This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2026/38: Cyllid cyfalaf addysg uwch 2026/27

Cyflwyniad

1. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd cyllid cyfalaf o £10 miliwn ar gael i’w ddyrannu o fewn blwyddyn ariannol 2026-27. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi blaenoriaethau strategol Medr.

Sail dyrannu cyllid cyfalaf

2. Bydd y cyllid cyfalaf yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar ddull fformiwläig. Gan fod y cyllid i’w ddefnyddio, o leiaf yn rhannol, i gefnogi dysgu ac addysgu, profiad y myfyrwyr a seilwaith ar gyfer myfyrwyr, mae’r dyraniadau wedi’u pennu yn seiliedig ar niferoedd y myfyrwyr. Mae nifer y myfyrwyr mewn sefydliad yn ddirprwy rhesymol ar gyfer faint o ystad a chyfleusterau sydd eu hangen. Mae’r dull hwn yn gyson â dyraniadau cyfalaf blaenorol.

3. Y niferoedd myfyrwyr a ddefnyddir ar gyfer y dyraniad cychwynnol yw niferoedd  cyfwerth ag amser llawn Cofnod Myfyrwyr HESA ar gyfer pob dull astudio, lefel a domisil yn seiliedig ar flwyddyn academaidd 2024/25. Dyma’r un sail a ddefnyddiwyd i ddyrannu’r rownd flaenorol o gyllid cyfalaf.

Cymhwyso isafswm dyraniad cyllid

4. Er mwyn darparu cyllid cyfalaf a fydd yn caniatáu i bob sefydliad fuddsoddi mewn prosiectau a fydd yn cael effaith gynaliadwy, mae isafswm dyraniad o £750,000 wedi’i gymhwyso. O ystyried ei hystâd gyfyngedig yng Nghymru, bydd trothwy isaf o 50% (£375,000) wedi’i bennu ar gyfer y Brifysgol Agored i gyfrannu at brosiectau a fydd o fudd i fyfyrwyr Cymru.

5. Mae’r cyllid ar gyfer sefydliadau lle roedd y dyraniad gwreiddiol yn seiliedig ar eu myfyrwyr cyfwerth ag amser llawn yn is na’r gwerth hwn wedi’i gynyddu i’r swm hwn ac yna mae’r myfyrwyr cyfwerth ag amser llawn ar gyfer y sefydliadau hynny wedi’u tynnu o’r cyfrifiad. Mae’r balans sy’n weddill o gyllid sydd ar gael wedi’i rannu rhwng y sefydliadau eraill yn seiliedig ar y myfyrwyr cyfwerth ag amser llawn sy’n weddill yn y cyfrifiad.

6. Darperir y dyraniadau canlyniadol ar gyfer pob sefydliad yn Atodiad A.

Cynllunio a monitro

7. Ni fydd yn ofynnol i sefydliadau gyflwyno cynlluniau i Medr ynghylch gwybodaeth am y prosiect(au) sy’n defnyddio’r buddsoddiad.

8. Mae Medr yn disgwyl i’r prosiectau sydd wedi defnyddio’r buddsoddiad cyfalaf fodloni’r meini prawf isod.

  1. Aliniad strategol
    haid i’r prosiect(au) gyd-fynd yn glir ag o leiaf un o nodau strategol Medr a chefnogi blaenoriaethau rhanbarthol neu genedlaethol perthnasol.
  2. Budd a llais myfyrwyr
    Rhaid i’r prosiect(au) fod o fudd i fyfyrwyr ac yn gwella profiad, canlyniadau, llesiant neu gyfranogiad myfyrwyr. Rhaid i’r sefydliad ymgysylltu â llais y myfyrwyr er mwyn datblygu’r prosiect(au) ar y cyd.
  3. Cynaliadwyedd ac effaith hirdymor
    Rhaid i’r buddsoddiad ddarparu gwerth parhaol, gan gynnwys y gallu i addasu yn y dyfodol, defnydd effeithlon o adnoddau, cyfraniad at sero net lle bo’n berthnasol, a buddion y gellir eu cynnal dros amser.

9. Byddwn yn parhau i fonitro metrigau HESA drwy’r datganiadau data cyhoeddedig ac felly dylai sefydliadau barhau i fod yn ymwybodol o’r effaith y gallai prosiectau ei chael arnynt.

10. Os yw sefydliad yn rhagweld na fydd yn gallu gwario ei ddyraniad llawn, dylai hysbysu Medr cyn gynted â phosibl a bydd unrhyw gronfeydd sy’n weddill yn cael eu hailddyrannu i sefydliadau eraill drwy’r dull fformiwläig a ddisgrifiwyd yn flaenorol.

11. Cynhelir ymarfer monitro yn 2027 i sicrhau bod y cyllid wedi’i ddefnyddio fel y bwriadwyd ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr effaith y mae’r buddsoddiad wedi’i chael. Fel rhan o ymgysylltiad parhaus Medr â sefydliadau, cynhelir trafodaethau ym mis Ionawr i adolygu prosiectau a ariannwyd yn y flwyddyn academaidd flaenorol, ystyried cynnydd yn erbyn prosiectau sy’n cael eu cyflawni yn y flwyddyn academaidd gyfredol, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd ariannu posibl yn y dyfodol lle bo modd.

12. Fel rhan o’r ymarferion monitro, disgwylir i sefydliadau ddarparu dadansoddiad o’r gwariant cyfalaf a manylion y prosiectau y mae’r cyllid wedi cyfrannu atynt. Disgwylir hefyd i sefydliadau ddarparu crynodeb ansoddol o’r canlyniadau a’r effeithiau cadarnhaol y mae’r buddsoddiad hwn wedi’u cael, gan gynnwys sut mae’r buddsoddiad wedi cefnogi blaenoriaethau strategol Medr a’r meini prawf a amlinellwyd uchod.

Amserlen

13. Bydd Medr yn trefnu talu’r cronfeydd a ddyrannwyd i sefydliadau ym mis Hydref 2026.

14. Cynhelir trafodaethau â sefydliadau ym mis Ionawr 2027 i drafod cynnydd prosiectau, adolygu unrhyw danwariant gwirioneddol neu ddisgwyliedig a thrafod effeithiau prosiectau a fuddsoddwyd ynddynt yn y blynyddoedd blaenorol. Bydd ymgysylltiadau drwy gyflwyno ffurflenni, cyfarfodydd naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb lle mae Medr a’r sefydliad yn credu bod angen.

15. Gofynnir am ffurflen werthuso derfynol gan y sefydliad ym mis Gorffennaf 2027, yn darparu crynodeb o wariant, cyflawniad y prosiect a’r canlyniadau a gyflawnwyd.

Gwybodaeth bellach

16. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].

Medr/2026/38: Cyllid cyfalaf addysg uwch 2026/27

Dyddiad:  28 Gorffennaf 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/38

At:  Penaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb  

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi manylion am y sail y bydd cyfalaf yn cael ei ddyrannu i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2026/27 a’n dull o fonitro. Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2026/27.

Medr/2026/38 Cyllid cyfalaf addysg uwch 2026/27

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio