This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

James Davies

Aelod y Bwrdd

James Davies
Aelod y Bwrdd

Mae James Davies wedi gweithio am 32 mlynedd yn CalsonicKansei (cyflenwr Moduro mawr) yn y DU, Ewrop a Japan, gan arwain eu Hadran Rheoli Thermol ($2.5bn).

Ym mis Ebrill 2017, daeth James yn Gadeirydd Diwydiant Cymru (corff hyd braich i Lywodraeth Cymru), er mwyn cyflwyno llais y diwydiant technoleg, peirianneg a gweithgynhyrchu i Lywodraeth Cymru a Rhanddeiliaid y DU, gan gynnwys pob sector.

Roedd Diwydiant Cymru yn gyfrifol am bedwar fforwm sector diwydiant: TechnologyConnnected, Fforwm Awyrofod Cymru, Fforwm Modurol Cymru a Diwydiant Sero Net Cymru, sy’n gyfrifol am ddatgarboneiddio diwydiant.

Mae James wedi bod yn aelod o’r Bwrdd Cynghori Gweinidogol ar yr Economi yng Nghymru, a hefyd wedi cwblhau tymhorau ar Dasglu’r Cymoedd a Chomisiwn Lord Burns a Thrafnidiaeth De Ddwyrain Cymru (SEWTC).

Roedd James yn aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) rhwng 2018 a 2024, cyn ei benodiad i Medr yn Ebrill 2024,

Mae hefyd yn aelod o Fwrdd Cynghori’r Sector Preifat ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Grŵp Cynghori Strategol y Cymoedd Techneg, ac yn cefnogi gweithgarwch adfywio Tata yn ogystal â gweithgarwch adfywio economaidd Castell-nedd Port Talbot.

Ganed James ym Mhenrhyn Gŵyr a graddio o Brifysgol Abertawe (Mech Eng).