Newyddion
Y Gofrestr gyntaf o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru yn dod i rym
31 Jul 2026
Mae Cofrestr statudol newydd yn cryfhau tryloywder, atebolrwydd a diogelwch dysgwyr ar draws y sector addysg uwch yng Nghymru
Daw Cofrestr Medr o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru i rym ar 1 Awst 2026, gan nodi carreg filltir allweddol yn y gwaith o reoleiddio’n effeithiol y sector trydyddol yng Nghymru.
Mae’r Gofrestr yn darparu cofnod sydd ar gael i’r cyhoedd o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru sydd wedi bodloni gofynion cofrestru Medr yn llwyddiannus. Mae’n nodi darparwyr cofrestredig a’u statws cofrestru.
Mae cofrestru yn dangos bod darparwr wedi bodloni’r gofynion cofrestru cychwynnol sylfaenol a’r amodau cofrestru cychwynnol yn foddhaol ac wedi ymrwymo i ofynion rheoleiddio parhaus a gynlluniwyd i amddiffyn dysgwyr, diogelu cyllid cyhoeddus a chynnal safonau ansawdd.
Rhaid i ddarparwyr cofrestredig barhau i fodloni amodau cofrestru parhaus drwy gydol eu cyfnod cofrestru.
Lle mae tystiolaeth o risg sylweddol yn ymwneud â chydymffurfiaeth, gall Medr osod Amod Parhaus Penodol. Mae’r mesurau hyn yn helpu i amddiffyn dysgwyr, yn cefnogi gwelliant ac yn mynd i’r afael â risgiau a nodwyd. Cyhoeddir manylion unrhyw amodau o’r fath o fewn cofnod cofrestr darparwr.
Mewn achosion difrifol, gellir tynnu darparwyr oddi ar y gofrestr os nad ydynt bellach yn bodloni gofynion cofrestru neu lle mae dadgofrestru yn ofynnol o dan ddeddfwriaeth neu’r Fframwaith Rheoleiddio. Bydd unrhyw achos o ddileu yn cael ei adlewyrchu’n gyhoeddus yn y gofrestr.
Mae’r Gofrestr yn cynnwys dau gategori:
Addysg Uwch (Craidd)
Mae darparwyr yn gymwys i gael cyllid addysg uwch Medr, gallant gynnig cyrsiau sydd wedi’u dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth myfyrwyr Llywodraeth Cymru ac maent yn ddarostyngedig i ofynion rheoleiddio ychwanegol.
Addysg Uwch (Amgen)
Nid yw darparwyr yn gymwys i gael cyllid grant addysg uwch Medr ond gallant gynnig cyrsiau sydd wedi’u dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth myfyrwyr Llywodraeth Cymru ar lefel is na’r categori craidd.
Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:
“Mae cyflwyno’r Gofrestr yn gam pwysig wrth gryfhau system addysg drydyddol Cymru. Mae’n rhoi gwybodaeth glir i ddysgwyr, myfyrwyr a rhanddeiliaid am ddarparwyr sydd wedi bodloni gofynion cofrestru Medr ac sy’n destun goruchwyliaeth reoleiddiol barhaus.
“Mae’r Gofrestr yn cefnogi tryloywder ac atebolrwydd wrth helpu i sicrhau hyder yn y ddarpariaeth addysg uwch ledled Cymru.”
Mae’r Gofrestr ar gael nawr.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio