Rheoleiddio 

Beth mae rheoleiddio yn ei olygu yn Medr

Dyma sut mae Medr yn helpu i sicrhau bod addysg drydyddol yng Nghymru yn gweithio mewn modd sy’n deg ac yn ddibynadwy i ddysgwyr. Mae’n rhoi sicrwydd bod darparwyr yn bodloni’r safonau a nodir yn y gyfraith a bod y system yn gweithredu fel y dylai.

Mae’r Fframwaith Rheoleiddio yn dwyn ynghyd y prif elfennau y mae Medr yn eu defnyddio i oruchwylio’r sector.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • yr hyn y mae’n rhaid i ddarparwyr ei fodloni i ymuno â’r Gofrestr o ddarparwyr addysg uwch
  • yr amodau sy’n berthnasol i ddarparwyr rydyn ni’n eu rheoleiddio neu’n eu hariannu
  • trefniadau ar gyfer agweddau fel Cynlluniau Ffioedd a Mynediad a Dynodi Cyrsiau Penodol

Gyda’i gilydd, mae’r elfennau hyn yn ein helpu i ddeall a yw darparwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau ac a yw dysgwyr yn cael eu trin yn deg ar draws gwahanol fathau o ddarpariaeth.

Mae’n rhaid i sefydliad sydd yn dymuno i’w gyrsiau israddedig amser llawn gael eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyMae Medr yn rheoleiddio mewn ffordd sy’n glir, yn gymesur, yn gyson ac yn seiliedig ar risg.

Rydym yn defnyddio ystod eang o wybodaeth i ddeall yr hyn sy’n digwydd ar draws y sector ac i nodi ble mae angen sylw.

Mae ein gwaith yn cynnwys:

  • monitro sut mae darparwyr yn bodloni’r amodau sy’n berthnasol iddynt
  • siarad â darparwyr i ddeall eu cyd-destun ac unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg
  • nodi meysydd y gellid bod angen sylw manylach arnynt
  • cymryd camau lle bo angen i amddiffyn dysgwyr a chynnal hyder yn y system

Mae ein penderfyniadau wedi’u seilio ar dystiolaeth ac yn cael eu llywio gan y niwed posibl i ddysgwyr.

Mae rheoleiddio yn cefnogi system addysg drydyddol mewn sawl ffordd, er enghraifft drwy:

  • sicrhau bod yr addysgu a’r dysgu o ansawdd da
  • helpu darparwyr i aros yn sefydlog yn ariannol
  • annog darparwyr i gynnal eu darpariaeth yn dda a gwneud penderfyniadau er budd pennaf dysgwyr
  • cynyddu cyfleoedd i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
  • cael cynlluniau clir i gefnogi dysgwyr os bydd unrhyw beth yn tarfu ar gyrsiau, neu os bydd cyrsiau’n newid.
  • rhoi llais i ddysgwyr wrth lunio eu haddysg
  • helpu i sicrhau bod gan bawb gyfle teg i gael mynediad at ddysgu ac i lwyddo ynddo
  • cefnogi lles dysgwyr a staff, y naill a’r llall
  • sicrhau bod darpar ddysgwyr yn cael gwybodaeth glir a chywir cyn dewis cwrs
  • sicrhau bod ffioedd yn cael eu gosod a’u cymhwyso yn y ffordd gywir

Drwy reoleiddio’n dda, mae Medr yn helpu i gynnal ymddiriedaeth mewn addysg drydyddol yng Nghymru.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am waith rheoleiddio Medr, gallwch gysylltu â’n tîm Rheoleiddio.

Newyddion a chyhoeddiadau rheoleiddio

Newyddion
3 doors

Newyddion

System reoleiddio newydd ar gyfer y sector addysg drydyddol yn cael ei lansio

01 Apr 2026

Darllen
Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Medr/2026/13: Fframwaith rheoleiddio Medr ar gyfer darparwyr trydyddol

01 Apr 2026

Darllen
Newyddion

Newyddion

Diweddariad gan Medr: yr allu i ddilyn cyrsiau gradd arbenigol yn y celfyddydau perfformio yn Lloegr

04 Mar 2026

Darllen
Newyddion

Newyddion

Medr yn lansio ail ymgynghoriad ar bwerau rheoleiddio

22 Oct 2025

Darllen
Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Medr/2025/25: Ymgynghoriad ar system reoleiddio newydd gan gynnwys amodau cofrestru a chyllid

22 Oct 2025

Darllen
Blog
Jigsaw figures magnifying glass

Blog

Blog: Fframwaith Ansawdd Medr: y camau nesaf

09 Sep 2025

Darllen
Ymatebion i ymgynghoriadau

Ymatebion i ymgynghoriadau

Rheoleiddio darparwyr addysg uwch a dynodi cymorth i fyfyrwyr

29 Jul 2025

Darllen
Newyddion

Newyddion

Mae Medr yn parhau i ymgysylltu ynghylch trefniadau rheoleiddio newydd drwy ddigwyddiadau â phresenoldeb uchel

19 Jun 2025

Darllen
Newyddion

Newyddion

Corff trydyddol newydd yn lansio ymgynghoriad mawr ar bwerau rheoleiddio

15 May 2025

Darllen
Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Medr/2025/02: Ymgynghoriad ar system reoleiddio newydd gan gynnwys amodau cofrestru a chyllid

15 May 2025

Darllen

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio