Newyddion
Medr yn lansio ymgynghoriad ar fesurau perfformiad ansawdd darparwyr
20 Oct 2026
Mae Medr wedi lansio ei ymgynghoriad ar Fesurau Perfformiad Ansawdd newydd heddiw fel rhan o’i ddull o reoleiddio darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cyflwyno’r mesurau unigol ac yn amlinellu’r ffordd mae Medr yn cynnig eu defnyddio yng nghyd-destun ei fframwaith rheoleiddio.
Bwriedir i’r Mesurau Perfformiad Ansawdd helpu Medr i fod yn gyson wrth asesu cydymffurfiaeth y sector addysg drydyddol â’r amod rheoleiddio ansawdd a gwelliant parhaus.
Bydd y mesurau’n helpu i wneud hyn mewn ffordd gyfannol, ac yn hwyluso dealltwriaeth gyd-destunol gyffredin o berfformiad, y bydd yn ei defnyddio fel sail ar gyfer sgyrsiau â darparwyr ac er mwyn deall blaenoriaethau o ran gwelliant parhaus ym mhob rhan o’r sector.
Uchelgais Medr yw cefnogi ymdrechion darparwyr i wella’n barhaus drwy rannu’r wybodaeth hon, a bydd y mesurau hefyd yn cynnig ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth er mwyn i ddarparwyr eu hunain ddeall eu perfformiad o fewn y sector ehangach ac o fewn eu cyd-destun.
Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:
“Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynrychioli adeg allweddol ar ein taith reoleiddio, ac mae’n dilyn llwyddiant lansio ein fframwaith rheoleiddio ym mis Awst 2026. Rydyn ni’n anhygoel o ddiolchgar am yr ymgysylltu anffurfiol adeiladol sydd wedi bod â’n cynigion hyd yma, a’r adborth sydd wedi cael ei roi drwy ymatebion i waith ymgynghori blaenorol.
“Bydd y cynigion hyn, sy’n seiliedig ar gyngor gan ein Pwyllgor Ansawdd, yn ein galluogi i ffurfio darlun gwell o berfformiad yn y sector, gan weithio tuag at ddatblygu dull cydlynol o ystyried data a thystiolaeth yn y sector addysg drydyddol yng Nghymru.
Ymgynghoriad ar fesurau perfformiad ansawdd darparwyr ar gyfer addysg drydyddol“Rydyn ni’n croesawu pob barn ar y cynigion hyn er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r diben ac y byddant, yn y pen draw, yn helpu Medr, darparwyr a rhanddeiliaid i ddeall beth sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sector yn well a sicrhau profiad o ansawdd da i’n dysgwyr.”
Nodiadau
Beth maen nhw’n ei gynnwys?
Mae’r mesurau arfaethedig yn adlewyrchu’r meysydd a nodir yn Fframwaith Ansawdd Medr, gan gynnwys cyfraddau cwblhau, cynnydd a chyrchfannau.
Mae’r ymgynghoriad hefyd yn nodi methodoleg meincnodi Medr, sy’n rhoi meincnod ar gyfer y rhan fwyaf o’r mesurau er mwyn i ddarparwyr ddeall sut beth yw eu perfformiad cyd-destunol pan gaiff ffactorau megis lefel gweithgarwch, lefel y cymhwyster uchaf a enillwyd cyn rhaglen ddysgu, pwnc astudio, cymwysterau mynediad, ac oedran, eu hystyried.
Mae’r Mesurau Perfformiad Ansawdd yn canolbwyntio ar berfformiad ar lefel darparwyr yn y meysydd a nodir yn yr ymgynghoriad. Bydd Medr yn gwneud gwaith ar wahân i gyfleu ei uchelgeisiau hirdymor ar lefel y sector a sut y bydd yn mesur ei gynnydd tuag at gyflawni’r uchelgeisiau hynny, er enghraifft fel rhan o’r gwaith i ddatblygu y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg Drydyddol.
Sut y bydd Medr yn defnyddio’r mesurau?
Bydd Medr yn defnyddio’r mesurau fel rhan o’i waith ehangach i ddadansoddi gwybodaeth am berfformiad er mwyn llywio asesiadau o gydymffurfiaeth darparwyr â’r fframwaith rheoleiddio. Byddant hefyd yn ei helpu i ddeall blaenoriaethau o ran gwelliant parhaus ym mhob rhan o’r sector, a chanfod unrhyw faterion neu dueddiadau mewn data y gall fod angen i drafod gyda darparwr. Fel arfer, bydd unrhyw faterion y mae’n ei nodi o ran perfformiad neu dueddiadau yn arwain at sgwrs â darparwr, er mwyn ei alluogi i roi’r deilliannau yn eu cyd-destun.
Nid yw Medr yn cynnig y bydd y mesurau hyn yn hwyluso dull sy’n seiliedig ar drothwyon ond, yn hytrach na hynny, y bydd y data’n llywio ei waith i ddeall ansawdd a gwelliant parhaus ac ymwneud â’r maes hwnnw drwy’r sector cyfan.
Gan y bydd y mesurau’n cael eu cyhoeddi, bydd y cynigion yn ddefnyddiol i ddarparwyr addysg drydyddol fel sail ar gyfer eu blaenoriaethau eu hunain o ran gwelliant parhaus.
Beth fydd hyn yn ei olygu i ddysgwyr?
Bydd y wybodaeth ar gael yn gyhoeddus, sy’n golygu y bydd dysgwyr yn gallu gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â’u llwybrau addysgol. Mae llais y dysgwr yn fesur allweddol a fydd yn llywio gweithgarwch Medr ym maes ansawdd a gwelliant parhaus.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio