This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2026/41: Canllawiau ar gynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth a chyhoeddiad am gyllid ar gyfer colegau addysg bellach

Canllawiau cryno: Cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth

Er cysondeb a pharhad, mae’r ddogfen Canllawiau ar Gynlluniau Gweithredu Gwrth-hiliaeth Colegau Addysg Bellach hon wedi’u llywio gan ganllawiau cyllid blaenorol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Medr.

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys cyfeiriadau uniongyrchol at ganllawiau gwrth-hiliaeth blaenorol. Fe’u datblygwyd ymhellach gan Medr i roi ystyriaeth i’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (CGCW) a diweddariad 2024 gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn croesawu cyfraniad parhaus colegau at y gwaith hwn drwy eu hymrwymiad i’r camau gweithredu yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Yn unol â’n gwerthoedd, rydym eisiau cydweithio â’r sector er mwyn helpu i fodloni gofynion y canllawiau hyn. Gallwch gysylltu â’r tîm yn [email protected].

Rydym wedi ymrwymo i gynnal yr un swm o gyllid ar gyfer gweithredu gwrth-hiliaeth ar gyfer colegau yn 2026/27. Bydd colegau’n derbyn £25k, a disgwylir iddynt:

  • barhau i ystyried Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol 2022 i 2026;
  • datblygu ac ymestyn eu cynlluniau gweithredu ar gyfer 2025//26;
  • parhau i nodi a gwneud cynnydd gyda blaenoriaethau 2026/27 sy’n seiliedig ar ddata;
  • diweddaru eu hasesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb;
  • adeiladu ar ddeilliannau hunanasesu a nodwyd yn ymarfer matrics aeddfedrwydd Llywodraeth Cymru o 2025/26; ac
  • ymgysylltu â’r prosiect cwricwlwm gwrth-hiliaeth (Metaverse) (a’r gwerthusiad ohono).

Dylai cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth colegau fod yn ‘ddogfennau byw’ a gaiff eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd fel rhan o brosesau blynyddol y coleg ar gyfer cynllunio strategol, risg a sicrhau ansawdd.

Nodiadau

Dylai polisïau, gweithdrefnau a chynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth gwmpasu’r ystod lawn o ddarpariaeth a gynigir gan y Coleg (dysgwyr AB, prentisiaethau, Twf Swyddi Cymru Plws, dysgu oedolion a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, addysg athrawon ac addysg uwch, fel y bo’n briodol).

Os yw colegau’n brif bartner mewn darpariaeth gydweithredol, dylent gynnwys partneriaid cyflawni/consortia, staff, myfyrwyr, ac arbenigwyr eraill sydd â phrofiad byw yn y canlynol (fel y bo’n briodol):

  • llunio eu gweledigaeth, eu hegwyddorion a’u gwerthoedd ar gyfer gwrth-hiliaeth, a
  • datblygu eu cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth ymhellach.

Cyflwyniad

1. Mae’r cyllid a’r wybodaeth hon yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed gan golegau yn 2022-2024 i fod yn wrth-hiliol ac maent wedi’u llywio gan ganllawiau blaenorol gan Lywodraeth Cymru a chefnogaeth y Black Leadership Group, a chanllawiau 2025/26 gan Medr.

2. Nod gwybodaeth 2026/27 yw helpu colegau i ddiweddaru eu cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth ymhellach i:

  • gyfrannu at nodau a chamau gweithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i ddod yn Gymru Wrth-hiliol;
  • gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a mesuradwy i ddysgwyr/prentisiaid a staff presennol a rhai’r dyfodol;
  • datblygu camau gweithredu wedi’u llywio gan arbenigwyr ac ymarferwyr, dysgwyr/prentisiaid a staff sydd â phrofiad byw o hiliaeth; a
  • dangos arweinyddiaeth sefydliadol, ymrwymiad ac egni i fynd i’r afael â hiliaeth mewn addysg bellach, a sicrhau newid diwylliannol.

3. Rydym yn argymell bod colegau’n darllen y ddogfen hon ochr yn ochr, ac yn yr un cyd-destun, â’r canllawiau ar gynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth ar gyfer colegau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2022.

4. Mae agenda wrth-hiliaeth uchelgeisiol Llywodraeth Cymru wedi’i chyfleu yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Rydym yn disgwyl i gynlluniau gweithredu diwygiedig colegau ystyried fersiwn ddiwygiedig y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae diweddariad y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru wedi cryfhau ei bwyslais ar arweinyddiaeth a grwpiau blaenoriaeth. Disgwylir y bydd atebolrwydd am ymrwymiad colegau i wrth-hiliaeth yn cael ei oruchwylio gan aelodau uwch priodol o staff (fel Is-Gangellorion a Phenaethiaid) gyda chefnogaeth cyrff llywodraethu. Disgwylir i golegau hefyd wella’u hymgysylltiad â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a’u cefnogaeth i’r cymunedau hynny.

5. Mae gan Medr ddyletswydd strategol i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn addysg drydyddol, gan gynnwys y modd y mae hyn yn berthnasol i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cynnwys pobl sydd dan anfantais oherwydd rhwystrau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a/neu sefydliadol.

6. Ym mis Ebrill 2026, cyhoeddodd Medr ei amodau rheoleiddio. Er mwyn bodloni gofynion yr amod Llesiant Staff a Dysgwyr, rhaid i golegau gyflwyno i Medr erbyn 30 Tachwedd 2026 eu cynllun gweithredu dwy flynedd ar lesiant staff a dysgwyr, wedi’i lywio gan hunanwerthusiadau. O dan yr amod, rhaid i ddarparwyr sicrhau trefniadau effeithiol ar gyfer llesiant a diogelwch staff a dysgwyr a chefnogaeth ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys llesiant emosiynol, iechyd meddwl, a diogelwch, gyda diogelwch wedi’i ddiffinio fel rhyddid rhag aflonyddwch, camymddygiad, trais (gan gynnwys trais rhywiol), a throseddau casineb. Bydd amod cyfle cyfartal Medr yn dod i rym yn 2027.

Diweddaru’r cynllun gweithredu

7. Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â chyfnod blwyddyn academaidd 2026/27. Rydym yn disgwyl i golegau ddiweddaru eu cynlluniau gweithredu ymhellach i ni, gan ganolbwyntio ar:
A. A. y trosolwg strategol; a
B. hunanwerthuso’r camau gweithredu creiddiol ar gyfer arweinyddiaeth.

8. Rydym yn disgwyl i golegau roi ystyriaeth i’r camau yn fersiwn ddiwygiedig y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: diweddariad 2024 wrth ddiweddaru eu cynlluniau gweithredu.

9. Disgwylir i golegau roi sicrwydd eu bod yn gwneud cynnydd yn erbyn eu trosolwg strategol. Lle ceir newid o’r cyflwyniad gwreiddiol, rydym yn disgwyl i golegau roi esboniad cryno.

10. Os yw colegau’n dewis ymestyn eu cynlluniau gweithredu ar gyfer 2025/26 tan fis Gorffennaf 2027 er mwyn hwyluso gweithgarwch parhaus a/neu dymor hwy ar gyfer adrodd yn 2026/27, rydym yn disgwyl cadarnhad o hyn yn yr adrodd.

11. Rydym yn disgwyl i gynlluniau colegau at gyfer bwrw ymlaen â’u strategaeth gael eu harwain a’u cyfarwyddo gan eu Bwrdd a’u huwch arweinwyr. Dylai’r bwrdd ac uwch arweinwyr sicrhau bod digon o adnoddau’n parhau i gael eu neilltuo ar gyfer y gwaith hwn, a’u bod yn parhau i fod yn atebol ac yn gyfrifol am ysgogi newid diwylliannol drwy ymagwedd coleg cyfan.

12. Rydym yn annog colegau i barhau i ystyried y canllawiau gwreiddiol gan y Black Leadership Group, gan gynnwys y Cynllun Deg Pwynt. Rydym yn darparu cyllid ychwanegol i gefnogi hyfforddiant gwrth-hiliaeth ledled y sector, fel blaenoriaeth ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus yn 2026/27, gan gydnabod mai hyfforddiant yw Pwynt Dau yng Nghynllun Deg Pwynt y Black Leadership Group.

Adolygu a datblygu

13. Rydym yn disgwyl i waith adolygu a datblygu gan golegau gael ei lywio gan asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb, a’i fod yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth. Rydym yn cadw’r hawl i alw asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb i mewn os ydym yn ansicr ynghylch lefel uchelgais a/neu ffocws y cynlluniau.

14. Dylai gwaith adolygu a datblygu cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth gael ei ymgorffori yng nghylch adolygu a datblygu blynyddol y colegau i lywio hunanasesu, ansawdd a datblygiad proffesiynol parhaus, cynllunio strategol (gan gynnwys yr agweddau hynny ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol y coleg sy’n gysylltiedig â hil/ethnigrwydd) a phrosesau penderfynu.

15. Dylid monitro cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth ar lefel timau, yr uwch reolwyr a’r Bwrdd, o leiaf deirgwaith y flwyddyn.

16. Yn ogystal â hynny, dylai dysgwyr, prentisiaid, staff a phartneriaid cydweithredol, a chyfeillion beirniadol, sydd â phrofiad byw, gael eu cynnwys mewn diweddariadau, gan gynnwys llywio barn am gynnydd a llunio blaenoriaethau ac anghenion hyfforddiant o ganlyniad i hynny.

Cyllid

17. Bydd colegau’n derbyn £25k ar gyfer 2026/27. Mae hyn yn cynnal lefel y cyllid a ddarparwyd yn 2025/26, ac er mwyn i golegau gynnal eu hymrwymiad i wrth-hiliaeth o 2025/26.

18. I ymateb i’r £25k o gyllid, rydym yn disgwyl i golegau:

  • roi ystyriaeth i’r fersiwn wedi’i diweddaru o’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol 2024-26;
  • diweddaru eu cynlluniau gweithredu ar gyfer 2026/27;
  • diweddaru eu hasesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb;
  • nodi blaenoriaethau sy’n seiliedig ar ddata;
  • adeiladu ar ddeilliannau hunanasesu a nodwyd yn ymarfer matrics aeddfedrwydd Llywodraeth Cymru o 2025/26; ac
  • ymgysylltu â’r prosiect cwricwlwm gwrth-hiliaeth (Metaverse) (a’i werthusiad).
Enw’r darparwrCyfanswm y dyraniad
Addysg Oedolion Cymru£25,000
Coleg Penybont£25,000
Coleg Caerdydd a’r Fro£25,000
Coleg Cambria£25,000
Coleg Gwent£25,000
Coleg Sir Gâr£25,000
Coleg Y Cymoedd£25,000
Coleg Gŵyr Abertawe£25,000
Grŵp Llandrillo Menai£25,000
Grŵp NPTC£25,000
Y Coleg Merthyr Tudful£25,000
Coleg Sir Benfro£25,000
Coleg Catholig Dewi Sant£25,000
Cyfanswm – Talu fel un llinell£325,000

19. Ar wahân, yn 2026/27 bydd Medr yn caffael hyfforddiant ledled y sector i hwyluso hyfforddiant gwrth-hiliol. Bydd hyfforddiant yn adeiladu ar y deilliannau a ddarperir gan golegau yn dilyn cwblhau matrics aeddfedrwydd y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, dadansoddiad o adroddiadau 2025/26, a mewnbwn gan y sector AB.

20. Rydym yn disgwyl i golegau roi sicrwydd i ni gan Benaethiaid/Prif Weithredwyr i gadarnhau bod yr holl gyllid a ddarparwyd wedi’i ddefnyddio i’r dibenion a nodir yn y canllawiau hyn.

21. Bydd y dyraniad llawn o £25k yn cael ei roi i’r colegau ym mis Tachwedd 2026, yn amodol ar gyflwyno cynlluniau gweithredu 2026/27. Rydym yn cadw’r hawl i adhawlio cyllid os yw’r cynlluniau neu’r monitro diwedd blwyddyn yn anfoddhaol.y.

Trefniadau adrodd

22. Dylai colegau anfon copi o’u cynllun gweithredu ar gyfer 2026/27 atom i [email protected] erbyn dydd Llun 12 Tachwedd 2026. Erbyn y dyddiad hwn, byddwn yn derbyn copïau drafft o gynlluniau nad ydynt wedi’u llofnodi gan y Bwrdd eto, gyda chynlluniau cymeradwy yn cael eu cyflwyno cyn diwedd mis Rhagfyr fan bellaf.

23. Rydym yn disgwyl i golegau gyflwyno eu templed monitro i [email protected] erbyn dydd Llun 18 Hydref 2026.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau i’w cyflwyno

24. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Savanna Jones ([email protected]).

Medr/2026/41: Canllawiau ar gynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth a chyhoeddiad am gyllid ar gyfer colegau addysg bellach

Dyddiad:  10 Awst 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/41

At:  Benaethiaid colegau addysg bellach

Ymateb erbyn:  12 Hydref 2026 a 18 Hydref 2027

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r canllawiau wedi’u hadnewyddu ar gyfer cynlluniau gwrth-hiliaeth a’r cyllid ar gyfer hynny yn 2026/27.

Gellir defnyddio’r ddogfen gyllid a gwybodaeth hon i lywio hunanasesiadau lles a chyfle cyfartal staff a dysgwyr yn y dyfodol.

Medr/2026/41 Canllawiau ar gynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth a chyhoeddiad am gyllid ar gyfer colegau addysg bellach

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio