Rob Humphreys
Aelod y Bwrdd

Rob Humphreys CBE FLSW
Aelod y Bwrdd
Roedd Rob Humphreys yn Gyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru o 2007 i 2017, yn dilyn cyfnod fel Cyfarwyddwr y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion (Cymru) o 2005 i 2007.
Cyn hynny, roedd yn ddarlithydd Addysg Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe o 1993 i 2005. Yn rhan o’r rôl honno, ef oedd cydlynydd cyntaf Prifysgol Gymunedol y Cymoedd a oedd yn cynnig darpariaeth arobryn ar lefel gradd mewn lleoliadau cymunedol yn hen feysydd glo de Cymru.
Mae wedi cael ei benodi gan Weinidogion i nifer o adolygiadau wedi’u comisiynu gan y Llywodraeth o ffioedd a chyllid addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys y ddau Adolygiad Rees, ac Adolygiad Diamond.
Mae wedi gwasanaethu ddwywaith fel Ymgynghorydd Arbenigol (ar addysg bellach ac uwch) i Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin.
Fe’i penodwyd gan Lywodraeth Cymru i gadeirio adolygiad annibynnol o drefniadau llywodraethu’r sector addysg bellach. Cafodd yr adroddiad a ddeilliai o’r adolygiad hwnnw (‘Adolygiad Humphreys’) ei gyhoeddi yn 2011.
Roedd yn Gadeirydd annibynnol – unwaith eto wedi’i benodi gan Lywodraeth Cymru – ar y broses uno a arweiniodd at un Gymdeithas Addysg i Weithwyr ledled Cymru (Addysg Oedolion Cymru bellach).
Ar hyn o bryd, Rob yw Cadeirydd Pwyllgor Cynghori Cymru’r British Council (gyda’i ail dymor yn y swydd yn dod i ben ym mis Mehefin 2025). Roedd hefyd yn aelod o Fwrdd y British Council o 2019 i 2021.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi cynrychioli partneriaeth Cymru Fyd-eang mewn trafodaethau â gweinidogion ac uwch arweinwyr addysg uwch yn Fietnam, gan gynnwys cyfrannu at brosiect Banc y Byd yn cynghori Llywodraeth Fietnam ynghylch diwygio addysg uwch.
Mae Rob yn gymrawd etholedig o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn 2016 dyfarnwyd CBE iddo am ei waith ym maes addysg oedolion a gwasanaethau i’r gymuned.
Yn hanu’n wreiddiol o Sir Drefaldwyn, gweithiwr heb sgiliau oedd Rob ar ôl gadael yr ysgol, cyn dychwelyd i fyd addysg fel myfyriwr aeddfed yng Ngholeg Ruskin Rhydychen. Mae bellach yn byw yn Abertawe.