This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2026/45: Biwroau Cyflogaeth a Menter: canllawiau a chyllid 2026/27

Crynodeb o’r cyhoeddiad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion a threfniadau cyllido Medr ar gyfer gweithgarwch Biwroau Cyflogaeth a Menter (EEB) yn 2026/27. Mae’n cadarnhau trefniadau monitro, llinellau amser ac yn atodi templedi monitro.

2. Nod y Biwroau Cyflogaeth a Menter yw cyflawni deilliannau cyflogaeth a hunangyflogaeth cadarnhaol ar gyfer myfyrwyr, trwy ddarparu pecyn o gymorth i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, menter ac entrepreneuraidd dysgwyr. Dylid rhoi’r cymorth hwn trwy gydweithio gyda chyflogwyr, Gyrfa Cymru, y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, a phartneriaid allweddol eraill i ddatblygu cyfleoedd i ddysgwyr yn eu rhanbarthau.

3. Dylid defnyddio’r cyllid i barhau i integreiddio darpariaeth menter ac entrepreneuriaeth o fewn y Biwroau Cyflogaeth a Menter, gan amcanu at gynyddu’r cyfleoedd hunangyflogaeth sydd ar gael i ddysgwyr ac ymadawyr, yn ogystal â hybu’r arfer o wreiddio cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth o fewn y cwricwlwm er budd dysgwyr.

Cyllid 2026/27

4. Mae cyfanswm y gyllideb sydd ar gael i gefnogi’r Biwroau Cyflogaeth a Menter rhwng 1 Awst 2025 a 31 Gorffennaf 2026 yn £1,320,000. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys £960,000 o gyllid Medr a £360,000 gan Busnes Cymru, y mae’n rhaid ei ddefnyddio i gefnogi’r elfen Menter ac Entrepreneuriaeth o weithgarwch y Biwroau Cyflogaeth a Menter mewn Sefydliadau Addysg Bellach (SABau) yng Nghymru. Bydd cyfanswm y dyraniad yn parhau i gael ei rannu’n gyfartal ar draws 12 SAB yng Nghymru fel bod pob SAB yn cael cyfanswm dyraniad o £110,000 yn 2026/27.

Monitro a ffrâm amser

5. Mae’n ofynnol i SABau gyflwyno adroddiad monitro interim a diwedd blwyddyn, gan ddefnyddio’r templedi yn Atodiad A a B, i Medr erbyn y dyddiadau a nodir yn y llinell amser ym mharagraff 24. Gan bod y cyllid menter ar gyfer 2026/27 yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, bydd gwybodaeth yr adroddir arni wrth Medr yn erbyn y gofynion hynny’n cael ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru fel y gellir monitro effaith ei chyllid.

Cam GweithreduCyfrifoldebDyddiad
Taliad cyntaf o £83,600 i Fiwroau Cyflogaeth a Menter ar gyfer 2026/27MedrMedi 2026
Cyflwyno adroddiad interim i MedrBiwroau Cyflogaeth a Menter29 Ionawr 2027
Taliad olaf o £26,400 i Fiwroau Cyflogaeth a Menter ar gyfer 2026/27MedrEbrill 2027
Cyflwyno adroddiad diwedd blwyddyn i MedrBiwroau Cyflogaeth a Menter30 Gorffennaf 2027
Cyflwyno Datganiad o Wariant i MedrBiwroau Cyflogaeth a Menter31 Awst 2027

Medr/2026/45: Biwroau Cyflogaeth a Menter: canllawiau a chyllid 2026/27

Dyddiad:  08 Medi 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/45

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg bellach

Ymateb erbyn: Cyflwyno adroddiad interim – 29 Ionawr 2027;  Cyflwyno adroddiad diwedd blwyddyn – 30 Gorffennaf 2027

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion a threfniadau cyllido Medr ar gyfer gweithgarwch Biwroau Cyflogaeth a Menter (EEB) yn 2026/27. Mae’n cadarnhau trefniadau monitro, llinellau amser ac yn atodi templedi monitro.

Medr/2026/45 Biwroau Cyflogaeth a Menter: canllawiau a chyllid 2026/27

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio