Cyhoeddiadau
Medr/2026/28: Gradd-brentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27
25 Jun 2026
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am fuddsoddiad mewn gradd-brentisiaethau ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, gan gynnwys y ffordd y caiff y cyfanswm cyllid o £10.111m ei ddyrannu i sefydliadau addysg uwch, ac mae’n nodi’r meini prawf y bydd angen i sefydliadau addysg uwch a phrentisiaid eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid. Caiff llythyrau cyllido eu hanfon ar wahân cyn bo hir i sefydliadau sy’n cael cyllid.
2. Caiff cyllid Medr ar gyfer gradd-brentisiaethau ei roi i sefydliadau addysg uwch ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â chynnal y cyrsiau hyn. Caiff unrhyw gyllid cymorth i fyfyrwyr unigol y gall gradd-brentisiaid fod yn gymwys i’w gael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.
3. Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau wedi cael cyllid ychwanegol ar gyfer dechreuwyr newydd, sy’n bosibl oherwydd y cynnydd yn y gyllideb ar gyfer gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn academaidd 2026/27. Fodd bynnag, dylid nodi ei bod yn ymddangos bod rhai sefydliadau wedi cael cyfanswm dyraniad cyllid llai o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Y rheswm dros hyn yw bod ganddynt lai o ddysgwyr sy’n parhau ym mlwyddyn academaidd 2026/27.
4. Anogir darparwyr i hysbysebu’r cyfleoedd sydd ar gael i gyflogwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill er mwyn sicrhau y gall cynifer â phosibl o brentisiaid gael budd o raglen gradd-brentisiaeth gymwys a chofrestru arni.
Dull cyllido
5. Mae Medr wedi pennu blaenoriaethau strategol ar gyfer buddsoddi ym mlwyddyn academaidd 2026/27 sy’n ystyried data o’r sector sy’n dangos ble y gellid gwella deilliannau a gwneud y defnydd gorau o’r gyllideb sydd ar gael.
6. Mae’r blaenoriaethau cyllido ar gyfer gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn academaidd 2026/27 fel a ganlyn:
- prentisiaethau sy’n parhau;
- dechreuwyr newydd, yn enwedig y rhai hynny sydd rhwng 18 a 24 oed (yn unol â’r Warant i Bobl Ifanc);
- uwchsgilio cyflogeion presennol;
- prentisiaid â nodweddion gwarchodedig;
- darpariaeth Gymraeg;
- llwybr gradd adeiladu newydd – Technolegydd Pensaernïol.
7. Mae’r trefniadau cyllido fel a ganlyn:
- Dyrennir cyllid yn seiliedig ar nifer disgwyliedig y prentisiaethau a fydd yn parhau a’r rhai newydd a fydd yn dechrau yn ystod 2026/27;
- Bydd y cyllid yn cwmpasu fframweithiau gradd-brentisiaeth ym meysydd adeiladu, digidol, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch;
- Mae’r gwerth credyd wedi cael ei gyfrifo gan ddefnyddio cyfanswm o £27,000 ar gyfer cwrs â gwerth credyd nodweddiadol o 360, h.y. £75 fesul gwerth credyd. Felly, bydd prentis y disgwylir iddo astudio 120 o gredydau y flwyddyn ar gwrs tair blynedd yn denu £9,000 o gyllid y flwyddyn.
8. Ni ellir hawlio cyllid am gredyd a ddyfernir drwy gydnabod dysgu blaenorol a/neu gostau cysylltiedig y broses hon.
Cyllid yn ystod blwyddyn academaidd 2026/27
9. Caiff Medr ei gyllideb gan Lywodraeth Cymru fesul blwyddyn ariannol. Wedyn, caiff y gyllideb ei throsi’n ddyraniadau ar gyfer blwyddyn academaidd sy’n tybio y bydd y gyllideb yn parhau i fod ar gael y flwyddyn ariannol ganlynol. Caiff dyraniadau i ddarparwyr eu gwneud fesul blwyddyn academaidd.
10. Y gyllideb ar gyfer gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn ariannol 2026-27 yw £10.111m, a’r swm sydd ar gael i’w ddyrannu i sefydliadau ym mlwyddyn academaidd 2026/27 yw £10.111m. Fodd bynnag, didynnir £180,183 o’r dyraniad hwn ar gyfer taliad wedi’i addasu i sefydliadau addysg uwch yn seiliedig ar eu ffurflenni data HESA wedi’u gwirio ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Felly, cyfanswm y dyraniad ar gyfer cynnal gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn 2026/27 yw £9,930,967.
11. Mae dyraniadau sefydliadau yn ystyried cynnydd yn nifer y dysgwyr sy’n parhau ym mlwyddyn academaidd 2026/27. Cytunwyd ar y dull o ddyrannu cyllid ar gyfer dechreuwyr newydd yn ystod 2026/27 gyda darparwyr gradd-brentisiaethau o’r blaen, ac mae’n seiliedig ar weithgarwch yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26 a’r ffurflen ddata Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (HESES) a gyflwynwyd gan sefydliadau addysg uwch ym mis Chwefror 2026.
Methodoleg dyrannu
12. Mae’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i gapio’r cyllidebau yn unol â’r cyllid sydd ar gael yn seiliedig ar nifer o gamau:
- Mae nifer y myfyrwyr sy’n parhau ar fframweithiau yn ystod blwyddyn academaidd 2026/27 yn seiliedig ar niferoedd a gyflwynwyd gan bob sefydliad ac mae’r cyllid yn seiliedig ar y gyfradd gyllido yn unol â hyd disgwyliedig y cwrs. Daw’r cyfanswm cyllid hwn sy’n ofynnol ar y sector ar gyfer myfyrwyr sy’n parhau o gyfanswm y gyllideb sydd ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27.
- Caiff cyllid blwyddyn academaidd 2026/27 ar gyfer dechreuwyr newydd ar fframweithiau gradd-brentisiaeth ei ddosbarthu ar sail y dull a gafodd y mwyaf o gefnogaeth yn ein hymgynghoriad anffurfiol â sefydliadau yn 2024/25.
13. Mae’r dyraniad cyllid yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:
- Cyllido dysgwyr sy’n parhau yn unol â’r nifer a gyflwynwyd gan bob sefydliad;
- Dyrannu cyllid ar gyfer o leiaf bum dechreuwr newydd, yn seiliedig ar £9,000 fesul prentis, i bob sefydliad;
- Dyrannu cyllid ar gyfer dechreuwyr newydd ychwanegol yn gymesur â nifer y dechreuwyr newydd yn 2025/26 a data gwariant cyffredinol y sefydliad addysg uwch ym mis Ionawr 2026, o gymharu â’i gyllideb wreiddiol a oedd yn seiliedig ar y ffurflen HESES.
14. Yr uchafswm y gellir ei ddyrannu er mwyn bodloni gofynion pob prentisiaeth yw £27,000. Mewn blynyddoedd blaenorol, rydym wedi dyrannu cyllideb o £9,000 y flwyddyn fesul prentis, yn seiliedig ar y dybiaeth mai tair blynedd fydd hyd rhaglen. Mae uchafswm y gyllideb a ddyrennir ar gyfer gradd-brentisiaethau newydd a’r rhai sy’n parhau yn seiliedig ar yr hyd cwrs byrraf, ond, pan fydd hyd y cwrs yn hwy, caiff y cyllid ei dalu ar sail nifer gwirioneddol y credydau a gwblheir.
15. Mae cyllideb uchaf gyfunol ar gyfer prentisiaethau newydd a’r rhai sy’n parhau ym mlwyddyn academaidd 2026/27 wedi cael ei dyrannu, fel y bydd modd rheoli’r rhaglen gradd-brentisiaethau yn hyblyg o fewn sefydliadau a rhwng fframweithiau a chymwysterau er mwyn bodloni’r galw gan gyflogwyr.
Dyraniadau cyllid 2026/27
16. Cyfanswm y cyllid sydd ar gael i’w ddyrannu yw £10.111m llai £180,183 (addasiadau i gyllid o flwyddyn academaidd 2024/25 i’w dalu i sefydliadau addysg uwch ym mlwyddyn ariannol 2026-27 yn seiliedig ar ddata wedi’u gwirio).
| Darparwr | Cyfanswm y cyllid (£) |
|---|---|
| Prifysgol Bangor | 911,939 |
| Prifysgol Metropolitan Caerdydd | 1,037,938 |
| Prifysgol Caerdydd | 243,460 |
| Y Brifysgol Agored | 182,750 |
| Prifysgol Abertawe | 1,194,842 |
| Prifysgol De Cymru | 2,114,570 |
| Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant | 2,599,512 |
| Prifysgol Wrecsam | 1,645,956 |
| Cyfanswm | 9,930,967 |
Talu grant
17. Dylai sefydliadau addysg uwch ddisgwyl cael dau daliad ar gyfer gradd-brentisiaethau yn ystod blwyddyn academaidd 2026/27. Caiff 60% o gyfanswm dyraniad cyllid sefydliad ei dalu ym mis Hydref 2026 a chaiff y 40% sy’n weddill ei dalu ym mis Mawrth 2027. Caiff addasiadau i’r ail daliad eu cyfrifo fel yr amlinellir ym mharagraffau 22-25.
18. Os bydd newidiadau i’r gyllideb neu gyfyngiadau rheoli arian parod (e.e. terfyn Medr ar gario ymlaen o un flwyddyn ariannol i’r llall), mae’n bosibl y bydd angen addasu proffil yn ystod y flwyddyn. Rhoddir gwybod yn ysgrifenedig ymlaen llaw os bydd hyn yn digwydd.
Gofynion Gradd-Brentisiaethau
19. Er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid, rhaid i brentis fod wedi’i gofrestru ar fframwaith prentisiaeth cymeradwy a rhaid i’r ddarpariaeth gydymffurfio â’r gofynion canlynol:
- Bydd prentisiaid yn treulio 51% neu fwy o’u hamser yn gweithio yng Nghymru;
- Rhaid i gytundeb prentisiaeth fod ar waith ac wedi’i lofnodi gan y dysgwr, y cyflogwr a’r darparwr;
- Cynhelir asesiad cychwynnol gyda’r prentis er mwyn sicrhau y caiff profiad a dysgu blaenorol eu cydnabod, lle bo hynny’n briodol, ac y caiff gofynion cymorth dysgu ychwanegol eu hadnabod a’u cefnogi; gall prentisiaid feddu ar gymwysterau ar lefel gyfatebol sy’n eu galluogi i ddilyn y fframwaith ac a allai fod y tu allan i’r sector a ddewiswyd;
- Caiff prentisiaid eu cefnogi yn y gweithle ag o leiaf 20% o ddysgu i ffwrdd o’r gwaith neu chwe awr o hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith bob wythnos ar gyfer unigolyn cyfwerth ag amser llawn (unigolyn sy’n gweithio 30 awr neu fwy) a/neu’r hyn sy’n cyfateb i oriau dan arweiniad tybiannol ar gyfer y credydau a gaiff eu hastudio;
- Bydd prentisiaid yn ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith;
- Caiff cynnydd prentisiaid ei adolygu’n aml mewn proses a fydd yn cynnwys y sefydliad a/neu’r darparwr a ariennir gan Medr, y prentis a’r cyflogwr;
- Bydd prentisiaid yn gallu manteisio ar yr ystod lawn o wasanaethau myfyrwyr a gynigir gan y darparwr, a’i undeb myfyrwyr;
- Cyflwynir data fel y bo’n ofynnol gan Medr;
- Gall prentis ymadael â’r cymhwyster ag achrediad neu ardystiad o’r hyn a ddysgwyd. Ni fydd hyn yn gyfystyr â chwblhau prentisiaeth lawn yn llwyddiannus.
20. Bydd bodloni’r gofynion ar gyfer gradd-brentisiaethau a chyflawni’r blaenoriaethau cyllido yn rhoi sicrwydd i Medr bod cysondeb agos â’r rhaglen brentisiaethau ehangach yng Nghymru a bod y gofynion deddfwriaethol perthnasol yn cael eu bodloni. Mae Medr yn disgwyl i sefydliadau a ariennir ddogfennu tystiolaeth eu bod yn bodloni’r gofynion ac mae’n cadw’r hawl i archwilio’r wybodaeth honno.
Newid mewn amgylchiadau
21. Os bydd newid mewn amgylchiadau, mae’n bosibl na fydd prentis yn gymwys i ddilyn y brentisiaeth neu i gael cyllid gan Medr yn ystod cyfnod astudio mwyach. Mewn achos o’r fath, bydd yn rhaid i’r darparwr roi gwybod i Medr er mwyn iddo ystyried parhad y cyllid prentisiaeth.
Monitro ac adhawlio cyllid
22. Caiff y cyllid a ddyfernir ar gyfer 2026/27 ei fonitro gan ddefnyddio data recriwtio arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (HESES) 2026/27 a gesglir ar gyfer dechreuwyr newydd hyd at 1 Mawrth 2027 a dysgwyr sy’n parhau o flynyddoedd blaenorol. Caiff data HESES 2026/27 eu casglu a’u gwirio ym mis Chwefror 2027.
23. Bydd y cyllid yn seiliedig ar nifer y gwerthoedd credyd wedi’u cwblhau a gyflwynir. Gallai’r cyllid gael ei addasu tuag i lawr os bydd modiwlau heb eu cwblhau, os bydd myfyrwyr wedi tynnu’n ôl neu os bydd nifer y credydau ar gyfer y cwrs cyfan yn llai na 360 o gredydau yn sgil cydnabod dysgu blaenorol.
24. Bydd Tîm Prentisiaethau Medr yn cysylltu â sefydliadau ym mis Hydref a mis Rhagfyr 2026 i gadarnhau eu gwariant hyd yma a nodi unrhyw danwariant a ragwelir ar gyfer dychwelyd ac ailddosbarthu.
25. Caiff addasiadau cyllid eu cyfrifo tua diwedd y flwyddyn ariannol gan ddefnyddio data HESES, y bydd sefydliadau’n eu gwirio fel rhan o’r broses casglu data ar gyfer gradd-brentisiaethau. Gellir cael rhagor o wybodaeth gan Hannah Falvey, [email protected].
Amodau grant
26. Mae’r cyllid a ddyrennir gan Medr ar gael yn ddarostyngedig i’r amodau cyffredinol ar gyfer cyllid a delir gan Medr i Gorff Llywodraethu sefydliad. Nodir y rhain yn Nhelerau ac Amodau Cyllid Medr 2026/27.
Hyrwyddo gradd-brentisiaethau
27. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr hyrwyddo cyfleoedd am radd-brentisiaethau i amrywiaeth o ddysgwyr, yn enwedig dysgwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg drydyddol ac yn y gweithlu yng Nghymru yn y sectorau perthnasol.
28. Disgwylir i ddarparwyr gradd-brentisiaethau gymryd rhan yn y canlynol:
- Gweithgareddau marchnata ac ymgyrchoedd cenedlaethol Medr a Llywodraeth Cymru;
- Cystadlaethau sgiliau fel World Skills. Mae’r cystadlaethau hyn yn cynnig profiadau a heriau ychwanegol i brentisiaid a fydd yn fuddiol iddynt yn eu gyrfaoedd. Maent hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddangos cryfder sector addysg drydyddol Cymru drwy gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn WorldSkills UK (Frequently asked questions).
29. Byddwn yn cynnal prawf sgrinio asesiadau effaith er mwyn helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb. Hefyd, rydym wedi ystyried effaith polisïau ar y Gymraeg a darpariaeth Gymraeg yn y sector addysg uwch yng Nghymru, a’r effeithiau posibl ar y gallu i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gan gynnwys ein Hamcanion Llesiant. Cysylltwch ag [email protected] i gael rhagor o wybodaeth am asesiadau effaith. Darparwyr sy’n gyfrifol am adolygu eu hasesiadau effaith eu hunain mewn perthynas â gradd-brentisiaethau.
Rhagor o wybodaeth
30. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Simon Phelps a/neu Kelly Hillard ([email protected]).
Medr/2026/28: Gradd-brentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27
Dyddiad: 25 Mehefin 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/28
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Prifathrawon sefydliadau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant annibynnol
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi dyraniadau cyllid Medr i sefydliadau addysg uwch ar gyfer gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn academaidd 2026/27. Mae’r ddogfen yn rhoi arweiniad ar ofynion y cyllid a’r ffordd y caiff ei weinyddu.
Medr/2026/28 Gradd-brentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio