Newyddion
Grantiau Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil yn atgyfnerthu cymunedau ymchwil ledled Cymru
28 Sep 2026
Mae Medr a Chymdeithas Ddysgedig Cymru wedi mynd ati ar y cyd i lansio ail flwyddyn y cynllun Grantiau Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil (RCNG), sy’n helpu ymchwilwyr, gweithwyr ymchwil proffesiynol a chymunedau ymchwil i gydweithio â’i gilydd i fynd i’r afael â heriau ac atgyfnerthu diwylliant ymchwil ledled Cymru.
Mewn cydnabyddiaeth i werth y mentrau llawr gwlad hyn, buddsoddodd Medr yn y cynllun yn 2025/26 drwy Gronfa Gydweithredol Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Gronfa Gydweithredol yn rhan o Gronfa WREC ehangach, sy’n cefnogi diwylliant ymchwil drwy ddulliau a arweinir gan sefydliadau a chymunedau. Er y caiff cyfran sylweddol o gyllid WREC ei dyrannu’n uniongyrchol i sefydliadau addysg uwch er mwyn cefnogi gweithgarwch strategol ar lefel sefydliadau cyfan, mae cynllun RCNG yn cynnig dull cydategol o’r gwaelod i fyny drwy fuddsoddi mewn rhwydweithiau a arweinir gan ymchwilwyr/gweithwyr ymchwil proffesiynol.
Mae’r cynllun, sy’n cynnig grantiau gwerth hyd at £3,000, wedi galluogi rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli a rhwydweithiau sy’n datblygu ledled Cymru i fynd i’r afael â heriau a nodwyd gan eu cymunedau eu hunain, gan feithrin cydweithio, cynhwysiant ac arloesedd ar lawr gwlad. Gyda’i gilydd, gall y dulliau hyn o’r brig i lawr ac o’r gwaelod i fyny helpu i greu diwylliant ymchwil mwy cysylltiedig, cefnogol a gwydn ledled Cymru, gan sicrhau y caiff ymchwilwyr ar bob cam gyrfa eu grymuso i ffynnu, cydweithio a gwneud gwaith ymchwil o ansawdd da sy’n arwain at fuddiannau ystyrlon i gymdeithas.
Yn y flwyddyn gyntaf, rhoddwyd cyllid i 14 o rwydweithiau a oedd yn cynnwys prifysgolion, sefydliadau iechyd a chanolfannau ymchwil ledled Cymru. Caiff y prosiectau a gafodd gyllid eu harwain gan ymchwilwyr a gweithwyr ymchwil proffesiynol, gan gynnwys technegwyr a staff cymorth arbenigol, ar amrywiaeth o gamau gyrfa. Mae’r rhwydweithiau’n cynnwys ymchwilwyr gyrfa gynnar, academyddion sydd wedi ennill eu plwyf a chydweithwyr mewn gwasanaethau proffesiynol sy’n gweithio gyda’i gilydd i atgyfnerthu cymunedau ymchwil a gwella’r amgylchedd ymchwil. Mae pum prosiect yn sefydlu rhwydweithiau newydd sbon, ac mae eraill yn canolbwyntio ar dyfu cymunedau sydd eisoes yn datblygu neu gynnal mentrau sydd eisoes ar waith.
Aeth y prosiectau i’r afael ag amrywiaeth eang o heriau sy’n ymwneud â diwylliant ymchwil, gan gynnwys ynysigrwydd ymhlith ymchwilwyr, prinder amser wedi’i neilltuo ar gyfer gwaith ymchwil ac ysgrifennu, hyder a syndrom y ffugiwr, rhwystrau rhag cydweithio, a heriau sy’n wynebu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae sawl menter yn cefnogi menywod, ymchwilwyr anneuaidd a chymunedau ethnig leiafrifiedig yn benodol, ac mae eraill yn canolbwyntio ar atgyfnerthu partneriaethau traws-sector ac ymgysylltu â chymunedau.
Rydym eisoes yn gweld effaith gadarnhaol y rhwydweithiau hyn ar ymchwilwyr ym mhob rhan o’r sector yng Nghymru. Mae cyfranogwyr wedi rhoi gwybod am fwy o amlygrwydd i faterion pwysig sy’n ymwneud â diwylliant ymchwil, gwell cymorth gan gymheiriaid a chyfleoedd newydd i gydweithio. Cafodd un prosiect, sef Rhaglen Fentora Breswyl Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Rhyngwladol Abertawe (SIREN), fwy na 100 o geisiadau am ddim ond 20 o leoedd ac, ers hynny, mae wedi sicrhau cyllid sefydliadol ychwanegol i ehangu ei gweithgareddau a datblygu rhwydwaith cenedlaethol ehangach.
Mae’r rhaglen hefyd wedi cefnogi amrywiaeth o fentrau arloesol, gan gynnwys encilion ysgrifennu i academyddion benywaidd sydd â chyfrifoldebau gofalu (Write Now!), cymunedau ymarfer ar gyfer gweithwyr fferylliaeth proffesiynol, rhwydweithiau ar gyfer gweithwyr technegol proffesiynol ym maes ymchwil, a phartneriaethau sy’n canolbwyntio ar iechyd menywod, newid hinsawdd, academia’r gyfraith a gwaith ymchwil yn y sector gwirfoddol.
Mae’r gwersi cychwynnol sydd wedi cael eu dysgu o’r cynllun yn tynnu sylw at bwysigrwydd parhaus gweithgareddau ar lawr gwlad er mwyn creu amgylcheddau ymchwil cynhwysol a chefnogol. Ymhlith y themâu cyffredin y mae arweinwyr rhwydweithiau wedi eu nodi mae’r angen am fwy o fentora a chymorth gan gymheiriaid, mwy o gyfleoedd i gydweithio rhwng disgyblaethau a sefydliadau, cydnabyddiaeth i fathau amrywiol o arbenigedd, a chysylltiadau cryfach rhwng gwaith ymchwil academaidd a chymunedau ehangach.
Er bod cyllid ar gael ar gyfer 14 o brosiectau, cawsom 72 o geisiadau yn y cylch cyllido cyntaf, sy’n dangos pa mor sylweddol oedd y galw am y cynllun a’r awydd ymhlith ymchwilwyr a gweithwyr ymchwil proffesiynol i ddatblygu diwylliannau ymchwil mwy cysylltiedig, cynhwysol a gwydn ledled Cymru.
Bydd y cylch cyllido newydd, a lansiwyd ar 9 Medi, yn galluogi rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli i adeiladu ar eu cynnydd gan gefnogi cymunedau a syniadau newydd sy’n harneisio brwdfrydedd ac uchelgais y sector i greu ecosystem ymchwil gryfach ar gyfer Cymru ar yr un pryd.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio