This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Newyddion

Medr yn lansio ffordd newydd o gynnal prentisiaethau yng Nghymru

Mae Medr wedi lansio proses newydd sydd â’r nod o greu cyfleoedd newydd i gynnal prentisiaethau o fis Awst 2027 ymlaen.

Bydd y Rhaglen Brentisiaethau newydd, am y tro cyntaf erioed, yn cynnig grantiau i rwydwaith o ddarparwyr sy’n gallu cynnal prentisiaethau mewn amrywiaeth o fframweithiau sector, o Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Gofalu am Anifeiliaid i Drafnidiaeth, Moduron, Peirianneg a Logisteg.

Hefyd, caiff y Rhaglen ei hategu gan ffordd newydd o gyllido fframweithiau prentisiaeth a fydd yn cynnig llwybrau cynnydd cliriach a mwy o hyblygrwydd yn y ffordd y cânt eu cynnal.

Mae’r Rhaglen newydd wedi cael ei datblygu yn dilyn ymgysylltu ac ymgynghori helaeth â dysgwyr, cyflogwyr, cyrff diwydiant, darparwyr a phartneriaid eraill ledled Cymru, a’i nod yw creu system brentisiaethau:

  • sy’n ymateb yn gyflym i anghenion o ran sgiliau a blaenoriaethau economaidd
  • y gall dysgwyr a chyflogwyr ei deall a’i defnyddio’n haws
  • sy’n gwella’r profiad i ddysgwyr, gan gynnig llwybrau cynnydd cliriach, gwell cymorth, mwy o hyblygrwydd, a mwy o gyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg
  • sy’n cynnwys cyflogwyr yn well yn y broses o lunio fframweithiau prentisiaeth.

Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:

“Mae’r Rhaglen Brentisiaethau wedi sicrhau buddion sylweddol i ddysgwyr, i gyflogwyr ac i Gymru.

“Wrth i’r rhaglen bresennol ddirwyn i ben, mae gennym gyfle i ailddylunio’r ffordd y caiff prentisiaethau eu cynnig yng Nghymru er mwyn rhoi adlewyrchiad gwell o ofynion y gweithlu a disgwyliadau dysgwyr sy’n datblygu’n barhaus, ac achub ar y cyfleoedd y mae creu Medr wedi’u cyflwyno i’r dirwedd addysg drydyddol a sgiliau.

“Rydyn ni wedi gwrando ar yr hyn a ddywedodd dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr wrthym yn ystod ein hymgynghoriad ar ddyfodol prentisiaethau yng Nghymru. Mae’r rhaglen newydd yn adlewyrchu’r adborth hwnnw, a bydd yn fwy ymatebol i’r galw gan gyflogwyr, yn cefnogi dysgwyr drwy gydol eu gyrfaoedd, ac yn helpu Cymru i ddatblygu’r sgiliau y bydd eu hangen ar gyfer twf economaidd yn y dyfodol.

“Mae’r rhaglen newydd yn cynnig cyfleoedd newydd i ddarparwyr sy’n gallu dangos bod ganddynt y gallu sefydliadol, yr arweinyddiaeth, y gwydnwch ariannol a’r capasiti cyflwyno sy’n angenrheidiol i weithio mewn partneriaeth i gyflwyno darpariaeth prentisiaethau Cymru o 2027 ymlaen.

“I gyflogwyr, nod y rhaglen newydd yw ymateb i anghenion y gweithlu a helpu i ddatblygu sgiliau ledled Cymru.

“Gall prentisiaid y presennol a’r dyfodol fod yn hyderus y bydd hyn yn arwain at ddysgu o ansawdd da, cyfleoedd i wneud cynnydd, a chanlyniadau cadarnhaol a fydd yn eu paratoi fwyfwy ar gyfer byd gwaith sy’n newid.”

Mae manylion llawn am y broses gwneud cais i ddarpar ddarparwyr, cymhwysedd a chyllid i’w gweld ar wefan Medr:

Y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: cais am grant

Nodiadau

Gall amrywiaeth o sefydliadau wneud cais, gan gynnwys darparwyr presennol, newydd-ddyfodiaid, sefydliadau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch, sefydliadau elusennol, sefydliadau’r sector cyhoeddus a phartneriaethau cydweithredol.

Rhaid i ddarpar ddarparwyr gyflwyno cais cychwynnol er mwyn dangos eu bod yn bodloni amodau cyllid Medr erbyn 2 Hydref 2026.

Caiff digwyddiad gwybodaeth ar-lein ei gynnal am 11:00 ar 8 Medi 2026 ar gyfer darpar ddarparwyr sydd â diddordeb mewn gwneud cais i gynnal y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru. Gellir trefnu lle yn y digwyddiad hwn drwy Eventbrite.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio