeth.
  • Byddwn yn eich helpu i lunio eich cynlluniau datblygu â sgyrsiau ac amcanion gyrfaol wedi’u personoli, gan ystyried nodau cyflawni ochr yn ochr â’ch dyheadau gyrfaol.
  • Rydym yn cynorthwyo ein holl staff i ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg.

Mae gennym ddiddordeb go iawn ynoch chi fel unigolyn a’r hyn y byddwch chi’n ei gynnig i’n sefydliad. Mae ein proses asesu gyfunol wedi’i bwriadu i’n helpu ni i ddod i’ch adnabod chi’n well gan ein galluogi i benodi rhywun a fydd yn ffynnu yn y rôl ac sy’n rhannu ein gwerthoedd ni fel sefydliad.

Rydym yn ymdrechu i greu gweithle amrywiol a chynhwysol ac rydym eisiau eich helpu i ddangos eich potensial llawn beth bynnag fo’r dull asesu a ddefnyddir. Byddwn yn hapus i drafod unrhyw addasiadau i’r broses recriwtio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Cysylltwch â [email protected].

Pennaeth Cydymffurfiaeth Darparwyr

Fel arweinydd system reoleiddio Medr, byddwch yn meithrin perthnasoedd ag arweinyddiaeth Medr a rhanddeiliaid allweddol fel bo modd cyflwyno a gweithredu’r system newydd ar gyfer y sector addysg drydyddol yng Nghymru.

Gan arwain tîm bach o arbenigwyr rheoleiddio, byddwch yn defnyddio eich sgiliau a’ch profiad i reoli mynediad darparwyr i’r system reoleiddiedig a monitro cydymffurfiaeth barhaus. Byddwch yn rhoi sicrwydd i Fwrdd Medr y bydd unrhyw faterion sy’n codi yn cael eu nodi a’u rheoli drwy ymyrryd yn ddigon buan.

Cyflog: £58,918 – £70,450 y flwyddyn

Sesiwn wybodaeth: 09:00, Dydd Iau 18 Rhagfyr (ar-lein)

Dyddiad cau: Dydd Llun, 12 Ionawr 2026

Mwy

Uwch Reolwr – Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd

Bydd eich rôl yn hanfodol wrth sicrhau ein bod, drwy drefniadau llywodraethu cadarn, yn cyflawni ein dyletswyddau fel corff cyhoeddus ac yn rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru a’r Senedd ynghylch y broses benderfynu honno.

Yn y rôl hon byddwch yn meithrin perthnasoedd gwaith cryf ag aelodau ein Bwrdd a’n staff ar draws y sefydliad, gan sicrhau bod ein Bwrdd a’i Bwyllgorau yn gweithredu’n effeithiol yn unol ag arferion llywodraethu sefydledig.

Cyflog: £47,519 – £55,019 y flwyddyn

Sesiwn wybodaeth: 11:00, Dydd Mercher 17 Rhagfyr (ar-lein)

Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 06 Ionawr 2026

Mwy

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio