This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Sta/Medr/14/2026: Mesurau monitro cydraddoldeb hil ar gyfer addysg uwch: rhwng mis Awst 2016 a mis Gorffennaf 2025

Ymgeiswyr, ceisiadau a chyfraddau cynigion
  • Mae cyfrannau’r ymgeiswyr a cheisiadau UCAS â’u domisil yn y DU i gyrsiau israddedig amser llawn yn narparwyr Addysg Uwch (AU) Cymru a oedd o gefndir ethnig leiafrifol wedi cynyddu ar y cyfan rhwng 2016 a 2025. Roedd hyn yn wir am bob un o’r grwpiau cefndir ethnig leiafrifol a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn (Asiaidd, Du, Cymysg ac Arall).
  • Mae canran yr ymgeiswyr y gwnaed cynnig iddynt wedi bod yn gyson uwch ar gyfer y rhai o gefndir Gwyn neu gefndir ethnig Cymysg na’r rhai o gefndir Asiaidd, Du neu gefndir ethnig Arall. Roedd hyn yn wir ar gyfer ymgeiswyr 18 oed ac ymgeiswyr o bob oed.
  • Mae cyfran yr ymgeiswyr a gafodd eu lleoli ar gyfer mynediad i addysg uwch (a dderbyniwyd ar gwrs) a oedd o gefndiroedd ethnig leiafrifol wedi cynyddu ar y cyfan rhwng 2016 a 2025.
Myfyrwyr
  • Mae cyfran y dechreuwyr israddedig o gefndiroedd ethnig leiafrifol â’u domisil yn y DU yn narparwyr AU Cymru wedi cynyddu o 10.3% yn 2016/17 i 19.8% yn 2024/25. Ceir tuedd gyffredinol bod cyfran gynyddol o ddechreuwyr yn dod o bob un o’r grwpiau cefndir ethnig Asiaidd, Du, cefndir ethnig Cymysg a chefndir ethnig Arall, gyda’r cynnydd mwyaf ymhlith y rhai o gefndir ethnig Asiaidd.
  • Rhwng 2016/17 a 2024/25, mae myfyrwyr o gefndir ethnig Gwyn yn gyson wedi bod yn fwy tebygol o gael dyfarniad gradd anrhydedd dosbarth cyntaf na myfyrwyr o unrhyw gefndir ethnig arall.
  • Mae myfyrwyr o gefndir ethnig Du yn gyson wedi bod yn fwy tebygol o gael dyfarniad gradd ail ddosbarth is neu drydydd dosbarth na myfyrwyr o gefndir ethnig arall.
Staff
  • Mae cyfran y staff, yn rhai academaidd ac anacademaidd, o gefndiroedd ethnig leiafrifol wedi cynyddu rhwng 2016/17 a 2024/25. Mae’r cynnydd mwyaf wedi bod ymhlith staff o gefndiroedd ethnig Asiaidd.
  • Mae staff academaidd o gefndir ethnig Gwyn wedi bod yn gyson yn fwy tebygol o fod â chyflogaeth ar delerau parhaol na staff o unrhyw gefndir ethnig arall.
  • Ar gyfer staff anacademaidd hwythau, y rhai o gefndir ethnig Gwyn fu fwyaf tebygol o fod â chyflogaeth ar delerau parhaol. Fodd bynnag, yn 2024/25 bu cynnydd yng nghyfrannau’r staff o gefndir ethnig Arall a chefndir Cymysg â chyflogaeth ar delerau parhaol a gostyngiad yn y gyfran o gefndir ethnig Gwyn, gan leihau’r gwahaniaeth.
  • Mae staff academaidd o gefndiroedd ethnig Du wedi bod yn fwy tebygol o fod yn cael eu cyflogi ar radd ganol neu is o’i gymharu â staff o gefndir ethnig arall. Cyflogwyd cyfran uwch o staff academaidd o’r grwpiau cefndir ethnig Gwyn a chefndir ethnig Arall yn y graddau uwch, o’i gymharu â’r grwpiau cefndir ethnig arall.
  • Mae gwahaniaethau rhwng cefndiroedd ethnig yng nghyfran y staff anacademaidd a gyflogir ym mhob gradd wedi lleihau rhwng 2016/17 a 2024/25.
Llywodraethwyr
  • Er bod nifer y llywodraethwyr yn sector addysg uwch Cymru yn isel, cynyddodd y gyfran a oedd o gefndiroedd ethnig leiafrifol o 3.0% yn 2017/18 i 16.0% yn 2024/25.

Sta/Medr/14/2026: Mesurau monitro cydraddoldeb hil ar gyfer addysg uwch: rhwng mis Awst 2016 a mis Gorffennaf 2025

Dyddiad:  22 Hydref 2026

Dynodiad:  Ystadegau Swyddogol

Crynodeb:  Mae’r cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd gan UCAS ac a gasglwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), gan roi ffocws penodol ar gefndiroedd ethnig y rhai sy’n cyflwyno cais i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru, sy’n astudio mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru a staff sy’n gweithio mewn prifysgolion yng Nghymru.

Thema:  Addysg uwch

Ffynhonnell:  Data diwedd cylch UCAS a chofnodion Myfyrwyr a Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)

Sta/Medr/14/2026 Mesurau monitro cydraddoldeb hil ar gyfer addysg uwch: rhwng mis Awst 2016 a mis Gorffennaf 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio