Rheoleiddio
Beth mae rheoleiddio yn ei olygu yn Medr
Dyma sut mae Medr yn helpu i sicrhau bod addysg drydyddol yng Nghymru yn gweithio mewn modd sy’n deg ac yn ddibynadwy i ddysgwyr. Mae’n rhoi sicrwydd bod darparwyr yn bodloni’r safonau a nodir yn y gyfraith a bod y system yn gweithredu fel y dylai.
Eglurir sut mae’r system yn gweithio drwy Fframwaith Rheoleiddio Medr, sy’n nodi’r rheolau a’r disgwyliadau sy’n berthnasol ar draws addysg drydyddol. Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth am Gynlluniau Ffioedd a Mynediad a Dynodi Cyrsiau Penodol.
Sut mae’r system yn gweithio
Mae’r Fframwaith Rheoleiddio yn dwyn ynghyd y prif elfennau y mae Medr yn eu defnyddio i oruchwylio’r sector.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- yr hyn y mae’n rhaid i ddarparwyr ei fodloni i ymuno â’r Gofrestr o ddarparwyr addysg uwch
- yr amodau sy’n berthnasol i ddarparwyr rydyn ni’n eu rheoleiddio neu’n eu hariannu
- trefniadau ar gyfer agweddau fel Cynlluniau Ffioedd a Mynediad a Dynodi Cyrsiau Penodol
Gyda’i gilydd, mae’r elfennau hyn yn ein helpu i ddeall a yw darparwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau ac a yw dysgwyr yn cael eu trin yn deg ar draws gwahanol fathau o ddarpariaeth.
Sut rydym yn rheoleiddio
Mae’n rhaid i sefydliad sydd yn dymuno i’w gyrsiau israddedig amser llawn gael eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyMae Medr yn rheoleiddio mewn ffordd sy’n glir, yn gymesur, yn gyson ac yn seiliedig ar risg.
Rydym yn defnyddio ystod eang o wybodaeth i ddeall yr hyn sy’n digwydd ar draws y sector ac i nodi ble mae angen sylw.
Mae ein gwaith yn cynnwys:
- monitro sut mae darparwyr yn bodloni’r amodau sy’n berthnasol iddynt
- siarad â darparwyr i ddeall eu cyd-destun ac unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg
- nodi meysydd y gellid bod angen sylw manylach arnynt
- cymryd camau lle bo angen i amddiffyn dysgwyr a chynnal hyder yn y system
Mae ein penderfyniadau wedi’u seilio ar dystiolaeth ac yn cael eu llywio gan y niwed posibl i ddysgwyr.
Ein ffocws
Mae rheoleiddio yn cefnogi system addysg drydyddol mewn sawl ffordd, er enghraifft drwy:
- sicrhau bod yr addysgu a’r dysgu o ansawdd da
- helpu darparwyr i aros yn sefydlog yn ariannol
- annog darparwyr i gynnal eu darpariaeth yn dda a gwneud penderfyniadau er budd pennaf dysgwyr
- cynyddu cyfleoedd i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
- cael cynlluniau clir i gefnogi dysgwyr os bydd unrhyw beth yn tarfu ar gyrsiau, neu os bydd cyrsiau’n newid.
- rhoi llais i ddysgwyr wrth lunio eu haddysg
- helpu i sicrhau bod gan bawb gyfle teg i gael mynediad at ddysgu ac i lwyddo ynddo
- cefnogi lles dysgwyr a staff, y naill a’r llall
- sicrhau bod darpar ddysgwyr yn cael gwybodaeth glir a chywir cyn dewis cwrs
- sicrhau bod ffioedd yn cael eu gosod a’u cymhwyso yn y ffordd gywir
Drwy reoleiddio’n dda, mae Medr yn helpu i gynnal ymddiriedaeth mewn addysg drydyddol yng Nghymru.
Cysylltu â ni
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am waith rheoleiddio Medr, gallwch gysylltu â’n tîm Rheoleiddio.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio